Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price (testun cyfansawdd) - Wicidestun (2024)

BYWGRAFFIAD DR. PRICE.


Digitized by the Internet Archive

in 2010 with funding from

University of Toronto

Internet Archive Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price

BYWGRAFFIAD

Y DIWEDDAR BARCHEDIG

T. PRICE, M.A., PH.D.

ABERDAR.

GAN Y

PARCH. BENJAMIN EVANS (TELYNFAB),

GADLYS, ABERDAR.

Aberdar:

ARGRAFFWYD GAN JENKIN HOWELL, 16, COMMERCIAL PLACE.

1891.

AT Y DARLLENYDD.

WELE Fywgraffiad y diweddar Hybarch Ddr. Price wedi ei orphen. Ysgrifenwyd ef yn frysiog iawn, a hyny yn benaf am ei fod yn destyn cystadleuol yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Aberhonddu yn y flwyddyn 1889. Yr oedd yn rhaid ei orphen erbyn dyddiad neillduol yn ol rheol Pwyllgor yr Eisteddfod. Oedasom yn hir cyn dechreu ar y gorchwyl, gan yr ofnem y buasai mawredd y gwaith a phrinder amser yn gwneyd ein hymgais yn ofer. Ysgrifenasom, nid yn gymmaint er mwyn y wobr, er ei bod yn 25 gini a bathodyn aur, ag i geisio rhoddi portread cyflawn o'r gwrthddrych, a chodi iddo golofn goffadwriaethol am ei lafur diflino dros ei wlad a'i genedl yn llenyddol, cymdeithasol, moesol, a chrefyddol. Dichon y teimla rhai fod llawer o bethau wedi eu gadael allan ag y dysgwylient hwy iddynt fod i fewn; ond ymdrech. wyd casglu pobpeth i'r gwaith fuasai yn help i osod y gwrthddrych allan yn ngwir deithi ei gymmeriad.

Cawsom lawer o fwynhad wrth ysgrifenu y Bywgraffiad er caleted y llafur; ac y mae yn dda genym erbyn hyn ein bod wedi ymroddi yn egniol at y gwaith, er yn ngwyneb llawer o anfanteision. Cyflwynwn yn y modd gwresocaf ein diolchgarwch i'r brodyr anwyl a'r cyfeillion hoff a'n cynnorthwyasant, enwau y rhai a ymddangosant yn ngwahanol ranau y gyfrol, yn nghyd ag amryw ereill rhy luosog i'w henwi.

Cyhoeddwn feirniadaeth y boneddigion parchus a galluog, John Evans, Ysw., Aberhonddu; y Parchn. Ddr. J. R. Morgan (Lleurwg), Llanelli; a'r Proff. W. Edwards, Pontypwl; er i'r darllenydd gael mantais i wybod rhywbeth am deilyngdod llenyddol a bywgraffyddol y cyfansoddiad. Derbyniasom yn ddiolchgar eu nodiadau caredig, a gwnaethom ein goreu i gario allan eu hawgrymiadau, a chywiro y gwallau mor llwyr ag y medrem. Diau genym y gwel y llygadgraff ddiffygion etto yn y Bywgraffiad. Erfyniwn arno edrych heibio iddynt, a derbyn yr hyn a geir ynddo yn deilwng.

Gydag hyfrydwch mawr yr ydym yn awr yn cyflwyno y gyfrol i sylw ein cydwladwyr, yn gwbl hyderus y derbynir hi ganddynt mewn teim. lad cyffelyb, gan ddymuno ar iddi fod o fudd ac adeiladaeth iddynt, a gobeithio yn neillduol y bydd darllen hanes un a weithiodd ei ffordd mor llwyddiannus o'r fath ddinodedd trwy gynnifer o anhawsderau i safleoedd mor anrhydeddus a dylanwad mor fawr, fod yn symbyliad i gannoedd o ddynion ieuainc ei efelychu.

B. EVANS.

Gadlys, Aberdar.

"LIFE AND LABOURS OF THE LATE REV. DR. PRICE, ABERDARE."

ADJUDICATION ON THE ESSAY.

Prize given by Miss Emily Price, £26 5s. and a gold medal. Adjudicators, John Evans, Esq., Brecon; Rev. Dr. J. R. Morgan (Lleurwg), Llanelly; and Prof. W. Edwards, Pontypool.

Only one composition had been sent in. In giving the adjudication, Mr. John Evans, Brecon, said that the author had evinced great care and diligence, and he had evidently spared no effort to produce a complete Biography, and in their opinion he had been very successful. The early history, as well as the later life of the subject, had been delineated with much skill and fulness, and after a careful perusal of the huge manuscript, they adjudged the essay quite worthy of the valuable prize. There were however certain blemishes that should be removed before publication, and there were certain errors and misstatements that should be corrected. There were some paragraphs which should be modified, and in parts there was a fulsomeness that should be boiled down to a correct literary point of historic accuracy. Those blemishes the adjudicators were prepared to point out. On the whole, the essay was an admirable biography, and although it was the only composition sent in, yet, in all probability, it would take a prize among many."

—O'r "Western Mail."

CYNNWYSIAD.

PENNOD I.

HANES BOREUOL DR. PRICE.

Ei enedigaeth—Lle ei enedigaeth—Ei rieni—Ei linach—Ymweliad â'iardal enedigol—Dylanwad golygfeydd ar gymmeriad—Barn Cynddelw am hyn—Burns, Coleridge, &c.—Dechreu ei fywyd cyhoeddus—Y Cliftons—Ysgol Sabbothol Fontestyll—Ysgol Sabbothol y Cliftons—Teithio gyda'r teulu—Y Cyfandir—Rhufain—Glanau y mor—Marwolaeth ei feistr—Ymadael i Aberhonddu—Ymbrentisio—Ymroddgar i ddysgu—Ennill parch—Ymweled â'r teulu megys mab.

PENNOD II.

DECHREUAD BYWYD CREFYDDOL Y DR

Heb dueddiad crefyddol hyd ei brentisiaeth—Ysgol y Methodistiaid—Gwahoddiad i weled bedydd—Y Parch. B. Williams—Argraffiadaucyntaf ar feddwl Price—John Stuart Mill—Bedydd yn ddyeithr iPrice—Bedyddio ei fam—Ei feistr yn Wesley—Ei feistres yn Fedyddwraig—Williamsiaid Ship Street—John Evans— Dylanwad gwragedd—Ennill Price at y Bedyddwyr—Price yn y gyfeillach—Ei fedyddiad—Dygwyddiad hynod—Bedyddio pedwar pregethwr—Cymdeithasfa Lenyddol Gristionogol—Price yn dechreu llefaru yn gyhoeddus—Methu—Grym penderfyniad—Cyfarfodydd gweddio—Yn ei ardalenedigol—Anerchiadau—Arferion daionus—Dyledswydd aelodau crefyddol.

PENNOD III.

EI YMADAWIAD I LUNDAIN

Gorpheniad ei brentisiaeth—Anrheg gan ei feistr iddo—Ei onestrwydd—Cerdded i Lundain—David Jones, Caerdydd—Mathetes—Cyrhaedd y Brifddinas—Dick Whittington—Cael Gwaith—Awydd ym—berffeithio yn ei grefft—Ymuno â sefydliadau celfyddydol—Mynychullyfrgelloedd—Darllenwr mawr—Cymro pur—Ymaelodi yn Moorfields—Dechreu pregethu—Ei destyn cyntaf—Myned at y Saeson—Cael derbyniad i'r coleg—Gorchwyl diweddaf cyn myned i'r coleg—Talu yn rhanol am ei addysg—Ymhyfrydu adrodd helyntion ei fywyd—Y myfyrwyr yn ei dderbyn yn llawen.

PENNOD IV.

BYWYD ATHROFAOL Y DR.

Price mewn cylch newydd—Cyfnod pwysig—Myned i'r coleg—Dysgu—Barn Spinther am addysg—Gibbon—Syr Walter Scott—Hunanymroad—Ennill parch fel myfyriwr—Ei fywyd athrofaol, gan Dr.Roberts—Ei gydfyfyrwyr—Barddoniaeth—Ei draethodau colegawl—Manylrwydd ei lafur—Y pynciau fyfyriodd—Meddwl parod—Eiboblogrwydd fel pregethwr—Ei gydfyfyrwyr yn ddynion o nod acenw.

PENNOD V.

DECHREUAD EI WEINIDOGAETH.

Dyddordeb myfyrwyr yn eu gilydd—Y Parch. B. Evans, Hirwaun, a'iddiacon—Amgylchiadau yr alwad i Benypound—Y Dr. a Mr.Thomas Joseph—Ei urddiad–Ei hanes gan Lleurwg—Dechreu eiwaith yn egniol—Anfanteision—Yr hen weinidog—Talu y weinidogaeth—Barn Cynddelw—Dyfyniad o lythyr—Hen arferion EglwysPenypound—Y Plygain—Y Luther ieuanc—Barn y diweddar Barch.W. R. Davies, gynt Dowlais, am dano—Llythyr W. Davies, Ysw.,Kansas—Shakespeare—Dal ar y cyfleusdra—Manteision er anfanteision.

PENNOD VI.

ABERDAR FEL YR OEDD AC Y MAE.

Prydferthwch Dyffryn Aberdar—Aberdar yn bentref bychan—Aberdaryn ymddadblygu—Gweithiau glo yn cael eu hagor— Gweithfeydd haiarn—Y boblogaeth yn cynnyddu—Y gwahanol fyrddau—Adeiladau cyhoeddus at wasanaeth y dref—Y gwahanol gymdeithasau cyfeillgar—Achos crefydd yn llwyddo—Price yn cymmeryd rhanflaenllaw yn mhrif symmudiadau y dref—Dynion o fri wedi bod ynAberdar—Barn Tegai–Ei arwyddeiriau, &c.

PENNOD VII.

PARHAD ABERDAR.

Price ac Aberdar—Yn cydymddadblygu—Ymladd yn erbyn y Dreth Eglwys—Amddiffyn merched a gwragedd Cymru—Cableddau y LlyfrauGleision—Tystiolaeth anwireddus y ficer—Cyfarfod cyhoeddus i ymdrin â'r mater—Ei araeth yn y cyfarfod—Ymosod ar y Rustic Sports—Derbyn tysteb—Pryddest o glod iddo—Y ficer yn gwrthod claddu plentyn Mr. John Lewis—Areithio y tu allan i'r fynwent—Claddu y plentyn—Gorfodi y ficer i gynnal gwasanaeth boreuol yn yr Eglwys—Ymdrech o blaid addysg—Ei ysgrif yn Seren Cymru ar bwnc y ReformBill—Yn derbyn diolchgarwch Derby a Bright—Ei gyssylltiad agosâ'r glowyr a'r gweithwyr tân—Ei ysgrifau, &c.—Yn aelod o'r gwahanolfyrddau—Aberdar yn wahanol i'r hyn ydoedd ar ddyfodiad Price yno.

PENNOD VIII.

EGLWYS CALFARIA A'I CHANGENAU HYD 1866

Calfaria hyd 1866—Hanes decreuad yr Achos Bedyddiedig yn Aberdar—Adeiladu y capel cyntaf—Y gweinidogion cyntaf—Galwad Price—Ei derbyn—Yn llwyddianus—Ei briodas—Gras a Rhagluniaeth yncydweithio—Marwolaeth ei briod—Ei ymroad gyda'r gwaith—Yreglwys dan ei ofal yn llwyddo—Yn dyfod yn enwog—Ei allu i drefnua chynllunio—Ei yspryd rhyddfrydol—Eangu yr achos—Ei adroddiad o ddosparthiad y cylch—Trem 1885—Sefydlu gwahanol eglwysi—Y Bedyddwyr yn cynnyddu—Adgyfnerthion yr eglwys—UndebCristionogol—Undeb Dorcas, &c, &c.—Price yn gyfundrefnol—Caelcydweithrediad y diaconiaid—Ei gyssylltiad â'r Ysgol Sabbothol—Ei gynlluniau yn nglyn â hi—Price a Shem Davies—Price a'r ysgolganu—Evan Jones—Yn y Gadlys—Arweinwyr y canu—Y_Côr—Llechres aelodiaeth yr eglwys—Ei fanylwch—Sefyllfa Calfaria ar ben yr ugain mlynedd o'i weinidogaeth—Y Juwbili gweithio egniolwedi bod—Anhawsderau yn diflanu—Crefydd yn llwyddo.

PENNOD IX.

CALFARIA O 1866 HYD 1888

Cyfnod olaf hanes gweinidogaethol Dr. Price—Adolgu y gorphenol ynddymunol—Y Trem am waith yr eglwys—Adnewyddu y capel acadeiladu yr Hall—Ystafelloedd y diaconiaid—Y menywod—Y gweinidog—Calfaria Hall—Cyfarfodydd Agoriadol yr Hall.

PENNOD X.

Y DR. A CHANGENAU EGLWYS CALFARIA.

Y Trem a'r Jubili—Bethania, Cwmbach—Mountain Ash, dechreuad yrachos yno—Yr hen bobl—Adeiladu capel—Agoriad yn 1841—Annghydfod—Effeithio yn niweidiol ar yr achos yno—yn dechreugweithio yno—Y cerbyd wedi aros ar 11 o aelodau—Siams y garddwr a Price—Cyrddau gweddi—Price a'r chwiorydd—Paentio'r capel—Y cerbyd yn ail gychwyn—Yr ail gapel—Ei agoriad—Sefydlu diaconiaid—Ymadawiad Price a sefydliad Williams—Gwawr—Stormgynnarol—Dyfyniad o Seren Cymru—Ffrwgwd Dewi Elfed a'r saint—Lladrata y capel—Cyfraith—Gwroldeb Dr. Price Bwrw allangythreuliaid—Case for assault—Adferiad y capel—Ail agoriad—Ygweinidogion—Yr achos Saesneg—Jas Cooper—Y ganwyll yn diffodd—Ail gychwyn yr achos—Yr achos yn llwyddo—Bethel, Abernant—Yr Ynyslwyd—Mynychu cyrddau wythnosol y cangenau—Adeiladuysgoldai Bethel ac Ynyslwyd—Testyn tarawiadol—Bedyddio yn yrYnyslwyd–Ei gweinidogion–Y Gadlys—Cyw gwaelod y nyth—Sefydlu ysgol yn 1858—Adeiladu—Methu cael tir—Mynu cael cyn cysgu—Y seithfed capel—Y cangenau yn ymadael mewn heddwch—Nodion 1865 ar gofnodlyfr y Gadlys—Yr eglwysi godwyd gan Galfaria—Barn gohebydd.

PENNOD XI.

GOLWG GYFFREDINOL AR FEDYDDWYR ABERDAR A PRICE.

Golwg gyffredinol ar Fedyddwyr Aberdar—Meddylgarwch a charedigrwydd Price yn ennill iddo barch—Undeb Ysgolion—Cymmanfaoedd Ysgolion—T. ab Ieuan yn canu—Eisteddfodau Blynyddol yr Undeb—Price yn haul a bywyd y cylch—Y cangenau a'r bedydd—Dirmyguy bedydd a'r bedyddiwr—Chwedlau am Price wrth fedyddio—Egwyddorion y Bedyddwyr yn ddyogel yn ei law—Ei ddefnyddioldebcyffredinol—Cydweithio yn hwylus â'i frodyr—Ei barch atynt—Caelei barch ganddynt.

PENNOD XII.

PRICE YN EI BERTHYNAS A'R BEDYDDWYR YN Y SIR AC YN GYFFREDINOL.

Cylchoedd bychain—Dynion yn ymfoddloni ynddynt—Price yn llanwcylchoedd eang—Bedyddwyr y sir yn lluosogi—Cewri y rhengaublaenaf—Price yn un—Man of business—Elfenau ei lwyddiant—Eisefyllfa fydol—Ei wybodaeth gyfreithiol—Yn awdurdod ar ddysgyblaeth eglwysig—Cyflymdra ei feddwl—Ei yspryd anturiaethus—Deallo barthed "gweithredoedd capeli" yn dda—Arwain mewn achosionpwysig—Achos gwael—Cynnadleddwr enwog—Gwleidiadaeth yrenwad—Dawn cymmodi pleidiau—Pregethu yn aml—Price yn fawryn y gymmanfa—Undeb Bedyddwyr Cymru—Undeb Prydain Fawra'r Iwerddon—Yn y pwyllgorau—Ar lwyfanau prif drefi Lloegr—YnExeter Hall—Gohebydd Llundain—Barn y Christian World am dano.

PENNOD XIII.

EI YMWELIAD A'R IWERDDON AC AMERICA.

Ei ragfwriad i fyned—Gwahoddiadau taerion—Gwahoddiad golygyddY Seren Orllewinol—Atebiad y Dr.—Ei olygiad am y rhyfel—Ei ymweliad â'r America—Ei ragbarotoadau ar gyfer y daith—Ei ymweliadâ'r Iwerddon—Ei daith yno a'r gwaith a gyflawnodd—Dychwelydadref—Cyfarfod ymadawol yn Nghalfaria—Cychwyn—Cwrdd Lerpwl—Ar fwrdd y llong—Enghraifft o'i ddyddlyfr—Ei diriad a'i roesawiad Cwrdd Hyde Park—Hanes y daith gan y Parch. Ddr. Fred.Evans—Etto, Lewisburgh, gan L. M. Roberts, M.A., Glyn Ebbwy—Ei nodion gwasgaredig—Anerchiad croesawus Bedyddwyr CymreigDychwelyd adref—Welcome Home Aberdar—Anerchiad croesawus gan fasnachwyr y dref—Eglwys Calfaria—Y gweinidogion—Y cor canu—Ciniaw cyhoeddus i'w anrhydeddu—Parch yn ddyledus iddo.

PENNOD XIV.

Y DR. FEL GWLEIDYDDWR.

Amgylchiadau yn dangos dyn—Y "Ffwrn Dân" a'r "Ffau"—Cynffonia bradychu yn y cylch gwleidyddol—Y Dr. yn egwyddorol—Y Dr.a'r Dreth Eglwys—Yn gefnogwr Cymdeithas Rhyddhad Crefydd–Yn allu mawr mewn brwydrau etholiadol—Areithiodd ac ysgrifenoddlawer ar wleidyddiaeth—Ymosodiadau llechwraidd arno—Y Dr. aH A. Bruce, Ysw.—Y Tugel—Pryddest i'r Dr.—Etholiad Merthyrac Aberdar yn 1869—Barn Baner ac Amserau Cymru am dano—Y Dr.yn cael ei gablu—Yn amddiffyn ei hun—Y Dr. yn ymgeisydd Seneddol Aberhonddu—Ei anerchiad—Barn Cefni a Kilsby Jones amdani—Y Dr. yn encilio ar ol gwasanaeth mawr i Ymneillduaeth—Cyfarfod Cyhoeddus yn Aberhonddu—Tysteb ac Anerchiad yn caeleu cyflwyno iddo.

PENNOD XV.

Y DR. FEL CYMDEITHASWR.

Cymdeithasau yn hawlio sylw a chefnogaeth—Y Dr. yn gymdeithaswrdi-ail—Odydd, Ifor. Alffrediad, a Choedwigwr—Llafurio yn helaethach gydag Odyddiaeth ac Iforiaeth—Yn deall peirianwaith y cyfundebau dyngarol—Ei wybodaeth a'i brofiad o werth mawr i'r cymdeithasau—Yn ysgrifenu ac yn darlithio o'u plaid—Yn llenwi swyddipwysig—Y Dr. a Romeo ar giniaw—Yn is-lywydd yr Odyddion—Ynuwch lywydd—Y Cymro cyntaf ga'dd yr anrhydedd—Cyflwyno ffoniddo—Gwledd iddo yn Ngwrecsam—Anerchiad etto—Ciniaw i'wanrhydeddu yn Abertawe—Anerchiad etto—Anrhydeddau gan wahanol gyfrinfaoedd—Cyflwyno saf addurnen ac anerchiad iddo ganOdyddion Cymru—Ei lafur gyda'r Iforiaid—Iforiaeth mewn perygl—Yn gweithio o'i phlaid——Adfer ei meddiannau—Cofrestru y rheolau—Uwch-lywydd yr Undeb Iforaidd ddwy flynedd yn olynol—Anerchiad a thysteb Iforaidd—Tysteb arall—Englynion iddo—Gwerthfawrgyda'r cymdeithasau—Penderfyniadau o gydymdeimlad, &c.

PENNOD XVI.

Y LLENOR, Y DARLITHIWR, A'R PREGETHWR.

Y Llenor, Darlithiwr a'r Pregethwr—Y Dr.fel Saul yn mhlith y proffwydi Yn rhagori mewn amryw bethau—Ei ddiwydrwydd a'i benderfyniad—Rhestr o ysgrifau y Dr. Ei gyssylltiad â'r Wasg—Ei ysgrifau yn 1864—Ei Nodion Gwasgarog—Mawredd ei waith llenyddol— Wedi ysgrifenu yn helaeth fel golygydd—Cynnorthwyo ei gydgenedl—Enghraifft—Ei gydlenorion—Darlithiwr poblogaidd—Gwahanol farnau am y ddarlith—Darlithwyr enwog—Y Dr. ar y blaen—Gystal darlithiwr a phregethwr—Gwella i bregethu—Defnyddio darlunleni—Ffraeth—Ei bynciau—Cynnwysdremau—"George Muller a'r amddifaid"—"War in the East "—America—Darlithio yn Saesneg fel y Gymraeg—Barn am dano fel darlithiwr—Chwedlau digrif— Hyspysiad—Talu £4,000 o ddyledion capeli trwy ei ddarlithiau—Yn boblogaidd fel pregethwr pan yn ieuanc—Er nid yn un o'r pregethwyr mwyaf, etto yn boblogaidd—Pregethwr syml—Y telegraph–Ei nerth yn yr hanesyddol—Cymmeriadau Beiblaidd—Dammegion—Pregethu cyfres o bregethau yn fynych—Y Beibl yn enghraifft Rhai o'i sylwadau doniol—Ei ofal am ei bregethau.

PENNOD XVII.

EI DDYDD LYFRAU.

Arrangement—Platt—Gofal am y pethau lleiaf—Irving a Wellington—Y bancer a'r hatlingau—Adeg dechreuad ei gofresau—Note—Enghraifft o'i ddyddlyfr—Ei daith yn Siroedd Caerfyrddin a Phenfro—Cyfeiriad Myfyr Emlyn—Cyfansymiau ei ymrwymiadau blynyddol a'i nodion—1857—1863—1864—1867—1870—1873–1874– Afiechyd y Dr.—36 o Sabbothau heb bregethu—Nodiad eglurhaol—1880—Bedyddio dau fyfyriwr o Drefecca—Diwedd yr ail lyfr—Cyfres pregethau y plant—Eu pynciau—Y Nadolig cyntaf gartref am 35 mlynedd—Dyddiad olaf ei gronicliad—Y geiriau olaf ar y cofnodlyfr—Olion cryndod ei law yn ei ysgrifen yn y blynyddau 1885 ac 1886—Manylder a threfnusrwydd yn deilwng o efelychiad.

PENNOD XVIII.

EI FFRAETH-EIRIAU.

Naturiol ffraeth—Myned yn mhell, etto o fewn terfynau—Myfyr Emlynar ei ffraethineb—Gwaith angylion—Myfyr etto—Pregeth y Corn Bach—Levi Thomas—T. ab Ieuan—Rustic Sports yr Ynys—Y Dr. aSpurgeon.

PENNOD XIX.

NODIADAU AR Y DOCTOR.

Gan y Parchn. W. Harris—Dl. Davies—W. Williams, Rhos—J. George—Y diweddar Rufus Williams—Y diweddar J. Morgan, Cwmbach—Dr. Thomas, L'erpwl—W. Morris, Treorci—Mynegiad Coleg Pontypwl—Proffeswr Edwards—Dr. Todd—R. E. Williams (Twrfab),Ynyslwyd—Mr. D. R. Lewis, Aberdar.

PENNOD XX.

FEL DYN, CRISTION, A BUGAIL.

Y dyn—Edrych arno o wahanol gyfeiriadau—Wedi ymddadblygu—Ydderwen—Price yn ei gyflawn faintioli—Ei ddyn oddiallan—Darluniadau Myfyr a Lleurwg o hono—Dyn caredig—Evan Thomas,Casnewydd—Ei farn—Dyngarwr—Cholera 1849—Cydymdeimlo â'rtrallodus—Police Court—Barn Rhys Hopkin Rhys—Tynu sylw ynmhob man—Ei ddiffygion i'w hannghofio—Dyn cyflawn a thrwyadl—Cristion trwyadl—Dylanwad Yspryd Duw ar ei galon—Anhunangar, gostyngedig, a dirodres—Barn Dr. Morgan arno fel Cristion—Bugail diwyd, llafurus, a thyner—Llawn cydymdeimlad—Sylw neillduol i'w bobl—Dysgu business habits i'w eglwys—Gofalus am y pwlpud—Caredig i'r gweddwon—Er mor fawr a gofalus, suddo yn yr angeufel haul Mehefin—Ei lewyrchiadau yn aros ar ol—Claddedigaethdywysogaidd—Trefniadau—Mynegiad o'r angladd o Seren Cymru—Ei bregeth angladdol—Argraff addas ar ei gofadael.

PENNOD XXI.

ENGHREIFFTIAU O'I AREITHIAU.

Araeth yn Nghyfarfod Blynyddol Cymdeithas Traethodau y Bedyddwyr—Araeth yn Exeter Hall—Araeth ar y Genadaeth Dramor—Araethwleidyddol yn Aberhonddu.

PENNOD XXII.

ENGHREIFFTIAU O'I BREGETHAU.

Y Tabernacl—Y Corn Bychan—Geiriau Crist—Joseph—Angladd Jacob.

BYWGRAFFIAD

Y

PARCH. T. PRICE, M.A., PH.D.

PENNOD I.

EI HANES BOREUOL.

Ei enedigaeth Lle ei enedigaeth—Ei rieni—Ei linach—Ymweliad ag ardal ei enedigaeth Dylanwad golygfeydd, &c., ar gymmeriad Barn Cynddelw—Enghreifftiau: Burns, Coleridge, &c. Dechreu ei fywyd cyhoeddus—Y Cliftons—Ysgol Sabbothol Pontestyll—Ysgol Sabbothol y Cliftons—Teithio gyda'r teulu Y Cyfandir—Rhufain—Glanau y môr—Marwolaeth ei feistr—Ymadael i Aberhonddu—Ymbrentisio—Ymroddgar i ddysgu—Ennill parch—Ymweled a'r teulu megys mab.

GANWYD y diweddar Hybarch Thomas Price, M.A., Ph.D., Aberdar, mewn lle or enw Maesycwper, yn agos i bentref bychan Ysgethrog yn Mhlwyf Llanamlwch, neu, fel y gelwir ef gan rai, Llanammwlch, yr hwn sydd yn gorwedd yn nyffryn prydferth a ffrwythlon yr Wysg tua thair milldir islaw Tref Aberhonddu, ar yr 17eg o Ebrill, yn y flwyddyn 1820. Ei rieni oeddynt John a Mary Price (Prys). Ganwyd iddynt chwech o blant, sef John, Thomas, Ann, Alice, Mary, a Sarah. Thomas a Sarah oeddynt y ddau ieuangaf. Ganwyd John, ei dad, yn Mherthybala, yn ymyl Tref Aberhonddu. Nid oedd ei rieni ond pobl gyffredin yn eu hamgylchiadau, ond yn ddiwyd a gonest. Nid oedd dim yn wahanol ynddynt i'r lluaws tadau a mamau oeddynt, fel hwythau, yn ymdrechu dwyn eu teuluoedd i fyny goreu y medrent yn ngwyneb llawer o anfanteision; ac oni fuasai eu cyssylltiad â'u mab, nid yw yn debyg y buasai neb yn gwybod eu henwau y tu allan i gylch cyfyng eu cymmydogaeth. Y mae yn ffaith nodedig fod y nifer lluosocaf o'r dynion mwyaf galluog ac enwog mewn gwahanol foddau wedi codi or lleoedd annhebycaf, ac yn fynych o'r teuluoedd mwyaf dinod. Gweithiai John Price fel llafurwr, a bu am un-ar-bymtheg-a-deugain o flynyddoedd yn ngwasanaeth y Williamsiaid or Manest Court. Cafodd ei wneyd yn farm bailiff iddynt, ac mewn oedran teg bu farw yn eu gwasanaeth yn wir barchus fel gwas diwyd a gonest.

Eglwyswyr oeddynt rieni Thomas Price. Nid oedd yr adeg hono un capel, nac ysgoldy, nac ysgol ddyddiol, ynperthyn i'r Annghydffurfwyr yn y plwyf. Felly, yn ystod blynyddau boreuol Price, yn neillduol yn ei ardal enedigol ef, yr oedd manteision addysg yn isel a phrin, er y dywedir iddo gael ychydig addysg elfenol gan hen wreigen a gadwai ysgol ddyddiol yn Mhentref Pengelli. Yn ddiweddar ymwelodd yr ysgrifenydd ag ardal enedigol y Dr., a chafodd hyd i hen foneddiges barchus or enw Elizabeth Davies, Villia, yn Mhentref Llanamlwch, yr hon oedd dros 78 mlwydd oed, wedi byw yn y pentref hwn dros 65 mlynedd, ac felly, adwaenwn (meddai hi) yn dda rieni Thomas Price, pan oeddynt yn ddynion ieuainc. Pobl barchus iawn oedd John a Mary. Yr oeddynt yn Eglwyswyr selog, a gweithiasant yn ddiwyd i godi eu teulu. Buont yn byw yn Mhentref Llechfaen, ac yn hir iawn yn y Cwrt. Cyfeiriodd yr ysgrifenydd at y Cwrt, yr hwn oedd ychydig y tu hwnt i Bentref Llanamlwch, ar Ffordd y Fenni. Nid oedd i'w weled ond olion dau hen dy bychan mewn culffordd oedd yn arwain dros y bryniau i Dalyllyn, â'r gerddi y tu cefn yn ffinio â chae y Manest Farm, yr hwn a ddelir yn bresenol gan Mr. David Jones, New Inn.

Teimlasom ddyddordeb mawr pan yn edrych ar yr hen adfeilion, wrth feddwl am yr enaid mawr a'r yspryd byw, nerthol, a rhagorol fu yn preswylio yn y lle dinod hwnw; ac er nad oedd yr ysmotyn yn cael sylw y cymmydogion ar gyfrif eu dyeithrwch i'r Doctor enwog gafodd ei godi yno, teimlwn fod argraff annileadwy wedi ei gwneyd ar ein meddwl, ac y mae y lle a'r gymmydogaeth wedi dyfod yn gyssegredig i'n teimlad ac yn anwyl gan ein calon. Credai Mrs. Davies fod Tom Price, fel y galwai hi ef (ac am hyn gwnaeth ymddiheuriad), wedi bod pan yn ieuanc iawn dan ofal un athraw o'r enw Davies, yr hwn a gadwai ysgol mewn hen ysgubor yn y pentref, ac a oedd hefyd yn dollydd (exciseman) ac yn ysgolhaig gwych. Yr oedd y tollydd, ychwanegai yr hen foneddiges yn hyfforddus a charedig neillduol, a thynai y plant a'r bechgyn ieuainc ar ei ol yn lluosog; ond nid oes sicrwydd gyda golwg ar hyn, oblegyd ni chrybwyllai y Dr. byth am hyny pan yn son am ddyddiau ei faboed. Cwynai yn fynych am ei anfanteision boreuol i gael addysg ac i gyrhaedd gwybodaeth; arferai ddweyd fod hyny wedi bod yn anfanteisiol iddo drwy ei oes, er mor ddysglaer y bu.

Treuliodd Thomas Price ei ddyddiau bachgenaidd yn ei fro a'i ardal enedigol, sef dyffryn prydferth a ffrwythlawn yr Wysg. Ac fel y dywed gwyddonwyr wrthym, mae dau allu cryf ar waith yn ffurfiad cymmeriad a nodwedd pob person unigol, sef rhienyddiaeth, golygfeydd allanol, ac amgylchedd. Y mae dylanwad golygfeydd allanol, yn mhlith y rhai y treulir dyddiau boreuol, yn gryfach ar y meddwl nag y tybir yn fynych. Y meddwl yw sylfaen y cymmeriad, ac fel y mae y meddwl yn cael ei feithrin, y mae y cymmeriad yn araf, ond etto yn sicr, yn cael ei ffurfio, ac y mae gan argraffiadau allanol y dylanwad mwyaf ar y rhan foreuol o'r bywyd. Dywed y Parch. J. Spinther James, A.C., yn ei draethawd bywgraffyddol galluog i'r anfarwol Cynddelw, am hyn fel y canlyn:"Credai Čynddelw yr athrawiaeth hon, ac ystyriai ei hun yn ddysgybl Mynydd Berwyn, a gwelir yn y dysgybl debygolrwydd neillduol i'w athraw, mewn cryfder, amrywiaeth, ac agwedd wasgaredig." Dichon mai y rheswm am fod caniadau y bardd Albanaidd, Robert Burns mor llawn o ansoddebau a desgrifiadau bugeiliol yw, iddo fod yn blentyn natur. Y fodd y meddylddrychau ar fryniau rhamantus ac yn nyffrynoedd prydferthion ei wlad. Gwelir hefyd yr un dylanwad ar gymmeriadau y tri wyr enwog, Coleridge, Wordsworth, a Southey. Dygwyd hwy i fyny yn mhlith prydferthion natur, ac y maent, fel plant natur, wedi rhagori mewn naturioldeb a phrydferthwch eu cymmeriadau a u cynnyrchion dihafal. Fel y cyferbyna rhai haneswyr fel hyn sefyllfan genedigaeth rhai dynion o enwogrwydd â bywyd neu gymmeriad can- lyniadol y cyfryw, felly, gyda phriodoldeb arbenig, y gallwn ninau ar y naill law gyferbynu brasder tir dyffryn prydferth a rhadlonrwydd a chyflawnder afon fawr yr Wysg i haelionusrwydd calon gariadlawn a chymmeriad haelionus y bachgen gruddgoch a gafodd enedigaeth a chodiad ar ei glanau; ac ar y llaw arall amrywiaeth golygfeydd a ffrwythlondeb neillduol yr ardal hon, yn nghyd â mawrfrydigrwydd y Banau (mynyddau uchaf y Dehau), y rhai a ymylant ydyffryn hwn, yn arddangosiad o amrywiaeth cynnyrchiondoniau ein pregethwr, ein dysgawdwr, ein darlithiwr, einhawdwr, a'n golygydd diguro, y Parch. Thomas Price.Dechreuodd ei "fywyd cyhoeddus," fel y galwai y Dr.ef mewn amaethdy or enw Greenway, oedd yn agos i Bontestyll, yn ngwasanaeth amaethwr parchus or enw Parry.Cyflogid ef fel gwas bach i yru ceffylau i aredig, &c. Nidoedd y pryd hwnw ond braidd tair-ar-ddeg oed, ond ni fuyn hir yn y " sefyllfa gyhoeddus 'hon: tynodd sylw teulucyfrifol ac uchel o'r enw Clifton oedd yn y Ty Mawr, Llanfrynach, ac felly, cafodd ei ddyrchafu i fod yn wesyn (page)bach i weinyddu ar y boneddigesau yn y teulu hwn. Cafodd yr hyfrydwch y pryd hwnw o deithio llawer gyda'rteulu. Dyfyrus dros ben oedd ei glywed yn adrodd yramgylchiadau hyn. Gwnai hyny yn ei ffordd ddoniol anaturiol ei hun hyd y collai ddagrau gan lawenydd a diolchgarwch am y gofal a'r tynerwch a dderbyniasai yn neillduolgan y boneddigesau ieuainc, y Misses Clifton.Tra yn Mherthybala yr oedd yn cyrchu i'r Ysgol Sabbothol yn Mhontestyll, lle y dysgodd ddarllen Cymraegdrwy offerynoliaeth "Charles y Gof," sef y brawd CharlesThomas, yr hwn oedd yn weithiwr diwyd a chysson gyda'rachos da yn y lle hwnw, a thra yn nheulu y Cliftons dysgodd ddarllen Saesneg. Yr oedd y boneddigesau ieuainc ynrhai tra rhinweddol ac yn ymhyfrydu mewn gwneuthurdaioni. Cadwent Ysgol Sabbothol yn eu teulu eu hunain;teimlent ddyddordeb mawr yn eu gwesyn ieuanc, TomPrice; ac yr oeddynt am feithrin a thynu allan y talentaudysglaer a gredent fod yn y llanc tyner a charedig; felly,rhoddent iddo wersi dyddiol mewn darllen, ysgrifenu, arhifyddiaeth, nes iddo yn y diwedd ddyfod yn dipyn oathraw ei hun. Fel hyn y gosodwyd sylfeini llydain achedyrn bywyd defnyddiol a gwerthfawr y Dr. i lawr.

Gallwn ddychymygu am dano erbyn hyn yn fachgenyntra thlws, ei wyneb crwn, gwridgoch, yn ddengar neillduol,a'i gorffyn bach wedi ei wisgo yn lifrai y teulu, a'r boneddigesau yn dra hoff o hono, yn cribo ei wallt du, modrwyog,ac yn gwrteithio ei feddwl bachgenaidd a bywiog, yn ddigondiarwybod iddo ei hun, ac heb fawr meddwl o'u tu hwythauam y ddarpariaeth tuag at y defnyddioldeb mawr y buontyn offerynol i'w hwylusu ar y pryd hwnw.

Tra yn ngwasanaeth y teulu hwn cafodd fyned i'r Cyfandir. Bu gyda'i feistr ieuanc am dro yn Rhufain, ond ychydig iawn gofiai am y "ddinas dragwyddol." Adroddai am y teithiau hyn wrth ei hen gyfaill, Jenkin Howell, Aberdar, pan gyda'u gilydd yn treulio prydnawn ar greigiau ysgythrog y Mumbles. Cafodd Price fyned gyda'r teulu un tro i lanau y môr tua'r Mumbles ger Abertawy, ac yn y ty lle yr oeddynt yn aros yr oedd hen argraffiad mawr a darluniadol o Daith y Peverin. Tynodd y llyfr hwn ei sylw ef, a darllenodd yntau ef gyda blas a melusder anarferol, trwy yr hyn y daeth i ddechreu teimlo awydd darllen a meddwl ychydig drosto ei hun. Pwy all ddweyd pa nifer o filoedd y mae y dychymyg rhyfeddol hwnw wedi bod yn foddion i roddi y cyffroad cyntaf i'w meddyliau?

Yn ystod y blynyddau y bu Price yn nheulu y Cliftons, sicrhaodd barch a theimlad da y rhai oeddynt fel yntau yn ngwasanaeth y teulu. Hoffai, yn mhen blynyddau wedi ymsefydlu yn y weinidogaeth, gyfarfod â hwynt, a theimlai ddyddordeb mawr mewn adrodd helyntion yr hen amseroedd pan oeddynt gyda'u gilydd. Cyfarfyddai yn achlysurol â Mr. Joseph Bryant, yr hwn oedd yn goachman gyda'r Cliftons yr amser yr oedd efe yn wesyn yn y teulu, ac ysgydwent ddwylaw yn wresog rhyfeddol o bob tu, gan arddangos y dyddordeb mwyaf yn eu gilydd a'r parch dyfnaf y naill at y llall. Clywodd y Dr. unwaith fod yr hen fwtler oedd yn y Ty Mawr, yr hwn a alwai yn Joe Bromwich, yn byw yn Aberhonddu. Y cyfle cyntaf a gafodd i fyned i'r dref, gwelid ef yn ymholi yn daer ac yn chwilio yn fanwl am Joe, gan fyned o heol i heol ac o ddrws i ddrws nes o'r diwedd yn cael clywed ei fod wedi myned o'r dref i fyw yn herwydd tlodi. Teimlai y Dr. ddyddordeb mawr yn yr hen fwtler, oblegyd i ddysgyblaeth dadol, ond llem, yr hwn y dywedai ei fod mewn dyled fawr. Er nad oedd ond dyn hollol annuwiol, yr oedd ynddo y fath onestrwydd a pharch i wirionedd a dynoliaeth, fel y bu yn athraw gwerthfawr iddo. Yn ffodus, cyfarfu â r hen gyfaill yn y dref dranoeth, a phrydferth iawn oedd gweled y dagrau yn llygaid y naill a'r llall o honynt wrth gofio y cyflwr gynt a'r cyfnewidiadau mawrion oeddynt yn nghyflwr a sefyllfa pob un yn awr. Yr oedd yr hen fwtler yn falch iawn i weled Tom bach wedi myned yn Ddoctor mawr.

Yn ystod yr amser yr oedd Price yn ngwasanaeth y Cliftons bu ei feistr farw o'r ddarfodedigaeth. Hyn, mae yn debyg, fu yn achlysur iddo ymadael â'r teulu. Symmudodd i Dref Aberhonddu, lle yr ymrwymodd yn brentis gydag un o'r enw Thomas Watkins o'r Struet, yn baentiwr, gwydrwr, a phlymiwr. Pan yn nheulu parchus y Ty Mawr darfu i'r bachgen gofalus a chynnil, Tom, er nad oedd ei gyflog ond bechan, trwy ei chadw a chael ambell anrheg, gasglu yn nghyd y swm o £21, yr hon a dalodd am ei brentisiaeth i'w feistr Watkins. Dengys hyn pa beth all bechgyn ei wneyd drwy gynnildeb a gofal. Yn ystod tymhor ei brentisiaeth roddodd i ddysgu ei grefft gyda'r egni a'r diwydrwydd mwyaf; ac nid hir y bu cyn profi fod ynddo alluoedd y tu hwnt i'r cyffredin i ddysgu a meddiannu gwybodaeth o'i alwedigaeth. Yn fuan hefyd daeth yn ffafrddyn gan y teulu a'i gydweithwyr, ac ennillai barch ac edmygedd pawb y deuai i gyssylltiad â hwy.

Arferai y Dr. alw gyda'i hen feistr pan yn myned i Dref Aberhonddu, a golygfa angylaidd a thra dymunol oedd gweled ei hen feistres yn estyn cusan iddo fel mam dyner i'w mab gofalus a ffyddlawn, a'r hen feistr yn gafaelyd yn llaw y bachgen â'i ddwylaw, gan grechwenu wrth weled y paentiwr a'r gwydrwr wedi myned yn enwog. Yr oedd hyn yn brawf da hefyd fod Thomas Price wedi bod yn was da ac yn ffyddlawn yn ei wasanaeth.

PENNOD II.

DECHREUAD EI FYWYD CREFYDDOL.

Heb dueddiad crefyddol hyd ei brentisiaeth—Ysgol y Methodistiaid—Gwahoddiad i weled bedydd—Y Parch. B. Williams—Argraffiadau cyntaf ar feddwl Price—John Stuart Mill—Bedydd yn ddieithr i Price—Bedyddio ei fam—Ei feistr yn Wesley—Ei feistres yn Fedyddwraig—Williamsiaid Ship Street—John Evans—Dylanwad gwragedd—Ennill Price at y Bedyddwyr—Price yn y gyfeillach—Ei fedyddiad—Dygwyddiad hynod—Bedyddio pedwar pregethwr Cymdeithasfa Lenyddol Gristionogol—Price yn dechreu llefaru yn gyhoeddus—Methu—Grym penderfydiad—Cyfarfodydd gweddio—Yn ei ardal enedigol Anerchiadau—Arferion daionus—Dyledswydd aelodau crefyddol.


HYD amser ei brentisiaeth, mae yn debyg nad oedd Thomas Price wedi dadblygu un tueddiad i geisio crefydd, er ei fod yn ymhyfrydu mewn darllen a mynychu yr Ysgol Sabbothol. I ysgol y Methodistiaid yr oedd yn myned yn amser cyntaf ei brentisiaeth; ond ar ryw dro, cafodd wahoddiad gan gyfaill iddo ag oedd yn aelod yn Mhorthydwr, i fyned i weled yr ordinhad o fedydd yn cael ei gweinyddu yn Maesyberllan. Y cyfaill hwnw oedd Mr. James Williams, Cashier, gynt o Gwmdar, yn awr o Taylorstown, yr hwn sydd yn aelod ffyddlawn a diacon parchus yn eglwys y Bedyddwyr yn Mhontygwaith. Sylwer pa galyniadau dymunol sydd yn tarddu o wahoddiadau caredig i weled a chlywed yr hyn sydd dda. Cydsyniodd Price, ac aethant gyda'u gilydd heb fawr o feddwl ganddo ef am gael ei ddal gan yr olygfa. Y Parch. B. Williams oedd yn gweinidogaethu yr adeg hono yn Maesyberllan, ac efe oedd yn pregethu yno y diwrnod hwnw. Yr oedd y dyrfa mor fawr fel mai ofer oedd meddwl am ei chynnwys yn yr addoldy. Yma," meddai y Dr., pan yn adrodd yr hanes gyda theimladau dwys, "safai Mr. Williams dan yr ywen a ymgangenai yn llydan dros y fynwent, a'i destyn oedd, 'Y gwyliedydd, beth am y nos?" Gall y rhai a glywsant Mr. Williams ar ei uchel fanau ddychymygu yn dra hawdd pa brydferthwch ysprydol lewyrchai arei wynebpryd hardd, y modd nerthol y dyrchafai ei laisseingar fel udgorn Brenin Seion, fel y llifeiriai geiriaugwirionedd Duw dros ei wefusau, yn enwedig yn amserdiwygiad mawr Maesyberllan, fel y fflamiai argyhoeddiadaumegys o bob brawddeg i galonau ugeiniau o bechaduriaid.Nid oedd Thomas Price yn meddwl am ddim ar y dechreuond cael dyfyrwch gyda y bedydd, a gwneyd gwawd o'rbedyddedigion; ond fel yr oedd doniau y pregethwr yngwresogi, ac yn cryfhau fel llifeiriant dyfroedd cryfion,collodd Thomas ei draed odditano, ac fel y dywedai Thos.Williams, Blaenybrynach, “mi a'i gwelwn yn mynedgyda'r llifeiriant, y galon yn cael ei thoddi, a'r llygaid ynllawn o ddagrau." Dyna yr argraffidau crefyddol cyntafar feddwl Thomas bach. Addefai John Stuart Mill iddoyntau un adeg deimlo cynhyrfiadau a chymhellion cryfioni ymaflyd mewn crefydd, ond esgeulusodd ei hun yr adeghono. Ni wreiddiodd yr had da ynddo am iddo gael craigyn lle daear. Gall dyn dderbyn yr had goreu a gadael iddobydru. Dichon dderbyn y dylanwadau mwyaf maethlon, acetto fod yn amddifiad o ffrwythau bywyd sanctaidd. Nidfelly y bu yn hanes gwrthddrych ein cofiant. Cadwodd yrargraffiadau cyntaf yn fyw yn ei galon, a meithrinodd eideimladau crefyddol nes cael ei fywhau yn ysprydol ganddynt.

Hyd yma, yr oedd Bedydd a'r Bedyddwyr i raddaumawr yn ddyeithr iddo, oblegyd, fel y nodasom, nid oeddei rieni mewn cydymdeimlad â'r Bedyddwyr, gan maiEglwyswyr oeddynt, a dyna ydoedd teulu parchus yCliftons. Wedi claddu ei dad, daeth ei fam at y Bedyddwyr, a chafodd ei bedyddio ar broffes gyhoeddus o'i ffyddyn y Gwaredwr pan oedd tua 60 oed, yn Llanfrynach, gany diweddar Barch. J. Jerman, yr hwn fu yn weinidog amflynyddau yn Eglwys y Deri, Morganwg. Yr oedd eifeistr, Mr. Thomas Watkins, o'r Struet, yn aelod ffyddlawna selog, mae yn debyg, gyda y Wesleyaid yn y dref, ac ynewyllysio i Tom Price, yn o gystal ag ereill o'i weithwyr,fyned gydag ef at y Wesleyaid ar y Sabbothau; ond yroedd ei feistres, Mrs. Watkins, yn Fedyddwraig egwyddorol a selog: yr oedd yn aelod ffyddlawn a dichlynaidd ynMhorthydwr. Arferai Mrs. Watkins alw yn fynych ynnhy James Williams, grocer, Ship Street, sef tad Mr. JamesWilliams, Tylorstown, y crybwyllasom am dano yn flaenorol. Yr oedd Mrs. Watkins a Mrs. Williams o'r Shop yngyfeillesau trwyadl, a theimlent ddyddordeb neillduol ynllwyddiant yr achos yn Mhorthydwr. Yr oedd y Williamsiaid yn ddiarebol am eu llettygarwch i weinidogion y Bedyddwyr, ac yno y byddent bob amser yn cartrefu pan yn ymweled â'r dref.Arferai Thomas Price fynychu y tŷhwn hefyd, at y meibion, a derbyniai bob sirioldeb acharedigrwydd ganddynt. Hefyd, yr oedd dyn ieuancparchus arall yn y dref yn arfer llawer â'r Williamsiaid, achefyd yn gwneyd cyfeillach â Price, o'r enw John Evans,yr hwn, wedi hyny, a gyrhaeddodd sefyllfa anrhydeddusyn y dref fel cyfreithiwr llwyddiannus, ac am yr hwn ycawn ddweyd gair etto yn mhellach yn mlaen.

Yr oedd Price yn awr yn codi yn fachgen ieuanc bywioga phrydferth, ac yn addawol o ddyfodol dysglaer fel paentiwr hyfedr, ac fel y cyfryw, ofnai ei feistres iddo fynedyn rhydd a digrefydd, ac nid oedd hefyd yn teimlo ynddedwydd nad allai lwyddo i'w gael gyda hi i fynychuyr Ysgol Sabbothol a'r cyfarfodydd yn Mhorthydwr. Yroedd Mrs. Watkins yn berchen ar gynneddfau meddyliolcryfion, ac yr oedd yn hynod o benderfynol. Un diwrnod,dywedodd wrth y dyn ieuanc John Evans y carai yn fawrweled Tom yn dyfod gyda hi i Ysgol Sabbothol Porthydwr, a gofynodd iddo wneyd ei oreu i'w gael i ddyfod,"oblegyd," meddai, "yr wyf yn credu yn ddiysgog, os yceisiwch chwi, y gellwch lwyddo." "O'r goreu, meddaiEvans, "ymdrechaf," a llwyddodd yn ei ymdrech. DaethPrice i'r Ysgol a'r cyfarfodydd—at y Bedyddwyr, ac nidhir y bu cyn dangos awydd i ymaelodi gyda'r cyfenwad ygwnaeth gymmaint o waith iddo a throsto yn ystod eifywyd gwerthfawr.

Gwelwn yma beth a allai gwragedd da ei wneyd drwyymdrechion egwyddorol a phenderfynol, nid yn unig iddwyn plant eu hunain at achos Mab Duw, ond hefyd eugweision a'u morwynion, eu hadnabyddion a'u cymmydogion. Yr oedd y foneddiges hon wedi penderfynu gwneydBedyddiwr o Price, a'i gael, os gallai mewn unrhyw fodd,at y Gwaredwr, a choronwyd ei sêl a'i phenderfyniad clodus yn fendigedig, drwy iddi yn rhanol fod yn gyfrwng iddwyn y Dr. enwog at y Ceidwad yn ei ddyddiau boreuol.Fel yr awgrymasom, nid hir wedi dyfod i fynychu CapelPorthydwr, y bu cyn myned i'r gyfeillach grefyddol, wedipenderfynu dylyn Crist yn y Bedydd, yn ol y dull apostolaidd, fel yr arferai ddweyd yn fynych pan yn gweinydduyr ordinhad ei hunan yn ystod ei weinidogaeth. Nid oeddbedyddio wedi bod yn y dref yn flaenorol er ys dwy flynedd. Yr oedd chwant mawr ar Thomas Price i gael eifedyddio yn yr afon, eithr y penderfyniad oedd i fedyddioyn y bedyddfan yn y capel. Yr oedd y gweinidog ychydigyn erbyn bedyddio yn yr afon, a theimlai y prif ddiacon,Mr. Phillips, yn selog dros weinyddu yr ordinhad yn ybedyddfan, yn gymmaint ag fod yr eglwys wedi myned i'rdraul o'i darparu. Yr oedd pump i'w bedyddio yr adeghono, sef pedwar o frodyr ieuainc, ac un chwaer. Dangosaiy brodyr o hyd awydd cryf i gael eu trochi yn yr Wysg, adadleuent am gael hyny o fraint. Teimlai yr hen ddiaconparchus fod Thomas Price a'i gyfoedion yn cymmeryd gormod hyfdra arnynt fel hen frodyr, a rhoddodd anerchiadllym iddynt ar eu dyledswydd i ymostwng i'w blaenoriaid,ac ychwanegai ei fod yn ofni eu bod yn ofergoelus. Gobeithiai nad oeddynt yn credu fod rhinwedd neillduol ynnyfroedd yr Wysg. Gwyddai fod yr Indiaid yn credu yngryf fod rhinwedd mawr yn afon y Ganges, ac ofnai eu bodhwythau yn debyg iddynt. Gyda golwg am eu barn amyr Wysg, dywedai y bachgen Price nad oeddynt fel yrIndiaid, "ac nid ydym," meddai, yn hygoelus gydagolwg ar rinwedd yr Wysg, ond yno y teimlaf y carwn gaelfy medyddio." Daeth y dydd a'r adeg i gladdu y pumpymgeisydd yn y Bedydd, a pharotowyd gan yr eglwys i'rordinhad gael ei gweinyddu yn y bedyddfan; ond cyn disgyn o'r gweinyddwr iddo, deallwyd fod ynddo ormod oddwfr i'r bobl ieuainc oeddynt i'w bedyddio, a chododd yrhen ddiacon soniedig yr ystopell (plug) i fyny, er gollwngychydig o'r dwfr allan, ac er ei fawr syndod, methodd eiail-osod, oblegyd yn ddamweiniol, aeth carreg fechan i'rtwll, a rhedodd y dwfr allan i gyd o'r bedyddfan. Felly,dan yr amgylchiadau, nid oedd dim i'w wneyd ond mynedâ'r bedyddiedigion, yn ol eu dymuniad, i'r Wysg, ac yno ycydgladdwyd hwy a Christ yn y Bedydd. Gweinyddwydyr ordinhad gan y gweinidog, y Parch. John Evans, brawdi'r adnabyddus David Evans, Pontrhydyrun, a mab i'renwog Evans o Maesyberllan. Trodd y pedwar bachgenallan yn bregethwyr, sef John Evans, Aberhonddu; yParch. J. Williams, Llundain; y diweddar Barch. D.Evans, Dudley; a gwrthddrych y cofiant hwn.

Yn mhen ychydig amser wedi y bedydd hwn, cynnygiwyd cynnal cyfarfodydd gweddi yn y Fenni Fach, Llanddw, a'r ardaloedd cylchynol. Gyda hyn cododd rhywychydig awydd siarad yn y bechgyn, ond nid oedd drwsagoredd iddynt. Yr hen dad parchus o Borthydwr, ynddiau, yn ofni i'r ebolion efallai dori dros y terfynau, pebuasai yn rhyfeddod. Ond llonyddwyd tipyn ar yr anianhon yn Thomas Price yn mhen ychydig. Yr oedd efe ynawr yn codi, a bu yn athraw da a ffyddlon yn yr YsgolSabbothol. Yr adeg hono yr oedd dosparth i ddynionieuainc yn cael ei ddwyn yn mlaen yn Kengsington, capely Bedyddwyr Saesneg, gan y Mri. Jones y druggists, erdiwyllio meddyliau a chynyddu gwybodaeth y bobl ieuaincyn y lle. Yr oeddynt hefyd i gael mantais i lefaru arwahanol bynciau, a thrwy hyny ddangos eu doniau. Ymunodd y bechgyn ieuainc o Borthydwr â hon, ac yn eu plithdaeth Price yn ymlynydd cysson a selog wrthi. Yn nghyfarfodydd y gymdeithasfa hon y dadblygodd Price gyntaf eialluoedd i siarad yn gyhoeddus, yr hyn a'i gwasanaethoddef a'r enwad Bedyddiedig mor effeithiol drwy ystod ei fywydllwyddiannus. Myfyriai yn galed hefyd lenyddiaeth Feiblaidd a gweithiau llenyddol gwerthfawr ereill, a galluogoddei dreiddgarwch a'i alluoedd naturiol digyffelyb ef i feistroliyn drylwyr ddyrus bynciau duwinyddol oeddynt yn arosyn dywyll i oleuadau llai. Nid oedd ei weinidog, moddbynag, yn rhoddi ond ychydig gefnogaeth ir myfyriwrieuanc caled, oblegyd edrychai gyda drwgdybiaeth ar eiymdrechion llenyddol cysson a di-ildio. Fel llawer o weinidogion y dyddiau hyny, tueddai i gredu nad oedd un llyfryn werth i'w ddarllen a i fyfyrio ond y Beibl. Yr oeddPrice i lefaru un noswaith yn y Gymdeithas Gristioncgol,a'r pwnc oedd Breniniaeth Crist. Aeth Thomas i fyny i'rpwlpud i siarad, fel y tybid, a chan fod y gair brenin yn eibwnc, darllenodd yn destyn, Minau a osodais fy Mreninar Seion, fy mynydd sanctaidd." Eithr methodd ddweydgair yn ychwaneg, yr oedd tywyllwch dudew wedi toi ycwbl, fel o'r braidd yr oedd yn gweled y ffordd i ddysgyno'r areithfa. Dyna ddechreuad llefaru yn gyhoeddus Dr.Price, Aberdar, ond nid dyma ei ddiwedd. Er i Price dorilawr y tro hwn, etto ni ddigaloncdd; eithr ymdrechodd ynfwy egniol a phenderfynol, a bu yn llwyddiannus. Teimlaiddyddordeb mawr yn nghymdeithas y dynion ieuainc, abu yn dra gweithgar ynddi cyhyd ag yr arosodd yn y dref.

Ymhyfrydai Price bob amser fyned i'r cyfarfodydd gweddi a gynnelid yn yr annedd-dai yn y dref a'r ardaloedd cylchynol. Arferai efe a'r bechgyn ieuainc a ddechreuasantgrefydda yr un adeg ag ef siarad bob yn ail yn y cyfarfodydd gweddi crybwylledig. Tebyg eu bod weithiau yn mynedallan mor bell i'r wlad à Llanamlwch, plwyf genedigol yDr., oblegyd dywedai yr hen foneddiges y crybwyllasomam dani yn flaenorol, Mrs. Davies, ei bod yn cofio amserdymunol ar grefydd bron ar yr adeg y bedyddiwyd ThomasPrice. Arferai efe a rhai bechgyn ieuainc ddyfod allan igynnal cyfarfodydd gweddi yn y pentref, a phregethentneu anerchent yn y cyfarfodydd hyny yn achlysurol. Cynnalient y cyfarfodydd mewn hen ystordy oedd uwchbensiop saer oedd yn y pentref, yr hon a feddiennid gan unNellie Jones, hen ferch weddw, a merch i un William Jones,pregethwr cynnorthwyol gyda'r Annybynwyr. Ond yr oeddei ferch, Nellie, yn Fedyddwraig selog, ac yn gwneyd eigoreu i ledaenu yr egwyddorion Bedyddiedig yn y gymmydogaeth. Yr oedd y cyfarfodydd hyn yn rhai llewyrchusa llwyddiannus iawn. Dywedai Mrs. Davies nad oedd yradeg hono dy yn y wlad braidd heb aelod crefyddol ynddo,ac yr oedd pawb bron yn ymdrechu gwneyd rhywbeth gydachrefydd. Teimlid parch mawr at Thomas Price, ac ymgynnullai nifer lluosog i'r cyfarfodydd hyn bob tro y byddaiefe yn dyfod allan i Lanamlwch. Heblaw yr ymarferiad,yr oedd Price a'i gyfoedion yn ei gael yn y cyfarfodydd anodwn, yr oeddynt yn fynych yn ymneillduo i'r maes a'rcoedwigoedd cylchynol i gynnal cyfarfodydd gweddi. Clywsom y Ďr. yn dweyd droion ei fod ef wedi magu llawer onerth, ac wedi ymgryfhau fel gweddiwr drwy ymarferydllawer wrtho ei hun mewn coedwig oedd yr adeg hono hebfod yn neppell oddiwrth Gapel Porthydwr. Flynyddau ynol yr oedd llawer o hyn yn cael ei wneyd hyd y nod gan ybobl ieuainc a ymunent à chrefydd yr Arglwydd Iesu; ondofnwn yn bresenol nad yw yr arferiad yn cael ei fabwysiaduo gwbl gan y to sydd yn codi, a hyny am nad ydynt ynmeddu yr un yspryd, ac nad yw yr un dylanwadau nertholyn gweithio ynddynt. Buasai yn dda i'r Eglwys yn fynychyn bresenol ped arafai ei haelodau hi ychydig, gan ystyrieda meddwl am eu dyledswyddau a'u rhwymedigaethau crefyddol, ac ymneillduo yn fynych i'r maes agored, y goedwigdewfrig, neu y mynydd tawel, i ddal cymdeithas a'r YsprydTragwyddol, fel y gwnai Crist gynt, a miloedd o'i ffyddlawnganlynwyr yn yr oesoedd a aethant heibio.

PENNOD III.

EI FYNEDIAD I LUNDAIN AC YN OL.

Gorpheniad ei brentisiaeth—Anrheg gan ei feistr iddo– Ei onest— rwydd — Cerdded i Lundain— David Jones, Caerdydd—Ma— thetes—Cyrhaedd y Brifddinas—Dick Whittington—Cael gwaith Awydd ymberffeithio yn ei grefft—Ymuno à sefydliadau celf— yddydol — Mynychu llyfygelloedd—Darllenwr mawr Cymro pur—Ymaelodi yn Moorfields—Dechreu pregethu—Ei destyn cyntaf—Myned at y Saeson—Cael derbyniad i'r coleg—Gorchwyl diweddaf cyn myned i'r coleg—Talu yn rhanol am ei addysg—Ymhyfrydu adrodd helyntion ei fywyd—Y myfyrwyr yn ei dderbyn yn llawen.

AR derfyniad ei brentisiaeth, anrhegodd ei feistr ef â phum' punt, fel arwydd fechan o'i barch tuag ato, am ei ymdrechion egniol i ddysgu ei grefft, ei ffyddlondeb iddo, a'i ymddygiadau da a theilwng tra yn ei wasanaeth. A'r swm bychan hwn penderfynodd Price ddechreu yn y byd drosto ei hunan. Ni adawodd i'r glaswellt dyfu dan ei droed. Dododd ei benderfyniad ar waith, ac ni wnelai un lle y tro ond Llundain i'r llencyn Cymreig un ar hugain oed, modrwyog ei wallt, a gwridgoch ei wedd. Wedi prynu ychydig ddillad, y rhai, meddai Price pan yn adrodd yr amgylchiadau hyn ei hunan, oedd eu hangen arno; ac fel bachgen egwyddorol a gonest, wedi talu pob gofynion arno yn y dref, yr hyn a lyncodd y swm oll o fewn ychydig sylltau, efe a gyfeiriodd ei gamrau tua'r Brifddinas; a dywedir iddo gerdded bob cam o'r ffordd o Aberhonddu i Lundain, 160 milldir, a chyrhaeddodd mewn tri diwrnod. Gorfu arno, yn ddiau, alw yn sychedig wrth lawer drws, fel y diweddar David Jones, Caerdydd, wrth ddyfod o Sir Gaerfyddrin "bant i'r gweithiau," neu yr enwog Mathetes yn teithio bob cam o Gastell-Newydd-Emlyn i Ddowlais heb ddim ond hanner coron yn ei logell, pan yn ymadael ag ardal brydferth ei enedigaeth, am gwpanaid o ddwfr, ac eistedd efallai dan wylo mewn llawer clawdd i dynu ei esgid ag oedd yn dolurio ei droed. Ac yn aml pan fyddai ei feddwl yn cynllunio trefniadau ei fywyd wedi cyrhaedd y ddinas fawr, byddai yr ychydig arianoedd yn ei logell wedi twymo gan wres ei law yn eurhifo, eu trafod, a'u troi. O'r diwedd, pan mor flinedig, hebwybod pa fodd i roi un droed o flaen y llall, daeth dwndwrtragwyddol y modern Babylon i'w glustiau, ac mewnychydig, yr oedd yn rhodio ar hyd pelmynt ei hystrydoedd.Bu y Dr. yn Cheltenham, Bath, a chylchoedd ffasiynolereill, yn ymweled â hwynt gyda chylchdeithwyr (tourists),tra yn ngwasanaeth y Cliftons; ond dyma y cyflwyniadcyntaf i gyflawn lanw bywyd Seisnigaidd poblogaidd. Yfath deimladau cymmysglyd y rhaid fod yn ei feddiannupan yn agoshau, fel Dick Whittington arall, at brif ddinasy Saeson; ond er yr holl bryderon dwys allai fod yn codiyn ei feddwl am ei ddyfodol, bu yn dra ffodus i gael gwaithyn union deg wedi ei chyrhaedd. Nid oedd ef, hyd ynhyn, ond yn baentiwr tai; ond rhagorai yn hyn ar y cyff-redin. Wedi cyrhaedd Llundain, teimlodd Thomas Priceawydd i feistroli rhanau mwy celfyddydgar ei grefft, athreuliodd ei oriau hamddenol i gyrhaedd hyn. Cofrestrodd ei enw ar gyfres un o'r sefydliadau celfyddydol, adysgyblodd ei alluoedd yno trwy fyfyrdod dwys. Yn yramser hwn y dysgodd ei wersi cyntaf mewn grammadeg,hanesiaeth, araethyddiaeth, a phortreadu.

Arosodd Price yn Llundain am bedair blynedd ynngwasanaeth Peto a Gazelle, ac yr oedd y cyfnod iddo efyn un o gynnydd meddyliol a moesol. Yn fuan, daeth ynaelod o gymdeithas y dynion ieuainc yn y Red Lion Square,a mynychai y Mechanics' Institute yn y South BramptonBuildings, a sefydlwyd yn Plymouth Road gan yr athronydd naturiol enwog, Dr. Birbeck. Yr oedd llyfrgellardderchog yn gyssylltiedig â'r sefydliad, o'r hon, yn nghydag ystafell y newyddiaduron, y gwnaethai Price ddefnyddmynych. Ymhyfrydai yn fawr hefyd mewn darllen a myfyrio Duwinyddiaeth Dwight. Pan fyddai ereill yn ceisioy gweithiau gwerthfawr hyn, cawsid hwy yn fynych ynnwylaw y myfyriwr ieuanc, Thomas Price. Er fod ypaentiwr ieuanc o Frycheiniog yn awr wedi dyfod i feddiant o fanteision mawrion a chyfleusderau lluosog i gasglugwybodaeth fuddiol, ac i ddysgu yr iaith Saesneg drwy droiyn mhlith ac ymgymmysgu â Saeson y brif ddinas; etto, niddarfu iddo ef gael ei drawsnewid yn dalp o Sais, fel llawero blant Gwalia a aethant yno, ac ni chollodd ronyn o'i gydymdeimlad â'i wlad nac â'i gydwladwyr, megys y gwna llawer. Wedi bod yn Llundain flynyddau, gallai seiniopob gair yn iaith fendigaid ei fam mor Gymroaidd a chroewa neb. Yr oedd ein gwron yn ormod o ddyn i annghofio eihunan yn y cyfeiriad hwnw.

Ar ymadawiad Price o eglwys Porthydwr, Aberhonddu,ymunodd, trwy lythyr parchus o ollyngdod a gafodd, arunwaith â'r eglwys Fedyddiedig fechan Gymreig yn Moorfields, ar yr hon y pryd hwnw yr oedd y Parch. D. R.Jones, diweddar America, yn weinidog. Tra yno yr oeddPrice yn un o athrawon goreu yr Ysgol Sul. Yn fuanwedi ymaelodi yma, dadblygodd y paentiwr ieuanc awyddi bregethu, a chafodd gymhelliad gan y frawdoliaeth. Eidestyn cyntaf oedd, "Wele Oen Duw, yr Hwn sydd yntynu ymaith bechodau y byd," Ioan i. 29. Profodd eianerchiad cyntaf yn dra derbyniol gan yr eglwys a'r gynnulleidfa. Cymmerodd hyn le tua'r flwyddyn 1838. Er yboddlonrwydd a roddodd y pregethwr ieuanc ar ei gychwyniad yn y gwaith pwysig o gyhoeddi Crist yn Geidwad,nid oedd y gefnogaeth a roddid iddo gan yr eglwys yn fawriawn. Felly tueddwyd ef i ymuno â'r eglwys Seisnig ynEagle Street; ond er ei fod wedi myned at y Saeson, yroedd yn pregethu ac yn siarad yn gyhoeddus yn awr aceilwaith wrth ei gydwladwyr mewn gwahanol barthau o'rddinas. Yr oedd yn llwyddiannus iawn. Cydnabyddaipawb a’i hadwaenai fod iddo ddyfodol dysglaer; ac y maebywyd defnyddiol a gwerthfawr y Dr. enwog wedi profifod eu barnau a'u syniadau yr adeg hono yn gywir amdano. Ar gais taer yr eglwys (ac nid fel un yn neidio o'rclawdd i'r pwlpud ac heb ei alw), gadawodd ei grefft, acymgyssegrodd yn drwyadl i waith mawr y weinidogaeth.Wedi gwneyd apeliad rheolaidd yn y dull arferol, derbyniwyd ef yn fyfyriwr yn y flwyddyn 1842, yn Athrofa yBedyddwyr yn Mhontypwl, lle y bu yn llwyddiannus amdair blynedd a hanner. Dr. Thomas oedd y llywydd yramser hwnw, a'r Parch. George Thomas, A.C., yn gydathraw ag ef. Rhif y myfyrwyr yr adeg hono oedd 21.Derbyniwyd Price i'r coleg yn ol mynegiad y llywydd yflwyddyn hono o eglwys Eagle Street, Llundain, ar eidraul ei hun; ac fel y gwelir yn Hanes Athrofeydd Cymru,gan Rufus, yr oedd y draul hono yn £30 iddo.

Cyn myned i'r Coleg, treuliodd Price ychydig amseryn Aberhonddu, ac ardal ei enedigaeth, ac yn brawf o barchei hen feistr ato a'i ymddiriedaeth ynddo, rhoddodd iddo y gorchwyl o baentio ball-room y Castle yn Aberhonddu. Cofusgenym ei glywed yn adrodd am hyn wrth ei hen gyfaill,Jenkin Howell, Aberdar, mewn banquet a gynnelid yn yrystafell er anrhydedd i Syr William Thomas Lewis,Mardy, Aberdar, yr adeg y gwnaed ef yn Uch Sirydd, acnid tŷ cyffredin oedd y Castle. Hwnw, meddai y Dr., oeddy gorchwyl cyflogedig diweddaf gyda'i grefft.

Yr oedd ymdeithiad Thomas Price yn y byd Seisnigaidd,ac yn neillduol ei ddyfodiad o'r brif ddinas, yn rhoddi iddosafle a phoblogrwydd yn mhlith y myfyrwyr, oblegyd yroedd Llundain mor ddyeithr a Kamschatka iddynt hwy.Teimlai Price ddyddordeb neillduol pan yn y Coleg i ad-rodd wrth ei gydfyfyrwyr, fel Columbus arall, hanes eideithiau, y rhyfeddodau mawrion a'r golygfeydd gogonedd-us yr oedd wedi eu gweled mewn gwahanol fanau, a gwran-dawai y bechgyn gyda'r astudrwydd a'r mwynhad mwyafarno.

PENNOD IV.

BYWYD ATHROFAOL Y DR.

Price mewn cylch newydd Cyfnod pwysig-Myned i'r coleg-Dysgu-Barn Spinther am addysg—Gibbon—Syr Walter Scott—Hunan-ymroad-Ennill parch fel myfyriwr-Ei fywyd athrofaol, gan Dr. Roberts-Ei gydfyfyrwyr-Barddoniaeth-Ei draethodau colegawl-Manylrwydd ei lafur-Y pynciau fyfyriodd-Meddwl parod-Ei boblogrwydd fel pregethwr-Ei gyd-fyfyrwyr yn ddynion o nod ac enw.

BELLACH yr ydym yn cael Price mewn cylch newydd, ac yn dechreu ar gyfnod pwysig iawn yn hanes ei fywyd. Er ei fod wedi troi fel y nodasom yn mhlith pobl efrydol yn llyfrgelloedd y Brif Ddinas, nid oedd y cylchoedd y bu ynddynt o'r blaen, fe ddichon, mor newydd a dyeithr iol iddo â'r bywyd colegawl; ac er ei fod fel gwenynen wedi ymroddi yn ddiwyd i gasglu ychydig wybodaeth tra y caniatäai manteision ac amgylchiadau iddo; etto, yn yr ystyr hwn, dyma'r cyfnod pwysicaf yn ei hanes, oblegyd credwn fod cyfnod addysg mewn ysgol neu athrofa o ganlyniad tra phwysig i fywyd dyfodol, ac yn gyffredin yn rhoi cyfeiriad priodol iddo a symbyliad i feddylgarwch, arsylwad, a phrofiad, yn ystod gyrfa y cyfryw fywyd. Gellir yn briodol ddweyd mai "Y plentyn yw tad y dyn," ac addysg sydd yn ffurfio y plentyn. Felly yn gywir y gellir dweyd fod dylanwad nerthol gan y wybodaeth a gasgla a'r hyfforddiant a dderbynia yr efrydydd ieuanc yn ystod ei yrfa golegawl, oblegyd yn gyffredin yr hyn ydyw yn, ac yn gadael yr athrofa a ellir dysgwyl ei gael drwy ei holl fywyd.

Fel y sylwyd yn flaenorol, nid oedd Price pan yn myned i'r coleg wedi cael ond ychydig addysg, am fod ei fanteision i hyny yn brin, ac nid oes genym hanes ei fod wedi cael, fel y mwynheir yn aml y blynyddau hyn gan ein hymgeiswyr i'r colegau, ysgol ragbarotoawl, ac nid oedd wedi cael neb yn neillduol i'w roddi, fel y dywedir, ar ben y ffordd; ond chwiliodd am dani drwy ymroad egniol i ddiwyllio ei feddwl ei hunan, a chafodd dderbyniad croesawus i un o hen sefydliadau addysgol mwyaf buddiol ac anrhydeddus y Bedyddwyr, nid yn unig yn y Dywysogaeth, ond hefyd yny deyrnas.

Aeth Price i'r Athrofa fel y dylai pob dyn ieuanc fyned—I DDYSGU. Er na fu tymhor ei arosiad yn faith ynddi,gadawodd y ddysgyblaeth gafodd tra yno ei hol arno am eioes. Dywed Spinther mai "dysgu meddwl a deall" ywamcan uchaf dysgyblaeth feddyliol, ac os na chyrhaeddirhyn, nid yw wahaniaeth pa faint o amser gaiff yr efrydyddieuanc yn yr athrofa, neu beth fyddo safle yr athrofa y byddoynddi. Nid yw yr athrofa yn gwneyd nemawr mwy i nebnâ'i ddysgu i drin yr arfau, fel y gellir etto ymladd y frwydr.Amser ydyw i osod y sylfaen i lawr fel y gellir etto adeiladu.Ymdrech bersonol drwy gydol oes sydd yn dysgyblu'r galluoedd ac yn cyfoethogi'r meddwl. Heb hyny, nid yw yrhyfforddiad gaiff y dyn yn ei ieuenctid, bydded hir neu fyr,ddim amgen golch aur ar efydd. Mae gan bob dyn,meddai Gibbon, "ddwy ddysgeidiaeth—un a dderbyniaoddiwrth ereill ac un fwy pwysig a rydd iddo ei hun." "Yrhan oraf o ddysgeidiaeth pob dyn," meddai Syr WalterScott, "yw yr hon a rydd iddo ei hun." Nid yw y ddysgeidiaeth a dderbynir yn yr ysgolion gwahanol ond dechreuad, ac y mae yn werthfawr yn benaf am ei bod yn hyfforddiy meddwl ac yn ei arferyd i ymroad ac astudiaeth barhaus.Y mae y wybodaeth gasgla y dyn drwy lafur caled achunan—ymroad yn eiddo mwy gwirioneddol iddo nà dim aroddir ynddo gan ereill. Mae hon yn tynu allan ei alluoeddgoraf ac yn magu ynddo nerth anorchfygol. Yr oeddwybodaeth werthfawr hon wedi dyfod yn etifeddiaeth foreuol i Price, ac ychwanegai gufydd at gufydd, maes at faes,yn gysson nes yr oedd wedi myned yn gyffredinol a llydan.Ond ei osodiad ar ben yr iawn ffordd yn yr athrofa a wnaethiddo allu cerdded mor nerthol, a gorchfygu anhawsderaumor fawrion yn ystod ei fywyd defnyddiol a gwir werthfawr.Ni chamdreuliodd ei amser fel efrydydd. Defnyddiodd efi bwrpas. Ymosododd yn egniol i gasglu gwybodaeth.Gwnaeth gynnydd canmoladwy yn ei efrydiaeth, a gosododd i lawr sylfeini cedyrn ar gyfer llafur personol yn ydyfodol. Ennillodd iddo ei hun air da gan ei athrawondysgedig a'i gydfyfyrwyr parchus fel gwr ieuanc caredig,ymroddgar, a chrefyddol. Profir hyn i raddau gan y ffaithgroniclir yn Mynegiad y Llywydd am Orphenaf y 30ain,1845, i'r perwyl fod Mri. N. Thomas, Thos. Price, a Thos.Evans, wedi appelio am estyniad o'u hamser yn y coleg ac i'r pwyllgor, ar gymmeradwyaeth yr athrawon o'u hymddygiadau, galluoedd, a'u cyrhaeddiadau, ganiatau y ffafro flwyddyn arall iddynt yn y ty, gan y credent yn drwyadly troent allan yn weinidogion neillduol gymhwys o'r Testament Newydd. Ac ni siomwyd hwynt yn un o honynt.

Ysgrifena ei hen gydfyfyriwr talentog, yr enwog Barch.John W. Todd, D.D., Sydenham, yn ddyddorol ychydig ohanes bywyd colegawl Price. Dyma fel y dywed yn ySaesneg:—"Ffurfiwyd fy adnabyddiaeth foreuaf â Dr. Price yn y flwyddyn1842 neu 1843, pan y dechreuodd ar ei fyfyrdodau yn Ngholeg Pontypwl. Yn flaenorol i'w ddyfodiad i'r athrofa yr oedd wedi enwogi eihun fel gweithiwr egniol yn Eglwys Eldon Street, Llundain, ac feldyn ieuanc o yspryd cyhoeddus, yr oedd wedi ennill sylw drwy wrthwynebu amddiffynwyr Cydfrodoriaeth (Socialism), heb ofni ymosod ar eu harweinydd, yr enwog Owen, yr hwn a yrodd i ddyryswch drwyroddi iddo gyfres o ofyniadau pwysig. Yr oedd yr argraff a wnaethar ei gydfyfyrwyr, ychydig o'r cyfryw sydd yn aros hyd heddyw, yndra ffafriol; ac edrychem arno fel dyn o addewid ddiamheuol, yn llawno egnion diflino, ac wedi ei fwriadu i safle uchel, nid yn unig fel gweinidog, ond hefyd fel arweinydd mewn bywyd cyhoeddus. Yn herwyddfod y coleg yn dra llawn yn ystod ein harosiad yno, rhoddodd einhanwyl athraw, Dr. Thomas, yr hwn yn llythyrenol a addolem, uno'i ystafelloedd yn ei dy ei hun at ein gwasanaeth, ac am resymaugwybyddus iddo ei hun yn unig, dewisodd Dr. Price a minau ei defnyddio. Dygodd hyn ni yn naturiol i berthynas agosach nâ'r cyffredin, ac achosodd ffurfiad cyfeillgarwch rhyngom sydd wedi aros ynddidor am dros ddeugain mlynedd. Yn naturiol, yn y rhan fwyaf o'nharferion a'n chwaeth yr oeddem yn dra gwahanol; ond yr oedd ynrhaid fod elfenau yn cynnyrchu rhyw debygrwydd rhyngom a'n tynaii gydymdeimlad cymdeithasol â'n gilydd, y rhai gobeithiaf ydynt wedieu hadnewyddu yn y cylch dibechod hwnw sydd yn ddatguddiedig ynunig i'n ffydd."

Dywed Dr. Roberts, Pontypridd, fel hyn am Dr. Priceyn yr athrofa:—

"Adeg bwysig a phryderus yn hanes gweinidog yw amser ei fynediad i'r athrofa. Mae yr amgylchiad hwn yn fy hanes mor fyw yn fynghof a phe doe y cymmerodd le, er fod mwy na phum' mlynedd adeugain wedi myned heibio er hyny. Yn hwyr dydd gauafol yn gynnar yn mis Ionawr, 1844, cyrhaeddais Bontypwl yn nghwmni Mr. Lot Lee; ac yn naturiol, aethom yn gyntaf oll i dy fy hen gyfaill caredig, y diweddar Hybarch Edward Evans, diweddar o Ddowlais, yr hwn oedd y pryd hwnw yn weinidog y Tabernacl, Pontypwl, ac yn byw uwchlaw yr Athrofa ar Benygarn. Yno cwrddasom â Mr. Thomas Evans, o'r Hafod Boeth, Pandy'rcapel, yr hwn oedd ar y pryd yn fyfyriwr, ac a fu farw yno ryw flwyddyn a hanner ar ol hyny, o'r typhus fever, ac a gladdwyd wrth hen gapel Penygarn. Yr oedd efe yn gyfaill calon i Dr. Price, ac yn yr un dosparth ag ef. Aeth Mr. Lee a minau gyda Mr. T. Evans dan grynu i'r Athrofa yn lled hwyr y nos hono: a bu peth ymryson pa un o honom oedd y myfyriwr hynaf—y senior. Ond cafwyd mai Mr. Lee gamodd gyntaf dros drothwy y colegdy, ac felly rhoddwyd y flaenoriaeth gyntaf iddo ef. Ar ol myned i mewn, eisteddasom yn yr ystafell giniawa, a'n calonau yn curo yn gyflymach nag arferol, a gadawodd y brawd T. Evans i ofalu am ryw orchwylion oedd ganddo. Pwy ddaeth i fewn gyntaf ond Mr. Evan Meredydd (Ieuan Grug), yn ymddangos yn frysiog, a golwg wyllt ac annybynol arno. Cyfarchodd ni, mae'n wir; ond yr oedd ei gyfarchiad yn oer, ei ymddangosiad yn annybynol, a'r drem a daflodd arnom yn dangos ei fod ar delerau da ag ef ei hun, ac yn lled ddisylw, os nad diystyrllyd, o ereill. Yr oedd yr olwg arno a thuedd i beru braw, tra y safai a'i gefn at y tân, ei ddwylaw o'r tu ol iddo, ei wallt trwchus wedi ei droi fel dau gorn hwrdd uwchlaw ei glustiau, heb sylwi dim arnom, gan mor llwyr yr ymddangosai wedi ei lyncu gan ryw fyfyrdodau a allasent fod yn ymwthio yn ei feddwl. Rhyw argraff anffafriol gafodd ei ymddangosiad ar fy meddwl, ac ni lwyddodd adnabyddiaeth pellach i symmud yr argraff a gododd o'i bresenoldeb y pryd hwnw ar fy meddwl. Yn nesaf ar ei ol ef daeth Mr. Evan Thomas, wedi hyny y Parch Evan Thomas, Casnewydd, Sir Fynwy i fewn, a lled fyr a sych oedd ei gyfarchiad yntau; ond yr oedd rhywbeth yn ei gyfarchiad a'i wynebpryd siriol ef yn peru i mi farnu yn well am dano nag am ei flaenorydd. Pa fodd y bu ar ol hyny y nos hono, nid yw fy nghof yn rhyw frysiog iawn, gan fod pryder ac ofn wedi fy meddiannu i'r fath raddau fel nas gallwn braidd feddwl am dani na thalu nemawr o sylw i neb.

"Yn ffodus neu anffodus i ni fel dau ddyfodiad newydd, daethom y nos hono neu yn gynnar dranoeth i gyffyrddiad ag un Mr. D. Davies, un o Landyssul os wyf yn cofio yn dda, yr hwn, am ryw drosedd neu gilydd ar rai o ddeddfau y ty, oedd wedi ei osod o'r neilldu mewn dystawrwydd ac unigedd gan ei gydfyfyrwyr, heb neb yn meiddio siarad gair ag ef; ac efe oedd yr unig un a ddangosodd serch neillduol tuag atom, a hyny, fel y cawsom ar ddeall wedi hyny, er mwyn cael rhywun i gymdeithasu gydag ef, oblegyd hyd hyny nid oedd Mr.Lee a minau dan y ddeddf, eithr dan ras. Ryw nos Lun yn lledfuan daeth y dirgelwch i'r golwg; cynnaliwyd brawdlys ar y cyhuddedig; dyfarnwyd fod yr hyn oedd efe wedi ei ddyoddef yn ddigon ogosp am y trosedd; derbyniwyd ef yn ol i'r frawdoliaeth efrydol;ac ni chawsom ni, y dyfodiaid newydd, nemawr mwy o'i sylw. Yny prawf hwn cymmerodd y brawd T. P. Price (Thomas ProtheroePrice), oblegyd felly y gelwid ef y pryd hwnw, ran flaenllaw, ond nidwyf yn cofio pa ochr. O'r amser hwnw allan daeth Dr. Price yn wrthddrych neillduol fy sylw ar gyfrif ei ffraethineb, ei arabedd, ei wroldeb, ei symmudiadau gwenolaidd, ei garedigrwydd gwresog, ei fywiogrwydd rhyfedd, a'i feddwl amryddonol (versatile). Ar gyfrif ynodwedd olaf a ganfum yn ei gymmeriad, fy marn am dano yw, ygallasai enwogi ei hun mewn llawer maes heblaw yn y weinidogaeth.Gallasai wneuthur ystadegydd a chofrestrydd enwog, dadleuydd neugyfreithiwr o fri, neu hanesydd neu wladweinydd o bwys a defnyddioldeb; ond y weinidogaeth Efengylaidd a ddewisodd efe, ac nid oesangen am dystiolaethau pa mor fawr yr enwogodd ei hun yn y maeshwn; y mae ei hanes a'r gwaith mawr a gyflawnodd yn NghwmAberdar, a'r enwogrwydd a ennillodd drwy Gymru benbaladr, agwledydd ereill hefyd, yn brawfion digonol o hyny.

"Yr oedd un peth yn ei nodweddu yn arbenig, sef ei graffdermeddyliol, a'r cyflymder gyda'r hwn y deallai unrhyw fater a ddygidger ei fron, a chywirdeb y farn a ffurfiai am dano. Yr oedd y craffder hwn ynddo yn dwyn delw (intuition) y rhyw deg, y rhai, lawero honynt, a welant drwy achos ar unwaith, heb drafferthu i fesur aphwyso, ac a ffurfiant farn gywirach yn fynych nag a wna y rhywarall ar ol troi y peth yn eu meddwl am amser. Ni chymmerai Dr.Price ond ychydig funydau, ac yn aml ond ychydig eiliadau, i ffurfiobarn ar achos dyrus, ac fynychaf, mewn naw achos o ddeg, yr oedd ei farn yn gywir Arweiniai y cyflymder hwn ef, er hyny, weithiau iwrthuni. Cof genyf am ddyfodiad y gair Saesneg telegram i arferiadcyffredin yn hanes rhyfel y Crimea. Yr oedd amryw o weinidogionMorganwg yn ei gwmni, ac un o honynt yn darllen hanes y rhyfel ynun o'r newyddiaduron, yn yr hwn yr arferid y gair crybwylledig. Ganfod ystyr y gair yn anadnabyddus, gofynodd rhywun beth oedd eifeddwl. Atebai Dr. Price, gyda'i barodrwydd arferol, mai newyddneu hyspysiad ydoedd yn cael ei drosglwyddo trwy arwyddion gweledigmewn manau cyhoeddus rhwng yr anfonydd a'r derbynydd, tebyg i'rpellebyr arddwyddonol (Semaphore Telegraph) oedd flynyddau yn ol ar Bengogarth ger Llandudno, a manau ereill ar arfordir Gogledd Cymru rhwng Caergybi a L'erpwl. Awgrymodd rhywun yn y cwmni fod ffurf y gair telegram (pellysgrif) yn arwyddo y genadwri ei hunan (telegraphic message), yn hytrach na'r modd y trosglwyddid hi; ond mynai y brawd yn ei frwdfrydedd arferol, mai efe oedd yn iawn, a bu pawb ereill yn ddystaw rhag bod cynhwrf yn eu plith. Yn ol yr hen ddiareb, "Y neb sydd heb ei fai sydd heb ei eni " Bai penaf y brawd anwyl Price oedd ei gyndynrwydd i lynu yn ei olygiadau wedi iddo unwaith roddi mynegiad iddynt. Glynai ynddynt fel y gele, pa mor gryfion bynag fyddai y rhesymau a ddygid yn eu herbyn. Cafwyd amryw brawfion o hyny yn nghynnadleddau Cymmanfa Morganwg, yr hyn fyddai yn achlysur weithiau i ddwyn brodyr gledd yn nghledd ag ef.

"Er hyny, yr oedd yn gwbl ddiddrwg a diddichell. Ni ch'ai dialgarwch le i ymnythu yn ei enaid, na dim adgof o'r frwydr i aros ar ei feddwl; maddeuai i'r ymosodwr cyn i'r haul fachlud, a hyny hyd y nod pan y gwnaethid cam ag ef. Gwyr yr ysgrifenydd yn dda am y nodwedd hon ynddo. Mor bell ag yr wyf yn cofio, gydag ef y cefais y ffrae gyntaf yn ystod fy ngyrfa athrofaol, a ffrae nwydwyllt oedd hi. Yr oedd ef yn lled ffyrnig, ac yn arfer geiriau miniog; a minau, yn ol fy nhymheredd boeth arferol y pryd hwnw, wedi gwylltio yn eithafol, ac yn mhoethder y frwydr wedi gwneuthur ymosodiad creulon arno, a defnyddio enwau arno, gan ei alw yn ieithwedd y Gogledd yn hen glep gerryg, yn mhlith enwau ereill. Ond mor fuan ag yr aeth yr ymrafael drosodd, ymddengys i bob rhith o adgof o honi ddiflanu o'i fynwes. Daethom yn nes at ein gilydd, a ffynodd cyfeillgarwch agosach rhyngom nag o'r blaen tra y buom gyda'n gilydd yn yr athrofa. Daeth yr un peth i'r golwg yn ein hanes yn fuan ar ol i mi sefydlu yn Mhontypridd. Mewn cynnadledd lle yr ymddangosai arwyddion o bleidgarwch, gwneuthum ymosodiad lled finiog ar y brodyr a ymddangosent i mi yn bleidgar, ac yn enwedig ar Dr. Price, cadeirydd y gymmanfa y flwyddyn hono. Nid oes angen am fyned i'r manylion, ond mor bell ag y dangosant y nodwedd a grybwyllwyd yn nghymmeriad Dr. Price. Yr wyf yn cofio, fel pe buasai wedi cymmeryd lle ddoe, fod ofn ar fy enaid gwrdd â Dr. Price wrtho ei hunan ar ol y gynnadledd, rhag y buasai yn cyfeirio cyflegrau tanllyd ei lid ar ei ymosodwr crynedig. Cwrddais ag ef yn fuan ar yr heol; ond yn lle gwg, gwen oedd ar ei wyneb serchog ac agored. Estynodd ei law i mi, yr hon a ddangosai yn ei hysgydwad cynhes fod ei holl galon ynddi.

Peth arall a nodais ynddo yn dra boreu yn yr athrofa, oedd ei sel a'i ffyddlondeb o blaid gwirioneddau athrawiaethol Cristionogaeth. Daeth dyn ieuanc i Bontypwl, yr hwn a broffesai ei hun yn anffyddiwr, os nad yn atheist, a thynai amryw i'w wrando ar betryal marchnad y dref i wrando arno yn gwawdio yr Ysgrythyrau, ac yn diystyru yr Iawn ac athrawiaethau Efengylaidd ereill. Methodd brwdfrydedd Cristionogol Dr. Price a dal yr ymosodiad; rhoddodd her i'r ymosodwr, a bu gornest frwd rhyngddynt am amser lled hir un hwyrddydd haf. Beth bynag am ddoethineb y mudiad, profodd Dr. Price ei fod yn meddu ar nodweddion angenrheidiol dadleuydd llwyddiannus; ac nid hir y bu y gwr dyeithr cyn gadael y dref, heb ddychwelyd yno mwy tra y bum I yn yr athrofa; pa fodd y bu hi ar ol hyny nis gwn. Tueddai Dr. Price i fod yn Galfin lled uchel, fel y dengys ei awydd pender. fynol i gadw y braslun o gyffes ffydd a ymddengys o flwyddyn i flwyddyn ar ddechreu Cylchlythyr Cymmanfa Morganwg. Am a wn I, credai am "brynedigaeth neillduol;" nad oedd a fyno Aberth y Groes â neb ond â'r etholedigion. Er hyny, pregethai Efengyl mor llydan â'r byd oll; ac yr oedd ei appeliadau a'i gymhellion at y gwrandawyr mor uniongyrchol a thaer â neb o honom. Gall hyn ymddangos i rai o honom yn annghyssonadwy; ond yr oedd efe yn hyn yn debyg i bregethwr mawr a llwyddiannus y Brif Ddinas, Mr. Spurgeon.

"Daeth y nodwedd Galfinaidd ynddo i'r golwg pan oedd yn yr athrofa. Rai blynyddoedd yn gynnarach nâ hyny, ymgyfathrachodd brodyr enwog yn y weinidogaeth yn Siroedd Mynwy a Morganwg, mhlith y rhai yr oedd y pregethwr enwog a meddylgar, y diweddar Barch. James Richards, Pontypridd. Nid oedd un amcan amheus gan y brodyr hyn, ond cododd eu hunoliaeth o debygrwydd meddwl a chwaeth; ond cynnyrchodd yr undeb amheuaeth yn meddyliau brodyr da ereill fod yma amcan i'w diystyru hwy; ac o dipyn i beth aeth yr amheuaeth hon yn deimlad byw, a bu yn achos o ymryson mawr. Achosodd bellder teimlad rhwng brodyr da, a gelwid y dosparth cyntaf yn "Wyr y Clwb," a rhengid ereill yn mhlith eu gwrthwynebwyr. Edrychid ar y cyntaf fel Fulleriaid anuniongred, os nad yn rhyw bethau gwaeth nâ hyny; ac edrychai eu pleidwyr ar y dosparth arall fel rhai yn dal yr hen athrawiaeth iachus. Yr oedd dylanwad yr ymraniad hwn wedi gweithio ei hun i blith y myfyrwyr cyn i mi fyned i'r athrofa, a'r myfyrwyr, amryw o honynt, yn Glubmen, ereill yn Anti-Clubmen, ac ereill heb ogwyddo y naill ffordd na'r llall. Dr. Price oedd y prif ddyn yn mhlith yr ail ddosparth crybwylledig; a mawr oedd y sêl a ddangosai wrth wrthwynebu Gwyr y Clwb" ac amddiffyn eu gwrthwynebwyr. Gan fod yr ychydig fyfyrwyr o'r Gogledd oeddynt yn yr athrofa ar y pryd yn perthyn i'r dosparth cyntaf, i hwnw y bwriais i fy nghoelbren mor bell ag y cymmerais ran o gwbl yn yr ymryson. Er mor fach ac anaml ei thrigolion yw Cymru, erys rhyw glannishness rhyfedd i ffynu yn ein plith er cywilydd a cholled i ni. Yr wyf yn credu y byddai yn fanteisiol i ni, fel cenedl, pe byddai modd i ni annghofio fod Dehau a Gogledd yn bodoli. Mae gormod o duedd ynom i farnu nad oes dim daioni ond yn ein rhanbarth ein hunain. Y mae peth daioni yn y byd oll, a'r Bettws hefyd; a chredu yr wyf fod daionusrwydd a diffygion y Dehau a'r Gogledd rywbeth yn gyfartal.

"Mor bell ag yr wyf yn cofio ar hyn o bryd, dyma y prif bethau a nodweddent fywyd Dr. Price; ond dylwn ychwanegu ei fod yn fyfyriwr diwyd ac ymroddgar, yn myned trwy ei waith mewn modd derbyniol gan yr athrawon, yn gwneyd defnydd priodol o'i amser heb ofera dim o hono, yn achos o lawer o ddyfyrwch i'w gyd-fyfyrwyr, yn gymdeithaswr rhagorol a derbyniol yn derbyn ceisiadau parhaus am ei wasanaeth ar y Sabbothau, ac yn cadw y drws yn agored i fyned eilwaith i'r manau yr elai. O'r diwedd, cyn terfyn ei yrfa athrofaol, derbyniodd alwad gynhes o Aberdar; ac felly, pan ddaeth yr amser iddo adael yr athrofa, yr oedd y drws yn agored i'w dderbyn yno. Yr oedd y lle hwn yn ei daro i'r dim, ac yntau yn taro y lle fel yr allwedd i'r clo. Aethum i'r cwrdd ordeinio yn Aberdar, yr hwn a gynnelid yr wythnos ar ol y Nadolig, 1845 Yn y cwrdd hwnw y cefais y fraint o glywed y diweddar bregethwr enwog, y Parch. James Richards, Pontypridd, am y waith gyntaf erioed. Er mai y gwaith arferol sych o ddysgu dyledswyddau yr eglwys at ei gweinidog oedd ganddo braidd na chodai gwrid yn fy ngwyneb o herwydd fy mod erioed wedi cynnyg ar y gwaith o bregethu, gan mor swynol, medrus, gafaelgar, galluog, a dyddorol yr oedd yn pregethu. Ychydig feddyliais y pryd hwnw y buaswn byth yn olynydd iddo yn Mhontypridd.

"Nid oedd Aberdar yn ddim y pryd hwnw o'i chymharu â'r hyn ydyw yn awr. Yr adeg hono yr oeddynt yn gwneyd y gledrffordd o'r Bason i Aberdar: ac wrth y gwaith yn gwneyd pont goed i gario y gledrffordd dros ryw nant gerllaw lle y saif marchnadfa Aberdar, y cwrddais y waith gyntaf, i'w adnabod â'r Parch. W. Lewis, cyn-weinidog yr eglwys yr oedd Dr. Price ar gael ei ordeinio yn fugail arni. Nid oedd nemawr o dai y pryd hwnw rhwng y bont grybwylledig hyd at y capel yn yr hwn y cynnelid y cwrdd ordeinio; a rhyw hen adeilad annhrefnus a llwydaidd, hynafol yr olwg arno oedd y capel. Ond cafwyd y right man in the right place yn Dr. Price. Yr oedd y lle i gynnyddu, a chymmerodd hyny le yn fuan; ac yr oedd angen am ddyn o'i dalent a'i egni ef i ddeffroi a thynu sylw, magu a meithrin, arwain a chyfarwyddo, y dyfodiaid oedd yn dyfod i'r lle; a gwnaeth hyny er anrhydedd iddo ei hun, lles yr ardal, a chynnydd crefydd.

"Wedi nodi rhai pethau yn ei hanes athrofaol am y ddwy flynedd y bum yn gydfyfyriwr ag ef, a'i arwain fel hyn i Aberdar, yr wyf yn gadael y gwaith o ddarlunio ei lafur yno i rai a ŵyr yn well am dano nâ mi, oblegyd collais I olwg arno i fesur pell o amser ei sefydliad yn niwedd 1845 hyd ddechreu 1859, pan y symmudais i Bontypridd. Cefais ynddo o hyny hyd yn awr yr hyn a ddysgwyliaisgael oddiwrth fy adnabyddiaeth o hono yn yr athrofa, sef gweithiwrdifefl, cyfaill gwresog, cynghorwr doeth, a chynnadleddwr medrus."

Fel y crybwyllasom yn barod, yr oedd yn y coleg yr adegy derbyniwyd Thomas Price iddo un-ar-ugain o fyfyrwyr;mhlith y cyfryw yr oedd Mr. John Evans, yn awr yncyfreithiwr yn Aberhonddu, yr hwn hefyd a fedyddiwyd yrun adeg â Price, fel y nodasom o'r blaen; Dr. B. Evans,Castellnedd; W. Hughes, Glanymor, Llanelli; W. Price,America; James H. Evans, Aberhonddu; John Jones;John W. Todd, D.D., Sydenham; Evan Thomas, Casnewydd; Nathaniel Thomas, Caerdydd; Dr. J. R. Morgan(Lleurwg), Llanelli; Rees Davies, Penyfai; Dr. EdwardRoberts, Pontypridd; T. Lewis, Risca; Daniel Morgan,Blaenafon, &c. Cyfododd bron yr oll o honynt i enwogrwydd a bri mawr, a gwnaethant wasanaeth annhraethadwyi achos y Gwaredwr. Mewn pryddest goffadwriaethol naturiol a phrydferth ar ol ei hen gyfaill a'i gydfyfyriwr hoff,Thomas Price, cana yr enwog a'r athrylithgar fardd-bregethwr, Ddr. Morgan (Lleurwg), fel y canlyn am ei dymhorcolegawl:—

"Chwech a deugain o flynyddau
'Nol fe welid mewn pur hedd
Un-ar-ugain o wyr ieuainc
Iach eu bron a llon eu gwedd
Yn Athrofa y Bedyddwyr,
Pontypwl, yn parotoi
I'r weinidogaeth Efengylaidd,
A phob un yn llwyr ymroi.

"Thomas Price oedd un o honynt,
Nid y lleiaf yn eu mysg
Am ddysgleirdeb ei dalentau,
Ac am ddawn i dderbyn dysg;
A chyn gadael yr athrofa,
Daeth yn enwog drwy y wlad
Fel cymmeriad difrycheulyd,
Ac fel Efengylydd mad.

"Llawer tro a welsom yma
Rai'n dod fewn yn iach a llon,
Rhai yn brudd yn gorfod 'madael
A saeth angeu dan eu bron;

Ond yr un-ar-ugain gawsant
Dreulio i ben eu tymhor gwiw,
A myn'd allan i'w gorsafoedd
I was'naethu dyn a Duw."

Yr oedd Dr. Price yn nodedig am ei fanylrwydd a'idrefnusrwydd gyda'i holl waith yn ystod ei fywyd, fel ycawn ddangos etto yn helaethach wrth fyned yn mlaen.Yr oedd, ni a gredwn, wedi mabwysiadu cynlluniau effeithiol, ac wedi arfer ei hun i hyn yn nechreuad ei fywydcyhoeddus. Llafuriodd yn galed mewn darllen, myfyrio,a phregethu cyn myned i'r athrofa, bu yn ddiwyd iawn trayno, a pharhaodd yn ei efrydiaethau a'i lafur yn egniol adiflino hyd ei fedd. Wrth edrych dros ei lyfrau, y rhai agynnwysant ei draethodau a'i ysgrifau efrydol tra yn ycoleg, dwy gyfrol o'r cyfryw a ddynodir gan y Dr. enwogar yr amlen, The College Essays, a ymddiriedwyd i ni gan eihoffus ferch, Miss Emily Price, cawn olwg led gyflawnarno, yr hon a'n galluoga i ffurfio barn deg am dano felmyfyriwr yn ei drefnusrwydd, ei fanylrwydd, a'i ymlyniaddiysgog wrth y pynciau yr ymdriniai â hwynt.

Dywedai arlunydd enwog unwaith wrth wneyd nodiadam ei fanylrwydd a'i ofal neillduol gydag un o'i ddarluniau,"I paint for eternity." Rhywbeth yn debyg, gallwn feddwl,y teimlai Thomas Price gyda'i lafur fel efrydydd yn Ngholeg Pontypwl. Yr oedd yn fanwl, trefnus, a dyhyspyddolgyda'i waith, yn neillduol pan yn ysgrifenu ei draethodauar brif bynciau duwinyddiaeth. Llafuriai fel pe y teimlaiei fod yn gwneyd gwaith am fywyd, ac fod cyssylltiadrhwng y gwaith am fywyd hwnw â thragwyddoldeb, acfelly yr oedd. Cynnwysa y cyfrolau a nodwn ysgrifaucyflawn ar "Y Sectau Iuddewaidd," "Y Samariaid," "YCyfammod Newydd," "Y Messiah," "Cristionogaeth ynei gwahanol arweddion," " Yr Ymgnawdoliad,” Adgyfodiad y Meirw," "Cyfiawnhad," "Dylanwad yr YsprydGlân," "Eglwys Dduw: ei hanes a'i swyddogaethau,""Yr Ysgrythyrau Sanctaidd," "Y Gwyrthiau," yn nghydâ llawer o bynciau buddiol a phwysig ereill. Gwir fod ypynciau hyn yn brif feusydd llafur yr efrydwyr yn yr athrofeydd gwahanol, ac yn hanfodol i fyfyrwyr Cristionogolydynt yn ymbarotoi i waith pwysig y weinidogaeth Efengylaidd; etto, nid yn aml y gwelir olion cymmaint o lafurgonest ac egnion diflino ag a welir yn ysgrifau yr efrydyddieuanc, Thomas Price. Hefyd, gallwn gredu ei fod yn gosod pris uchel arnynt, gan ei fod wedi eu cadw yn ei feddiantmor ofalus am dros ddeugain mlynedd.

Hefyd, meddai Price feddwl cyflym a pharod iawn. Nidoedd efrydu yn orchwyl anhawdd iddo. Gallai ddadrysllawer o'r dyrysbynciau mwyaf gyda rhwyddineb mawr.Gosodai ei gydfyfyrwyr ef ar brawf yn fynych gyda'u gwersiyn y coleg. Clywsom un o honynt yn adrodd fod Lleurwgunwaith, er ei osod ar brawf, a chael, fel y meddyliai, ychydig ddyfyrwch, wedi ysgrifenu gofyniad caled iddo, a'i yrudrwy ddwylaw y myfyrwyr o un i un yn y dosparth hyd ycyrhaeddodd Price. Edrychodd arno, ymaflodd yn eiysgrifell, ac ysgrifenodd atebiad cyflawn a boddhaol iddo,fel pe buasai wedi myfyrio y mater yn drylwyr am amsermaith. Yr oedd y gallu rhagorol hwn yn fanteisiol iawniddo yn y coleg, a phrofodd felly iddo drwy ei oes.

Yn ystod ei dymhor athrofaol ennillodd Thomas Priceserch diffuant ac ymddiriedaeth drylwyr ei gydfyfyrwyr.Perchid ef yn fawr gan ei athrawon dysgedig, ac edrychentarno fel un fuasai yn debyg o droi allan yn addurn a chlodi'r athrofa, gan y credent fod ynddo alluoedd neillduol iwneyd gwaith mawr, a'i fod yn llawn o elfenau gwir boblogrwydd. Cafodd yr athrawon parchus a'r myfyrwyr brofion buan wedi ymsefydliad Price yn y weinidogaeth mainid un cyffredin ydoedd. Yr oedd hefyd yn ystod ei fywydathrofaol wedi codi i sylw yr eglwysi fel bachgen da acefrydydd teilwng. Edrychent arno fel pregethwr bywioga phoblogaidd. Caffai wahoddiadau mynych i bregethumewn eglwysi pwysig, ac i ba le bynag yr elai yr oedd eiyspryd caredig, ei deimladau da, a'i sirioldeb naturiol, nidyn unig yn sicrhau iddo barch amserol, ond hefyd yn ennilliddo gyfeillion mynwesol a pharhaus. Cadwai ei olwg ary dyfodol drwy y presenol. Nichymmerai fantais ychwaithar ei gydfyfyrwyr na neb arall yn herwydd ei fod yn ffafrddyn gan yr eglwysi, ac yn ennill poblogrwydd. Yr oeddgormod o'r gwir ddyn ynddo i ymchwyddo ac ymgolli mewnhunanoldeb. Yr oedd Price yn Sais da iawn yn myned ifewn i'r coleg. Pregethai Saesneg gyda rhwyddineb mawr.Rhagorai yn hyn ar ei gydfyfyrwyr yn gyffredin. Diaufod llawer gan londer ei yspryd a'i serchawgrwydd iwneyd â'i boblogrwydd yn ystod ei yrfa golegawl,oblegyd yr oedd y rhan luosocaf o'i gydfyfyrwyr ynnodedig am eu gallu a'u dawn i bregethu. Graddioddpump o honynt yn Ddoctoriaid, a llanwasant yr urddeb yn anrhydeddus. Nid ydym yn gwybod am un cyfnod ynhanes colegau y Cyfundeb Bedyddiedig yn y Dywysogaethpan y bu gyda'u gilydd gynnifer o ddynion ieuainc yn yrun coleg wedi codi mor uchel fel pregethwyr a gweinidogiony Gair, wedi llanw cylchoedd pwysig yn anrhydeddus yneu cyfenwad, ac hefyd wedi gwneyd gwasanaeth anmhrisiadwy mewn gwahanol gylchoedd i'w gwlad a'u cenedl. Niraid i ni er profi hyn ond nodi enwau yr Efengylydd sylweddol, y Parch. W. Hughes, Glanymor, Llanelli; y diweddar anwyl Hybarch Ddr. Benjamin Evans, Castellnedd,yr hwn fu am gynnifer o flynyddoedd yn ysgrifenydd manwla gofalus Cymmanfa y Bedyddwyr yn Morganwg, ac hefyda ysgydwodd drwy ei hyawdledd a'i ddoniau Gymru yn eibregethau; y Cristion dysglaer a'r pregethwr poblogaidd,y diweddar Barch. Nathaniel Thomas, Caerdydd; y diweddar alluog Barch. Daniel Morgan, Blaenafon; yr enwogDdr. Todd; yr hynafiaethydd medrus, y Parch. ThomasLewis, gynt o Risca, ac awdwr Esponiad y Teulu; y llenoraeddfed a'r ysgrifenwr enwog, y Parch. Ddr. Roberts,Pontypridd; yr hyawdl fardd-bregethwr, yr Hybarch Ddr.Morgan (Lleurwg), Llanelli; a thywysog pregethwyr Cymru, yr enwog Hybarch Evan Thomas, Casnewydd; acereill o gyffelyb ddefnyddioldeb ac enwogrwydd a ellid eunodi. Bu y rhai hyn oll yn gewri o bregethwyr, ac y maey rhai sydd yn aros o honynt felly etto, ond safai yr enwogDdr. Price yn fawr yn y coleg ac yn mhob lle arall ynmhlith y mawrion hyn: yr oedd fel tywysog yn mhlith ytywysogion. Cadwodd y safle hwn, yn neillduol fel gweithiwr diwyd ac mewn defnyddioldeb cyffredinol, hyd ei fedd.

PENNOD V.

DECHREUAD EI WEINIDOGAETH.

Dyddordeb myfyrwyr yn eu gilydd—Y Parch. B. Evans, Hirwaun, a'i ddiacon—Amgylchiadau yr alwad i Benypound—Y Dr. a Mr. Thomas Joseph—Ei urddiad—Ei hanes gan Lleurwg—Dechreu ei waith yn egniol—Anfanteision—Yr hen weinidog—Talu y weinidogaeth—Barn Cynddelw—Dyfyniad o lythyr— Hen arferion Eglwys Penypound—Y Plygain—Y Luther ieuanc—Barn y diweddar Barch. W. R. Davies, gynt Dowlais, amdano—Llythyr W. Davies, Ysw., Kansas—Shakespeare—Dal ar y cyfleusdra—Manteision er anfanteision.

YNN y flwyddyn 1843, ymsefydlodd un o gyd-lafurwyr Thomas Price, sef y Parch. Benjamin Evans, yn weinidog yn eglwys y Bedyddwyr yn Ramoth, Hirwaen, yn yr hwn le y cafodd ffafr yn ngolwg y bobl, ac y llafuriodd gyda llwyddiant mawr hyd ei symmudiad i Heolyfelin, Trecynon, Aberdar.

Yn y flwyddyn 1845, rhoddodd y Parch. W. Lewis ei ofal gweinidogaethol yn eglwys Penypound (yn awr Calfaria, Aberdar), i fyny, gan gymmeryd bugeiliaeth yr eglwys yn y Tongwynlas. Erbyn hyn yr oedd y Parch. B. Evans, Hirwaen, yn cael gwahoddiadau mynych i bregethu yn Aberdar, Cwmbach, a manau ereill, ac yn dechreu ennill dylanwad yn mhlith yr eglwysi y pregethai iddynt.

Fel y mae yn naturiol i weinidogion ieuainc deimlo a gweithredu yn garedig tuag at eu cyd-lafurwyr, felly yn gywir yr oedd yn hanes Mr. Evans. Yn gyffredin meddylia y myfyrwyr wrth sefydlu yn y weinidogaeth yn uchel am eu Alma Mater, a chredant lawer yn eu cyd-lafurwyr. Gwnant eu goreu yn aml i'w cynnorthwyo i gael lleoedd cyfaddas a chysurlawn. Yr oedd yn naturiol, gan fod hen eglwys barchus Penypound yn myned yn wag, fel y dywedir, i weinidog ieuanc Hirwaen wneyd ei oreu i geisio gweithio un o'i gyd-fyfyrwyr i fewn i'r gwagle, ac felly y gwnaeth. Yr oedd gan y Parch. B. Evans fantais fawr i wneyd hyny, gan fod un o'i ddiaconiaid, sef Mr. Evan Davies, gof, tad-yn-nghyfraith Mr. Walter Leyshon, wedi symmud o Hirwaen i Aberdar, ac wedi ymaelodi yn Mhenpound. Gyda Mr. Evan Davies, hefyd, yr adeg hono yroedd y pregethwyr yn aros. Gweithiai Evans, Hirwaen,ychydig gyda'i hen ddiacon dros Price, ac ni bu ei lafur ynofer. Un tro pan yr oedd Price yn supplyo yn Mhenypound,arosodd yno dros y Llun, ac yn yr hwyr gofynodd EvanDavies iddo a ddeuai efe gydag ef i'r cwrdd gweddi, agynnelid y noson hono yn nhŷ un o'r aelodau. AteboddPrice ar unwaith y deuai gyda phleser mawr, ac aeth. Yroedd y bobl yn falch i'w weled ynddo. Pan ddaeth ynadeg dechreu, ymaflodd Price yn y Beibl, darllenodd bennod, a threfnodd y cyfarfod mor ddeheuig a naturiol a pheba'i y gweinidog. Ar ol y cwrdd, dywedodd yr hen frawdThomas Dyke wrth Evan Davies, "Dyma'r dyn i ni,fachgen; y mae y dyn iawn wedi d'od o'r diwedd.""Yr ydych yn gywir yr un farn a minau," meddai EvanDavies, ac aeth yn garu brwd ar unwaith rhwng y llanc a'reglwys, ac hapus fu y briodas a'r bywyd maith a ganlynodd.

Adroddai yr anfarwol Ddr. Price helyntion ei ddyfodiadcyntaf i Aberdar wrth y brawd caruaidd a thyner ThomasJoseph, Ysw., Gwydr Gardens, Abertawe, gynt Tydraw,Blaenycwm, yn y flwyddyn 1885. Yr oedd Mr. Joseph wedidyfod i'r Eisteddfod Genedlaethol gynnelid y flwyddynhono yn Aberdar, ac arosai gyda ei anwyl ferch, Mrs. Dr.Hutchinson, Glanynys, am tua phythefnos. Yn ystod ycyfryw amser, gwahoddwyd y Dr. i dreulio prydnawn gyday boneddwr parchus, Mr. Joseph, a dyna fu gan mwyaf ynbwnc eu hymgomiad, "Hanes boreuol Aberdar a dyfodiad yr hybeirch Ddr. B. Evans a Dr. T. Price i'r dyffryn.'Addefai Dr. Price mai trwy ddylanwad y Dr. BenjaminEvans yr oedd efe wedi ei gyflwyno i sylw yr Eglwys ynMhenypound gyntaf. Bu Price yn pregethu fel supply o'rcoleg amryw weithiau yn y dyffryn, ac ystyrid ef gan yreglwysi yn bregethwr poblogaidd, ac yn ddyn ieuanc ynllawn o addewid. Yn yr un flwyddyn ag y rhoddodd yParch. W. Lewis ei ofal gweinidogaethol i fyny ynAberdar, rhoddwyd galwad unfrydol a charuaidd iThomas Price, yr hon a dderbyniodd yn galonog a ffyddiog,wedi ystyriaeth ddwys ac ymgynghoriad dyladwy â'i gyfeillion ac â'i athrawon parchus. Ymadawodd trwy ganiatad cyn terfyniad y flwyddyn ychwanegol estynwyd iddo.Yn mynegiad y Coleg am Gorphenaf, 1844, cawn aganlyn:—"Mr. Thomas Price sought and obtained the consent of the Committee to leave at Christmas, about sixmonths before the expiration of his fourth year, in order totake the charge of a destitute church at Aberdare, Glamorganshire, where a rapidly increasing population invited thelabours of an active and devoted minister." Dechreuoddar ei waith yn 1845, a neillduwyd ef i gyflawn waith yweinidogaeth ar y dydd cyntaf o Ionawr, 1846. Yn yBedyddiwr am Chwefror, 1846, cawn hanes Cyfarfodydd ySefydliad wedi ei ysgrfenu gan ei hen gyfaill mynwesolLleurwg, yr hwn sydd fel y canlyn:

URDDIAD

Mr. T. P. Price, diweddar fyfyriwr yn Athrofa Pontypwl, wediderbyn galwad unfrydol oddiwrth yr eglwys Fedyddiedig yn Aberdar,Swydd Forganwg, a gydnabyddwyd yn weinidog arni dydd Iau, Ionawr 1af, 1846. Y myfyrwyr a'r gweinidogion a weinyddasant ar yrachlysur dyddorawl oeddynt y canlynolion:—Yr hwyr blaenorol, darllenodd a gweddiodd Mr. J. P. Jones, myfyriwr, a Mr. D. Davies,Wauntrodau, a B. Williams, Tabernacl, Merthyr, a bregethasant.

Dydd Iau, am 10, dechreuwyd y cyfarfod gan Mr. Evans, Hirwaen; Mr. William Jones, Caerdydd, a draddododd araeth ar NaturEglwys Crist; yna Mr. Price a draddododd gyffes ei ffydd, yr hon oedd fer, cynnwysfawr, ac orthodox; a dyrchafodd Mr. Jones yr urdd weddi.Mr. Thomas Thomas, A.D., Coleg Pontypwl, a bregethodd i'r gweinidog ieuanc, a Mr. J. Richards, Pontypridd, a areithiodd ar ddyledswyddau yr eglwys tuag at y gweinidog.

Am 2 darllenodd a gweddiodd Mr. Thomas Evans, myfyriwr; aMeistri JJ. Saunders, Pontypwl, T. Thomas, Pontypwl (yn Saesneg),a J. Jones, Seion, Merthyr, a bregethasant.

Am 6, darllenodd a gweddiodd Mr. Edward Roberts, myfyriwr; aMeistri D. Jones, Caerdydd, a W. R. Davies, Dowlais, a bregethasant.Yr oedd hefyd y myfyrwyr canlynol yn bresenol yn yr urddiad oAthrofa Pontypwl, gyda y rhai a enwyd uchod, sef Mri. Thomas Williams, John Morris, J. R. Morgan (Lleurwg), a Lot Lee. Pan ddywedaf i ni gael arwyddion eglur fod Arglwydd Dduw byddinoedd Israel yn gwenu ar ein cyfarfod, ac wedi gweled fod genym brif ddoniau a galluoedd Bedyddwyr Cymru yn pregethu, hawdd gan y darllenydd gredu ini gael cwrdd da. Y mae Mr. Price wedi ymsefydlu yn Aberdar odan amgylchiadau cysurus iawn, y mae gwaith mawr o'i flaen, agwyddom fod ganddo yntau galon i weithio. Nis gallaf roddi heibioheb anerch fy anwyl gyfaill yn bersonol.

"Poed ffawd i ti, frawd cywir fron,—heddwch
A dyddiau iach, hirion;
Byd hawdd o dan nawdd ein Ion,
Ag elwch lon'd dy galon.

Dy waith mawr, da, gwna'n egniawl—a llon,
Wrth draith y Llyfr Dwyfawl;
Heb dderbyn wyneb swynawl
Heb ofn y gelyn—dyn na diawl.

"Gwyddost am aml agweddion—beiau du
Y byd hwn a'i droion;
Os cei lawer briwder bron,
Neu daith o'th gur, cadw'th goron.

"Y cyfaill anwyl, cofia—y cynghor hyn
Hyd derfyn dy yrfa,
Cadw y rheol Ddwyfol, dda,
A dawn iach Duw'n ucha'.

"Yna ni luddias ein Ion ei lwyddiant
Ar dy lwyswaith, a sicrheir dy lesiant;
Dy bobl arialus a felus folant
Dduw haelionus, a'i eirchion ddylynant,
A'th ddiwedd fydd cael sedd sant—gyda'r llu
Nefawl, i ganu Dwyfol ogoniant."


Y mae yr holl weinidogion a gymmerasant ran ynngwasanaeth yr urddiad wedi myned i ffordd yr hollddaear; ond y mae rhai o'r myfyrwyr oeddynt yn bresenolyn aros hyd heddyw, ac yn sefyll yn uchel ac amlwg arfuriau Seion. Y mae yr hybarch Ddr. Morgan, Llanelli,megys cedrwydden henafig, wedi dal yr holl ystormydd, acyn parhau i flodeuo fel y llawryf gwyrdd. Y mae y Parch.Ddr. Edward Roberts, Pontypridd, erbyn hyn wedi cyrhaedd oedran teg, etto, y mae yn dal yn gryf, ac y mae eigalon mor gynhes a'i yspryd mor selog ag erioed gydagwaith ei Dduw. O'r pymtheg a nodwn oeddynt yn bresedol yn urddiad Price, nid oes, mor bell ag y gwyddom,ond y ddau hyn yn aros. O! y fath gyfnewidiadau y maeangeu yn wneyd mewn deugain mlynedd. Yn fuan iawn,byddwn oll wedi ein hysgubo ymaith, a chenedlaeth arallyn gofalu am Arch Duw. Mae yn briodol fod yr ystyriaetho hyn yn peru i ni fod yn ddiwyd i weithio gwaith yr hwna'n danfonodd tra y mae hi yn ddydd: y mae y nos yndyfod pan na ddichon neb weithio.

Wedi i'r urddiad fyned heibio, ymaflodd Price yn eiwaith pwysfawr â'i holl egni. Yr oedd gwaith mawr yn ei aros yn yr eglwys, a gwaith mawr yn ei aros yn ei lyfrgell.Nid oedd yr eglwys yn Mhenypound yn awr ond gwanaidd, a'r gynnulleidfa yn gymharol fechan. Rhif ei haelodau ydoedd 91, rhwng y gangen yn Mountain Ash. Yroedd angen gweinidogaeth rymus yn Aberdar, yn ogystala Mountain Ash, i ddeffro y preswylwyr, a galw eu sylwat yr Efengyl. Am yr ychydig flynyddau cyntaf o'i weinidogaeth, blinwyd yspryd y gweinidog ieuanc gan gwerylonpersonol ychydig deuluoedd; ond yn fuan, darfu i ddylanwad ei weinidogaeth, ei fedrusrwydd i gyfarfod a thrinmaterion o'r fath, yn nghyd â'i benderfyniad diysgog, laddpob ymryson, diarfogi pob gelyn, tangnefeddu pob terfysgwr, a dysgu yr eglwys i fod yn “ddyfal i gadw undebyr yspryd yn nghwlwm tangnefedd." Nid ydym yn cofioei glywed yn achwyn llawer ar ddiffyg tangnefedd a chydweithrediad yn Nghalfaria; ond gwyddom fod ei hollsiarad am danynt yn gadael argraff ar ein meddwl ei fodyn eu caru â chariad dwfn a diffuant.

Er fod gan Price lawer o fanteision yn ei gylch newydd,gan fod yr ardalyn cyflym gynnyddu, a gwawr goleu masnachaeth megys yn tori ar y dyffryn, yr hwn wedi hyny aymagorodd yn un o'r lleoedd mwyaf poblogaidd a phwysigyn y Dywysogaeth, etto, yr oedd ganddo, fel mae yn rhyaml gan weinidogion ieuainc yn dechreu ar eu gyrfabwysig, anfanteision mawrion i'w gwynebu, a rhwystrauanocheladwy i'w gorchfygu.

Yr oedd ei gynweinidog wedi cael gafael ddofn ynmeddyliau yr eglwys, ac wedi ymgartrefu yn serch y gynnulleidfa, yn neillduol yr hen bobl, ac nid hawdd oeddganddynt ollwng eu gafael ynddo. Ymddangosai rhai o'rhen frodyr fel pe yn wrthwynebol a chroes i'w gweinidognewydd, ac ni ddangosent tuag ato y cydymdeimlad a allaiefe ddysgwyl ei gael ganddynt. Codai y teimlad hwnychydig oddiar y ffaith fod y gweinidog newydd yn cael acyn hawlio cyflog sefydlog, er nad oedd yn fawr, tra nadoedd yr hen yn cael ond yr hyn allai yr eglwys wneyd neua ewyllysiai roddi iddo. Yr oedd oes y cyflogau hebddyfod etto; ond nid oeddynt yn ystyried y gwahaniaethrhwng amgylchiadau y naill a'r llall. Yr oedd y Parch.W. Lewis,y cyn-weinidog, yn arch-adeiladydd (architect) celfydd. Bu hefyd, yn amser ei weinidogaeth yn Aberdar,yn flaenor y seiri yn Ngweithiau Dowlais. Derbyniaigyflog gysson am ei wasanaeth yno. "Efe," adroddai Mr. Thomas Joseph, yr hwn a'i hadwaenai yn dda, "a dynoddgynlluniau Capelau High Street a Sion, Merthyr; Twynyrodyn, Wenvoe, Caerdydd; capel cyntaf y Bedyddwyryn y Cwmbach, Aberdar, a llu ereill mewn gwahanolfanau "-fel, rhwng y cwbl, gallai Lewis fforddio byw hebond ychydig neu ddim oddiwrth yr eglwys, tra nad oeddgan Price yr adeg hono ddim ond ei gyflog at ei gynnaliaeth.Yr oedd yr hen frodyr yn Mhenypound wedi eu dysgu ynddrwg, ac wedi eu harfer i annghredu yn eu gallu i gyfranuat yr achos, ac yn neillduol at y weinidogaeth, o herwyddhyn.

Ofnwn fod llawer o eglwysi etto yn cael eu drygu yn ycyfeiriad a nodwn. Gwyddom am rai brodyr da wedigorfod dyoddef am flynyddau, ac wedi cael gofid a thrafterthi ddysgu y bobl i gyfranu at achos crefydd, a hyny am fodbrodyr cyfoethog, amaethwyr cefnog, neu fasnachwyr cyfrifol, wedi bod yn gweinidogaethu ar yr eglwysi o'u blaen, yrhai ni ddybynent ar y cyflogau gaent am eu llafur. Dylasaiyr eglwysi ddangos yn ol eu gallu eu serch a'u teimladauda at eu gweinidogion drwy eu cynnal yn deilwng o'r Efengyl. Dysgwylia llawer o honynt wasanaeth mawr aphregethu da am dal isel. Adroddai yr enwog HybarchRobert Ellis (Cynddelw) unwaith mewn cwrdd urddogweinidog yn y Gogledd hanes hen frawd, un o'i aelodauyn Nglynceiriog, yn dyfod ato ac yn dywedyd wrtho,"Nid ydych chwi, Robert Ellis, yn pregethu yn ddigon da ini yn y Glyn." "Dichon nad ydwyf," atebai Cynddelw,"ond gwrandaw hyn, yr ydych chwi am gael cig eidionwedi ei rostio bob Sabboth a phwdin, tra nad ydych yntalu ond am datws a llaeth, ie, tatws a llaeth.' Tebygydoedd yn Aberdar pan gychwynodd y Dr. yno, a chafoddddyoddef ychydig yn herwydd y cyfnewidiad yn y cyfeiriada nodwn. Ond ni pharhaodd pethau yn faith felly, oblegydyr oedd aelodau newyddion yn dyfod o fanau ereill. Cynnyddodd yr achos, a daeth yr eglwys yn alluog i roi cyflogdeilwng i'w gweinidog llafurus. Am hyn ysgrifena Mr.Wm. Davies, Laurence, Kansas, yn ei lythyr o'r hwn ydyfynasom yn flaenorol:—"Cofiaf hefyd eich llafur caledam ychydig dal arianol dros flynyddau—misoedd lawer ynolynol heb gael ond tua hanner yr hyn oedd wedi ei addawi chwi. Digon digalon oedd hyn, a buasai llawer un wedigosod ei ffidl yn y to,' neu geisio ennill cynnulleifa fuasaiyn talu yn well. Ond wedi hyny trodd y rhod, dylifai yr arian i fewn, a gallasai pobl feddwl y buasech wrth eichbodd pa fwyaf; ond pwy ond y chwi oedd y cyntaf iwaeddi, Halt, dyna ormod, nid wyf am gael cymmaint.'Nid yw y nodwedd ddiariangar i'w chanfod yn gyffredin, athrwy hyny y mae eich ymddygiad wedi gadael argraff arfy meddwl na ddileir." Yr oedd hefyd rai hen arferionwedi eu mabwysiadu yn yr eglwys, yn erbyn y rhai ygosododd y gweinidog ieuanc ei wyneb, nid yn fyrbwyll,eithr gydag ystyriaeth a gofal mawr, etto gyda phenderfyniad diysgog i'w symmud yn llwyr. Gwna un enghraifftyn unig y tro i'n gwasanaethu yma, gan ei bod yn ddigonol i ddangos nodweddiad y dyn ieuanc oedd wedi ymsefydlu yno. Cyn dyfodiad Price i Aberdar, arferid ar foreuaudydd Nadolig gadw plygain yn Mhenypound bob blwyddyn,pryd y traddodid pregeth ar yr achlysur. Ymgynnullai ygwahanol enwadau yno, a theimlent fawr sel drosti. Boreudydd Nadolig, 1845, sef wythnos cyn sefydliad Price yn ylle, efe oedd i wasanaethu yn y plygain, ac yr oedd dysgwyliad mawr wrtho fel gweinidog dyfodol yr eglwys.Daeth y boreu; yr oedd tyrfa fawr wedi ymgynnull ynnghyd. Ymddangosodd y dyn ieuanc yn y pwlpud ynamserol, a thraddododd bregeth alluog, yn yr hon y cymmerodd olwg eang ar y Nadolig—ei hanes yn nghyd âthraddodiadau cyssylltiedig ag ef. Condemniodd y plygainfel hen arferiad Babyddol, a chyhoeddodd ddydd ei chladdedgaeth yn y lle. Terfynodd y cyfarfod. Dychweloddllawer o'r gwrandawyr, yn arbenig yr hen bobl, i'w cartrefiyn siomedig a chlwyfedig. Triniai yr enwadau gwahanoly "Luther" ieuanc oedd wedi dyfod i'r lle, a chondemnientef am ei ymosodiad beiddgar ar yr hen ddefod a ystyrientyn dra chyssegredig; ond ni thyciodd dim ar Price. Honooedd y plygain olaf a gynnaliwyd yno, a dywedir mai hiydoedd y diweddaf a gynnaliwyd mewn capel Ymneillduolyn Aberdar. Dyma osodiad cyntaf y fwyell ar wreiddyngwyrgam cyfeiliornad gan Price; ond llwyddodd i syrthiollawer o honynt wedi hyny heb dramgwyddo ei gyfeilliongoraf, fel y gwnaeth yn yr amgylchiad a nodwn.

Yn mhen ychydig amser wedi dyfodiad Price i Benypound, adroddai y diweddar Barch. W. R. Davies, Caersalem, Dowlais, wrth amryw o'r brodyr un boreu Sabboth,yn nhŷ un o'i aelodau, rhwng ysgol y boreu a'r cwrdd un-ar-ddeg, "fod yn y weinidogaeth lawer o fechgyn fine iawn—yr oeddynt yn rhy fine i godi eu llef yn erbyn cyfeiliornadau, a'u bod, yn herwydd hyny, yn cael eu cyfrif gan ybobl yn ddynion nice iawn. Yr oeddynt yn cerdded trwyy byd yn eu hyslopanau (slippers.) Nid oedd swn eu cerddediad i'w glywed, ac nid oedd llawer yn gwybod am eubodolaeth; felly, yr oeddynt yn cael pob tawelwch athangnefedd. Ond am fechgyn gwrol a gonest oeddynt yncodi eu lleisiau yn uchel yn erbyn cyfeiliornadau yr oes, yroeddynt yn gorfod dyoddef llawer, ac mewn stormydd parhaus. Yr oedd bachgen bach wedi dyfod i Benypound o'rnodweddiad hwn, a Duw a'i helpo," meddai; "nid oedddim ond stormydd a thywydd garw o'i flaen, oblegyd niallai na ddywedai yn erbyn pob cyfeiliornad."

Ar adeg dathliad deugeinfed flwyddyn o lafur gweinidogaethol Dr. Price yn Nghalfaria, derbyniodd lythyrcaredig, buddiol, a phwrpasol oddiwrth un o'i hen aelodau,William Davies, Ysw., Lawrence, Kansas, a chan ei fodyn taflu goleu ar amgylchiadau yr eglwys yn adeg sefydliady Dr. yn weinidog arni, credwn mai nid anfuddiol fydddyfynu rhanau o hono yma. Hoffwn allu ei osod yn gyf-lawn; ond ofnwn ei fod yn rhy faith i wneyd felly ag ef.Darllena fel y canlyn:—

Lawrence, Kansas,. . . .

Rhagfyr 17eg, 1885

ANWYL FRAWD PRICE,—

Goddefwch i hen gyfaill eich llongyfarch chwi ar ben deugainmlynedd o'ch llafur gweinidogaethol yn Aberdar. I mi y mae ynrhywbeth swynol i edrych ar adeg deugain mlynedd' yn ol a'ramgylchiadau cyssylltiedig. Daethoch chwi i Aberdar yn nghyflawnder nerth eich ieuenctyd, eich arfau yn finiog, a'ch braich yn gadarn. Yr oedd ar yr eglwys a'r ardal eisieu gweithiwr; chwithau yn barod, ewyllysgar, ac awyddus i waith. Yr oeddwn i y pryd hwnw yn llanc tua 17eg oed, wedi bod yn ddigon hiryn athrofa yr Ysgol Sabbothol yn eglwys fach weithgar Hirwaun, i ddysgu gwerthfawrogitalent a llafur, ac wedi treulio blwyddyn yn Aberdar cyn eich dyfodiad chwi yno, a myfi oedd yr unig ddyn ieuanc yn yr eglwys ypryd hwn. Nid oedd un bugail i arwain y praidd, ond yn unigmewn enw. Nid oedd neb i drefnu na chynllunio pa fodd i ymosodar gestyll y gelyn, na neb i arwain y fyddin; ond dyma Ionawr 1af,1846, yn dwyn i fewn gyfnewidiad ar bethau. Yr oedd y dyn priodol yn meddu y cymhwysderau i gynllunio, y medr i arwain, y nertha'r ewyllys i dori trwy rwystrau, wedi ei gael, ac wele ef ar Ddydd Calan yn cael ei urddo yn weinidog ar yr eglwys—y calenig goreuallasai hyd y nod yr Arglwydd ei Hun roddi iddi. Deugain mlynedd! Ymddengys y dydd hwnw megys doe yn fy nghof, a thymachwi wedi eich gadael bron yn unig yn yr eglwys o'r oll oeddyntyn teimlo dyddordeb yn y gwasanaeth yr adeg hono.

"Nid annghofiaf byth eich llafur a'ch pryder y blynyddau cyntafo'ch gweinidogaeth—chwilio am aelodau sylweddol yn cyfateb i'renwau ar y llyfr; cael gafael mewn amryw mwy tebyg i feirw nabyw; y moddion a arferech: y rhwbio a'r symbylu er ceisio gweledarwyddion bywyd; yr ymdrech gyda'r Ysgol Sul; yr annogaeth i'rieuenctyd, &c. Yna, dyna ddechreu cynllunio i dori aden y gelyntrwy ymosod arno o'r gogledd, y dwyrain, a'r de, tra yr oedd corffy fyddin fechan a'i safle yn Mhenypound. Nid pob cadfridog feiddiai ranu ei fyddin fel hyn; ac nid heb lawer o bryder, ymgynghori, a gweddi daer, y darfu i chwi wneyd. Gwelsoch amserau ystormus, a rhai cyfarfodydd fuasai wedi lladd un llai gwrol; aelodau anfucheddol a grwgnachlyd a fynent gadw ar Enw Mab Duw a gwasanaethu Belial, y rhai, er hyny, a draddodwyd i Satan a dinystr ycnawd; ond nid heb ymladd cyndyn y gorchfygwyd hwy. Brodyrda, ond camsyniol eu barn a'u teimladau, fuont hefyd yn ddraenenyn eich ystlys dros amser, nes gorfod arfer moddion chwerw tuagatynt, er lles iddynt hwy a'r eglwys. Nid oedd neb yn fwy blin nachwi fod angenrhaid am y fath foddion, ac wedi blynyddau lawero ystyriaeth, nid wyf wedi gallu gweled un llwybr gwell nag a gymmerwyd; etto, teimlad blin oedd yr eiddoch chwi yr adeg hono, aconi bai eich gwroldeb anarferol a nerth Duw, buasech wedi rhoddifyny yr ymdrech, a gadael yr eglwys i ddychwelyd i'w chysgadrwydd cyntefig; ond trwy drugaredd, cawsoch nerth i sefyll rhuthriadau yr holl ystormydd, a dwyn yr achos allan i fuddugoliaeth.Daeth llwyddiant ar y llafur, sain cân a moliant yn Seion, cannoeddyn treisio teyrnas nefoedd. Yn lle ymladd, daeth gwaith magu ameithrin y genedigion newydd, a chyn hir, daeth heddwch fel yrafon."

Y mae yr uchod, ni a dybiwn, yn ddigon i godi ychydigar gwr llen amser i'n galluogi i edrych yn ol i ddechreuady deugain mlynedd y sonia yr ysgrifenydd am danynt, achael cipdrem ar amgylchiadau hen eglwys barchus Penypound pan gychwynodd Price ei yrfa weinidogaethol yno.Dechreuodd ei weinidogaeth yn yr eglwys, fel y dengys ydyddiad, yn nyfnder y Gauaf; ac yr oedd yn ychydig oAuaf ar yr eglwys pan y cafodd hi. "Sonia Mr. Davies am gysgadrwydd cyntefig," "amserau ystormus," am "aelodau grwgnachllyd," a "drain yn ystlys" y gweinidog.Arwyddion Gauafol ydynt y rhai hyn. Ni fu erioed galedach gauaf, ia ac eira oeraidd sydd yma, swn gwyntoedd acystormydd dinystriol. Ond er mor dywyll, nid oedd yGwanwyn yn mhell. Yr oedd y dydd cyntaf o Ionawr,feddyliwn, yn broffwydoliaethol o agoriad gwell amser, achyfnewidiad hapus i fod yn yr amgylchiadau. Yr oedd ydydd yn ymestyn; goleuni yn myned ar gynnydd. Yroedd y Gwanwyn mwyn oedd yn dynesu yn dyfod a dylifo fywyd yn ei gol; yr oedd yr haul i wenu a gwresogi;anian i'w gwisgo yn ogoneddus yn ei mantell werdd, a'rHaf toreithiog fel brenin coronog y flwyddyn i wneyd eiymddangosiad yn y man. Felly yr oedd ac y bu yn hanesPenypound yn ei chyssylltiad â'i gweinidog, Thomas Price.Oeraidd ydoedd ansawdd yr eglwys pan y cafodd hi. Iarhynllyd difaterwch a chysgadrwydd wedi ei meddiannu,grwgnachrwydd a chwerylon teuluol mal chwäon gauafolyn deifio egni a pherlysiau gardd yr Arglwydd. Ond yroedd dyfodiad Price ati, dan fendith Duw, i fod yn droady dydd iddi; goleuni ysprydol i fyned ar gynnydd; Gwanwyn moesol i ymagor arni, a'r Arglwydd i "ollwng eiYspryd i'w hadnewyddu fel gwyneb y ddaear," ac hauldiwygiad a llwyddiant crefyddol i goroni ei lafur ef a'reglwys. Am bwysigrwydd arbenig y cyfnod hwnw, ysgrifena y Dr. ei hun yn Juwbili Eglwys Calfaria:—"Ni fueglwys erioed mewn sefyllfa mwy cyfyng i roddi galwad iweinidog nag oedd eglwys Aberdar yn y flwyddyn 1845.Gallasai camsynied y pryd hwnw fod yn andwyol i achosy Bedyddwyr am oes gyfan. Yr oedd eisiau cael y dyniawn i'r lle priodol. Yr oedd Aberdar fel ardal yn mynedi gynnyddu yn gyflym iawn—y trigolion yn amlhau—cymmydogaethau newyddion yn cyfodi—dyeithriad laweryn tyru i'r lle—y llanw moesol yn dyfod i mewn yn donaumawrion—adeg bwysig i eglwys a gweinidog—naill ai cymmeryd gafael gref ar yr adeg, neu golli y cyfle am byth."Dywed Shakespeare:—

"There is a tide in the affairs of men,
Which, taken at the flood. leads on to fortune;
Omitted, all the voyage of their life
Is bound in shallows and in miseries."

Ni esgeulusodd y gweinidog ieuanc ei adeg, yr oedd yn barod i'r llanw mawr. Yr oedd yn gyfartal i'r amgylchiadau; ac fel cadfridog doeth a medrus, arweiniai y fyddinfechan oedd wedi ei hymddiried gan yr Arglwydd i'w ofalyn llwyddiannus. "Yn awr" yw yr arwyddair sydd ynargraffedig ar faner y doeth. "Yn awr" oedd arwyddairPrice, a llwyddodd yn fendigedig gyda'i eglwys ac yn mhobcylch arall y troai ynddo drwy hyny. Er fod gan Priceei anfanteision i ddechreu ei fywyd gweinidogaethol, ettoyr oedd ganddo lawer o fanteision, fel yr awgrymir ganddoef ei hunan. Gellir dweyd fod ei ragoriaethau, ar y cyfan,yn dra dysglaer. Yr oedd ei ddyfodol yn feichiog o addewidion. Yr oedd Aberdar yr adeg hono, fel y cawn nodi ynhelaethach yn y man, mewn ystyr yn yr esgoreddfa, yn caelei geni i fodolaeth odidog. Dechreu ymagor yr oedd, ac ynfuan daeth yn gyrchfan pobloedd lawer—yn ganolbwyntmasnach lo y Deheudir. Ac i ddangos hyn yn fwy effeithiol, cymmerwn olwg fanylach yn ein pennod nesaf ar Aberdar fel yr oedd ac fel y mae; yna dychwelwn at yr eglwysa'i gweinidog i'w gweled mewn amgylchiadau uwch a mwyffafriol.

PENNOD VI.

ABERDAR FEL YR OEDD AC Y MAE.

Prydferthwch Dyffryn Aberdar—Aberdar yn bentref bychan— Aberdar yn ymddadblygu—Gweithiau glo yn cael eu hagor— Gweithfeydd haiarn—Y boblogaeth yn cynnyddu Y gwahanol fyrddau–Adeiladau cyhoeddus at wasanaeth y dref—Y gwahanol gymdeithasau cyfeillgar—Achos crefydd yn llwyddo—Price yn cymmeryd rhan flaenllaw yn mhrif symmudiadau y dref—Dynion o fri wedi bod yn Aberdar—Barn Tegai—Ei arwyddeiriau, &c.

FEL yr awgrymasom yn niwedd y bennod ddiweddaf, barnwn, gan fod yr enwog Ddr. Price wedi gwneyd cymmaint o waith, yn lleol, gwladol, cymdeithasol, a chrefyddol, yn nyffryn poblog Aberdar yn ystod ei fywyd, mai nid anfuddiol i ni yma yw rhoddi ychydig o hanes y dref a'r cylchoedd, er cael ber olwg ar wrthddrych ein cofiant yn ei gyssylltiad â chyfodiad Aberdar a chynnydd y dyffryn mewn modd neillduol. Y mae amser, fel y nodasom mewn cyssylltiad arall, yn gwneuthur cyfnewidiadau mawrion. Ni chawn weled hyny yn fwy eglur nag yn nghynnydd rhyfeddol gyflym rhai o'n trefi, a chyfodiad sydyn pentrefi newyddion yn ngwahanol barthau ein gwlad. Felly y bu unwaith yn hanes dyffryn poblog Aberdar. Triugain mlynedd yn ol, ychydig amser cyn i Thomas Price wneyd ei ymddangosiad yma, gwisgai y dyffryn wedd hollol wahanol i'r hyn a wna yn bresenol. Yr adeg hono gwelid yr afon fechan risialaidd Cynon yn cymmeryd ei gyrfa ogledd—orllewinol i'r de-ddwyreiniol, i waered tuag afon Taf, trwy ganol dyffryn gwastad a ffrwythlawn. Ar ei glenydd ac yn ymestyn yn ol hyd wadnau y bryniau a'r mynyddoedd uchel o bob tu iddi, yr oedd eang feusydd a dolydd breision a thoreithiog—ïe, miloedd o erwau o dir gwrteithiedig, er fod yn fynych i'w gweled yma a thraw elltydd mawrion, coedydd amrywiol, a derw calongaled, yn estyn eu breichiau preiffion a nerthol, ac weithiau megys yn ymaflyd y naill yn y llall nes yr oeddynt, pan eu hysgydwid gan yr ystormydd brochus, fel cynnifer o filwyr cawraidd mewn ymgyrch â'u gilydd. Y rhai hyn oll oeddynt yn ychwanegu at amrywiaeth, ac felly yn mwyhautlysni a gogoniant, y dyffryn. Gwelid ambell balasdy gorwych yma a thraw, yn ymddangos yn urddasol fel breninanneddau gwasgarog y cwm. Yr amaethdai mawrion awelid yn gyffredin wrth wadnau y mynyddau a thraed ybryniau yn ngwahanol gyfeiriadau y dyffryn. Prydferthoedd yr olygfa ar y bythynod gwyngalchedig welid ar lechwedd y bryn, y pant, a'r uchelfan. Cestyll y gweithwyroeddynt, ac er eu bod yn is eu penau ac yn llai eu maintnâ'r tyddynod a'r palasdai, etto, hoffent hwy, a chanaillawer un mewn alaw bêr iddynt yn ngeiriau y bardd:—

"Mae 'mwthyn fel yr eira gan fynych liwiad calch,
A'i gylchion oll yn daclus; wyf fyth o'i drefnu'n falch,
Mae o'r tu fewn yn gynhes, yn syber, glân, a syw,
Yn annedd hardd gysurus, gall brenin ynddo fyw."

Yn yr adeg hono yr oedd Aberdar yn bentref cymharolfychan, a thrysorau anmhrisiadwy y dyffryn a'r mynyddoeddi raddau yn guddiedig; llawer o'r trigolion yn amaethwyrbychain ond cyfrifol—amryw o honynt yn preswylio areu tiroedd eu hunain, tra yr oedd ereill yn dal rhwymysgrifau dros fywyd ar ardreth fechan—y peth nesaf i ddim.Ond yn fuan daeth cyfnewidiad ar bethau; mewn gwirionedd, yr oedd y cyfnewidiad wedi dechreu cymmeryd lle.Yr oedd Aberdar eisoes mewn cyflwr o draws—symmudiad.Yr oedd amryw weithiau glo wedi dechreu cael eu hagor.Er na chynnyddodd y gweithiau hyn fawr yn y plwyf oddieithr ychydig leflau a nifer bychan o byllau i ddiwalluangenrheidiau gweithfeydd haiarn Hirwaun hyd y flwyddyn1837, pryd y dechreuodd T. a W. Wayne, Ysweiniaid, agorgwaith mawr yn Nghwm Nantygroes, yr hwn oedd y gwaithglo môr cyntaf yn y plwyf. Hyd yr adeg hono ni weithidy glo yn y cwm ond at wasanaeth y gweithiau haiarn. Yblynyddau canlynol agorodd Mr. Powell ei byllau ar ystâdy Dyffryn; ac ar ol hyny agorodd Mr. D. Davis, Ysw.,Hirwaun y pryd hwnw, wedi hyny Blaengwawr, waith glomôr rhagorol ar dir Blaengwawr, a dechreuwyd anfon gloymaith yn mis Hydref, 1844. Yn ganlynol i hyny agoroddMr. Thomas, Waunwyllt, waith glo ar dir Lletty Siencyn;wedi hyny agorodd Nixon ei waith glo ar dir y Werfa,yn cael ei ddylyn gan Mr. D. Williams, Ynyscynon, gydagagoriad ei waith glo ar dir Ynyscynon: Mri. Sheppard, Evans, a Morris, yn Nghwmaman; a Mr. Thomas J. Josephyn rhandir Llwydcoed. Yn Rhagfyr, 1844, dechreuwydpwll glo arall gan Mr. Powell heb fod yn mhell oddiwrthweithiau y Gadlys, a daeth y glo cyntaf i fyny yn 1846. Ary 15fed o Fawrth, 1845, dechreuodd Mr. Crawshay Bailey,Ysw. (A.S. dros y Casnewydd, Mynwy, y pryd hwnw),suddo pwll glo yn agos i'r lle y bwriedid codi gweithfeyddhaiarn Aberaman. Gyda'r gweithiau glo mawrion a lluosogoeddynt yn cael eu hagor yn y dyffryn yn y cyfnod a nodwn,yr oedd hefyd weithiau tân ac alcan wedi ac yn cael eu codi.Yr oedd gweithiau haiarn Abernant a'r Llwydcoed wedi euprynu gan Mr. Richard Fothergill a'i Gyf., y rhai a eangwydyn raddol y naill flwyddyn ar ol y llall, hyd o'r diwedd ydaeth y cwmni yn alluog i gyflogi dros 4,000 o weithwyr.Yr oedd gweithiau haiarn y Gadlys yn cael eu cario ynmlaen gan Mri. Wayne a'i Gyf., ac yn 1850 cychwynasomy gwaith Alcan, yn yr hwn y cyflogid nifer luosog o weithwyr. Mawrth y 14eg, 1845, dechreuwyd gwaith haiarn ardir Aberaman gan Mr. Crawshay Bailey.

Gan fod Aberdar ar gynnydd mor ddirfawr yn masnachy glo môr, aeth y gamlas, yr unig gyfrwng trosglwyddiadnwyddau o Aberdar i Gaerdydd, y porthladd agosaf, yn rhyfach i wneyd y cludiad; ac yn y flwyddyn 1845 dechreuwyd gwneyd Cledrffordd Dyffryn Aderdar, ac ar y dyddcyntaf o Awst, 1846, yr agorwyd hi i drafnidiaeth. Cyrhaeddai hon o Heol Melin, Llwydcoed, hyd y Basin Isaf,tuag wyth milldir, lle y cyssylltai â'r llinell a redai o Gaerdydd i Ferthyr. Creodd y gledrffordd hon adfywiad mawryn masnach y plwyf, ac yr oedd yn gyfleusdra rhagorol ideithwyr. Ar yr 28ain o Awst, 1847, dechreuwyd gwneydCledrffordd Cwm Nedd, yr hon a elwid yn GledrfforddDyffryn Nedd; a phrofodd wedi ei hagor, yn gystal aChledrffordd y Taff, o ddefnyddioldeb a mantais annhraethadwy i'r cylchoedd yn gyffredinol, fel y gwelir oddiwrth yffigyrau canlynol, y rhai a ddangosant yn eglur gynnyddenfawr trafnidiaeth yn y dyffryn. Yn y flwyddyn 1815,gwnaed o haiarn yn y plwyf i gyd 20,800 o dynelii; yn yÅwyddyn 1853, gwnaed gan yr Aberdare Works yn unig,35,202 o dynelli; gwneuthuriad o haiarn yn yr holl blwyfyn y flwyddyn 1841 oedd, 25,000 o dynelli; yn y flwyddyn1852, 82,000 o dynelli. Anfonwyd allan o lo yn 1841,12,000 o dynelli; yn 1852, 500,000; cyfanswm 1860,1,745,813 o. dynelli; yn 1866, 2,188,571. Codwyd yn Mhlwyf Aberdar o lo yn y blynyddau o 1870 hyd 1884dros un filiwn ar ddeg ar hugain o dynelli, yn gwneyd ar gyfartaledd dros 2,000,000 yn flynyddol. Tra yn ymwneydag ystadegaeth, dichon na fydd ffigyrau yn dangos cynnyddpoblogaeth Aberdar ddim yn annyddorol yma.

BlynyddauPoblogaeth
1841. . . . . . . .6,471
1851. . . . . . . .14,998
1861. . . . . . . .32,299
1871. . . . . . . .37,704
1881. . . . . . . .35,513


Oddiar y dyddiad diweddaf y mae y boblogaeth wedi cynnyddu amryw filoedd.

Y mae y ffeithiau a'r ffigyrau uchod yn ddigon, ni agredwn, i ddangos y cynnydd rhyfeddol y rhaid fod wedicymmeryd lle yn Aberdar a'r cylchoedd am y blynyddaucyntaf wedi dyfodiad y Dr. i'r dyffryn; ac o ran hyny nifu ond cynnyddu yn hanes y cwm hyd yr ychydig flynyddau olaf yn ei fywyd. Hefyd, gellir casglu oddiwrth yffeithiau a nodasom am agoriad cynnifer o weithfeyddmawrion gyda'u gilydd bron yn nghylch y cyfnod y daethy Dr. i'r lle, pa mor gyflym y rhaid fod y cynnydd hwnw,ac nid yw yn rhyfedd i'r Dr. ysgrifenu y brawddegau arwyddocaol a chynnwysfawr, "Aberdar fel ardal yn mynedi gynnyddu yn gyflym iawn—y trigolion yn amlhau—cymmydogaethau newyddion yn cyfodi—dieithriaid lawer yntyru i'r lle," &c. Yn fuan aeth y pentref cymharol fychanyn dref fawr, a'r twyni meillionog y soniasom am danynt agladdwyd dan bentrefi mawrion o anneddau gorwych, ynmhlith y rhai y gwelid capelau lluosog ac eglwysi yndyrchu eu penau fel tyrau cyssegredig, yn brawfion o'ryspryd crefyddol oedd yn bodoli ac yn myned ar gynnyddgyda chynnydd y trigolion yn y pentrefi hyn. I fyny oeddcyfeiriad pob peth yn Aberdar, nid yn unig yn fasnachol acmewn poblogaeth, ond hefyd mewn ystyron ereill,—i fynyyn ddinesol, cymdeithasol, gwleidyddol, ac yn grefyddol.Sefydlwyd yma Fwrdd Iechyd Lleol, a Bwrdd y Gwarcheidwaid yn gyssylltiedig ag Undeb Merthyr. Talwyd sylwneillduol i addysg, ac agorwyd yma Ysgolion Brutanaidda Chenedlaethol, hyd syfydliad ysgolion y Bwrdd Addysgyn 1870. Adeiladwyd neuadd gyfleus at wasanaeth cyhoeddus y dref yn High Street, yr hon, yn herwydd cynnydd rhyfeddol gyflym y lle, a aeth yn rhy fychan, acadeiladwyd un eangach yn Canon Street, a elwir yn NeuaddDdirwestol. Yn 1853 adeiladwyd Marchnad-dy rhagorolyn nghanol y dref, yr hwn sydd lawer mwy o faintioli na'rhen Farchnaddy. Gellir dweyd am dano fel y dywedoddAthan Fardd:—

"Tŷ mawrwych, tô a muriau—osodwyd
Ar sywdeg golofnau
I ddynion drin meddiannau
O'r ych hyd y bresych brau."

Fel yr oedd y dref yn ymgynnyddu, yr oedd y BwrddLleol yn ofalus gyda'r cynlluniau, fel y mae y lle wedi eiadeiladu, ar y cyfan, yn dra chyfundrefnol, a gellir dweydfod Aberdar yn un o'r trefydd gweithfaol prydferthaf aglanaf yn y Dywysogaeth. Goleuir hi â nwy rhagorol, achyflenwir y dref a'r dyffryn braidd gan ddyfroedd iachusolo'r dwfr-weithfaoedd mawrion perthynol i'r plwyf. Ceiryma hefyd Gladdfa Gyhoeddus eang a chyfleus; ac yn yflwyddyn 1869, agorwyd Parc Cyhoeddus Aberdar, yr hwn,dywedir, sydd un o'r rhai mwyaf godidog a phrydferth yny Dywysogaeth. Mesura tua 49 o erwau o dir. Sefydlwydyma hefyd nifer lluosog o gymdeithasau cyfeillgar a budd-gymdeithasau annybynol, yn mhlith y rhai y ceid yrOdyddion, Iforiaid, Derwyddon, Alffrediaid, Coedwigwyr,yn nghyd â llawer o glybiau arian, fel eu gelwir, y rhaiydynt wedi profi yn dda iawn i laweroedd o bryd i bryd.Cafodd achos crefydd, yn yr un modd, sylw boreuol adyladwy yma. Mynodd yr Eglwys Sefydledig, fel arfer,le bras yn y pentref yn gynnar. Cawn yr Undodiaid, yMethodistiaid, y Bedyddwyr, yr Annybynwyr, y Wesleyaid, y Presbyteriaid, Mormoniaid a Phabyddion yn codieu hallorau—yr oll yn egniol i ennill i'w rhengau, acychwanegu beunydd at eu nifer a'u nerth.

Yr ydym wedi codi y llen i gael cipdrem ar faes llafur ydyn ieuanc y dywedasom ei fod wedi dechreu ei weinidogaeth yn Aberdar. Yr ydym, mewn ystyr, wedi agor yporth, ac yn gwahodd y sylwgar i edrych ar y prif olygfeydd a gyfodant y naill ar ol y llall yn y cemmaes y bu uno feibion dewraf Cymru yn cyflawnu gorchestion clodusynddo; ond wrth wneyd hyn, dymunwn eu hadgofio naallwn fynegu "dim o'r hanner," nac ychwaith gyfeirio ondat ychydig o'r gweithredoedd daionas a dyrchafol a gyflawnodd efe yn y cylchoedd hyn yn ystod ei lafur diflinoa difwlch am ddeugain mlynedd. Teimlwn nad ydywyn feiddgarwch ynom i ddywedyd na weithiodd neb ynAberdar, a thros Aberdar a'r dyffryn yn mhob cylch, achyda phob symmudiad, yn debyg iddo ef. Nid yn unigy cyflawnai ei waith yn onest ac effeithiol fel gweinidog yrEfengyl—yn ffyddlawn i'w swydd, i'w Feistr, i'w eglwys,ac i'w gyfenwad crefyddol—ond gwnaeth fwy na hyny:cafwyd ef yn ddinesydd godidog, yn gymdeithaswr rhagorol, yn arweinydd cywir, a phob amser yn amddiffynwr ygwirionedd yn mhob cylch y troai ynddo.

Cafodd Aberdar o bryd i bryd ddynion o nôd a dylanwadyn perthyn i bob dosparth. Cafodd berchenogion gweithfaol goludog ac urddasol, marsiandwyr a masnachwyrllwyddiannus a chyfoethog, dysgedigion gwych, beirdd allenorion addfed, cerddorion enwog, pregethwyr poblogaidd a gweinidogion diwyd a gofalus oll yn cydlafurio igodi y dref yn gymdeithasol, gwleidyddol, moesol, a chrefyddol; ond gwyr y rhai a adwaenent yr enwog Ddr. ynanterth ei nerth, nad ydym yn gorddweyd wrth fynegu eifod "wedi rhagori arnynt oll. Edrychai pawb ato ef.Cafodd yr arweinyddiaeth un adeg yn hollol yn ei law eihun braidd yn mhob cyfeiriad, ac ystyrid ef, fel y dywedaiy diweddar enwog Hugh Tegai mewn llythyr at ei hengyfaill talentog Hwfa Môn, gan bawb braidd fel " breninAberdar." Ennillodd y safle hon drwy ei fod bob amserâ'i lygad yn agored, ac yn gwylio symmudiadau pob pethbraidd o bwys yn y dref a'r wlad. Pwy bynag fyddai ynol, yr oedd efe yn sicr o fod yn mlaen, ac yn cymmeryd yrhan fwyaf blaenllaw gyda gwahanol symmudiadau. Nisgallai fod yn segur. Ffieiddiai ddiogi a musgrellni mewnunrhyw gyssylltiad. Yr oedd "Ymdrech" yn air mawryn ngeirlyfr ei fywyd. Yr oedd "Llwyddiant" gyda phobachos yn un o'i brif arwyddeiriau; gwelid hwn bob amseryn amlwg ar faner ei weithrediad, ac i'w sicrhau, nid oeddbod yn ngrym y tân mewn brwydrau poethion yn ddim iddo ef.Brwydrodd lawer yn Aberdar a thros Aberdar.

Cafodd y dref ynddo ddyn bob amser yn gyfartal i'r dirangenion alwent am ei wasanaeth; cafodd y tlodion ynddogyfaill tyner a charedig; cafodd y cymdeithasau cyfeillgaref yn arweinydd cywir a ffyddlawn; cafodd Ymneillduaethynddo ef amddiffynydd diledryw. Lliwiodd yn ddiau wleidyddiaeth y dref a'r dyffryn yn uchel â rhyddfrydiaeth bur, yr hon a gafodd ynddo ef arwr diguro, bob amser a'i lef ynnerthol o'i phlaid, a holl bwysau dylanwad ei fywyd godidog drosti yn barhaus. Rhag meddwl a chredu o'r annghynnefin â hanes bywyd yr enwog Ddr. ein bod yn eithafol, acyn priodoli iddo yr hyn na ddylem, galwn i'r bwrdd dystiolaethau diamwys niferi o'i weithredoedd clodwiw mewnffordd o frwydrau tanllyd dros iawnderau gwahanol ddosparthiadau o fodolion yn Aberdar a'r cyffiniau, a chaiff

hyny ffurfio rhan bwysig yn ein pennod ddylynol.

PENNOD VII.

PARHAD ABERDAR.

Price ac Aberdar—Yn cydymddadblygu—Ymladd yn erbyn y Dreth Eglwys—Amddiffyn merched a gwragedd Cymru—Cableddau y Llyfrau Gleision—Tystiolaeth anwireddus y ficer—Cyfarfod cyhoeddus i ymdrin â'r mater—Ei araeth yn y cyfarfod—Ymosod ar y Rustic Sports—Derbyn tysteb—Pryddest o glod iddo—Y ficer yn gwrthod claddu plentyn Mr. John Lewis—Areithio tu allan i'r fynwent—Claddu y plentyn—Gorfodi y ficer i gynnal gwasanaeth boreuol yn yr Eglwys—Ymdrech o blaid addysg—Ei ysgrif yn "Seren Cymru" ar bwnc y Reform Bill—Yn derbyn diolchgarwch Derby a Bright—Ei gyssylltiad agos a'r glowyr a'r gweithwyr tân—Ei ysgrifau, &c.—Yn aelod o'r gwahanol fyrddau—Aberdar yn wahanol i'r hyn ydoedd ar ddyfodiad Price yno.

FEL y dangosasom yn barod yn y bennod flaenorol, yr oedd Aberdar yn ymagor, ac ar ei hesgynfa yn mhob ystyr pan ddaeth Price i'r dyffryn. Yr oedd yntau fel person yr un fath. Yr oedd ynddo blygion ar blygion i ymagor, a meddai allu diamheuol i gerdded yn gyfochrog ag amgylchiadau lleol, yn gystal a nerth a chyflymdra i redeg yn mlaen gyda diwygiadau yr oes. Un o'i ragoriaethau penaf ydoedd ei fod yn ymgyssylltu bob amser, fel yr awgrymasom yn barod, â materion cyhoeddus y dref a'r gymmydogaeth, a phrofai ei hun yn feistr yr amgylchiadau pan yn gwneuthur felly. Ond yr oedd, yn fynych, drwy hyny, yn gosod ei hun yn agored i erlidiau gelynion, a chyfeillion weithiau. Gallai ddweyd mewn rhai brwydrau y bu ynddynt, fel Paul, ei fod " Mewn blinderau yn helaethach, ac mewn gwialenodiau dros fesur;" ond gallai ddyoddef y cwbl yn amyneddgar, ac anwybyddu llawer o wrthwynebiadau er mwyn yr egwyddor neu yr egwyddorion y brwydrai drostynt. Meddai lawer iawn o annybyniaeth a phenderfynolrwydd di-ildio. Ei frwydr gyntaf oedd yn erbyn y Dreth Eglwys, yn yr hon ni fwriodd efe arfau hyd nes y cafodd y Parch. John Griffiths, M.A., ficer y plwyf, i benderfynu ei "chladdu am byth." Rhywbeth felly oedd eiaddewid i'r Dr.

Wedi hyny, pan gyhoeddwyd cableddau y LlyfrauGleision ar ferched a gwragedd Cymru, yn nghyd â chyflwraddysg a moesolrwydd Aberdar, daeth allan fel cawr i'whamddiffyn gyda Ieuan Gwynedd ac ereill. Am hyndywed un awdwr pan yn ysgrifenu ar Aberdar:—

"It should not be forgotten that here was cradled that spirit ofnational protest against misrepresentation of Welsh character whichresulted in such complete refutation of the slight put upon Wales bythat strolling company of Commissioners who were sent by the Government of the day to see what defects were socially visible in Wales, andwho complacently reported upon which they did not see. Aberdare,with Dr. Price and Ieuan Gwynedd to the forefront, came to the rescue,and, with flinchless vigour, flung back the stigmas with which theseCommissioners (called gentlemen) unjustly bespattered us as a nation.Ieuan Gwynedd sleeps at Groeswen; Dr. Price is yet a felt force inWelsh circles; the men and women whom they relieved of odium aregrateful to them."

Rhoddwyd y wybodaeth gamddarluniol a chamarweinioly cyfeirir ati uchod gan y Parch. J. Griffiths, Ficer yPlwyf, i Mr. Lingen, un o ddirprwyaeth y Llywodraeth.Nid anfuddiol fyddai i ni osod adroddiad y ficer yma, arhoddi byr olwg ar y cwrs gymmerodd Price yn ei wyneb.

"My Parish, in its present uneducated condition, is certainly retrogading. Nothing can be lower, I would say more degrading, thanthe character in which the women stand relative to the men. Themen and the women, married as well as single, live in the samehouse, and sleep in the same room. The men do not hesitate towash themselves naked before the women; on the other hand, thewomen do not hesitate to change their under-garments before themen. Promiscuous intercourse is most common—is thought of asnothing and the women do not lose caste by it. Generally speaking,there is very little sobriety. The men drink in beershops, and areoccasionally joined by the women; but on the whole, the womendrink at home. Saturday night and Monday night, and also Sundaymorning, are always spent in drinking if the times are good. If itbe after pay the carousal is generally extended till Tuesday or evenWednesday. Nothing can be more improvident than the miners orcolliers. These religious feelings are peculiar to the temperament of the Welsh. They are very excitable—have nothing like what is considered elsewhere a disciplined religious mind. They go to the meeting at six, come out at eight, and spend the remainder of the eveningin the beershop. There is no religion whatever in my parish, atleast, I have not yet found it.

"Signed, JOHN GRIFFITHS, Vicar."

Yn ngwyneb y fath gyhuddiadau pwysig, penderfynoddPrice roddi hèr i'r ficer i'w profi. Yn y Principality, papyrein hen gyfaill, Mr. Tudor Evans, yn awr o Gaerdydd, amMawrth y 7fed, 1848, cawn hanes y cyfarfod mawr a gynnaliwyd mewn perthynas i'r drafodaeth, yr hwn, yn ol yradroddiad, oedd y cyfarfod mwyaf brwdfrydig a lluosog agynnaliwyd yn Aberdar erioed cyn hyny. Bernid fod ynddotua 2,500 o bobl. Yr oedd y cyfarfod wedi ei alw drwy eihyspysu yn y modd mwyaf cyhoeddus possibl. Dywediryn y mynegiad fod y Parch. Thomas Price wedi gwahodd y ficer i ddadleuyr achos yn gyhoeddus; ac ymgymmeroddâ gwrthbrofi holl adroddiadau Griffith i'r Ddirprwyaeth.Ar noson y 23ain o Chwefror, 1848, y cynnaliwyd y cyfarfoddywededig. Derbyniodd hèr Price yr atebiad byreiriogcanlynol oddiwrth y ficer:—"I will never give you thathonour." Yn gweled fod y ficer yn osgoi y gorchwyl anhawdd iddo amddiffyn ei gyhuddiadau, awd yn mlaen â'rcyfarfod dan lywyddiaeth yr enwog D. Williams (AlawGoch), Ysw., yr hwn wrth gymmeryd y gadair a sylwoddfod y ficer yn berson hollol anaddas i roddi tystiolaeth arAberdar, gan ei fod yn gymharol ddyeithr i'r lle. Ynaaeth Price, arwr y cwrdd, yn fanwl ar ol y cyhuddiadauwnaed gan y ficer, ac a'u gwrthbrofodd un ac oll. Gan fodeu nodiadau i raddau yn ddarluniadol o hono, gosodwnychydig o honynt yma:—

"Nid wyf yn gwadu nad oes gormod o feddwdod yn Aberdar; ymae llawer, mae yn wir, yn hoff o yfed yn ormodol, ond nid oeddmeddwdod yn nodweddiadol o weithwyr Aberdar (clywch). Nid oeddy Sabbath yn cael ei dreulio i yfed; nid oedd un o 800 yn mynychu ytafarndai. Gyda golwg ar y merched a'r gwragedd yn yfed, galwa amdystiolaeth Sais o'r enw Samuel Garret ar y mater. Gwada Garrettyr adroddiad disail fod y gwragedd i gyd yn dueddol i ymyfed. Nidoedd meddwdod yn nodweddiadol o wragedd a merched Cymru. Igyfarfod â'r cyhuddiad o wastraff ein mwnwyr a'n glowyr, dywedaf fod pobl Aberdar wedi sefydlu yn y 40 mlynedd diweddaf ddim llai nag o 40 i 45 o gymdeithasau oedd a'u hamcan arbenig i ddarparu ar gyfercystudd ac angeu. Yr oedd eu cyfraniadau i'r cymdeithasau hyn yn£200 yn fisol, ac yn £2,400 yn flynyddol. Hoffwn gael arwain Mr.Griffiths o Hirwaen i Aberdar, mewn trefn i ddangos iddo o 1,500 i1,800 o dai ydynt wedi eu codi gan y gweithwyr yn unig yn yr ychydigflynyddau diweddaf. Nid oedd y ffaith hon yn siarad llawer yn erbynarferion darbodus y dosrarth gweithgar. Yr oedd pobl Aberdar at eurhyddid i addoli Duw yn ol eu tueddiadau a chyfarwyddiadau eu cydwybodau eu hunain. Yr oedd yn rheol sefydlog gan yr eglwysi Ymneillduol i ddiarddelu pawb elent o'r cymundeb i'r dafarn. 46 mlynedd yn ol, nid oedd ond un capel yn y lle, ond yn awr yr oedd 15. 40 mlynedd yn ol 1 Ysgol Sabbothol oedd yn y lle, ond yn awr yr oedd ganddynt o 20 i 25. Am foesolrwydd, daliai efe y safai gwragedd a merched Aberdar mor uchel gyda golwg ar burdeb moesol ag unrhywddosparth o wragedd a merched yn y deyrnas. Cyfeiriai y gynnulleidfaer prawf o hyny at y ffigyrau gyhoeddwyd ar y mater gan ei gyfaill, Mr. Evan Jones (Ieuan Gwynedd), Tredegar."

Wedi sylwi yn fanwl ar holl gyhuddiadau y Ficer (nidydym yn gosod ond talfyriad o honynt yma), a'u gwrthbrofi bob yn un ac un, gosodwyd gerbron y cyfarfod amrywbenderfyniadau pwysig, y rhai, er rhoddi mantais i'r darllenydd i ffurfio rhyw syniad am y teimladau gynhyrfwydyn nhrigolion Aberdar am ymddygiad annheilwng y Ficer,a osodwn yma yn yr iaith Saesneg:——"The Rev. Thomas Price moved, and D Davis. Esq., seconded:—

"I. That this meeting, having read the evidence of the Rev. JohnGriffiths, Vicar, contained in the Report of the Commissioners onEducation in Wales respecting the state of education and morals in theParish of Aberdare, feels surprised that he, being then a stranger,having resided but a few days amongst us, should have deemed himselfcompetent to furnish the information requested by the Commissioners;while at the same time it begs most distinctly to deny the whole of hisstatements, if they are intended as a description of the character,position, knowledge, habits. and general deportment of the inhabitantsof this place, they being as general statements utterly void of truth.And this meeting begs to express its decided disapproval of his conduct."Moved by the Rev. W. Edwards, seconded by Mr. W. Lewis,miner:—

"II. That this meeting, while anxious for a better system of education in the place, still considers the report of Mr. Lingen incorrect, unfair. and sectarian, it being founded on the evidence of personsadverse to the feeling and wishes of the vast majority of the inhabitants of the Parish, and strongly prejudiced in favour of one particular church, while statements made by others have been entirely suppressed.

"Moved by Mr. W Thomas, seconded by the Rev. D. Price, Siloa:—

"III. That should the contents of these reports be brought underthe notice of Parliament, this meeting respectfully but earnestly desires that Sir John Guest, the worthy representative of this place, in his place in the House of Commons, give a direct contradiction to the statements made therein concerning the people of Aberdare.

"Moved by W. Williams, seconded by E. Richards:—

"IV. That this meeting is of the opinion that the evidence of the Rev. John Griffith, together with that of Thomas W. Booker, Esq, Melingriffith, should be printed in the Welsh Language, and circulated inthe Parish, it being but fair that Mr. Griffith should tell his parishioners in their own language what he has already told the Governmentrespecting their state of morals, and it being but fair that Welshmenshould know of the excellent character given them by Mr. Booker, hebeing an Englishman, and an extensive employer of labour in theCounty

"Moved by Rev. B Evans, seconded by Mr. David Williams:—

V. That a copy of these Resolutions be sent to the Committee ofthe Council on Education, to Lord John Russell, to the Principality, tothe Cardiff and Merthyr Guardian, and to the Times."

Gwasanaetha yr uchod i ddangos cyfeiriad meddwl athueddiadau naturiol Thomas Price; ond nid yw hynamgen swn awchlymiad ei gleddyf. Y mae gyda y fyddinyr ymhyfrydai fod gyda hi ac yr ymddiriedai iddi, sef ydosparth gweithgar. Eisteddai pob peth yn bur naturiolond cael Price i'r gweithwyr, a'r gweithwyr i Price.

Brwydr arall a ymladdodd yn ddewr yn Aberdar oeddbrwydr y "Rustic Sports," fel ei gelwid hi. Yn y Gwron,papyr a gyhoeddid yn Aberdar (yr hwn a olygid gan y Dr.),am Ionawr y 30ain, 1858, cawn hanes cyflawn o honimewn erthygl ddoniol gan Price, dan y pennawd, "YBriodas Freninol a Ffolinebau Aberdar." Cynnaliwyd ySports i ddathlu dydd priodas Victoria Adelaide MariaLouisa, merch hynaf ein Brenines dirion Victoria. Gwnaedhyn gan ychydig bersonau a ffurfient, a defnyddio iaithPrice, Clique bychan, crebachlyd, ceintachlyd, hunan- grëedig," ac er ateb eu dybenion, oeddynt yn chwyddedigiawn yn galw eu hunain "The Trade of Aberdare," dannawdd grefyddol y Ficer a'i churchwarden, fel y dengys yrhyspyslen a gynnwysai y prwygraifft, yr hon oedd fel ycanlyn:—

RUSTIC SPORTS.

Suported by the Vicar, Churchwarden, Curates, Gentry. Patrons: The Trade of Aberdare.

Wedi rhoddi enwau y swyddogion a'r pwyllgor cawn yprogramme, yr hwn a osodwn yma, yn nghyd ag ychydig onodiadau Price ar yr ymdrafodaeth.

RUSTIC SPORTS, cynwysedig o redegfeydd o amryw gymeriadau. Mae y Trade' wedi gyru allan ddwy hysbyslen bwysig iawn—y naill yn galw ar y masnachwyr oll i gau eu masnachdai am un o'r gloch. gan eu bod hwy, y 'Trade,' yn myned i gael rhedegfeydd ar Heol Caerdydd, o dan nawdd y Trade. Mae yr ail hysbyslen yn cynwys y Programme Maehwn yn wir deilwng o'r 'Trade;' ac y mae yn ddyogel genym nad oesyr un dosbarth arall yn mhlwyf Aberdar yn feddianol ar dalent a dwlni digonol i gyfansoddi Programme fel hwn. Hysbysir ni fod y 'Trade'yn myned i wobrwyo y buddugoliaethus yn y gorchestion pwysig canlynol: Gyrfa Asynod—yr asyn diweddaf i mewn i enill y wobr.'Talentog dros ben. Gyrfa Asynod, a'r marchogwr i fod a'i ben atgynffon yr asyn—y cyntaf i mewn i enill.' Doniol ac asynaidd iawn.'Gyrfa o ddynion mewn ffetanau.' Buasai yn fendith fawr pe buasaiSuperintendent Wrenn yn gosod y 'Trade' mewn ffetan, a'u danfon iLansawel. Gyrfa o fechgyn o dan 15 oed.' Cynllun y Trade' iddysgu 'The young idea.' 'Gyrfa o wyr.' Dyma ddull y 'Trade' iwella moesau eu cyd-ddynion. Mewn ffordd o newid—Darn o gigmochyn am ddringo i fyny i drostan wedi ei seimio, er i'r 'Trade' gael testun i chwerthin. Gyrfa o asynod mewn wageni.' Mae hwn ynddrychfeddwl campus iawn o eiddo y 'Trade,' cael gyrfa o'r natur hynmewn heol gul, yn cynwys rhyw ddwy fil a haner o ffoliaid wedi eutynu yno gan y 'Trade.' 'Gyrfa gan ddynion a'u llygaid wedi eurhwymo, yn gyru o'u blaen ferfa drol.' Prawf o dalent neillduol ymaeto. 'Gyrfa rhwng merched o dan 15 oed.' Gyrfa rhwng menywoduwchlaw 15 oed.

'O ddifrif, ddarllenydd, nis gallwn ddilyn y Programme yn mhellach.Onid ydyw peth fel hyn yn ddigon i beri i dy waed di ferwi,—meddwlfod nifer o ddynion yn galw eu hunain y 'Trade of Aberdare,' yn ymdrechu cael gan fenywod y lle i redeg gyrfa er boddio teimlad anifeilaidd y creaduriaid distadl hyn. Yr oedd y fath gynyg yn warth ac ynddirmyg iw awdwyr. Beth? A oedd eisieu testun newydd ar einVicar i ysgrifenu eto yn erbyn ein merched a'n gwragedd? Mae ynofid genym feddwl fod Vicar Aberdar, a'i Churchwarden, a'i Guardiaid,yn gallu ymddarostwng i gefnogi y fath gynyg gwarthus i ddiraddio einmerched a'n gwragedd. Mae yn wir na chafwyd gan yr un ferch na'run wraig i redeg, ond beth am hyny? Nid oes achos i ni ddiolch i'r'Trade' am hyny; yr oedd eu hamcan hwy yr un; ac nis gellir condemnio y fath gynyg bwystfilaidd mewn iaith rhy lem na syniadau rhy gedyrn.

Yr ydym hefyd yn tystio yn enw llawer o ddynion da, sydd yn dymuno yn dda i Aberdar, nad yw y dyrnaid yna erioed wedi bod, nidydynt yn awr, ac nid ydynt byth yn debyg o gynrychioli masnachwyrAberdar. Mae dynion yn mhlith masnachwyr Aberdar, ag sydd ynmeddwl yn uwch am eu cymeriadau, na gwneyd y fath asynod o honynteu hunain ag a wnaeth y 'Trade' dydd Llun diweddaf. Llwyddoddy 'Trade' i gael lluoedd mawr o ffyliaid fel eu hunain yno, a buont yn difyru eu gilydd am ryw oriau, ond cafodd y 'Trade' eu siomi ynniffyg chwaeth y menywod yn peidio rhedeg yn ol y Programme. Mawrbarch i'r menywod! Nid ydynt cynddrwg ag y myn rhai i ni gredu eubod. Paham na fuasai y 'Trade' yn dwyn allan eu gwragedd euhunain er difyru y dorf. Diddad y buasai yn chwerthingar iawn iweled Mrs. Gawn a Mrs. Nicholas yn ymdrechu am y dorch; a Mrs.Larke a Mrs Samuel. The proof of the pudding is in the eating.'meddai y Sais, a charem ninau i'r 'Trade,' cyn dirmygu gwragedddynion ereill, dreio'r experiment ar eu gwragedd eu hunain. Ac os ywy fath beth yn rhy isel i'w gwragedd hwy, mae hefyd yn ddirmygedigi wragedd ein gweithwyr gonest. Wedi i'r 'Trade' fod yn chwerthino glust i glust, ac yn gwhyru fel ceffylau Sir Aberteifi, ac wedi i lawergael eu hanafu yn druenus a pheryglus, dygwyd y 'Rustic Sports' iderfyniad tua brig yr hwyr, ac aeth y 'Trade' tua thre, i eilliaw eubarfau, ac i lanhau eu danedd, fel rhagymadrodd i'r BALL, a gynelidyn y nos gan y 'Trade' a'u gwragedd a'u merched, am yr hwn byddgenym rywbeth i'w ddywedyd dro ar ol hyn.

"Mae yn ddrwg genym orfod ysgrifenu fel hyn am neb o'n cymydogion; ond gan fod rhyw ddosbarth o ddynion yn honi peth nad yw ynperthyn iddynt, ac yn dewis gwneyd eu hunain yn destun gwawd adirmyg, rhaid iddynt ddysgwyl y canlyniadau. A pha un a fydd y'Trade' yn digio neu beidio, tra bydd genym lais i'w ddyrchafu. aphin i ysgrifenu, bydd i ni arfer ein dylanwad yn erbyn y fath weithredoedd a'r rhai a gyflawnwyd dydd Llun diweddaf. Pan fydd y 'Trade' am fyned yn mlaen a gwneyd daioni, bydd yn hoff genym eucynorthwyo; ond pan geisiant ein llusgo yn ol gan mlynedd, bydd i ni geisio gosod y Sprag yn yr olwyn, gan ymestyn at adael Aberdar ynwell nag y cawsom ef; o leiaf, peidiwn er dim a'i wneyd yn waeth.

Yn y brwydrau godidog hyn, ennillodd Price sylw apharch mawr, nid yn unig drigolion Aberdar a'r cylchoedd,ond hefyd ei gydwladwyr yn dra chyffredinol; oblegydedrychid arnynt nid fel brwydrau lleol, eithr fel ymdrechion clodwiw i amddiffyn cymmeriad y genedl, cadw adyogelu urddas y rhyw fenywaidd, a dyrchafu'r wlad ynngwyneb yr ymgais fwyaf waradwyddus i'w darostwng.Gwelid ynddo y dyngarwr twymgalon, a'r gwladgarwranwyl a diffuant. Cafodd drwy ei wroldeb le cynhes ynserch y dosparth gweithgar, a sedd urddasol yn nghalonautyner a serchgarol merched a gwragedd Aberdar, am eiddewrder yn eu hamddiffyn. Ac er rhoddi prawf ymarferolo'u serch a'u teimladau da ato, gwnaethant dysteb werthfawr iddo, yr hon a gyflwynasant iddo mewn cyfarfodcyhoeddus yn Ebrill, 1848. Yn y Gweithiwr, newyddiadura gyhoeddid y pryd hwnw gan y Parch. J. T. Jones, amEbrill 16eg, 1859, daethom o hyd i bryddest odidog o glodi'r Parch. Thomas Price, Rose Cottage, Aberdar, am eiamddiffyniad i ferched Aberdar, buddugol yn eisteddfodflynyddol Llanelli. Carwn allu ei gosod yn gyflawn i mewnyma, ond nis gallwn yn herwydd ei meithder; eithr dyfynwn ddarnau o honi, gan ei bod mor ddesgrifiadol o'r amgylchiadau ac mor nodweddiadol o'r gwrthddrych. AmPrice fel gwladgarwr dywed:—

"Ei enaid mewn digter a ga ei gynhyrfu,
Diffyna hyd angeu holl ferched mwyn Cymru.
Fe gablwyd y Cymry fel rhai annysgedig
Gan un, wrth ei dysgu, a wnaed yn foneddig;
Darluniwyd plant Gwalia wrth was y Llywodraeth
Yn ail i farbariaid yn mhob rhyw ystyriaeth:
Ni theimlai y bradwr fod hyny yn ddigon,
Rhaid ydoedd rhoi ergyd a glwyfai y galon.
Rhaid taro ar benau anrhydedd ein broydd,
A drygu cymmeriad ein merched heb gywilydd;
Ond ah! os tarawodd, ca'dd yntau ei daro—
Derbyniodd archollion a lynant byth wrtho!
Cyhoeddodd fad ferched hen Walia'n anfoesol,
Yn ail i'r anifail, yn warthus andwyol;
Yn ymddwyn yn hollol anweddaidd a diras,
A'u bod ger y meibion yn ffiaidd ac atgas.

Daeth Gwynedd dwymgalon a Price mawr ei ddoniau
Fel cewri i brofi nad gwir y dywedai;
Ger gwlad hoff eu tadau hwy a ddangosasant
Mai achos eu chwerwedd oedd llid at eu llwyddiant.
Er cymmaint y dirmyg a daflwyd ar Gymru,
Y ficer ni theimlai yn foddlon ar hyny;
Er iddo ddarostwng ein merched diniwaid,
A'u rhesu yn mhlith y ffieiddiaf farbariaid.
Rhaid oedd diystyru eu treiddgar feddyliau,
A'u gosod i redeg fel nwyfus geffylau.
Cyhoeddwyd priodas rhwng Tywysog hardd Prwssia
A'r hawddgar Louisa, merch hynaf Victoria.
*****
Yn Aberdar dirion fe deimlid gorfoledd
Gan lu o'r trigolion, yn wreng ac yn fonedd,
Ond ni all'sai'r Ficer arddangos ei deimlad
Heb geisio darostwng trigolion ein mamwlad;
Ni all'sai roi clod i ferch hynaf Victoria
Heb gynnyg difwyno holl ferched mwyn Gwalia.
Cynnygid gwobrwyon am redeg gyrfaoedd,
Rhoid gwobr i'r plantos a phenau teuluoedd;
Mwgwdid rhai hefyd fel ffyliaid yn ddeillion,
A ftyliaid a chwarddent am ben eu cyfeillion;
Gwneid gyrfa asynod-rhoid asyn yu union
I farchog ei gyfaill, â'i ben at ei gynffon.
A chyn i'r ben asyn a'i farchog ddychwelyd,
P'un mwyaf asynaidd anhawdd oedd dywedyd;
A dyrus oedd dirnad pwy ydoedd y doethwyr,
Y rhai a farchogent neu'r masw wobrwywyr.
Cai rhai eu gwobrwyo am ddringo y poliau,
Ac ereill am redeg mewn mawrion ffetanau;
Ac er gosod coron o warth ar y gwagedd,
Cynnygiwyd gwobrwyon i'r merched a'r gwragedd.
Khoid gwobr i'r fenyw dan bymtheg a redai,
Un arall i'r ferch mewn llawn oed a orchfygai;
'Roedd cynnyg gwobrwyon o'r fath yn gywilydd,
Eu hail ni chlybuwyd hyd eithaf y gwledydd.

"Gosod benyw, perl y cread,
Er mwyn boddio dynion gwael,
I gydredeg fel anifail,
O'r fath brawf o feddwl hael!
Gesyd argraff ar ei bleidwyr,
O drueni trist eu bron,
Na foed parch i'r rhai gynlluniodd
Yr ymdrechfa atgas hon.

"Yn lle cael eu llithro o flaen y demtasiwn
(Er clod i holl ferched ein gwlad y dywedwn),
Ni chafwyd yn unman un wraig mor benchwiban
Na meinir am eiliad ddibrisiai ei hunan.

"Nis gallasai'n gwron oddef
I elynion ddrygu'i wlad,
Cablu urddas gu ei frodyr,
Diystyru'r gwragedd mad;
Treiddiai'i lais fel taran nerthol
Drwy y cymoedd ar bob llaw,
Y dirmygwyr oll a grynent,
Parodd iddynt aeth a braw.

"Ymresymai'n gryf â'r Ficer
A'i gyfeillion drwy y plwy',
Os o'ent am i'r gamp i ddechreu,
P'am na redai'u gwragedd hwy;
Os gwnai les i wraig y glowr,
Gwnaethai les i'r gwragedd chweg
Ddaethant yno fel edrychwyr,
Ymresymai'n eithaf teg.

"Hyf ddangosodd y drygioni
A ddynoethodd ger y byd,
Ni ofalai am y mawrion,
Diystyrai'u gwawd a'u llid;
Ysgrifenodd a dadleuodd
Er amddiffyn Cymru gu
Nerthol oedd ei ymadroddion,
Y gwirionedd oedd o'i du.

"Nid ei les ei hun oedd ganddo,
Lles ei frodyr oedd ei nod,
Codi enw gwlad ei dadau
Fry i'r man y dylai fod;
Treuliai'i aur a'i amser gwerthfawr
Yn ngwasanaeth Gwalia fad,
Boddlon ydoedd i'r holl erlid,
Ond adennill clod ei wlad.

"Ni dderbyniai wyneb undyn,
D'wedai'r gwir heb ofni gwawd,
Ni effeithiai dirmyg arno,
Mae e'n gyfaill i'r tylawd;
Pe bai pawb yn ellyll duon,
Safai ef yr un bob pryd—
Dros yr hyn sydd yn wirionedd
'Does ei ddewrach yn y byd.

"Saif dros burdeb a diwygiad,
Arwr rhinwedd yw'n mhob man,
Fe ymgeisia drwy ei fywyd
I ddyrchafu'r eiddil, gwan;
Llwyr gasâ y meddwl gwammal,
Penderfyna—ymaith ffy
Pob rhyw ansefydlog duedd,
Nid oes dim yn hawdd a'i try.


[PEN. VII.

"Coder enw Price i fyny,
Teilwng yw o barch y wlad,
Myn i ddynion eu hiawnderau,
A diffyna'r merched mad;
Uned Gwent a holl Forganwg,
Ceredigion gyda hwy,
Aed ei glod trwy Gymru'n gyfan,
Price fo'n uchel yn mhob plwy'.
"Ferched Cymru, De a Gogledd,
Rhoddwch glod i'r gwron gwiw,
Amddiffynodd eich cymmeriad,
Amddiffyna tra bo byw;
Boed i chwithau oll amddiffyn
Ei gymmeriad yn mhob man,
Mae yn gyfaill i'r angenus
Ac yn gymhorth gwir i'r gwan.

Llanelli

"CYMRO DU."

Ein hunig ymddiheurad am osod cymmaint o'r bryddestyma yw ei bod, fel y nodasom, yn gyflawn o'r gwrthddrych.Nid ydym yn gwybod pwy oedd Cymro Du, Llanelli, eihawdwr; ond ymddengys i ni ei fod ef yn gwybod pwyoedd y Parch. Thomas Price, a llwyddodd i dynu darluntra chywir o hono. Gwnaed ymosodiadau llechwraidd ganrai o'r "Trade" ar y Dr. am eu gwrthwynebu, a chyhoeddasant bapyrau dienw i'w ddiraddio. Cynnaliwydcyfarfod cyhoeddus yn Nghalfaria i wrthdystio yn erbyn yrymddygiadau gwarthus hyny, pan y rhoddwyd anerchiadi'r Dr., ac i'r Parch. J. Davies, Aberaman, yr hwn oedd yngydolygydd ag ef ar y Gwron, a dystawodd y "Trade" ambyth. Y mae yr anerchiad hwnw wedi ei gadw yn RoseCottage, mor barchus ag unrhyw un a gafodd erioed.

Cymmerodd brwydrau lawer le rhwng offeiriaid a ficeriaid Aberdar a Thomas Price o bryd i'w gilydd. Dichoneu bod hwy, yn herwydd ei ymosodiadau beiddgar a dynolef arnynt yn yr amgylchiadau a nodasom, yn teimlo yneiddigeddus wrtho, yn ei wylio ac yn ei dalu yn ol pangaffent gyfle; ond yr oedd efe yn mhob achos yn dyfodallan yn fuddugoliaethus arnynt.

Gwrthodai yr offeiriaid weithiau gladdu Ymneillduwr, ynenwedig plant, os meddylient eu bod heb eu bedyddio, fely dywedent. Ond yr oedd efe yn gallu eu trin yn lew, acyn fynych yn dysgu gwersi pwysig iddynt yn yr ymrysonauhyn. Yn ei ddyddiadur am dydd Mawrth, y 17eg o Ionawr,1860, cawn hanes un o'r amgylchiadau a nodwn wedi ei gofnodi ganddo, yr hwn fydd yn ddigon i ni ddyfynu iddangos cwrs Price yn ei wyneb. Darllena fel y canlyn:—

"Dydd rhyfedd oedd hwn. Mae y Parch. Evan Lewiswedi dyfod yn ficer i Aberdar. Yr oedd mewn angladdheddyw am y waith gyntaf. Mab i John Lewis oedd yncael ei gladdu. Gwrthododd y ficer; ond claddwyd yplentyn, ac areithiwyd genyf oddifaes i'r fynwent. Maeyma deimlad iawn. Pregethu y nos yn nhy Nancy Parry,Rhestr Fawr."

Dywedir fod Price yn amser y ficer blaenorol, y Parch.J. Griffith, wedi bod mewn ffrwgwd gyffelyb amryw droion,a'i fod wedi dweyd wrth y Ficer y dangosai iddo mai gwasy plwyfolion ydoedd, ac nid eu meistr. Hefyd, y dangosaiiddo nad oedd yn cyflawnu ei ddyledswyddau megys ydylasai, ond y buasai efe o hyny allan yn mynu gweled ygwaith yn cael ei gyflawnu yn llwyrach, ac felly y bu. Yroedd Price yn hyn, fel yn mhob peth arall braidd, wedichwilio dirgelion allan a mynu gweled pethau i'w gwaelodion. Tebyg ei fod wedi cael o hyd i hen weithredoeddeglwys y plwyf, y rhai a ddangosant fod yn rhaid cynnalgwasanaeth ynddi bob dydd o'r flwyddyn. Galwodd sylwy ficer at hyn, a mynodd ei weled yn cael ei gario allan ynllythyrenol. Y mae y gwasanaeth, yn ol y weithred, maeyn debyg, wedi ei barhau yn gysson a rheolaidd, dywedir,o'r adeg hono hyd yn bresenol. Cynnelir y gwasanaeth ynawr ynddi bob boreu am 7.30, er fod yma ddwy Eglwysarall i'w cael yn y dref yn fwy cyfleus. Fel hyn y cawnPrice yn brwydro yn galed a dewr â'r Eglwyswyr dros Ymneillduaeth ac hawliau Ymneillduwyr hyd y sicrhaoddlawer o'u hiawnderau iddynt, a thrwy wneuthur felly ceridef gan y bobl, ac aeth yn boblogaidd iawn yn mhlith trigolion y plwyf, a'r wlad yn gyffredinol.

Price oedd yr yspryd symmudol cyntaf gydag addysgrydd yn Aberdar. Costiodd sefydlu ysgol yma lawer olafur, amser, ac arian iddo ef. Yn ol y mynegiadau syddyn ein meddiant, yn nghyd â'r llyfrau a gynnwysant (ynllawysgrif Price), gofnodion ac hanes cyflawn o weithrediadau y pwyllgor, cawn ei fod yn gweithio yn galedac yn egniol iawn. Cafodd gydweithiwr rhagorol yn mherson y Parch. W. Edwards, Ebenezer, Trecynon. Yr oeddefe o galon yn gefnogydd mawr i addysg, a gwnaeth lawerdrosti yn Aberdar; ond nid oedd cymmaint o fyn'd ynEdwards ag oedd yn Price. Felly efe yn gyffredin oedd yn arwain, ac ar ei ysgwydd ef y gosodid y baich trymafbob amser. Dichon mai nid annyddorol yma fyddai i niganiatau i Price roddi, yn ei ddull doniol ei hun, hanes byro gychwyniad addysg rydd yn Aberdar. Mewn ysgrifganddo yn Seren Cymru am Tachwedd y 4ydd, 1864, edrydda ganlyn, dan y penawd—

"ABERDAR AC ADDYSG RYDD.

"Llawer tro ar fyd sydd wedi cymeryd lle er pan y cynnaliwyd ycyfarfod cyhoeddus cyntaf yn Carmel, capel y Methodistiaid Calfinaidd ar odre'r commin, fel y dywedid gynt, o dan lywyddiaeth yrhybarch E. Griffith, tywysog crefyddwyr Aberdar y pryd hwnw, erceisio esponio beth oedd Ysgol Frytanaidd. Yr oedd yno gyfarfodllawn wedi dyfod at eu gilydd er gweled yr anifail newydd, oeddEdwards a Price wedi ei ddwyn i'r lle, o dan yr enw British School;yr oedd awydd mawr am weled sut greadur oedd y British School.Yr oeddem wedi llwyddo i gael gwr boneddig haelfrydig o le pellenig—mae bron cywilydd arnom nodi y ffaith i ni ei gael o Talgarth, SirFrycheiniog—a dau neu dri o fechgyn bach ieuainc gydag ef, er mwyndangos i drigolion Aberdar beth oedd British School Daethom iadnabod y creadur newydd trwy ganfod ei ddull o gyfranu addysg iblant y gweithwyr; ac erbyn diwedd y cyfarfod cyhoeddus, deallasommai math o beiriant addysgol oedd y British School. Yr oedd hyn,cofied y darllenydd, tua dwy flynedd ar bymtheg yn ol; yr ydym yngallach yn awr. Mae ysgol y Commin a'r British School erbyn hyn felgeiriau teuluaidd gan gannoedd o honom. Yn y flwyddyn 1846 yroedd Ysgol Frytanaidd i Aberdar yn gorwedd yn meddyliau y Parch.W. Edwards, Ebenezer, a'r Parch. Thomas Price. Llawer gwaith ybu y ddau hyn yn siarad, yn cynllunio, ac os nad ydym yn camsynied,yn gweddio uwchben y pwnc o gael ysgol dda i Aberdar, mewn lle cyfleus i'r trigolion, yn y "pentref," fel y dywedid, a Heolyfelin. Daethyr adeg i'r ddau frawd deimlo pulse ereill; ac awd ati yn araf bach, nesennill blaenoriaid y cynnulleidfaoedd yn lled gyffredin. Derbyniasantgynnorthwy parod y Parch. David Price, Siloa; y Parch. JosuahThomas, o Saron y pryd hwnw; ac yn absenoldeb gweinidog trigiannol gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, cafwyd pob cefnogaeth gan ydiweddar Mr. Evan Griffiths, yr hwn oedd yn llu ynddo ei hun, aca fu gyda ni tra y bu byw; a diolch i'r Arglwydd, y mae ei blantparchus gyda'r ysgol hon law a chalon o ddyddiau eu tad patriarchaidd hyd yn awr. Yn nesaf, ennillwyd y diweddar Alaw Goch, a'r teuluoll, Mrs. Williams, Gwilym, Gomer, a Gwladys, oll yn gyfeillion calon i addysg rydd. Bu Alaw Goch yn gadeirydd i ni o sefydliadyr ysgol hyd ei fedd, a gadawodd i ni y swm o £100 ar ei ol atwasanaeth yr ysgol; a da genym allu dweyd fod y plant fel y tad,yn gyfeillion anwyl i'r sefydliad.

"Wel, ar ol llawer iawn o bryder, traul, a thrafferth, gwelsom yrysgoldy hardd, hardd y pryd hwnw cofier, a thy i'r meistr wedi eiorphen; ac ar y nawfed dydd o Hydref, 1848, agorwyd yr ysgoldydrwy i'r pwyllgor wahodd ychydig o'u cyfeillion i ddyfod i gydunoâ hwy i yfed cwpanaid o dê ar brydnawn dydd gwaith.Daeth ycyfeillion yn nghyd i'r nifer o 2,614. a thalodd pob un ei swllt ynserchus, gan mai math o gyflwyno y plentyn newydd oedd genymmewn golwg y pryd hwnw. Trwy hyn, wedi talu pob treulion, cliriwyd yn mhell dros gant punt o ddyled yr adeilad. Buom ychydigyn anffortunus am rai blynyddau yn yr athrawon fuont genym, ondyn awr er ys blynyddoedd mae yr ysgol o dan ofal Mr. D. IsaacDavies, B.S., yr hwn sydd un o'r ysgolfeistri goreu oddiyma i wladyr Aifft; nid oes yno ei well i'w gael. O dan ei ofal ef, y mae yrysgol wedi myned ar gynnydd mewn rhif, dylanwad, a chyfoethMae genym hefyd bwyllgor rhagorol, sef Mri. Phillip John, JohnLewis, Lewis Griffiths, Lewis, Draper, a Pardoe. Hefyd, mae y ddaufrawd anwyl Thomas a John Williams a'u holl galon yn y gwaith.

Mae Mr. John Jones, Fferyllydd, ein cadeirydd presenol, yn un o'rcyfeillion cyntaf a ffyddlonaf. Mae genym yn awr tua phedwar canto blant dan ddysgeidiaeth, ond y mae y lle yn llawer rhy fach.Mae y pwyllgor yn ffyddiog yn cyfarfod â'r angen cynnyddol drwygodi adeilad mawreddog, digon i gynnal 600 yn ychwanegol o blant,ar draul o ryw £1,300 Mae swm mawr o'r arian mewn llaw genym.Mae eisieu £300 i orphen talu y cwbl oll ar unwaith; a da genymddeall fod amryw o gynnulleidfaoedd yn Aberdar wedi penderfynurhoddi gwyl Nadolig eleni at gynnorthwyo y pwyllgor yn yr amcandaionus hwn. Mae yr Independiaid, y Methodistiaid, yr Undodiaid,a'r Bedyddwyr wedi rhoddi heibio bobpeth er mwyn helpu am unwaith. Mae y pwyllgor o'u tu hwy wedi argraffu 8,000 o gardiau ergwahodd cyfeillion i dê atom dydd Llun. Rhag. 26, 1864Dyna ichwi family party fyddwn, pan gydgyferfydd y pwyllgor a'r 8,000 ymwelwyr! Gwatwar yr ydych. Gwatwar! Nage, yn wir; fuom nierioed yn fwy difrifol. Diolchwn i'r corau ydynt wedi addaw bodgyda ni y prydnawn a'r hwyr i roddi i ni gyngherdd na chafwyd eibath yn Aberdar.

Bydd genym ar ol y Nadolig le i naw cant o blant yn gysurus, astaff o ddysgawdwyr nad oes eu gwell o fewn terfynau Victoria. Oblant Aberdar! braf yw eich byd chwi!"

Teimlai Price yn ddedwydd, a llawenychai yn ddirfawrwrth weled manteision addysg yn cynnyddu i blant Aberdar, yn y rhai y teimlai ddyddordeb neillduol bob amser;ond nid oedd yr hyn a roddir uchod ond toriad gwawr at a gafodd weled cyn gorphen ei yrfa ar y ddaear. Ni orphwysoddyn segur (ni allai wneyd hyn), eithr gweithiodd yn galeddros ac o blaid addysg yn Aberdar a manau ereill. Y fathoedd ei ymdrechion a'i sel gyda phwnc addysg, fel yrystyriwyd ef yn addas i'w benodi i ddadlu ei hawliau ynSiroedd Morganwg a Mynwy. Tua'r flwyddyn 1848, pennodwyd ef gyda yr enwog Hybarch John Thomas, D.D.,L'erpwl, i fyned am daith am fis trwy y siroedd a nodwn,er cynnal cyfarfodydd ar "Addysg," a chasglu at sefydluColeg Normalaidd yn Nghymru. Cymmerwn fantais i gyfeirio at y daith hon etto yn mhellach yn mlaen.

Cymmerodd Price ran flaenllaw iawn gyda y dosparthgweithgar yn Aberdar, gan eu harwain yn mrwydr fawrReform Bill y diweddar enwog John Bright, yn y flwyddyn1859, ac ysgrifenodd lawer atynt yn y Gweithiwr ar y mater.Mynychai eu cyfarfodydd, taflai ei enaid mawr a'i ysprydtanllyd i'w areithiau pan siaradai am y diwygiadau a hawlient fel gweithwyr, yn gystal a'r breintiau oedd yn ddyledus iddynt. Gweithiodd i fyny ddeisebau i'w hanfon i'rSenedd, ac ysgrifenodd ar y materion at Arglwydd Derbya John Bright, y rhai a ddiolchent iddo am y dyddordeba'r rhan flaenllaw a gymmerai yn mhrif bynciau y dydd.Bu hefyd mewn llawer gornest galed a thanllyd dros yglowyr. Efe oedd bob amser yn cymmeryd eu plaid, acyn dadleu eu hawliau. Gwnaethai hyny drwy siarad acysgrifenu. Yr oedd yn hynod o lygadgraff, ac yn deallcwrs trafnidiaeth yn hynod o dda. Proffwydai weithiaugyda llawer o gywirdeb am ddynesiad dyddiau celyd,tywydd garw, ac ystormydd blin i'r "gweithiwr gonest",fel y galwai ef; a chyhoeddai bryd arall â llais clir o bell,"The good times coming, boys." Ysgrifenodd lawer arbynciau perthynol i'r glowyr, a gwnai hyny yn gyffredin,fel pe buasai yn lowr profiadol ac ymarferol. Yr oedd felpe gartref gyda phob dosparth. Dywedai ei feddwl yneglur a difloesgni. Ni ofalai am dramgwyddo meistr mwy na gweithiwr.Mewn gair, byddai yn fwy dibwys ganddoi ddigio y blaenaf na'r olaf; oblegyd meddai barch neillduol at y gweithiwr. Ac er ei fod yn fynych, drwy y rhanflaenllaw a gymmerai yn symmudiadau gweithwyr Aberdar, yn gwrthdaro yn erbyn y meistriaid; etto, edmygid apherchid ef yn fawr ganddynt, oblegyd teimlent a gwyddentfod ganddynt ddyn gonest yn Price. Dywedai y Dr. yngryf yn erbyn y gweithiwr heb ofni ei wg pan fyddai amgylchiadau yn galw am hyny; ond camddeallid a chamfernid ef yn fynych ganddynt, a rhoddent iddo y wialen yndrom; etto, ni allent oddef i neb arall ei rhoddi iddo. Niallent oddef i neb ddweyd na gwneyd dim yn ei erbyn.Mewn amgylchiadau croes a chynhyrfus weithiau yn gyssylltiedig â'r gweithfeydd, suddai y Dr. fel llong yn rhyferthwy yr ystorm o dan donau mynyddig o anmhoblogrwydd. Bryd arall gwelid ef yn ddyrchafedig yn eu plith,ei lestr yn ei lawn hwyliau. Gosodid ef nid yn yr ailgerbyd, fel Joseph gynt, eithr c'ai ganddynt y cerbydblaenaf, a llefent o'i flaen ef, "Abrec." Ysgrifenodd lumawr o ysgrifau galluog ar wahanol bynciau dyddorol aphwysig yn dwyn perthynas â'r gweithwyr ac â'r gweithfeydd yn ystod ei fywyd yn Aderdar, yn neillduol yr ugainmlynedd cyntaf o'i fywyd yno. Ysgrifenodd yn alluog ary pynciau canlynol, y rhai yn unig a nodwn yn enghraifftiol o'r cyfeiriadau gymmerai yn ei berthynas olygyddol â'rgweithwyr:— "Glowyr Aberdar eu sefyllfa a'u hawliau;""Richard Fothergill, Ysw., a'r Puddlers;" "Y Glowyr;""Strikes;" "Glowyr Aberdar a'r Meistri;" "Y Gweithwyr Tân a'u Cyflogau;" "Moesoldeb y Truck System;""Sefyllfa y Gweithwyr yn y Blaenau;" " YmddygiadCynghorfa Genedlaethol y Mwnwyr; "Beth am yr Undeb(y gweithwyr);" "Ein Gweithwyr: eu barn am natur yrUndeb ddylai fod;" "Trecha treisied, ond trech gwladnag arglwydd;" "Undeb y Glowyr yn Aberdar;" "Glowyr Aberdar a'r Cyfyngiad (restriction);" "Sefyllfa Masnach y Gweithiau Cotwm;" "Beth am y Dyfodol?" "YGweithiau Cotwm: Beth ydyw y Dysgwyliad?" "Y Double Shift;" yn nghyd â lluaws ereill o'r un natur allem eu nodi.Gellir dweyd ei fod yn awdurdod ar y materion hyn, ac yn dradyogel i'w ddylyn, er ei fod weithiau yn gwneyd rhai camsyniadau, ac felly yn cael ei feirniadu yn dra llym, a gorfodidef mewn rhai achosion i groesi cleddyf, hyd y nod â'r dosparth gweithiol, y rhai a garai mor fawr, ac yr ymladdaigymmaint drostynt. Weithiau derbyniai gam oddiar eudwylaw, yn herwydd eu bod yn ei farnu yn rhy frysiog.Gwelai ef yn mhell yn mlaen. Deallai droad amgylchiadau,a gallai ragfynegu gyda gradd helaeth o gywirdeb ganlyniadau naturiol yr amgylchiadau hyny. Ond yn aml codaicwmmwl uwch ei ben, hyd y cyflawnid ei broffwydoliaethau,yna gwasgarai y tew gymmylau, a chodai y Dr. yn uwchyn marn a theimlad y bobl. Cafodd fantais droion i egluroiddynt am eu hwyrfrydigrwydd i'w gredu, ac amddiffynaiei hun yn wrol yn ngwneb eu hymosodiadau annheg arno.Dywedai ei feddwl yn eglur a di-dderbyn-wyneb wrthynt,fel y cawn enghraifft yn a ganlyn. Ysgrifena dan y penawdawd "Y Glowyr," i Seren Cymru, am Mehefin 10fed, 1864,a dywed:—

"Nid ydym yn gwneyd ymddiheurad am gyflwyno ysgrif yn awr aphryd arall i sylw ein gweithwyr ar faterion ag ydynt yn dwyn cysylltiad arbenig â hwynt eu hunain. Yr ydym bellach yn gwybod trwybrofiad, mai gorchwyl anhyfryd yw hyn, gan ein bod wedi derbyntriniaeth arw—ac i'n tyb ni anhaeddiannol—am wneyd hyn. Mae ynwir fod storm yr Hydref wedi myned heibio: ond y mae yn ffaithalarus i feddwl, ei fod yn anhawdd i gyffwrdd â phwnc y gweithiwr a'rgwaith heb ir ysgrifenydd gael ei ddrwgdybio, a chael rhai i ddywedydmai ochr y meistr sydd genym. Ond yn y cyffredin y mae yr henesboniwr, Amser, yn dyfod a phethau yn iawn, ac yn dangos nad ydymwedi bob yn mhell o'n lle pan yn cynghori ein gweithwyr. Yr ydymni yn gallu dywedyd yn ddigon eglur nad yw ein meistri yn ein dyledni o ddim. ac nad ydym ninau yn nyled ein meistri o ddim. Yr ydymyn byw er lles a gwasanaeth y cyhoedd, ac yr ydym yn cael ein cynnalyn benaf gan y gweithiwr. Gyda y gweithwyr y byddwn yn llafuriogyda chrefydd, addysg, a'r cymdeithasau dyngarol. Os bydd rhagfarnyn ein meddwl, y mae o angenrheidrwydd i fod o du y gweithiwr. Ynapan fyddom yn ysgrifenu pethau croes i olygiadau y gweithwyr, yrydym yn gwneyd hyny yn onest yr ydym yn credu, ac am hyny yrydym yn llefaru. Mae yn wir y gallem fyw bywyd mwy tawel pe nabyddai i ni gyffwrdd â materion ein gweithwyr; ond a fyddem ni yngwneyd yn onest drwy ymddwyn felly? Na, credwn mai ein dyledswydd yw gosod ein barn o flaen ein gweithwyr, gan nas gall fodunrhyw niwed yn hyn, am y rheswm digonol y gall pob gweithiwrdaflu ein barn a'n dywediadau oll i'r gwynt pan y myno."

Gyda hyn o arweiniad i'w ysgrif, ymafla y Dr. yn egniolyn y mater oedd ganddo ef dan sylw, sef "Cyfyngiad swmy gwaith gyflawnir gan bob glowr." Yn Seren Cymru amRhagfyr y 16eg, 1864, cawn enghraifft arall i'r un cyfeiriaddan y penawd, "Seren Cymru a'r Glowyr":—

"Y mae dros flwyddyn wedi myned heibio er pan ddarfu i ni dynugwg llawer o'r glowyr, yn herwydd i ni yn mis Medi, 1863, roddi einGair o Ocheliad' o berthynas i flaenoriaid y mudiad o sefydlu Cymdeithas Genedlaethol i lowyr Prydain Fawr. Darfu i ni, mewn iaitheglur a digamsyniol, gondemnio y blaenoriaid fel dynion anaddas i arwain corff mawr ein gweithwyr. Am hyn cawsom ein trin yn arw acanfoneddigaidd gan ddynion nad oeddym erioed wedi gwneyd un niwediddynt. Gofynasom am i'n gweithwyr i aros deng mlynedd, ac ynai'n condemnio ni neu ein plant y pryd hwnw, os nad oeddem wedillefaru y gwirionedd yn 1863, o berthynas i'r mudiad ag oedd y prydhwnw ar droed. Yn lle hyn, dywedwyd anwiredd arnom, ysgrifenwydanwiredd am danom, a chyhoeddwyd anwiredd arnom; a daethom,trwy rai o lowyr Cymru, yn destyn gwawd a dirmyg ar faes y Miner and the Workman's Advocate. Cawsom yr anrhydedd o fod yn destynysgrifau arweiniol golygydd y papyr hwnw am ein gonestrwydd yngosod y glowyr ar eu gocheliad trwy ddarlunio gyda chywirdeb ddynion dichellgar a drwg, aeth y glowyr yn elynion i ni. Gallasem ddefnyddio geiriau Paul at y Galatiaid, 'Aethum yn elyn i chwi trwyddywedyd i chwi y gwir.' Wel, mae blwyddyn wedi myned heibio—un o'r deg y buom yn gofyn am danynt. Mae y flwyddyn hon wedimwy na gwireddu pob gair a ysgrifenwyd genym yn Seren Cymru; acer prawf o hyn, caiff ein gelynion fod yn farnwyr, ïe, y dynion fuontmor ddiwyd yn ein cablu flwyddyn yn ol, y rhai hyn yn awr a gantlefaru am y dynion a gondemniwyd genym ni cyn iddynt hwy agor eullygaid."

Ymddangosodd yr ysgrif yn y Miner and Workman's Advocate, am dydd Sadwrn, Rhagfyr 3ydd, 1864; y teitl oedd,"Y diweddar gasbeth cenedlaethol y glowyr. ' Gellidychwanegu llawer yn y cyfeiriadau hyn, ac i bob enghraiffta ddyfynem fod yn dra darluniadol o'r Dr. yn ei frwydraugyda a thros weithwyr Aberdar a'r cylchoedd; ond ymataliwn, gan gredu y gwasanaetha yr uchod i ddangos eiwroldeb digyffelyb, ei benderfyniad diysgog, a'i allu i ddeall"arwyddion yr amserau,” ac i adnabod yn drwyadl y dynion oeddynt am fod yn arweinwyr y dosparth gweithgar,ac yn proffesu cyfeillgarwch atynt tra nad oeddynt ondbleiddiaid yn nghrwyn defaid."

Nid yn y cyfeiriadau a nodasom yn unig y gweithioddPrice yn Aberdar, eithr gyda sefydliadau gwahanol yn ydref a'r gymmydogaeth, a chyda phob symmudiad dueddaiat ddyrchafu y dosparth gweithgar, a chodi dynion yn foesol, cymdeithasol, a chrefyddol. Dywedai un o hendrigolion y plwyf (Aberdar) wrthym yn ddiweddar nadoedd dim o bwys wedi cymmeryd lle yn Aberdar, nac unsefydliad wedi cael ei fodolaeth yno, yn ystod y deugainmlynedd diweddaf, heb fod Price a'r llaw flaenaf wrtho,a'r baich trymaf yn gyffredin yn cael ei gario ganddo, erfod dynion rhagorol wedi bod yn cydweithredu ag ef yn ydref a'r cylchoedd. Bu ef nid yn unig yn arwain gydasefydliad yr Ysgol Frytanaidd, fel y cyfeiriasom yn barod;eithr bu yn ddiwyd gyda sefydliad y Bwrdd Lleol, a buyn aelod gweithgar a ffyddlon o hono am flynyddau meithion. Cymmerodd ran flaenllaw yn nygiad y nwy i oleuo ydref a'r dyffryn. Fel aelod o'r Bwrdd Lleol bu yn wasanaethgar gyda gweithiad allan gynlluniau a gorpheniad ydwfr-weithfeydd mawrion perthynol i'r plwyf. Bu yn ymarferol ei gynghorion a doeth ei gyfarwyddiadau yn sefydliad y Bwrdd Addysg, a chafodd yr anrhydedd o fod ynaelod o hono am flynyddau, ac o ran hyny hyd ei ymddiswyddiad yn herwydd henaint a dihoeniad ei iechyd.Bu yn boblogaidd iawn am lawer o flynyddau fel aelod arFwrdd y Gwarcheidwaid, ac ni chafodd y tlodion erioedburach a gwell cyfaill nâ'r Dr. Cymmerodd ran bwysighefyd yn ffurfiad a sefydliad Bwrdd Claddu Aberdar, a buyn aelod o hono hyd ei farw.

Dywedai y Parch. W. Morris (Rhosynog), Treorci, dyddcladdedigaeth Dr. Price, yn ei anerchiad pwrpasol o flaeny Rose Cottage, cyn cychwyn o'r cynhebrwng: "Ni ellirbyth (meddai) ysgrifenu hanes Aberdar a'r cylchoedd hebhefyd ysgrifenu hanes bywyd Dr. Price. Yr oedd ei fywyda'i enw yn gydwëedig â chynnydd a thyfiant Aberdar. Nidoedd monument wedi ei godi i Syr Christopher Wren, os amweled hwnw rhaid edrych ar ei waith yn adeilad ardderchog St. Paul. Gyda llawer o briodoldeb y gellid dweyd,os am gael golwg ar fywyd gweithgar a llafur diflino Dr.Price, nid oedd eisieu ond edrych o gwmpas Aberdar a'rdyffryn. Yr oedd wedi bod yn flaenllaw gyda holl symmudiadau cyhoeddus y dref, ac wedi argraffu ei enw ynddwfn ar bob peth braidd o bwys yn y lle." Y mae llawero deithi godidog i'w cael etto yn nghymmeriad y dyn mawrhwn, nad ydym hyd yma wedi eu cyffwrdd, ddeuant i'rgolwg yn ei gyssylltiad ag Aberdar, y rhai a geisiwn euharddangos etto o safbwyntiau ereill. Yr ydym yn gadaelAberdar yn awr yn hollol wahanol i'r hyn yr edrychem arno yr adeg y daeth Price i'r dyffryn. Felly, wrth ddychwelyd at ei eglwys a'i gyssylltiadau crefyddol yn y drefa'r dyffryn, gallwn ddysgwyl cael golwg dra gwahanolarnynt i'r hyn a ymddangosent i ni pan gymmerasom eincenad i edrych ar a thraethu am gyfodiad a chynnyddAberdar mewn gwahanol foddau yn ystod bywyd llafur-fawr Dr. Price. Teimlwn fod y maes yn eang a'r tir yngyssegredig. Ni feiddiwn fyned iddo na'i dramwyo wrthymein hunain; eithr anturiwn yn wylaidd yn mraich garedigy Dr., oblegyd bydd yn rhaid i ni, gyda rhan luosog o'rffeithiau cyssylltiedig â'r eglwys barchus yn Nghalfaria a'ichangenau lluosog, ymgynghori â'r Dr. yn ei Jubili a'iDrem ar eglwys Calfaria. Cymmerwn fras olwg yn einpennodau nesaf ar Dr. Price yn ei berthynas neillduol â'ieglwys yn Nghalfaria, a gwnawn hyny drwy ystyried daugyfnod o'i hanes, fel y gwna efe yn y Jubili, sef yr ugainmlynedd cyntaf o'i weinidogaeth hyd 1866, ac yna hyd eifarwolaeth. Wedi hyny cymmerwn ein cenad i ddychwelyd at y cangenau, gan ddangos ei berthynas â'r enwad yn y dyffryn.

PENNOD VIII.

EGLWYS CALFARIA A'I CHANGENAU HYD 1866.

Calfaria hyd 1866—Hanes dechreuad yr Achos Bedyddiedig yn Aberdar—Adeiladu y capel cyntaf—Y gweinidogion cyntaf—Galwad Price—Ei derbyn—Yn llwyddiannus—Ei briodas—Gras a Rhagluniaeth yn cydweithio—Marwolaeth ei briod—Ei ymroad gyda'r gwaith—Yr eglwys dan ei ofal yn llwyddo—Yn dyfod yn enwog—Ei allu i drefnu a chynllunio—Ei yspryd rhyddfrydol—Eangu yr achos—Ei adroddiad o ddosparthiad y cylch—Trem 1885—Sefydlu gwahanol eglwysi—Y Bedyddwyr yn cynnyddu—Adgyfnerthion yr eglwys—Undeb Cristionogol—Undeb Dorcas, &c., &c.—Price yn gyfundrefnol—Cael cydweithrediad y diaconiaid—Ei gyssylltiad â'r Ysgol Sabbothol—Ei gynlluniau yn nglyn â hi—Price a Shem Davies—Price a'r ysgol ganu—Evan Jones—Yn y Gadlys—Arweinwyr y canu—Y Cor—Llechres aelodaeth yr eglwys—Ei fanylwch—Sefyllfa Calfaria ar ben yr ugain mlynedd o'i weinidogaeth—Y Juwbili gweithio egniol wedi bod—Anhawsderau yn diflanu Crefydd yn llwyddo.

YN ol Juwbili Eglwys Calfaria, llyfr bychan a gyhoeddwyd gan Dr. Price yn y flwyddyn 1863, cawn fod hanes dechreuad yr achos Bedyddiedig yn cyrhaedd mor bell yn ol a'r flwyddyn 1790, pryd yr oedd Mr. David Oliver o Ystradyfodwg yn dyfod drosodd yn achlysurol i bregethu yno. Bendithiodd yr Arglwydd ei ymdrechion ef ac ereill i ddychwelyd eneidiau at y Gwaredwr; ac yn y flwyddyn 1791, bedyddiwyd pedwar o bersonau, y rhai a dderbyniwyd yn aelodau yn yr Ynysfach, Ystradyfodwg, ac nid oes genym wybodaeth bellach am danynt, nac ychwaith am achos yn Aberdar hyd y flwyddyn 1806. Yr adeg hono daeth dau frawd i'r lle o'r enwau Lewis Richards, yr hwn a fu am hir flynyddau yn weinidog ar Eglwys y Bedyddwyr yn Mhenyrheol, a Howell Evans. Yr oedd y ddau hyn yn Fedyddwyr. Cynnalient gyfarfodydd gweddio mewn tŷ annedd, yr hwn a adnabyddwyd am flynyddau wedi hyny wrth yr enw "Capel Bach." Cydaddolai y Bedyddwyr a'r Independiaid am dymhorynddo; ond yn fuan, barnwyd mai gwell oedd i'r ddauenwad fod ar wahan. Mewn canlyniad i hyn, ymneillduwydi breswylfa Lewis Richards, yn yr hwn le y cynnelid yrachos. Nid oedd ond y ddau frawd a enwyd yn aelodauyma hyd ddyfodiad brawd arall atynt o Gastellnedd o'renw David Davies, yr hwn a elwid gan bobl Aberdar yn"Dafydd bach o'r nef." Yr oedd hwn yn wr o gymmeriadda a duwiol y tu hwnt i'r cyffredin. Yn y flwyddyn 1807,dechreuwyd yr Ysgol Sabbothol yn Aberdar gan nifer oddynion ieuainc oeddynt yn aelodau yn Seion, MerthyrTydfil, mewn ystafell berthynol i'r Farmers' Arms, ynnghanol y pentref. Yn fuan, symmudwyd yr achos o dŷLewis Richards i'r hen Town Hall, ac oddiyno drachefn,yn 1809, i ddau dŷ wedi eu rhentu gan Richards, y rhai awnaed yn un er cynnal y gwasanaeth ynddo. Yn 1811,dechreuwyd meddwl am adeiladu capel newydd, a chychwynwyd y gwaith yn ddiymaros yn y man y saif Carmel,y capel Seisnig, yn bresenol, ac agorwyd ef yn 1812, hanner can' mlynedd i'r flwyddyn yr ysgrifenodd y Dr. Juwbiliyr eglwys.

Yn y flwyddyn 1813, cafodd Mr. W. Lewis ei ordeinioyn weinidog ar yr eglwys; ond yn fuan, yn herwydd helbulon anffortunus y meistr a llwyr ymattaliad gwaithAbernant, ymadawodd Mr. Lewis, a rhoddodd i fyny ofal yreglwys. Cawn fod Mr. Richard Hopkins yn cael ei ordeinioi'r weinidogaeth yn 1820. O'r flwyddyn 1823 hyd 1826, buyr eglwys yn cael ei bugeilio gan y diweddar WilliamWilliams o'r Paran. Yn y flwyddyn 1826, dychweloddLewis drachefn i Aberdar, ac ail-gymmerodd ofal yr eglwys hyd y flwyddyn 1845, pryd y symmudodd i gymmerydgofal gweinidogaethol Eglwys Tongwynlas. Yn y flwyddynhono, fel y nodasom o'r blaen, rhoddwyd galwad unfrydoli Thomas Price; ymsefydlodd yma, a bu yn weinidog iddihyd ei ddyrchafiad i'w orsedd a gwisgiad ei goron ynngwlad yr aur delynau. Yn y flwyddyn gyntaf o'i weinidogaeth yn Mhenypound, dywedai y Dr. mai araf iawnoedd symmudiad y gweinidog a'r eglwys. Ychydig dirnewydd a ennillwyd ganddynt, er fod y gwrandawyr yncynnyddu a'r Ysgol Sul yn bywiocau. Yn ystod y flwyddynhon, cafodd y gweinidog ieuanc y fraint a'r anrhydedd ofedyddio pedwar—dau o'r cyfryw oeddent yn aros panysgrifenodd y Dr. yr hanes yn ei Juwbili, sef Mr. David Hughes, Goruchwyliwr Glofeydd Abernant, a Margaret ei wraig; ac y mae yn llawen gan yr ysgrifenydd nodi eu bod yn aros hyd heddyw, ac er eu bod wedi methu bron gan henaint a gwendid, y maent yn garedig i'r achos, a buont yn gyfeillion mynwesol i'r Dr. hyd ei fedd.[1] Cafodd Price yr hyfrydwch o fedyddio amryw o'u plant, y rhai a ddygwyd i fyny yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd.

Yn y flwyddyn 1847, yr oedd Price wedi cael ychydig o amser i adnabod ei hun, ei eglwys, a'i gymmydogaeth, ac yr oedd yn awr yn dechreu ymbarotoi i dori allan waith i'r eglwys a'r gynnulleidfa. Mewn trefn i'w alluogi i wneyd mwy ei hunan, a chael safle uwch i ddylanwadu ar ei bobl a'i gymmydogion yn gyffredinol, penderfynodd ymsefydlu yn y byd, fel y dywedir, ac yn gynnar yn 1847, priododd â boneddiges gyfoethog o ddisgyniad a llinach yr hen deuluoedd parchusaf a mwyaf cyfrifol y dyffryn. Cawn hanes y briodas wedi ei groniclo yn gyflawn gan yr enwog Lleurwg yn ei ysgrif ragorol ar Dr. Price yn y Geninen am Gorphenaf, 1888, yr hwn a edrydd fel y canlyn:—

Yn mhen ychydig gyda blwyddyn ar ol ei ordeinio, sef ar yr 16eg o Fawrth, 1847, ymunodd mewn priodas ag un o'r boneddigesau mwyaf goleuedig a pharchus, nid yn unig yn Aberdar, ond hefyd yn yr holl wlad. sef Mrs. Ann Gilbert, merch ieuengaf Thomas David, Ysw., Abernantygroes. Cymmerodd y briodas le yn Nghapel Carmel, Pontypridd; a'r gweinyddwr oedd yr enwog a'r athrylithgar Barch. James Richards, gweinidog yr eglwys yn Ngharmel. Ganwyd iddynt ddau o blant, sef mab, yr hwn a fu farw yn ei fabandod, a merch, yr hon a enwyd Emily, yr hon a adawyd iddo gan Ragluniaeth ddoeth a charedig i'w gysuro yn ei fywyd, ac i alaru ar ei ol. Yn fuan ar ol hyn, sef yn 1849, bu farw y ddoeth a'r addfwyn Mrs. Price; a chafodd yntau ei adael gyda ei ferch fechan yn ngwaelodion glyn unigrwydd, hiraeth, a galar. Ni fu son am ail briodas iddo; ond o ddydd claddedigaeth ei mam daeth ei anwyl Emily yn ganolbwnc ei ofal a'i serch teuluaidd. Cafodd y cysur a'r fendith anmhrisiadwy o weled ei anwyl blentyn yn tyfu i fyny yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd, gan gynnyddu mewn rhinwedd a phob gras a dawn naturiol ac ysprydol, nes y daeth yn addurn i gymdeithas, ac yn anrhydedd i'r Eglwys Gristionogol. Duw, o'i fawr ddaioni, a fyddo iddi yn bob peth angenrheidiol yn ei hunigrwydd, ei hymddifadrwydd, a'i galar mawr presenol. Arweinied bi trwy y byd hwn a'i gynghor, ac wedi hyny cymmered hi i ogoniant.

Gwelir yn eglur fod Price, pan oedd yn dechreu tynuallan a mabwysiadu mesurau a gyfiawnhawyd gan amgylchiadau dylynol i gyflawnu ei waith fel Efengylwr,gweinidog, a duwinydd, a llafurio yn helaeth yn ngwinllanyr Arglwydd, yn gystal ag mewn cylchoedd pwysig ereill,a phan yr oedd haul dysglaer a thanbeidiol ei fywyd felcodiad haul y boreu, yn dechreu gwasgar ei oleuni claer igyfeiriad yr Eglwys Gristionogol a'r byd yn wleidyddol achymdeithasol, wedi cael saeth wenwynig i frathu ei deimladau tyner. Cododd cymmylau duon aeth ac helbul ynherwydd angeu drosto; ymruthrodd tymhestl erwin arno;disgynodd dalen chwerw i'w gwpan a redai drosto o fwyniant a hoenusrwydd ieuengaidd; ac ofnid y digalonai ac ydiffygiai ei yspryd bywiog yn y brofedigaeth lem gafodd ynmarwolaeth ei anwyl briod; ond cynnaliwyd ef i fyny ganyr Arglwydd. Ac yn herwydd bywiogrwydd naturiol eifeddwl, ymadnewyddodd yn fuan drachefn, ymaflodd ynholl ranau ei waith megys cynt, ac aeth yn mlaen ag ef ynegniol a phenderfynol. Er fod Price wedi cael colled fawryn marwolaeth Mrs. Price, oblegyd yr oedd yn foneddigesoedd yn llawn o rinweddau fyddent yn dra chynnorthwyoliddo ef fel gweinidog ieuanc, ac yn fanteisiol iawn i'r eglwysa'r achos yn y lle; etto, bu priodas Mr. Price yn neillduolo fanteisiol iddo drwy ei oes. Er mai amser byr iawn ybuont fyw gyda'u gilydd, yr oedd ei hyspryd caredig digyffelyb hi, ei synwyr cyffredin cryf, ei haddysg foreuol a'idiwylliant meddyliol, yn nghyd â'i gwylder a'i lledneisrwydd, wedi dylanwadu yn fawr ar ei feddwl, ac yr oeddteithi rhagorol ei chymmeriad pur wedi eu hargraffu ynddwfn yn ei yspryd a'i deimlad, a diau genym fod hynwedi llywio ei fywyd i raddau helaeth iawn. Hefyd, cafoddPrice drwy ei briodas gyfoeth mawr, a gwyr pawb nad ywcyfoeth, ond ei iawn ddefnyddio, yn anfanteisiol yn y weinidogaeth. Yr ydym yn gwybod am rai gweinidogion wedibod yn ffodus i gael cryn lawer o " dda y byd hwn," y rhai,er nad oeddynt yn sefyll yn neillduol o uchel yn eu dysg,eu talent, a'u dawn i bregethu, oeddynt yn boblogaidd, acyn meddu ar ddylanwad mawr, a hyny yn benaf am fod yfodrwy aur yn eu meddiant. Ond nid felly gyda Price.Bu ei gyfoeth yn fanteisiol iddo yn ei wahanol gylchoedda'i gyssylltiadau, er y gallasai drwy ei ddysg, ei dalent, a'ialluoedd naturiol braidd digyffelyb, fod wedi gwneyd eifarc yn ac ar y byd hebddo; ond y mae yn ddyogel genym Calfaria a'i changenau hyd 1866.ei fod am y pum' mlynedd ar ugain cyntaf o'i weinidogaethwedi gallu gosod ei farc yn eglurach a llawer uwch drwyei gyfoeth nag a allasai pe heb ei gael.

Yn fuan iawn, er gwendid dechreuol yr achos, a dygwyddiadau croes ac adfydus, aeth enw a gweithrediadauyr eglwys yn Mhenypound, fel eiddo ffydd yr EglwysGristionogol gynt yn Rhufain, yn “gyhoeddus yn yr hollfyd" braidd. Nid ydym yn gwybod am un eglwys gyday Bedyddwyr, nac un cyfenwad arall yn y Dywysogaeth,wedi gwneyd mwy o waith sylweddol, ac wedi bod amgynnifer o flynyddoedd mor llwyddiannus. Dichon foddirgelwch y llwyddiant i'w briodoli, i fesur helaeth, i'rgweinidog llafurus, Thomas Price. Yr oedd ynddo alluannghydmarol i drefnu a chynllunio. Y mae llawer iawngan gynlluniau effeithiol i'w wneyd â llwyddiant unrhywachos. Ystyrid Price gan bawb a'i hadwaenai yn dda ynun o'r trefnwyr goreu. Dywediad cyffredin gan bobl Aberdar, wrth son am y Dr. fel gweithiwr caled yn ei eglwys,ac o'r tu allan o ran hyny, yw, "Hen manager rhagorol ywy Dr., mae ei gynlluniau oll yn ystwyth ac effeithiol iawn."Dim ond iddo ef gael y defnyddiau gwnelai y gwasanaethgoreu o honynt. Yr oedd yn gadfridog diguro, a gallaiwneyd difrod ar rengau y gelyn â byddin gyffredin; oblegydyr oedd yn llu ynddo ei hun.Yr oedd efe yn beiriannyddgodidog, a gwnaethai waith mawr yn fynych, er i'r peiriantfyddai dan ei ofal fod i raddau yn ddiffygiol. Un o'r rhagoriaethau cyntaf ddadblygodd Price yn ei gyssylltiad â'ieglwys oedd y gallu i gynllunio, a'r medr i iawndrefnu acarwain i lwyddiant hyd y nod yn ngwyneb yr anhawsderaumwyaf. Yr oedd hefyd yn meddu ar ddawn ragorol arall,sef y gallu i weled y defnyddiau goraf i ateb ei bwrpas igyrhaedd ei amcanion a sicrhau llwyddiant gyda phobsymmudiad. Fel hyn cawn ef yn dewis yn ei eglwys ydynion cyfaddasaf i'r cylchoedd oedd i'w llanw ac i'r gwaithoedd i'w gyflawni. Amgylchynid ef gan ei ddiaconiaidgofalus, y rhai bob amser oeddynt yn barod at ei alwad;ond os y gwelai efe fod yn ei eglwys aelod cyffredin yngyfaddasach i'r gorchwyl, elai heibio y diaconiaid ynfoesgar at hwnw, gosodai ei law ar ei ysgwydd neu ar eiben, cyfarchai ef yn siriol a charedig, a chyfeiriai allan ygwaith iddo. Gosodai y drefn o'i flaen, ac fel cadfridogpenderfynol ac awdurdodol, dysgwyliai i'w orchymyniongael eu cyflawni, ac yn gyffredin gwneid hyny yn ddirwgnach ac ewyllysgar. Fel cadlywydd hyfedr, yn deallei faes a'i safle, tynai allan ei gynlluniau yn ofalusac effeithiol, i gadw nid yn unig y tir oedd yn ei feddiantyn barod, ond hefyd i ennill meusydd newyddion. Nidoedd Price yn geidwadol ei yspryd mewn dim braidd, ondi'r gwrthwyneb. Yr oedd yn neillduol o rydd yn ei hollgyssylltiadau crefyddol. Yr oedd efe yn dra rhyddfrydigei yspryd gyda golwg ar ledaenu yr achos a sefydlu eglwysinewyddion. Nid oedd efe, fel llawer o frodyr da a welsomyn y weinidogaeth Efengylaidd, yn hunangar (selfish), amddenu, ennill, a chadw pawb yn ei Jerusalem eu hunain,ac heb ofalu dim yn mhellach am yr achos nag oedd ynangenrheidiol i gadw eu temlau hwy yn weddol gysurus.Na, tra yr ydoedd efe yn ofalus am ei Jerusalem, ac yngwneyd ei oreu i gadw ei deml ei hun yn llawn, yr oeddhefyd yn ymegnio i wasgaru yr achos yn mhob cyfeiriad.Credai fod cymmaint o eisieu Efengyl ac achos yn"Samaria " a “Judea” ag oedd yn Jerusalem, ac yr oeddPrice o'r un yspryd a'r Apostol Paul, am lanw EfengylCrist hyd Illyricum, ei gylch, a phlanu yn helaethachynddo eglwysi y Duw byw. Gweithiai ei oreu i gadwcanolbwynt ei gatrawd yn gryf, etto nid esgeulusai esgyllei fyddin. Yr oedd pob rhan o'r maes mawr oedd yn agorediddo yn cael ei sylw a'i ofal manylaf. Un o'r pethau cyntafwnaeth wedi i'r achos godi ychydig, ac i'r eglwys gynnyddu, oedd ei rhanu yn bedwar dosparth, er dwyn yrardal yn fwy cyffredinol dan ei dylanwad. Edrydd Priceyn naturiol hanes rhaniad y tir a dosparthiad y gwaith, ynnghyd â'r canlyniadau dymunol o hyny fel y canlyn yn eiJubili:

Dechreuwyd Ysgol Sul yn Abernant, lle y penodwyd ar frodyr oymddiried i ofalu am arolygu yr ysgol, ysgrifenu i'r ysgol, ymweleddros yr ysgol, un arall i ofalu am y canu, un arall i drefnu y cyfarfodydd gweddio, a'r cwbl o dan arolygiaeth gyffredinol ein hanwyl frawdJohn Thomas. Ffurfiwyd dosparth arall yn gynwysedig o Heolyfelin,Llwydcoed, Tregibbwn, a Thai Penywaen. Rhoddwyd yma swydd ibob brawd, a phob brawd ei swydd, a'r cwbl o dan arolygiaeth einhanwyl frawd Thomas Dyke. Ffurfiwyd trydydd dosbarth yn Aberaman. Yma yr oeddym yn ffodus iawn i gael gwasanaeth gwerthfawrein brodyr hoff John Davies, John Protheroe, Rees Jones, ThomasEvans, Grocer, ac ereill, yn gyfundrefnol yn ol y rhanbarthau y byddai yr aelodau yn byw ynddynt. Hwn, yr adeg hon, oedd y dosparthgoreu o lawer, yn fwy lluosog, ac i'n golwg ni yn fwy addawol nag uno'r lleill. Yr oedd y rhan ganol o'r eglwys yn para yn y capel fel o'rblaen. Fel hyn daethom i gael pedwar cwrdd gweddi wythnosol, a'rrhai hyny ar yr un pryd, a phedair Ysgol Sul mewn llawn weithrediad.Teimlasom yo fuan fod yr egwyddor hon o ranu y gwaith yn un ddaiawn. Yr oedd pob aelod o'r eglwys yn cael ei ddwyn i gylch o ddefnyddioldeb, yr oedd pob un yn cael cyfle i wneyd daioni, tra nad oeddgan neb o honom amser i wneyd drwg, pe byddem yn dewis gwneydhyny. Trwy hyn hefyd yr oedd egwyddorion y Testament Newydd yncael eu dwyn i sylw cannoedd o ddynion yn y gwahanol ddosbarthiadau na fuasem ni byth yn eu gweled yn y capel. Wedi hyny yr ydymwedi bod yn medi ffrwyth toreithiog fel canlyniad i'r had da a hauwydyn y meusydd newyddion yn y blynyddau hyn ar grefydd yn y dosparthiadau. Peth arall, yr oedd yn cadw y gweinidog ieuanc mewnllawn waith ac ymarferiad. Nid oedd amser ganddo i dreulio dyddiauyn segur i wrandaw chwedlau diles a drygionus o dy i dy; ondyr oeddagor meusydd newyddion, planu a chynllunio i'r dosbarthiadau yncadw ei feddwl mewn llawn waith. Yr oedd mynych ymweliadau â'rdosparthiadau i fod yn eu cyfarfodydd ar gylch yn cadw ei gorff mewnymarferiad, tra yr oedd y profiad a enillodd trwy hyn yn ei wneyd ynllawer mwy cymhwys i lywyddu yn eglwys Dduw nag y buasai hebhyny. Mae blynyddau o brofiad wedi ein dysgu bellach fod gweithgarwch eglwysig yn elfen bwysig er ychwanegu dedwyddwch mewnolyr eglwys, tra y bydd yn cryfhau ei dylanwad moesol ar y byd."

Nid oedd y rhaniad a'r dosparthiad uchod ond dechreuad.Nid oedd amgen gosodiad i lawr sylfaen yr adeiladwaithoedd i'w ddwyn yn mlaen gan y gweinidog ieuanc a'i eglwysyn y dyfodol. Amlinelliad ydoedd yn dangos beth amcenidgan Price, ac yr ymestynid ato ganddo fel y byddai amgylchiadau yn galw ac yn caniatau. Cafodd y drefn honei pharhau yn yr eglwys tra y bu y gweithiwr difefl ynweinidog arni; oblegyd fel y gwelir yn y Trem a gyhoeddwyd gan y Dr. yn y flwyddyn 1885, cawn fod yr eglwys yradeg hono wedi ei rhanu i un-ar-ddeg o ddosparthiadau, yngyfundrefnol yn ol y rhanbarthau y byddai yr aelodau ynbyw ynddynt, a phob dosparth dan ofal" ymwelyddneillduol a gofalus, yr hyn, yn ddiau, sydd wedi profi ynfanteisiol i'r eglwys drwy yr holl flynyddau, ac sydd hefydyn cyfrif i raddau mawr am dangnefedd mewnol yr eglwys,a'r llwyddiant mewn niferi a nerth moesol ac ysprydol. A chyhyd ag y byddai y cangenau dan nawdd y fam eglwysa gofal gweinidogaethol Price, cyflwynid y drefn hon iddynta mynai ef weled ei bod yn cael ei chario allan yn effeithiol ganddynt.

Yn y flwyddyn 1849 mae yr eglwys wedi dyfod i gyflwrgweithio, ac er rhoddi pob mantais i'w wneyd yn egniol,ychwanegwyd at nifer y diaconiaid y brodyr Phillip John,David Hughes, William Davies, John Thomas, ThomasDyke, a John Davies. Y mae dau o honynt, sef D. Hughesa W. Davies, yn aros hyd heddyw, ac er mewn gwth ooedran, llanwant y swydd yn deilwng ac anrhydeddus.Yn y flwyddyn hono gollyngwyd amryw frodyr yn nosparth Aberaman i ffurfio Eglwys Gwawr, a chorffolwydhwy mewn pryd i'w derbyn yn eglwys i'r gymmanfa yflwyddyn hono. Yn y flwyddyn ddylynol, sef yn 1850, ergollyngiad y brodyr hyni Aberaman, teimlodd y frawdoliaethangen capel eangach nag oedd ganddynt ar y pryd. Wediychydig o bryderu o du yr eglwys, cafodd Price hwy, trwyei yspryd ymroddgar a phenderfynol, i hwyl codi capelnewydd, a dechreuwyd ar y gwaith yn y flwyddyn 1851, adaeth yn barod erbyn dechreu 1852. Yr oeddynt wedi bodyn addoli yn yr hen gapel am ddeugain mlynedd, a chynymadael ar foreu dydd yr Arglwydd, Chwefror yr 8fed,1852, cynnaliodd yr eglwys gyfarfod gweddi i gydnabodllaw ddaionus yr Arglwydd at yr eglwys yn ystod y blynyddau meithion hyn; ac yn yr hwyr y dydd hwnw symmudwyd yr arch o Benypound i gapel newydd Calfaria, acyn y mis Mai canlynol cafodd ei agor, pan y cynnaliwydrhes o gyfarfodydd cyhoeddus ar yr achlysur.

Yn y flwyddyn 1855, fel y cawn sylwi etto ynhelaethach,corffolwyd y gangen yn Mountain Ash, yr hon gafodd ei derbyn i'r Gymmanfa yr un flwyddyn. Yn y flwyddyn hono hefydy corffolwyd Eglwys Heolyfelin dan nawdd Eglwys Hirwaun, ond fod amryw o aelodau Aberdar oeddynt yn byw arHeolyfelin wedi ymuno â hi ar ei chorffoliad. Yn y flwyddyn1856, gollyngwyd pedwar ugain o aelodau er ffurfio yr Eglwys Seisnig, yr hon hyd hyny oedd gangen o'r EglwysGymreig. Yn yr un flwyddyn hefyd y dechreuwyd adeiladu Bethel, Abernant, ac agorwyd ef dydd Sul, Ionawr 25,1857. Mesurai yr ystafell 44 troedfedd wrth 28 troedfedd,ac yr oedd (rhwng y tŷ annedd) yn werth £344 18s. 3c.

Yn y flwyddyn 1858, cawn fod yr eglwys wedi penderfynu helaethu ei therfynau trwy adeiladu ysgoldai cyfleus yn yr Ynyslwyd a'r Gadlys. Mesurai ysgoldy yr Ynyslwyd 44 troedfedd wrth 28, gyda thy annedd da, y cwbl yn werth £254 17s. 8c. Gyda bod hwn wedi ei agor o du deheu i Galfaria, dechreuwyd adeiladu ysgoldy o'r un maintioli yn y Gadlys, yn nghyd a thri o dai annedd, y cwbl yn werth £372 3s. 4½c.

Yn yr un flwyddyn penderfynodd yr eglwys yn Nghalfaria wneyd cyfnewidiadau pwysig yn y capel oddifewn ac oddiallan, yr hyn a gostiodd iddi y swm o £350. Ail-agorwyd y capel, yn ol Mynegiad yn y Gweithiwr am Mehefin yr 11eg, 1859, ar y dyddiau Mawrth a Mercher blaenorol, sef y 7fed a'r 8fed. Dywed y Mynegydd, "Mae Calfaria yn awr yn un o'r capelau goreu yn Sir Forganwg, ac er ei fod yn fawr, etto yn rhy fach i ddal y rhai a garant ddyfod yno i wrando." Wedi manylu ar y cyfarfodydd, yn y rhai y neillduwyd unarddeg o ddiaconiaid i'r swydd gan Mr. Price, y gweinidog, trwy weddi ac arddodiad dwylaw, dywed fod y casgliadau wedi cyrhaedd y swm o £177 7s.4½c. Yr oedd £50 o hono wedi ei anfon gan C. R. M. Talbot, Ysw., A.S.[2] Y gweddill yn rhoddion yr eglwys, yn cael ei chynnorthwyo gan y gwrandawyr parchus—ar ddydd yr ail-agoriad. "Yr ydym (meddai yn mhellach) fel eglwys wedi talu yn agos i £1,400 yn ystod y deg mlynedd diweddaf, ac yr ydym yn awr ar orphen ysgoldai eang yn Ynyslwyd a'r Gadlys, ac helethiad y tŷ cwrdd yn cychwyn mewn dyled o £1,420 18s. 3c., yr hyn a dalwn dan ganu o hyn i bum' mlynedd i yn awr, os bydd i Dduw y nefoedd wenu arnom fel y gwnaeth yn y deg mlynedd diweddaf." Am gyfnewidiadau pwysig a chynnydd rhyfeddol yr enwad yn y Dyffryn, ysgrifena Dr. Price yn ei Juwbili fel y canlyn:—

"Yn ystod yr un mlynedd ar bymtheg diweddaf y mae cyfnewidiadau pwysig iawn wedi cymmeryd lle yn Aberdar. Mae y trigolion wedi cynnyddu yn fawr iawn, felly dylasai yn ol natur pethau fod cynnydd yn rhif yr aelodau yn yr eglwys er cadw ei safle yn unig, heb fod unrhyw wir gynnydd yn cymeryd lle, ac ystyried agwedd gynnyddfawrAberdar a'i phoblogaeth. Ond y mae genym ni achos diolch i Dduwfod cynnydd y Bedyddwyr yn Aberdar am y pymtheg mlynedd diweddaf yn llawer mwy mewn cyfartaledd nâ chynnydd y boblogaeth.A rhoddi 91 o Fedyddwyr yn y flwyddyn 1846 ar gyfer trigolion Llwydcoed, Tai Penywaen, Heolyfelin. Abernant, Aberdar, Aberaman, Cwmaman, Abercwmboye, a Mountain Ash, byddai 650 o Fedyddwyr ynawr yn y lleoedd yna yn ateb i 91 yn 1846. Ond y mae eglwys Calfariaei hun yn 1,031 o gymunwyr heddyw, tra y mae eglwysi Llwydcoed,Cwmdar, Heolyfelin, Carmel, Aberdar, Gwawr, Aberaman, Cwmaman,Abercwmboye, a'r Mountain Ash yn rhifo yn ychwanegol. Fel hyn ygwelir fod y Bedyddwyr wedi cynnyddu yn mhell iawn tu hwnt i gynnydd y boblogaeth yn Aberdar yn y pymtheg mlynedd diweddaf."

Rhydd y ffeithiau uchod i ni olwg ffafriol ar ffyddlondebdihafal ac ymdrechion diflino y Bedyddwyr yn y dyffryn,yn o gystal ag enghreifftiau o weithgarwch a gofal annhraethol tywysog llu y Bedyddwyr yn y cwm—y Parch.Thomas Price. Ond nid yw yr hyn sydd wedi ei nodiallan genym etto ond rhan fechan iawn o'r gwaith mawrgyflawnwyd ganddo yn ei gyssylltiad ag achos y Gwaredwryn Aberdar a'r cylchoedd. I sicrhau y llwyddiant enfawra noda y Dr., gosododd efe ei holl alluoedd i gynllunio,trefnu, ac arwain yn gysson, mewn gweithrediad. Nidydym yn gwybod am un eglwys Gymreig yn y Dywysogaeth wedi cael mwy o waith wedi ei dori allan iddi gan eibugail, ac wedi ei chynnorthwyo yn helaethach ganddo,i'w gyflawnu yn llwyr ac effeithiol. Sefydlodd y Dr. yngyssylltiedig â'r eglwys amryw gymdeithasau buddiol, yroll o honynt yn hyrwyddol i'w llwyddiant a'i chysur parhaus yn mhob ystyr. Bu y sefydliadau hyn yn cael eucario yn mlaen am flynyddau yn gyfundrefnol a gofalus,ac y mae rhai o honynt mewn bod ac yn llewyrchus hydheddyw. Gan eu bod yn arddangos mewn graddau helaeth business tact y Dr., ac y gallent fod yn fanteisiol iweinidogion ac eglwysi ereill i fabwysiadu rhai tebyg,gosodwn rai o honynt yma, fel y gwelodd y Dr. yn dda euhargraffu yn ei Juwbili:—

CYMDEITHASAU CYNNORTHWYOL YR EGLWYS.

"Y mae yn perthyn i'r eglwys amryw gymdeithasau cynnorthwyol,y rhai ydynt yn fath o adgyfnerthion i Seion i gael y byd i ufudd-dod Crist. Y mae y rhai hyn yn gweithio er daioni gyda ni, a charem weled cymdeithasau cyffelyb mewn ymarferiad yn ein heglwysi yn fwy cyffredinol nag ydynt yn awr. Y cyntaf a gawn nodi yw—

YR UNDEB CRISTIONOGOL.[3]

"Budd-Gymdeithas yw yr Undeb Cristionogol er lles yn benaf i aelodau y gynnulleidfa, ond yn agored i unrhyw ddyn ieuanc sobr a gweithgar a ddymunai ymuno â hi yn ol y Rheolau. Sefydlwyd hon yn y flwyddyn 1861. Y mae wedi para i gynnyddu a chryfhau o hyny hyd yn awr. Y mae pwysigrwydd ei gweithrediadau i'w canfod yn y ffaith fod ei derbyniadau arianol o'r dechreu hyd Ragfyr, 1861, yn cyrhaedd y swm o £1,197 15s. 4½/c., tra yr oedd y taliadau allan am yr un cyfnod yn cyrhaedd y swm o £878 10s. 1oC. Yr oedd ei Thrysorfa Gadw (Reserve Fund) ar ddiwedd y flwyddyn ddiweddaf yn £300, tra yr oedd yn llaw y trysorydd £19 4s. 6½c. er cyfarfod â galwadau y cleifion. Y mae hwn yn un o'r clybiau rhataf a mwyaf llwyddiannus yn yr holl ardal. Mae ei weithrediadau yn cael eu dwyn yn mlaen yn hollol ddidwrw ac heb, hyd yma, un ffyrling o gamsynied arianol. Ar ol mwy na deng mlynedd o brofiad, yr ydym ni yn cymmeradwyo yr Undeb Cristionogol, neu ryw undeb cyffelyb, i sylw yr eglwysi trwy Gymru.

UNDEB DORCAS.

"Budd-Gymdeithas yw hon etto wedi ei sefydlu er mwyn merched a gwragedd y gynnulleidfa a'r gymmydogaeth. Cafodd hon ei sefydlu yn y flwyddyn 1853. Y mae wedi para i gynnyddu yn raddol o hyny hyd yn awr. Y mae ei derbyniadau o'r dechreu hyd fis Ebrill, 1862, yn cyrhaedd y swm o £274 9s. 3c. Yn yr un cyfnod, mae wedi talu allan mewn achosion o glefyd a marwolaeth y swm o £134 16s. Ioc. Y mae ganddi yn awr Drysorfa Gadw o £130 yn dwyn llog, tra y mae yn llaw y Trysorydd y swm o £9 12s. 5c. er cyfarfod galwadau y flwyddyn. Y mae y gymdeithas hon etto yn un a allwn ei chymmeradwyo i'r meddylgar yn ein heglwysi. Y mae rheolau argraffedig y cymdeithasau hyn wedi eu tynu i fyny gyda gofal am ddyogelwch, ac ar yr un pryd yn hollol syml a dirodres.

MAMMAETH MEIBION Y PROFFWYDI.

Cymdeithas yw hon wedi ei sefydlu i'r dyben da o gynnorthwyo ybrodyr ieuainc a ddichon fod yn yr athrofeydd o'r eglwys hon. Y maesefyllfa llawer o'n brodyr ieuainc da a duwiol tra yn yr athrofa yn gyfryw ag a ddylai gael mwy o sylw yr eglwysi sydd yn eu danfon hwyyno. Ni ddylent fod mewn cyfyngder am ddillad priodol tra yn yrathrofa; ond rhaid i lawer fod felly neu gael eu cynnorthwyo, neu yrhyn a fydd yn llawer gwaeth, myned i ddyled tra yn fyfyrwyr. Y maey gymdeithas hon wedi ei sefydlu i'r dyben o gynnorthwyo ein brodyrieuainc ydynt yn yr athrofeydd. Y mae y gymdeithas yn cael eigwneyd i fyny o wragedd a merched yr eglwys, yn cael eu cynnorthwyo gan danysgrifiadau y brodyr. Eu cynllun fydd casglu trysorfatrwy roddion y gwirfoddiaid hyny a fyddant foddlon i'w cynnorthwyo;yna, prynu nwyddau; yn nesaf, rhoddi eu hamser a'u harian i weithio ynwyddau hyn yn ddillad yn ol natur yr alwad am danynt. Y maegweithrediadau y gymdeithas hon yn ymddybynu llawer ar amgylchiadau ein myfyrwyr ar y pryd.

CYMDEITHAS LENYDDOL YR EGLWYS.

"Y mae y gymdeithas hon o agwedd wahanol iawn i'r rhai ag ydymwedi eu nodi yn barod. Y mae hon o nodwedd lenyddol hollol. Yramcan mewn golwg yw gwrteithio talentau ein gwyr ieuainc, a chaelallan y perlau a ddichon fod yn gorwedd yn llwch meddyliau rhai oaelodau ieuainc yr eglwys, ond etto, o ddiffyg cyfle, yn cadw o olwg ygweinidog a'r eglwys. Y mae hon genym yn fath o safon i brofi galluoedd, diwydrwydd, ac ufudd-dod ein pregethwyr ieuainc; trwy hyn, ymae y gweinidog a'r blaenoriaid yn cael cyfle i'w hadnabod cyn eucymmeradwyo i'r athrofeydd. Y mae rhai yn ffyddlon iawn gyda hon.Y mae yn hon yn awr gymmeriadau a fyddant yn rhai o wyr enwogIsrael yn y blynyddau dyfodol.

"Y mae maes y gymdeithas hon yn un helaeth iawn; mae yn ymdrin â dysgeidiaeth Feiblaidd yn ei hamrywiol gangenau—Athronyddiaeth Naturiol a Meddyliol, Darllenyddiaeth, Gwersi GrammadegolCymraeg, Saesonaeg, Lladin, Groeg, a Hebraeg; Cyfansoddiadau,Dadleuon, Areithio, gyda phob cangen arall o ddysgeidiaeth o duedd idynu allan dalentau ein haelodau ieuainc, gwrteithio y cyfryw wedi eucael allan, a gwneyd yr aelodau yn y gymdeithas i fod yn mhob ystyryn well aelodau yn yr eglwys.

YR ARIANDY CEINIOG.

Yr oedd hwn yn un o sefydliadau yr Eglwys hyd ddiwedd yflwyddyn 1861, pan roddwyd ef i fyny yn herwydd sefydliad yr Ariandy Cyffredinol yn y Llythyrfa. Yn y ddwy flynedd diweddaf darfu ini, trwy yr Ariandy Ceiniog, gasglu mewn symiau mor fychain ag ogeiniog i fyny yn wythnosol y swm o £687 14s. 2g. Mae y symiau hynoll wedi eu talu yn ol i'r rhanfeddiannwyr bychain heb gymmaint affyrling o gamsyniad. Bu bodolaeth a gweithrediadau yr AriandyCeiniog yn foddion i brofi i ni fod gan eglwys Calfaria frodyr o fedr, dawn a thalent—o onestrwydd a chywirdeb dihafal—rhai ag y gall ygweinidog ymddibynu arnynt i ddwyn oddiamgylch unrhyw fudiad afyddo yn gofyn am ffyddlondeb, amynedd, cywirdeb, manylwch,gweithgarwch, anrhydedd yr eglwys, a lles y genedl ienanc yo Aberdar.Yr ydym yn edrych yn ol ar weithrediadau yr Ariandy Ceiniog gydahoffder a boddlonrwydd calon; ac yr ydym yn cofnodi y ffaith ermwyn dangos y fath ddaioni fedr ychydig o frodyr da wneyd yn eglwys Dduw.

"Y mae y cymdeithasau hyn o fwy pwys i'r eglwys nag a feddyliryn gyffredin. Yr ydym ni o'r farn y dylai yr eglwys gymmeryd gafaelar bob mudiad yn yr ardal a'r gymmydogaeth er eu cael i dalu gwarogaeth i Seion, a thalu teyrnged i'r achos mawr sydd wedi ei fwriadugan Dduw i adferyd y byd. Dylai gweinidogion yr efengyl a'r eglwysidan eu gofal edrych yn fanwl ar symmudiadau y gymdeithas ddynolDylent ymdrechu i arwain a rhoddi cyfeiriad priodol i'r Clybiau, BuddGymdeithasau, Sefydliadau Dyngarol, Cymdeithasau Llenyddol, Eisteddfodau, Cyngherddau, a phob rhyw fudiad cyffelyb. Os na fydd igrefyddwyr yr oes orbwyso yn, ac arwain y mudiadau hyn, bydd iddynthwy yn fuan ymlygru, ac yn eu llygredd a'u bydolrwydd arwain iddinystr gannoedd o aelodau ieuainc ein heglwysi. Yr ydym ni feleglwys wedi gwneyd prawf ar amryw o'r pethau hyn, ac yn awr oddiarflynyddau o brofiad, yn gallu eu cymmeradwyo i sylw ereill yn y wlad."

Galwai y Dr. y cymdeithasau hyn yn Adgyfnerthion yrEglwys, a chafodd eu bod yn dra chynnorthwyol iddi.Ond y fa*gwrfa benaf i'r eglwys yn ei olwg ef oedd yr YsgloSabbothol, yr hon a gymmerai y lle blaenaf yn mhlith ysefydliadau oeddynt yn gyssylltiedig â'r eglwys a than eiarolygiaeth ef. Credai yn fawr yn yr Ysgol Sul, ac yr oeddyn talu y sylw mwyaf iddi, a phob amser yn gwneyd ei oreudrosti.

Mewn defnyddioldeb a gwir wasanaeth i'r eglwys ystyridy Gymdeithas Lenyddol yn nesaf at yr Ysgol Sabbothol, adywed un cyfaill a fu yn aelod o honi am dymhor, fod ygymdeithas fuddiol hon wedi gwneyd gwaith rhagorol, acwedi bod o wasanaeth enfawr i'r eglwys am flynyddau.Codwyd ynddi a thrwyddi fechgyn galluog i'r areithfa, acy mae wedi magu llu mawr o lenorion addfed a gwychydynt wedi cymmeryd eu safleoedd yn anrhydeddus ynmhlith beirdd a llenorion ein gwlad. Ni wyddom am ddimyn fwy effeithiol i ddangos eangder meddwl y Dr., ynnghyd â'i feddylddrych am gyflawnder o waith i'r "boblieuainc," fel y dywedai, yn nghyd â'i chwaeth uchel ynnosraniad y gwaith, nâ chynllun neu ragdrefn y GymdeithasLenyddol, yr hon, er mantais i'r darllenydd gael golwgweddol gywir ar Price yn ei berthynas â phobl ieuainc eieglwys a'i gynnulleidfa, a osodwn yma:—

CYFANSODDIAD CYMDEITHAS LENYDDOL CALFARIA, ABERDAR.

'Llywydd Y Parch. Thomas Price, M.A., PH.D. Trysorydd—E.G. Price, Yswain. Ysgrifenydd—Mr. Benjamin Hinton. Is-Lywydd.ion—Mri. Henry Davies a Henry Jones. Gramadegau—E. G. Price,Ysw., Mri. J. Jones a J. Rees. Daearyddiaeth—Mr. Benjamin Hinton.Arferiadau yr Iuddewon, ac Athroniaeth—E. G. Price, Ysw. Darllenyddiaeth, Traethodau, Cyfieithiadau, Areithiau, Dadleuon, Amseryddiaeth, &c.—Y Llywydd a'r Is—Lywyddion. Pwyllgor—Mri.W. Davies, W Evans, D. Adams, D. Evans, E. Jones, Yr Is-Lywyddion, a'r Athrawon.

TALIADAU.

"Aelod cyffredin i fwynhau pob rhan ond y Gramadegau, Tair Ceiniog y Chwarter; aelodau yn dysgu Gramadeg, Chwe Cheiniog bob trimis.

"Mae yr ysgol hon yn rhydd i bawb, pa un a fyddant yn perthyn igynnulleidfa Calfaria ai peidio; ond taer ddymunir ar ieuenctyd ein hysgolion i wneyd y defnydd goreu o honi.

"Bydd gwers mewn darllen Saesneg yn cael ei rhoddi bob nos cyfarfod; hefyd, bydd gwers mewn Gramadeg Saesneg bob nos, yn dechreu am 7 o'r gloch. Y pethau ereill yn ol y Rhagdrefn.

Ymofyner am aelodiaeth â Mr. B. Hinton, Ysg. Myg.

RHEOLAU.

"I. Fod y gymdeithas hon i gael ei galw wrth yr enw 'CymdeithasLenyddol Calfaria, Aberdar,' a bod ei chyfarfodydd i gael eu cynnal yn Vestry Capel Calfaria.

"II. Fod y gymdeithas i gael ei rheoleiddio gan lywydd, tri neuragor o is—lywyddion, trysorydd, ysgrifenydd, gyda phwyllgor o chwech o bersonau—yr oll i feddu hawl i siarad a phleidleisio yn holl gyfarfodydd y pwyllgor, a'r oll i gael eu dewis trwy bleidlais o blith yr holl aelodau, a'r oll i fyned allan o swydd ar ben y flwyddyn, ond bod yr oll yn gymhwys i gael eu hail ethol, os bydd yr aelodau yn dewis gwneyd hyny.

III. "Fod holl aelodau yr eglwys yn Nghalfaria, a gwrandawyr y cynnulleidfaoedd yn Nghalfaria, Bethel, Gadlys, a'r Ynyslwyd, hefyd holl athrawon a dysgyblion yr Ysgolion Sabbothol yn y lleoedd uchod, gydag unrhyw berson arall a gymmeradwyir fel un o gymmeriad da—yn gymhwys i fod yn aelodau o'r gymdeithas, os bydd iddynt ymrwymo i dalu y gyfran chwarterol yn unol â Rheol IV., ac hefyd gydymffurfio â'r holl reolau hyn.

"IV. Dyben y Gymdeithas fydd diwyllio meddyliau yr aelodau,trwy gyfranu gwybodaeth yn y cangenau canlynol o ddysgeidiaeth:

1. Beiblaidd.—(a) Hanesiaeth Ysgrythyrol; (b) Amseryddiaeth yBeibl; (c) Cysgodau yr Hen Destament; (d) Seremoniau yr HenDestament; (dd) Arferiadau yr Iuddewon; (e) Proffwydoliaethau a'uCyflawniadau; (f) Daearyddiaeth Gyssegredig; (ff) Partheg (Topography) Gwlad Canaan; (g) Bywgraffiadau Beiblaidd; (ng) Bywyd Crist ar y ddaear; (h) Swyddau Cyfryngol Crist; (i) Cyfansoddiad yr Eglwys; (m) Athrawiaethau yr Ysgrythyrau; (n) Hanesiaeth Eglwysig.

2. Ieithyddol.—(a) Grammadeg Cymraeg, Saesneg, Lladin, Groeg,a Hebraeg: (b) Cyfieithu o iaith i iaith; (c) Sillebiaeth; (d) Darllenyddiaeth.

3. Cyfansoddiad.—(a) Cyfansoddiad Traethodau; (b) CyfansoddiadAreithiau.

4. Areithyddiaeth.—(a) Areithiau ar y testynau uchod; (b) Dadleuon ar bynciau neillduol.

5. Athroniaeth.—(a) Athroniaeth Naturiol; (b) AthroniaethFeddyliol.

6. Cynniledd—(a) Cynniledd Teuluaidd.

Gydag unrhyw destun neu destunau ereill a ddichon gael eu cynnyggan aelodau y gymdeithas o bryd i bryd, ac a fernir yn ddyddorol gan y pwyllgor.

V. Fod dewisiad y testunau, a'r dull cyffredin o'u trafod, yn cael eu hymddiried i'r pwyllgor—tra y gall unrhyw aelod, ar unrhyw brydgynnyg testun neu destunau i sylw y pwyllgor.

VI. Fod pob person wrth ddyfod yn aelod o'r gymdeithas i dalu yswm o dair ceiniog, a'r un swm yn chwarterol. Bydd i chwarter ygymdeithas ddechreu ar y nos cyfarfod cyntaf yn mis Ionawr, Ebrill, Gorphenaf a Hydref, yn mhob blwyddyn.

VII. Bydd i'r Llywydd, os yn wyddfodol, lywyddu holl gyfarfodyddy gymdeithas yn ei absenoldeb, un o'r is lywyddion; ond os na fyddun o'r is—lywyddion yn bresenol, unrhyw aelod a etholir ar y pryd i fod yn Llywydd am y cyfarfod hwnw.

VIII. Fod dysgu Grammadeg i gael ei ystyried yn ran neillduol oweithrediadau y gymdeithas, ac fod i bob un a ddewiso ymuno â'rDosparthiadau Grammadegol dalu tair ceiniog yn y chwarter yn ychwanegol at y swm o dair ceiniog a delir ganddynt at dreulion cyffredin y gymdeithas.

IX. Ni chaniateir mygu na siarad ofer yn ystod oriau y cyfarfod; abydd yn rhaid i bob un ufuddhau i alwad y Llywydd am ddystawrwydd a threfn pan alwo am hyny, neu fod yn agored i ddiaelodiad o'rgymdeithas.

X. Pan fyddo testyn yn cael ei ddadleu, arferir rheolau Tŷ y Cyffredin, gyda y gwahaniaeth na fydd un bleidlais i'w chymmeryd ar ddiwedd ymdriniad â'r pwnc mewn dadl.

XI. Ni chaniateir i un aelod wneyd unrhyw gyfeiriad personol acanfoneddigaidd o duedd i ddolurio teimlad un o'i gyd-aelodau.

XII. Bydd i gyfarfodydd y gymdeithas ddechreu am 7 o'r gloch, adiweddu am 9 o'r gloch yr hwyr.

XIII. Hyd ag y gellir, bydd i gyfarfodydd y gymdeithas gael eucynnal o leiaf unwaith bob wythnos, ac os bydd modd, ar nos Fawrthyn mhob wythnos.

XIV. Bydd arholiad cyhoeddus yn chwarterol, hanner-blynyddol,neu yn flynyddol, i gymmeryd lle, er gweled gweithrediadau y gymdeithas a chynnydd yr aelodau mewn gwybodaeth. Amser a threfn yr arholiadau i'w gadael i'r pwyllgor.

"Ac er mwyn rhoddi golwg ar y gweithrediadau, rhoddwn yma ycynllun o weithredu am yr hanner blwyddyn. Y mae hwn fel cynllunyn siampl o'r hyn sydd yn barhaus, ond fod y pynciau yn cael eu newid a'u hamrywio:—

Rhagdrefn am y Chwe' mis yn dechreu Hydref 6ed, 1863, ac yn diweddu
Mawrth 25ain, 1864.

YR WYTHFED A'R NAWFED CHWARTER.

Hydref 6, 1863—Adolygiad cyffredinol ar weithrediadau y tri misblaenorol—Awgrymiadau—Siarad rhydd—Derbyn aelodau.

Hydref 13—Gwladlywiaeth yr oruchwyliaeth Foesenaidd, Rhan I—Siarad rhydd ar y pwnc uchod—Darllen Saesneg.

Hydref 20—Daearyddiaeth—Teithiau Crist—Y daith o Bethlehemi'r Aifft ac yn ol i Galilea—Butler's Analogy—Siarad rhydd—Areithiauar Beth yw addysg y ddiareb 'Heb Dduw heb ddim.'

"Hydref 27—Gwladlywiaeth yr oruchwyliaeth Foesenaidd, Rhan II.—Siarad rhydd—Areithiau ar Ysgol Jacob, yr hanes a'r addysgiadau.

Tachwedd 3—Athroniaeth Naturiol—Darllen Traethawd gan Mr.Henry Jones, yn Saesneg, ar 'Lle y mae ewyllys mae ffordd '——Siaradrhydd.

Tachwedd 10—Arferiadau yr Iuddewon—Y trigfanau, Rhan I.—Siarad rhydd—Areithiau ar ystyr y ddiareb, 'Duw a digon.'

Tachwedd 17—Daearyddiaeth—Taith Crist o Nazareth i Jerusalemar amser yr wyl—Analogy Butler—Darllen Saesneg.

Tachwedd 24—Arferiadau yr Iuddewon—Eu trigfanau, Rhan II.—Areithiau ar Jacob yn nhŷ ei ewythr Laban–Crynodeb o'r hanes a'raddysgiadau.

Rhagfyr 1—Athroniaeth Naturiol— Beirniadaeth ar y Traethodauar gymmeriad Moses, Rhan I.—Cymmerir golwg ar ei rieni, ei enedigaeth, ei fabwysiad, ei ddygiad i lŷs yr Aifft, a'i sefyllfa yno—Siaradrhydd ar y pwnc hwn—Darllen Saesneg.

Rhagfyr 8—Daearyddiaeth—Taith gyntaf Crist yn ystod ei weinidogaeth gyhoeddus—Arferiadau yr Iuddewon—Y gwib—deuluoedd. Rhan I.—Analogy Butler—Siarad rhydd.

Rhagfyr 15—Hanesiaeth Ysgrythyrol—Galwad ac ufudd—dod Abraham, Genesis xi. 27—32; Genesis xii. 1—5, ac Actau vii. 2—4—Darllen Saesneg.

"Rhagfyr 22—Arferiadau yr Iuddewon—Y gwib deuluoedd, RhanII.—Darllen papyr Saesneg gan Mr. John Rees ar 'Hanes, cymmeriad,ac addysgiadau bywyd Abraham'—Siarad rhydd.

Rhogfyr 29—Daearyddiaeth—Ail daith Crist yn ystod ei weinidogaeth gyhoeddus—Analogy Butler—Beirniadaeth ar y Traethodau arFywyd Moses, Rhan II.—Ei ymadawiad â llys yr Aifft—Lladd y dyn—Ffoedigaeth i Midian—Ei briodas a'i arosiad yno am 40 mlynedd—Siarad rhydd ar y pwnc hwn.

Ionawr 5, 1864—Arferiadau yr Iuddewon—Eu gwisgoedd, Rhan I.Dadl—'A ellir cyfiawnhau ymddygiad Jacob yn ei ddull o godi ei gyflogpan yn ngwasanaeth ei ewythr?'—Hefyd, ' Ei ddull o ymadael â gwasanaeth ei ewythr?'

Ionawr 12—Athroniaeth Naturiol—Darllen papyr Saesneg gan yParch. James Jones ar Nodweddau ac addysgiadau bywyd Isaac'—Siarad rhydd.

Ionawr 19—Daearyddiaeth—Trydedd daith Crist yn ystod ei weinidogaeth gyhoeddus—Hanesiaeth Ysgrythyrol—Ymadawiad Abraham a Lot, Genesis xiii.—Siarad rhydd ar addysgiadau yr hanes.

Ionawr 26—Yr Iuddewon—Eu gwisgoedd, Rhan II.—Darllen papyryn Saesneg gan y Parch. David Adams ar Hanes, cymmeriad acaddysgiadau bywyd Jacob'—Siarad rhydd ar y pwnc hwn."Chwefror 2—Areithiau ar Ymweliad y doethion á'r Mab bychana'i fam–O ba le y daethant?—Beth oedd yn eu cynhyrfu?—Natur euparch?— Nodwedd eu rhoddion?—a'r addysgiadau i ni?—DarllenSaesneg.

Chwefror 9——Yr Iuddewon—Eu bwydydd, Rhan I.—Darllen papyrSaesneg gan Mr. Humphrey James ar' Hanes, nodweddau, a disgynyddion Esau, mab Jacob'—Siarad rhydd ar y testyn uchod.

Chwefror 16—Athroniaeth Naturiol—Butler's Analogy—SiaradRhydd—Beirniadaeth y Traethodau ar Moses, Rhan III—Y deugainmlynedd olaf o'i fywyd—Siarad rhydd ar y pwnc hwn.

Chwefror 23—Daearyddiaeth—gwlad Canaan yn ei maintioli, hyda lled, yn gymharol ac yn gyferbyniol i Gymru—Darllen papyr ynSaesneg gan Mr. David Jones, ar 'Hanes bywyd a nodweddion Ishmael a'i ddisgynyddion '— Siarad rhydd ar y testun hwn.

Mawrth 2—Yr Iuddewon—Eu bwydydd, Rhan II.—Areithiau—Cwymp Jericho—Rhan y bobl, a llaw Duw yn y gwaith—DarllenSaesneg.

Mawrth 9—Athroniaeth Naturiol—Darllen papyr yn Saesneg ganMr. Jeremiah James, ar 'Broffwydoliaethau Jacob am Reuben, Simeon,a Juda'—Darluniad o nodweddau y meibion, a chymmeriad y llwythauyn ol llaw—Siarad rhydd.

Mawrth 19—Yr Iuddewon—Ansawdd eu cymdeithas deuluaidd,Rhan I.—Butler's Analogy—Siarad rhydd—Darllen Saesneg.

Mawrth 23—Areithiau ar y Gibeoniaid—Eu dyfodiad at Joshua,eu twyll, eu haniad, eu bwydydd, a'u hesgidiau—Y cyfammod a'i ganlyniadau—Joshua ix.—Darllen papyr yn Saesneg gan David Williams,ar Proffwydoliaethau Jacob am Zabulon, Issacar, Dan, Gad, Aser, aNaphthali, gan nodi allan nodwedd bersonol y meibion gyda hanes yllwythau '— Siarad rhydd ar hyn.

Mawrth 30—Yr Iuddewon—Ansawdd eu cymdeithas deuluaidd,Rhan II.—Beirniadaeth y traethodau ar hanes, cymmeriad, ac addysgbywyd Joseph—Siarad rhydd—Dadl—A oes rhyw reswm i gredu fodIoan Fedyddiwr yn gweinidogaethu dan yr Hen Oruchwyliaeth?

Mae y Traethodau at eu beirniadu i fod yn llaw y llywyddwythnos cyn y cyfarfod, yn yr hwn y byddant yn dyfod i sylw.

"Os bydd i un o'r aelodau ymwrthod â darllen papyr Saesneg,wedi addaw, bydd yn ofynol iddo roddi pythefnos o rybudd o hyny,fel y gellir darparu arall yn ei le."

Yr oedd y Dr yr un mor gyfundrefnol gyda y cymdeithasau ereill, ac yn llawn mor ofalus ar ol eu gweithrediadau.Teimlai ddyddordeb neillduol ynddynt, gan eu bod, mewnystyr, yn blant ei feddwl ac yn gynnyrchion ei ddarfelydd eihun, ac yn profi, fel y nodai, yn dra gwasanaethgar abuddiol i'r eglwys a'r gynnulleidfa. Mae yn wir ei fod yncael llawer iawn o gynnorthwy brodyr da a charedig gyday gwaith mawr oedd yn cael ei gyflawnu gan y cymdeithasau hyn oeddynt yn gyssylltiedig â'r eglwys. Nid ydymyn gwybod am lawer, os am neb, wedi bod bob amser ynfwy ffodus yn ei ddiaconiaid nâ'r Dr., ac yr oeddynt hwyyn cymmeryd rhan dra blaenllaw gyda phob symmudiad obwys yn holl gyssylltiadau yr eglwys. Hefyd, cododd ynyr eglwys nifer lluosog o ddynion ieuainc o dalent a chymmeriad, y rhai fuont ar eu heithaf yn cydlafurio yn heddychol â'r Dr. enwog, megys ei lysfab, Mr. Edward GilbertPrice; y Parch. James Jones, Abercwmboye, wedi hyny,Tonyrefail (yr oedd efe yn ddiau yn genius, a phe cawsaifyw, y mae yn ddyogel genym y buasai wedi rhoddi prawfion diamheuol o hyn); Gwerfyl James, a'i frawd JamesSpinther James, yr hwn erbyn heddyw sydd yn un o hynafieithwyr ac ysgrifenwyr goreu Cymru, yn llenor o nod acenw, ac wedi graddio yn Athraw Celfyddydol; DavidGriffith, yn awr o Aberafon; a'r diweddar Barch. GeorgeThomas, Porth. Yr oedd y rhai hyn ac ereill yn caelgwneyd eu rhan gan y Dr. yn nygiad yn mlaen waith amrywiol yr eglwys, yn neillduol yn y Dosparth Llenyddola'r Ysgol Sul. Etto, enaid y gwaith—yr yspryd mawrsymmudol yn yr holl weithrediadau—oedd y Dr. ei hun.Efe oedd yr ager yn y peiriant—yr haul yn y cyfundrefnau.Cawsai gan ei fedr i lywodraethu ac i arwain bob olwynyn y peiriant i droi yn naturiol a thra ystwyth. Taflaioleuni ar holl gyssylltiadau y cyfundrefnau y perthynai iddynt, a thynai allan fywyd ac egnion pawb oedd ynperthyn iddynt. Trwy hyn, galluogwyd ef i wneyd toraeth o waith yn ei eglwys yn Aberdar a'r cylchoedd fyddyn glod i'w enw ac yn anrhydedd i'w ben a'i galon amoesau lawer i ddod.

Yr oedd Price hefyd yn neillduol weithgar a ffyddlawngyda'r Ysgol Sabbothol. Mynychai hi yn y boreu hyd yblynyddau olaf o'i fywyd, ac yr oedd yn dra chysson ynmhrydnawn y Sul pan fyddai gartref. Bu dosparth dan eiofal drwy y blynyddau yn rheolaidd yn yr Ysgol bob prydnawn y Sabboth. Yr oedd hefyd yn gweithredu felathraw yn Ysgol y boreu, er fod gofal y dosparth yn caelei gymmeryd gan un neu ddau o'r diaconiaid. Yr oeddganddo amryw o frodyr galluog yn ei ddosparth, a theimlent ddyddordeb mawr yn yr Ysgol ar gyfrif y wybodaethgyffredinol a dderbynient gan yr enwog Ddr. Defnyddiaiyn gyffredin ddarlunlen (map) at wasanaeth ei ddosparth,a byddai bob amser yn awdurdod ar bwyntiau o ddaearyddiaeth, hanesiaeth, ac amseryddiaeth Feiblaidd. Ynfynych, clywid rhai yn yr Ysgol yn dweyd, "Onid yw yDr. yn ddoniol? Y mae efe fel encyclopædia yn mhobpwnc." Yr oedd ei wybodaeth gyffredinol yn ddiarebol,a'i arabedd pan yn esponio yn ei ddosparth mal rhaiadr yndisgyn ar glustiau y dysgyblion. Yr oedd yn nodedig amei ofal am y plant a'r bobl ieuainc yn ei Ysgol a'i eglwys.Torai bob amser ddigon o waith allan iddynt, ac ymhyfrydai siarad â'r plant a'u cefnogi yn mhob modd. Nidoedd y lleiaf a'r dystadlaf o honynt islaw ei sylw. Byddaibob amser yn siriol-ar ei wên yn myned oddiamgylch ydosparthiadau ychydig amser cyn eu diweddu, ac yr oeddyn dra charedig a moesgar i bawb. Yr oedd y plant ynhoff iawn o hono; gwaeddent allan pan welent ef yn dod,"Mr. Price,” "Price Penpound." Yr oedd hyn yn eifoddhau yn fawr, ac yr oedd gydag ef air caredig i'wddweyd wrth bob un o honynt. Cyfrifai hyn o bossibl iraddau helaeth am ei lwyddiant gyda'r Ysgol Sabbothol.Yr oedd yr Ysgol Sul yn llewyrchus yn Mhenypound er ynforeu, a llwyddodd Price i gadw bywyd ynddi drwy yblynyddau, ac nid yn unig hyn, ond i greu a throsglwyddoyspryd y fam-eglwys yn y cangenau.

Gosodai y Dr., er mwyn cadw y dyddordeb i fyny,wahanol bynciau Ysgrythyrol i'w myfyrio gan yr Ysgol, anewidiai y cynlluniau yn fynych, rhag y byddai gormod o unffurfiaeth mewn dull ac unrhywiaeth mewn gwaith allafur yn eu lladd, fel y goddefir yn fynych yn ein Hysgolion Sabbothol. Holai yr ysgol yn fynych ei hun, a gosodaiereill i wneyd brydiau ereill. Yr oedd yn hynod eiddigeddus gyda golwg ar iachusrwydd yr athrawiaethau. Yroedd bod yn orthodox yn beth mawr yn ei olwg ef. Panwelai rai yn tueddu myned ar gyfeiliorn, arweiniai hwyntyn ol yn ofalus, fel bugail tyner yn dychwel ei wyn crwydredig; ac os buasent yn ben-galed a chyndyn i gymmerydeu harwain, rhoddai ergydion trymion iddynt nes y teimlentmai gwell oedd peidio ymgyndynu ag ef. Rhoddwn ynunig yma un enghraifft o hyn, yr hon, gan ei bod yn llednodweddiadol o hono, a ystyriwn yn ddigon i'n gwasanaethu yn y mater dan sylw. Yr oedd yn perthyn i'r YsgolSul un adeg hen frawd da o Sir Benfro, o'r enw ShemDavies. Yr oedd Shem yn Uchel-Galfinwr. Arferid yradeg a nodwn i'r dosparthiadau roddi adnodau dyrus ynaill i'r llall i'w hesponio a'u hegluro. Yr oedd Shem a'iddosparth wedi cael, yn ei dro, adnod i'w hesponio, yna yroedd ganddo hawl i roddi adnod yn ol a chael esponiadarni. Rhoddwyd esponiad cyflawn ac eglur, fel y tybid, iShem a'i ddosparth. Yna cododd y Dr., a gofynodd,Ydych chwi wedi cael eich boddloni, Shem, ar yr esponiad hwna?" Gyda golwg anfoddog, cododd Shem, adywedodd "fod rhywbeth yn nglyn ag etholedigaeth ddiammodol a pharhad mewn gras yn peru iddo edrych ar yradnod mewn goleuni hollol wahanol." Ond cyn agor yddadl ar y mater, oblegyd i hyn yr oedd pethau yn arwain,cododd y Dr., a dywedodd yn hyf, fel yr arferai mewn amgylchiadau o'r fath, “Er mwyn Duw, Shem, eisteddwch ilawr, a thewch a son, y mae eich pen chwi wedi ei lanw âchymmaint o hooks a bachau crochan hen Galfiniaeth, nes ymae y tipyn synwyr a gawsoch wedi ei golli yn llwyr."Eisteddodd Shem i lawr yn eithaf tawel, a therfynwyd yrysgol. Ymadawodd pawb wedi eu lloneiddio ychydig ganatebiad doniol y Dr. Byddai efe yn gyffredin yn gwybod,nid yn unig yn pa le i daro, ond hefyd yr adeg briodol iwneyd hyny; a phan yn ergydio gwnelai hyny, fel y dywedir, i dref. Yna cymmerai pobpeth ei gwrs yn llyfndegam amser maith. Dyoddefai y bobl ganddo i ddweydweithiau yn llym a chaled wrthynt, oblegyd gwelent bobamser ynddo ddyn gonest a gwynebagored, a theimlent fodganddo galon ac yspryd rhagorol; felly nis gallai hyd y nod y rhai a fuasent yn awr ac eilwaith yn cael teimlopwysau ei ordd lai na'i garu a'i barchu, wedi'r cwbl. Nidyn unig yr oedd y Dr. yn fynychydd cysson o'r Ysgol Sabbothol, ond yr oedd hefyd yn teimlo dyddordeb neillduolyn yr ysgol ganu, ac yn talu sylw neillduol i'r ddau gôr,sef y cor mawr a'r côr bach oedd yn ei eglwys. Gwelwnoddiwrth ddyddiaduron y Dr., ac y mae tystiolaethau aelodau y corau yn profi yr un peth, ei fod i'w weled yn amlyn yr ysgol gân. Yr oedd, ac y mae, bob amser, ddau gôryn Nghalfaria-y côr mawr a'r côr bach, fel eu gelwir, acy mae y ddau gor wedi gwneyd gwaith rhagorol yn yr eglwys hon erioed. Cofnoda y Dr. ei ymweliadau i'r ysgolgân mor ofalus ag y gwna groniclo ei fynychiadau yn ycwrdd gweddi neu'r gyfeillach. Ystyriai y corau yn deilwngo bob cefnogaeth, a chanu y cyssegr mor bwysig ag unrhywran o'r gwasanaeth Dwyfol. Cadwodd ei bresenoldeb ynyr ysgol ganu, yn ddiau, "gythraul y canu"oddiwrth y cor lawer gwaith, oblegyd byddai yn arw iawn rhwngPrice a'r cantorion pan ddeuai Mr. Pwd i fewn i'r cor.Dywedai ei feddwl wrthynt yn weddol lym weithiau, acwrth wneyd hyn byddai yn debyg o ddweyd rai pethau lledddoniol. Yr oedd aelod o'r cor unwaith, o'r enw EvanJones, wedi tramgwyddo, ac yn y gyfeillach un tro pallaiEvan wneyd yr hyn a geisiai y diaconiaid ganddo, a buychydig ddiflasdod yno o'r herwydd. Cododd y Dr. ar eidraed, a gofynodd, "Paham na wnewch fel y ceisia ydiaconiaid, Evan? Wel, wn I ddim, yn enw Duw, bethsydd y mater ar y bachgen, y mae fel pe yn gwisgo spectolsgleision bob amser, ac yn byw ar wynt a chrafion erfin ycythraul trwy y flwyddyn." Chwerthinodd pawb, a darfuy cwbl yn y man.

Dro arall yr oedd Evan wedi pwdu, ac wedi gadael y cora'r capel am ychydig. Yn y cyfamser cyrchai i'r Gadlys,a phan yno ymunai â'r cor. Yr oedd y Dr. yn pregethuun Sabboth yn y Gadlys, ac yn meddwl ei fod yn gweledEvan ar front y gallery, cododd ei spectol i fyny, ac edrychodd yn graff ar y cantorion, a dywedodd, "Evan, ti syddyna? Os oes gormod o'r diawl ynot ti i ganu gyda'r coryn Nghalfaria, nid wyt i ganu yma heddyw. Symmud i'rochr, wnei di." Gwnaeth Evan ei gais yn uniongyrchol,a bu hyn, mae yn debyg, yn foddion nid i yru Evan ynmhellach, ond i'w wella i raddau o'r yspryd pwdu. TriniaiPrice y bechgyn a'r merched yr un fath fel hyn weithiau. Dywedai y drefn wrthynt yn ddidderbyn-wyneb, ac yn amlyn arw iawn; ac etto, yr oedd yn garedig iddynt ac ynhoff iawn o honynt, a hwythau, er pob croesdynu, yn eigaru ef yn fawr. Dywedai un o aelodau hynaf a mwyafsefydlog y cor, yr hwn sydd hefyd yn ddiacon parchus ynyr eglwys, sef Mr. Walter Leyston, fod y Dr. yn un neillduol dda yn yr ysgol ganu, ac yn hynod garedig iddynt felcantorion. Credai fod y Dr. wedi rhoddi gwerth ugeiniauo bunnoedd o lyfrau i'r corau o'i logell ei hun. Pan oddicartref prynai bob llyfr a welai o werth i'r corau, a mynaiiddynt gael y llyfrau goreu at eu gwasanaeth. Calonogaihyn y cantorion yn fawr, felly ymegnient i gael canu da bobamser. Cynnorthwyai hyny y weinidogaeth i ennill a chadwcynnulleidfa dda. Cafodd Calfaria ei bendithio nid yn unigâ gweinidog da yn y pwlpud, ond hefyd, yn gyffredin, agarweinwyr da o flaen y corau. Bechgyn da oedd John aShem, dilladyddion fuont yn arwain yn yr hen Benypound,bron yr adeg gyntaf y daeth Price yno. Wedi hyny cafwydgwasanaeth John, mab Henry Moore; Thomas, neu, fel eugelwid ef yn gyffredin, Twmi Parry; Bili Shon Morgan, oRymney gynt; John Roberts, awdwr y dôn, "Alexander;"Jenkin Howell, ac yn ei ganlyn y ddau frawd o ardaloeddy Groesgoch a'r Mathry, ger Llangloffan, Swydd Benfro,George a William Griffiths. Yna dychwelodd y cor eilwaith i ofal Jenkin Howell. Dilynwyd ef drachefn gan ybrawd talentog Evan Leyshon, yn awr argraffydd, Porth;y medrus Theophilus Jenkins, ysgolfeistr Abernant; acwedi hyny gan yr arweinydd presenol, Daniel Griffiths.Mae corau Calfaria, am dymhor maith, wedi bod yn cynnalbudd-gyngherddau blynyddol i glirio dyledion yr eglwysyn y lle, ac y maent wedi sylweddoli symiau mawrion oarian bob tro, yn neillduol gan eu bod yn gweithio'r cyngherddau i fyny ar ychydig draul. Nid oedd un aelod o'rcor yn gweithio yn fwy egniol a ffyddlawn i gael y cyngherddau hyn i fyny na'r Dr. Yr oedd yn sicrhau nawdd-ogaeth prif deuluoedd y dref a'r gymmydogaeth. Nid ynunig sicrheid cynnalleidfa a orlenwai y capel ar noson ygyngherdd; eithr byddai yn un dra pharchus ac anrhydeddus. Byddai y Dr. gyda'r cantorion fel un o honynt, agofalai am danynt fel tad tyner a gofalus. Wrth ddiolchar ddiwedd y cyngherddau am y gefnogaeth oeddynt wediei gael, dywedai eiriau caredig am y cor a'i weithgarwch.Ymffrostiai ynddynt fel ei blant ei hun. Dywedai mor ddoniol, fel y taflai braidd ddigon o yspryd ynddynt i fynedyn mlaen gyda'u gwaith am flwyddyn gyfan. Yr oedd ynhynod fforddus yn hyn. Llwyddai i gadw y corau yn ddadan law, a phob amser mewn hwyl ac yspryd gweithio.

Yr oedd y Dr. yn enwog am ei ofal o lechres aelodiaeth yreglwys. Rhoddai gerdynau aelodiaeth, yn cynnwys dyddiad eu derbyniad i'r eglwys, wedi eu llawnodi ganddo ef eihun, y rhai yn gyffredin a gedwid yn barchus a gofalus gany cyfryw aelodau drwy y blynyddau. Coflyfrai y manylionam danynt, megys lle a dyddiad eu genedigaeth, dyddiadeu bedyddiad a'u derbyniad i'r eglwys. Gwnai hynhefyd â'r rhai a dderbynid i'w eglwys drwy lythyrau. Niwelsom neb erioed yn fwy cyfundrefnol gyda hyn nag ef.Yr oedd yn gredwr mawr yn yr adnod bwysig hono o eiddoyr apostol, "Gwneler pob peth yn weddus ac mewn trefn."Perai syndod edmygol i lawer i edrych ar y modd y maeefe wedi cadw llechres-lyfr yr eglwys trwy y blynyddaumeithion y bu yn weinidog arni.

Arferai hefyd y gofal a'r manylwch mwyaf gyda chyfrif-on amrywiol a gwahanol yr eglwys. Er fod gydag ef bobamser ysgrifenydd manwl a llu o ddiaconiaid gofalus, athrysorydd galluog a ffyddlon, etto mynai ef weled fod ygwaith yn cael ei wneyd gyda'r llwyredd mwyaf. Cyhoeddai fantol-len a chyfrifon arianol yr eglwys bobblwyddyn, ac yr oedd hyn yn gynnorthwyol i gadw tangnefedd yn yr eglwys, ac i'w symbylu i fwy o gydweithred-iad, gweithgarwch, ac ymddiriedaeth. Pan gyflwynai yswyddogion eu mynegiadau o weithrediadau yr eglwys amy flwyddyn, yn nghyd â chyfrifon arianol pob trysorfa,rhoddai yntau ei anerchiad iddynt. Cawn amryw o'ianerchiadau i'r eglwys, a'r cyfrifon arianol wedi eu hargraffu yn fân bamphledau, ac ereill wedi eu cyhoeddi ynSeren Cymru. Fel hyn, gwelwn fod y manylwch a'r llwyrder mwyaf yn cael eu harfer ganddo i weled nad ydoeddun adran o'r fyddin ysprydol oedd wedi ei hymddiried i'wofal yn esgeuluso ei gwaith. Nid oedd yn caniatau gwywder yn un rhan o'r cyfansoddiad. Yr oedd "cyfander allwyredd ' gwaith yn bwysig yn ei olwg ef, ac y mae hyn iraddau helaeth, yn ddiddadl, yn cyfrif am gyflwr iachus adymunol, yn o gystal ag am sefyllfa ragorol yr eglwys ynNghalfaria yn mhen deunaw mlynedd o'i weinidogaeth, sefyr adeg y cyhoeddodd ei Jubili i'r eglwys. Yno dengys

sefyllfa yr eglwys fel y canlyn:—

SEFYLLFA BRESENOL EGLWYS CALFARIA.

Mae yr eglwys hon wedi cael y fraint o fod yn llawen fam plant. Y mae wedi gwneyd ei rhan i fa*gu a meithrin ei merched, ond mae hi fel eglwys yn para yn gryf a nerthol; mae yn lluosog a gweithgar. Y mae yn awr mewn cyflwr i wneyd cymmaint o ddaioni ag y bu ar unrhyw adeg flaenorol. Nid yw ei phlant wedi difa eu nerth, ac nid yw hithau wedi myned yn hen yn ngwasanaeth ei Harglwydd. Y mae yr eglwys hon o'r flwyddyn 1845 wedi gollwng aelodau er ffurfio y gwahanol gangenau, y nifer o 484; er hyn oll, mae ei rhif hi yn para yn fawr, a'i nerth heb wanhau, gan na fu yr eglwys erioed mewn cystal cyflwr ag y mae yn awr.

Ni a roddwn yma enwau swyddogion yr eglwys, rhif ei haelodau, cyflwr ei hysgolion, ei gwerth meddiannol, gyda y ddyled arosol ar feddiant yr eglwys.

Gweinidog—Y Parch. Thomas Price. Gweinidogion Cynnorthwyol —Y Parchn. David Hopkins, David Adams, Ebenezer Morgans[4] Pregethwyr Cynnorthwyol—Y brodyr James Jones, Humphrey James, David Jones, Jeremiah James, David Williams, George Thomas. David Morgan. Diaconiaid—Benjamin Lewis, Philip John, David Hughes, John Thomas, 1af, William Davies, 1af, Henry Davies, John Roberts, William Richards, Moses Saunders, Stephen Phillips, Benjamin Wheeler, William Davies, 2il, Bethuel Williams, William Miles, William Davies, 3ydd, William Jones, 1af, David Davies, Benjamin Phillips, William Evans, Edw Gilbert Price, Dan James, John Moore, Abraham Davies, William Jones, 2il, John Francis, Richard Dowton. John Thomas, 2il, Rees Rees, Thomas Roberts. Trysorydd—Philip John. Ysgrifenydd—William Davies.

Rhif yr aelodau mewn cyflawn gymundeb ar Awst 3, 1863, oedd 1031

Rhif yr ysgolion Sabbothol perthynol i'r eglwys. 4

Rhif yr athrawon yn yr ysgolion 131

Rhif yr ysgolheigion yn y pedair ysgol 1214

Cyfanswm gwerth yr eiddo perthynol i eglwys Calfaria,yn cynnwys capel Calfaria, ysgoldy Bethel, Ynyslwyd, y Gadlys, dau dŷ annedd yn un a chapelCalfaria, un tŷ annedd yn perthyn i Bethel, un tŷyn ymyl Ynyslwyd, a thri ty annedd yn ymyl yGadlys, yw... £2,900 15 11

Mae ein dyled o'r tu arall ar gapel Calfaria, Bethel,Ynyslwyd, y Gadlys, a'r tai annedd, yn cyrhaedd y swm o...£1,000 0 0

Mae hyn yn dangos fod yr eglwys er y flwyddyn 1852,pan adeiladwyd capel Calfaria, wedi talu o gorff yddyled heblaw y llog blynyddol, y swm mawr o... £1,900 15 11

Ond wedi gorphen y ddau dŷ helaeth a hardd syddgenym yn awr ar waith yn Ynyslwyd ac Abernant,bydd ein dyled wedi chwyddo £1,300 arall; felly,bydd ein dyled erbyn y Nadolig nesaf yn... £2,300 0 0

Ond erbyn hyn, bydd ein gwerth mewn eiddo wedi eisicrhau i'r enwad yn cyrhaedd y swm o ... £4,200 15 11

Goddefwch gyda mi am un foment etto tra y rhoddwn olwg ar sef-yllfa bresenol eglwys Calfaria, gyda yr eglwysi hyny sydd wedi ym-gangenu o honi, a rhoi rhif eu haelodau, cyflwr yr ysgoliod Sul, gwertheu meddiannau, a'r ddyled sydd yn aros ar yr eiddo perthynol iddynt.Ni a gymmerwn y cyfrif am 1862.

Rhif yr eglwysi a'u canghenau ... 17

Rhif y capeli a'r gorsafoedd ... 17

Rhif yr aelodau mewn cyflawn gymundeb...3096

Rhif y gweinidogion... 7

Rhif y gweinidogion a'r pregethwyr cynnorthwyol ... 18

Rhif yr ysgolion Sabbothol ... 17

Rhif yr Athrawon ... 419

Rhif yr ysgolheigion ... 3272

Cyfanswm gwerth y capeli, tai, &c ... £16,850 15 11

Dyled arosol ar yr eiddo ... £7,362 11 4½

Dyna ni wedi myned mor fyr ag oedd modd dros hanes eglwysgyntaf y Bedyddwyr yn Aberdar, gyda y rhai a hanasant o honi ynystod yr hanner can' mlynedd diweddaf. Mae y fechan wedi mynedyn FILOEDD, a'r wael yn GENEDLOEDD cryfion. Yr Arglwydd a wnaethi ni bethau mawrion, am hyny yr ydym yn llawen. Mae adolygiad ygorphenol yn ein cysuro yn y presenol, ac yn ein cryfhau erbyn y dyfodol. O'r Arglwydd y mae hyn oll, ac iddo ef yn Dad, Mab, ac Ys-pryd Glán, y byddo yr holl ogoniant yn awr ac yn oes oesoedd. Amen.

"ATTODIAD. JUBILI EGLWYS CALFARIA, ABERDAR.[5]

"Hanner can mlynedd i'r haf hwn, agorwyd y capel cyntaf gan yBedyddwyr yn mhlwyf Aberdar. Adgofiwyd am y tro trwy i eglwysCalfaria gynnal Jubili ar y Sul a'r Llun, Awst 3ydd a'r 4ydd. Cawsomyno tu hwnt i bob dadl res o'r cyfarfodydd mwyaf dymunol a gwlithoga dreuliwyd gan yr eglwys yn ystod yr hanner canrif diweddaf. Dechreuwyd trwy gynnal cwrdd gweddi am 9 boreu dydd Sul. Yna, amddeg, pregethodd y brodyr Williams, Hengoed, a Morgan, Llanelli, gydadylanwad anarferol. Am 12 o'r gloch, gweinyddwyd yr ordinhad oSwper yr Arglwydd. Yr oedd yr olygfa a gafwyd, a'r teimlad a brofwyd yn fath nas annghofir byth. Yr oedd y capel ëang i lawr ac i fyny,gyda y vestry, yn llawn o blant Duw, yn cofio am gariad Iesu. Gweinyddwyd yr ordinhad gan y brawd Price, y gweinidog, yn cael ei gynnorthwyo gan y brodyr Roberts, Trosnant; Morgan, Llanelli; Williams,Hengoed; ac Adams a Hopkins, Aberdar. Ni chafwyd yn ol pobtebygolrwydd, y fath olygfa yn Nghymmru erioed. Yr oedd eglwysCalfaria ei hun yn rhifo y boreu hwnw 1031 o aelodau, heblaw ugeiniauo'i phlant ag oeddynt wedi dyfod o bellder ffordd i ymweled â hi arddydd ei Jubili. Yn y prydnawn, gorfuwyd ni i fyned allan i'r awyragored, gan faint y dyrfa. Yn ffodus iawn, cawsom dŷ ein hanwylfrawd Evans, Draper, yn agored i ni, a'r balcawd o'i flaen yn lle hollolgyfleus i'r gweinidogion, a digon o le i'r miloedd i wrandaw yn gysurus.Yn y nos, rhanwyd y gynnulleidfa yn dair, a chafwyd cyfarfodydd a'ullon'd o Dduw.

"Dydd Llun, dechreuwyd mewn cwrdd gweddi am 9 o'r gloch; adyma y cwrdd gweddi rhyfeddaf y buom ynddo yn ein bywyd. Y fathweddio, y fath wrando, a'r fath fendithio. Am 10, darllenwyd Hanesyr Eglwys gan Mr Price, a phregethodd Mr. Evans, Castellnedd, bregeth y Jubili. Yr oedd hon yn bregeth o'r radd flaenaf, yn cael eithraddodi mewn nerth mawr. Mae yr hen bobl dda yn dweyd nadannghofiant byth mo honi. Am ddau, pregethwyd gan y brodyr Lloyda Roberts, Merthyr. Yn yr hwyr, anerchiadau byrion, bywiog, nefolaidd, yn gymmysgedig â chanu a gweddio, gan y Parchn. James. Llanfairtalhaiarn; Phillips, Trefforest; Nicholas, Aberaman; Williams, Mountain Ash; Lloyd, Ebenezer; Roberts, Tabernacl; LlewellynJenkins, Ysw., Hengoed; Evans, Castellnedd; Roberts, Trosnant; a'rgweinidog. Cymmerwyd rhan hefyd yn y cyfarfodydd gan Adams,Aberdar; Harris, Heolyfelin; Griffiths a Thomas, Athrofa Pontypwl.Gyda y gweddio taer, y pregethau dylanwadol, a'r annerchiadau cynnes, cawsom y canu cynnulleidfaol mwyaf nerthol a nefolaidd.

"Mae eglwys Calfaria, yn ystod y tymhor byr o hanner can mlynedd, wedi cael y fraint fawr o fod yn FAM i dyrfa fawr o blant. Ergweled hyn, digon yw nodi bod eglwys Calfaria, gyda'r eglwysi a'rcangenau sydd wedi hanu o honi, yn 17, yn cynnwys yn awr 3,096 oaelodau; 25 o weinidogion a phregethwyr cynnorthwyol; a 17 o ysgol.ion Sabbothol yn cynnwys 3,691 o ddeiliaid. Mae yr eglwysi hyn ynmeddu eiddo gwerth £16,850 15s. 11c., ond bod eu dyled yn£7.362 11s. 4c. Ond er magu y fath nifer o blant, a gollwng y fathnifer i ffurfio eglwysi newyddion, mae y fam yn para yn gryf, ac yn awrmor iach ag erioed. Mae ei haelodau yn rhifo 1031, a deiliaid yrYsgol Sul yn rhifo 1345. Diolch i Dduw am yr hanner can mlynedd aaethant heibio; a'i wenau fyddo ar eglwysi Aberdar am yr hannercant nesaf.

Gwelir yn eglur, oddiwrth y ffeithiau blaenorol, fodgweithio egniol a chysson wedi bod gan Fedyddwyr ydyffryn, ac yn neillduol gan y fam-eglwys yn Nghalfariaa'i gweinidog, cyn y buasai yr eglwys yn gallu cyrhaedd yfath allu nerthol, a dyfod i'r fath gyflwr cysurus mewnamser mor fyr. Gwelsom y gweinidog ieuanc yn dechreuar ei weinidogaeth yn nghanol yr anfanteision mwyaf, ondy mae anfanteision yn rhoddi cyfleusdra i ragoriaethauddyfod i'r golwg. Felly y bu yn yr amgylchiad hwn.Cyflawnai Price ei waith yn onest a phenderfynol, gan adael y canlyniadau i Dduw. Chwarddai, mewn ystyr, yn ddiystyrllyd ar anhawsderau. Dywedai am y rhwystraugodent ar ei ffordd bob cam o'r daith, "Y mynydd mawr,pwy wyt ti, gerbron gwaredydd Israel y byddi yn wastad.Ac felly y bu yn ei holl hanes. Gosodwyd meini lawer ganelynion iddo ar ddrws llwyddiant yr achos yn ei eglwys a'rdyffryn, ac wrth edrych yn mlaen arnynt yn ymddangos yny pellder, gofynai Price, "Pwy a dreigla i mi y maen?"Ond yn ngrym penderfyniad a ffydd yn ei Waredwr, aethyn mlaen, a chafodd y maen yn gyffredin wedi ei dreiglo,ac achos mawr y Bedyddwyr yn Nghalfaria ac yn y dyffrynyn gyffredinol yn codi ei ben, ac yn dyfod yn fwy rhydd ynbarhaus.

PENNOD IX.

CALFARIA O 1866 HYD 1888.

Cyfnod olaf hanes gweinidogaethol Dr. Price-Adolygu y gorphenol yn ddymunol-Y Trem am waith yr eglwys—Adnewyddu y capel ac adeiladu yr Hall-Ystafelloedd y diaconiaid-Y menywod-Y gweinidog-Calfaria Hall -Cyfarfodydd Agoriadol yr Hall.

WELE ni bellach a'n golwg ar y cyfnod olaf yn hanesgweinidogaethol Dr. Price. O ran hydred, y maeychydig yn fwy nâ'r cyfnod maith, toreithiog o ffrwythau agweithredoedd da yr ydym eisoes wedi sylwi yn frysiogarno; ond er ei fod yn faithach o ryw gymmaint, etto nidyw mor gynnyrchiol o ddaioni, ac mor llewyrchus ganlwyddiant a'r tymhor cyntaf. Ond y mae y gwahaniaethdirfawr oedd rhwng amgylchiadau y ddau gyfnod yn cyfrifi raddau pell iawn am hyn. Cyfnod braenaru, trin y tir, ahau, yn fwyaf neillduol, oedd y cyntaf; ond tymhor media mwynhau ffrwyth y llafur, mewn ystyr, oedd yr olaf.Tori y tir, gosod sylfeini, ac adeiladu oedd y cyntaf; ondedrych yn edmygol ar y deml mewn cyflwr gorphenedig, acymlonyddu i gyflwyno ar allor Ior aberthau mwy byw,sancteiddiach, a mwy cymmeradwy, ac i fwynhau ynhelaethach a mwy sylweddol bresenoldeb Duw a'i fendithion cyfoethog o ras a daioni ysprydol, oedd y cyfnod olaf, erfod gwaith gofalu am amgylchiadau allanol a mewnol yrachos yn ofynol o hyd. Cyflawnwyd llawer o waith garw,megys codi ysgoldai ac adeiladu capeli, yn y cyfnod cyntaf,ac yr oedd toraeth y gwaith amgylchiadol allanol yn yrystyr hwnw erbyn hyn ar ben; etto, yr oedd y gwaith mawr oadeiladu yr eglwys a'r achos yn y lle yn yyn y "sancteiddiafffydd" i'w ddwyn yn mlaen yn egniol fel cynt, a chafoddei wneyd yn ffyddlawn a diflino dan arolygiaeth fanylgraffy Dr. parchus hyd ei fedd. Cafodd efe weled yr eglwysyn "gwreiddio mewn cariad," yn lledu ei gwraidd felLibanus, ei cheinciau yn cerdded, yn addfedu ei ffrwythau,ac yn ymddangos yn deg fel yr olewydden, a'i harogl ynber fel Libanus; ac yr oedd hyn yn hyfrydwch i'w enaid, ac yn daliad iddo am ei lafur dihafal gyda phob adran o'rgwaith da.

Yn y Trem ar weithrediadau eglwys Calfaria, a gyhoeddwyd ganddo yn y flwyddyn 1885, dywed y Dr. fel y canlyn:

"Nid ydym yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf yn gallu son amdori tir newydd er helaethu teyrnas y Brenin Mawr, am fod hyny wediei wneyd gan eglwys Calfaria a'i gweinidog yn ystod y cyfnod orflwyddyn 1845 hyd ddydd cyntaf y flwyddyn 1866. Ac ar ddechreucyfnod hwn yr oedd dyffryn Aberdar yn llawn o eglwysi, neu gangenaueglwysi, fel nad oedd galw am ragor. Ac er nad ydym yn cyfrif einbedyddedigion mor lluosog ag yn y blynyddau gynt. etto y mae genymachos mawr i fod yn ddiolchgar iawn i Dduw, a chymeryd cysur."Yn ystod yr ugain mlynedd cyntaf dan sylw, cafodd yr eglwys ynNghalfaria y fraint o dderbyn y nifer mawr o 1.090 trwy fedydd; acyn ystod yr ugain mlynedd diweddaf, sef o'r flwyddyn 1866 hyd 1885,y mae wedi derbyn 504 o aelodau trwy fedydd y crediniol. Yna osgosodwn y ddau gyfrifiad at eu gilydd, ni a gawn fod wedi eu bedyddio yn yr eglwys y nifer o 1,594.

"Mae yn deilwng o sylw mai dyma yr oll a dderbyniwyd gan eglwysCalfaria yn y tymhor o o ddeugain mlynedd, yn ol llyfr yr eglwys. yrhwn sydd wedi ei gadw yn ofalus, gyda manylwch teilwng o efelychiad.

"Yn ol yr hyn a welir ar lyfr yr eglwys, y mae Calfaria wedi derbyntrwy fedydd, adferiad, a llythyron o eglwysi ereill, o Nadolig 1845 hydNadolig 1885, y nifer o 3,847, tra yn ystod yr un tymhor, y mae, er yflwyddyn 1846, wedi gollwng amryw gannoedd er ffurfio eglwysi ynAberman, Cap Coch, Carmel, Bethel, Ynyslwyd a'r Gadlys.

"Mae yn dda genym fod y fam eglwys yn dal ei thir o dan fendithDuw ac arweiniaid yr Yspryd Sanctaidd "

Yn y flwyddyn 1869, rhoddodd yr eglwys ganiatad i'rDr. fyned am dro i'r America, fel y cawn sylwi etto ynmhellach yn mlaen, ac nid hir wedi ei ddychweliad y bucyn cyffroi meddwl a theimlad ei eglwys a'i gynnulleidfayn Nghalfaria at y priodoldeb o adnewyddu y capel, adeiladu neuadd eang a chyfleus, yr hon a elwir yn awr CalfariaHall, yn nghyd â threfnu a dyogelu y fynwent oedd ynperthyn i'r capel. Yr oedd y Dr. wedi dychwelyd â llawero gynlluniau a diwygiadau America ganddo, ac os oeddmodd, yr oedd wedi ei lanw yn fwy o yspryd yr Ianci, aelwir y “go” arno, nag o'r blaen. Gan fod ei ben a'igalon yn llawn o'r Yankee improvements, yr oedd yn awyddus iawn i'w cyflwyno i sylw ac ymarferiad ei eglwys. Y maellawer o ddynion da i'w cael, ac hyd y nod weinidogion ynteithio llawer, eithr nid ydynt yn gallu gweled ond ychydigwedi y cyfan, neu, o'r hyn lleiaf, nid ydynt yn dangos yawahanol i hyny; ond nid felly Price. Yr oedd efe bobamser â'i lygad yn agored a'i feddwl ar waith. Gwelailawer yn mhob man, ac yn gyffredin gwelai ef bethaupwysig lle y methai rhai a chanfod dim, a phob amser,cai ei eglwys a'i gynnulleidfa y fantais o'r hyn a welaiac a glywai ag a fyddai o werth iddynt. Er fod y tir aryr hwn y saif Calfaria i raddau yn gyfyngedig, gallodd yDr., drwy ei fedr a'i gywreinrwydd, gynllunio, trefnu, achodi'r Hall, gan osod ynddi nwyddau a seddau o gynllunac arddull Americanaidd.

Yn ystod dygiad y gwaith o adnewyddu y capel acadeiladu yr Hall yn mlaen, yr oedd Price, fel arfer, wediymgymmeryd ag arolygu y gwaith ei hun. Ni allai fod ynIlonydd; yr oedd yn rhaid iddo fod â'i law gyda phob gorchwyl. Tra yn codi'r Hall, yr oedd braidd yn ddieithriadbob boreu i'w weled ar furiau yr adeilad o hanner awrwedi pump i chwech o'r gloch yn dysgwyl y gweithwyr ateu gorchwylion, er fod gydag ef lawer iawn o waith aralli'w gyflawnu mewn gwahanol gylchoedd. Tra yn eithafcaredig i'r gweithwyr, oblegyd ni allai ei yspryd caredig a'inatur dda ganiatau iddo fod yn amgen, etto yr oedd yneithaf llym ar eu hol, ac ni phrisiai ddim gael ambell ffraeâ hwy, os na fyddent yn cyflawnu eu dyledswyddau ynfoddhaol. Ond er cael ambell i ffrwgwd, a gyru un ynawr ac eilwaith i'r d-l, yr oedd yn hynod o faddeugar eiyspryd, a byddai yn eithaf cyfeillgar i'r cyfryw wedi i'rpang fyned drosodd. Cerid ef yn fawr gan y gweithwyr aphawb, am yr ystyrient ef yn good meaning, ac yn jolly fellow,ac felly yr oedd. Ystyrid yr adgyweiriadau ar y capel aco gwmpas iddo yn welliantau pwysig, a'r Hall yn ychwanegiad gwerthfawr i'r eglwys.

Mynodd Price weled cyfleusderau ereill yn cael eu sicrhau at wasanaeth yr eglwys, y rhai a ddesgrifia yn y Trem fel y canlyn:—

YSTAFELLOEDD CAPEL CALFARIA.

Yn Nghapel Calfaria, y mae amryw ystafelloedd eang a chysurus.Y gyntaf a nodwn yw— "Ystafell y Diaconiaid. — Yma y bydd y diaconiaid yn cwrdd â'ugilydd i ymdrin ag unrhyw faterion pwysig cyn dechreu y gwasanaethcyhoeddus ar y Sabboth. Yma hefyd y bydd materion arianol aceglwysig yn cael eu trafod; ac yma y cynnelir cyfarfodydd misol yrUndeb Cristionogol ac Undeb Dorcas Yma y cynnelid y DosparthBeiblaidd. Cyfarfodydd Llenyddol y bobl ieuainc, ar GyfeillachFach.' Y mae yr ystafell hon yn wir bwysig. ac yn un gyfleus drosben. Y nesaf a gawn nod yw —

Ystafell y Menywod—Mae hon yn cael ei defnyddio ar yr adegaupan y byddys yn bedyddio, a defnyddir hi y prydiau hyny fel gwisgleneu robing room i'r merched a'r gwragedd Y nesaf yw—

Ystafell y Gweinidog. Mae hon yn hollol at wasanaeth y gweinidog,ac yn meddu pob darpariaeth ag a duedda i'w wneyd yn gysurus. Maeyn deilwng o sylw fod yr holl ddodrefn sydd yn yr ystafell hon wedi eurhoddi i'r gweinidog gan rai o wir gyfeillion Calfaria.

Calfaria Hall.–Mae ugeiniau a channoedd o ddyeithriaid yn dyfodi weled Calfaria Hall, a thystiolaeth pawb yw mai hon yw y neuaddeangaf a'r mwyaf cyfleus yn Nghymru. Heblaw y brif ystafell, maeyn perthyn i'r neuadd ddwy oriel at wasanaeth y plant. class—room iferched ieuainc, ystafell hollol gyfleus at gadw llyfrau yr Ysgol Sul, ynnghyd â lle digon mawr i gadw yr holl lestri perthynol i'r eglwys. Maecyssylltiad rhwng yr ystafell fawr hefyd â'r dwfr a'r tân, ac felly ynhynod gyfleus ar adegau ein gwleddoedd tê, ac amgylchiadau ereill; acy mae cyssylltiad rhwng Calfaria Hall â phob rhan o'r capel. Mae ynanhawdd cael capel mor gyfleus ag ydyw capel Calfaria."

Yn Seren Cymru am Tachwedd y 24ain, a Rhagfyr 1af,1871, ceir hanes cyflawn a manwl am y cyfarfodydd agoriadol, y rhai a gynnaliwyd am ddau Sabboth yn olynol, achafwyd cyfarfodydd gweddio yn y nosweithiau cydrhyngddynt. Pregethwyd yn rymus yn ystod y cyrddau gan raio brif weinidogion yr enwad yr adeg hono.

TRYDYDD AGORIAD CALFARIA AC AGORIAD CYNTAF NEUADD CALFARIA.

"Mewn cyssylltiad â'r agoriadau hyn, bwriedir cynnal cyfres o gyfarfodydd yn y drefn ganlynol:— Dydd Sul, Tachwedd 12, 1871. am 11,cyfarfod gweddi a Swpper yr Arglwydd; am 2, cyfarfod gweddi ynNeuadd Calfaria; am 6, cyfarfod gweddi yn Nghalfaria. Nos Lun,Mawrth, Mercher, Iau, Gwener, a Sadwrn, Tachwedd 13, 14, 15, 16,17, a 18, bydd cyfarfodydd gweddi, pan y mae gweinidogion cymmydogaethol, a brodyr o eglwysi ereill, wedi addaw eu presenoldeb, eucydymdeimlad, a'u cynnorthwy. Dydd Sul, Tachwedd 19, am 11 a 6,pregethir gan Dr. Price, y gweinidog, a chynnelir yr Ysgol am naw adau o'r gloch yn Calfaria Hall.

"Dydd Mawrth, Tachwedd 21, cynnelir gwyl de flynyddol plant yrYsgol yn y neuadd newydd.

"Nos Fercher, Tachwedd 22, pregethir gan y Parch. R. Hughes,Maesteg (Cadeirydd Cymmanfa Morganwg); Parch J. Thomas, Bassaleg; a'r Parch. R. D. Roberts, Llwynhendy.

"Dydd Iau, Tachwedd 23, am 10 o'r gloch y boreu, pregethir gan yParch. Thomas Thomas, D.D., Pontypwl, a'r Parch. Richard Hughes.Am ddau o'r gloch, gan y Parch. J. W. Todd, D.D., F.R.G.S., ForestHill, Llundain, a'r Parch. John Thomas. Am 6, gan y Parch. JamesOwen, Abertawy; a'r Parch. R. D. Roberts, Llwynhendy. (Dr.Thomas, Dr. Todd, a'r Parch. J. Owen yn Saesneg). Dydd Sul, Tachwedd 26, pregethir am 11 a 6 gan y Parch. J. R. Morgan (Lleurwg).Nos Lun, Tachwedd 27, pregethir gan y Parchn. W. Williams, MountainAsh, a J. R. Morgan. Dydd Sul, Rhagfyr 3, am 11 a 6. pregethir gany Parch. Richard John, Llanwenarth. Nos Lun, Rhagfyr 4, pregethirgan y Parchn. W. Harris, Heolyfelin, ac R. John.

"Yn ychwanegol at y gweinidogion a enwir, mae genym yr hyfrydwchhyspysu y bydd gweinidogion yr enwad trwy y dyffryn yn cymmerydrhanau yn y cyfarfodydd agoriadol.

"Mae capel Calfaria wedi ei gyfnewid yn fawr, wedi ei addurno yndlws, a'i wneyd yn hynod o gyfleus i'r gynnulleidfa i addoli y Duwbyw, tra y mae y fynwent wedi ei dyogelu ag amgau cryf a hardd, acwedi ei phlanu â choed bythwyrddion; ac yn olaf, mae Calfaria Hallyn ystafell eang a hynod gyfleus at wasanaeth yr Ysgol Sul, y CorauCanu, ein Cymdeithasau Dyngarol, &c. Mae y gost, o angenrheidrwydd, yn fawr, a byddis yn casglu yn y Cyfarfodydd Cyhoeddus.uchod at y draul. Mae y gweinidog a'r eglwys yn taer wahodd eucymmydogion i ymweled â hwy yn rhai, os nid yr oll, o'r CYFARFODYDDAGORIADOL."

PENNOD X.

Y DR. A CHANGENAU EGLWYS CALFARIA.

Y "Trem" a'r "Jubili"-Bethania, Cwmbach-Mountain Ash, dechreuad yr achos yno-Yr hen bobl-Adeiladu capel-Agoriad yn 1841-Annghydfod Effeithio yn niweidiol ar yr achos yno-Price yn dechreu gweithio yno-Y cerbyd wedi aros ar II o aelodau-Siams y garddwr a Price-Cyrddau gweddi-Price a'r chwiorydd-Paentio'r capel Y cerbyd yn ail gychwyn-Yr ail gapel-Ei agoriad-Sefydlu diaconiaid-Ymadawiad Price a sefydliad Williams-Gwawr-Storm gynnarol-Dyfyniad o "Seren Cymru"- Ffrwgwd Dewi Elfed a'r saint Lladrata y capel-Cyfraith-Gwroldeb Dr. Price Bwrw allan gythreuliaid Case for assault-Adferiad y capel-Ail agoriad -Y gweinidogion-Yr achos Saesneg-Jas. Cooper-Y ganwyll yn diffodd-Ail gychwyn yr achos-Yr achos yn llwyddo-Bethel, Abernant-Yr Ynyslwyd-Mynychu cyrddau wythnosol y cangenau-Adeiladu ysgoldai Bethel ac Ynyslwyd-Testyn tarawiadol-Bedyddio yn yr Ynyslwyd-Ei gweinidogion—Y Gadlys Cyw gwaelod y nyth-Sefydlu ysgol yn 1858-Adeiladu-Methu cael tir-Mynu ei gael cyn cysgu-Y seitfed capel-Y cangenau yn ymadael mewn heddwch-Nodion 1865 ar gofnodlyfr y Gadlys—Yr eglwysi godwyd gan Galfaria-Barn gohebydd.

Yol y Drem gan Dr. Price ar yr eglwysi a godwyd gan Galfaria, gwelir ei fod yn hawlio perthynas â rhyw un-ar-hugain o eglwysi, y rhai a ystyriai fel plant, wyrion, ac mewn rhai achosion gorwyrion. Yr oedd perthynas yn bodoli rhwng Calfaria â hwynt oll; ond y mae y ddisgynyddiaeth uniongyrchol mewn rhai achosion yn cael ei hamheu gan rai. Pa fodd bynag, ni pherthyna i ni fyned i fewn i'r achosion hyny yn bresenol. Y mae rhai eglwysi wedi ymgangenu allan o Galfaria nad oedd gan y Dr. lawer i'w wneyd â hwy, tra y mae ereill o'r plant, fel eu galwai, ag y bu efe yn gwneyd gwaith llafurfawr gyda hwynt. Gan fod nifer y cangenau mor lluosog, dichon mai annoethineb ynom fydd manylu ar yr oll, gan y gwna ychydig o honynt wasanaethu i ddangos y dyn.

Oddiwrth y Jubili gwelwn fod yr eglwysi ar Hirwaun acyn y Tabernacl, Merthyr, wedi hanu allan o hen EglwysPenypound, Aberdar. Cwmbach wedi hyny a gychwynwyd yn foreu, a chorffolwyd a derbyniwyd hi i'r gymmanfayn y flwyddyn 1845, sef y flwyddyn y cafodd y Dr. alwadi ddyfod i Aberdar. Pregethodd Price lawer yma, a bu ynofalus am dani pan dan ei weinidogaeth. Fel hyn y dywedam dani yn y Jubili:—"Bu yr eglwys yn y Cwmbach ar ydechreu yn un o'r eglwysi mwyaf addawol yn y sir. Yroedd wedi cael y blaen ar bob cynnulleidfa arall yn y gymmydogaeth; perthynai iddi amryw o'r teuluoedd mwyafcyfoethog a dylanwadol yn yr ardal; ond yn ol ein barn ni,hi a ymadawodd â'i mam-eglwys yn rhy gynnar."

Nid oedd Price yn anfoddlon i'r merched ymadael â'umam, ac nid oedd ychwaith yn anfoddlon i'r merchedbriodi; ond yr oedd yn fawr am i'r cangenau aros ynddigon hir dan nawdd y fam-eglwys hyd y gallent weled yffordd yn glir i allu byw arnynt eu hunain yn weddol gysurus. Gwelwyd llawer pâr ieuanc yn tori i fyny, wedimethu byw yn ddedwydd ar ol priodi, ac yn gyffredin dychwelai y ferch adref at ei mam am dymhor, a dyna ddywedid yn aml am dani yn yr amgylchiad, "Buasai yn wellei bod wedi aros gartref gyda'i mam am ychydig flynyddauyn hwy." Bu rhywbeth tebyg feddyliwn yn hanes dechreuolyr eglwys yn y Cwmbach. Yn ei anerchiad ar ddydd ordeiniad y gweinidog presenol (y Parch. D. Thomas) ynMethania, Cwmbach, olreiniodd y Dr. ychydig ar hanes yreglwys, yn nghyd â'r gweinidogion fuont yn gweinidogaethuyno o bryd i'w gilydd, ac wedi gwneyd hyny yn ofalus, felyr arferai efe gyda materion o'r fath, dywedodd, "Yn awr,chwi a welwch fy mod I wedi cael y fraint a'r anrhydeddo fod yn weinidog ar ac i'r eglwys yn Methania dairgwaith, oblegyd bu yn ol dan aden ei mam yn Nghalfariagynnifer â hyny o weithiau oddiar ei chorffoliad yn yflwyddyn 1845. Tebyg mai dyma'r tro olaf i'r Dr. fodmewn cyfarfod yn y Cwmbach, oblegyd nid hir y bu cyncael ei analluogi gan wendid a chystudd i fyned yn mhello'r ty. Yr oedd yn wanaidd yr adeg hono, a phawb braiddyn sylwi ei fod yn tori i fyny yn gyflym. Edrydd y Dr.fel y canlyn yn ei Jubili (1862) am Bethania, Cwmbach:—"Mae yn awr etto am dymhor o dan nawdd ei mam-eglwys,yr hon sydd wedi addaw ei chynnorthwyo am flwyddyn.'Eglwys dda oedd ac ydyw Bethania, Cwmbach, wedi y cwbl, a llafuriodd Price yn galed gyda hi o bryd i bryd.Teimlai ddyddordeb neillduol ynddi, oblegyd yn un peth,mai un oddiyno oedd ei anwyl briod, Mrs. Price, ac y maeei theulu yn aros yno hyd heddyw. Gellir dweyd fodBethania erbyn heddyw yn un o'r eglwysi goreu yn y cwm.

Cangen arall o Galfaria ag y teimlai y Dr. ddyddordebneillduol ynddi oedd Mountain Ash. Y mae i'r eglwys honhanes hynafol ac o ddyddordeb mawr; a chan fod Price,fel y dywedai ei hun yn y Jubili, "yn edrych arni gyda yteimladau mwyaf cysurus," dichon y maddeuir i ni am roddiychydig o'i hanes wrth fyned yn mlaen. Yn ol erthyglalluog y diweddar anwyl frawd a'r diacon ffyddlon, Mr.Thomas Richard (Gwyno), Glyngwyn, tad y Parch. RichardRichard, gynt Pembroke Chapel, L'erpwl, yn awr Cotham,Bryste, yn Seven Gomer am Hydref, 1883, cawn fod Bedyddwyr yn byw yn Mountain Ash mor bell yn ol â'r flwyddyn1786, ond ni fuont amgen i Nicodemus a Joseph o Arimathea, i raddau yn guddiedig oeddynt hyd y flwyddyn 1809,pryd y symmudodd gwr a gwraig o Lysfaen i'r lle, sef,Robert a Mary Frederick-aelodau oeddynt o Lysfaen.Rhoddasant eu hunain, yn nghyd â'r teulu Bedyddiedigarall oedd yn y Mount o'u blaen, yn aelodau yn Mhenypound, Aberdar, a thrwy eu dylanwad hwy byddai rhai o'ucymmydogion yn myned yn aml gyda hwy i Aberdar iwrandaw yr Efengyl, er fod y pellder dros bedair milldir.Yn y flwyddyn 1827, cawsant yr hyfrydwch o weled dauo'u cymmydogion yn ufuddhau i'r ordinhad o fedydd, sefEvan Morgan (yn ei 50 flwyddyn o'i oedran), Basin Isaf, aJames Williams, neu fel y gelwid ef gan yr hen breswylwyro gylch Mountain Ash, "Siams y Dyffryn," neu, "Siamsy Garddwr." Efe oedd garddwr yr anrhydeddus H. A.Bruce, yn awr Arglwydd Aberdar, ac i'w dad cyn hyny.Yn 1829, bedyddiwyd dwy ereill, sef Hannah Davies aMargaret Morgan, gwraig y rhagddywedig Evan Morgan.Gelwid hi gydag anwyldeb mawr gan bobl y Mount ynModryb Magws. Yr oedd ganddi hi a'i phriod, yn ogystalâ'r brodyr ereill, dros bedair milldir i gerdded i Aberdar,etto, byddent yno yn gysson a phob amser yn brydlon. Acwedi i Evan a Modryb Magws symmud i'r Basin Isaf, yroedd ganddynt oddiyno dros bedair milldir i ddyfod i'rMount, etto, nid oedd neb yn fwy cysson nâ hwy yn ymoddion a'r cyrddau. Yn y flwyddyn 1832, bedyddiwyd dau ereill, sef Richard Richards a Gwenllian Thomas. Tyddynwr oedd Richard Richards, yn cadw tyddyn o'r enwGlyngwyn," yn ymyl Mountain Ash, a byddai ei ddrwsbob amser yn agored i Arch Duw i ddyfod i fewn. Tua'ramser hwn dechreuwyd cadw cyfarfodydd sefydlog bobpythefnos ar brydnawn Sabboth, a byddai pregethu y rhanfynychaf yn y cyrddau hyn, a byddent yn cael eu cynnalyn gyffredin yn nhai y brodyr Evan Morgan a RichardRichards, a nodasom yn barod. "Yn y flwyddyn 1843,"meddai y Dr. yn y Jubili, "Adeiladodd yr eglwys ynAberdar dy cwrdd bychan yno, a thŷ annedd mewn cyssylltiad ag ef." Dyma'r ty cwrdd cyntaf gan y Bedyddwyr yn Mountain Ash, ond ymddengys, er mor gywir yrarferai y Dr. fod mewn cyssylltiad â dyddiadau a ffigyrau,ei fod wedi gwneyd ychydig gamsyniad yma, oblegyddywed Gwyno yn Seren Gomer am Hydref, 1883, fel y canlyn:—

'Yn y flwyddyn 1840. dechreuwyd ar y gorchwyl o adeiladu capel.Mesurai y ty cwrdd newydd 24 troedfedd wrth 20 troedfedd rhwng ymuriau. Adeiladwyd hefyd dy annedd mewn cyssylltiad â'r addoldy,a gorphenwyd y cwbl, yn nghyd â'r muriau oddiamgylch y lle, am yswm o £154 12S. 8c. Agorwyd y capel y dydd cyntaf o fis Gorphenaf,1841. Y pregethwyr yn y cyfarfodydd agoriadol oeddynt y Parchn. D.Davies, Abertawe; W. Jones, Caerdydd; W. R. Davies, Dowlais; T.Davies, High Street, Merthyr, yn Saesneg; T. Morris, Casnewydd; R.Williams, Llancarfan, a Dr Jenkins. Hengoed. Cafwyd cyrddau hynodo effeithiol trwy y dydd, fel yr oedd hyd y nod yr Undodiaid yn gorfodcyfaddef na chlywsant erioed well pregethu. Casgliadau y dydd, ynnghyd â'r hyn oeddynt wedi gasglu yn flaenorol, oedd £27 16s. 2g: acyn ystod y flwyddyn ddyfodol casglwyd £26 16s. 6c. gan adael £100 oddyled ar yr addoldy."

Bu yr achos yr adeg hon yn lled lewyrchus, ac yn yflwyddyn 1842 bedyddiwyd deuddeg o bersonau, ac erbynhyn yr oeddynt yn gwneyd ugain o bersonau mewn cymundeb, a phob peth yn ymddangos yn ffafriol iawn. Ondyn herwydd annghydfod rhwng y Parch. W. Lewis, cynweinidog Penypound, â Jonathan Jones yn nghylch rhai pynciau crefyddol ac amgylchiadau ereill, cafodd yr eglwys ddyoddef yn erwin. Ysgrifenodd Gwyno yn mhellach:—

Effeithiodd y drafodaeth hon mor ddrwg, fel na fedyddiwyd cymmaint ag un yn y lle hwn yn ystod y saith mlynedd dyfodol. Fel llin yn mygu oedd yr achos trwy y blynyddoedd hyn Dibrisiwyd yr YsgolSabbothol ac o dipyn i beth aeth yr ysgol i'r dim yn hollol. Tuadiwedd y flwyddyn 1845 rhoddodd Mr W. Lewis ei lafur gweinidogaethol i fyny. a symmudodd i Dongwyrddlas: ac yn y mis Awstcanlynol, daeth Mr T. Price, gweinidog presenol Aberdar, i ofalu amyr eglwys, yn nghyd a'r gangen yn Mountain Ash er na chafodd eiordeinio yn weinidog hyd y dydd cyntaf yn y flwyddyn 1846. Llafuriodd Mr. Price yma yn ddiwyd a diflino am yn agos i bedair blynedd,heb ychwanegu cymmaint ag un at yr eglwys. Byddai yn pregethuyma un Sabboth o bob mis, ac yn aml yn fynychach na hyny, amychydig iawn o gydnabyddiaeth am ei lafur Teimlai yn ddwys, fel ybyddai yn arfer dweyd, wrth weled ei lafur mor aflwyddiannus ynmethu ychwanegu dim un at yr eglwys; ond yn hyn, meddai efe, yrymgysurai, nad oeddynt yn myned yn llai. Deuddeg oeddyntpan ddechreuodd lafurio yn eu plith, ac ni fuont oll yn llai na deuddeg.sef pedwar brawd ac wyth chwaer "

Arferai y Dr. pan yn myned i Mountain Ash i bregethu,a byddai hyny flynyddau yn ol yn dygwydd yn aml, adroddhanes yr eglwys fach yn y Mount, fel y galwai hi. "Buomam hir amser (meddai), yn cadw, fel yr Apostolion, o hydyn 12, oddigerth yn amser ffair y Mount, pryd yr oeddShon Ty'n y Gelli yn meddwi, felly yn cael ei ddiarddelu a'i.adferyd unwaith bob blwyddyn. Fel yma, gwelwch nadoedd yr Yspryd Glân yn ein gwneyd yn fwy nâ 12, ac yroedd y d-lyn methu ein gwneyd un amser yn llai nag 11.Clywsom ef yn adrodd yr hanes droion yn y geiriau uchodmor agos ag ydym yn gallu cofio. Dywedai yr hanes morfyw a chyda y fath deimlad fel y gyrai yr hen bobl i wylo ydagrau yn lli`, a'r bobl ieuainc i grechwen a chwerthin.Mawr oedd ei allu i ddarlunio a'r dylanwad gai pan yngwneyd hyny. Yn y cyfnod marwaidd ar grefydd y soniwnam dano, yr oedd Price yn egniol iawn gyda'i gyflawniadaugweinidogaethol. Nid esgeulusai y praidd bychan; mynychai yn gysson y cyfeillachau a'r cyrddau gweddi, er fodpedair milldir o ffordd o Aberdar i Mountain Ash, a dychwelai yn ol i Aberdar ar ol y cyrddau ar hyd y ffordddrymaidd, a thra unigol y pryd hwnw. Adroddai hen bobly Mount ei hanes yn y cyfarfodydd hyn gyda blas a hwyl;a buom yn siarad â'r Dr. ei hun ar hyn, ac yr oedd ei adroddiadau yn cydgordio yn gywir â'r hyn a glywsom. Buef a Siams y garddwr, ac ychydig o chwiorydd, yn cynnalllawer o gyfarfodydd gweddio anwyl gyda'u gilydd. Nid oedd Siams yn gallu canu llawer, ac nid oedd y Dr. wedi ei fendithio â'r ddawn hyn yn helaeth. Felly darllen Salm neu ddarn o bennod wnelent yn lle canu. Darllenai Price i ddechreu, yna elai Siams i weddi. Darllenai Price drachefn, ac yna elai efe i weddi; wedi hyny darllenid rhan o air Duw, ac äi Siams eilwaith i weddi, a therfynid y cwrdd gan y gweinidog. Fel yna byddai y brodyr yn gweddio dwy a thair gwaith yn yr un cyfarfod. Pan yn pregethu neu yn siarad mewn cyfarfodydd cyhoeddus yn Mountain Ash, adroddai y Dr., er mwyn dangos y gwahaniaeth yn sefyllfa yr achos, gyda theimladau dwys, yr hanes hwn. Weithiau byddai yn eu hadgofio o waith y chwiorydd bach ac yntau yn glanhau ac yn paentio yr hen gapel. Paentiwr rhagorol, fel y nodasom yn barod, oedd Price, a rhoddodd brawfion ymarferol o hyn fwy nag unwaith ar gapeli yn Aberdar a Mountain Ash. Adroddai mewn cwrdd mawr unwaith yn Nghapel y Rhos am dano ef a'r hen chwiorydd, (ac yn ei ffordd ddoniol ei hun, enwai hwynt megys Mary Siams y garddwr, Rachel Williams o'r Lock, Shan Davies, a Marged Penybanc, &c.) yn glanhau y tŷ cwrdd. “ Yr oedd y chwiorydd bach," meddai, "a'r dw'r a'r sebon, a'r brwsh scrwbio, yn mynu cael y cwbl yn lân, a minau yn eu dylyn, a'r brwsh a'r paent, ac yr oedd yno weithio, chwythu, a chwysu, a phob un yn cael hwyl a blas wrth feddwl am ei waith ei hun."

Ar ol y cyfnod marwaidd y cyfeiriwn ato, tua diwedd yr Haf yn y flwyddyn 1849, agorodd drws gobaith ar grefydd yn y lle. Clywyd trwst yn mrig y morwydd; cafwyd arwyddion er daioni - daeth dau i'r gyfeillach, sef John a Chatherine Thomas, neu fel eu gelwid hwy yn gyffredin, Shon Benybanc a'i wraig.[6] Dyma y ddau gyntaf a fedyddiodd Mr. Price yn y lle hwn: ac yn ystod y tri mis dylynol bedyddiodd bymtheg ereill, a'r rhan fwyaf o honynt yn hen wrandawyr astud, yn gwybod eu gwaith, a buont o ddefnydd mawr i godi pen yr achos yn yn y lle. Ail gychwynwyd yr Ysgol Sul gydag egni. Sefydlwyd swyddogion, sef arolygydd ac ysgrifenydd, peth na fu mewn cyssylltiad ag Ysgol Sul Mountain Ash o'r blaen. Tua'r un amser sefydlwyd ysgol gân, o dan arweiniad y brawd David Evans, yr hwn fu yn ddiwyd a gweithgar gyda y rhan hon o'rgwasanaeth am flynyddau. Fel hyn aeth pethau yn yblaen yn gysurus. Amlhaodd y gwrandawyr, agorwydamryw weithiau glo newydd yn y gymmydogaeth, daethamryw ddyeithriaid i'r lle, ac yn eu plith rai oedd yn ofniDuw ac yn cilio oddiwrth ddrygioni; ac ambell un yn caelei fedyddio. Yn fuan aeth y capel bach yn rhy fychan,teimlai yr eglwys angen am "helaethu lle ei phabell, acestyn cortynau ei phreswylfeydd." Ac felly yn y flwyddyn1853 cawn hi yn ystyried y mater o gael capel newydd, acwedi trefnu i gasglu ar ei gyfer. Cytunwyd ar y 17eg oFehefin, 1854, â Mr. Richard Mathias i adeiladu y capelam y swm o £487. Erbyn Tachwedd y 4ydd, yn yr unflwyddyn, yr oedd y capel wedi ei gwbl orphen, bythefnoscyn i amser yr ammod (contract) ddyfod i ben. Pregethwydam y waith gyntaf yn y capel newydd yr ail Sabboth o'run mis gan Mr. Price, ac ar yr 22ain o'r mis hwnw agorwyd y capel, pryd y pregethodd y Parchn. John Jones aJohn Lloyd, Merthyr; Robert Owen, Berthlwyd; WilliamWilliams, Llysfaen; J. D. Williams, Cwmbach; D. Davies,Waentrodau; B. Evans, Heolyfelin, a T. Davies, Merthyr.Wedi cael capel newydd, a lle cyfleus i addoli, a chaelbendith ar lafur y gweision, trwy fod yr eglwys yn lluosogia'r gwrandawyr yn amlhau, barnwyd yn angenrheidiol iymgorffoli yr eglwys ar ei phen ei hun a chael gweinidog ifyw yn y gymmydogaeth. Hyspyswyd hyny i Price, ygweinidog. Rhoddwyd galwad wresog ac unfrydol i Mr.William Williams, Llysfaen, a derbyniodd yntau yr alwad.Dechreuodd ar ei weinidogaeth y Sabboth olaf yn misEbrill, 1855. Cynnaliwyd Cwrdd Chwarterol Morganwgyno ar y dydd diweddaf o Ebrill a'r dydd cyntaf yn Mai,yr un flwyddyn. Defnyddiwyd un o'r cyfarfodydd hyn igorffoli yr eglwys ar ei phen ei hun a sefydlu y gweinidog.Ar yr achlysur pregethodd y Parchn. J. Davies, Merthyr,ar Natur Eglwys Iesu Grist; B. Evans, Heolyfelin, arddyledswydd y diaconiaid; J. Evans, Abercanaid, ar ddyledswydd y gweinidog; ac Ě. Evans, Dowlais, ar ddyledswydd yr eglwys. Y pump diacon a neillduwyd yn ycwrdd hwn trwy weddi ac arddodiad dwylaw y gweinidogion oeddynt, James Williams, David Jenkins, ThomasRichard, David Davies, a Richard John; ac yr oedd brawdarall, sef Evan Jenkins, neu fel y gelwid ef yn gyffredin,Ifan Shenkin, wedi symmud ychydig cyn hyn o'r Berthlwyd, ac wedi gwasanaethu yn y swydd yno am flynyddau. Cafodd yntau ei ddewis i wasanaethu yma (gwel Seren Gomer am Hydref, 1883).

Er fod cyssylltiad uniongyrchol Price a'r eglwys yn awr wedi darfod, etto teimlai yr eglwys a'r gymmydogaeth yn gyffredinol barch neillduol ato, a dangosent bob amser y dyddordeb mwyaf ynddo. Yr oedd fel tywysog yn y lle bob tro y deuai i lawr, ac yr oedd hyny am lawer o flynyddau, fel y nodasom yn barod, yn bur aml. Yr oedd wedi cael cyfeillion trwyadl yn hen deuluoedd parchus y Glyngwyn, Penybanc, y Darran Las, &c. Byddai Ambrose, Shon, Evan a Thwmi Glyngwyn, yn llythyrenol yn ei addoli. Credai Shon a Thwmi Penybanc nad oedd ei ail i'w gael, ac nis gallai fod yn uwch yn marn y Morganiaid, Modryb Magws, a Mrs. Mary Thomas o'r Bruce Arms, lle yr arferai gael ei giniaw a'i dê braidd bob Sabboth yn ystod y deg mlynedd y bu yn gofalu am yr eglwys, ac nid y lleiaf o'i edmygwyr oedd yr hen frawd doniol ac hwyliog, Richard Shon. Hefyd, teimlai Price ei hun ymlyniad serchgarol wrth hen bobl barchus y Mount. Gwnaeth eu serch ato yn nghyd â'r parch mawr ddangosasant iddo argraff ddofn ar ei galon a'i deimlad. Yn ei Jubili dywed eiriau a brofant hyn yn eglur: "Nid annghofia y rhai ag oedd ar y cymundeb hwnw[7] y telmladau ddangoswyd at Mr. Price ar ei ymadawiad, wedi bod yn eu gwasanaethu fel eu gweinidog am y deng mlynedd blaenorol." "Yr oedd yno," meddai yn mhellach, "ychydig o oreuon y ddaear yn byw, a thrachefn, tra y byddom byw, bydd genym adgofion parchus iawn an aelodau boreuol Mountain Ash. Y maent gan mwyaf wedi ymadael; ond cawn etto gwrdd yn y nef er adolygu llawer cyfarfod cysurus a gawsom gyda'n gilydd ar y ddaear."

Y mae yr eglwys hon wedi parhau oddiar sefydliad Mr. Williams, yr hwn sydd yn aros hyd heddyw, ac yn un o gymmeriadau puraf y pwlpud yn Nghymru, yn ei gweithgarwch, mae ei llwyddiant wedi bod yn dra helaeth, ac ymae mor flodeuog a llewyrchus heddyw ag erioed.Gwawr, Aberaman, hefyd sydd gangen arall o hen Eglwys Penypound. Credaf y cawn ddelweddiad mor gywiro Price yn ei gallder ymarferol, a'i fedrusrwydd digyffelybi gwrdd ag achosion helbulus yn ei gyssylltiad a'i berthynasag eglwys Gwawr ag a gawn mewn unrhyw gyfeiriad y buynddo. Bu yr eglwys hon yn ei dyddiau boreuol mewntrallodion lu, fe ddichon yn herwydd toriad cynnarol eichyssylltiad â'r fam—eglwys Camsyniad sydd yn cael eiwneyd yn rhy gyffredin gan gangenau ydyw hwn, ac ymaent yn fynych yn gorfod dyoddef canlyniadau chwerwonyn ei herwydd. Dywed gohebydd yn Seren Cymru am Ionawr y 4ydd, 1867, pan yn ysgrifenu ar achlysur jubili dyled yr eglwys yn Ngwawr, fel y canlyn:

Mae y ffaith fod yr eglwys wedi talu y ddyled oll yn achos o syndodac yn destyn diolchgarwch Mae y syndod yn fwy. gan fod yr Eglwysyn Gwawr, Aberaman. wedi dyoddef mwy o dywydd garw, ac we licael mwy o gam—chwareu nâ nemawr eglwys yn Nghymru. Yr ydymni sydd yn ei hadnabod o i genedigaeth hyd yn awr yn synu mwy, acyn diolch i Dduw yn fwy difrifol nag a wyr neb ond yr ychydig frodyrda sydd wedi bod gyda ni yn y tywydd chwerw ag y bu yr eglwys honynddo "

Mewn trefn i ddangos yr helbulon y cyfeiria y gohebyddhwn atynt, a chan eu bod yn dwyn perthynas agos â Price,fel un yn benaf a aeth drwyddynt, gosodwn yma fraslinelliad o'i hanes fel yr adroddir ef gan Price yn ei Jubili. Dywed yn debyg i hyn:—

"Dechreuodd Eglwys Aberdar lafurio yn Aberaman yn niwedd yflwyddyn 1846. Wedi i Arch yr Arglwydd fod yn ymsymmud o dỷ idy am dymhor hir. ardrethwyd ystafell eang yn ymyl y King William.'yn yr hon y dygwyd y gwasanaeth yn mlaen ar y Sabbothau ac yn yrwythnos. Yn 1848, penderfynwyd codi capel cyfaddas i sefyllfa gynnyddol y lle. Erbyn Mehefin, 1849, yr oedd y ddalysgrif (lease) wedi eichymmeryd ar adeiladu ar gael ei gychwyn. Ar y Sul o flaen y Gymmanfa y flwyddyn hono, yn ddisymmwth gwnaeth y gangen gais at yfam eglwys am ei chorffoli, er bod yn eglwys ar ei phen ei hun." Yn groes i feddwl aelodau goreu Aberdar, ac i farn a theimlad Price, caniatawyd eu cais, ac er hyrwyddo y fforddiddynt gael derbyniad dioed i'r gymmanfa, corffolwyd hwygan Price, yn cael ei gynnorthwyo gan y Parch. B. Evans,Hirwaun, y pryd hwnw, ar y nos Lun cyn y gymmanfa, agollyngwyd 121 o aelodau i'w ffurfio. Derbyniwyd hi i'rgymmanfa yn y flwyddyn 1849.

Yn ddioedi wedi hyn, rhoddasant alwad i ddyn drwg o'renw David Jones (Dewi Elfed) i ddyfod i'w bugeilio, achymmerwyd arolygiaeth y capel yn hollol o law EglwysAberdar; ac er tori y cyssylltiad yn ddigon llwyr, tynwydenwau Price a John Davies o'r ddalysgrif, a gosodwydenwau David Jones a David Richards yn eu lle. Gwnawdhyn yn ddiau yn fwriadol gan Dewi Elfed er cyrhaedd eiamcan ystrywgar o fyned â'r capel oddiwrth y Bedyddwyr.Codwyd muriau y capel, a gosodwyd tô arno, a phwlpudac un sedd ynddo, ac awd iddo yn y cyflwr anorphenedighwnw; ac felly y bu hyd amser dinystriad yr eglwys. Nidhir y bu y dyn hwn cyn dangos ei ddrygioni. Yn yflwyddyn 1850, diarddelwyd yr eglwys a'i gweinidog o'rGymmanfa yn herwydd cyfeiliornadau dinystriol y gweinidog. Ond er holl ddrygioni a chyfeiliornadau Dewi,cafodd rai Bedyddwyr i'w bleidio, a chan iddo gael eigefnogi gan ychydig deuluoedd camsyniol, bu fel cancryn difa pob rhinwedd a phob yspryd crefyddol yn yr ardal,ac yn planu chwyn gwenwynllyd, y rhai a adawsant euheffeithiau yn Aberaman am flynyddau amryw. Wedii'r dyn hwn wneyd a allasai i ddifodi achos y Bedyddwyryn y lle, aeth ef ei hun—ac amcanodd fyned â'r capel a'reglwys—drosodd at yr haid crefyddwyr a elwid yn y gymmydogaeth yn "Seintiau y Dyddiau Diweddaf." Llwyddodd, trwy ei dwyll yn newid y lease, i fyned â'r capel, adylynwyd ef gan rai o'r aelodau; ac felly, llwyr ddinystriwyd yr eglwys yn Aberaman, ac ni achubwyd o'r drygfydhwn ond ychydig a ddychwelasant i Aberdar. Collwyd ycapel i'r eglwys am yn agos i flwyddyn; ond cymmerwydy mater mewn llaw gan Price a'i eglwys er adennill ycapel i'r Bedyddwyr o grafangau yr yspeilwyr oeddyntwedi ei drawsfediannu. Cafwyd, fel y gellid dysgwyl, bobgwrthwynebiad gan Dewi a'i blaid; ond er syndod agwarth tragwyddol, cafwyd pob gwrthwynebiad ganychydig Fedyddwyr oeddynt â llaw yn y mater. Peroddyr achos hwn bryder a thrafferth mawr i Price, a degau o bunnau o gost i'r eglwys yn Nghalfaria. Ond er pobgwrthwynebiad, yn Mrawdlys Haf 1851, adennillwyd ycapel trwy y gyfraith, a chafwyd ailfeddiant o hono ganUchel Sirydd Morganwg. Ar Tachwedd y 4ydd, 1851,daeth tua dwy fil o ddynion at eu gilydd i weled y capelyn cael ei adfeddiannu gan y Bedyddwyr; ond yr oedd ydyn drygionus, David Jones, yn nghyd â rhyw apostol gau,wedi cloi eu hunain o fewn y capel, a chan nad oedd hawlgan y Sirydd i dori y drws, yr oedd yn ymddangos fod ySeintiau yn debyg o gadw y capel, er fod y gyfraith yn euherbyn. Ond nid oedd Price, wedi ymladd ei frwydr hydyn hyn yn fuddugoliaethus, yn myned i gael ei orchfygugan y ddau saint-gythraul oeddynt yn cadw gafael yn ycapel.

Clywsom ef yn ei flynyddau olaf yn adrodd yr helyntgyda blas a hwyl, a cheisiwn osod yr hanes mor agos gerbron ag y cawsom ef ganddo, yn cael ei attegu gan ereilloeddynt yn llygaid-dystion o'r cwbl. Yr oedd Dewi a'rapostol wedi cloi a bolltio drws y capel gan ei osodmor ddyogel ag oedd yn bossibl. Hefyd, yr oeddynt wedihoelio yn sicr bob un o'r ffenestri, y rhai oeddynt ychydigyn anhawdd eu cyrhaedd o'r tu allan. Yr oedd y bobl ynaros yn ddysgwylgar am olygfa, ac yn teimlo i raddau yngas at y trawsfeddiannwyr oeddynt yn y deml. DacwPrice yn dyfod, yn wyllt yr olwg, cerddai yn gyflym, edrychai yn benderfynol, ac yr oedd pob ysgogiad o'i eiddo yndweyd capel i'r Bedyddwyr ac nid i'r Seintiau oedd Gwawri fod yn y man. Yn nghanol cynhyrfiad y bobl wele ef yntreio y drws, ond i ddim pwrpas. Ar hyn, y mae yngwaeddi mewn modd awdurdodol ar un o'i ddiaconiaid,Mr. Phillip John, ac ar David Grier, saer, yr hwn oedd agychydig offer gweithio yn ei logell ar y pryd. "Agorwchy ffenestr yma, Grier," gwaeddai yn wyllt, "ac af i fewn aty d——liaid." Gwnawd hyn yn ddioedi, a chynnorthwywyd Price i fewn trwy y ffenestr gan Phillip John a Grier,a chanlynasant ef ar unwaith. Yr olygfa gyntaf gawsantoedd gweled Price yn cwrsio ar ol Dewi a'r apostol o amgylch y capel, i fyny i'r pwlpud ac i lawr drachefn, ac wedimyned o amgylch ddwy neu dair gwaith daethant i'r ddalfayn y lobby. Cydiai Price ynddynt gyda gafaeliad cawr.Dywedodd wrth Grier a John am agor y drws, yr hyn awnaethant drwy gryn drafferth. Ar hyn troediwyd ynllythyrenol y ddau ddyhiryn y naill ar ol y llall o'r capel gan Price, nes yr oeddynt yn disgyn yn y pellder drawyn nghanol llongyfarchiadau y dorf fawr ag oedd ynlygad-dystion o'r weithred. 'Dyna i chwi,' meddai,enghraifft bur dda o'r hyn yw 'bwrw allan gythreuliaidyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg." Diangodd y ddausant am eu bywyd, er nad oedd yno genfaint o foch i fynediddynt. Y dydd hwnw gofalwyd gosod y capel yn ddyogelmewn ymddiriedolaeth i'r Bedyddwyr.

Er fod y capel erbyn hyn wedi ei adfeddiannu i'r Bed-yddwyr drwy ymdrech egniol Price, nid oedd yr helynt arben etto. Yr oedd Dewi a'r Seintiau wedi gosod yr achosyn llaw Mr. Owen, Cyfreithiwr, Pontypwl, yr hwn a elwidyr adeg hono "the workmen's friend," oblegyd efe yn gyffredingai ei bennodi i ddadleu achosion y dospaath gweithgar; ac yr oedd bob amser yn bur arwraidd a llwyddiannusyn ei frwydrau drostynt. Credai y Saint fod eu hachoshwythau yn ddyogel yn ei law; ond nid oeddynt wedicyfrif gallu a medr cyfreithiol y gwr bach gwridgoch aphengrych oedd yn weinidog yn Mhenypound, Aberdar.Yr oedd yr achos o du y Bedyddwyr wedi ei ymddiried iMr. Frank James, Merthyr, gan Price. Ymgeisiodd cyfreithiwr y Saint gael gan Price dalu treuliau oedd ddyledusiddo, ond methodd, a gorfu i Dewi Elfed eu rhoddi iddo yy dydd y bwriwyd ef allan o'r capel. Ar ol hyn gwysiwyd yDr. gan Dewi Elfed, drwy ei gyfreithiwr Owen, am assault, agofynai iawn am y niwed oedd wedi ei dderbyn drwy ytroediad. Anfonodd y Dr. yn ol ato, a dywedodd fodperffaith roesaw iddo fyned yn mlaen a'r case, y buasai ynei gyfarfod ef a Dewi Elfed yn y llys, ond ei fod yn hyspysu mai y peth cyntaf fynai yn ei erlyniad oedd dynoethiDewi yn y llys er gweled y fan oedd wedi derbyn y niweda'i archwilio yn llwyr, er gweled faint o niwed oedd wediei dderbyn. Rhoddodd hyn derfyn ar y cwbl, ac ni chlywodd Price ddim mwyach am dano.Wedi i Price a'i eglwys yn Aberdar ad-feddiannu y capeli'r Bedyddwyr, ail-agorwyd ef ganddynt yn ddioed. Amhyn edrydd Price yn ei Jubili.

'Y dydd Sul canlynol, Tachwedd, 1851, ail agorwyd y capel ganEglwys Calfaria ac Eglwys y Cwmbach, a gosodwyd yr achos o dannawdd y Parch. J. D. Williams ac Eglwys y Cwmbach. Fel yna terfynodd y frwydr hon. Ond arosodd effeithiau cythreuleiddiwch DavidJones, a chamsyniad ffol a phengamrwydd rhai Bedyddwyr yn fawr ar Aberaman, ac yn wir nid yw yr effeithiau weli llwyr ymadael hyd ydydd hwn."

Ond er cymmaint oedd y stormydd a'r helbulon yr aethyr eglwys hon drwyddynt, cafodd ei bendithio à dynion dayn weinidogion arni, megys y Parchedigion W. Jones, ynawr Philadelphia, Abertawe; T.Abertawe; T. Nicholas; MorganPhillips, yn nghyd a i gweinidog da a gweithgar presenoly Parch. T. Davies.

Bu Price yn llafurus a diwyd iawn yn dechreu achosSeisnig yn Aberdar. Yr oedd ganddo lygad craft i weledangenion y gymmydogaeth, a gallu arbenig i ddarparu areu cyfer, yn neillduol yn ei gylch a'i gyssylltiadau crefyddol. Dechreuodd efe yr eglwys hon, fel y gwneir yn gyffredin wrth gychwyn achosion newyddion, trwy fyned a'rcyfarfodydd o dy i dy. Cyflogodd ystafell fawr berthynoli'r Horse and Groom am dymhor byr; yna, cafodd un mwycyfleus yn ymyl y Black Lion. Bu y frawdoliaeth ynohyd symmudiad yr eglwys Gymreig i Gapel Calfaria, prydy rhoddwyd yr hen gapel i'r Saeson, a chorffolwyd hwyntyn eglwys reolaidd gan Price ar y 15fed o Chwefror, 1852.Dewiswyd y Parch. James Cooper yn weinidog; ond ni fuei arosiad yn hir yn Aberdar, er ei fod ynyn ddyn rhagorol,ac yn weinidog da. Yn mhen tair blynedd wedi corffoliadcyntaf yr eglwys, diflanodd yn llwyr, a chauwyd y capel ifyny yn mis Mawrth, 1855. Ar y dydd Sabboth, Mai y13eg, yn yr un flwyddyn, agorwyd y capel drachefn ganPrice, yn cael ei gynnorthwyo gan Mr. Edward GilbertPrice i ofalu am yr Ysgol, Mr. William Davies i ofalu amy canu, a Mr. John Lewis i ofalu am y ddiaconiaeth.Dyma y cwbl," adroddai Price, "oedd genym i ymddybynu arnynt i ddechreu yr achos newydd.achos newydd." Ond ymdrechodd Price yn egniol gyda'r brodyr da hyn, a chynnyddoddyr achos yn raddol. Yn y flwyddyn 1856, gollyngwyd 81o aelodau Calfaria er ffurfio eglwys yma etto, yr hon agorffolwyd yn rheolaidd, ac a dderbyniwyd i'r Gymmanfay flwyddyn hono. Tynwyd yr hen gapel i lawr, ac adeiladwyd un newydd a hardd yn yr un man â'r hen dy.Agorwyd ef Mawrth yr 8fed, 1857, gwasanaethwyd ar yrachlysur gan y Parch. G. P. Evans, York Place, Abertawe,(gweler Gwron Mawrth 14, 1857). Bu yr eglwys, fel cangeno Galfaria, dan arolygiaeth a gofal Price hyd sefydliad Mr.James Owen, yn awr o Mount Pleasant, Abertawe, yn weinidog arni yn y flwyddyn 1860, a fu yn llwyddiannus igodi achos llewyrchus yn y lle.

Bron yn yr un adeg codai yr eglwysi yn Methel, Abernant, a'r Ynyslwyd; ac arferai y Dr. yr un diwydrwydd acegni gyda hwynt ag a ddangosasai gyda r cangenau ereill.Mynychai pobl Abernant y cyfarfodydd crefyddol ynNghalfaria, oddigerth yr Ysgol Sul a'r cyfarfodydd gweddio,y rhai a gynnelid, fel y dywedir, ar hyd y tai yn eu cymmydogaeth. Ceisiai Price drefnu y cyfarfodydd yn ycangenau i beidio bod ar yr un nosweithiau, ac felly, yngyffredin, yr oedd yn gallu bod yn bresenol ynddynt.Nodweddid ef yn neillduol gan ffyddlondeb a chyssondebyn ei fynychiadau i'r cyfarfodydd wythnosol yn y cangenau, ac yr oedd dylanwad mawr gan ei bresenoldeb ar yraelodau gan y gwelent ei fod yn teimlo y fath ddyddordebynddynt. Yr oedd hyn yn effeithio yn ddaionus hefyd ary cymmydogion a'r gwrandawyr, gan ei fod yn eu tynui'r cyfarfodydd hyn. Yn gweled fod yr achos yn llwyddoyn gyflym yn Abernant, penderfynwyd yn y flwyddyn1856 adeiladu ysgoldy eang yno, yr hyn a wnawd yn ddioedi; oblegyd cawn ei fod yn cael ei agor ar y 25ain oIonawr, 1857, a phregethwyd ynddo am y waith gyntafgan Dr. Price ar nos Sul, y dyddiad crybwylledig. I gyfarfod y ddyled drom o £374 12s. oedd yn awr ar Bethel,mabwysiadodd y Dr. gynllun rhagorol, yr hwn a wnaeth ybaich yn hawdd i'w ddwyn gan y bobl. Sefydlodd yn yreglwys yr hyn a alwai yn Gymdeithas Ceiniog yr Wythnos.Cyfranai pob aelod ei geiniog bob wythnos, ac fellycyd-ddygent y baich yn ogoneddus. Yn fuan, aeth yrysgoldy yn rhy fychan, felly rhaid oedd codi capel newyddyn llawer eangach: ac ar yr 20fed o Fai, 1862, fel y cawnhanes, gosodwyd y garreg sylfaen, neu goffadwriaethol, ganMrs. Hosgood, Rose Cottage, Abernant. Rhoddwyd an-erchiad pwrpasol ar yr achlysur gan y Dr., yn cael ei gynnorthwyo gan y Parchn. W. Williams, Mountain Ash; W.Harris, Heolyfelin; Dr. John Emlyn Jones, Caerdydd; aT. E. James, Glynnedd, yr hwn a wnaeth gân odidog ar"Bethel fach yn myn'd yn Bethel fawr." Bu y Dr. drwyy blynyddau yn dra charedig i eglwys Bethel; teimlaiddyddordeb neillduol yn newisiad y gweinidogion fuont yngweinidogaethu arni o bryd i bryd. Cawn ei fod weditraddodi amryw ddarlithiau yn rhad i'r eglwys hon er dileuei dyledion. Bu yn enwog yn ei weithgarwch a'i ffyddlondeb yn gyssylltiedig â hi, yn neillduol tra fu dan ei ofalneillduol ef ac ar adegau y byddai heb weinidog. Dagenym nodi er lleied a gwaned oedd Bethel, pan broffwyd-ai y caredig frawd T. ab Ieuan am dani, ei bod bellachwedi dyfod yn Bethel fawr dan weinidogaeth lwyddiannusei gweinidog presenol y Parch. John Mills, yr hwn hefydsydd yn aelod gwreiddiol o Bethel.

Derbyniodd yr Ynyslwyd yr un gofal a charedigrwyddgan y Dr. a'r fam-eglwys yn Nghalfaria ag a wnaeth Abernant, ond yn unig ei fod wedi pregethu yn amlach ynMethel nag a wnaeth yn yr Ynyslwyd. Y tro cyntaf ycawn iddo bregethu yn yr Ynyslwyd, yn ol ei ddyddiadur,yw ar y 29ain o Ragfyr, 1858. Ei destyn oedd Esay liv."Helaetha le dy babell." Traddododd araeth yn ygyfeillach y noson hono hefyd ar "Ddiwedd y flwyddyn;'ond tebyg ei fod wedi pregethu yno yn flaenorol: foddbynag, cawn ei hanes yn rhoddi anerchiadau yn yr YsgolSabbothol yno cyn hyn. Cymmerodd y Dr. lawer iawn oddyddordeb gydag adeiladu yr ysgoldy a'r ty annedd yn yflwyddyn 1858, y rhai oeddynt yn werth £254 17s. 8c.; acyn y flwyddyn 1862 adeiladwyd y capel eang a phrydferthpresenol, yr holl waith yn cael ei arolygu gan y Dr. ei hun.Agorwyd ef yn gyhoeddus ar y dyddiau Mercher ac Iau, y4ydd a'r 5ed o Chwefror, 1863. Ond yr oedd Price wedipregethu ynddo y nos Sul blaenorol. "Holl gynghor Duw"oedd y pwnc, ac wedi y bregeth bedyddiodd saith o gredinwyr proffesedig yn y fedyddfa newydd. Y cyntaf o'rsaith oedd Mr. David Davies, yr hwn oedd wedi treuliodros bymtheg mlynedd ar hugain yn aelod gyda y Methodistiaid. Hyd yma yr oedd yr eglwys yn aros yn gangendan nawdd a gofal y fam-eglwys, ac wedi ei hymadawiadbu yn llwyddiannus iawn dan ofal gweinidogaethol y Parch.Thomas John, yn awr o Ffynnonhenry. Olynwyd ef gany Parch. R. E. Williams (Twrfab), y gweinidog presenol,ac y mae yr eglwys yn parhau yn llewyrchus a blodeuogdan ei weinidogaeth.

Yr oedd golwg fawr gan y Dr. ar y Gadlys, y gangenolaf a godwyd gan Calfaria. Arferai Price, pan yn siaradyn gyhoeddus am hanes yr eglwysi Bedyddiedig yn ydyffryn (a gwnai hyny yn aml yn ei flynyddau olaf), eigalw yn gyw gwaelod y nyth. Sefydlwyd Ysgol Sul yn yGadlys yn y flwyddyn 1858. Cynnaliwyd yr ysgol gyntafyn nhŷ Dan James, yr hwn a fu yn llafurus iawn ynddi, ac yn ddiacon ffyddlon a gweithgar yn yr eglwys am flynyddau, ond gwnaeth longddrylliad yn y ffydd a chafwyd colledenfawr ar ei ol. Cawn a ganlyn ar goflyfr y Gadlys am yrYsgol Sul:-" Rhif yr ysgol gyntaf oedd 113, o ba rai yroedd 39 yn aelodau. Yr oedd Dr. Price, ein hanwyl weinidog, yn bresenol, a'i holl enaid yn y gorchwyl o sefydluachos yn y lle." Wedi bod yn ymdreiglo o dy i dy â'rysgol am rai misoedd, penderfynwyd ar godi ysgoldy. Ymgymmerodd Price, yn ol ei barodrwydd arferol, at sicrhautir, a chafodd addewid am lecyn cyfleus gan Mr. ThomasWayne ar ystâd y Gadlys, ond pan ar fedr tynu allan ycytundeb, trodd allan na ellid ei gael, am fod lease y cwmniyn gwahardd rhoddi tir i adeiladu capelau i'r Ymneillduwyrarno, ond cyn gynted ag y cafodd Price y nacâd, dywedoddyn ei ddull meistrolgar a phenderfynol, "Land for buildingmy chapel I will get ere I sleep to-night," ac felly y bu:aeth yn uniongyrchol at foneddwr o gyfaill iddo, sef J. L.Roberts, Ysw., meddyg, Gadlys Uchaf, ac wedi gosod eigais o flaen Dr. Roberts, llwyddodd yn y man. Cafodd ddewis ei le, a phenderfynodd ar y darn y saif Capel yGadlys arno yn bresenol. Awd yn mlaen â'r gwaith oadeiladu yn ddioed, ac nid hir y bu yr ysgoldy a'r annedd-dai perthynol iddo cyn bod yn barod. Cynnaliwyd yr ysgolgyntaf yn y lle newydd Chwefror y 6ed, 1859. Cynnyddoddyr ysgol yn gyflym, ac mewn ychydig amser rhifai 180 oysgolheigion, 56 o'r cyfryw oeddynt yn aelodau o'r fam-eglwys yn Nghalfaria. Yn gweled fod yn y Gadlys laweriawn o bobl ieuainc, bywiog, ac yn meddu ar hoffder i ganuac adrodd, cyfansoddodd y Dr. bwnc, fel y dywed ysgrifenydd y Gadlys yn ei gronicliad o hanes boreuol yr eglwys,"at wasanaeth yr ysgol hon; y testyn oedd 'Yr Efengyla'i llwyddiant.' Yr oedd i fod wedi ei ddysgu ganddynterbyn dechreu 1860. Yr elw oddiwrtho i fyned at genadaeth China." Cynnyddodd yr ysgol a'r eglwys hon yngyflym, fel yr oedd yn 189 o aelodau pan yn cael ei derbynyn aelod o'r gymmanfa yn Nowlais yn Mehefin, 1865. Yny flwyddyn hono yr agorwyd y capel. Rhoddwyd y contracto'i adeiladu allan i Mr. Thomas Roberts dydd Llun, Maiyr 8fed, 1864, am y swm o £675. Yn ei fynegiad o hanescyfarfodydd agoriadol y Gadlys yn Seren Cymru am Mehefiny 30ain, 1865, dywed y gohebydd,

"Mae yn deilwng o sylw mai hwn yw y seithfed capel ag y mae Eglwys Calfaria wedi ei godi er sefydliad y Dr. Price yn weinidog yn Aberdar, yn agos i 20 mlynedd yn ol; a hon yw y chwechfed eglwys agorffolwyd o aelodau yn cael eu gollwng yn rheolaidd ac yn gariadlawno Eglwys Calfaria, yn ystod y blynyddau diweddaf. Ac y mae pob uno'r eglwysi hyn yn alluog i, ac yn cynnal gweinidogion eu hunain. Abydd yn dda gan ein cyfeillion wybod fod y fam-eglwys yn para yngryf ac iachus, ac yn cynnal ei gweinidog ei hun mewn cysur ac anrhydedd. Mae yn ffaith deilwng o sylw fod pob un o'r eglwysi hynwedi ymadael â'r fam-eglwys mewn heddwch, cariad, a brawdgarwch.Nid oes cymmaint â gair croes wedi bod rhwng y gweinidog a'r fam-eglwys o'r naill du, a'r eglwysi newydd o'r tu arall. Mae perffaith unoliaeth a brawdgarwch wedi ac yn parhau i lywodraethu pawb o honom o'r henaf hyd yr ieuengaf."

Bedyddiodd y Dr. am y waith gyntaf yn nosparth yGadlys prydnawn dydd Sul, Ebrill y 5ed, 1863, a rhoddoddy cymundeb cyntaf yn y Gadlys nos Sul, Ionawr 24, 1864.Nos Sul cymundeb, Mai yr 21ain, 1865, yn yr hwn yr oeddy Dr. yn bresenol, rhoddwyd galwad unfrydol i'r doniolbregethwr, Mr. D. Davies (Dewi Dyfan), myfyriwr o Bontypwl; cyflwynwyd hi iddo ar y 23ain. Derbyniodd hi gyda boddlonrwydd. Rhoddodd Price y cymundeb am ytro olaf yn y Gadlys fel eglwys dan ei ofal nos Sul, Rhagfyry 24ain, 1865. Ymsefydlodd Dewi Dyfan yma, a chynnaliwyd cyfarfodydd ei urddiad ar y dyddiau Sul a Llun,Ionawr y 14eg a'r 15fed, 1866. Bu yn dra llwyddiannushyd ei ymadawiad i Aberteifi yn 1875. Olynwyd ef gan ygweinidog presenol, y Parch. B. Evans, gynt o Dy Ddewi,yr hwn, yn ngwyneb llawer o anfanteision achoswyd trwylwyr attaliad gweithfeydd haiarn ac alcan y Gadlys, syddwedi cael ffafr yn ngolwg Duw a dynion.

Dengys y nodion geir yn nghofnodlyfr y Gadlys am 1865fawr ofal Dr. Price am yr eglwys hon. Mae y manylionam ei fynychiadau a'i ymrwymiadau i'r eglwys yn ystod yflwyddyn yn rhy luosog i'w croniclo yn llawn yma. Ceiref yn pregethu ar foreu neu nos Sul yn fynych, yn tori barabob mis, yn yr Ysgol Sul yn aml, yn lled gysson yn ycyrddau gweddïo a'r cyfeillachau, ac hefyd yn bedyddio âthrefnu amgylchiadau allanol yr eglwys.

Credwn fod y braslinelliad ydym wedi ei dynu o gyssylltiad Price â changenau ei eglwys yn ddigon i ddangos eiweithgarwch difefl, ei egnïon parhaol, ei benderfyniad diysgog, ei ofal diflin, ei serch ymlynol, a'i fawredd dihafal. Hoffa yr hen bobl siarad yn fynych am yr amser hwnw, a chredant nad oedd tebyg y Dr. i'w gael i weithio a chodieglwysi newyddion. Dywedodd un o honynt wrthyf ynddiweddar, "Gellwch ddweyd yn dda am y Dr., poor fellow,ac wedi i chwi ddweyd neu ysgrifenu eich goreu am dano,bydd ei waith yn llawer mwy wed'yn. Ni fedr neb ddweydgormod am dano yn ei berthynas â Bedyddwyr Aberdar."Yr ydym o'r un farn â'r hen frawd hwnw, oblegyd y maecodi cynnifer o ysgoldai a chapelau newyddion mewntymhor mor fyr yn golygu gwaith a llafur anarferol, heblawfod ganddo amryfath ddyledswyddau pwysig ereillyn galwam ei amser a'i wasanaeth; ac er fod ganddo gynnorthwywyr effeithiol yn ei ddiaconiaid gweithgar a brodyr da ereilloeddynt yn aelodau yn y cangenau hyn, mynai Price gydaphobpeth i'r baich trymaf bwyso ar ei ysgwyddau ei hun;ac felly yma.

Yn ei Drem, fel y crybwyllasom yn barod, noda y Dr.allan 21 o'r eglwysi ydynt wedi hanu o Galfaria. Fel hynyr ysgrifena:—

EGLWYSI A GODWYD GAN EGLWYS CALFARIA.

"Yr wyf am osod yr eglwysi hyn i lawr yn ddaearyddol, yn hytrachnag yn ol eu hoedran:—Pontbrenllwyd; Ramoth, Hirwaen; Bethel,Glynnedd; Heolyfelin, Resolfen. Llwydcoed, Gadlys, Tabernacl,Merthyr Tydfil; Carmel (Seisnig); Bethel, Abernant; Gwawr, Aberaman; Bethania, Cwmbach; Aberaman (Seisnig); Cwmaman; Abercwmboye; Rhos, Mountain Ash; Nazareth, Ferndale; Penrhiwceibr; Penrhiwceibr (Seisnig)."

Ond gwelir nad yw y rhai hyn yn gangenau uniongyrcholo Galfaria. Mae rhai o honynt yn blant y plant: maentyn ŵyrion, os nad gorŵyrion, rai o honynt. Felly, nidateba lawer o ddyben i ni eu dylyn yn fanwl, ac ni wnawnamgen nodi eu bod wedi cael llawer o sylw a chynnorthwyymarferol y Dr. mewn gwahanol amgylchiadau o bryd i'wgilydd.

Bellach, yr ydym yn cael yr achos Bedyddiedig wedilledu ei esgyll drwy yr holl ddyffryn, ac y mae y gwaith oadeiladu capelau, &c., ar ben. Fel hyn y dywed gohebyddyn ei adroddiad o gyfarfodydd ordeiniad Dewi Dyfan ynSeren Cymru am Ionawr y 26ain, 1866:—

"Mae Dr. Price mewn fix, yn methu yn deg a gwybod b'le y ca le igodi capel etto. Mae wedi codi capeli yn mhob man ag oedd galw am danynt, ac os na wna rhywle newydd agor yn fuan, bydd yn sicr ofyned allan tua'r Iwerddon neu rywle, oblegyd helaethu terfynauteyrnas Emanuel yw ei fwyd a'i ddiod. Mae wedi llanw dyffryn Aberdar ag egwyddorion y Bedyddwyr; ac y mae fel tad parchus a thyneryn nghanol yr eglwysi sydd wedi myned allan o'i eglwys, a'u gweinidogion."

Nid anmhriodol, credwn, fyddai i ni yn awr edrych yn fyrar y modd hwylus y gweithia yr eglwysi hyn, a dyferu gairam eu teimladau tuag at y Dr. fel eu tad mewn ystyr, neufel yr ystyrid ef yn gyffredin, tywysog y Bedyddwyr yn ycwm. Cawn weled hyn yn ngoleuni yr undebau gwahanol

berthynent i eglwysi ac Ysgolion Sul Dyffryn Aberdar.

PENNOD XI.

GOLWG GYFFREDINOL AR FEDYDDWYR ABERDAR A PRICE.

Golwg gyffredinol ar Fedyddwyr Aberdar—Meddylgarwch a charedigrwydd Price yn ennill iddo barch—Undeb Ysgolion— Cymmanfaoedd Ysgolion—T. ab Ieuan yn canu—Eisteddfodau Blynyddol yr Undeb—Price yn haul a bywyd y cylch—Y cangenau a'r bedydd—Dirmygu y bedydd a'r bedyddiwr— Chwedlau am Price wrth fedyddio—Egwyddorion y Bedyddwyr yn ddyogel yn ei law—Ei ddefnyddioldeb cyffredinol—Cydweithio yn hwylus a'i frodyr—Ei barch atynt—Cael ei barchu ganddynt.

BRON yn yr adeg yr ymsefydlodd y cangenau diweddaf yn eglwysi annybynol, yr oedd Price yn ei ogoniant. Bu mor llygadgraff, meddylgar, a charedig gyda phob symmudiad o'i eiddo, fel yr oedd, nid yn unig wedi ennill sylw, ond edmygedd cyffredinol yr eglwysi, y rhai oeddynt yn cyflym godi i sefyllfaoedd uchel a dylanwad mawr. Yn ymwybodol o lafuriadau Price, edrychent arno gyda pharch a mawrhad anarferol—braidd nad addolent ef drwy y dyffryn; ac nid yn unig yn mhlith y Bedyddwyr y ffynai y teimlad da hwn, eithr hefyd yn mhlith yr holl enwadau crefyddol ereill. Wedi ennill y teimladau hyn, ymdrechai Price eu cadw, a llwyddodd i raddau pell am flynyddau meithion. Bu ffurfiad yr Undeb Ysgolion yn gynnorthwyol iawn i hyn, oblegyd cedwid yr eglwysi yn agos at eu gilydd, a'r Ysgolion Sabbothol gyda'u gilydd yn bur effeithiol drwyddo. Er fod yr eglwysi ar wahan ac yn annybynol, etto byddent fel un gynnulleidfa pan gwrddent â'u gilydd, a chymmerai hyny le yn aml am flynyddau, yn neillduol yn nghylchran y dref. Wrth edrych dros yr hen newyddiaduron, megys y Gwron a'r Gweithiwr (papyrau a gyhoeddid yn Aberdar gan Mr. J. T. Jones, ac a olygid gan y Dr. yn eu blynyddau olaf); Seren Cymru, yn nghyd â chylchgronau cofnodol yr enwad, cawn hanesion mynych am gyfarfodydd undebol Ysgolion y Bedyddwyr yn Aberdar, a'r Dr. yn cael ei gydnabod yn brif yspryd symmudol, yn arweinydd, ac yn llywydd y cyfryw braidd yn ddieithriad.

Yn y Bedyddiwr am Ragfyr, 1854, cawn hanes cymmanfaflynyddol gyntaf Ysgolion Sabbothol y Bedyddwyr ynMhlwyf Aberdar a'r cymmydogaethau. Yr oedd yn perthyni'r undeb cynnulleidfaol hwn, yr adeg hono, saith o ysgolion,sef Pontbrenllwyd, Hirwaun, Heolyfelin, Aberdar, y Cymry,etto y Saeson, Aberaman, a'r Cwmbach. Cyfarfuant â'ugilydd y waith hon yn Heolyfelin ar yr 16eg o Ragfyr,1854, ac anrhegwyd y plant â thê am eu ffyddlondeb gyda'r Ysgol Sabbothol. Canwyd acCanwyd ac adroddwyd amrywddarnau yn ystod y tê, a chafwyd anerchiadau gan Mr.Williams, Cwmbach, a Price, ac edrydd y gohebydd felhyn am danynt:—"Yn ganlynol i hyn, cafwyd araethhollol bwrpasol i'r amgylchiad gan Mr. Williams, Cwmbach, ac yn olaf, areithiodd Mr. Price, Aberdar, nes oeddein calon yn gwresogi ynom, a'r oll o honom mewn hwyl atheimlad cysurus."

Yn y flwyddyn ddylynol, yr oedd Ysgol Mountain Ashwedi ymuno â'r undeb, ac ar eu gwyl flynyddol, cawsanteu hanrhegu â thê gan Thomas Joseph, Ysw., a'i briodhawddgar, ar drum Mynydd yr Ysguborwen. Cawsantwledd foddhaol, a threuliasant ddiwrnod dedwydd ynnghyd. Darllenwyd cerdd—anerchiad i Ysgolion Aberdargan T. ab Ieuan ar yr achlysur, yr hon a gyhoeddwyd yny Bedyddiwr am Hydref, 1855, dau bennill o honi a ddyfynwn yma:—

"Penpound, Aberdar, a'r Saeson yn canlyn,
Cwmbach, Aberaman, Mountain Ash, Heolyfelin.
A Hirwaun a'r Bontbren sy'n cydgwrdd yr awrhon,
A Joseph a'i briod yn lloni eich calon:
Rhowch iddynt y parch sydd 'nawr yn ddyledus,
Am iddynt ddarparu i'ch gwneyd mor gysurus.

"Hir oes i'r boneddwr a'i hardd foneddiges,
A'u plant bach serchiadol, dymunaf yn gynhes;
Boed gwenau Rhagluniaeth a gras yn eu noddi
Ac iddynt wledd fythol fry, fry, gyda'r Iesu;
Hyn hefyd ddymunaf i chwithau, ysgolion,
Cael cydgwrdd â Joseph yn ngwlad Mynydd Seion."

Ymunodd ysgolion High Street (Merthyr) a Throedyrhiwag ysgolion Aberdar y tro hwn: ond yr oedd y bardd wedicyfansoddi ei gân cyn eu gweled yn dyfod. Parhaodd yrUndeb hwn am flynyddau meithion.Cyflwynwyd y merched ieuengaf,—Bethel, Ynyslwyd, a'r Gadlys, i'r cylch anrhydeddus gan Father Price, a chyfranogasant yn helaetho'r un yspryd undebol â'r fam—eglwys a'r chwiorydd hynaf.Dan nawdd yr Undeb anwyl hwn cyfarfyddai nifer o ysgolion yn chwarterol yn nghyd i gynnal cyfarfodydd adrodda chanu. Rhoddwn yma yn enghreifftiol adroddiad byram un o'r cyfryw a ymddangosodd yn Seren Cymru amRagfyr 8, 1871. Gelwid ef gan y gohebydd yn "GwrddModrwyog," a chynnaliwyd ef yn Nghalfaria Tachwedd28, 1871.

"Yr oedd yno bump o Ysgolion Sabbothol wedi cyfarfod mewnmodrwy undeb a chariad. Dyna gwrdd! Yr oedd Ysgol Calfariayno yn serchog a lluosog; Ysgol y Gadlys fel llu banerog; YsgolBethel fel byddin Duw; Ysgol Ynyslwyd fel duwies addysg, a'i thorfysgolheigion; ac Ysgol Carmel fel teulu nefol. Taflai angel heddwchfodrwy cariad am danynt, gan eu gwneyd fel un am awr a hanner ogwrdd. Cafwyd adroddiadau, areithiau, barddoniaethau, a cherddoriaeth o'r fath oreu. Yr oedd y capel yn gysurus o lawn, a phawb ynteimlo dyddordeb yn ngweithrediadau y cyfarfod. Bydd cyfarfodarall etto yn mhen rhyw dri mis yn yr Ynyslwyd, a gobeithio y byddcystal a'r diweddaf. Frodyr, dewch i'r rhengau. Codwch arf ynerbyn brenin y nos. Boed pawb yn perthyn i gatrodau yr Ysgol Sul."

Hefyd, cynnelid eisteddfodau blynyddol o fri ac enw ganddynt: torid allan waith i bob dosparth o'r bobl ieuainc,—yn draethodwyr, beirdd, adroddwyr, a chantorion, acheid cystadleuaethau tỳn a phwysig. A ganlyn ydyntrai o ddosranau y testynau gwahanol,—traethodau, barddoniaeth, ieithyddiaeth, grammadegiaeth, daearyddiaeth,darllenyddiaeth, cerddoriaeth, &c.

Yn y Gwron a'r Gweithiwr ceir mynegiadau helaeth o'ugweithrediadau, y rhai a ddangosant fod bywyd helaeth ynmeddiannu eglwysi ac ysgolion y Bedyddwyr yn y dyffrynyn y cyfnodau hyny. Troai yr oll o amgylch Price, yr hwnoedd fel haul mawr yn nghyssawd Bedyddiedig y cylch;taflai fywyd i'r holl gorff, a chadwai wres cariad a brawdgarwch yn yr holl gyfansoddiad. Ni fyddai yr yspryd unola nodwn yn fwy amlwg un amser na phan y byddai yrordinhad o fedydd yn cael ei gweinyddu. Troai y fam-eglwys a'i phlant, yn neillduol y tair ieuengaf, allan yndorf gariadus yr adeg hon, ac arweinid hwy gan Price ilan yr afon pan fuasai yn bedyddio allan, neu cyfarfyddent yn nghyd yn y capel os mai yno y gweinyddid yr ordinhad. I ddangos hyn yn llawnach, dyfynwn etto o goflyfr y Gadlys, a chawn gipdrem ar bethau fel yr oeddynt pan oedd y gangen dan ofal Price:—

Heblaw hyny (meddai yr ysgrifenydd), yr oedd yn arferiad gan y pedair ysgol i gyfarfod â'u gilydd pan y byddai Dr. Price yn gweinyddu yr ordinhad o fedydd yr Arglwydd. Prydnawn dydd Sul, Hydref y 7fed, 1860, aethom gyda'n gilydd i'r lan tua Bethel, Abernant, i weled Mr. Price yn bedyddio pedwar ar broffes o'u ffydd yn y Gwaredwr. Hwn oedd y tro cyntaf yn Bethel.[8] Drachefn, Sul, Mai y 5ed, 1861, aethpwyd i fyny gyda'n gilydd i Bethel, pryd y bedyddiwyd deg gan Mr. Price. Dydd Sul, Ionawr y 5ed, 1862, gweinyddwyd yr ordinhad o fedydd am y waith gyntaf yn Nosbarth y Gadlys ar Gomin Hirwain, pryd yr ymgyfarfyddodd y pedair ysgol i weled y Dr. yn bedyddio pedwar o bersonau. Pregethodd Mr. Price ar y rhan olaf o'r 26 adnod, yn y xii. bennod o Exodus, Pa wasanaeth yw hwn genych?' Prydnawn dydd Sul, Ebrill 5ed, 1863, cyfarfyddodd yr ysgolion o flaen yr ysgoldy mewn trefn i fyned i weled pump o'r Gadlys yn ufuddhau i fedydd, a weinyddid gan Mr. Price yn afon Cynon, ger hen Brewery Trecynon. Aethpwyd i fyny dan ganu, ac yr oedd yr olygfa yn hardd iawn. Dyma y tro cyntaf i'r ordinhad gael ei gweinyddu yn yr afon uchod gan Ddosbarth y Gadlys."

Rhydd y ffeithiau uchod i ni olwg glir ar y modd y byddai Price yn arfer ac yn hyfforddi y cangenau ac yn eu cadw mewn cyssylltiad parchus â'r fam-eglwys o hyd. Parhaodd yr undeb agos ac anwyl hwn yn hir wedi i'r eglwysi fyned dan ofal gweinidogaethol ereill. Byddai yn olygfa gyffredin iawn flynyddau yn ol, pan oedd y Dr. yn ei ogoniant, i weled y pedair ysgol, drwy ragdrefniant, yn troi allan ar brydnawn Sul i gwrdd â'u gilydd yn nghanol y dref, ac yna ymdeithio dan ganu i un o'r capelau i gynnal cyfarfodydd adroddiadol, a byddai y Dr. yn eu plith fel brenin, yn cael sylw a pharch pawb, ac yn yr adeg hono yr oedd ei air braidd yn ddeddf yn mhob peth. Bu adeg yn hanes y Bedyddwyr yn Aberdar pryd yr edrychid arnynt yn ddirmygedig, ac y diystyrid hwy yn fawr, yn neillduol pan fedyddient yn yr afon. Dirmygid llawer ar Pricepan yn bedyddio, ond yr oedd digon o'r arwr ynddo i wrthsefyll pob ymosodiad, ac i allu ymddwyn tuag at lawerwawdient yr ordinhad gyda dystawrwydd dirmygol, tra arbrydiau ereill rhoddai ergydion trymion i'r gwrthwynebwyr, a boddlonai hyn y Bedyddwyr yn fawr; ac, yn wir,yr oedd llawer o'r gelynion yn edmygu ei wroldeb, ac ynmwynhau ei ddonioldeb a'i ffraeth-atebion i lawer, er fodrhai o honynt weithiau yn gwrs ac yn myned yn mhell.Yr oedd dirgelwch mawr mewn myned a'r pedair ysgoldan ganu at lan yr afon. Yr oedd hyn yn gwneyd ybedydd yn boblogaidd, yn tynu torfeydd mawrion i weled,a chlywed lleferydd dystaw, etto effeithiol, y bedydd Cristionogol a'r bedyddiedigion, yn gystal a'r anerchiadaugrymus geid gan Price, a brodyr da ereill a'i cynnorthwyent yn achlysurol. Hefyd, yr oedd hyn yn dylanwadu yndda ar y Bedyddwyr eu hunain, gan eu bod yn uno eunerth a'u dylanwad ar adegau o'r fath i ddal allan egwyddorion gwahaniaethol y Bedyddwyr o flaen y byd, ac iroddi tystiolaeth eglur a digamsyniol o blaid y "gwirionedd fel y mae yn yr Iesu.' Fel y nodwn, cafodd Pricelawer o'i boeni pan yn yr afon yn bedyddio, ond ni thyciaidim, beth bynag a wneid iddo. Yr oedd gan fedydd aBedyddwyr amddiffynydd cadarn ynddo.

Y mae llawer o ystoriau doniol yn cael eu hadrodd amPrice yn gyssylltiedig â'r bedyddio yn afon Cynon a manau ereill, y rhai sydd, yn wir, yn dra nodweddiadol o hono.Yr oedd, un tro, yn bedyddio yn afon Cynon, yn ymyl yBont Haiarn, ac yr oedd, fel arferol, dyrfa aruthrol wedidyfod yn nghyd, ac yn eu plith lawer o wawdwyr. Y trohwn, yr oedd dau Sais-fasnachwr cyfrifol yn y dref ynsiarad yn uchel â'u gilydd er aflonyddu ar Price. Edrychaiyntau arnynt yn awr ac eilwaith, ac äi yn mlaen â'i anerchiad; ond o'r diwedd, symmudodd gam neu ddau ynmlaen i wynebau yr aflonyddwyr, a dywedodd gydagawdurdod, "I thought it was the devil or some Englishmen!" Gosododd hyn glo ar eu geneuau, a chafodd Price lonydd am y tro hwnw.

Dro arall, yr oedd yn bedyddio yn yr un lle, ac ynmhlith y dyrfa enfawr oedd wedi dyfod i'r bedydd, yroedd llawer o dirgloddwyr (navvies) y rhai oeddynt ynlluosog yn Aberdar yr adeg hono, yn gwneyd y cledrffyrdd newyddion—wedi dyfod i weled y bedydd. Taflent dyweirch i'r dwfr er aflonyddu y bedyddiwr, a phan "aeth iwaered i'r dwfr," taflasant gi neu ddau i fewn i'r afon.Edrychodd y Dr. arnynt—cyfeiriodd ei fys atynt, a dywedodd yn Saesneg, "Dacw nhw! Saeson ydynt. Maemwy o synwyr yn mhenau ceffylau Cymru nag sydd ynmhenau y Saeson!" Profodd hyn yn effeithiol i'r gweilch,a rhoddwyd llonyddwch i'r Bedyddiwr gyflawni ei waithpwysig ac anrhydeddus.

Unwaith, pan yn bedyddio yn ymyl Pont Haiarn Trecynon, cododd rhyw fachgenyn yn ei erbyn, ac aflonyddaiyn fawr arno. Pan oedd Price ar fedr myned ato, gwaeddodd un o'i ddiaconiaid (yr hen frawd da, William Davies),allan, "Mr. Price, peidiwch gwneyd sylw o hwna! Under value, under value!""O'r goreu, William," atebai y Dr.,"gwnaf eich cynghor. Gwyddoch chwi i'r eithaf faint ywgwerth taclau o'r fath." Bu "under value" yn cael eiarferyd yn gyffredin am hir amser wedi hyny yn y gymmydogaeth.

Yr oedd dau aelod cyfrifol gyda r Annybynwyr, droarall, wedi dyfod i weled y bedydd, a safent yn ymyl yrafon. Pan oedd Price yn arwain brawd i'r dwfr i'w fedyddio, clywodd un o'r Annybynwyr yn dweyd wrth y llall,"Edrych ar y diawl yn arwain y diawl hwna i'r dw'r."Cododd Price ei olwg ato, a dywedodd, "Ai y diawl ddywedodd wrthyt ti, y diawl, fy mod yn arwain y diawl i'rdw'r? Dylasai fod cywilydd ar dy wyneb." Trodd yddau Annybynwr ymaith dan gwmmwl o warth a chywilydd, a chrechwenai y dyrfa gyda boddlonrwydd am wroldeb Price yn ngwyneb y fath ddirmyg ar un oedd yn rhoiufudd-dod i orchymynion Crist.

Yr oedd yr enwad a'r egwyddorion Bedyddiedig yn burddyogel yn llaw Price, a theimlai Bedyddwyr y dyffrynhyny, ac felly, ymddiriedent lawer iawn iddo, a meddylientbob amser yn uchel am dano.

Yr oedd Price yn bur flaenllaw gyda phob achos pwysigddaliai berthynas â'r enwad yn y cwm. Anfoddlonai ynfawr i'r brodyr gadwent draw mewn taro, fel y dywedir.Yr oedd efe bob amser yn nghanol y fflam, os byddai tânyn bod. Os chwythai storom heibio unrhyw eglwys yn ydyffryn, byddai efe yn ei dannedd, mewn trefn, os gallaimewn unrhyw fodd, ddyogelu yr achos, a chadw y "defaidrhag y bleiddiaid." Gwelai berygl o draw. Yr oedd ei rybuddion yn brydlon, a'i gynghorion yn bwrpasol a dyogel. Bu yn gyfarwyddwr cywir a diwyro i'r holl eglwysidrwy y dyffryn mewn achosion o gyfyngder a thrallod. Yroedd hefyd yn ddiarebol am ei gyssondeb gyda phob peth,ac yn enwog am ei brydlondeb yn ei holl gyflawniadau.Mewn cyfarfodydd mawrion, cyrddau misol, neu bwyllgoraunid oedd byth eisieu aros i'r Dr. Byddai efe yn ei leyn brydlon, ac yn barod i waith. Rhoddai ei bresenoldebyn mhob man foddlonrwydd cyffredinol i bawb a'i hadwaenent.

Cydlafuriodd y Dr. yn llwyddiannus â'i frodyr yn yweinidogaeth drwy y dyffryn. Bu efe fel tad tyner i'rgweinidogion ieuainc, ac yn gyfaill a brawd caredig acanwyl i'r rhai hynaf. Cydweithiodd yn dda â'r diweddaranwyl frawd, yr Hybarch Ddoctor B. Evans, Castellnedd,pan oedd efe yn gweinidogaethu yn Hirwaen ac Heolyfelin. Buont mewn llawer brwydr galed gyda'u gilydddros yr achos goreu, a dalient ati fel y dur hyd fuddugoliaeth bob tro. Ffynodd a pharhaodd y teimladau goreurhyngddo ef a'r awenydd athrylithgar, ´y Parch. W. Williams (Gwrhir), Mountain Ash, ac er fod Mr. Williams ynhynach nâ'r Dr., etto talai warogaeth bob amser iddo, ynherwydd ei allu dihafal a'i ddefnyddioldeb cyffredinol.Cafodd y galluog gerddor a'r doniol bregethwr, y Parch. W.Harris, Heolyfelin, ef yn gyfaill cywir a charedig, a chydweithient bob amser yn hwylus gyda phob mudiad o bwysyn y dref a'r gymmydogaeth. Teimlai ddyddordeb neillduol yn ngweinidogion yr holl eglwysi, a chymmerai hwyyn anwyl i'w fynwes. Galwai yn achlysurol i'w gweled ergwybod eu helynt ac ansawdd yr eglwysi dan eu gofal.Derbyniai y brodyr yn siriol a charedig pan alwent i'wweled yn ei gartref ei hun yn Rose Cottage. Dyfyraihwynt â'i chwedleuon doniol, a chyfnerthai hwynt â'igynghorion dwys ac a'i gyfarwyddiadau buddiol. Yr oeddyn rhy fawr ac uchel i neb deimlo yn eiddigeddus wrtho;ac yr oedd wedi ennill y fath safleoedd a dylanwad ynmhob cylch braidd fel nad oedd neb a ewyllysiai ymgystadlu ag ef. Felly bu fyw hyd ei fedd yn heddychol â'ifrodyr, a theimlent yn ddieithriad y parch dyfnaf ato. Buei syrthiad yn angeu yn golled gyffredinol i achos y Bedyddwyr yn nyffryn poblog Aberdar, ac yn achos o alarmawr i'w frodyr yn y weinidogaeth.

PENNOD XII.

PRICE YN EI BERTHYNAS A'R BEDYDDWYR YN Y SIR AC YNGYFFREDINOL.

Cylchoedd bychain—Dynion yn ymfoddloni ynddynt—Price yn llanw cylchoedd eang—Bedyddwyr y sir yn lluosogi—Cewri y rhengau blaenaf—Price yn un—Man of business—Elfenau ei lwyddiant—Ei sefyllfa fydol—Ei wybodaeth gyfreithiol—Yn awdurdod ar ddysgyblaeth eglwysig—cyflymdra ei feddwl—Ei yspryd anturiaethus—Deall o barthed "gweithredoedd capeli yn dda—Arwain mewn achosion pwysig—Achos gwael—Cynnadleddwr enwog—Gwleidiadaeth yr enwad—Dawn cymmodi pleidiau—Pregethu yn aml—Price yn fawr yn y gymmanfa—Undeb Bedyddwyr Cymru—Undeb Prydain Fawr a'r Iwerddon—Yn y pwyllgorau—Ar lwyfanau prif drefi Lloegr—Yn Exeter Hall—Gohebydd Llundain—Barn y "Christian World" amdano.

SYRTHIA rhai dynion i gylchoedd cymharol fychain a dibwys, ac arosant ynddynt drwy oes hirfaith, heb deimlo dim anesmwythder na gwasgfa. Erys y lleoedd yn agos yr un fath mewn ffurf a maintioli, ac arosant hwythau yn agos yr un modd: nid oes tyfiant ac ymeangiad yn eu hanes. Nid un felly oedd Price, fel yr awgrymasom yn flaenorol,—aeth Aberhonddu yn rhy fechan i'r llanc ieuanc o blwyf Llanamlwch, ac ni wnelai ei dro lai nâ myned i'r Brif Ddinas. Ymsefydlodd yn ddyn ieuanc yn nyffryn prydferth Aberdar, yr hwn a gynnyddai, fel y nodasom, gyda'r cyflymdra mwyaf: ond yr oedd elfenau tyfiant a blaenfynediant yn gryfion yn Price hefyd. Tyfai Aberdar yn gyflym, ond Price yn gyflymach: cynnyddodd Aberdar yn fawr, ond aeth Thomas Price yn fwy. Yr oedd efe fel y bachgenyn gwledig iach, yn tyfu allan yn fuan o'i ddillad, ac felly, yn galw am wisg arall eangach. Felly Price, tyfai allan dros gyffiniau lleol Aberdar, yn gymdeithasol, gwleidyddol, a chrefyddol.

Yr oedd Sir Forganwg yn ymagor, ac yn cyflym gynnyddu bron yn y cyfnod y daeth y Dr. i Aberdar; felly, yr oedd yr enwad Bedyddiedig yn naturiol yn cynnyddu, ac yn fuan iawn, daeth y Gymmanfa yn y Sir, a'r cyfundeb yn y Dywysogaeth yn fawr a phwysig. Er fod bechgyn cryfion yn weinidogion a lleygwyr ar y maes gan yrenwad yr adeg hono, ac am yspaid maith ei fywyd, megysy Parch. Thomas Davies, Merthyr (yn awr Dr. Davies,Llywydd parchus Coleg Hwlffordd); Dr. J. Emlyn Jones;Dr. B. Evans, Castellnedd; y Parch. N. Thomas, Caerdydd; Lleurwg, E. Evans, Caersalem, Dowlais; CorneliusGriffiths, Seion, Merthyr, gynt, Bryste yn bresenol; Mathetes, Rufus Williams, Ystrad; Rowlands, Cwmafon, ynawr Dr. Rowlands, Llanelli; Dr. Roberts, Pontypridd;Harris, Heolyfelin; R. H. Jones, Abertawe; ThomasJoseph, Ysw., Blaenycwm; Mri. Phillip John, Aberdar;Thomas Edwards, Mountain Ash; Thomas Richards(Gwyno), Mountain Ash; David Davies, Merthyr, a lluereill ellid nodi; etto, nid hir y bu Price cyn tynu sylw acymweithio i'r rhengau blaenaf mewn gallu a defnyddioldebymarferol a chyffredinol, a chadwodd ei boblogrwydd ynlew hyd y diwedd. Yr oedd ei wybodaeth eang a chyffredinol yn ei gymmeradwyo i sylw fel un cyfaddas i wneydgwaith yn yr enwad a thros yr achos. Yr oedd ei fywiogrwydd, ei yni, a'i benderfynolrwydd yn elfenau a edmygidyn fawr, ac o'u herwydd cai ffafr yn ngolwg dyniongoreu a blaenaf yr enwad yn Nghymru. Etholid ef bobamser ar bwyllgorau pwysig, a rhoddid iddo yn gyffredindrymwaith i'w wneyd, a cheid ef bob amser yn ewyllysgar a pharod i'w roesawu a'i gyflawnu. Yr oedd efe ynngwir ystyr y gair yn un o'r business men goreu feddai yrenwad. Dywedai Thos. Joseph, Ysw., Gwydr Gardens,Abertawe, wrthym un tro am dano fel hyn:—"Yr oeddDr. Price yn naturiol yn business man rhagorol. Gwelai agwnelai beth cyhyd ag y byddai ereill yn meddwl am dano."Yr oedd hyny, yn nghyd â phethau ereill, yn rhoddi iddoflaenoriaeth ar lawer o frodyr da a gwir deilwng. Gallwnnodi yn fyr rai pethau, ni a gredwn, a brofasant yn dramanteisiol iddo yn ei berthynas â'r enwad yn y sir, ac yngyffredinol drwy y Dywysogaeth, Yn—

1. Ei sefyllfa fydol.—Y mae hyn, fel y nodasom o'r blaen,wedi bod yn fanteisiol iawn i lawer o frodyr, ac ni fu eigyfoeth yn anfanteisiol i Price: eithr i'r gwrthwyneb.Ennillai lawer am ei wasanaeth amryfal, ac yr oedd ynderbyn royalty blynyddol am dir oedd wedi ei gael gan eianwyl briod. Dywedir iddo fod unwaith yn werth o'r pedair i'r pum mil o bunnau, ac yr oedd hyn yn gynnorthwyol iddo ennill safle yn yr enwad.

2. Yr oedd ei wybodaeth gyfreithiol eang, hefyd, yn ei gyfaddasu yn fawr i lanw cylchoedd pwysig yn yr enwad, aci wneyd gwaith mawr drosto. Nid oedd o fewn cylch Cymmanfa y Bedyddwyr yn Morganwg, ac eithrio cyfreithwyrproffesedig, well cyfreithiwr nâ'r Dr., fel y cawn o bossiblfantais i ddangos etto yn nes yn mlaen.

3. Yr oedd yn awdurdod ar drefnusrwydd a dysgyblaeth eglwysig.— Rhoddodd brofion digonol o hyn yn ei swydd felgolygydd. Cyfeirid ato ofyniadau parhaus ar faterioneglwysig pwysig, y rhai a atebid ganddo yn gysson yn eifwrdd golygyddol. Heblaw y rhai hyny a gyfeirid ato i'rnewddiaduron, derbyniai gannoedd o lythyrau cyfrinacholbob blwyddyn ar faterion o'r un natur, y rhai a gaent eisylw manylaf. Hefyd, y mae o fewn cylch ein gwybodaethbersonol ni fod ugeiniau o ddiaconiaid ac aelodau cyfrifolmewn eglwysi, ac yn wir lawer iawn o weinidogion perthynol i'r gwahanol enwadau, yn galw gydag ef yn aml i ymgynghori ag ef ar wahanol faterion pwysig perthynol i'wheglwysi; ac yn gyffredin caent ei gyfarwyddiadau oll yngywir ac yn profi yn effeithiol.

4. Ei gyflymdra i weled ffyrdd boddhaol i symmud rhwystrau, ac i gymmodi pleidiau gwrthwynebol a'u gilydd.—Yn aml iawn,mewn pwyllgorau a chynnadleddau, codai i fyny bwyntiauanhawdd i'w penderfynu; ond yn fynych yn nghanol ycaddug tywyll, a'r brwd—ddadleu, nes braidd y byddai pawbwedi myned yn ben—ben, gwelid Price yn codi ar ei draed,gyda'r bywiogrwydd a'r awdurdod mwyaf, a byddai pawbbraidd yn glust a llygad i gyd yn dal ar ei eiriau. Gwelaiy ffordd yn glir o'r dyryswch, ac arweiniai ar hyd llwybrdyogel ac esmwyth gyda'r rhwyddineb mwyaf. Yr oeddyn conference man heb ei ail. Arferai yn awr ac eilwaitheiriau doniol, weithiau yn ffinio ar y cwrs, etto bob amseryn effeithiol i ddatgan ei feddwl ac i egluro ei bwyntiau;ac os byddai achosion yn dwyn perthynas â chyfraith, yngyffredin adroddai adranau y gyfraith yn gyssylltiedig âhwynt, a rhoddai y chapter and verse am danynt.

5. Ei yspryd anturiaethus.—Yr oedd yn hynod am hyn.Yn mlaen yr elai er pob perygl, ac yn fynych troai trwyei wroldeb a'i yspryd penderfynol lawer o feini trymionoddiar ffordd cerbyd yr achos, a llawenychid yn gyffredinolyn ei lwyddiant. Pennodid ef braidd yn ddieithriad ar bwyllgorau adeiladu ysgoldai a chapeli; oblegyd yr oeddyn nodedig am ei wybodaeth o barthed i ddalysgrifau(leases), gweithredoedd capelau, yn nghyd ag ammodrwymau (contracts), ac mewn achosion o'r natur hyn yroedd yn hynod ymarferol. Nid yn hawdd yr elid heibioiddo. Hefyd, arweiniai mewn achosion cyfreithiol panfuasai rhai o'r fath yn codi. Yr oedd ei gynghor bob amseryn ddoeth a phwrpasol, a gellid gweithredu yn ddyogel ynol ei gyfarwyddiadau. Cafwyd prawfion pur eglur o hynyn erlyniad Gravel gynt a Chymmanfa Morganwg. Yprif symmudydd yn yr achos amddiffynol oedd Price, a buo gynnorthwy mawr i bwyllgor y Gymmanfa yn yr achospoenus hwnw. Costiodd y gyfraith hono lawer o arian i'rGymmanfa, a phoen a blinder mawr i Price, a'r brodyranwyl ereill oeddynt wedi eu dewis yn bwyllgor dros yGynımanfa yn yr helynt. Wrth fyned i bwyllgor yn nglynâ'r achos hwn un tro, cwrddodd Mr. Price â hen frawd aadwaenai yn dda (Mr. Morgans, Ystradfawr) mewn gorsafreilffordd, yn ymddangos ychydig yn ofidus. GofynoddPrice iddo, fel hen gyfaill, yn siriol, fel yr arferai, "Wel, ———,sut yr ydych chwi yn teimlo heddyw?" "Yn wir,Mr. Price," oedd yr ateb, "eithaf tlawd, Syr; yr wyf yndyoddef ac yn cael fy mlino yn ddrwg iawn gan y gravel.""Wel, Duw a'n helpio ni, frawd bach, meddai Price,"dyna sydd yn fy mlino inau er's llawer dydd." Ond nidoedd y ddau gravel o'r un natur, er eu bod yn ddau eithafpoenus. Bu y Dr. fel cynnadleddwr yn ei holl berthynas â'renwad yn y sir, yn dra gwasanaethgar mewn ystyr gwleidyddol. Yr oedd yn wleidyddwr goleuedig a blaenllaw, fel ycawn fantais i ddangos etto yn helaethach. Yr oedd ei gyssylltiad â'r wasg am gynnifer o flynyddau fel golygydd, ynei gyfaddasu i hyn, ac yn ei wneyd yn neillduol o ryddfrydig ei yspryd a'i deimlad. Yr oedd gwleidyddiaeth yrenwad yn y cynnadleddau yn ddieithriad braidd yn codi ogyfeiriad Dr. Price, ac yn gyffredin efe fuasai yn ysgrifenuy penderfyniadau ddalient gyssylltiad â phrif bynciau ydydd. Wrth eu cynnyg siaradai yn eglur, hyawdl, aphwrpasol. Ymferwai ei yspryd brwdfrydig ynddynt, acnid yn aml y gwrthwynebid ei bwyntiau yn nglyn âphynciau llosgedig y dydd. Codai cewri i'w attegu. Ceidyr enwog Ddr. Roberts, Pontypridd; y Parch. NathanielThomas, Caerdydd, Ysgrifenydd manwl y Gymmanfa, yParch. Ddr. B. Evans, Castellnedd, a brodyr da ereill, yn weinidogion a lleygwyr, yn barod i gynnorthwyo gyda ygwaith. Arferid ystyried Cymmanfa Bedyddwyr Morganwg yn un o'r rhai mwyaf Radicalaidd yn y Dywysogaeth.Yr oedd dawn neillduol gan Price i ddwyn pleidiaumewn eglwysi yn nghyd, ac i ymgymmodi. Nid yn fynychy methai efe gael ffordd arnynt. Byddai ei bresenoldebyn fynych yn myned yn mhell i symmud y drwg. Yr oeddmor gwrs weithiau fel yr ofnai y rhai llwfr ef. Bryd arallennillai yn hawdd y pleidiau yn nghyd. Ond pan fethaia chael trefn wedi ceisio trwy bob moddion teg a rhesymol,tebyg y torai y llechau ac y melldithiai y lle cyn ymadael.Gallai efe wneyd hyn heb gael ei alw i gyfrif, ac heb fodnemawr neb yn rhyfeddu at hyny. Price, Aberdar! Gallaiefe un adeg wneyd braidd beth a fynai a dweyd yr hyn aewyllysiai. Yr oedd un amser yn hanes ei fywyd wedicodi uwchlaw cael ei feirniadu.

Yr oedd un tro wedi cael ei bennodi yn un i edrych ifewn i annghydfod oedd wedi cymmeryd lle tuag ardalMaesteg. Yr oedd split wedi dygwydd yno. Weditreulio y rhan oraf o'r dydd gyda'r helynt, methwyd a'ucael at eu gilydd er pob ymgais o eiddo Price a'r brodyrereill. O'r diwedd dywedodd y Dr., "Wn I yn y bydmawr beth i wneyd o honoch bellach, os na osoda'I gasgeno bylor danoch, a'ch chwythu i Gwmogwy, i dd——l."Yr oedd Cwmogwy yr adeg hono yn newydd, a llaweriawn o aflerwder yno. Yr oedd hyn yn ymddygiad cwrsiawn, ni a gyfaddefwn, yn y Dr.; etto, y mae yn angenrheidiol cael weithiau yr elfen hon mewn achosion o'r fath.Gallai Price fod yn dyner, caredig, ac yn llawn o gydymdeimlad, ac yn wir nid oedd neb gwell i'w gael o fewncylch y Gymmanfa yn yr ystyr hwnw; etto, gallai fyned i'reithafion o'r tu arall.

Yr oedd Price, hefyd, er ei holl alwadau gyda goruchwylion a dyledswyddau pwysig ereill yn pregethu yn amlyn mhrif gyfarfodydd y Gymmanfa a'r enwad yn y sir.Wrth edrych dros hen gyfnodolion yr enwad, yn gystal aphapyrau ereill, rhai o'r cyfryw a enwasom yn barod, cawnfod Price yn dra phoblogaidd, ac yn sefyll yn uchel felpregethwr yn ei enwad. Dechreuodd ei boblogrwydd ynforeu, a pharhaodd hyd derfyn dydd ei fywyd heb gwmmwlarno, amgen methiant gan wendid a henaint y ddwy flynedd olaf o'i oes lafurfawr. Yr hyn oedd Price yn ei gartreffyddai yn nghylch ei Gymmanfa, a'r hyn fyddai yn nghylch pwysig Cymmanfa fawr y Bedyddwyr yn Morganwg, yr hon cyn ei rhanu oedd y fwyaf a'r bwysicaf yn y Dywysogaeth, dyna oedd ef mewn cylchoedd eangach a phwysicach. Yr oedd Price yn fawr yn Undeb Bedyddwyr Cymru, ac yn fawr hefyd hyd y nod yn Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr a'r Iwerddon. Yn y flwyddyn 1863 llanwodd yn anrhydeddus gadair Cymmanfa Bedyddwyr Morganwg, yr hon a gynnaliwyd yn Seion, Merthyr, pan y traddododd un o'r areithiau mwyaf ymarferol a phwysig, yr hon a gyhoeddwyd yn Seren Cymru am Mehefin 26, 1863.[9] Ac yn y flwyddyn 1865, yr oedd yn Llywydd Undeb Bedyddwyr Cymru. Bu am flynyddau yn aelod ar Bwyllgor Undeb Prydain Fawr a'r Iwerddon, y Gymdeithas Genadol Dramor, y Gymdeithas Genadol Gartrefol, y Gymdeithas Genadol Wyddelig, Bwrdd Addysg y Bedyddwyr, y Gymdeithas Gyfieithadol, Colegau Pontypwl, Hwlffordd, a Llangollen, ac ysgrifena y Parch. B. Thomas (Myfyr Emlyn), yn ei erthygl ragorol yn y Geninen am Gorphenaf, 1888:—

"Ac yr oedd yn aelod braidd o holl bwyllgorau yr enwad; ac nid aelod cysglyd ydoedd, ond y mwyaf blaenllaw ac effro; ac yr oedd Cymru yn rhy fach iddo * * * Yr oedd ei allu, ei ffyddlondeb, a'i wasanaeth pwyllgorawl, yn gyfryw fel nas gellid yn unrhyw fodd fod hebddo. Gwnai ei hun yn angenrheidrwydd, ac ni phasiai braidd gyfarfod Gwanwynol o'r Undeb yn y Brifddinas na chyfarfod Hydrefol mewn manau ereill, na fyddai efe yn cymmeryd rhan gyhoeddus, gan swyno, difyru, ac adeiladu y torfeydd yn ei ffordd wreiddiol a Chymroaidd ei hun." Gwnaeth ei ymddangosiad ar lwyfan Exeter Hall, Llundain, a phrif esgynloriau trefydd mawrion Lloegr, megysL'erpwl, Plymouth, Manchester, a Birmingham, yn gyssylltiedig â'r cyfarfodydd hyn. Ac mewn trefn i ddangossyniadau uchel y Saeson am dano, nodwn y ffaith iddo,ychydig ddiwrnodau cyn cyfarfod mawr Cambridge, dderbyn telegram yn ei hyspysu fod Mr. Birrell, L'erpwl, ynmethu dyfod i'r cyfarfod, ac yn taer erfyn arno i gymmeryd ei le ef yn y cyfarfod mawr cenadol. Felly y bu.Traddododd araeth ardderchog ar y Genadaeth Dramor.Cyhoeddwyd ei anerchiad yn y Cambridge Independent Press,yn llawn, yn rhifyn Sadwrn, Medi 24ain, 1870, ac ymddangosodd cyfieithad o honi yn Seren Cymru am Hydref y 7fed, 1870.

Yn Seren Cymru am Mai 22, 1868, cawn fynegiad mewnLlythyr o Lundain," gan yr anwyl ymadawedig Myrddinfab, hen ohebydd parchus Llundain i'r Seren, am y Dr.dro arall yn Exeter Hall, fel y canlyn:—

DR. PRICE YN EXETER HALL.

"Nos Iau, Ebrill 30ain, set cyfarfod marw cyhoeddus y gymdeithas―y prif gyfarfod, ac i'r hwn y cyrcha pawb braidd a deimla ddyddordeb yn y genadaeth. Yma ymdrechir fynychaf i gael prif siaradwyryr enwad i lefaru ynddo, ac y mae yn rhaid eu cael yn y fath le a hwn.Mae y neuadd mor fawr fel na fuasai ond ffolineb perffaith i osod nebi anerch y gynnulleidfa aruthrol ond y great guns; ac nid ydym yncredu ein bod yn cyfeiliorni wrth ddywedyd mai y greatest of the greateleni oedd Golygydd Seren Cymru. Os buom erioed yn falch maiCymro oeddem, y noson fythgofiadwy hono ydoedd, wrth wrandaw agweled Cymro gwladgarol yn myned drwy ei waith mor greditable arblatform y neuadd fwyaf enwog, mewn ystyr grefyddol, yn y byd. Yroedd tri wedi siarad o'i flaen, Kerry, y cenadwr; Clark, Broadmead,Caerodor, yn hyawdi iawn; a D. Wassal, Bath. Pan oedd y diweddafyn siarad yr oedd y gynnulleidfa yn teimlo yn lled anesmwyth, ac ynmyned allan yn gyflym; ond dyna ef yn terfynu, a Dr. Price, Aberdar, yn cael ei alw yn nesaf. Mae yn naw o'r gloch, ond dacw ef ynymsaethu i'r fron drwy wmbredd o ddynion blaenaf yr enwad, ynweinidogion a lleygwyr—y Barnwr Lush yn unionsyth tu cefn iddo, aoyn cael derbyniad gwresog gan y dorf. Nid cynt yr agorodd eienau nag y gwelid pob un yn eistedd yn ei le, yn llygadrythu ac yngwrando fel pe am fywyd. Yr oedd y dylanwad megys yn wefreiddiol, a'r mynych gymmeradwyaethau brwdfrydig oedd yn gael yn gwirdeilyngu hyny: Gan y bydd ei araeth yn ymddangos yn y Seren, niwnawn ond sylwi i'r dyfyniad Cymreig o Dewi Wyn greu bywydrhyfedd drwy y lle, ac nid ychydig o ddifyrwch, yn enwedig pan ddymunodd y Dr. am i'r gynnulleidfa oll gael ei bedyddio ag yspryd ybardd hwnw, gan nad oedd gan y mwyafrif un dychymyg pa ysprydoedd yn y geiriau. Pan derfynodd, yr oedd y curo yn anferthol a diderfyn, y cyfryw nas gwelwn yn fynych ei gyffelyb; ac ni thewid hydoni ddaeth y Dr. yn mlaen eilwaith i ddweyd y byddai iddo ddyfodyno y flwyddyn nesaf etto, os caniataai Duw. Ar ei ol siaradoddCharles Reed, Ysw., Cadeirydd Cymdeithas Genadol Llundain, atherfynwyd y cyfarfod trwy weddi. Wrth daflu cipolwg dros y cyfarfodydd, y mae y Christian World yn gwneyd y nodiad canlynol am yDr. Wedi sylwi yn gymmeradwyol am araeth a dull y Parch. C.Clark, Caerodor, dywed: The other speech of the evening was thatof the fervid and famous Welsh orator, Dr. Price, of Aberdare, who, ina series of rapid and vivid sketches, recalled, for the benefit of theyoung among his hearers, the remarkable history of the Baptist Missionary Society. It was far from easy to keep up the excitementproduced by Dr. Price's glowing pictures; but Mr. Charles Reed, representing the London Missionary Society, gained the ear of themeeting, and rendered good services to the mission cause.'"

Pregethodd y Dr. hefyd lawer yn rhai o bwlpudau Lloegr,Ysgotland, a'r Iwerddon, ac yr oedd yn ddieithriad yngwneyd argraffiadau dwfn a daionus ar feddyliau ei wrandawyr, ac edrychid i fyny ato fel un o gewri y pwlpudCymreig. Dywedai Myfyr Emlyn yn Y Geninen, "Ac yroedd Cymru yn rhy fach iddo." Braidd na ddywedwn,Felly hefyd Lloegr," oblegyd yr oedd "Dr. Price Aberdare" wedi dyfod yn eiriau teuluaidd yno, yn neillduol yny cyfenwad Bedyddiedig. Hefyd, daeth ei enw yn adnabyddus a pheraroglus yn yr Iwerddon a'r America. Toroddei lafuriadau a'i ddylanwad dros ben terfynau Cymru, eiwlad, a'i gydgenedl hawddgarol. Talodd ymweliad â'rIwerddon, ac wedi hyny a'r America, yn nglyn ag hyrwyddiant achos y Gwaredwr Mawr, yr hwn oedd mor agos at eigalon ac mor anwyl gan ei enaid. Felly, caiff y teithiauhyn ein sylw yn nesaf, gan eu bod yn barhad mewn ystyro'i gyssylltiad â'r enwad parchus y cafodd yr anrhydedd ofod yn aelod o hono a gwneyd cymmaint o waith sylweddola gwir werthfawr drosto.

PENNOD XIII.

EI YMWELIAD A'R IWERDDON AC AMERICA.

Ei ragfwriad i fyned—Gwahoddiadau taerion—Gwahoddiad Golygydd "Y Seren Orllewinol"— Atebiad y Dr.—Ei olygiad am y Rhyfel—Ei ymweliad a'r America—Ei ragbarotoadau ar gyfer y daith—Ei ymweliad â'r Iwerddon—Ei daith yno a'r gwaith a gyflawnodd—Dychwelyd adref—Cyfarfod ymadawol yn Nghalfaria—Cychwyn—Cwrdd Lerpwl—Ar fwrdd y llong—Enghraifft o'i ddyddlyfr—Ei diriad a'i roesawiad— Cwrdd Hyde Park—Hanes y daith gan y Parch. Ddr. Fred Evans—Etto, Lewisburgh, gan L. M. Roberts, M.A., Glyn Ebbwy—Ei nodion gwasgaredig—Anerchiad croesawus Bedyddwyr Cymreig America—Dychwelyd adref—Welcome Home Aberdar—Anerchiad croesawus gan fasnachwyr y dref—Eglwys Calfaria—Y gweinidogion—Y côr canu—Ciniaw gyhoeeddus i'w anrhydeddu—Parch yn ddyledus iddo.

YR oedd y Dr. wedi hen arfaethu ymweled â gwladYR eang a chyfoethog y Gorllewin, ac wedi cael gwahoddiadau mynych a thaerion oddiwrth Gymry America,yn ogystal ag oddiwrth gyfeillion personol o nod a bri;ond bu am hir amser yn methu cael ei ffordd yn glir ihyny. Gwnaethai addewidion sicr, ac edrychai yn mlaenam gyfnod ffafriol i'w gyflawnu. Yn y Seren Orllewinol amMedi, 1864, ysgrifena y golygydd, y Parch. RichardEdwards, Pottsville, America, fel hyn:—

"Yn ddiweddar, ysgrifenasom lythyr personol at y gweinidog enwog.llafurus, a pharchus, T. Price, M.A., Ph.D., Aberdar. Y dyben penafoedd dymuno arno, dros luoedd o'i gyfeillion y tu yma i'r Werydd,ymweled â'r wlad hon; ac hefyd, cyflwyno iddo Mr. Harry H. Davies,yr hwn a aethai drosodd yno er arddangos ei arluniau, panorama o'rrhyfel, &c. Y mae y Dr. yn cydnabod derbyniad ein llythyr, y darluniau, a'r llyfrau yn garedig a diolchgar drosto ei hun a'r lleill o'rteulu, sef ei fab dysgedig. Edward Gilbert Price, yr anwyl Emily, aSarah siriol (ei chwaer), y rhai, fel y clywsom, ydynt yn fwy na dimarall yn swyno y Rose Cottage, gan wneyd pawb fyddo yn agos iddyntyn gysurus."

Yn Seren Cymru am Orphenaf 24, 1864, cawn atebiad yDr. i'r llythyr crybwylledig, a chan ei fod yn dal perthynasagos â'r mater dan sylw, ac yn nodweddiadol iawn o'r Dr.,dyfynwn ranau o hono yma. Ysgrifena:—

ANWYL FRAWD EDWARDS,

"Yr hwn, er nas gwelais, a garaf gyda chalon gywir a dirodres—maeeich bywyd dichlynaidd, eich gweithgarwch parhaus gyda y Wasg a'rpwlpud, a'ch ymlyniad diysgog gyda phob peth Cymreig, yn adnabyddusi mi er ys blynyddau; ac er fod Môr y Werydd rhyngom, gallaf eichcofleidio mewn serch Cristionogol, er mwyn eich llafur cariad, er gogoniant y Duw Mawr sydd uwchlaw pawb oll yn fendigedig yn oes oesoedd, lles eich cyd—ddynion yn gyffredin, a lles neillduol eich cydwlad. wyr mewn gwlad bell." * * *

Eich llythyr caredig.—Diolch am hwn. Mae ei gynnwysiad wedirhoddi llawer o gysur i mi, a charwn fanylu arno oni bai ei fod yn rhybersonol, ac mor barchus i mi fy hun. Er hyny, nodaf bedwar pethsydd ynddo:—Ymweliad Mr. H. H. Davis.—Fod eich gair chwi, a'rcymmeriad uchel a roddwch iddo, yn ddigon er iddo gael derbyniadcalonog yn Nghymru; ac hyderaf y ca dderbyniad croesawgar ynLloegr a pharthau ereill o Ewrop. Credwyf y gall ei ymweliad fod ofawr les. Mae yn Lloegr, yn mhlith llongwyr a dosparth o'r marsiand.wyr deimlad dros y Dehau, meddant hwy; ond nid gwir hyn. Nid oesdim gwir deimlad dros y Dehau, hyd y nod yn mhlith y fath ddynionag adeiladwyr yr Alabama, perchenogion y llongau sydd yn rhedeg yblockade, a gwerthwyr arfau rhyfel a phylor, cig moch a saltpetre, aphethau ereill o'r natur yna; na, y ‘teimlad ' sydd am yr aur a'r arian,a'r elw dychrynllyd sydd ar y nwyddau hyn. Aur ac arian, elw achyfoeth, yw duwiau y dynion hyn: dyma y delwau o flaen y rhai yplygant, gan nad b'le y ceir y pethau hyn, pa un ai yn y Dehau ai yn yGogledd maent yn foddlon i beryglu pob peth er cael gafael arnynt.Mae y dynion hyn yr un mor barod i werthu arfau tân a phylor i'rCaffrariaid ac anwariaid Zealand Newydd, i ymladd yn erbyn coronPrydain. Yn wir, y maent wedi gwneyd hyn yn barod; a byddent yrun mor ewyllysgar i werthu y nwyddau hyn i'r cythraul, dim ond iddoagor marchnad ar gyffiniau Gehena. Dyma wraidd y ffug—deimlad syddyma dros y Dehau. O'r tu arall, gallaf eich sicrhau fod gwir deimladgorcuon y wlad, o Victoria ar ei gorsedd hyd modryb Magws yn Elusendy Aberdar, dros y Gogledd a rhyddid, o blaid Duw a Lincoln, ac oblaid Undeb Americanaidd heb gaeth was o'i fewn. Dyma ein teimlada dyma ein gweddi. Mae ein teimlad ni fel gweinidogion ac eglwysiyn ddwys drosoch yn eich dydd hwn o drallod a gofid. Cymmerwch galon, mae dydliau gwell yn eich aros. Mae y cyfnewidiad tramorwedi myned yn ddychrynllyd o uchel—dros gant per cent—yn awr.Mae hyn o gwrs yn anfanteisiol iawn i chwi ar hyn o bryd; ond nisgall bara yn hir. Yr wyf fi yn gobeithio y bydd i chwi ail ethol Mr.Lincoln i'r gadair lywyddol. Os gwnewch felly, yr wyf yn credu y dawy rhyfel i derfynia buan. Dyna fy nghred I, o leiaf. Bydd i'r rhyfelgael ei chadw yn mlaen hyd nes byddo yr etholiadau drosodd, ond wedihyny mae yn debyg i mi y daw y pleidiau i ryw ddealldwriaeth amheddwch

"Mae yn dda genyf glywed am farn y Cymry yn America am danaf.Diolch yn fawr iddynt am eu teimladau da, a diolch yn fawr i chwithauam gyfleu syniadau caredig y Cymry i mi. Dyma ddigon ar hyn, neuaiff yr hen ddyn yn rhy falch: mae yn rhaid ei gadw i lawr.

"Ymweliad ag America.—Derbyniwch chwi, a derbynied y lluoeddCymry sydd drwyddoch chwi yn rhoddi i mi wahoddiad mor galonogi ymweled ag America, fy niolchgarwch gwresocaf. Os byw ac iach,yr wyf yn gobeithio cael derbyn y gwahoddiad calonog a charedig hwn.Yn mhen llai nâ dwy flynedd etto byddaf wedi treulio ugain mlynedd ynweinidog yn Aberdar, ac am y tymhor hwnw wedi bod yn lled gysson adifwlch yn y tresi. Erbyn hyny hefyd bydd Eglwys y Gadlys—yr olafo ferched Calfaria—wedi ei chorffoli, ac o dan ofal ei gweinidog ei hun,a minau a dim ond Calfaria i ofalu am dani; ac erbyn tair blynedd iyn awr, byddaf wedi cyflawnu fy addewid i'r Cyfundeb Odyddol, trwybasio trwy y cadeiriau llywyddol, ac y mae yn fy mryd i ofyn amhamdden i ddyfod drosodd i'ch gweled. os yr Arglwydd a i myn. Maeeich cynnyg chwi. mewn ystyr arianol. yn bob peth a ddymunwyf; a'mgweddi yw, am ichwi a minau gael ein harbed i mi ei dderbyn yngalonog.

"Eich sefyllfa grefyddol. Nid wyf yn synu dim am y marweidd—draysprydol a deimlwch yn y tymhor cynhyrfus presenol. Yn wir, maerhyfel America yn effeithio ar grefydd yn y wlad hon i lawer mwy oraddau nag y mae llawer yn feddwl. O! am weled yr adeg pan ybyddo trais a gormes wedi gadael y tir, heddwch a thangnefedd ynteyrnasu, cariad yn rhwymo holl deulu dyn yn un frawdoliaeth, a SeionDuw yn mwynhau heddwch fel yr afon, a chyfiawnder fel tonau y môr.

"Can' diolch i chwi, ac i Gymry America, am eich teimlad caruaddtuag ataf.

"Mae Edward, Emily, a Sarah yn uno â mi mewn serch a chariadCristionogol atoch chwi, at Mrs. Edwards, ac at y plant oll.

Duw, ein Tad ni oll, a'ch arweinio i bob daioni yn y byd sydd yrawr hon, ac a'ch derbynio i'r trigfanau dedwydd yn y byd sydd etto ynol.

THOMAS PRICE

Aberdar, Gorph 15, 1864.

Yr oedd cyssylltiadau ac ymrwymiadau lluosog ac amrywiol Price yn ei gwneyd yn anhawdd iddo ymryddhau,a chael amser i fyned am daith mor bell. Yr oedd eigyssylltiadau â chynnifer o gymdeithasau cyfeillgar ac yswiriol fel trysorydd, ymddiriedolwr, a swyddi pwysig ereill—ei gyssylltiadau a'r Wasg Gymreig, yn neillduol felgolygydd Seren Cymru, yn nghyd a'i ofal gweinidogaetholam ei eglwys luosog yn Nghalfaria, fel y noda, ynrhwystrau mawrion ar y ffordd; ond trwy lawer o ragddarparu a threfnu, daeth yn alluog i fyned. Pennodwydi ofalu am olygiaeth Seren Cymru, yn ei absenoldeb, y Parch.B. John (Periander). Neillduwyd ei fab, Mr. E. G. Price,i gyflawn waith y weinidogaeth, ac i ofalu am Galfaria yny cyfamser, ac urddwyd ef gan ei dad trwy weddi ac arddodiad dwylaw, nos Fawrth, Chwefror 16eg, 1869, yrhwn hefyd a bennodwyd i gario yn mlaen lawer o'i orchwylion, a bod yn gyfrifol am ei holl drafodaethau arianoli'r gwahanol gymdeithasau, oblegyd yr oedd Price yn fanwla gofalus iawn mewn materion o'r fath, fel y gwelir oddiwrth ei ol-nodiad i'w ysgrif yn Seren Cymru, Ebrill 9, 1869:

"D.S—Fel yr awgrymais o'r blaen, dymunaf etto ar i'r cyfeillionddanfon pob arian, yn y drefn arferol, ddichon ddyfod i mi at EdwardGilbert Price Yr wyf wedi llawnodi gweithred reolaidd, yn rhoddiiddo bob gallu ac awdurdod i weithredu droswyf, ac yn ymrwymohefyd i fod yn gyfrifol am yr oll a fydd iddo ef wneyd yn fy enw ynystod fy absenoldeb. Y mae achosion y cymdeithasau oll yn eglur arhwydd, fel na fydd i neb gael trafferth trwy fy absenoldeb.

"T.P."

Nid myned i'r America, fel llawer yn y blynyddau hyn,i weled a mwynhau ei hun yr oedd y Dr. Bu y daith ynbleserus iddo, ac ennillodd lawer o wybodaeth a phrofiaddrwyddi; ond ei brif neges oedd myned ar gais taer adifrifol Pwyllgor y Gymdeithas Genadol yn Llundain drosGymdeithas Genadol Wyddelig y Bedyddwyr, er ceisioychwanegu at ei thrysorfa, yn ngwyneb y cyfnewidiadaupwysig oeddynt yn debyg o gymmeryd lle yn yr Iwerddon yn y ddwy flynedd ddylynol. Ond er mai hyna oedd eibrif neges, yr oedd wedi gwneyd ammod â'r Pwyllgor igael misoedd Mai, Mehefin, a Gorphenaf iddo ei hun, iymweled â'r sefydliadau Cymreig yn ngwlad y Gorllewin.Cyn ei ymadawiad i'r America, bu dair wythnos yn yrIwerddon, er gweled maes llafur ein cenadon yno, a chynnal cynnadleddau brawdol gyda hwynt.

Boreu dydd Llun, Mawrth y 1af, 1869, cychwynodd i'rdaith hon, ac yn ol ei ddyddiadur, cyrhaeddodd Gaergybiy noson hono. Cawn y crybwyllion canlynol yn ei "Nodion Gwasgaredig" yn Seren Cymru am Ebrill yr 2il, 1869, am y noson hon:—

"Cefais y fraint o dreulio noswaith o dan gronglwyd y Frondeg, lleyr oedd Mrs. Lewis wedi newydd anrhegu ei phriod anwyl â thlwshardd gwerthfawr, i fod yn ychwanegiad at y teulu gwerthfawr adedwydd hwn. Yn y boreu cefais y fraint o dreulio ychydig amser arymweliad â'r Hybarch Ddr. Morgan. Mae ef yn wanaidd ei iechyd,ond yn para yn serchus a llon ei galon, a boddlon ei yspryd. Maeeglwys barchus Caergybi yn gofalu yn anrhydeddus am dano yn eiddyddiau diweddaf."

Gan nad yw y daith i'r Iwerddon yn un faith, dichonmai nid annyddorol fydd cael gwybod am ei threfn, ynnghyd â'r gwaith a gyflawnodd y Dr. ar hyd—ddi. Weleyn canlyn ei hanes fel yr ysgrifenwyd ef ganddo ei hun ynei ddyddiadur. Mae yn cychwyn yn awr wrth gwrs o Gaergybi:—

1869—Mawrth2Dublin
3Agoriad DafyddDublin
4Little MaidBambridge
5Address to hearersDo
"Address to the SchoolDo
6MissionTandragee
7AddressBelfast
8Great CommissionDo
"Key of DavidWhiteabbey
"Little MaidCarrickfergus
9Little MaidPortadown
10Address to SchoolDo
"The WidowDonoughmore
1869—Mawrth11Address on MissionBallymena
"Address to SchoolDo
12Little MaidColeraine
13AddressGrant Causeway
14AddressMagherfelt
15Dry BonesTubbermore
16Going toDublin
17Crossingfor home
18CyfeillachCalfaria

Gwelir na fu y Dr. enwog yn segur yn ngwlad y Gwyddel.Teithiodd lawer, a gweithiodd yn galed tra yno. Yn ySeren, a grybwyllasom, cawn erthygl ragorol wedi eichyhoeddi ganddo, yn cynnwys hanes manwl o'r daith hon,a rhydd ynddi lawer o wybodaeth am y wlad a'i thrigolion,ac yn neillduol felly am yr achos Bedyddiedig yno, a'rteuluoedd parchus y daeth i gyssylltiad â hwy. Bu hynyn ddiau yn fantais fawr iddo osod achos y GenadaethWyddelig yn effeithiol o flaen yr Americaniaid.Wedi cael ychydig ddyddiau gartref—bum bron â dweydi orphwys—ar ol y daith hon, yr hyn a fuasai yn gamsyniad mawr, oblegyd nid oedd gorphwys llawer yn hanes yDr., cychwynodd am Wlad y Gorllewin. Meddiannwydeglwys Calfaria, ac yn wir tref Aberdar, â theimladau rhyfedd yr adeg hono. Nid annghofia y rhai oeddynt yn bresenol yn y "cwrdd gweddi hynod hwnw" (fel y gelwidef gan yr hen batriarch o Langefni), a gynnaliwyd ynNghalfaria, y teimladau dwys a hiraethus a godent, felllanw y môr, yn eu calonau. Teimlent yn falch am yranrhydedd a osodid ar eu gweinidog enwog, ond yn draphryderus am dano ef a'i anwyl blentyn yn gwynebu ar yfath daith. Cyflwynasant ef yn anwyl mewn gweddiaugwresog ac mewn dagrau pur, i ofal yr Hwn a wnaeth nefa daear. I ddangos eu parch i'r Dr. a'u cydymdeimlad â'reglwys, yr oedd tyrfa o frodyr parchus yn y weinidogaeth,a nifer mawr o leygwyr pwysig yr enwad, wedi dyfod ynnghyd o wahanol gyfeiriadau y sir. Yn mhlith ereill, yroedd y rhai canlynol yn bresenol:—J. T. Jones (A.), Aberdar; J. Rees (W.), etto; W. Samuel, Cwmbach; R. A. Jones, Abertawy; H. C. Howells, Clydach; J. R. Morgan(Lleurwg), Llanelli; N. Thomas, Caerdydd; J. Lloyd,Merthyr; W. Harries, Heolyfelin; D. Davies, Hirwain;T. Phillips, Blaenllechau; D. Davies (Dewi Dyfan), Gadlys; J. Roberts, Mumbles; W. Williams, Cendl; T.Humphreys, Cwmaman; T. John, Ynyslwyd; J. Jones,Abercwmboye; W. Williams, Mountain Ash; J. Williams(S.), etto; J. Lewis, Troedyrhiw; O. John, Treuddyn;Lewis ac Edwards, Llangollen; John Bowen, Ysw., Treforris; John Jones, Ysw., Clydach. Derbyniwyd llythyrauyn gofidio o herwydd eu hanallu i fod yn bresenol oddiwrth y Parchn. John Jones (Mathetes), J. G. Phillips,Builth; R. Prichard, Dinbych; E. Roberts, Pontypridd;J. Rufus Williams, Ystrad Rhondda; R. Williams, Hengoed; T. E. James, Glyn Nedd; D. Edwards, Pontardawe, yn nghyd ag Asaph Glyn Ebwy, a Henry Bowen,Ysw., Treforris. Cymmerwyd y gadair yn y cwrdd hwngan y Parch. T. John, Ynyslwyd, a bu y gwasanaeth ynamrywiol mewn darllen, canu, ac anerchiadau. Gweddiwyd gan y brodyr y Parchn. W. Williams, Cendl; T.Humphreys, Dewi Dyfan, H. C. Howells, Clydach, a D.Davies, Hirwaun. Traddodwyd anerchiadau gan y Parchn.T. Phillips, Blaenllechau; Lloyd, Merthyr; Harris, Heolyfelin; Williams, Rhos; Samuel, Cwmbach; Jones, Abercwmboye; Gwerfyl James, Treforris; J. T. Jones (A.), W.Rees (W.), R. A. Jones, Abertawy. Gan fod y ddausiaradwr diweddaf yn y cyfarfod hwn yn gydfyfyrwyr â'rDr. gosodwn ddyfyniad byr o'u hanerchiadau, yn nghydag araeth bwrpasol y Dr. i ddiweddu:—

"Anerchiad gan y Parch J. R. Morgan (Lleurwg). Adwaenai ef yDr. er's 25 mlynedd, ac yr oeddynt yn gyfeillion cywir o'r munydcyntaf y gwelsant eu gilydd hyd yn awr. Yr oedd yn bresenol yn sefydliad y Dr, ac wedi bod yn ei gapel bron yn mhob cyfarfod o bwys ohyny hyd yn awr. Yr oedd capeli i'r Bedyddwyr wedi neidio i fodolaeth fel mushrooms trwy holl gwm Aberdar, a hyny yn benaf trwyofferynoliaeth y Dr., ac yr oeddynt oll yn llawnion erbyn heddyw.Nad oedd ef yn galaru, eithr yn hytrach yn llawenhau am fod Dr.Price yn myned dros y mor, ac y carai yn ei galon fyned gydag ef.Celai weled llawer o ryfeddodau Duw ar y mor ar ei daith, nes eiwneyd yn fardd heb yn wybod iddo ei hun, ac y dysgwyliai ei glywedYr oeddetto yn darlithio ar yr hyn a welai ar ei daith hirfaith honei ddewisiad ar y fath neges bwysig yn anrhydedd mawr iddo ef, eieglwys, a'r enwad yo Nghymru.

"Anerchiad maith a galluog gan y Parch. N. Thomas, Caerdydd, arbwysigrwydd yr Iwerddon fel maes cenadol i'r Bedyddwyr. Sylwaifod yr iau ar gael ei thori, ac y dylai fod darpariaeth genym ni ar gyfer angenrheidiau ysprydol y boblogaeth. Yr oedd Dr. Price the right man in the right place yn bresenol, a dymunai iddo ef a'i unig blentyn daith gysurus a llwyddiannus iawn.

“Yn awr, ar gais y Cadeirydd, a dymuniad y dorf fawr, daeth Dr. Price yn mlaen. Dywedai fod yn dda ganddo am yr idea o gwrdd gweddi ar ei ymadawiad, iddi gael ei bodolaeth tu allan i'r eglwys, ac fod yn dda gan ei enaid weled y fath dorf yn gwerthfawrogi a mwyn. hau cyfarfod gweddi. Diolchai i bawb am eu dymuniadau da ar ei ran. Ofnasai y byddai'r cyfarfod yn tueddbenu i wanychu ei yspryd; ond fod yn dda ganddo mai adgyfnerthiad yspryd y bu iddo. Yr oedd yr adeg bresenol yn un bwysig iawn yn hanes Iwerddon; yr Iwerddon oedd maes brwydr fawr y Dadgyssylltiad, lle yr oedd rhyddid i ennill y llawryf, a thrais i farw; ac y byddai y fuddugoliaeth hon yn cynnyrchu buddugoliaeth debyg etto yn Lloegr a Chymru. Dywedai fod gan y Bedyddwyr 100 o orsafoedd pregethu eisioes yn yr Iwerddon; ond fod yn rhaid cael 300 neu 400 yno; ac fod y lleoedd i'w cael, ond fod eisieu arian i'w pwrcasu, a'u defnyddio, ac mai dyna oedd ei amcan ef a'i gyfaill yn myned i America. Yr oedd y Presbyteriaid wedi casglu £10,000 yn America, a'r Wesleyaid £12,000, er codi athrofa newydd yn Belfast. Dywedai iddo ef gael ei wahodd i'r America dair gwaith o'r blaen gan yr eglwysi Cymreig, gan gynnyg talu ei dreulion, a thalu am bregethwyr yn ei le gartref; ond wedi cael y cynnyg newydd hwn, nad allai ymattal yn hwy rhag myned. Dywedai fod ganddo lythyrau o gymmeradwyaeth oddiwrth gorff y Wesleyaid, yr Annibynwyr, y Presbyteriaid, oddiwrth Dr. Brook, Dr. Landels, y Barwn Falconer, &c.; felly y byddai pob pwlpud yn America yn agored iddo. Hefyd, fod ganddo lythyrau cymmeradwyol oddiwrth Gymmanfaoedd y Bedyddwyr yn y De a'r Gogledd, ac hefyd oddiwrth athrawon ein colegau; ac fod digon o waith wedi ei dori allan iddo gan ei gyfeillion yn America am 100 mlynedd! Dywedai hefyd fod y brodyr anwyl yn myned i gael cyfarfodydd gweddi ymadawol iddo yn Liverpool. Yna diolchodd i bawb am eu teimladau da tuag ato, gan ddymuno arnynt weddio drosto tra yn America. Cyflwynodd ei fab anwyl, y Parch. E. Gilbert Price, i nodded a chydymdeimlad yr eglwys tra y byddai ef yn absenol.

"Bydded Duw yn dyner o hono ef a'i blentyn, nes dyfod yn ol atom etto.

H. GWERFYL James.'[10]

"Treforris, Ebrill 8, 1869.

Boreu dydd Llun, Ebrill 5, 1869, cawn y Dr. a'i anwyl Emily yn cychwyn yn foreu o'r Rose Cottage. Mae torf aruthrol yn eu cyfarfod yn yr orsaf, wedi dyfod yno i ganuyn iach iddynt. Dyma y gerbydres yn ageru i fewn i'rorsaf, ac y mae calonau cyfeillion a chyfeillesau y Dr. a'iblentyn yn curo yn gyflymach, a'r cyffro yn myned yn fwybyw. Dacw'r Dr. yn cymmeryd ei sedd, a'i wyneb gwridgoch yn dysgleirio gan sirioldeb. Y mae ei ddwy law allan,ac yn cael eu hysgwyd braidd yn ddidrugaredd, a phobysgydwad yn dynodi calonau pur yn llawn o serch a dymuniadau da ato. Dyna'r chwibanogl yn myned, a'r gerbydres yn cychwyn, ac wele y cadachau o bob lliw a llunyn cael eu hysgwyd fel baneri, a'r oll yn brofion fod personnodedig yn ymadael o Aberdar y diwrnod hwnw. Yn gynnaryn mhrydnawn yr un dydd wele Fedyddwyr Lerpwl ar eudysgwyliad, a rhai o flaenoriaid yr enwad yn y ddinas ynawyddus edrych am y South Wales train yn dyfod i fewn, acar ei ddyfodiad i'r orsaf, wele y Dr. allan yn fywyd i gyd,ac yn derbyn gyda y sirioldeb mwyaf longyfarchiadau agroesawiad ei frodyr yn y ffydd ac ereill o'i hen gydnabyddion yn eu plith. Cychwynodd o Lerpwl dydd Mercher, y7fed, ar fwrdd yr agerddlong, City of Antwerp. Cynnaliwydcyfarfod gan eglwysi Bedyddiedig Lerpwl i ddymuno yndda iddo ef ac Emily y nos Fawrth cyn hyny yn GreatCross Hall Street. Am yr arwydd hon o barch teimlai yDr. yn dra diolchgar, fel y gwelwn oddiwrth y nodiad aganlyn:—"

Mae rhwymau mawr arnaf yn mlaenllaw i ddiolch i'r Parch. A. J. Parry a chyfeillion anwyl Lerpwl ameu teimladau da, caruaidd, a hyfryd. Mae y pethau hynoll yn fwy nag a allaswn byth freuddwydio am eu cael; acam hyny, maent yn galw am uwch cydnabyddiaeth nag aallaf ei roddi. Ond yn wir, yn wir, yr wyf yn teimlo ynddwys, ac yn annhraethol ddiolchgar i'r Arglwydd ac iddynion." (Gweler Seren Cymru am Ebrill y 9fed, 1869.)Aeth amryw o gyfeillion Lerpwl i'w hebrwng i lan y dw'r,a rhai i fwrdd y llong. Yr oedd y Dr. yn forwr da, fel ydywedir. Teimlai efe a'i ferch yn nodedig o siriol a chalonog, a buont yn bur iach yr holl fordaith oddigerth y dyddiaucyntaf o honi. Cadwasant eu harchwaeth at ymborth, acfelly, bu y daith yn fwyniant perffaith iddynt. Cymmeraiy Dr. ddyddordeb mawr, fel y mae yn naturiol i ni feddwl,yn mhobpeth a welai. Meddai ar lygad craff a meddwlparod, a gallai droi pob peth i ddefnydd da yn ddidrafferth,a thrwy hyny, y mae yn fuan yn tynu sylw pawb ar ybwrdd ato fel dyn nodedig ac uwchlaw y cyffredin, er ei fod yn gwneyd ei hun yn gyffredin gyda'i gyd-deithwyr ereu dyfyru, ac hefyd eu hadeiladu mewn pethau buddiol.Efe o ddigon mewn amser byr oedd y person mwyaf poblogaidd ar y bwrdd. Ffurfiodd adnabyddiaeth fuan a'r rhanfwyaf oedd ar y llestr, a daeth yn ffafrddyn gyda hwynt.Dywedai y cadben am dano un o'r dyddiau cyntaf, "Thatreverend gentleman is a wonderful man, he draws all tohimself, and can do just as he likes with them;" ac wedicael ei adnabod yn dda, cafodd sylw a pharch neillduol gany cadben, John Mirehouse. A ganlyn yn unig ydynt einodion yn ei ddyddlyfr am ei fordaith i'r Americ:—

April7Sailed from Liverpool in the 'City of Antwerp'
8Prayer meeting on board 'City of Antwerp'
9......do ....... do......
11The Church Service read, with Welsh singing
"Short service on deck of the steamer
12At sea, with a short prayer meeting nightly
13 to 17The same as the 12th
18Captive maid (Welsh) in the saloon of steamer
"English Service in the evening
19A public prayer meeting in the steerage
20......do ....... do......
"This day, at 2 o'clock in the morning, got to New York, and landed all well at 9 o'clock a.m.
21 to 24At W. B. Jones' in the City of Brooklyn

Bellach, Dr. Price yn America a welir, a dyna'r swn aglywir yn mhob cyfeiriad. Bu cyffro mawr mewn rhaiparthau o Gymru ar ei ymadawiad. Mae cyffro mawrmewn parthau o'r Americ ar ei diriad. Yr oedd poblAberdar yn hiraethus ar ei ol. Mae miloedd yn ngwlad yIanci yn falch cael ei fenthyg, megys, am ychydig fisoedd.Bu yn aros ychydig ddyddiau yn nghartref clyd W. B.Jones, Ysw., Brooklyn, a phregethodd deirgwaith y Sabbothcyntaf yn yr eglwysi mwyaf a phwysicaf yn New York, fely gwelir etto. Yn mhen ychydig ddiwrnodau cawn ef ynHyde Park, yn cael ei roesawi yno mewn cyfarfod cyhoeddus, adroddiad byr o'r hwn a osodwn yma:—

"CYFARFOD CROESAWOL Y PARCH. DDR. PRICE YN HYDE PARK.

Cynnaliwyd cyfarfod i'r dyben uchod yn nghapel y BedyddwyrHyde Park, nos Iau, Ebrill 29ain.

Dechreuwyd y cyfarfod trwy ddarllen a gweddio gan y Parch. J. P. Harris, Cattaraugus, a chanwyd pennill Etholwyd Ednyfed yn llywydd. Anerchwyd y Dr. a'r gwyddfodolion gan y Parchn J. W. James, Pittston, ar lwyddiant gweinidogaeth y Dr. yn Aberdar, o'r dechreuad—24 mlynedd yn ol; Thos. Jones, Mahony City, ar Gysyllt— iad y Dr. â Chymry America; R. Edwards, Pottsville, ar Gyssylltiad Cymry y ddwy wlad â'u gilydd; B. D. Thomas, Pittston, ar Gyssylltiad y Dr. a'r eglwysi Seisnig; M. A. Ellis, Hyde Park, ar Gyssylltiad y Dr. a'r Wasg Gymreig; W. Morgans, Plymouth, ar Wleidyddiaeth; y Dr. E. B. Evans, Hyde Park, Anerchiad Cyffredinol; J. Moses, Newark, Ohio, ar Ddylanwad y Dr. yn yr Hen Wlad, ac yn debyg o fod felly yn y wlad hon; J. P. Harris, Cattaraugus, y Dr. fel Cynnrychiolydd Bedyddwyr Cymru; J. Beavan, Scranton, ar Gyssylltiad y Dr. â'r Bedyddwyr Seisnig; J. Evans, Providence, ar Gyssylltiad y Dr. â'r Odyddion, yr Iforiaid, yr Alfrediaid, &c.; W. Morgans, Pottsville, â Bedyddwyr Cymreig America; P. L. Davies, Camden, ar Gyssylltiad y Dr. â Chymdeithas y Bedyddwyr yn yr Iwerddon. "Yna darllenwyd rhes o gymmeradwyaethau i'r Dr. oddiwrth enwogion Cymru a Lloegr. Mae ganddo faich asyn o honynt. Yna cawsom y Dr. yn ei hwyl i dalu diolchgarwch gwresog am y derbyniad croesawus a gafodd efe a'i anwyl Emily yn Hyde Park. Dyna ddigon o gyssylltiadau, feddyliwn I.—Yr eiddoch, &c.,

"D. P. ROSSER."[11]

Gan i'r Dr. fod dros saith mis yn ngwlad fawreddog machludiad haul, ac wedi teithio a gweithio mor aruthrol, fel y gallai ac yr arferai efe wneyd am gyhyd o amser, teimlwn nas gallwn ei ganlyn yn fanwl i bob lle, nac ychwaith groniclo yr hanner a gyflawnodd. Yr ydym wedi ein gosod dan rwymau i deimlo byth yn ddiolchgar i ddau o frodyr da ac enwog oeddynt yn America yn yr adeg yr oedd y Dr. yno, ac wedi treulio cryn amser gydag ef, yn neillduol y blaenaf, sef y Parchn. Ddr. Fred Evans, Phil— adelphia, ac L. M. Roberts, M.A., Glyn Ebbwy, Mynwy, am eu hysgrifau galluog ar y Dr. yn America. Teithiodd y Dr. Fred Evans lawer iawn gydag ef drwy wahanol barthau o'r wlad; felly, meddai fantais neillduol i adrodd ei hanes yn ffyddlawn a dyddorol, megys y gwna. Yn awr, teimlwn hyfrydwch mewn cael yr anrhydedd o gyflwyno eu hysgrifau dyddorol, y rhai ydynt fel y canlyn:—

YMWELIAD Y PARCH. T. PRICE, M.A., PH.D., O ABERDAR, A'R TALAETHAU UNEDIG.

GAN Y PARCH. DDr. FRED EVANS, PHILADELPHIA.

Ymadawodd Dr. Price ag Aberdar ar y 5ed o Ebrill, 1869. a chychwynodd o Lerpwl yn y City of Antwerp ar y 7fed, a glaniodd yn iach a dyogel ar yr 20fed yn Efrog Newydd. Ei gwmni oedd ei anwyl ferch Emily, yr hon a deithiodd gydag ef rai miloedd o filldiroedd, a'r hon a fu o gysur a chefnogaeth iddo yn y wlad. Gydag ef hefyd y daeth y Parch. Mr. Henry o Belfast, Iwerddon. Gwaith y ddau oedd cynnrychioli Cymdeithas Genadol y Bedyddwyr yn yr Iwerddon. Y prif gynnrychiolydd oedd y Dr. Price, a disgynodd y rhan drymaf o'r gwaith arno ef. Ni fu yn Efrog Newydd ond ychydig oriau cyn iddo ddechreu yn ddifrifol ar ei waith: galwodd gyda swyddogion yr American Bible Union, y Gymdeithas Genadol Gartrefol, a'r Gymdeithas Gyhoeddiadol. Yma cyfarfu â'r enwog Dr. Armitage, un o gewri y Pwlpud Bedyddiedig yn America, a buont yn gyfeillion mynwesol hyd angeu y Dr. Y Sul wedi iddo lanio pregethodd yn Saesneg yn nghapel Dr. Sarles, yn Brooklyn yn y boreu, yn nghapel y Trefnyddion Calfinaidd yn Efrog Newydd am ddau, ac yn nghapel eang H. M. Gallegher, Ll.D., yn yr hwyr.[12] Cafodd amser gogoneddus, a'r bobl yn hoeliedig wrth ei wefusau. Yr oedd Dr Gallagher yn un o'r gweinidogion mwyaf poblogaidd yn Brooklyn—y nesaf at Henry Ward Beecher. Yr oedd yn llawn arabedd a thân, a gwelai y gynnulleidfa enfawr debygrwydd neillduol rhwng y Doctor o Aberdar a'r Doctor o Brooklyn. Aeth y si am dano drwy y dinasoedd mewn amser byr, a mawr fel y ceisient ganddo bregethu yn y prif bwlpudau. Yn ystod yr wythnos hon gwelodd rai o brif ddynion New York, a gwnaeth argraff dda ar bob un o honynt.

Ar y 27ain cychwynodd am Hyde Park, Pennsylvania, a bu yma byd y 3ydd o Fai. Yr oedd ei gyfaill, y Parch. Fred Evans (Ednyfed), yn weinidog y pryd hwnw ar yr eglwys Gymreig yn y lle. Yr oedd y capel eang yn newydd, a chynnaliwyd y cyfarfodydd agoriadol ar yr adeg hon. Yr oedd yn bresenol fel pregethwyr y Parchn. William Morgan, Pottsville; Theophilus Jones, Wilkesbarre; John P. Harris (Ieuan Ddu), Cattaraugus; John James, Pittston; Richard Edwards,Pottsville; John Evans. Providence; a P. L. Davies, Camden, N.J.Mae tri o'r brodyr hyn wedi cyfarfod cyn hyn â Dr. Price yn ngwladyr aur delynau. Pregethodd gyda hwyliau neillduol yn Hyde Park igynnulleidfaoedd hynod o luosog. Nid annghofir am y tro hwn. Cychwynodd o Hyde Park a Scranton ar y 3ydd, a chawn ef o flaen cyfarfod y gweinidogion yn Efrog Newydd. Trwy ei sirioldeb naturiol,ei arabedd anwrthwynebol, a'i genadwri odidog, gwnaeth argraff annileadwy ar y gweinidogion, ac agorasant ddrysau eu pwlpudau iddo oled y pen. Wedi talu ymweliad â Philadelphia ac ymgomio â'r awdurdodau yno parthed ei waith, aeth i Boston i gyfarfodydd yr Undeb,ac yma gosododd gerbron y gwahanol gymdeithasau hawliau y Bedyddwyr yn yr Iwerddon. Gwyddent wrth ei dân mai Cymro oedd,ond parod oeddent i gredu oddiwrth ei arabedd mai Gwyddel oedd.Nid gwaith hawdd yw i ddyeithrddyn gael caniatad i osod gerbron ycyfarfodydd blynyddol hyn bwnc na pherthyn yn uniongyrchol iddynthwy, ond y fath oedd taerni a phenderfyniad Dr. Price fel y llwyddodd.

Ar y 1af a'r 2il o Fehefin, cawn ef yn Nghymmanfa DdwyreiniolNew Jersey. Efe a'r anfarwol Dr. Richard Fuller, o Baltimore, oeddynty ddau ymwelydd, a phregethasant gyda dylanwad ac arddeliad neillduol; yn wir, yr oedd yn beth anhawdd cael gafael mewn dau bregethwr yn yr un cyfarfod o ddoniau y brodyr hyn.

"Aeth oddiyma i Richmond yn Virginia, ac yma gwelodd bethau a'uboddlonent ac a'u llanwent â digllonedd. Yr oedd teimlad y de yngryf yn erbyn y gogledd, a chynddeiriogrwydd pobl y de yn fawroblegyd diddymiad y gaethfasnach. Yr oedd Dr. Price yn elyn llymi'r gaethfasnach, a chas oedd ganddo yr enw caethiwed. Nid oedd hynond pedair blynedd wedi terfyniad y rhyfel a llofruddiad Lincoln.Mae yn Richmond, prifddinas y de, filoedd lawer o bobl yn dduon,ac yr oedd ei gydymdeimlad gyda hwy, a phregethodd iddynt. Cafoddfiloedd i'w wrandaw, ac ni chafodd fwy o hwyl erioed yn Nghymru naga gafodd yma. Wylent, chwerthinent, neidient a bloeddient, tra ypregethai efe iddynt, ac weithiau cymmaint oedd eu hwyl fel y gorfuiddo ddystewi am ychydig. Pregethodd yn nghapel eang y Parch.John Jasper, eglwys o bobl dduon o fwy na phedair mil o aelodau. Yroedd yn wledd i wrando ar y Dr. yn adrodd hanes ei arosiad yn Rich-mond. Trodd ei gefn ar y de, a chawn ef yn Upland, Swydd Delaware,Pensylvania, ar y gfed o Fehefin. Yn Upland y mae Crozer TheologicalSeminary. Sylfaenwyd y coleg hwn trwy haelioni y boneddwyr Samuel,Lewis, George, a Robert Crozer—pedwar brawd. Dyma y cyfarfodblynyddol cyntaf, ac yn mhlith y myfyrwyr cyntaf a raddiwyd yma cawn Mr. J. T. Griffiths, un o fechgyn y Pyle a Mountain Ash. Maeyn awr yn weinidog yn Mhensylvania. Yr oedd yr enwog ysgolhaig,William R. Williams, D.D, o Efrog Newydd, i draddodi anerchiad yny cyfarfod hwn; ond lluddiwyd ef oblegyd afiechyd, a chymmeroddy Parch. George Dane Braidman, llysfab yr enwog Judson, ei le. Traddododd Dr. Price amryw o anerchiadau yno, a chafodd hwyl uchelbob tro. Treuliodd beth amser yn Philadelphia, ac iechyd i'w galonoedd gweled olion yr hen Gymry gynt ar y ddinas enwog hon. Elaiar dân wrth weled enwau Cymreig rai o'r gorsafau ar y rheilffyrdd ynagos i Philadelphia, megys Brynmawr, Penllyn, Bala, Cynwyd, Berwyn, &c., &c.

Yn yr haf hwn ordeiniwyd y brawd serchog Mr. Llewelyn Llewelyn yn weinidog ar yr eglwys yn Frostburg, Maryland. Y ddau bregethwr oeddynt Dr. Price ac Ednyfed. Pregethodd y brodyr amrywdroion yn Saesneg a Chymraeg, a thraddodasant ddwy ddarlith.Testyn darlith Dr. Price oedd "Y Beibl," a thestyn Ednyfed oedd"Garibaldi." Yr oedd y pryd hwn yn boeth iawn, a dyoddefodd yDr. yn erwin ar brydiau oblegyd y gwres.

Cyrhaeddodd Pittston ar y 23ain o Orphenaf, a llettyodd yn nhyei hen gyfaill mynwesol y Parch. B. D. Thomas, gynt o Gastellnedd,ac yn awr o Toronto, Canada. Ar y 24ain cawn ef yn nghyfarfodyddblynyddol Prif Ysgol Lewisburgh. Pregethodd yno foreu y Sul, ac felhyn y dywed y National Baptist, papyr wythnosol yr enwad yn Mhennsylvania, "The sermon is highly spoken of, and will strengthen theimpression already made by Dr. Price as a genial man and earnestChristian." Y dydd Llun canlynol traddodwyd anerchiad galluogiawn gan Theodore Tilton, hen elyn Beecher. Wedi bwyta y giniawflynyddol, galwyd ar amryw i draddodi anerchiadau byrion, ond nichafodd un gymmaint o hwyl â Dr. Price. Anhawdd oedd cael unrhywun yn fwy hapus ar y fath achlysur nâ Price Penpound.

"Treuliodd ychydig o amser yn Utica, a mwynhaodd ei hun yn ddayno gyda'r cannoedd Cymry a'r Ianciod hefyd. Taflodd Dr. Coreyddrws ei gapel yn agored iddo, a chafodd dderbyniad tywysogaidd ganhil Gomer ac hil Jonathan. Ymwelodd ag Albany, Saratoga, ar eiffordd tuag Utica, ac aeth o Utica i Hamilton, lle y mae MadisonUniversity. Cafwyd cyfarfod hynod o bwysig yma, a bu o ddaionimawr i'w waith ef dros y Gwyddelod. Yn awr, teimlai yn lled galonog.Yr oedd yn awyddus iawn i weled Rhaiadrau Niagara; a mawr fel ydymunai Emily gael golwg ar y rhyfeddodau hyn; ac ar y 9fed o Awstedrychent yn syn ar y dyfroedd yn disgyn a'r berw i waered. Tynoddei het ffwrdd pan y gwelodd y fath amlygiad o allu Jehovah. Ni flinai adrodd ei brofiad pan y syllodd gyntaf ar y Rhaiadrau, ac ar y dyfroeddberwedig a'r chwyrnbyllau cynddeiriog. Oddiyma aeth i Canada, acymwelodd â Hamilton, Toronto, Brookfield, Montreal, Quebec, acamryw leoedd ereill. Treuliodd yn Canada dros ddwy wythnos, asiaradodd a phregethodd yn y prif leoedd, a theimlai i raddau yn gartrefol yno. Croesodd y St. Lawrence, ac ymwelodd â rhanau o Dalaethau Maine a Massachusetts. Yr oedd yn awyddus iawn i weled yddaear a sangwyd gan yr anfarwol Roger Williams: cafodd ei ddymuniad, canys treuliodd beth amser yn Providence, Rhode Island, ac ymwelodd â Phrif Ysgol Brown. Er fod yr athrawon a'r myfyrwyr oddiyno ar y pryd, iechyd i'w galon oedd gweled yr adeiladau gwychion, asyllu ar ambell lyfr Cymreig. Yn mhen ychydig ddyddiau cawn efetto yn Mhrif Ysgol Brown yn y cyfarfod blynyddol. Clywid ei lais ynfynych yn Massachusetts. Yn nghymmanfa Boston pregethodd gydayr enwog Ddr. Weston, llywydd Coleg Crozer. Daeth yn ol i NewYork erbyn y dydd bythgofiadwy yr hwn a elwir Black Friday. Dymaeiriau y Doctor ei hun gyda golwg ar y dydd tywyll hwn: "DyddGwener cawsom New York yn y cynhwrf mwyaf a fu ynddi erioed. Yroedd ar fin trancedigaeth fasnachol. Nid oedd neb yn fyw yn cofio yfath ddiwrnod yma â dydd Gwener diweddaf. Bu y byd masnacholyma ar fin dinystr hollol." Yn ddiau, dydd rhyfedd oedd. Methoddy banciau, aeth y masnachwyr yn wallgof, a du oedd y cyfan. Ynddiau, dygwyd hyn oddiamgylch gan gamblers diegwyddor, a speculatorscreulawn. Y Sul ar ol hyn, pregethodd yn Eglwys Dr. ThomasArmitage Credai Armitage mai Thomas Jones, Dreforris gynt, wedihyny o Lundain, Melbourne, ac Abertawe, oedd y pregethwr goreu yny byd, ac mai Tom Price, Aberdar, oedd yr ail. Iechyd i'w galon oeddgwrandaw ar y Dr. yn pregethu. Pregethodd hefyd yn Brooklyn aWilliamsburg.

"Dechreu mis Hydref glaniodd ei gyfaill mynwesol Dr. Todd ynEfrog Newydd, ac fel hyn y dywed y National Baptist am hyny:—'Rev. J. W. Todd, Pastor of the Baptist Congregation at Sydenham,London, has just arrived in the United States. He comes for recreation and to cultivate the acquaintanceship of his American brethren,and to do something incidentally as the coadjutor of our excellent friendsPrice and Henry in behalf of Irish Baptist Missions."

“Tua diwedd mis Hydref, ymwelodd â Cincinnati, Ohio, a Louisville, Kentucky. Yn Cincinnati daeth i gysswllt ag amryw Gymry; ynwir, nis gwn am neb a gasglodd gymmaint o wybodaeth am y Cymryyn America mewn amser mor fyr. Ni phetrusodd i ddweyd lawergwaith wrth yr Americaniaid eu bod yn fwy dyledus i'r Cymry nag i un genedl arall. Yr oedd yn berffaith gartrefol yn hanes y Cymry affurfiasant yr Eglwysi Bedyddiedig cyntaf yn Mhennsylvania. Soniaiam yr hen frodyr o Rydwilym, Llanfyrnach, Dolau, &c., y rhai a ffurfiasant yr eglwysi yn Penypec, Dyffryn Mawr, Welsh Tract, &c., fel peyn gyfarwydd â hwynt yn bersonol. Ar yr 2il a'r 4ydd o Dachweddcawn ef yn St. Louis, prif ddinas Missouri: mae yno gyda y fath gewriâ'r Doctoriaid Henson, Boardman, Manly, Spalding ac ereill. Y cyfarfod mawr hwn yw Cyfarfod Cenedlaethol yr Ysgol Sul; mae ymagenadon o bob parth, ac un o'r anerchiadau mwyaf hyawdl, ffraeth anerthol a draddodwyd ydoedd eiddo Dr. Price ar "Yr Ysgol Sul ynNghymru." Argraffwyd yr anerchiad yn lled lawn yn amryw o'npapyrau, a chyfieithwyd yr adroddiad cyflawnaf o hono gan y Parch. J.T. Griffiths, Lansdale, Pa., ac ymddangosodd yn Y Wawr am fis Mai,1888. Yn yr anerchiad rhagorol hwn rhoddodd lawer o'i brofiad eihun. Wrth gefnogi athrawon yr Ysgol, dywedodd, 'Rhoddaf un enghraifft o ddosparth mewn cyssylltiad â'r eglwys yn yr hon y llafuriaf:allan o'r dosparth hwn o ddynion ieuainc, y mae saith yn awr yn weinidogion ac mewn sefyllfaoedd pwysig yn yr eglwysi. Gwelais un ynddiweddar yn Nhalaeth Michigan, un arall yn Ohio, ac o'r lleill, y maedau yn Lloegr, un yn Twrci, tra y mae yr wythfed yn Athrofa Crozeryn agos i Philadelphia, Pa.' Cafodd ei anerchiad y derbyniad mwyafbrwdfrydig.

"Treuliodd ychydig o ddyddiau yn Chicago, ac yma, fel yn y lleoeddereill, gwnaeth ei neges yn hyspys. Yn awr, dychwela o'i daith Orllewinol, a geilw yn Cleveland a Pittsburgh ar y ffordd. Cafodd wleddyn nghwmpeini yr Hybarch William Owen, yr hwn oedd ar y pryd ynweinidog Eglwys Chatham St. Genedigol oedd William Owen o Landebie, Sir Gaer. Ni chafodd nemawr ysgol, ond yr oedd yn un o'rpregethwyr mwyaf galluog; yr oedd yn enwog am ei arabedd, a mwyniant i bawb oedd gwrandaw ar y wit o Aberdar a'r wit arall o Pittsburgh yn ymddyddan â'u gilydd.

"Cyrhaeddodd New York erbyn rhan olaf Tachwedd, a phregethoddyn eglwysi Dr. Armitage a Dr. Evans (Ednyfed): ymadawodd Ednyfedâ Hyde Park yn mis Tachwedd, a threuliodd y ddau frawd a chyfaillamser dyddan gyda'u gilydd. Ar yr adeg hon, ymwelodd Llew Llwyfoa'i barti ag Efrog Newydd, a chynnaliasant gyngherdd yn un o'r capeliCymreig. Cadeiriwyd gan Ednyfed; ac ar ddiwedd y gyngherddragorol, galwyd ar Dr. Price i ddweyd gair. Dywedodd, 'Mae yndda genyf weled cymmaint o bobl yn nghyngherdd y Llew: yr wyf ynei adwaen er ys blynyddoedd, a gallaf eich sicrhau o un peth-nid oeswahaniaeth pa faint o arian a roddwch i'r Llew, y mae yn sicr o'u gadael ar ei ol yma i gyd.' Wrth bregethu am y tro cyntaf yn nghapelArmitage, defnyddiodd iaith goeth a chlasurol, a thebyg nad oeddyn meddu y rhyddid arferol. Ar ddiwedd yr oedfa aeth Dr. Armitage,a dywedodd wrtho, 'Don't they call you Tom Price, Aberdar, inWales? Yes.' And you preach like Tom Price there?' 'Yes.''Now, friend Price, you tried to preach like Dr. Price this morning, andyou did not enjoy the usual freedom, did you?' 'No, indeed.' 'Now,Dr. Price, let me give you a word of advice. While in this country beyourself, be Tom Price, Aberdar, and you'll carry everything beforeyou.' Diolchodd Dr. Price iddo, a gwnaeth ei gynghor, a llwyddoddyn mhob man.

"Dywed yr American Baptist am dano yn Nghymmanfa East NewJersey, fel hyn: The other preacher was imported from beyond theAtlantic Rev. Dr. Price of Wales—who was listened to with the deepest interest on Wednesday evening, while he discoursed to us burningtruths from Ezekiel's vision of the dry bones. Dr. Price made a tellingaddress in advocacy of the cause he represents.' Gallem luosogi dyfyniadau fel yr uchod pe yn angenrheidiol. Cododd y Dr. genedl y Cymryyn ngolwg yr Americaniaid. Yn Brooklyn, yn nghyfarfod y gweinidogion. rhoddodd sketch o'r bregeth a draddododd y Sul blaenorol, ac wediiddo derfynu, cododd yr enwog Dr. Wayland Hoyt ar ei draed a dywedodd, 'After all, it takes a Welshman to preach the Gospel.

"Daeth galwadau am ei lafur o wahanol fanau. Gweithiodd yn galedtra yn America, a gwnaeth argraffiadau ar feddyliau y bobl y bydd ynanmhossibl i amser eu dileu. Treuliodd oddicartref yn agos i ddwyran o dair o'r flwyddyn 1869; teithiodd yn agos i dair mil ar ugain ofilldiroedd; a phregethodd, darlithiodd, siaradodd dros dri chant ahanner o droion. Gwnaeth les dirfawr tra yma, a galarai y bobloblegyd na arosasai yn barhaus yn eu gwlad. Bu arosiad ei anwylEmily yn fwyniant mawr iddi hi ac i gannoedd o gyfeillion,—maeenwau y tad a'r ferch yn perarogli yno yn awr.

"Yr oedd dydd ei ymadawiad yn agoshau, a phenderfynodd ychydigo'i gyfeillion gael cyfarfod ymadawol iddo yn nhŷ yr enwog ysgolhaiga'r boneddwr pur W. B. Jones (Ap P. A. Mon), yn Livingston Street,Brooklyn. Cafwyd cyfarfod ardderchog,—llawn o hwyl, arabedd, atheimlad. A ganlyn yw hanes y cyfarfod fel yr ymddangosodd yn yNew York Tribune, dydd Sadwrn, Rhagfyr 4ydd, 1869,—y mae ynamlygu natur y cyfarfod.

"The Rev. Dr. Price's Return to Wales.

""A very pleasant affair took place on Thursday Evening at theresidence of Mr. William B. Jones, 150, Livingston Street, Brooklyn, on the occasion of the leave—taking of the Rev. Dr. Price. Addresseswere made by the Rev. Mr. Thomas, Pa.; the Rev. R. Edwards,Pottsville, Pa. (both of whom had come from their homes to bid Dr.Price farewell); the Rev. Fred E. Evans, late of Hyde Park, Pa.,recently appointed pastor of the Laight Street Baptist Church of thisCity; Messrs. John T. Davies, Henry Lussey, and William B. Jones.Dr. Price returns in the City of Brussels to day, after a sojourn ofseveral months in this Country, during which time he has travelledthrough most of the States, South and West. His letters to his Paperin Wales—The Star of Wales—have been full of interest, giving hisimpression of matters and things in America; and he returns with enlarged views and more comprehensive knowledge of the greatness andfuture prosperity of this Country. Dr. Price, in the course of his remarks, condemned severely the judiciary system, but expressed hisbelief that this, as well as some other undesirable things, will graduallybe rectified. He especially censured the apathy with which the betterclass of citizens allow political and municipal affairs to be regulated bytoo many inefficient and unworthy persons. But upon the whole hefelt convinced that these things, which he regards as inevitable in ayoung country, will gradually pass away."

"Mae Ap P. A. Mon a Dr. Price wedi cyfarfod â'u gilydd yn awr ynngwlad y gân. Daeth amryw i'w weled yn yr agerlong ar y 4ydd oRagfyr, 1869. Dymunwyd iddo ef ac Emily fordaith gysurus a dyogel,a chawsant hi. Cyrhaeddasant Liverpool ar y 13eg ac Aberdar ar y15fed, a chafodd dderbyniad tywysogaidd i'w hen gartref: yr oeddAberdar i gyd yn fyw o roesaw iddo, ac aeth fel brenin yn cael ei foligan y miloedd i'r Rose Cottage.

"Yr oedd ganddo barch mawr i America, a meddyliai yn uchel amei hysgolion, ei hathrofeydd, a'i heglwysi. Hauodd had da yn yr UnolDalaethau, ac ni hauodd yn ofer."

"DR. PRICE YN LEWISBURG, UNION CO., PENNA.

"GAN Y PARCH. L. M. ROBERTS, M.A., GLYN EBBWY, MYNWY.

"Yn mis Mehefin yn y flwyddyn 1869, yr oedd Dr. Price yn Lewisburg. Ei amcan yn dyfod yno yr amser hwnw ydoedd cael golwg arsymmudiadau pethau yn Ngholeg Lewisburg yn ystod y Commencement Week, ac hefyd i gael gweled llu mawr iawn o bob rhan o'r wlad, erffurfio adnabyddiaeth â hwynt, a gwneyd amcan ei ymweliad â'r wladyn adnabyddus iddynt. Yr oedd yr amcan hwnw ganddo yn mhob man yr ymwelai ag ef; a dywedodd wrthyf ei fod wedi llwyddo iraddau digonol i roddi boddlonrwydd iddo ei hun.

"Yr oedd yno hefyd amryw o'u hen gydnabod, brodyr a chyfeillion,rhai a barasant yn gyfeillion hoff ac anwyl hyd y diwedd, ac ydyntheddyw yn parchu ei goffadwriaeth. Cofus genyf weled yn eu plith yParchedigion B. D. Thomas, Philadelphia, yn awr Dr. Thomas, Toronto, Canada; F. Evans, Franklin, yn awr Dr. Evans, Philadelphia;a F. L. Davies, M.A., ac eraill.

Da iawn oedd gan Dr. Price weled myfyrwyr Cymreig, neu ynhytrach Cymry yn fyfyrwyr yn y Coleg. Yr oedd y rhai canlynol ynoyr adeg hono:-Charles Jones, Thomas Roger Evans, Jonathan JamesNicholas, David Rhoslyn Davies, David John Williams, a WilliamDavid Thomas.

Yr oeddwn I yn Lewisburg yr amser hwnw i wneyd ymgais amgael bod yn beneficiary, i gael addysg yn Ngholeg Lewisburg, dan nawddy Pennsylvania Baptist Board of Education. Nid oedd y Board hwn yogwneyd amgen cynnorthwyo myfyriwr; ond yr oedd ychydiggynnorthwy o werth mawr mewn awr gyfyng. Llawen iawn oeddgenyf weled Dr. Price a'i hoffus ferch, Miss Emily Price; llawenhefyd oedd ganddynt hwythau fy ngweled inau, a da oedd ganddo fyngweled yn gwneyd ymgais am fynediad i'r Coleg.

Yn yr wythnos hono, dydd pwysig ydyw y Commencement Sunday,a'r Sabbath hwnw, yr oedd Dr. Price yn pregethu; ei destyn oeddEseciel xxxvii. 1-10, sef pregeth fythgofiadwy Yr Esgyrn Sychion.'Yr oedd yn ei wrandaw y pryd hwnw lawer o ddysgedigion, a chawsanteu llwyr foddloni a mawr oedd eu canmoliaeth i'r bregeth. Yr oeddyr Hybarch Dr Shadrach wrth ei fodd; ond i ba beth yr enwaf, yroeddynt oll ar eu huchelfanau.

Boreu dydd Llun, yr oedd y Board of Education yn cydgyfarfod yny capel a berthynai i'r Coleg, ac yr oedd ysgrifenydd hyn o linellau ynun o'r rhai oedd yn crynu wrth feddwl am ordeal yr arholiad. Cofusgenyf fod amryw o'r cyfeillion wedi ceisio gan Dr. Price ddyfod ambleserdaith ar yr afon Susquehanna; ond dywedodd yn hyglyw nafuasai yr un bleserdaith wrth ei fodd hyd nes gweled un arall o feibionCalfaria, Aberdar, yn cael ei osod ar y ffordd i gael manteision addysg.Mawr oedd y cymhell fu arno; ond safodd yn benderfynol. Dywedoddwrthyf am fod yno mewn pryd y buasai yntau yno hefyd. Dywedoddhefyd y buasai yn rhaid iddo ofyn am ganiatad i fod yn bresenol, ondyr oedd hanner gair yn ddigon—yr atebiad uniongyrchol oedd Yes,certainly.

"Dr. Griffiths, Philadelphia, oedd cadeirydd y Bwrdd, a Dr. Sprattydoedd yr ysgrifenydd gohebol. Yr oedd amryw o ymgeiswyr i fyneddan arholiad y dydd hwnw, ond yr oeddynt oll, ond fy hunan, ynAmericaniaid. Yr oedd rhai ohonynt wedi pasio yr arholiad yn llwyddiannus, ac o'r diwedd wele fy enw inau yn cael ei alw, a Dr. Spratt yndarllen fy llythyr, neu yn hytrach lythyr oddiwrth y gweinidog ynappelio ar ran yr eglwys droswyf. Ond er fy mawr ofid, nid oedd yrappeliad ar fy rhan yn unol â'r hyn oedd llythyren eu cyfraith hwy ynei ofyn. Dywedodd Dr. Griffiths ei fod yn ddrwg ganddo am y dynieuanc, ond eu bod hwy yn 'bound to the letter of the law.' 'Theapplication must include the necessary words, and I am sorry that isnot the case with the application of this young man.' Nid oedd dimi'w wneyd ond rhoddi lle i'r ymgeisydd nesaf. Buasai yn rhaid caelail application, a than yr amgylchiadau yr oeddwn I ynddynt, gwyddwnyn dda pa anhawsderau oedd o fy mlaen. Yn y man goreu, buaswnallan o'r coleg am flwyddyn. Eisteddais ar un or seddau, trom oeddfy nghalon, trist oedd fy nhremwedd. Nid oedd ond diffyg yn ngeiriadyr application, ond yr cedd yn ddigon i mi gael fy nhroi o'r neilldu. Yroedd Dr. Price yn eistedd a'i gefn ar y ffenestr, a Dr Spratt yn eisteddyn agos iddo. Gosododd Dr. Spratt fy llythyr i lawr yn ymyl sypynmawr o bapyrau oedd ganddo, a chododd i ddarllen llythyr yr ymgeisydd nesaf. Ar ol y darlleniad hwn, ac i'r cadeirydd holi amryw ofyniadau fel y gwelai yn ofynol, yr oedd hawl gan unrhyw aelod o'rBwrdd i roddi gofyniad i'r ymgeisydd; a gallaf eich sicrhau mai digrifa ffol oedd gofyniadau rhai o honynt.

"Yn awr, wele Dr. Price ar ei draed, a dywedodd, 'Dr. Spratt, Ithink that this letter is all right; it seems to me that the very wordsyou were speaking of are here Will you, Sir, please read for yourself?"Cymmerodd Dr. Spratt y llythyr o'i law, darllenodd ef yr ail waith,a dywedodd mewn syndod, 'So they are, but really, Dr. Price, I didnot see them before.' Yna dywedodd Dr. Griffiths, 'If the words arethere, it is all right; call the young man up.' Ac felly y bu: cefais fyarholi gan y cadeirydd a chan yr aelodau; aethum drwy yr oll oeddofynol yn llwyddiannus, a chefais fy rhestru yn mhlith y rhai oeddynti ddechreu eu tymhor athrofaol yn y mis Medi canlynol.

"Wedi myned allan o'r coleg i'r Campus Grounds, safasom dan un o'rcoed sydd o flaen yr adeilad eang, ac yn y fan hono bu ychydig ym.ddyddan rhyngom. Gofynais, 'Dr., beth wnaethoch chwi i'r llythyr?Atebodd gyda gwên ar ei wyneb hawddgar, 'Paid â blino dy ben; yrwyt ti i fewn—boddlona ar hyny.' Cynghorodd fi i aros yn y colegam chwech mlynedd, ac felly y gwnaethum.

"Yr oedd yn arferiad gan Dr. Price alw y rhai a fedyddiwyd ganddoyn 'my boys,' neu 'one of my boys.' I amryw o Americaniaid y prydhwnw yn y ceremony of introduction, dywedai, 'he is my boy,' neu 'heis one of my boys,' a throion wedi hyny gofynai rhai Americaniaid imi, 'When is your father going to pay us another visit?"

"Aml dro y gwelais ef y dyddiau hyny yn eistedd dan un o'r coedar lan yr afon Susquehanna, i ysgrifenu erthyglau i Seren Cymru. Ymddangosai fel pe yn mwynhau y golygfeydd ardderchog oedd o'i amgylch, ac hefyd ymddiddan â'r cyfeillion oedd o'i gylch, ac ar yr unpryd ysgrifenai yn ddiymaros ei erthyglau llithrig a darllenadwy oeddynt yn addurn y Seren, ac yn allu mor fawr yn y wlad hon.

"Yr oedd Dr. Price yn mwynhau ei hun yn holl gyfarfodydd yCommencement Week. Cymmaint oedd parch yr Americaniaid iddo felyr ymddangosent fel pe yn ymgystadlu am dalu gwarogaeth iddo, acyn nghanol yr oll yroedd efe mor ddiymhongar ag erioed. Y nosweithiau hyn yr oedd Commencement Hall, adeilad eang perthynol i'rcoleg, wedi ei orlenwi. Nos Lun yr oedd cyfarfod gan aelodau un o'rdosparthiadau ag oedd wedi graddio flynyddoedd yn ol. Buasai un ynrhoddi anerchiad ar ryw destyn dewisedig, ac arall yn darllen pryddest,ac fel rheol yr oedd y cyfarfodydd hyn yn rhai uwchraddol, gwirddyddorol, buddiol ac adeiladol. Yr oedd Dr. Price yn mwynhau eihun yn rhagorol ynddynt, a dywedai fod pethau felly yn intellectual treat.

'Dydd Mawrth yr oedd dosparth o ferched o'r Seminary Female Institute yn cael ei raddio. Mawr fwynhaodd Dr. Price ei hun yn ycyfarfod hwn, a sylwai fod dyfodol rhagorol o flaen y wlad oedd yntalu cymmaint o sylw i addysg uwchraddol y rhyw fenywaidd. Dywedai yn aml, 'Yn ddiau America yw gwlad y dyfodol.' Hefyd,dywedai y carai weled meibion a merched Cymru yn mwynhau manteision tebyg. Nos Fawrth yr oedd yr enwog Theodore Tilton yntraddodi darlith i'r College Literary Societies—hyny yw, y cymdeithasauhyn oeddynt yn ei ddewis, yn anfon am dano, ac yn talu iddo, ond yroedd y mynediad i fewn yn rhad. Y testyn ydoedd, 'The HumanBrain, and how to use it;' ac yr oedd meddyliau beiddgar y darlithyddyn cael eu gollwng fel saethau mellt at hwn ac arall yn y gynnulleidfa.Ar ryw sylw neillduol o eiddo y darlithydd dywedodd Dr. Price,'Hear, hear. Trodd Tilton ato yn y fan a dywedodd, 'Yes, friend,and everywhere, everywhere.' Dywedai Dr. Price wrthyf ar ol hynyfod sylw felly yn dangos genuine mother wit.

"Dydd Mercher, yr oedd y Class of 1869 yn cael ei raddio. Mawry boddhad a gafodd yr hybarch Ddr. wrth glywed areithiau y graddedigion. Credwyf ei fod yn beth newydd iddo wrandaw ar araeth yncael ei thraddodi yn y Lladinaeg. Araeth yn yr iaith hono ydyw ycyntaf a draddodir pan fyddo dosparth yn cael ei raddio."Ymdrechodd yn fawr iawn i agor ffordd i rai o fechgyn Cymru gaeleu haddysg yn Ngholegau America. Ni lwyddodd yn ei amcan ynhyn, er iddo greu cryn dipyn o dân yn Lewisburg yr adeg hono. Nichafodd weled ond dau yn unig yn gadael Cymru am Goleg Lewisburg,sef Owen James, aelod y pryd hwnw yn eglwys Heolyfelin, a Iago W.James, aelod etto yn eglwys y Gadlys. Mae Owen James wedicyrhaedd safle uchel yn America, a saif ei enw yn uchel ar roll ofhonour Coleg Lewisburg.

"Ni arosodd Iago W. James ond amser byr yn Ngholeg Lewisburg;derbyniodd alwad gan un o eglwysi Ohio, ac ymadawodd."Nos Fercher, yr oedd y levee yn cael ei chynnal yn nhŷ Dr. Loomis,Llywodraethydd y Coleg. Yr oedd Dr. Price a Miss Emily yowahoddedig iddo. Rhywfath o gyfarfod ymadawol i'r graddedigionydoedd hwn. Boreu dydd Iau, yr oedd pawb yn gwynebu i'wcartrefloedd. Dr. Price yn gwynebu ar ei waith mawr a phwysigmewn gwahanol ardaloedd. Yr oedd y gwahoddiadau am dano ynaml a lluosog; ni fedrai gydsynio â'u hanner hwynt.

"Yn mis Tachwedd, 1869, gwelais fod Dr. Price yn St. Louis, Missouri. Yr adeg hono, ac yn y lle a nodwyd y cynnaliwyd 'The FirstNational Baptist Sunday School Convention.' Yr oedd yn gyfarfodpwysig iawn; ac er cymmaint o Sunday School man oedd Dr. Price, cafodd well golwg ar yr hyn sydd alluadwy drwy yr Ysgol Sul yn y convention nag a gafodd erioed o'r blaen. Gwyr pobl Cymru yn dda pa fathweithiwr ydoedd Dr. Price wedi bod gyda'r Ysgol Sul, gwyddant hefydpa beth a amcanodd gyda yr un pwnc pwysig ar ol ei ddyfodiad ya oli'r wlad hon o America. Gwyddai Dr. Price fod dyfodol eglwys IesuGrist i raddau mawr iawn yn gorphwys ar yr Ysgol Sul, a'r neb syddam gael prawf o hyn, edryched i nifer a llwyddiant y Bedyddwyr acenwadau ereill yn America. Cafodd Dr. Price ei alw i roddi anerchiadyn y cyfarfod hwn. Synwyd yr Americaniaid yn fawr iawngan niferyr eglwysi oeddynt wedi hanu o eglwys Calfaria, a'r nifer mawr iawnyr oedd efe wedi eu bedyddio."

Teimlwn nad oes eisieu i ni ddywedyd dim mewn fforddo ganmoliaeth i'r llythyrau hyn, gan y dygant ynddynt euhunain gymmeradwyaeth uchel i'w hawduron parchus.Yn ystod ei ymdaith yn yr America, ysgrifenodd y Dr.lawer iawn ar yr hyn a welodd, ac a glywodd, ac a deimloddyn yr America. Anrhegodd hefyd ei ddarllenwyr yn Seren Cymru a'r llythyrau hyny, y rhai oeddynt yn cael eu dysgwylyn aiddgar ganddynt, ac yn cael eu darllen gyda blasmawr. Cymmerasom y drafferth o gyfrif y llythyrau ynnghyd a nifer y colofnau a gynnwysent, er rhoddi enghraiffto'r hyn allai y Dr. wneyd o waith yn yr hyn a ystyriai efeei "oriau hamddenol." O'r llythyr cyntaf sydd yn dwyny dyddiad Mawrth 1af, 1869, a ysgrifenwyd ganddo panyn cychwyn o Aberdar, hyd yr olaf, sydd yn dwyn y dyddiad Rhagfyr 24, 1869 (a ysgrifenodd wedi ei gyrhaeddiadgartref), cawn 27 o lythyrau, yn gwneyd gyda'u gilydd 71colofn o Seren Cymru. Cymmerant i fewn nifer lluosog owahanol ac amrywiol faterion, megys “Hanes dinasoeddmawrion y wlad," "Sefydliadau cyhoeddus,' Eglwysi aChapeli," Golygfeydd natur—y mynyddoedd, yr afonydd, llynoedd, rhosdiroedd a choedydd," "Sefyllfa foesola chrefyddol y wlad,” “Hen aelodau crefyddol a chyfeillion gyfarfyddai o Gymru yno, eu cyssylltiadau gwahanolyn yr hen wlad,” yn nghyd â llu ereill o bynciau allem nodi.Dyma gyfrol dda iawn, onite? Ie, gallwn anturio dweyd,gwerthfawr iawn, hefyd; oblegyd, yr ydym wrth eu darllen yn frysiog yn nglyn â'r gwaith hwn (er wedi caelmwynhad mawr wrth eu darllen pan gyhoeddwyd hwyntgyntaf) wedi cael ein taraw â syndod wrth feddwl gymmaint o wybodaeth hanesyddol, gyffredinol, a thra buddiola gynnwysant. Yr ydym wedi ein temptio fwy nag unwaith i osod rhai o honynt i fewn yn enghraifft o allu mawrac amrywiol eu hawdwr, ond yr ydym yn ymattal, yn ygobaith y cyhoeddir hwynt etto yn nglyn â gweithiau ereillo eiddo y Dr.

Tra yn yr America derbyniodd yr hybarch Ddr. yranerchiad canlynol yn arwydd o serch a pharch ei frodyrato:—

ANERCHIAD CROESAWUS

Cyflwynedig i'r Parch. Thomas Price, M.A., Ph D, Aberdar, Deheudir Cymru, gan bwyllgor neillduol o Fedyddwyr Cymreig, cynnulledig yn Youngstown, Ohio, Gogledd America.

BARCHEDIG SYR,—Yn gymmaint â chaniatau o'r Arglwydd yn ol eiradlawn diriondeb i chwi gael ymweled â ni, Genedl y Cymry yn ywlad hon:

1af, Penderfynwyd, Yn ol ein hadnabyddiaeth a'n gwybodaeth hanesyddol o honoch, eich groesawu a'ch derbyn fel prif gynnrychiolydd ein cenedl yn Nghymru, yn gymmaint â'ch bod bob amser yn amddiffynydd dewr i'n hiawnderau, yn wladgarwr trwyadl a didwyll, ac felRhyddfrydwr wedi treulio eich oes, a gwario llawer o feddiannau iymladd brwydrau rhyddid yn erbyn cadarn ormes a thrawsarglwyddiaeth wladol; ac fel un na bu uchel swyddogaeth, cyfoeth, na gallumawreddog y bendefigaeth yn Mhrydain Fawr, yn effeithiol i'ch gwangaloni na'ch attal rhag cyflawnu eich amcanion er lles a budd y genedl.

2il. Penderfynwyd, Eich cydnabod fel cynnrychiolydd neillduol o'rCyfundeb parchus Cristionogol a elwir y Bedyddwyr Neillduol ynNghymru, o herwydd eich bod bob amser wedi defnyddio eich gallua'ch medrusrwydd diail er amddiffyn a lledaenu egwyddorion pur gwirGrefydd, yn ei gwahanol ddosparthiadau. Nid oes neb wedi rhagoriarnoch mewn diwydrwydd a gweithgarwch gyda'r Cymdeithasau Cenadol a Chyfieithadol, yn Gartrefol a Thramor; ac y mae agweddlewyrchus y Bedyddwyr yn Morganwg, yn neillduol Dosparth Aberdar,yn nhrefnusrwydd eu llywodraeth, yn amlder eu haddoliadau, yn lluosogrwydd eu haelodau, yn nghyd â nifer yr Ysgolion Sabbothol, &c.,megys colofnau uchel ac eglur, a'ch enw chwi arnynt y blaenaf mewngwaith da.

3ydd. Penderfynwyd, Dychwelyd i chwi y diolchgarwch mwyafgwresog a chalonog am eich caredigrwydd hynaws yn ymweled â ni ynein gwlad fabwysiedig, ac ymdrechwn wneyd ein rhan er eich cysurtra yn ein plith.

"Gweddiwn am i'r Duw a'ch llwyddodd yn Nghymru etto i goronieich ymdrechion a'ch amcanion o blaid enw'r Iesu, a llwyddiantTeyrnas Nefoedd tra yn America.

Dymunwn hefyd i'r Ior, yn nhrefn ddoeth ei Ragluniaeth, noddi achadw eich personau chwi a'ch anwyl ferch, Miss Emily Price, ynnghysgod ei law yma, ac ar eich dychweliad i Gymru.

A hyderwn y bydd yr ymweliad hwn o'r eiddoch â ni gynnyddu yrUndeb, a chreu mwy o gydweithrediad rhyngom ni a'n cydgenedl anwyly tu draw i'r môr er ein llesoli a'n llwyddo yn dymhorol ac ysprydol.

Amen.

Yr eiddoch mewn undeb ffydd,

W. OWENS, E. JENKINS,

D. Probert, J. BEYNON,

D. C. THOMAS, J. JONES,

D. J. NICHOLAS, Ysg."

Tachwedd 12, 1869.

Ni ddygwyddodd dim o bwys ar ei daith gartref hyd eiddyfodiad i Aberdar, ac nid oes un nodiad neillduol wediei ysgrifenu ganddo yn ei ddyddiadur ond a ganlyn:—

"Dec. 4th, 1869, sailed from New York for home. 4th to Dec. 13th is almost a religious blank.[13] Arrived in Liverpool early on Monday morning, the 13th."

Dydd Mercher, y 15fed, cyrhaeddodd Aberdar yn iach a dyogel, a chafodd dderbyniad tywysogaidd. Daeth miloedd i'r orsaf i'w gyfarfod a'i roesawu, ac i amlygu eu parch a'u teimladau da tuag ato. Yn ei fynegiad yn Seven Cymru am Ragfyr y 24ain, 1869, o'r amgylchiad hapus, dywed Dewi Dyfan fel hyn:" Tua hanner awr wedi dau o'r gloch, gwelid y bobl o bob cwr o'r dref yn tynu tua'r orsaf. Yn mhen ychydig, daeth Cor y Plant perthynol i Galfaria yno. Chwyddai y dorf yn barhaus, nes, o'r diwedd, yr oedd y dernyn tir helaeth wrth yr orsaf yn orlawn. 'Beth sydd yn bod?' gofynai ambell i bassenger mewn syndod. ' A oes rhyw dywysog yn cael ei ddysgwyl, dywedwch?' Am ychydig funydau i dri o'r gloch, daeth y train i mewn, ac mewn ychydig daeth gwyneb crwn, llon, ac iachus y Dr. i'r golwg yn mhlith y dyrfa, yn nghyd â Miss Emily, mor loyw ag y bu erioed. Edrychai y ddau yn rhagorol. Wedi cael pethau i drefn, darllenwyd dau anerchiad i'r Dr. wrth yr orsaf; y cyntaf gan T. Davies, Ysw., West of England Bank, yr hwn oedd oddiwrth drigolion tref Aberdar. Yr oedd yn anerchiad cariadus, destlus, a chaboledig. Darllenwyd y llall gan D. Davies, Ysw., Bryngolwg, dros yr Urdd Odyddol yn Aberdar. Wedi cael araeth wreichionllyd gan y Dr., ffurfiwyd yn orymdaith. Masnachwyr y dref yn flaenaf, y gweinidogion yn canlyn, a'r ysgol ar ol hyny, ac yna Dr. Price a'i gyfeillion mewn cerbyd yn dylyn. Chwareuai llumanau o amryw ffenestri, yn arwydd o'r croesaw roddai y bobl iddo ar ei ddychweliad. Gerllaw i Rose Cottage crogai bwa gwyrdd gyda llumanau, yn cynnwys yr arwyddair— Welcome Home to Dr. and Miss Emily Price.' Mewn gair, yr oedd y derbyniad yn deilwng o dywysog bob rhan o hono. Rhwng y dorf fawr, y saethu bywiog, y baneri chwifiedig, a'r anerchiadau canmoladwy, buom bron credu fod rhyw second Garibaldi neu Wellington wedi ymweled ag Aberdar. Bernid fod yn y man lleiaf chwech neu saith mil yn ei gyfarfod wrth yr orsaf. Teimlai pawb yn falch wrth weled Dr. Price unwaith etto yn Aberdar. Y nos Iau ganlynol,cafwyd cyfarfod cyhoeddus yn Nghalfaria, er croesawu yDr. ar ei ddychweliad. Yr oedd 27 o weinidogion yn ycwrdd, yn nghyd â llawer o fasnachwyr cyfrifol a lleygwyrblaenaf a pharchusaf yr enwad yn y dyffryn a'r sir. Darllenwyd anerchiad caredig gan Mr. Jenkin Howell, arweinydd y cor, i Miss Emily Price, ar ran y cor; a chyflwynwydwork table iddi gan Mr. John Roberts, arweinydd y corbach, dros y plant. Cyflwynodd Miss Jones iddi hefydFeibl addurnedig oddiwrth ddosparth o wragedd da. Cyflwynwyd hefyd anerchiadau oddiwrth yr eglwys a'r gweinidogion i'r hybarch Ddr., ac yr oedd yr holl roddion a'r anerchiadau yn tystio fod yn dda gan yr eglwys yn Nghalfariaeu gweled wedi dychwelyd o'u teithiau meithion. Rhagfyr22ain, 1869, cafodd Dr. Price ei anrhydeddu â chiniawcyhoeddus, yn Music Hall y Cardiff Castle Hotel. Yr oeddy cwmpeini cynnulledig o'r fath fwyaf anrhydeddus, ac yncynnwys rhai o brif foneddigion y lle. Addurnwyd yrystafell yn ddestlus ar yr achlysur, ac o bob tu i'r gadaircrogai llumanau Americanaidd a Brytanaidd. Llanwyd ygadair gan I. D. Rees, Ysw., yr is-gadair gan Dr. Davies,Bryngolwg. Ar yr ochr dde i'r cadeirydd eisteddai yParchus Ddr. Price, guest y prydnawn, ac ar y tu arall yreisteddai Richard Fothergill, Ysw., yn nghyd â ColonelH. Davies, yr American Consul. Cafwyd cyfarfod bywiog adyddorol, ac anerchiadau tanllyd gan amryw o foneddigionparchus Aberdar a'r cylch, a'r oll yn llwythog o deimladaua dymuniadau da i arwr y cwrdd yr enwog. Ddr. Price."Dichon y bydd yr adroddiadau hyn am yr arwyddion obarch a wnaed i'r Dr. anwyl yn creu amheuaeth yn meddyliau y rhai nid adwaenent ef, a gallant dybio fy mod yndefnyddio gormodiaeth; ond nid felly, canys gwyr y rhaigawsant adnabyddiaeth bersonol o hono nad ydym ond ynrhoddi adroddiad syml o'r hyn a gymmerodd le yn mywydy gwr enwog. Nid ydym yn gwybod am un gweinidog yny Dywysogaeth gafodd anrhydeddau a pharch mwy na'rDr., fel y cawn ddangos yn mhellach mewn cyssylltiadauereill. Y mae y rheswm am hyn oll i'w gael yn y llafura'r gwaith rhyfeddol gyflawnodd, a hyny gyda'r amcanionuchelaf, ac yn yr yspryd a'r teimladau mwyaf hunanymwadol. Dywedwn, nad oedd yr oll, wedi y cwbl, ondgweithiad allan gynghor yr apostol, "Talu parch i'r hwnyr oedd parch yn ddyledus iddo."

PENNOD XIV.

Y DR. FEL GWLEIDYDDWR.

Amgylchiadau yn dangos dyn—Y "Ffwrn Dân" a'r "Ffau—Cynffoni a bradychu yn y cylch gwleidyddol—Y Dr. yn egwyddorol —Y Dr. a'r Dreth Eglwys—Yn gefnogwr Cymdeithas Rhyddhad Crefydd—Yn allu mawr mewn brwydrau etholiadol—Areithiodd ac ysgrifenodd lawer ar wleidyddiaeth—Ymosodiadau llechwraidd arno—Y Dr. a H. A. Bruce, Ysw.—Y Tugel–Pryddest i̇'r Dr.—Etholiad Merthyr ac Aberdar yn 1869—Barn "Baner ac Amserau Cymru" am dano—Y Dr. yn cael ei gablu—Yn amddiffyn ei hun—Y Dr. yn ymgeisydd Seneddol yn Aberhonddu—Ei anerchiad—Barn Cefni a Kilsby Jones am dani—Y Dr. yn encilio ar ol gwasanaeth gwerthfawr i Ymneillduaeth—Cyfarfod Cyhoeddus yn Aberhonddu—Tysteb ac Anerchiad yn cael eu cyflwyno iddo.

MAE dynion egwyddorol yn fwy prin yn y byd nag y meddylir yn aml. Tra y mae pobpeth mewn cymdeithas yn myned yn mlaen yn esmwyth, braidd y gellir gwybod y gwahaniaeth rhwng dynion a'u gilydd. Y MAE digon o wahaniaeth yn bod, ond ni welir ef yn eglur hyd yr eglurir ef gan amgylchiadau. Y mae llawer yn cael eu hystyried yn egwyddorol a chysson tra y mae pob peth yn rhedeg yn ei gwrs yn llyfndeg, ond pan gymmer tro mewn amgylchiadau le, deuant i'r golwg, a cheir gweled eu hegwyddorion, a'u hymddygiadau yn gyssylltiedig â hwynt. Nid oes dim fel amgylchiadau i ddadblygu egwyddorion ac i brofi gonestrwydd neu anonestrwydd dynion gyda hwynt. Oni b'ai y ffwrn dân cyfrifid o bossibl y tri llanc yn Dura gyda yr "holl bobl,” ac ni allai byth fod camsyniad mwy, canys ni chafwyd erioed well enghraifft o annghydffurfwyr nâ'r rhai hyn. Esponiodd y ffwrn dân gymmeriadau cynffonwyr y brenin paganaidd a'u hegwyddorion, a dygodd i'r golwg yn eglur egwyddorion annghydffurfiol y llanciau, a'u hymlyniad diysgog wrthynt. Tebyg fu amgylchiadau y ffau yn hanes y llanc egwyddorol Daniel.

Nid ydym yn gwybod am lawer o gyssylltiadau y bywyd dynol ag yr arferir ac y cyflawnir mwy o dwyll a hoced ynddynt nag yn y cylch gwleidyddol. Mawr yw y prynua'r gwerthu, y cynffoni a'r bradychu, sydd wedi bod yn ybyd gwleidyddol erioed; ac ymddengys, yn ol arwyddiondiweddar, fod dynion yn myned yn fwy corsenaidd fyth:chwythir hwy i unrhyw a phob rhyw gyfeiriad ond y cyfeiriad y dylent ymsefydlu yn ddiysgog ynddo. Y mae yranwadal, y cyfnewidiol, a'r ansicr i'w cael o hyd—"y cyrsyn cael eu hysgwyd gan wynt." Y mae yr hunangeisiolyn lluosog yn y byd, ac yn caru esmwythyd: y "dorth a'rcosyn" a'r "dillad esmwyth" yw y cwbl a'u llywodraethant. Rhaid cael egwyddor y proffwyd i wneyd dyn gonest,sefydlog—un a saif hyd bod yn ferthyr dros egwyddor agwirionedd.

Dichon fod y profedigaethau osodir o flaen dynion yn ybyd gwleidyddol yn fwy nerthol ac effeithiol i'w gwneydyn llechwraidd a bradwrus nag mewn cylchoedd ereill.Gellir rhoddi y cusan bradwrus yn fwy dirgel yn y Tugelna "cherbron y dyrfa," ac y mae yn bossibl y bydd yweithred gythreulig wedi codi i bris uwch na deg-ar-ugain o arian." Ond tra y mae llawer o gymmeriadauisel a diegwyddor i'w cael—rhai a fradychant eu hegwyddorion ac a werthent eu holl hawlfreintiau am lai o werthnag a wnaeth Esau—gallwn ymffrostio mewn llawer oddynion egwyddorol, gonest, sefydlog, a diysgog yn euhymlyniadau gwleidyddol. Un o'r cyfryw oedd yr hybarchDdr. Price. Yr oedd yn Rhyddfrydwr o argyhoeddiad acegwyddor. Nis gallasai fod yn ddim arall. Cafodd eiosod ar brawf yn fynych. Gofynwyd iddo lawer tro ymgrymu yn wleidyddol gerbron y ddelw aur, ond nid oedddim swyn ynddi iddo ef. Gwell fuasai ganddo dori naphlygu ger ei bron. Yr oedd ei galon yn rhy bur, ei feddwlyn rhy oleuedig, a'i argyhoeddiadau yn rhy ddyfnion adwys, iddo ef gusanu yn fradwrus Ymneillduaeth ac Annghydffurfiaeth, ac felly eu gwerthu i'w gelynion. Rhoddodd brawfion boreuol o hyn; oblegyd cawn ef pan yn ddynieuanc yn gosod ei fwyall ar wreiddyn pren Toriaeth, acyn ergydio yn effeithiol ar ei thrais a'i gormes; ac nid ymataliodd ei defnyddio hyd ei fedd. Yn ei ysgrif alluog arDr. Price yn y Geninen am Orphenaf, 1888, dywed Dr.Morgan (Lleurwg):—

"Ar ddechreuad ei weinidogaeth yr oedd Rhyddfrydwyr Aberdar,fel llawer o blwyfau ereill yn y Deyrnas, yn teimlo yn bur anesmwyth o dan ormes y Dreth Eglwys. Ar gychwyniad yr ymdrech i dafluymaith y baich, taflodd y Dr. Price ei hunan i'r ymdrech â'i holl galon,â'i holl enaid, â'i holl nerth; ac nid hir y bu cyn taro gwrthddrych eiddygasedd â dyrnod angeuol. fel y cyfaddefai y Ficer Griffiths, wedihyny Periglor poblogaidd Merthyr Tydfil, fod yr angenfil wedi trengu,a bod yn rhaid claddu yr ysgerbwd. Wedi hyny, yn 1847, cymmeroddran blaenor yn yr ymgyrch genedlaethol o blaid merched a gwrageddCymru yn ngwyneb camgyhuddiadau offeiriadon Eglwys Loegr wrthyr yspïwyr estronol hyny a ddanfonwyd gan y Llywodraeth i'n gwladi edrych ansawdd foesol y Dywysogaeth. Mewn gair. tra y bu y Dr.yn ein mysg, yr oedd bob amser yn barod i ddyfod allan i wrthwynebuymdrechion gelynion estronol, yn nghyd ag eiddo bradwyr cartrefol, ynerbyn ein hiaith, ein gwlad, ein cenedl, a'n crefydd."

Yr amgylchiad y cyfeiria yr hybarch Ddr. Morgan atoydyw mater cael claddfa gyhoeddus i Aberdar. Wedidyfodiad Deddf Cau y Mynwentydd mewn grym, symmudwyd gan brif ddynion Aberdar i gael claddfa gyhoeddus i'rlle: cyhoeddwyd festri yn yr Hen Neuadd Drefol, a gweithiodd Blaid Eglwysig yn dda i gario allan eu cynlluniaua chyrhaedd eu hamcanion i gael y cwbl dan eu rheolaeth.Cymmerwyd y gadair gan Mr. H. A. Bruce, a rhan yny cyfarfod gan Mri. Crawshay Bailey, Thomas Wayne(Gadlys), R. Fothergill, y Parch. J. Griffiths (y Ficer), acereill; ond yr oedd yr Ymneillduwyr wedi dechreu dihunoac wedi dyfod yno yn lluosog ar gymhelliad y Parch, Thos.Price, Penypound, Mr. Thomas Joseph, ac ereill. Cynnygiwyd gan Mr. Crawshay Bailey ac eiliwyd gan Mr.Thomas Wayne, (1) Fod claddfa gyhoeddus i fod, ac fody tir i gael ei drainio a'i furio o gwmpas. (2) Fody gladdfa*gyhoeddus i fod dan ofal ac awdurdod Ficer y plwyf. (3)Fod Treth Eglwys i'w chodi ar y plwyf i gyfarfod yr holldreuliau cyssylltiedig â hi. Cyn gosod yr uchod i'r cyfarfodwele Mr. Thomas Joseph ar ei draed, ac yn cynnyg gwelliant, a Price ar unwaith yn myned yn mlaen i'r flaensedd,yn gwynebu y gynnulleidfa, ac yn eilio y gwelliant mewnaraeth hyawdl, danllyd, ac anatebadwy, yn y Saesneg amtua hanner awr. Trodd y byrddau yn llwyr ar y rhaioeddynt wedi bwriadu a chynllunio cael pobpeth i'w dwylaw eu hunain. Cariodd y gwelliant gyda mwyafrif mawr,ac i gefnogi Price am ei wroldeb, cododd Mr. R. Fothergilli ddweyd ei fod yn hollol o'r un farn â'r dyn ieuanc Price gyda golwg ar yr egwyddor rydd ewyllysiol, ac hefyd ar ytegwch, gan fod yr Ymneillduwyr gymmaint yn lluosocachna hwy, yr Eglwyswyr, iddynt gael llais ac awdurdod ar ygladdfa gyhoeddus fwriedid ei chael i Aberdar, ac i brofi eifod yn ddifrifol yn y mater, rhoddodd archeb am £100 atiar unwaith. Terfynwyd y cwrdd wedi dyrysu cynlluniauy Ficer a'i blaid, ac ni fu son mwyach am y Dreth Eglwysyn Aberdar. Cododd hyn Price yn uchel yn ngolwg Annghydffurfwyr y dref a'r dyffryn, ond bu yn nod i saethau am amser gan y blaid wrthwynebol.

Arweiniodd yr amgylchiadau crybwylledig ef i gymmerydcam mwy penderfynol yn erbyn Toriaeth yn ei gwahanolarweddion, ac yn neillduol gyssylltiad eglwys â gwladwriaeth, nag a gymmerasai efe erioed o'r blaen. Dywedai ynei herbyn, a rhoddai ergydion trymion iddi yn aml o'r pwlpud a thrwy y wasg, ac ymdrechai yn egniol dros egwyddorion Rhyddfrydig yn amser etholiadau ac ar bob adeg ycai gyfleusdra.

Yn fuan drwy hyn cododd i safle uchel fel gwleidyddwr,ac yn wir, cydnabyddid ef yn awdurdod ar y pwnc. Yroedd o'r dechreuad yn un o gefnogwyr mwyaf diffuantCymdeithas Rhyddhad Crefydd. Darllenai yn awyddusei holl lenyddiaeth boliticaidd, a myfyriai hi yn drylwyr, abu hyn, yn ddiddadl, yn foddion i angerddoli ei deimladau,a'i wneyd yn fwy penderfynol a beiddgar yn ei ymdrechiono blaid rhyddid gwladol a chrefyddol. Cymmerodd ranflaenllaw yn mhob etholiad o bwys—lleol a sirol—o'i sefydliad yn y weinidogaeth hyd derfyn ei oes. Bu yn gynnorthwywr effeithiol i C. R. M. Talbot, Ysw., Margam; H. H.Vivian, Ysw.; H. A. Bruce, Ysw., yn awr Arglwydd Aberdar; L. L. Dillwyn, Ysw., Abertawe; Richard Fothergill;a llu ereill a ellid eu nodi, yn eu brwydrau etholiadol. Panfuasai brwydr etholiadol yn ymddangos megys yn y pellder,ceid gweled yn gyffredin yr Aelodau Seneddol a'u swyddogion yn cyfeirio eu camrau tua'r Rose Cottage, ac ynceisio sicrhau cynnorthwy a dylanwad yr enwog Ddr. Panyn ddyn ieuanc, yn anterth ei nerth a'i ogoniant, nid ynaml y deuai i'r un esgynlawr ag ef neb i'w guro fel areithiwr gwleidyddol. Yr oedd bob amser yn sicr o'r hwylfwyaf, a chariai y cwbl o'i flaen megys llifeiriant. Yr oeddcuddiad ei gryfder yn hyn, fel mewn cyfeiriadau ereill, ynei allu digyffelyb i alw i fyny at ei wasanaeth ystadegau a ffeithiau o'r gorphenol, yn nghyd â'i fedrusrwydd dihafal i wneyd y defnydd goreu o honynt ar y pryd. Areithiodd lawer ar wleidyddiaeth gyda grym a dylanwad anwrthwynebol. Ysgrifenodd fwy yn y gwahanol newyddiaduron a fuont dan ei ofal golygyddol, megys y Gweithiwr, y Gwron, Seren Cymru, a chyhoeddiadau wythnosol a misol ereill. Yr oedd myned i gyfarfodydd politicaidd yn foddhad i'w enaid, ac yno yn gyffredin y gwelid ef yn ei ogoniant penaf, o herwydd yr oedd yn llwyfanwr ardderchog.

Yr oedd ynddo lawer iawn o wroldeb yspryd, yr hwn a'i gweithiodd yn mlaen aml dro yn ngwyneb y llifeiriant gwrthwynebol, ac a'i cariodd i fuddugoliaeth drwy lawer brwydr danllyd. Ymosodid yn greulawn arno ar lawer adeg gan Doriaid penboeth ac Eglwyswyr defodol. Rhuthrwyd arno yn llechwraidd mewn papyrau dyddiol, wythnosol, a misol, yn aml, mewn ysgrifau bryntion dan ffugenwau anadnabyddus. Arllwysid arno ganddynt holl felldithion Eglwys Rhufain a'i merch, yr Eglwys Sefydledig; ond nid oedd digon o allu ganddynt i'w ladd na digon o ddylanwad gan eu herlidigaeth i'w darfu na'i ddychrynu. Yn mlaen yr elai er pob dirmyg, heb brisio dim a ddywedai neb yn ei erbyn. Ymlynu wrth egwyddor a gwirionedd wnelai pe y gorfodid iddo dderbyn yr un dynghed â'r Bedyddiwr gynt. Nid amddiffyn yr egwyddorion Rhyddfrydig ac Ymneillduol yn unig yr oedd; eithr cymmerai yr ochr ymosodol (aggressive). Nid oedd yn credu mewn bod yn llonydd ac esmwyth, fel llawer, tra y cai lonyddwch; eithr teimlai ei bod yn ddyledswydd orphwysedig arno, er mwyn crefydd, dyn, a Duw, i dori ar draws pob rhith o ormes ac annghyfiawnder yn y byd politicaidd a chrefyddol, yn gystal ag amddiffyn cyfiawnder ac uniondeb cymdeithasol.

Dywedai efe ei feddwl yn ddifloesgni wrth yr Aelod Seneddol ar yr esgynlawr o flaen ei wyneb os gwelai yr aelod yn rhy araf ei gerddediad gyda brasgamau Rhyddfrydiaeth. Cawn ef yn ddynol a gwrol yn croesi cleddyf â'r enwog H. A. Bruce, yr Aelod dros Ferthyr yr adeg hono, yn y cyfarfod gogoneddus a gynnaliwyd yn gyssylltiedig â'r giniaw anrhydeddus a roddwyd gan Bwyllgor Rhyddfrydig Mri. Talbot a Vivian yn yr Assembly Room yn Aberdar dydd Mawrth, Ebrill 21, 1857, pryd yr oedd pump aelod y sir yn bresenol. Gwrthodai Mr. Bruce yr adeg hono addaw pleidleisio dros y tugel,[14] a chymmerodd Price ef i fyny am hyny, a dangosodd iddo fod yn rhaid i'r tugel ddyfod yn ddeddf y wlad, a dymunai arno gofio nadoedd efe (Mr. Bruce) ond gwas mewn ystyr, yn agored igael ei droi o'r neilldu a chael arall yn ei le. CyfeirioddPrice yn ei araeth alluog yn y cyfarfod hwnw at amryw ofesurau pwysig ydynt erbyn heddyw yn ddeddfau y deyrnas.Dangosai hyn y gwleidyddwr ieuanc llygadgraff oedd ypryd hwnw yn cael ei alw yn "Price Penypound." Yroedd Price yn un o brif arwyr y cwrdd soniedig, oblegydbu yn un o'r rhai mwyaf blaenllaw gyda'r etholiad yflwyddyn hono. Edrychid arno, a siaredid am dano, yradeg hono fel un o'r etholiaduron mwyaf effeithiol a phoblogaidd. Gweithiodd mor dda, brwydrodd mor lew, fel yrennillodd barch ac edmygedd holl Ryddfrydwyr y sir, adangosodd rhai eu syniadau ffafriol am dano fel y gosodasant ef yn destyn pryddest mewn eisteddfod o gryn fri acYn y Gwron am Hydref 31, 1857, ymddangosodd ybryddest fuddugol, awdwr yr hon oedd yr enwog LewLlwyfo. Wele y pennawd:—"Pryddest i'r Parch. ThomasPrice, Aberdar, am ei ymdrechion clodwiw yn yr etholiaddiweddar yn Morganwg. Buddugol yn Eisteddfod Ystradyfodwg ar y 14eg o Fedi, 1857." Mae y bryddest brydfertha godidog hon yn rhy faith i'w gosod i fewn yma, er morfawr y carem allu gwneuthur hyny; etto, anturiwn osodambell adran fechan lle y gwelwn ddarlun o Price, ac yteimlwn megys guriadau ei galon wrol. Dywed y bardd,

"Pan oedd cyffro drwy yr holl wladwriaeth,
A dwyblaid gref yn ceisio buddugoliaeth,
Gormes a rhyddid yn noethi eu cleddyfau,
Yn casglu eu lluoedd, ac yn ffurfio eu rhengau,
I frwydr ar faes etholiad cyffredinol,
Daeth Price yn mlaen yn arddull arwr nerthol
I frwydro o dan faner chwifiawg Rhyddid;
Dadweiniodd ei ddaufiniog gledd trybelid;
Ar ben y rheng y gwelid ef yn amlwg
Yn llywio adran rymus Swydd Forganwg.

Forganwg hoff! ti gefaist ymdrech galed
I gadw'th ben rhag gormes a chaethiwed.
Gwnaed beiddgar gais gan lu o dreiswyr trawsion
I'th gael i ethol gwr i blith Seneddion
A wrthwynebai bobpeth sydd ryddgarol,
A dwyn dy enw mawr i warthrudd oesol;
Ond gwelwyd Price yn mysg dy feib Rhyddfrydig
Yn ymladd drosot gydag aidd llwyrfrydig;
Dan eu harweiniad, darfu iti ethol
Rhai amddiffynant dy iawnderau gwladol—

Rhai a ymrestrant o dan faner Rhyddid—
Gwyr teilwng o dy fawredd a'th gadernid.
Ond gwelid dewrion ar y maes yn barod,
A Price yn arwr yn y fyddin hyglod,
Yn arllwys ei gawodydd o hyawdledd
Yn erbyn gormes ac o blaid gwirionedd.
Ymrodd yn wrol dros ein hannybyniaeth,
Attegodd heirdd golofnau Ymneillduaeth
A rhyddid gwladol yn ei holl agweddau,
Gan benderfynu cadw ein hiawnderau,
Ac ennill tir y dylem ei feddiannu
Tir newydd lawer er ein gwir ddyrchafu.
Anfadrwydd gormes a wnaeth ef yn amlwg;
Ymrodd i'w charthu byth o hen Forganwg;
Yr oedd ei areithyddiaeth fel tân ufel
Yn difa Toriaeth ar faes mawr y rhyfel,
A'i wych ysgrifeniadau yn trydanu
Calonau gwladgar meibion dewrion Cymru.

Terfyna fel y canlyn:—

Ar frwydr faes Etholiad Cyffredinol,
A fynent ddial mewn etholiad lleol;
Ac wedi arfer pob ystranc ac ystryw
Na fu o fewn ein gwlad erioed ei gyfryw,
Maent heddyw yn siomedig eu teimladau,
Ac mewn cywilydd dwfn yn cuddio u penau,
A Price a'i blaid mewn perffaith oruchafiaeth,
Yn gallu gwenu ar eu gwael ddallbleidiaeth.
Wladgarol foneddwr, mwynhewch eich anrhydedd,
Parhaed eich gwych enw mewn oesol glodforedd."

Un o'r brwydrau gwleidyddol poethaf y bu y Dr. ynddierioed oedd etholiad Merthyr ac Aberdar yn nechreu yflwyddyn 1868. Cymmerodd amgylchiadau dro rhyfedd yradeg hono, a chafodd y Dr. ei hun mewn sefyllfa gyfyng,ac i raddau yn anhapus, er iddo ymddwyn yn eithaf cyssonyn yr ornest o'r dechreu i'r diwedd. Yn yr etholiad soniedig yr oedd aelod ychwanegol, neu ail aelod, yn cael eiroddi am y tro cyntaf yn Merthyr ac Aberdar. Cyflwynoddpum' boneddwr parchus eu hunain i sylw y fwrdeisdref,gan geisio yr anrhydedd o'i chynnrychioli yn y Senedd;ond enciliodd dau o honynt, sef B. T. Williams a W. M.James o'r maes cyn yr etholiad. Yr oedd y Dr. a'r henaelod, y Gwir Anrhydeddus H. A. Bruce, yn hen gyfeillion,ac wedi ymladd llawer brwydr wleidyddol galed gyda'ugilydd, er nad oedd Mr. Bruce mor Rhyddfrydol ag y caraiy Dr. iddo fod, yn neillduol mewn cyssylltiad â'r tugel, yDadgyssylltiad a'r Dadwaddoliad. Yr oedd yn naturiol iddo barhau yn ffyddlon i'r hen aelod oedd wedi rhoddigwasanaeth gwerthfawr iddynt am ryw bymtheg mlynedd,hyd y caffai resymau digonol i'w daflu dros y bwrdd. Nichollodd Richard Fothergill amser na chyfleusdra i wneydei fwriad i ddyfod allan yn ymgeisydd yn wybyddus i'retholwyr; ac fel un fu yn cydweithio mewn llawer o gyssylltiadau â'r Dr. i godi sefyllfa gymdeithasol, wleidyddol,a chrefyddol Aberdar, yr oedd yn naturiol iddo geisiodylanwad a chynnorthwy ei hen gyfaill Dr. Price. Llwyddodd i sicrhau ei addewid, ac ymbarotodd yn ebrwydd i'rfrwydr. Yn y cyfamser, cymhellwyd y diweddar barchus ac anrhydeddus aelod, Mr. Henry Richard, i ddyfodallan, a chydsyniodd yntau â'r cais, a hyn a wnaeth i'r Dr.gael ei wthio i gyfyngder, oblegyd yr oedd efe ei hun wedibod yn galw flynyddau cyn hyny sylw Merthyr ac Aberdara Chymru o ran hyny at Mr. Henry Richard fel un cymhwysi gynnrychioli rhyw ran o Gymru yn Senedd Prydain Fawr.Ysgrifenwyd llawer o lythyrau o bob tu yn yr ymgyrchetholiadol hon, a chyhoeddid anathema o wahanol gyfeiriadau ar y Dr. am ei fod, fel y camddarlunid ef, i niweidio achos yrhai a bleidiai, yn ymddwyn yn annghysson; ondbu y Dr. yn alluog i amddiffyn ei hun, ac i roddi rhesymaudigonol i'r diragfarn am y cwrs a gymmerodd. Er fodllawer o guro arno y pryd hwnw o wahanol gyfeiriadau,etto, amddiffynid ef gan wleidyddwyr goleuedig a phrofiadol, fel y cawn enghraifft yn y dyfyniad canlynol:—

"Ni a gymmerwn y cyfle yn y fan yma i ddiolch i ohebydd a chyhoeddwr Baner ac Amserau Cymru am y dull boneddigaidd a pharchus ymaent yn ysgrifenu am Dr. Price, mewn ysgrif arweiniol, yn cynnwysyn agos i naw colofn o'r Faner, am Hydref 30, 1867. Dyma y ffordd ini ddeall ein dyledswydd, deall ein gilydd, a chyrhaedd yr amcan pwysigo wneyd y goreu dros Gymru yn yr ymdrech a gymer le yn 1869. MaeDr. Price wedi cael digon o'i gablu bellach, ac y mae yn iechyd i ddynddarllen yr ysgrif faith sydd yn y Faner. Mae yn llym mewn rhaimanau—mae fymryn yn gamsyniol mewn manau ereill; ond beth amhyny, mae yn ddynol, yn onest a gwyneb-agored, ac yn hynod o barchusi'r dyn sydd dan y wialen fedw. Oni bai y gras o ostyngeiddrwyddsydd ynom, byddem yn teimlo awydd i godi yr ysgrif bob llinell o'rFaner i'r Seren; ond y mae yn rhy dda i ni yn wir; nid ydym ynhaeddu yr holl glod a roddir i Dr. Price yn yr ysgrif dan sylw; ond etto, diolchwn am bob llinell sydd yn yr ysgrif faith hon."

Gweler Seren Cymru am Tachwedd 8, 1867.

Yn Seren Cymru am Ragfyr 13, 1867, cawn lythyr galluog a maith gan y diweddar hybarch Daniel Morgan,Blaenafon, at y Dr. ar y mater, mewn atebiad i'r hwn maey Dr. yn yr un Seren, ac yn y colofnau dylynol, wedi ysgrif—enu llythyr maith yn egluro ei sefyllfa, ac yn rhoddi rhesymau am y llwybr a gymmerai. Byddai yn dda genymallu rhoddi ei lythyr yma, ond gan ei fod mor faith, niosodwn ond yn unig ei ragymadrodd i'r pwyntiau gânt eisylw yn y llythyr, a bydd hyny, ni a gredwn, yn ddigon iddangos y sylw dderbyniai yr achos, a'i deimlad a'i benderfyniad yntau yn yr helynt. Dywed,

"Diolch yn fawr i chwi, frawd anwyl, am eich llythyr caredig, achymmeraf y cyfle presenol i ddiolch hefyd i T. Minchell, Ysw., Wrexham; C. Darley, Ysw., Brymbo; Dr. Prichard, Llangollen; Parch. H.S. Brown, Lerpwl; T. E. Minchell, Ysw.; Dr. Thomas, Pontypool;W. H. Darby, Ysw.; Thomas Gee, Ysw.; Henry Richard, Ysw.; C.H. James, Ysw., a lluaws ereill o foneddigion na welais hwynt erioedac oll ar yr un testyn â chwithau, a'r oll fel y chwithau yn ymddwynyn foneddigaidd a brawdol—mor wahanol i'r cableddau anwireddussydd wedi eu lluchio ataf wythnos ar ol wythnos o dan fantell ffugenwau, oddiwrth y rhai a broffesant eu hunain yn gyfeillion i Mr H.Richard; ond, mewn gwirionedd, y gelynion penaf a fedd efe a'r achosa bleidia; am hyny, crefaf eich hynawsedd, tra yn gwneyd sylw neuddau mewn atebiad i'ch cais caredig a boneddigaidd. Gwnaf hyny nidfel un o olygwyr Seren Cymru, nac fel gweinidog yn Nghymmanfa Morganwg, ond fel dinesydd ac etholwr yn Mwrdeisdref Merthyr ac Aberdar. Nid oes neb i fod yn gyfrifol am yr hyn a wnaf yn y cymmeriado ddinesydd ac etholwr, ond myfi fy hun. Yr wyf yn teimlo gorfodiadi ddweyd hyn, gan fy mod wedi profi rhyddid llawer o'r rhai a broffesant eu hunain yn rhyddgarwyr yn greulon i mi; nid oes unrhyw erledigaeth yn rhy isel a gwael iddynt."

Yna rhydd y Dr. ei resymau yn gyflawn ac eglur, a chredwn eu bod yn ddigonol i'w gyfiawnhau am ei ymddygiada'i weithrediadau. Terfyna ei lythyr drwy ddweyd,

Gwn, anwyl frawd, y rhoddwch chwi i mi gredit o fod yn onest achydwybodol. Nid yw Fothergill, na Bruce, na Richard, yn ddim imi, nid wyf yn nyled un o honynt; ni ddarfu i mi ofyn am werthhatling erioed o ffafr bersonol oddiar law un o'r tri. Felly, yr wyf ynymddwyn yn gwbl annibynol, ac oddiar argyhoeddiad fy mod yn gwneyd y peth goreu i'r trefydd pwysig sydd yn ffurfio y fwrdeisdref; tra ar yrun pryd yn sicrhau aelod hollol ryddgarol yn ystyr oreu y gair."

Tebyg fod llawer iawn o'r teimladau chwerwon a godentac a ddangosid tuag at y Dr. yr adeg hono yn tarddu oddiardeimlad enwadol yn fwy nâ dim arall, yr hyn sydd ynrhy aml yn cael ei arddangos i raddau gormodol mewnetholiadau; ond er llymder yr erlidigaeth i gyd a'r stormydd chwerwon yr aeth drwyddynt, gweithiodd Price ynegniol a phenderfynol drwy yr ornest, ac er i'r hen aelodgael ei ddiseddu, ni chollodd Rhyddfrydiaeth ddim, oblegyddychwelwyd dau Ryddfrydwr trwyadl, a chydweithiasantyn hwylus am amryw flynyddau.

Yn y flwyddyn 1865 cawn y Dr. Price yn ymgeisyddSeneddol yn ei hen sir enedigol, Brycheiniog. Trwy farwolaeth y Milwriad Watkins daeth y gynnrychiolaeth ynrhydd, ac yr oedd dau foneddwr, Mr. Gwyn o'r Dyffryn acIarll Aberhonddu, yn ymgeisio am fod yn olynydd iddo.O'r ddau hyn, Iarll Aberhonddu oedd y mwyaf Rhyddfrydol, er nad oedd efe o bell ffordd yn dyfod i fyny â'rhyn y carai Rhyddfrydwyr goleuedig ac egwyddorol Aberhonddu iddo fod. Gan nad oedd syniadau politicaidd yddau ddyn hyn yn rhoddi cyflawn foddhad i gorff mawrRhyddfrydwyr y fwrdeisdref hon, anfonasant gais taer aty Dr. Price i sefyll fel ymgeisydd, ac anfon anerchiad ynddiymaros at yr etholwyr. Mewn atebiad i hyn dywedaiy Dr. "mai ei ddymuniad gwirioneddol a chalonog ef fuasaigweled boneddwr o ddylanwad lleol ac o olygiadau goleu adigamsyniol yn cynnrychioli Aberhonddu; pe byddai iIarll Aberhonddu osod o flaen yr etholwyr gyffes wleidyddol eglur a dealladwy, gan ddatgan ei barodrwydd ifyned yn mlaen gyda'r oes i ddiwygio y CyfansoddiadPrydeinig, i roddi ei le priodol yn yr etholres i'r gweithiwrdiwyd a gofalus, ac i ryddhau crefydd oddiwrth ei chyssylltiad ansanctaidd â'r wladwriaeth, y byddai yn ddaganddo ef ei weled yn cynnrychioli y dref henafol sydd ynrhoddi iddo ei deitl." Ond gan nad oedd y naill gynnrychiolydd na'r llall yn dyfod i fyny â hyn, credai mai dyledswydd yr etholwyr oedd ymwrthod â'r ddau. Yn methucael cynnrychiolydd Rhyddfrydol addas a theilwng i'wboddloni, y mae etholwyr Rhyddfrydol Brycheiniog ynparhau i ddal eu gafael yn y Dr., er ei fod ef yn flaenorolwedi nacau, gan eu cyfeirio at foneddion o addasrwydd mawr ac urddas, ac yn eu plith Mr. Henry Richard, Llundain; ond drwy barhad dirgymhellion llawer o'r etholwyr,a phersonau o allu a dylanwad, penderfynodd ymladd yfrwydr, neu i'r Iarll dderbyn yn llawn y prwygraifft Rhyddfrydol. Mewn nodiad golygyddol o'i eiddo yn Seren Cymruam Tachwedd 17, 1865, dywed,

"Etholiad Aberhonddu. Mae Dr. Price yn dymuno diolch o galon i'rParch. Daniel Morgan, a nifer luosog ereill o ddynion da a sylwgar, ameu dymuniadau da, a'r awydd a ddangosant am iddo sefyll dros Aberhonddu. Mae hyn oll wedi peru iddo ymholi, ac agos penderfynu, osna fydd i'r ymgeisydd rhyddgarol lefaru yn fwy croew ac eglur nag ynei anerchiad cyntaf; ac os na fydd i neb arall ddyfod allan, o blaidrhyddid gwladol a chrefyddol, y bydd i Dr. Price roddi cyfle i'w hengyfeillion yn Aberhonddu ddadgan eu barn ar brif bynciau y dydd, yngystal â rhoddi eu pleidleisiau o blaid y cyfryw egwyddorion a ddylenthynodi etholwyr rhyddfrydig prif dref gwlad Brychan."

Yn Seren Cymru am Rhagfyr 22, 1865, cawn anerchiadauyn awr y tri ymgeisydd, sef Iarll Aberhonddu, HowellGwyn, a Thomas Price, ac y mae y gwahaniaeth rhyngddynt braidd yn annghredadwy. Dywed Cefni am anerchiad y Dr., "Y mae yn gredit i Dr. Price ei fod wedi cyfansoddi y fath anerchiad galluog, yr hwn o ran iaith a chyfansoddiad sydd yn tra rhagori ar eiddo y ddau ymgeisyddarall, ac annhraethol fwy politicaidd a didactic. "On theother hand, Dr. Price's address is simple, expressive, comprehensive, ably written the very thing—quite a credit tohimself, to Nonconformists in general, and to the Baptistsparticularly." Dyna ddywedodd Kilsby Jones am dani.Yr oedd cynnwysiad yr anerchiad mor orlawn o fater, eichyfansoddiad mor syml, a'i geiriad mor eglur, fel nad oeddeisieu treulio amser i'w hegluro. Rhwymai y Dr. ei hunynddi i bleidio pob mesur diwygiadol er lles y wlad—diwygiad Seneddol, addysg y bobl, y tugel, dyddimiad yDreth Eglwys, cymdeithasau cyfeillgar, agoriad y prifysgolion i'r Annghydffurfwyr, yn nghyd â phob mesur daarall. Yn gweled anerchiad godidog y Dr., dychrynwydyr Iarll, ac aeth efe a'i gyfeillion yn ebrwydd i ystyried ymater, a phenderfynasant gyhoeddi ar unwaith ail anerchiad, a gwnaeth yr Iarll addewidion pwysig i'r etholwyrRhyddfrydol, a chymmerodd i fewn i'w anerchiad yr hyna geisiai y Dr.

Yn gweled ei fod wedi cyrhaedd ei amcan i sicrhaucynnrychiolydd yn addaw cymmeryd holl blanks y plat-form Rhyddfrydig i fyny, enciliodd y Dr. o'r maes, wedigwneyd gwasanaeth gwerthfawr, nid yn unig i wlad Brych-an, ond hefyd i'r Dywysogaeth yn gyffredinol, trwy gyffroiteimlad y werin, a'r dosparth gweithgar yn neillduol, ihawlio eu hiawnderau fel gweithwyr, ac i'w llais gael eiglywed yn Nhy y Cyffredin. Cafodd y Dr. yr adeg honolawer o lythyrau oddiwrth bersonau o ddylanwad ac urddas;ac oddiwrth berchenogion a golygyddion gwahanol newyddiaduron yn Nghymru a Lloegr yn addaw eu cefnogaeth ac yn cynnyg eu cynnorthwy iddo. Yn mhlith ereill derbyniodd lythyrau caredig oddiwrth berchenogion y National Reform Union, The Illustrated hristian Times, Daily Press (Bristol), The Merthyr Telegraph, The Merthyr Express, Baner ac Amserau Cymru, &c., &c. Derbyniodd hefyd lawer olythyrau o Gymru a Lloegr, yn taer ddymuno arno beidiorhoddi i fyny ei weinidogaeth a chylchoedd pwysig ereill owasanaeth a defnyddioldeb er mwyn y Senedd, gan yrofnent y byddai y golled yn y gwahanol gylchoedd pwysiga lanwai yn fwy nâ'r ennill wrth iddo gael sedd yn Nhy yCyffredin.

Nos Fercher, Ionawr 24, 1866, cyfarfu y Dr. yr etholwyrac ereill yn Neuadd Tref Aberhonddu, i'r dyben o egluroiddynt ei olygiadau gwleidyddol. Daeth yn nghyd un o'rcynnulliadau mwyaf lluosog a welwyd erioed yn yr hendref barchus i ddyben gwleidyddol, yr hyn oedd yn llefaruyn uchel iawn am barch ac anrhydedd y Dr. yn ei hengartref. Yn mhlith boneddigion o safle a dylanwad yn ydref ag oeddynt yn bresenol yr oedd John Prothero, Ysw.,Maer y dref; G. Gansick, Ysw., cyn-Faer; John Williams,Ysw., trengholwr; J. Joseph, Ysw.; T. C. Perks; H.Lloyd, Ysw.; Mr. Davies, gemydd; Mr. Bright, fferyllydd;Mr. Walton, y Parch. D. B. Edwards, &c. Hefyd, yr oeddamryw o gyfeillion pellenig y Dr. yn bresenol, sef y Parchn.W. Roberts (Nefydd), Blaenau; M. Phillips, Brynmawr;James, Pontestyll; Evans, Llangynnidr; Llewelyn, Erwood; John, Aberdar; Harris, Heolyfelin, &c., &c.

Cymmerwyd y gadair gan Mr. Jones, fferyllydd, yr hwn,wedi agor y cyfarfod mewn anerchiad byr a phwrpasol, aalwodd ar y Dr. i anerch y cyfarfod. Ar ei waith yn codiderbyniwyd ef gyda chymmeradwyaeth uchel. Traddododdiddynt un o'r areithiau mwyaf meddylgar, manwl, a galluog. Yr oedd yn gyflawn o wybodaeth a ffeithiau gwleidyddol, a'r traddodiad o honi, er yn y Saesneg, yn ystwyth,hyawdl, a meistrolgar. Er fod yno lawer o wrthwynebwyriddo yn y neuadd ar y cychwyn, etto, llwyr argyhoeddwydhwynt yn fuan fod y Tom Price a gablent yn flaenorol ynanrhydedd i'w gwlad fod y fath un wedi codi ynddi. Cyhoeddwyd yr araeth odidog hon yn rhai o brif newyddiaduron y deyrnas yn Gymraeg a Saesneg. Tynodd lawer osylw, a chafodd gymmeradwyaethau uchel gan wleidyddwyrgoleuedig a phrofiadol. Y mae yr araeth i'w gweled ynargraffedig yn Seren Cymru am Chwefror 9, 1866.

Ar ddiwedd y cyfarfod, wedi ateb nifer lluosog o ofyniadau, a derbyn llongyfarchiadau a chymmeradwyaeth yboneddigion a siaradent yn y cyfarfod a'r dorf, hyspysoddhwynt ei fod wedi cyrhaedd ei amcan drwy wasgu ychydigar Doriaeth allan o galon yr Iarll, a lledu tipyn ar ei feddwlyn gyssylltiedig â gwleidiadaeth ei wlad; felly, ei fod ynencilio o'r maes yn yr hyder y buasent yn uno eu galluoeddi ddychwelyd yn anrhydeddus yr ymgeisydd Rhyddfrydol.Diolchwyd yn wresog iddo am ei deimlad da a'i wasanaethgwerthfawr dros ei wlad a'i genedl. Derbyniodd hefydgymmeradwyaeth gyffredinol am y gwasanaeth mawr awnaeth i'r achos Rhyddfrydig yn Aberhonddu. Pasiwydpleidleisiau o ddiolchgarwch iddo mewn pwyllgorau achynnadleddau gwahanol, a chafodd ei anrhegu â thystebac anerchiad hardd gan gyfeillion yn Aberdar. Silver inkstand werthfawr oedd y rhodd, ar yr hwn yr oedd yn gerfiedig y llinellau canlynol:" Presented together with anAddress to the Rev. Thomas Price, M.A., Ph.D., in recognition of the services rendered by him to religious andpolitical freedom in connection with the election of theBorough of Brecon, 1866." Yr oedd yr anerchiad wedi eiargraffu mewn llythyren euraidd ar sidan lliwiedig, acmewn frame ardderchog. Cyflwynwyd hwy iddo mewnciniaw gyhoeddus wnaed er ei anrhydedd yn y CardiffCastle Hotel, Aberdar, nos Lun, Ebrill 8, 1867.

Gwnelai holl anerchiadau ac areithiau godidog y Dr. arbynciau gwleidyddol, ar wahanol achosion ac mewn gwahanol leoedd o bryd i bryd, gyfrol ddyddorol a gwir werthfawr pe cyhoeddid hwynt. Cymmerwn ein cenad bellachi adael y gwleidyddwr er cael golwg fer ar yr un person ynymddangos fel cymdeithaswr.

PENNOD XV.

Y DR. FEL CYMDEITHASWR.

Cymdeithasau yn hawlio sylw a chefnogaeth—y Dr. yn gymdeithaswr di ail—Odydd, Ifor, Alffrediad, a Choedwigwr—Llafurio yn helaethach gan Odyddiaeth ac Iforiaeth—Yn deall peirianwaith y cyfundebau dyngarol—Ei wybodaeth a'i brofiad o werth mawr i'r cymdeithasau—Yn ysgrifenu ac yn darlithio o'u plaid Yn llenwi swyddi pwysig—Y Dr. a Romeo ar giniaw—Yn is—lywydd yr Odyddion—Yn uwch—lywydd Y Cymro cyntaf ga'dd yr anrhydedd—Cyflwyno ffon iddo—Gwledd iddo yn Ngwrecsam—Anerchiad etto–Ciniaw i'w anrhydeddu yn Abertawe—Anerchiad etto—Anrhydeddau gan wahanol gyfrinfaoedd—Cyflwyno saf-addurnen ac anerchiad iddo gan Odyddion Cymru—Ei lafur gyda'r Iforiaid—Iforiaeth mewn perygl—Yn gweithio o'i phlaid—Adfer ei meddiannau—Cofrestru y rheolau—Uwch—lywydd yr Undeb Iforaidd ddwy flynedd yn olynol—Anerchiad a thysteb Iforaidd—Tysteb arall—Englynion iddo—Gwerthfawr gyda'r cymdeithasau—Penderfyniadau o gydymdeimlad, &c.


YR oedd Price yn ddyn mawr yn mha gylch bynag yr ymddangosai ynddo. Yr oedd disgwyliadau wrtho gyda phob gorchwyl yr ymgymmerai ag ef; ond yn gyffredin yr oedd yn fwy nag yr ymddangosai, a gwnelai fwy nâ llanw y dysgwyliadau wrtho. Safai mor uchel gyda y cymdeithasau cyfeillgar ag a wnelai mewn unrhyw gylch o ddefnyddioldeb y bu ynddo erioed, ac ni phetruswn ddweyd ei fod yn gweithio mor galed, ac yn cyflawnu cymmaint o ddaioni sylweddol ac amrywiol yn y cyfeiriad hwn ag a wnaeth mewn unrhyw gyssylltiad arall yn ei fywyd gwerthfawr. Yr oedd yn ystyr uchaf y gair yn ddyngarwr, a chydnabyddid ef yn gymdeithaswr di-ail.

Y mae cymdeithasau cyfeillgar ac yswiriol y wlad wedi dyfod yn allu mawr, ac y mae eu pwysigrwydd wedi dyfod y fath, fel yr hawliant sylw difrifol y gweithiwr, y masnachwr, y gwreng a'r boneddwr. Y maent wedi cael sylw mynych dynion o dalent ac athrylith yn eu hareithiau gorchestol—y Wasg mewn ysgrifau galluog, a'r Senedd mewn deddfwriaeth gyfaddas ac effeithiol, er fod gwelliantau i'w dymuno a'u dysgwyl etto. Dylai y cymdeithasau hyn gael cydymdeimlad dwbl pan yr ystyriom yramcan mewn golwg a'r dosparth lluosog sydd i'w llesolidrwyddynt. Darparu erbyn dydd blin ac adfyd y byw ynherwydd angen ydynt ddybenion penaf eu bodolaeth, a'rdosparth gweithgar yn fwyaf cyffredin a'u cyfansoddant.Felly, gan fod gweithwyr diwyd a gonest, yn eu hymornestag amgylchiadau y byd ac â brwydrau celyd bywyd, yn eucyfansoddi yn benaf, dylent gael sylw manylaf y doethawr,y cyfoethog, a'r urddasol, a chydymdeimlad dwys ac ymarferol pawb â'u hamcanion aruchel. Nid ydym yn gwybodam neb yn y Dywysogaeth a wnaeth gymmaint gyda athros y cymdeithasau dyngarol a'r hybarch Ddr. Price.Gellid meddwl, wrth ei weled yn gweithio yn ei gyssylltiadcrefyddol gyda'i eglwys barchus yn Nghalfaria a'i enwadanrhydeddus, ei fod yn canoli ei holl nerth a'i egnion yno,ac nad oedd ganddo allu nac amser i ddim arall. Wrthedrych arno a meddwl am ei weithgarwch dros a'i ymdrechion gyda gwleidiadaeth, gallem feddwl nad oeddganddo allu nac ychwaith amser i ddim arall. Ond wrthedrych arno yn ei berthynas â'r cymdeithasau dyngarolwed'yn, gellid tybied nad oedd yn talu sylw i ddim ondiddynt hwy, oblegyd gwyddai bob peth am danynt; cymmerai safle a rhan blaenor gyda phob mudiad o bwysperthynol iddynt; yr oedd yn barod i waith bob amser, acyn brydlon a deheuig yn ei gyflawnu. Deuai yn fynychdan farn condemniad rhai pobl gali (?) a gorgrefyddol oherwydd ei fod yn ymgyssylltu yn ormodol â'r clybiau;ond gellir bod yn sicr o hyn, iddo ef wneyd mwy o wir lesyn ei berthynas â'r cymdeithasau i'w gyd-ddynion nag awnaeth y clybiau o ddrwg iddo ef. Credwn pe cymmeraigweinidogion fwy o ddyddordeb ac arweiniad yn y cymdeithasau cyfeillgar, y byddai y cymdeithasau mewn cyflyrau gwell nag ydynt yn bresenol, ac y mae yn bossibl ycaffent gyfleusdra i wneyd mwy o ddaioni moesol i'w cydddynion. Bu y Dr. yn alluog i wneyd daioni annhraetholi gymdeithas yn ei gyssylltiad â'r cymdeithasau dyngarol.Yr oedd ganddo allu mawr, gwnaeth waith mawr, ac ennillodd drwy hyn anrhydedd a chlod mawr iddo ei hun.Perthynai efe braidd i bob urdd o bwys, a gwnaeth waithrhagorol gyda hwynt oll. Yr oedd er yn gynnar yn Odydd,Ifor, Alffrediad, a Choedwigwr, ac yn aelod o ryw chwech o wahanol gyfrinfaoedd, yn yr oll o'r rhai yr oedd yn ddef-nyddiol a phoblogaidd. Efe fyddai yn arwain mewn unrhywachos o bwys ganddynt bob amser, ac os byddai unrhywun o'r cyfrinfaoedd mewn cyfyngder, Price oedd yr unigwaredwr i redeg ato. Llafuriodd yn galed gyda'r urddauoll, a gwnaeth ddaioni mawr iddynt; ond gyda'r Odyddiona'r Iforiaid y llafuriodd helaethaf. Credwn mai gyda'rurddau hyn y myfyriodd efe y cyfansoddiadau ac y mynoddddeall peirianwaith y cyfundebau dyngarol a chyfeillgar;a chan fod yr urddau ereill yn sylfaenedig yn agos ar yr unseiliau, ac yn cael eu llywodraethu gan ddeddfau cyffelyb,yr oeddynt yn cael mantais o'i wybodaeth eang a'i brofiadaeddfed, ac nid oedd hyny yn costio llawer iddo, gan ei fodwedi gallu amgyffred y cyfansoddiadau Odyddol ac Iforawlyn dda. Yr oedd y gwaith a gyflawnodd yn gyssylltiedigâ'r holl gymdeithasau yn debyg o'r un natur ag a gyflawnaigyda'r Odyddion a'r Iforiaid. Felly, wrth ei ddangos gyda'rundebau anrhydeddus hyn, byddwn hefyd yn ei ddangosyn yr oll. Teimlodd ddigon o ddyddordeb ynddynt i gyd,a llafuriodd yn ddigon caled gyda phob urdd, a gallasemgael digon o ddefnyddiau i wneyd pennod ar ei gyssylltiadâ phob un o honynt ar wahan, ond ymattaliwn am y rheswma nodwyd gyda sylwi ar ei berthynas â'r ddau urdd uchod.Mae yr Undeb Odyddol yn ddiau yn un o'r urddaueangaf ei gylch, lluosocaf ei aelodau, a chyfoethocaf eidrysorfeydd o'r holl undebau, ac y mae terfynau Iforiaethyn eang a chylch ei gweithrediadau yn llydan a phwysig.Mae deall natur y budd-gymdeithasau hyn, amgyffred eurheolau, a'u gosod mewn gweithrediad ymarferol, yn golygucryn allu a medr. Yn ystod y blynyddau meithion y bu y Dr.yn gyssylltiedig â hwynt, nid oedd neb wedi deall eu naturyn well nag ef, ac ni chafwyd un erioed allai esponio eudeddfau a'u rheolau yn debyg iddo. Nid oedd hyn i'wryfeddu yn gymmaint, oblegyd efe yn gyffredin fyddai yntynu i fyny eu rheolau, eu diwygio, neu eu cyfieithu o hyd;felly, byddai y cwbl ar flaenau ei fysedd a'i dafod.Gwyddai hefyd Gyfraith Seneddol y Cymdeithasau Cyf-eillgar yn dda, ac yr oedd hyn yn rhoddi mantais an-nhraethol iddo ar lawer. Bu o wasanaeth ugeiniau oweithiau mewn cyfrinfaoedd, pwyllgorau, cyfarfodyddchwarterol, a chynnadleddau blynyddol, mewn pender-fynu dadleuon godid gan rai ar reolau allent fod mewnrhai amgylchiadau yn aneglur, neu mewn pwynt o gyfraith. Cofus genym, pan yn ieuanc iawn, i ni fod yn cynnrychioli ein cyfrinfa mewn cwrdd chwarterol gyda yr Iforiaid, ac yr oedd rhai o'r penboethiaid Iforaidd yn dadleu yn gyndyn ar fater yno, ac yn hytrach na goleuo, ymddangosai pethau fel pe yn myned yn fwy tywyll. Ond wele guriad awdurdodol wrth y drws, a thrwyddair yn cael ei roddi, ac yn y man, wele y Dr. yn dyfod i fewn yn llawn bywyd a sirioldeb. Torodd y wawr ar y cwrdd—newidiodd agweddiad y cwbl, ac eisteddai y crach-ddoctoriaid Iforaidd yn dawel. Cyfeiriwyd achos y ddadleuaeth i sylw y Dr., ac ar unwaith, atebodd fod y mater fel a'r fel. Adroddodd gyda rhwyddineb mawr ranau o'r gyfraith, a chyfeiriodd at y bennod a'r adnod. Yna, tynodd lyfr bychan wedi ei rwymo yn dlos allan o'i logell, a darllenodd y gyfraith yn llawn ar yr achos o hono, fel yr oedd wedi dweyd yn flaenorol. Rhoddodd hyny derfyn ar y ddadl, ac aeth y gwaith yn mlaen yn hwylus. Cawsom ddyfyrwch mawr yn ei gwmni drwy y dydd, a buom byth â golwg fawr arno wedi y tro hwnw. Ni chyfeiliornwn wrth ddywedyd mai fel hyna y gwnaeth y Dr. gannoedd o weithiau yn yr undebau dyngarol ereill, a phwy a wyr werth dyn o'r fath?

Yr oedd y gwaith a wnaeth gyda hwynt a throstynt yn amrywiol iawn yn ei natur. Ysgrifenodd ugeiniau o erthyglau galluog i'r gwahanol newyddiaduron o'i gadair olygyddol, yn galw sylw at faterion pwysig ac amrywiol perthynol iddynt, gan roddi iddynt bob amser y cynghorion a'r cyfarwyddiadau goraf. Bu yn darlithio iddynt ar bynciau perthynol i'r cymdeithasau, bryd arall ar destynau mwy cyffredin, er budd y cyfrinfaoedd gweinion fuasent yn isel eu trysorfeydd, neu i gynnorthwyo yn elusengar frodyr angenus fuasent wedi methu gan afiechyd neu drwy ddamweiniau. Gwnaeth lawer iawn o hyn, ac yn gyffredin yn ddidâl. Pan na fyddai yn darlithio ei hun, cymmerai ran yn eu cyfarfodydd gwahanol, megys llywyddu mewn darlithiau, budd—gyngherddau, cyfarfodydd llenyddol, eisteddfodau, &c. Hoffent bob amser gael Price yn y gadair, oblegyd yr oedd yn dra deheuig a hapus yn gosod eu cyflwr a'u hawliau o flaen y cyhoedd, ac hefyd, gosodai ei bresenoldeb fri ar y cyfarfodydd. Llanwai hefyd swyddau pwysig yn y cyfrinfaoedd, yr adranoedd, ac yn yr undebau. Yr oedd yn ymddiriedolwr i lawer o honynt. Yr oedd yn drysorydd ac yn is—drysorydd gyda'r Odyddion, yr Iforiaid, a'r Alffrediaid, ac yr oedd llanw y swyddi hyn fel y gwnaethefe, yn golygu llafur a gofal mawr. Gosodai presenoldeby Dr. fri bob amser ar y cyfarfodydd perthynol i'r urddaugwahanol, a gwnai iddynt edrych yn llawn a chysurus. Yroedd yn ddyfyrus pan fuasai amser ac amgylchiadau yncaniatau, ac yn ddifrifol a phenderfynol pan fuasai galw amei wasanaeth. Ar wleddoedd a chiniawau pleidleisid ef i'ruwch-gadair yn ddieithriad braidd, a phennodid ef ynfwyttorydd (carver), a gallwn sicrhau ei bod yn wledd i'wglywed yn adrodd ystorïau digrif ac yn ffraethebu nes cadwy lle yn fyw gan grechwen a chwerthin.

Pan oedd y Dr. yn ei ogoniant, nid oedd cwrdd chwarternac unrhyw gwrdd o bwys gan yr urddau yn Aberdar nadoedd efe yn bresenol ynddo. Yr oedd bob amser yn mynedâ'i gi bach, Romeo (yr hwn a laddwyd, am yr hwny bu cymmaint o alaru gan deulu y Rose Cottage), gydag ef i'rcyrddau hyn. Yr oedd Romeo, meddai y Dr., yn gystalOdydd, Ifor, neu Alffrediad, â neb, oblegyd yr oedd bobamser yn mynychu y cyrddau pwysicaf, ac yn sicr o fodyn bresenol pan fuasai ciniaw dda yn y cwestiwn. Panfuasai y Dr. yn carvio, yr oedd yn rhoddi yslice gyntaf a dorai i Romeo bach, "rhag iddo," meddai efe, "chwyrnua dangos ei ddannedd arnynt." Cafwyd llawer o ddyfyrwchgydag ef a'i ddonioldeb yn desgrifio y bechgyn glythionfyddent yn cwrdd weithiau yn y gwleddoedd. "Meddylient lawer," meddai, "am fwyd y clwb. Darparent euffetanau amser hir cyn ciniaw y clwb, a byddai cyfiawnderhelaethach nag arferol yn cael ei wneyd â hi ganddynt yngyffredin." Yr oedd y Dr. yn mhob ystyr o'r gair ynYr oedd yn dra phoblogaidd, ac yn ffafrddyn gan bawb a'i hadwaenent yn nghylch y cymdeithasaucyfeillgar. Mae hyn yn ddïos yn cyfrif i raddau helaetham ei ddylanwad, ac hefyd am y safleoedd pwysig a gyr-haeddodd yn gyssylltiedig â hwynt: llanwodd yn eu plithy swyddi uchaf, a chafodd ganddynt yr anrhydeddau mwyafallent roddi i neb.

Gormod gorchwyl fyddai i ni ddylyn camrau y Dr. enwoggartref ac oddicartref yn ei waith pwysig a'i lwyddiannaurhyfeddol gyda'r Urdd Odyddol. Wedi myned drwy ycadeiriau gartref, a derbyn yr anrhydeddau mwyaf gan eigenedl ei hun, cododd ei olwg ar y safle a'r anrhydedduchaf perthynol i'r urdd, ac y mae drwy ei egnion diflinoyn mynu eu cyrhaedd. Nid peth bach a dibwys oedd cael bod yn arweinydd, ac yn wir, yn cael ei ystyried a'i gydnabod yn dywysog megys ar o 16,000 i 18,000 o aelodauOdyddol yn Neheudir Cymru; ond nid oedd hyny yn ddimo'i gymharu â'r anrhydedd o eistedd yn y gadair lywyddoli ysgwyd mewn ystyr ei deyrnwialen dros tua 400,000 oaelodau yr urdd.

Yn mis Mai, 1864, yn Nghyfarfodydd Blynyddol yrUndeb, cawn y Dr. yn ymgystadlu ag wyth o foneddionteilwng am yr is-gadair, a safai y pleidleisiau fel hyn:—

John Harris, Ysw., Llundain, 2; W. N. Waldraw, Ysw.,Leicester, 4; John Deprose, Ysw., Llundain, 7; JohnHoughton, Ysw., Warrington, 9; David Jack, Ysw., Durham, 10; James Curtis, Ysw., Brighton, 24; John Geves,Ysw., Leeds, 45; Dr. Price, Aberdar, 83. Felly, etholwydef i fod yn is—lywydd y cyfundeb. Yr oedd hwn yn anrhydedd na dderbyniwyd gan un Cymro erioed o'r blaen.Hefyd, yr oedd y mwyafrif mawr pleidleisiau a gafodd ynllefaru yn uchel am syniadau parchus y Saeson am danoa'r parch mawr a deimlent ato.

Dydd Gwener, Mehefin y 9fed, 1865, dyrchafwyd y Dr.o'r is-gadair i'r uwch-gadair heb unrhyw wrthwynebiad.Nid oedd neb wedi ei gynnyg yn ei erbyn. Yr oedd hynyn garedigrwydd yn ei frodyr y Saeson, ac yr oedd y dewisiad unfrydol hwn y nod uchaf o barch a allasent, felOdyddion, byth ei ddangos i ni, y Cymry——gwneyd hynyn mherson un a berchid gan yn agos i BEDWAR CAN' MILo Odyddion drwy y byd. Gyda bod y Dr. yn y gadairlywyddol, daeth Mr. Curtis, y boneddwr oedd wedi ei etholi'r is-gadair ac yn olynydd i'r Dr., yn mlaen, a dywedoddei fod ef, yn absenoldeb Mr. Phillip John, o Aberdar, yrhwn oedd wedi gorfod ymadael er dal y trên, yn cyflwynoi'r Cymro cyntaf fu yn y gadair hono ffon hardd a thlos,gyda ferrule arian, ar yr hon yr oedd yn gerfiedig y geiriau,"Dr. Price, Aberdare—See the Conquering Hero comes—Worcester A.M.C., 1865." Dywedai Mr. Curtis fod Mr.John wedi dymuno arno i hyspysu y cyfarfod i Garibaldifyned i fewn i Naples â ffon yn ei law yn lle cleddyf, acfod y Dr. yn dyfod i fewn i'r gadair uchaf yn yr undeb hebunrhyw wrthwynebiad, ac fod y Cymry am gofnodi y ffaithdrwy ei anrhegu â'r ffon hon. Cyflwynwyd y ffon ynnghanol cymmeradwyaeth y dorf.

Yn ystod blwyddyn ei swyddogaeth fel Uwch-Lywyddyr Undeb, cynnaliwyd llawer o gyfarfodydd groesawol a llongyfarchiadol i'r Dr. enwog yn ngwahanol barthauCymru—De a Gogledd, ac mewn rhai manau yn Lloegr,a chafodd giniawau cyhoeddus mewn anrhydedd iddo.Hefyd, cyflwynwyd iddo nifer lluosog o anerchiadau priodolac anrhegwyd ef â rhoddion gwerthfawr—yr oll yn fynegiant o'r teimladau goraf ato a'r syniadau uchaf am dano.

Tachwedd y 10fed, 1865, gwnawd gwledd ardderchog i'rDr. yn Ngwrecsam, a chyflwynwyd iddo anerchiad destlus.Wrth ei dderbyn dywedai "nas gallai gael geiriau priodoli gydnabod y cyfeillion. Edrychai ar yr anerchiad fel campwaith celfyddyd; ond pan y cofiai am y teimladau a ddadblygai, nis gallasai feddwl yn rhy uchel am dano. Caffai ylle goreu yn ei Rose Cottage, a throsglwyddai ef i'w berthynasau ar ei ol fel un o'r trysorau goreu feddai."

Rhagfyr yr 8fed, 1865, yn y Music Hall, Abertawe, etto,darparwyd ciniaw er anrhydedd iddo, pryd yr oedd tua thrichant o gylch y bwrdd yn cydwledda ac yn cydlawenhauam lwyddiant ac anrhydedd y Dr. Cafodd yma etto anerchiad wedi ei ysgrifenu yn ddestlus iawn ar vellum. Wrthei dderbyn diolchodd y Dr. am dano yn foesgar, a thraddododd un o'r areithiau mwyaf hyawdl ac addysgiadol.

Chwefror 8fed, 1866, cyflwynodd Cyfrinfa Odyddol, oUndeb Manceinion, Rhosllanerchrugog, dressing case harddgwerth £10 i Miss Emily Price, o barch i'w thad. Cerfiwyd ar yr anrheg y geiriau canlynol i fod yn goffadwriaetharosol o barch ac edmygedd brodyr Cyfrinfa Cadwgan i'wthad a hithau: "Presented to Miss Emily Price, RoseCottage, Aberdare, by the Cadwgan Lodge, I.O.O., M.U.,Rhosllanerchrugog, as a token of respect to her esteemedfather, the Rev. T. Price, M.A., Ph.D., and G.M. of theOrder, Feb. 8th, 1866." Nos Fawrth, Mawrth 13eg, 1866,yn Ystafell Cyfrinfa Lady Charlotte, Globe Inn, Merthyr,cyflwynodd brodyr Odyddawl Merthyr anerchiad, wedi eiargraffu yn hardd ar satin a'i osod mewn frame odidog iddo,yr hwn a gydnabyddwyd yn ddiolchgar mewn araeth benigamp gan y Dr. Wele eileb o'r anerchiad:—

Congratulatory Address presented to the Rev. Dr. Thomas Price, GrandMaster of the Order, by the Merthyr District of the Independent Order ofOddfellows, Manchester Unity.

"Respected SIR,—The Members of this large and populous Districthailed with a great deal of pride your accession to the Highest Seatwhich it is possible for any man to attain in our Society, namely,

GRAND MASTER OF THE ORDER,

and we have watched with a large amount of anxiety your carrying outthe wishes of the Order, and more especially the wishes of your WelshBrethren. The time will soon arrive when you will give upthe government of this immense machinery into some other hands. but with whatfeelings of pleasure do we welcome you, being the only Welshman whoever had the honor of filling the Presidential Chair of the LargestFriendly Society in the World, and justly may we say, 'Well done,thou good and faithful servant.'

"How gratifying it must be to your fellow-countrymen to hear ofthe distinguished honors you have had, and of being an instrument inspreading the wings of this Society, and of wafting its beneficent windswhere no other Societies have as yet unstrung their influence; ofsending the aid so often desired to sick and distressed brethren, butmore of being, as it were, a father to the fatherless and a husband tothe widow-cheering them in their wilderness of despair, drying theirtears with the hand of charity, consoling them with the tongue of truth,and guiding them in the way they should go; these traits, we arehappy to say, are fully exemplified in you. It is men of such sterlingworth as it is our happy lot to have amongst us, that will cause thisand all other kindred societies to shine more brilliant, and be crownedwith a complete success.

Hoping that God in His Providence will spare you for a very longtime that you may go on working, firstly, in His vineyard, and,secondly, in the great cause of Oddfellowship, may your family clusteraround you as the ivy clings to the oak, assisting you to enable you toassist others, giving you strength when weakness may come, and whenthis mortal coil shall be shaken off, may your reward be eternal blissand a happy Lodge, where no tears will be shed, and where there areno distressed to be relieved.

"We subscribe ourselves on behalf of the District,

WILLIAM LEWIS, Prov. G.M.

JOHN THOS. DAVIES, Prov. D.G.M.

THOS. DAVIES, Prov. C.S.

Dated Merthyr, March 13th, 1866

Dydd Llun, Hydref 29ain, 1866, cynnaliwyd cyfarfodarbenig i dalu parch i Dr. Price yn Aberdar, pan yr ymgasglodd nifer o foneddigion o Gaerdydd, Merthyr, aChastellnedd, &c., i gynnrychioli teimlad y frawdoliaethGymreig. Cymmerwyd y gadair gan lywydd y dospartham y flwyddyn, Mr. Phillip John, yr hwn a ddywedai—

"Fod y cyfarfod yn ddadblygiad o deimlad OdyddionCymreig yn unig at Dr. Price fel Cymro, am y modd boneddigaidd a galluog y cyflawnodd ei swydd fel Llywyddyr Undeb yn 1865, 1866, a thrwy hyn wedi dyrchafu yCymry yn ngolwg yr Odyddion drwy y byd." CydsynioddDr. Price i dderbyn dadblygiad o barch ei frodyr yn unigar y tir fod y mater yn hollol gyfyngedig i OdyddionCymru—cauwyd allan Sir Fynwy; ac nad oeddid i ofyngan, na derbyn oddiwrth, neb fwy na cheiniog. Y canlyniad fu i ychydig dros 15,000 anfon eu ceiniogau i Gaerdyddyn ddiymaros ac yn ddigymhelliad: ni wnawd rhagor nadweyd fod y mater ar droed. Yr anrheg ardderchog athlws oedd yn gynnwysedig o safaddurnen (epergne), neucentrepiece and candelabra, neu ganol—ddarn a chanwyllur oarian, mewn rhan yn llyfn a dysglaer ac mewn rhan ynrhewgaenedig (frosted silver). Mae y sylfaen (base) ynffurfio tair wyneb, yn cael eu gwahanu gan geninen. Ary wyneb gyntaf y mae darlun ardderchog o Dr. Price wediei suddo yn yr arian; ac uwchben y darlun mae yn gerfiedig y geiriau canlynol:—" The Welsh Oddfellows' testimonials to the Rev. Thomas Price, M.A., Ph.D., the firstWelshman elected to the office of Grand Master of the I.O.of O.F., M.U. Presented by the Welsh Districts as atribute of their high esteem and appreciation of the efficientand admirable manner in which he discharged the arduousduties of the chief office of the Institution during 1865—6;and, also, for the active and zealous interest he has formany years taken in the welfare and prosperity of theUnity." Ar y wyneb arall y mae arwyddluniau yr UndebOdyddol, gydag eiddo y Gweddwon a'r Amddifaid, ynnghyd ag arfbais genedlaethol y Deyrnas Gyfunol. Ar ydrydedd wyneb y mae arfbais yr Hen Gymry yn yr amsery cwympodd y Tywysog Llewelyn. Uwchben y sylfaenmae tri darlun hardd mewn arian rhewgaenedig o ffydd,gobaith, a chariad yn cofleidio plentyn amddifad. Yna,tuag i fyny ac ar led, y mae y canwyllur yn ymledu ar luny winwydden yn ymdaenu ei changau, o'r rhai y coda lle iosod chwech o ganwyllau, ac odditano y mae basgedibychain yn dal y ffrwythau. Uwchlaw hyn etto y maedysgl yn llawn o flodau a ffrwythau; ac yn uchaf oll y maecafn o aur pur, yn cymmeryd golwg hynod foddhaol ar ycwbl oll. Mae y cwbl yn mesur tair troedfedd o hyd wrthddwy o led yn y man lletaf; ac yn ol barn pawb a'i gwelodd, y mae yn ddarn hollol wreiddiol o ran cynllun a dull,ac o wneuthuriad yn ardderchog dros ben, ac yn llawermwy felly am ei fod yn ffrwyth teimlad cariadlawn drosbymtheng mil o ddynion ag oeddynt yn cydlafurio â Dr.Price i wneyd y byd yn well. Darllenwyd a chyflwynwydanerchiad wedi ei ddarparu a'i engrosso yn dlws a harddiddo ar yr amgylchiad. Rhoddodd y Dr. un o'r areithiaumwyaf galluog a chyfaddas ag a draddodwyd erioed ogadair yr Undeb Odyddol ar y dydd Llun, Mai 21ain,1866, yn Burton-on-Trent. Derbyniodd y gymmeradwyaeth uchaf; cyhoeddwyd hi yn dra chyflym yn mhrifnewyddiaduron Cymreig a Seisnig y deyrnas, a gwnaeth yCymro dewrfrydig enw iddo ei hun, ac anrhydeddwyd eiwlad a'i genedl.

Ni fu llafur ac egnion y Dr. yn llai effeithiol gyda'rUrdd Iforaidd. Er fod terfynau y cylch Iforaidd yn gyfyngach nâ'r Undeb Odyddol, etto pan ymunodd y Dr. â'rIforiaid, gwelodd fod gwaith mawr ag eisieu ei gyflawnu.Ymunodd y Dr. â'r Urdd Iforaidd yn fuan iawn wedi eiddyfodiad i Aberdar. Y pryd hwnw yr oedd agweddwahanol ar ei adran ei hun i'r peth ydyw yn bresenol, wedibod dan ofal manwl a chyfeiriad doeth brodyr da fel ydiweddar frawd Thomas Williams, cyn-ysgrifenydd yradran; David R. Lewis, ysgrifenydd presenol yr adran;yn gystal â blynyddau meithion o lafur difefl y parchusDdr. ei hun. Ac am yr Urdd yr adeg hono, yr oedd ynnwylaw un dyn yn agos oll. Cynnrychiolodd y Dr. eiadran ei hun yn Nghynnadledd Flynyddol Aberdar yn1857. Yno, oddiwrth yr hyn a welodd ac a deimlodd, penderfynodd wneyd un o ddau beth ar unwaith, naill aigadael Iforiaeth fel dyn yn gadael llong ar fyned yn chwilfriw, neu wneyd ei oreu gyda dynion da ereill i achuby llestr cyn taro y graig, a syrthio yn ysglyfaeth rhwng y tonau.Yr olaf a wnaeth.

Yn 1859 cawn ef yn genadwr dros Aberdar yn Nghynnadledd Llandeilo, lle y bu yn ystorom ofnadwy. Methwydllwyddo yn y gynnadledd o herwydd y dull o bleidleisio, ondllwyddwyd i osod lefain yn y blawd; a chyn gadael y drefy noson hono cafwyd allan fod gweithrediadau y gynnadledd yn annghyfiawn, trwy fod y pleidleisiau yn afreolaidd.Mewn canlyniad i hyn, bu cwrdd pwysig yn Merthyr; yna,cynnadledd gyffredinol arbenig yn Abertawe, pan lwyddwyd i newid y cyfansoddiad i gymmaint graddau fel ag i gael swyddogion yr Undeb a Bwrdd y Cyfarwyddwyr yn debyg i'w ffurf bresenol. Gwnawd y Bank yn Aberdar yn drysorydd, ond nid oedd dimai yn y drysorfa. Ar gais y Dr., caniataodd banker i roddi arian i fyned yn mlaen. Felly y bu am y ddwy flynedd gyntaf, byw fel y gellid a'r banker rhwng yr Undeb a'r gwaethaf. Dyoddefodd y Dr. yn yr helyntion hyny lawer iawn o dafod drwg, amheuaeth, a pheth cabledd; ond yn mhen ychydig bach o amser gwelai pawb mai efe oedd iawn, a thrwy ei benderfyniad diysgog, ei bwyll a'i ddoethineb, achubodd Iforiaeth o balfau dinystr. Yn fuan ar ol hyn ymchwiliodd am eiddo yr Undeb, y llafnau (plates), y drwydded, a phethau ereill. Yr oedd y rhai hyn ar goll, ac ni wyddai neb lle yr oeddynt; ond llwyddodd y Dr. i'w cael allan. Yr oeddynt yn y pawn shop yn Manchester, a'r dyn a'u dododd yno fel crwydryn tlawd, heb ddim ond ei gorff, a hwnw yn lled deneu. Cydiodd y Dr. ynddo, ac awd ag ef o flaen ei well; ond diangodd, am nad oedd yr Undeb Iforaidd wedi ei gofrestru dan y gyfraith. Cadwodd y Dr. y peth yn ddystaw. Aeth i Gynnadledd Rhymni yn Ngorphenaf y flwyddyn hono, ac yno darbwyllodd y gynnadledd i fyny y rheolau wedi eu cofrestru. Caniataodd y gynnadledd iddo ail drefnu y rheolau, a gwnaeth hyny gyda chynnildeb a gofal mawr. Yna dodwyd yr Undeb dan y gyfraith yn Medi, 1859, ac yn mis Tachwedd wele y Dr. etto a'i law yn ngwar y dyn yn Manchester, yr hwn oedd wedi gwystlo y plates gwerthfawr.[15] Yn mhen ychydig cafodd y cwbl yn ol yn ddyogel, gwerth dros £120, na welsid byth mo honynt oni buasai ei ymdrechion ef. Etto gwnaeth hyn heb geiniog o dâl gan neb, ond boddlonrwydd cydwybod ei fod yn gwneyd yn iawn.

Yn y blynyddau 1860 a 1861, y mae y Dr. yn llanw y swydd bwysig o Uwch Lywydd yr Undeb.[16] Yn 1862 y mae yn cael ei bennodi yn Is-drysorydd yr Undeb, yr hon swydd a lanwodd yn ofalus ac anrhydeddus hyd ei fedd, a hyny yn ddidâl hyd y flwyddyn 1881. Yn mhenderfyniadauy gynnadledd am Gorphenaf 6ed, 1881, ceir—

Fod yr Is drysorydd i gael £10 yn y flwyddyn am ei wasanaeth i'rUndeb fel is drysorydd Teg yw nodi fod y Dr wedi gwrthod derbyndim tâl am ei wasanaeth am yr holl flynyddoedd y mae wedi gwasaaethu yr Undeb, a hyny gyda'r boddlonrwydd a'r parodrwydd mwyaf"

Yn 1865 mae y Dr. yn darpar draft o reolau newyddioni'r Undeb. Yn 1878, mae yn gwneyd gwaith pwysig gydabrodyr da ereill yn nglyn â'r rheolau newyddion, er eu cofrestru dan ddeddf 1875—1876. Gorphenaf 2il, 1875, penderfynwyd, Fod Dr. Price i gyfieithu y rheolau Saesnegi'r Gymraeg. Y Dr. hefyd oedd bob amser yn cael eibennodi mewn achosion cyfreithiol i amddiffyn y cyfrinfaoedd neu yr Undeb, fel y byddai yr achos yn gofyn, acyn gyffredin byddai yr achos yn ddyogel yn ei law. Yrydym yn gwybod am amryw o achosion cyfreithiol yn gyssylltiedig â'r cymdeithasau cyfeillgar, y byddai hyd y nody cyfreithwyr eu hunain yn ymgynghori â'r Dr. Yr oeddyn well dadleuydd yn helyntion y cymdeithasau yn eiddydd na'r un cyfreithiwr a adwaenom. Yn y pethau hynoll nid ydym ond yn rhoddi enghreifftiau o'r dirfawr waitha gyflawnodd Price fel dyngarwr ac fel aelod o'r cymdeithasau cyfeillgar. Yr ydym lawer gwaith wedi synu wrthfeddwl am y trwch mawr o waith y bu efe yn alluog i'wwneyd. Yr ydym wedi gofyn i ni ein hunain droion sut ygallai efe wneyd cymmaint. O ba le yr oedd yn caelamser i gwrdd â phob ymrwymiad? Ac etto, y mae yffaith yn aros. Yr oedd yn ei le yn barod i gwrdd â'i waith,a hyny yn ddieithriad yn brydlon.

Fel yr Urdd Odyddol, mynodd yr Iforiaid osod coronauar ei ben a rhoddi iddo ei bendithion. Yn y Bwrdd agynnaliwyd Ionawr yr 17eg a'r 18fed, 1865, pasiwyd ypenderfyniad a ganlyn:—

7. Fod y Bwrdd yn dymuno galw sylw yr Undeb Iforaidd at dystebi Dr. Price, ac ar yr un pryd yn dymuno hyspysu mai nid oddiwrthymni fel Bwrdd y tarddodd allan y cynnygiad, ond gan amryw o'r cyhoeddiadau Cymreig.

8 Fod y Bwrdd yn dymuno ar bob aelod i wneyd ei oreu er caelcasgliadau da, ac felly, ddangos fod yr Undeb Iforaidd yn cydnabod ydirfawr les y mae wedi ei wneyd i'r Undeb yn gyffredinol.

Hydref y 18fed, 1865, yn y Bwrdd penderfynwyd,

"Fod y Bwrdd yn unfrydol yn awdurdodi swyddogion yr Undeb, ynnghyd â D. Griffith, Aberafon, a D. Lewis, Abertawe, aelodau y Bwrdd,i gael y pethau canlynol wedi eu parotoi er gwobrwyo y Dr. Price:—

Anerchiad wedi ei ysgrifenu ar groen yn Gymraeg a Saesneg, oriawr achadwen aur, yn nghyd â llestri tê arian o'r fath oreu ag a ellir gael amyr arian, ac fod y cyfarfod i drosglwyddo y cyfryw i'r Dr. i'w gynnalyn Nghastellnedd."

Dydd Llun y Pasc, 1866, cyflwynwyd y dysteb i'r Dr., achafwyd un o'r cyfarfodydd mwyaf ardderchog i wneydhyn. Am hanner awr wedi dau ffurfiwyd gorymdaith yngynnwysedig o luaws o frodyr Iforaidd, amryw o weinidogion o wahanol enwadau, a boneddigion y dref a'r gymmydogaeth, yn cael eu blaenori gan Seindorfyr 17eg Gatrawdo Wirfoddolwyr Morganwg. Pasiodd yr orymdaith drwybrif heolydd y dref, ac yna dychwelodd i Gapel y Bedyddwyr Cymreig, o herwydd fod Neuadd y Dref yn rhy fechani gynnwys y dorf. Gorlanwyd y capel eang yn ddioed.Cymmerwyd y gadair gan Mr. Pendrill Charles, cyn-faery dref, yr hwn a agorodd y cwrdd mewn araeth fer, pwrpasol, a thra chlodus i'r enwog Ddr. Wedi i amryw frodyrsiarad, canwyd yn ardderchog ganig oedd wedi ei chyfansoddi gogyfer â'r amgylchiad gan Jenkin Howell, Aberdar,gan Gor Calfaria, dan arweiniad yr awdwr. Awdwr ygeiriau oedd yr hybarch Ddr. B. Evans, Castellnedd.Yna, darllenwyd yr anerchiad canlynol i'r Dr.Gan eifod yn cynnwys manylion am lafuriadau Price gyda'r urdd,a'i fod yntau pan yn fyw yn meddwl mwy braidd am danonag am lawer o anerchiadau ereill a gafodd, gosodwn ef ifewn yma:—

Anerchiad i'r Parch. Thomas Price, C.L.U., oddiwrth Urdd y Gwir Iforiaid.

"Syr a Brawd,—Trwy eich caniatad, yr ydym ni, swyddogion yrUrdd, ac Aelodau Bwrdd y Cyfarwyddwyr, yn dymuno eich anerch ynenw ac ar ran pedair ar hugain o Adranoedd, a dau cant a dau arbymtheg ar hugain o Gyfrinfaoedd, yn cynnwys pymtheg mil, saithcant a thri ugain a phymtheg o aelodau, ac yn taer ddymuno arnoch idderbyn oddiwrth yr Urdd, y dysteb ag y mae genym y pleser o'ichynnyg i chwi.

"Am lawer o flynyddau yr ydych wedi treulio rhan fawr o'ch amsergwerthfawr er gwella sefyllfa y gwahanol urddau a'r cymdeithasaudyngarol. Mae eich ffyddlondeb mawr mewn cyssylltiad â'r Odyddion, Coedwigwyr, Alffrediaid, Undebau Cristionogol, a'r Iforiaid, wedirhoddi i chwi fantais i ddangos eich caredigrwydd, eich ffyddlondeb,a'ch teimlad da dros lesiant cannoedd o filoedd o'ch cyd-ddynion; acnid yw yr hyn a gyflawnwn i chwi yn awr ond arddangosiad bychano'n parch tuag atoch.

"Wedi uno â'n Hurdd yn Nghyfrinfa Teml Ifor Hael, Adran Aberdar, Hirwaun, a Chwmnedd, bedair blynedd ar bymtheg yn ol, cawneich bod yn cynnrychioli eich Adran yn y Gynnadledd Flynyddol agynnaliwyd yn Aberdar yn 1857; ac o hyny hyd yn bresenol, yr ydymwedi mwynhau buddioldeb eich presenoldeb a'ch hyfforddiadau yn einholl gynnadleddau blynyddol. I chwi y mae yr urdd yn ddyledus amy mesurau effeithiol er ail ffurfio Bwrdd y Cyfarwyddwyr yn 1858, yrhwn, oddiar hyny, sydd wedi bod o wir wasanaeth i'r Urdd. Yn 1859,cawsoch yr anrhydedd o'ch ethol yn Llywydd yr Undeb, ac fel prawfo'ch gwir deilyngdod, yn y flwyddyn ganlynol, fe'ch ail etholwydgyda'r parodrwydd mwyaf. Yn ystod eich llywyddiaeth, darfu i chwifendithio yr Urdd â mawr wasanaeth yn nygiad oddiamgylch welliantau pwysig yn y Deddfau Cyffredinol, yn nghyd â chael yr Urddwedi ei chofrestru dan weithred Seneddol, yr hon sydd wedi ei ffurfioer dyogelu cymdeithasau dyngarol yn Nghymru a Lloegr. Yr ydymyn teimlo llawer o bleser wrth nodi eich ymdrech diflino a'ch ymlyniaddibaid i ddarganfod ac adferyd Gwasgnodau, Llafnau Copr, a LlafnauDur gwerthfawr yr Urdd. Yr ydym yn ddyledus i chwi am ail flurtiada chyfieithad y Rheolau Cyffredinol, ac yr ydym dan rwymedigaethneillduol i chwi am arolygu argraffiad ugain mil o'r cyfryw, y rhai syddyn rhoddi y boddlonrwydd mwyaf i'r Bwrdd Llywyddol, ac er mantaisyr Urdd yn gyffredinol.

"Mae yn gysur nid bychan i chwi wybod eich bod yn gwasanaethucymdeithas sydd yn cynnyddu yn raddol, ond sicr, mewn nerth,pwysigrwydd, dylanwad, cyfoeth, a defnyddioldeb. Yn bresenol, ymae ein cymdeithas yn rhifo dim llai na phedair ar hugain o Adranoedd, yn cynnwys dau cant a dau ar bymtheg ar hugain o Gyfrinfa-oedd, y rhai, ar y laf o Ionawr, 1865, a rifent ddim llai na phymthegmil, saith cant a saith deg a phump o aelodau. Yn ystod y flwyddyn1864, talwyd i gleifion y swm o £10,681, ac ar farwolaethau y swm o£2,770; tra trwy eich ymdrechion chwi, mewn undeb ag ymdrechiadauaelodau da ereill, mae genym yn awr yn ein cyfrinfaoedd y swm o£61 800, tra mae Trysorfa yr Undeb yn cynnwys yn bresenol £1,000,ac yn arddangos cynnydd mawr.

"Syr a Brawd, yn herwydd y parch mawr a deimlwn tuag atoch,dymunwn am i chwi dderbyn, nid fel tâl am eich gwasanaeth anmhrisiadwy, ond fel arddangosiad bychan o'n teimlad tuag atoch, y rhoddioncanlynol, sef Oriawr Aur, yr hon gafodd ei gwneuthur er eich mwynchwi yn unig; arwyddlun yr Urdd yn gerfiedig ar ei deial, gyda set olestri tê arian, yn werth chwech ugain a deg gini.

Ein gwir ddymuniad ydyw ar i chwi gael einioes hir i fwynhau yrhoddion hyn a gyflwynwyd i chwi ar ran a thros eich brodyr, felarwydd o'u cyfeillgarwch a'u gwir barch tuag atoch; a boed i'r Llywydd Mawr sydd yn llywodraethu dros bob peth ganiatau i chwi ettolawer o flynyddau o ddefnyddioldeb, fel ag y byddo i chwi fynedrhagoch, ochr yn ochr, yn rhes y dynion mawrion a theilwng, hebsefyll ond pan yn brwydro dros eich cyd—ddynion er eu llesiant. Arddiwedd eich gyrfa, hyderwn na fydd y rhodd hon, yr hon yr ydym yngyflwyno i chwi, i fod er coffa am ein serch a'n hundeb, i gael ei hannghofio, a bod i'r anerchiad hwn fod yn etifeddiaeth i'r teulu; ac ar oleich dydd, bydded i'r oriawr fod yn eiddo eich mwyn ragorol fab, Mr.Edward Gilbert Price, a'r Llestri yn gyfryw ag a fyddo yn addurnocartref dyfodol eich teilwng a'ch clodwiw ferch, Miss Emily Price; aboed y naill a'r llall o honynt fod yn deilwng i etifeddu yr etifeddiaethfawr o barch a fydd eu tad yn sicr o roddi iddynt gyda y pethau hyn.Derbyniwch felly, Syr a Brawd, y gydnabyddiaeth ddidwyll ymao'n mawr serch a'n parch atoch. Maent yn rhoddion rhydd ewyllysmiloedd o'ch cyd—ddynion, y rhai a weddiant ar y Duw Mawr i'chbendithio â bywyd hir a defnyddiol, gyda chyflawnder bendithionnefol, ac yn y diwedd ogoniant tragwyddol mewn dedwyddwch diderfyn.

Arwyddwyd dros yr Urdd, gan

DAVID SIMS, Llywydd.

THOMAS WILLIAMS, IS-LYWYDD.

THOMAS DAVIES, TRYSORYDD.

"DAVID EDWARDS, WALTER LEYSHON, DANIEL LEWIS, EDWARD GRIFFITHS, LEWIS DAVIES, BENJAMIN ROSSER, DAVID GRIFFITHS,

Cyfarwyddwyr.

GRIFFITH JONES, Ysgrifenydd.

Yr oedd yr anerchiad wedi ei ystramio (framed) yn hardda chadarn o ruddyn derwen—derwen a dyfodd yn ymylcartref yr hen Ifor Hael—dangoseg teg o nerth a chadernidyr Urdd Iforaidd. Ysgrifenwyd hi gan Mr. Evan Jones,yn awr Swyddfa y Gwaith Nwy, Aberdar, yr hwn sydd ynun o'r ysgrifenwyr penaf yn y deyrnas. Wrth dderbyn yranerchiad a'r anrhegion, diolchodd y Dr. mewn teimladautoddedig a dwysion am y serch a'r parch mawr a ddangosid tuag ato, a rhoddodd araeth alluog ar yr holl Urdd Iforaidda'i gweithrediadau.

Yn y Gynnadledd Ffynyddol a gynnaliwyd yn festricapel Rehoboth, Brynmawr, Gorphenaf 4ydd, 1882, cyflwynwyd tysteb arall, yn cynnwys anerchiad rhagorol ynnghyd â £48 19s. 2g. o arian, i'r Dr. Ar ol y cyflwyniad,dychwelodd y Dr. ei ddiolchgarwch mewn modd parchusa thoddedig, ac yna cafwyd anerchiad grymus gan y brodyrMr. David Powell, Tredegar, a'r Parch. B. Evans, Gadlys,Aberdare" (gweler hyspysiad y Bwrdd, Gorphenaf 4ydd,1882). Cydweithiodd y Dr. yn hwylus gyda'r Bwrdd, acyn neillduol gydag ysgrifenydd manwl a pharchus yr Undeb, W. George, Ysw., Llanelli, a'i anwyl fab John Georgewedi hyny, o'i gyssylltiad cyntaf â'r Bwrdd hyd ei symmudiad gan angeu. Cafodd yr Undeb golled fawr yn eifarwolaeth, oblegyd yr oedd yn gyfarwydd â holl weithredau yr Undeb, ac felly yn gyfarwyddwr cywir a ffyddlawn.Ar ei farwolaeth, canodd T. Williams, Ysw. (Brynfab),Trefforest, fel hyn:—

Iforiaeth! uwch dy feirwon—wyla fyth,
Clywaf ing dy galon;
I roi briw i lawer bron
Daw hiraeth am y dewrion.

Ar deg oror frawdgarol—pwy ar ol
Dr. Price wladgarol
A rydd ei gyfareddol
Nawdd i ni? 'Ddaw un o'i ol?

'Oes arall Is Drysorydd—leinw'i le
Yn y wlad mor gelfydd?
Y da was fu'n dywysydd
I'w urdd hoff hyd hwyr ei ddydd."

Yr hyn ydoedd y Dr. gyda'r Undebau anrhydeddus hyn,felly y cafodd yr urddau parchus ereill ef. Cyflawnodd ygwasanaethau gwerthfawroccaf iddynt, llanwodd yn anrhydeddus y swyddau pwysicaf ac anrhydeddusaf yn euplith, ac ni buont yn ol o'i wobrwyo yn deilwng, a'i anrhydeddu yn addas fel y cyfundebau ereill. Cafodd y cymdeithasau cyfeillgar oll golled anadferadwy yn ei farwolaeth;oblegyd bu iddynt yn gynghorydd profiadol, yn arweinydddyogel, yn amddiffynydd cadarn, ac yn ffyddlawn a chywiryn ei holl gyssylltiadau â hwynt.

Wedi ei gladdedigaeth, pasiwyd penderfyniadau parchuso gydymdeimlad â'i anwyl ferch, Miss Emily Price, ac âSarah Price, hoffus chwaer y Dr. yr hon fu drwy y blynyddau yn cadw ei dy, ac yn gwneyd ei gartref yn gyssurusa dedwydd iddo. Yn mhlith penderfyniadau CyfarfodChwarterol yr Iforiaid, Adran Aberdar, Hirwaen, a Chwmnedd, am Llun, Mawrth y 5ed, 1888, cawn a ganlyn:—

12. Cynnygiwyd gan D. P. Davies, Ysw., Ynyslwyd, y penderfyniad canlynol fel arwydd o'n cydymdeimlad dyfnaf â Miss Emily Price,ar yr achlysur o golli ei hanwyl dad, Dr. Price:—'Fod y swyddogiona'r cynnrychiolwyr gwyddfodol yn dymuno gosod i lawr ar y cofnodioneu teimladau dwfn a'u gwerthfawrogiad o'r aml wasanaeth gwerthfawrmewn gwahanol foddau a wnaeth y Dr. Price i Gymdeithas Gyfeillgary Gwir Iforiaid ac ereill yn y dosparth; ac yn dymuno ar i'r ysgrifenyddgario i'w deulu fynegiad o'u cydymdeimlad dwysaf â hwynt yn eugalar.

Etto, gyda'r Alffrediaid,

"Ar gynnygiad y Parch. B. Evans, Gadlys, Aberdar, pasiwyd mewnteimladau dwys, 'Ein bod, fel cyfarfod dosparthol, yn dymuno datganein cydymdeimlad â theulu parchus y diweddar frawd, yr hybarchThomas Price, M.A, Ph D., yn eu galar a'u colled drwy ei farwolaethsydyn ac i raddau annysgwyliadwy. Teimlwn, fel adran, yn hiraethusar ei ol, ac yn neillduol felly pan gofiom cyhyd o amser y bu yn aelodo'n hurdd anrhydeddus, ac am y gwaith mawr a phwysig a wnaethdros Alffrediaeth yn y dosparth hwn yn gystal ag yn yr Undeb yngyffredinol. Cedwir ei enw mewn coffadwriaeth gariadus a diolchgargenym, a bydded i'w ferch a'i chwaer drallodus gael yn neillduol yn ycyfnod presenol bresenoldeb ac ymgeledd y Gwaredwr Dwyfol.

Gweler Hyspysiad Cyfarfod Chwarterol Alffrediaid Dosparth Merthyr am Ebrill yr 2il, 1888. Darllena yr 28ainbenderfyniad o eiddo Cynnadledd Flynyddol yr Iforiaid, agynnaliwyd yn Festri Hebron, Clydach, ger Abertawe,Gorphenaf y 3ydd, 1888, fel hyn:—

"Ein bod yn cydymdeimlo yn y modd mwyaf dwys â Miss EmilyPrice ar farwolaeth ei hanwyl dad, yr hwn a wasanaethodd yr Undebam gynnifer o flynyddoedd gyda ffyddlondeb anmhrisiadwy. Mae yrymwybyddiaeth o'r daioni mawr y mae y Dr. wedi ei gyflawnu o blaidIforiaeth, yn nghyd â'i ymdrechion bythgofiadwy y tu hwn a'r tu draw i'r Werydd yn ein cymhell i ddiolch o galon i'r Hwn a'i nerthodd amgynnifer o flynyddoedd."

Gweler Mynegiad y Gynnadledd am 1888.

Dengys y penderfyniadau uchod deimlad dwfn a hiraethdwys yr undebau ar ol y Dr. parchus a wnaeth gymmaintdrostynt yn ei fywyd, a gwasanaethant hefyd i brofi idywysog mawr y cyfundebau dyngarol syrthio pan fufarw Thomas Price, Aberdar.

PENNOD XVI.

Y LLENOR, Y DARLITHIWR, A'R PREGETHWR.

Y Llenor, Darlithiwr, a'r Pregethwr—Y Dr. fel Saul yn mhlith y proffwydi—Y'n rhagori mewn amryw bethau—Ei ddiwydrwydd a'i benderfyniad—Rhestr o ysgrifau y Dr.—Ei gyssylltiad a'r Wasg — Ei ysgrifau yn 1864—Ei "Nodion Gwasgaredig"—Mawredd ei waith llenyddol — Wedi ysgrifenu yn helaeth fel Golygydd—Cynnorthwyo ei gydgenedl—Enghraifft —Ei gyd—lenorion—Darlithiwr poblogaidd—Gwahanol farnau am y ddarlith—Darlithwyr enwog—Dr. ar y blaen—Gystal darlithiwr a phregethwr—Gwella i bregethu—Defnyddio darlunleni—Ffraeth—Ei bynciau—cynnwysdremiau—"George Muller a'r amddifaid"—"War in the East"— America—Darlithio yn Saesneg fel y Gymraeg—Barn am dano fel darlithiwr—Chwedlau digrif—Hyspysiad—Talu £4,000 o ddyledion capeli trwy ei ddarlithiau—Yn boblogaidd fel pregethwr pan yn ieuanc—Er nid yn un o'r pregethwyr mwyaf, etto yn boblogaidd—Pregethwr syml—Y Telegraph—Ei nerth yn yr hanesyddol—Cymmeriadau Beiblaidd—Dammegion— Pregethu cyfres o bregethau yn fynych—Y Beibl yn enghraifft—Rhai o'i sylwadau doniol—Ei ofal am ei bregethau.

N mha gyfeiriad bynag yr edrychwn ar wrthddrych YN ein Cofiant, ymddengys fel pe yn tyfu ac yn myned yn fwy yn barhaus. Yn y cyssylltiadau a nodasom yn flaenorol gwelwn ef yn ei fawredd dihafal, fel yn ymgodi uwchlaw pawb. Ymddangosai yn mhlith ei gydlafurwyr fel Saul yn mhlith y proffwydi. Fel llenor, darlithiwr, a phregethwr etto, gellir dweyd am dano mai nid y lleiaf ydoedd yn mhlith hyd y nod dynion o dalent ac athrylith. Nid yn fynych y ceir dynion hyd y nod y rhai mwyaf yn rhagori mewn llawer o bethau. Eithriadau yn y byd meddyliol ydynt y rhai a ragorant mewn mwy nag un peth. Rhaid hyd y nod i'r eithriadau wrth ganolfaniad y galluoedd ac ymlyniad mewn llafur ac ymdrechion. Y mae anhawsderau ar bob llwybr dyrchafiad, ac os am gyrhaedd y pinacl, rhaid cyn cychwyn benderfynu myned drostynt, heibio iddynt (yr hyn nid yw yn hawdd ei wneyd), neu, fyned drwyddynt. Ac os am ragori mewn mwy nag uncyfeiriad, rhaid dyblu y diwydrwydd a grymusu y penderfyniad, oblegyd bydd yr anhawsderau yn naturiol yn fwy,ac yn sicr, yn amlach. Dyn yn rhagori mewn llawer obethau oedd y Dr., ac y mae y ffaith ei fod wedi gallugwneyd hyn, yn profi yn eglur pa fath un ydoedd. Nodwedd amlwg ynddo oedd diwydrwydd; hebddi, nis gallasaifod wedi gwneyd cymmaint o waith yn mhob cylch. Elfengref arall a'i nodweddai oedd Penderfyniad. Heb hyn ettonis gallasai fod wedi gorchfygu cymmaint a chynnifer orwystrau ar bob llwybr a deithiodd. Meddiannai feddwluwchraddol, onide nis gallasai fod wedi gosod ei nod moruchel ag y gwnaeth mewn cynnifer o gyfeiriadau pwysig.Arnododd yn uchel fel gweithiwr yn mhlith ei bobl, eieglwys, a'i enwad. Gwnaeth yr un modd fel gwleidyddwra chymdeithaswr, a bu yn llwyddiannus i argraffu ei enwyn ddwfn, ac mewn llythyrenau breision yn y byd llenyddol. Yr oedd ei lafur yn yr ystyr hwn yn enfawr. Synir nigan luosogrwydd ac helaethder ei gynnyrchion llenyddol,yn neillduol pan ystyriwn y gwaith aruthrol gyflawnidganddo mewn cylchoedd pwysig ereill. Nid oedd yn esgeuluso ei ddyledswyddau fel pregethwr a gweinidog erymroddi at lenyddiaeth. Cadwodd y pwlpud yn uchel, a'ieglwys yn ofalus hyd y diwedd, er cymmaint a wnaigydag ysgrifenu ar wahanol bynciau i wahanol newyddiaduron, cyhoeddiadau, a chofnodolion y wlad, ac yn neill-duol i'r papyrau oeddynt dan ei ofal golygyddol. Nis gellirdweyd fod y Dr. yn awdwr enwog, oblegyd nid yw y llyfrmwyaf a gyhoeddodd erioed yn uwch ei bris nâ rhyw swlltneu ddeunaw ceiniog. Credwn mai y llyfr mwyaf a gyhoedd ydoedd yr un ar Fedydd, yr hwn a ddygodd allanmewn atebiad i'r diweddar Barch. W. Edwards, Heolyfelin, yn y ddadl fawr a bythgofiadwy a fu rhyngddo a'rDr. ar yr Ordinhad o Fedydd. Hefyd, cyhoeddodd lyfrynbychan tlws ar Hanes Eglwys Calfaria yn 1862, yr hwn avai yn Juwbili Eglwys Calfaria, Aberdar, at yr hwn yrydym wedi gwneyd cyfeiriadau mynych yn y gwaith hwn,ac wedi dyfynu yn helaeth o hono yn gyssylltiedig ag hanesCalfaria a'r Enwad yn y Dyffryn. Cyhoeddodd hefydhanes gweithrediadau Eglwys Calfaria hyd y flwyddyn1886, yr hwn a eilw yn Trem. Cyhoeddodd hefyd anerchiad byr at Eglwys Calfaria, a chofres gyflawn o holl aelodaua swyddogion yr eglwys dan ei ofal yn 1887. Hwn ydoedd ei anerchiad olaf i'w eglwys barchus fu dan ei ofal tyneram dros ddeugain o flynyddoedd, a chredwn mai cyhoeddihwn ydoedd y gorchwyl diweddaf iddo yn ei berthynas â'reglwys. Hefyd, y mae y Dr. wedi cyhoeddi amryw holwyddoregau, pamphledau, a phynciau ar destynau Ysgrythyrol a duwinyddol, megys y "Beibl," "Llwyddiantyr Efengyl," "Cyfiawnhad," &c., at wasanaeth yr YsgolSabbothol.

Ysgrifenodd y Dr. lawer iawn o anerchiadau galluog argyfer Cyfarfodydd Gwanwynol ac Hydrefol Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr a'r Iwerddon, megys "The Strict Baptists in Wales," "Annghydffurfiaeth ac Addysg Gyhoeddus yn Nghymru," "Hanes y Bedyddwyr" (yn L'erpwl, Hydref, 1866), "Hanes y Gymdeithas Genadol," "YGenadaeth Dramor," "Y Gymdeithas Gyfieithadol," "YGymdeithas Grefyddol a Thraethodol," &c., &c. Ysgrifenodd hefyd erthyglau galluog ar brif bynciau y dydd perthynol i'n gwlad a'n cenedl, yn gystal ag ysgrifau achlysurolar bynciau cyssylltiedig â gwledydd ereill, i'r papyrau aolygai efe. Pe cesglid at eu gilydd ei holl weithiau llenyddol, ei ysgrifau yn y gwahanol gyfnodolion misol achwarterol, ei anerchiadau a i bamphledau cyhoeddedig, eierthyglau i'r gwahanol newyddiaduron Cymreig a Seisnig,gwnelent gyfrolau mawrion a thra gwerthfawr; oblegyd yroeddynt oll yn orlawn o fater sylweddol a gwybodaethaubuddiol. Dechreuodd ei gyssylltiad â'r wasg fel golygyddyn y flwyddyn 1855; cyd—eisteddai yn y gadair olygyddolyr adeg hono â'r anfarwol Caledfryn, yn nghyd â'r galluogddiweddar Hybarch John Davies, Aberaman, wedi hynyCaerdydd. Efe, yn ol fel y gallwn weled oddiwrth ei goflyfr perthynol i'r Gwron, oedd yn ysgrifenu dan y pennawdCrynodeb yr wythnos am flynyddau, a chymmerai olwgeang ar faterion yn gymdeithasol a gwleidyddol yn yr ysgrifau hyny. Heb fanylu yn y cyfeiriad hwn, oblegyd eangder aruthrol y maes, rhoddwn yma yn enghrefftiol hanesysgrifau un flwyddyn, sef 1864, a ysgrifenodd yn gyssylltiedig âr Eglwys Sefydledig yn Seren Cymru yn unig. Ycyntaf a gawn yn y Seren am Ionawr iaf, 1864:"YrEglwys Wladol: Yr esgobion a'u cyflogau—Palasau yresgobion—Yr archddiaconiaid a'u cyflogau—Cyflogau yroffeiriaid gweithgar—Cwyn y curad—Yr eglwysi cadeiriola'u costau—Yr Ecclesiastical Commission a'i weithrediadau—Yr arwerthfa ysprydol, eneidiau dan y morthwyl—Y farchnad ysprydol—Y canonau—Ei meistr—Yr Eglwys Wladolyn Nghymru—Casglu y briwfwyd—Cydraddoldeb crefyddol yn hanfodol i ryddid gwladol—Chwech ysgrif etto ar yrun pwnc—Y gyfraith—Y fam yn trin y plant—Y Parch.Sydney Smith â swyddogion yr eglwys—Tair ysgrif ar yrun pwnc—Yr offeiriaid mewn cadwynau—Y dull o drafody cyfoeth—Pedair ysgrif ar yr un pwnc—Yr eglwys ynyspeilio y plant—Profiad Eglwyswyr—Adgyfnerthion yreglwys Y Parch. J. Dudson, Ficer co*ckerham—Aberther mwyn y gwir—Ei nerth a'i gwendid—Barn y bobl ambethau—Dwy ysgrif ar yr un pwnc—Ffordd newydd ilanw yr eglwys—Yr Eglwys Wladol yn Nghymru—Y dretheglwys—Yr Eglwys Wladol yn Nghymru." Dyna i niddigon o eglwys, ond wedi y cwbl gwasanaetha y penawdau hyn i ddangos y sylw mawr yr oedd Price yn ei dalu i'rEglwys Sefydledig, a dangosant yn eithaf eglur ei allu digyffelyb i ysgrifenu yn gyson ar bynciau o'r fath, a phamor frwdfrydig y teimlai dros Ymneillduaeth ac Anghydffurfiaeth. Nid ydym wrth hyn wedi dangos yr holl erthyglau a ysgrifenodd yn y flwyddyn dan sylw, ond yn unigy rhai a ysgrifenodd mewn ystyr ar yr un pwnc, ond yn eiwahanol arweddion. Meddylier am yr ysgrifau hyn, acadgofier etto am ei ysgrifau a'i "Nodion Gwasgaredig"am y flwyddyn a nodasom yn flaenorol, yn yr hon bu ynAmerica, y rhai gyda'u gilydd, fel y crybwyllasom, awnaethant dros 70 o golofnau yn y Seren, a chawn feddylddrych egwan am waith llenyddol Price. Ysgrifenoddrywbeth yn debyg i hyn yn gysson o'r flwyddyn 1855 hydy flwyddyn 1876—dros 20 mlynedd—pryd y rhoddodd ifyny olygiaeth Seren Cymru yn herwydd anmhariad ei iechyd.

Heblaw hyny, y mae wedi ysgrifenu yn helaeth a thalentog yn ei sylwadau yn mwrdd golygydd y gwahanolbapyrau y bu yn eu golygu. Y mae y wybodaeth eang achyffredinol ar wahanol faterion, teuluol, cymdeithasol,gwleidyddol, a chrefyddol yno yn synfawr. Cynnorthwyodd filoedd o'i gydgenedl yn ei nodiadau golygyddol, arhoddodd gannoedd o gynghorion a chyfarwyddiadau cyfreithiol ar faterion pwysig yn rhad, heb gymmaint a gofynna dysgwyl y 6/8. Fel hyn gwelwn i'r Dr. ddal cyssylltiadagos iawn â'r wasg ac â llenyddiaeth bron drwy ei oes, abu yn alluog i wneyd daioni mawr yn y cylch pwysig hwnw.Oddiwrth ei ledger, yr hwn sydd yn ein meddiant, gwelwniddo fod yn ysgrifenydd arianol Seren Gomer o'r flwyddyn 1853 hyd ddiwedd y flwyddyn 1859, ac y mae gyda'i gyfrifon, fel pob peth arall, yn gryno, destlus, a chyfundrefnol.Bu flynyddau, fel y dywedasom o'r blaen, yn olygydd yGwron a'r Gweithiwr, papyrau a gyhoeddid yn Aberdar.Cawn ef etto yr un mor gyfundrefnol yma. Cadwai lyfrmawr, yn yr hwn yr oedd yn cofrestru yr holl erthyglau adderbyniai yn y drefn a ganlyn:—

Yr ydym yn rhoi enghreiff'tiau am dair blynedd, er dangosfod yr un drefn yn cael ei chario yn mlaen ganddo o hyd.Byddai yn ddyddorol ail-gyhoeddi llawer o'r ysgrifau ysgrifenwyd gan y Dr. i'r Gwron a'r Gweithiwr. Gwehr nadydoedd y Dr. yn ysgrifenu ei enw yn llawn, eithr yn unigei gyn-lytherenau (initials). Bu y Dr. yn troi llawer ynmhhth lluaws o ddysgedigion, a Uenorion o nod ac urddas,a phob amser cydnabyddid ef ganddynt fel un a safai ynuchel fel flenor gwych ac ysgrifenwr galluog ac addfed.Yn mhhth ereill, cydlafuriodd â'r enwogion a ganlyn:— Caledfryn, John Davies, Caerdydd; ei gydolygyddion Cynddelw, Eben Fardd, Brutus, Dr. Emlyn Jones, IeuanGwynedd, Athan Fardd, Lleurwg, Nefydd, Mathetes, Spinther, Dr. Jones, Llangollen; Dr. B. Evans, Castellnedd;Dr. Rowlands, Llanelh; Hugh Tegai, a llu ereill o gyffelyburddas ac enwogrwydd, fuont yn cyd-lafurio ag ef gydallwyddiant mawr yn a thros lenyddiaeth ein gwlad a'ncenedl.

Ni fu llafuriadau Price yn gyfyngedig i hyn etto; eithrrhagorai fel darhthiwr a phregethwr. Yn ystod y deugain mlynedd diweddaf yr oedd y cythrawd darlithyddol wedi gafaelyd yn gryf yn meddwl y wlad, a bu darlithio yn boblogaidd am hir amser; ac yr oedd hyn yn fanteisiol iawn, ganfod amryw o brif ddynion y Dywysogaeth yn cymmerydmantais o'r adeg i gyfranu llawer o wybodaeth fuddiol, aci oleuo y werin ar bynciau buddiol a thra phwysig. Ymae gwahanol farnau wedi ac yn bod parthed darlithiaua darlithio. Teimla llawer yn groes a gwrthwyneboliddynt, tra y ceir ereill yn eu cefnogi yn y modd mwyafselog. O ran ein hunain, yr ydym yn ffafriol i'r ddarlithar bynciau teilwng a gweddus, am y rheswm y gellir dweydllawer o wirioneddau oddiar y llwyfan nad ellir eu dweydgydag anrhydedd o'r pwlpud. Tybia rhai mai ychydig oddarlithwyr o fri a mawredd sydd wedi codi yn Nghymruerioed, er fod niferi y darlithwyr yn lleng. Addefwn ynrhwydd fod rhagor rhwng seren a seren mewn gogoniantyn ffurfafen y byd darlithyddol; etto, y mae llu mawr oddarlithwyr enwog wedi bod yn mhlith a chyda y gwahanolgyfenwadau crefyddol yn Nghymru. Yn mhlith ereill,gallwn enwi Cynddelw, Dr. Emlyn Jones, Caledfryn, Hiraethog, Lleurwg, Kilsby Jones, Hwfa Mon, Matthews,Eweny; Myfyr Emlyn, a llu ereill o gyffelyb allu a dawn;a gellir bod yn sicr ddarfod i'r enwogion hyn wneyd llesdirfawr i'w cydwladwyr drwy eu darlithiau dyddorol aphoblogaidd. Gallwn, ni a gredwn, heb dynu dim oddiwrth anrhydedd y persouau parchus a enwasom, na chymmylu dim ar eu gogoniant fel arwyr dihafal y llwyfan, osodPrice gyda'r uchaf a'r blaenaf o honynt fel darlithiwr; agwn y byddai y rhan luosocaf o honynt yn barod i dynueu hatiau yn foesgar iddo, gan ei gydnabod felly. Yr oeddy Dr. braidd yn enwocach fel darlithiwr na phregethwr, ercystal ydoedd yn y pwlpud. Dywedai Mr. Thomas Josephwrthym unwaith ei fod ef yn credu fod y Dr. yn well darlithiwr o'r ddau na phregethwr, yn neillduol yn y blynyddau cynnarol o'i fywyd, er y teimlai fod y Dr. yn y blynyddaudiweddaf yr oedd efe wedi ei glywed yn pregethu, wedigwella llawer iawn—wedi dyfod yn fwy byw i'r teimlad, acyn agosach at y dyn—y profiad, meddai, wedi addfedu, yrhyn sydd yn help mawr i bregethu yr Efengyl. Yr oeddhyn yn ffaith; wedi ei ddychweliad o'r Ysgotland ar ol eigystudd maith pregethai gyda dylanwad neillduol. Yroedd y bobl yn synu ato. Rhoddai y teimlad a'r ysprydcrefyddol a feddiannai y Dr. yr adeg hono foddhad a dedwyddwch mawr iddo. Wedi clywed fod y Dr. wedi dychwelyd ac yn alluog i bregethu, gofynodd y Parch. R. J. Jones, A.C., Trecynon, i J.H., un o aelodau Calfaria, a oeddhyny yn wirionedd. "Ydyw yn eithaf gwir," atebai J.H., "ac yr oedd yn pregethu yn well nag erioed." Yn mhendiwrnod neu ddau ar ol hyn, cwrddodd Mr. Jones â'r Dr. a'iferch, Miss Emily, yn Mharc Cyhoeddus Aberdar. Yn falchi'w weled, llongyfarchodd ef ar ei adferiad i'w iechyd a'iddychweliad gartref, ac ychwanegai, “Yr oedd J.H. yndweyd wrthyf nos Lun eich bod yn pregethu y Sabbothdiweddaf yn well nag erioed." Yn wir,' atebai y Dr.,ac edrychodd yn siriol yn ngwyneb Emily, "I am so glad,I thought he was looking rather diflas; J.H. is a good judgeof a sermon. Darlithiodd y Dr. lawer iawn, ac yr oeddyn meddiannu y cymhwysderau gofynol er bod yn ddarlithiwr cymmeradwy a phoblogaidd. Yr oedd yn ddynwaredwr (mimic) da iawn; ac yr oedd digon o fywyd a myn'dynddo. Tynai ei arabedd a'i hyawdledd dyrfaoedd i'wwrandaw yn mhob lle yr elai iddo, a chadwai hwynt drwyei ffraethineb a'i chwedlau dyfyrus yn fyw gan deimlad o'rdechreu i'r diwedd. Medrai ddarlunio gyda r perffeithrwydd mwyaf, ac yn gyffredin defnyddiai ddarlunlenau(maps) i egluro ei ddarlithiau. Meddai hefyd feddwl parod,ac yr oedd mor witty braidd a Gwyddel. Gallai wneyd adweyd beth a fynai; ond cadwai yn gyffredin o fewn terfynau. Gellir dweyd, yn sicr, ei fod wedi cyrhaedd enwogrwydd mawr iawn. Nid yn fuan yr annghofia y wlad eiddarlithiau penigamp ar Ryfel Rwsia yn 1854-Rhyfel yCrimea, Gwrthryfel India, Garibaldi, Y Beibl, John Bunyan, Muller o Fristau, Y Glowr, Tywysog Albert, Tywysog Cymru, ac America. Siaradai braidd yn ddiderfyn, ahyny gyda y dyddordeb mwyaf. Clywsom rai yn dweyda u gwrandawsant droion pan yn ei ogoniant ei fod yn amlyn darlithio am ddwy awr a hanner, ac weithiau dair awr,yn gryf a diflino, ac ni flinai y bobl ychwaith. Gosodwnyma ddwy neu dair cynnwysdrem (syllabus), y rhai yn gyffredin a wasgerid cyn ei ddyfodiad yn yr ardaloedd y byddai yn darlithio ynddynt:—

GEORGE MULLER A'R AMDDIFAID.

Syllabus o'r Ddarlith.

"Cymmeriadau annghyffredin—George Muller yn un o'r cyfryw—Mae y rhai hyn yn gadael gwersi i ni—Dyddiau boreuol George Muller yn Prwsia, ei le genedigol—Ei ddyfodiad i Loegr—Ei fwriad i fyned yngenadwr—Ei symmudiad i Swydd Devon—Ei gyssylltiad â'r Farch.Henry Clark—Symmudiad y ddau i Gaerodor—Eu dull o weithio—Eudull o fyw—Sefydliad y Gymdeithas—Dechreuad y gwaith o ofalu amyr amddifaid—Cymmeryd ty yn Wilson Street—Cymmeryd ail dy—Yna y trydydd—Y cwbl yn rhy fach—Codi y ty newydd cyntaf arAshley Down—Dull yr arian yn dyfod i fewn—Y draul yr awd iddo—Ei orpheniad yn hollol ddiddyled—Cyfodiad yr ail dy newydd—Fellyy trydydd, ac yn olaf oll y pedwerydd a'r pumed—Ymweliad â'r Sefydliad—Yr olygfa o fewn—Dull y plant o fyw yno—Y gofal a gymmeriram y plant yn ol llaw—Golwg ar y treulion o'r dechreu, a'r draul flynyddol yn awr—Y gwersi oddiwrth yr hanes i ni."Mae Cyfrinfa y "Gwron" yn rhoddi gwahoddiad calonog a gwresog i'w holl gyfeillion i ddyfod i gefnogi yr amcan daionus sydd mewn golwg wrth gael y ddarlith.

Bydd y ddarlith yn cael ei hegluro trwy ddarluniau mawrion o'r pump ty ar Ashley Down, wedi eu darparu yn arbenig i'r perwyl hwn."

The War!!

A LECTURE ON THE WAR IN THE EAST,

Will be delivered in the Welsh Baptist Chapel, Aberdare, by the Rev. Thos.
Price, on Wednesday evening, September 12th, 1855. The chair will
be taken at at 8 o'clock precisely, by David Davis, Jun., Esq.

Syllabus:—

"The nations engaged in the present war geographically considered—The great extent of the Russian Empire—Its rapid increase southward, from the time of Peter the Great until the death of Nicholas—The causes of the present struggle—The professed reason as given byRussia, and the true reason as transpired through the Secret Correspondence—That Great Britain is justified in taking part in the presentwar—The progress of the war——The battles of the Danube, the Alma,Balaklava, Inkerman—The siege works before Sebastopol—The navaloperations in the Sea of Assof and the Baltic—The probable consequence of the war to Russia, Turkey, England, and to the EuropeanStates generally—The duty of the English nation not to accept a peacethat will not secure the RIGHTS OF THE PEOPLE.

"The Lecture will be illustrated by very large maps and diagrams,including the Seat of War, at one view; the position of the army beforeSebastopol; large map of the Crimea and the Sea of Assof, the Battleof the Alma, the Baltic, &c.

Tickets of admission, One Shilling each. to be had of Mr. J. Lewis,Mr. Dance, sen., Mr. Dance, Jun., Mr. Phillip John, Mr. John Johns,Mr. Davies, Carpenter; and Mr. Evans, Aberdare; Mr. Lewis John,Aberaman; Mr. D. Jones, Grocer, Mill Street, and at the door theevening of the Lecture.

The entire profits accruing from the Lecture to be devoted to thepurchasing of an Harmonium for the use of the English Baptist Chapel,Aberdare."

DARLITH AR AMERICA,

Gan Dr. Price, Aberdar.

Crynodeb:—

Y Wlad.—Sefyllfa ddaearyddol—Dosraniadau—Eangder a mawredd yn brif nodweddion—Ei Harwynebedd—Mynyddoedd—Afonydd—Llynoedd—Rhosdiroedd—Coedydd.

Argraffiadau personol am New York—Brooklyn—Philadelphia—Boston—Camden, N.J.—Washington—Y Llywydd Grant a'i Weinyddiaeth—Y Senedd—dai a r Ty Gwyn—Yr Afon Potomac—Virginia—Richmond—a meusydd y brwydrau mawrion.

Yn mhlith y Cymru yn Maryland—Virginia—Pennsylvania, a'rRhanau Gorllewinol—Y Gweithfeydd—y Meistr a'r Gweithiwr Cyflwr masnach—Y Cyflogau, yn awr ac yn y dyfodol—Sefyllfa y Cymry yn America—yr hyn a fu, yr hyn yw, a'r hyn a ddylai fod.

Taith i'r Gorllewin.—Ohio, Kentucky—Tennessee—Indiana—Missouri—Illinois—Dinasoedd Cincinati—Louisville—St. Louis—Chicago—Cleveland—Pittsburg.

Sefyllfa—Crefydd—Addysg—Moesoldeb—Sobrwydd a Boneddigeiddrwydd—Lletygarwch acHaelionusrwydd.

Diffygion i'w symmud—Modd i wneyd hyn—a'r dyfodol yn hollol addawol

Ymfudiaeth i America.—Pwy ddylai ymfudo—Pa fodd i gyrhaedd yramcan—I ba le i fyned—Y ffordd i ymlwybro—A pha lwyddiant a ellirei ddysgwyl.

America yn Wlad Newydd.—Agwedd anorphenedig—Digon o le idderbyn holl weddill ein poblogaeth o'r hen fyd—a'r dyfodol yn addawol i'r Gonest, y Da, y Diwyd, a'r Sobr.

Bydd i'r Ddarlith gael ei hegluro gan Ddarlunlen ddarparedig at y pwrpas neillduol hwn."

LECTURE ON AMERICA,

By the Rev. T. Price, M.A., Ph.D, of Aberdare.

Syllabus:—

The Country.—Geographical situation—Districts—Extent and magnificence chief characteristics—Its Surface—Mountains—Rivers—Lakes—Valleys—Woods.

Personal Impressions—of New York—Brooklyn—Philadelphia—Boston—Camden, NJ.—Washington—President Grant and his Ministry—The Senate Houses and the White House—The River Potomac—Virginia, Richmond, and the great Battle Fields

Among the Welsh—In Maryland—Virginia—Pennsylvania—and theWestern parts—The Works—Master and Workman—State of Trade—Wages at Present and in the Future—Condition of the Welsh—What it has been—What it is—and What it ought to be.

Journey to the West——Ohio—Kentucky—Tennessee—Indiana—Missouri—Illinois—The Cities of Cincinnati—Lousville—St. Louis—Chicago—Cleveland—Pittsburg.

State of Religion—of Education—Morals—Sobriety and Politeness—Hospitality and Liberality.

Defects to be remedied—Ways and Means—The Future full of hope.

Emigration to America—Who should emigrate—How to attain the object—Where to go—Mode of proceeding—and what success may be expected.

America a New Country—Incomplete aspects—Enough room to receive the superfluous population of the Old World—And the Future promising to the Honest, the Good, the Diligent, and the Sober.

The Lecture will be Illustrated by a Large Map prepared for this special purpose.

Gwelir oddiwrth yr enghreifftiau hyn fod y Dr. yndarlithio yn Saesneg yn gystal ag yn Gymraeg. Gwnaihyny yn fynych, a dywedir ei fod yn llawn mor rhwydd,ystwyth, a naturiol yn yr iaith fain, fel y gelwir hi, ag ydoedd yn yr hen Omeraeg anwyl. Dywedai Mr. TudorEvans, Caerdydd, gynt perchenog y Principality:—"Yroedd y Dr. Price yn ddarlithiwr godidog. Yr oeddyn wahanol braidd i unrhyw Gymro. Nid oedd arno ofny Sais mewn dim, oblegyd yr oedd yn gystal Sais agoedd o Gymro." Clywsom yn ddiweddar am ddyn o allua chymmeriad yn adrodd ei deimlad wedi bod yn gwrandaw ar y Dr. yn darlithio. "Trueni," dywedai, "fod y Dr.yn myned yn hen, bydd yn rhaid iddo ef farw rywbryd;ond byddai yn werth ei gadw, a rhoddi oes Methuselahiddo i ddarlithio, oblegyd y mae yn gwneyd hyny morardderchog."

Yr oedd yn myned dipyn yn arw weithiau wrth ddarlithio. Un tro darlithiai yn ei gapel ei hun yn Nghalfaria arun o'r rhyfeloedd y cyfeiriasoni atynt. Crogai y darlunleni o amgylch y llwyfan, ac yr oedd gydag ef arfau rhyfelyn ei ymyl. Defnyddiai gleddyf pren, a gwnai dipyn ohono yma a thraw yn y ddarlith. Yr oedd y Parch. William Edwards, Heolyfelin, ar y llwyfan y noson hono, acysgydwai Price y cleddyf yn o drwsgl o amgylch ei ben,ac yn ofni y gwaethaf, dywedodd, "Peidiwch tori fy mhen,Mr. Price." Atebodd yntau, "Ond mae nhw yn tori penauyn y rhyfel," a chyda hyn tynodd y cleddyf heibio copa penMr. Edwards mor agos fel y credai y bobl ei fod yn mynedi ffwrdd. Yn ei ddarlith ar America desgrifiai y boss (gaffer) yn ceisio dynion i weithio ar nos Sadwrn neillduol,a hyny mewn ardal y byddai llawer o'r preswylwyr yn caely cryd, yr hyn a alwent yn "siglo;" ond ni wyddai y Dr.hyny ar y pryd. Yr oedd y bobl, mae yn debyg, yn gwybodyr adeg y buasent yn myned i'r cryd, oblegyd yr oedd yndyfod drostynt yn gyfnodol. "John," meddai y boss (fel yradroddai y Dr yn ei ddarlith), weithi di nos Sadwrn?"

Na," atebai John, "byddaf yn siglo." Wnei di, Dafydd?" "Na," meddai hwnw, "byddaf yn siglo;" ac fellyryw hanner dwsin arall, a'r ateb oedd gan bob un, meddaiPrice, "byddaf yn siglo," ac yr oeddwn yn methu dyfalubeth yn enw pobpeth a feddylient wrth siglo." Yn yr unddarlith, dywedai, "Gwlad fawr yw America, mewn gair, ymae pob peth yn fawr yno. Mynyddoedd mawrion, llynoeddmawrion, afonydd mawrion, pobpeth yn fawr o'r mynyddmawr i'r jo dybacco yn mhen yr Ianci, yr hon sydd bobamser gymmaint a dwrn dyn." Dywedai hefyd am dani,"Gwlad eithafol iawn ydyw. Os twym, twym iawn; osoer, oer iawn. Dynion tew, tew iawn; dynion teneu, teneuiawn—bydd y cwn bob amser yn eu dylyn gan feddwl maiesgyrn fydd yn myned. Yr oedd y moch tewion mor dewnes y methent wybod lle yr oedd eu penau nes gwneydiddynt rochian." Cyfranai lawer o addysg gyda dyfyrwchyn ei ddarlithiau. Arddangosai bob amser ynddynt ffrwythymchwiliad diflin a sylwadaeth fanol; ac er rhoddi enghraifft o'i boblogrwydd fel darlithiwr wedi ei ddychweliad o'rAmerica, gosodwn yma lechres sydd yn dangos iddo ddarlithio ar America mewn gwahanol barthau o Gymru 36 oweithiau mewn llai na thri mis o amser. Wele hi:—

AMERICA.

Traddodir Darlithiau gan Dr. Price, Aberdar, yn y lleoedd canlynol, ar y dyddiau a nodir:—Liverpool, Ebrill 16; Llundain, o Ebrill 22hyd Ebrill 29; Caerfyrddin, Mai 2; Ebenezer, Dyfed, Mai 3; Llandyssul, Mai 4; Aberteifi, Mai 5; Glynnedd, Mai 6; Bethesda, Abertawy, Mai 10; Clydach, Mai 11; Ystalyfera, Mai 12; Treorci, Mai16; Nebo, Ystrad, Mai 17; Treherbert, Mai 18; Caerdydd, Mai 19;Tongwynlas, Mai 20; Nantyglo, Mai 23, Penycae, Mai 24; Tredegar,Mai 25; Rhymni, Mai 26; Pisga, Talywaen, Mai 28; Hengoed, Mai30; Pontestyll, Mai 31; Llandilo, Mehefin 1; Saron, Llandybie, Mehefin 2; Bassaleg, Mehefin 7; Llaneurwg, Mehefin 8; Horeb, Blaenafon, Mehefin 9; Casnewydd, Mehefin 29; Ravenhill, Mehefin 13; Llwynhendy, Mehefin 14; Hwlffordd, Mehefin 15; Salem, Meidrim,Mehefin 16; Maesycwmwr (Seisnig), Mehefin 27; Caernarfon, Gorph.5; Pontllyfni, Gorph. 6; Garn, Gorph. 7.

"THOMAS PRICE."

Fel darlithiwr yr oedd efe yn llawn o wahanfodaeth (individuality). Nid oedd yn debyg i neb ond iddo ei hun. Trwyei ddarlithiau gwnaeth dros bedair mil o bunnau tuag atachosion gweinion ac er talu dyledion capeli yn mhob man.

Fel pregethwr, yr oedd Dr. Price, megys y dywedasommewn pennod flaenorol, yn boblogaidd pan yn fyfyriwr ynNgholeg Pontypwl, ac er ei fod, fel y dywedai Paul mewnachos arall, wedi "llafurio yn helaethach" nâ'r rhan fwyafo'i frodyr yn y weinidogaeth mewn cylchoedd gwahanol,ac wedi cyflawnu gwaith sydd braidd yn annesgrifiadwygan ei fawredd a'i amrywiaeth, etto, parhaodd yn dderbyniol a chymmeradwy fel pregethwr. Mae yn wir nadoedd yn un o'r pregethwyr mwyaf nac ychwaith yn un o'rrhai mwyaf poblogaidd; etto, gellir dweyd ei fod fel pregethwr yn wir fawr, yn lled boblogaidd, ac yn gymmeradwydros ben. Yr oedd yn cael galwadau mynych i gyfarfodyddmawrion, a gwasanaethai yn aml yn mhrif wyliau yr enwad.Yn ei erthygl alluog yn Y Geninen dywed yr enwog Lleurwg,yr hwn a'i hadwaenai yn dda, am dano fel hyn:—

"Fel pregethwr, yr oedd yn eglur, syml, Efengylaidd, ac Ysgrythyrol.Bob amser cymmerai olwg eang, naturiol, a phriodol ar y pwnc yr ymdriniai ag ef, nes ei wneyd yn beth dealladwy, dyddorol, a buddiol, i'rgwrandawyr yn gyffredin. Nid ydoedd fel llawer yn gorlwytho ei bregeth â hanesynan (anecdotes) diddefnydd, ac, yn fynych, disail, fel ag idagu cymmaint o Efengyl ag a allasai fod ynddi, a thramgwyddo pobgwrandawr o chwaeth a synwyr. Er ei fod yn bregethwr grymus achadarn, yn athraw athrawiaethau mawrion a sylfaenol, ac yn ordinhadau y Grefydd Gristionogol, etto, yr oedd weithiau yn hoffi cymmeryd i fyny bynciau mwy dyeithr ac annghyffredin."

Dywedai gohebydd galluog yn y Merthyr Telegraph am Mai 31, 1878, am dano,

"Dr. Price's forte as a preacher lies in his treatment of the historic;he is great in Biblical narrative, and there is coherence, beauty, andlogical precision in the most of his pulpit daguerrotypes. Several ofthe eminent Welsh preachers have excelled in the same direction; theWelsh appear to have special aptitude for the rhetorically pictorial."

Yr oedd, fel yr awgrymir uchod, ei brif nerth fel pregethwryn yr hanesyddol. Adroddai hanesion Beiblaidd mor naturiol ac effeithiol nes y gwefreiddiai y gynnulleidfa fawr aymdyrai i'w wrando, ac ymddangosai pawb fel pe yn ymgolli gan fedr a gallu desgrifiadol y pregethwr. Yr oeddyn fath o Raphael Cymreig ac yn Filton ei oes. Pregethaiyn aml iawn ar destynau yn yr Hen Destament, ond fynychaf rhedai ar y llinell hanesyddol. Byddai yn hoff iawno bregethu ar gymmeriadau, a thynai i fyny wersi buddiola phwysig hyd y nod o'r manau a'r amgylchiadau mwyafannhebyg. Wrth edrych dros ei ddyddiaduron, yn y rhaiy croniclai ei holl destynau, yn nghyd â'r dyddiadau ypregethai hwynt yn mhob man, cawn yn y llyfr cyntaf,yr hwn sydd yn cyrhaedd y tu ol i'r flwyddyn 1858, niferlluosog o bynciau, fel y canlyn:—Abraham, Jacob, Enoch,Moses, Melchisedec, Senacherib a Hezeciah, Joseph, Daniel, Dafydd, Elias yn Horeb, Mordecai, Esther, Jonah,Abiah Bach, Haaman, Nehemiah, Sorobabel, y Tri Llanc,a'r Llances Fach," &c. Nid ydym wedi codi ond niferfechan o honynt cofier. Gyda chymmeryd cymmeriadauYsgrythyrol i fyny yn ei bregethau, pregethodd ar ddefodau a seremonïau Iuddewig, yn nghyd â'r hen gyfundrefnyn ei gwahanol agweddau, yn dra chyflawn. Hoffai ddarlunio y Tabernacl, ei lestri, a'r defodau cyssylltiedig ag ef.Pregethodd lawer o bryd i'w gilydd ar y Deml, ei hoffeiriaid, ei harchoffeiriaid, a'r gwahanol ddodrefn a'r gwasanaeth gyflawnid ynddi. Yr oedd yn lled hyddysg yn hanesiaeth henafol yr Iuddewon. Yr un modd gyda'r TestamentNewydd; ymhyfrydai fod gyda'r hanesyddol. Teimlai ynddedwydd yn Llyfr yr Actau yn darlunio yr apostolion a'uteithiau, ac hoffai feusydd hanesyddol a phroffwydoliaetholyr Hen Destament; dammegion Crist a'i wyrthiau, hefyd,oeddynt feusydd y treuliai lawer o'i amser ynddynt. Codaio honynt egwyddorion mawrion a thragwyddol teyrnasCrist i'w dangos yn eglur a syml i'w wrandawyr. Byddaiy gwersi a dynai oddiwrthynt yn naturiol a phrydferth, agwasgai hwynt yn ddifrifol at galonau a chydwybodau ybobl. Cymmerai yn aml wahanol ranau o'r gwirionedd,rhyw wedd neillduol arnynt, a chyhoeddai gyfres yn olynol o bregethau galluog a dyddorol ar y cyfryw adranau, atheimlai y gwrandawyr ddyddordeb mawr ynddynt. Nodwner enghraifft ei bregethau ar y saith eglwys yn Asia, y rhai aelwir gan bobl Aberdar hyd heddyw yn bregethau yDadguddiad." Darluniai yr eglwysi hyn yn eu gwahanolgyflyrau ac arweddion yn y modd mwyaf byw i'r bobl."Y Beibl" ydoedd bwnc arall, ar yr hwn y pregethoddddeg o bregethau hanesyddol a gwir alluog i bobl ieuaincei gynnulleidfa. Cyhoeddai ei bynciau a'i destynau ynmlaen llaw, a dirgymhellai ei wrandawyr, yn neillduol ydosparth ieuengaf o'i gynnulleidfa, i ddarllen y testynau achymmaint ag a allent arnynt, gan y teimai fod cael y bobli efrydu y pynciau cyn ei fod yn pregethu arnynt yn fanteisiol iddo ef a hwythau. Gosodwn yma enghraifft o'rman-leni (slips) a wasgarai i'r bobl pan yn myned i bregethu cyfres o bregethau ar ryw bwnc neillduol. O blithereill, gosodwn y Beibl yn enghrefftiol, yr hwn sydd fel ycanlyn:—

‘Y BEIBL.'

"Er mwyn ieuenctyd cynnulleidfa Calfaria, Aberdar, bwriada Dr.Price draddodi cyfres o bregethau ar y Beibl fel dadguddiad Duw o'iewyllys i ddynion; unig reol bywyd yn y byd presenol; a'r unig hyfforddwr am ein dedwyddwch yn y byd a ddaw.

"Traddodir y pregethau hyn ar nos Suliau, yn Nghapel Calfaria, ganddechreu nos Sul, Tachwedd y 27ain, 1870; ac hyd y gellir bob nosSul yn olynol hyd ddiwedd y gyfres.

"Ymdrechir ymdrin â'r pwnc yn y drefn ganlynol:-Pregeth I. YBeibl yn Llyfr Duw, Psalm cxxxviii. 2, 'Oblegyd ti a fawrheaist dyair uwchlaw dy enw oll.' Pregeth II. Y byd heb y Beibl. Ephesiaidii. 12, 'Heb obaith genych ac heb Dduw yn y byd.' Pregeth III, YBeibl yn cwrdd ag angen dyn. Psalm cxix. 9, 'Pa fodd y glanha llancei lwybr? Wrth ymgadw yn ol dy air di.' Pregeth IV. Dylanwad yBeibl ar ddynolryw. Esiah lv. 11, 'Felly y bydd fy ngair, yr hwn addaw o'm genau: ni ddychwel ataf yn wag; eithr efe a wna yr hyn afynwyf, ac a lwydda yn y peth yr anfonais ef o'i blegyd.' Pregeth V.Dyogeliad y Beibl. Matthew xxiv. 35. ' Nef a daear a ânt heibio, eithrfy ngeiriau I nid ânt heibio ddim.' Pregeth VI. Cyssondeb ac unoliaethy Beibl. Actau iii. 18, ‘Eithr y pethau a ragfynegodd Duw trwy enauei holl broffwydi, y dyoddefai Crist, a gyflawnodd efe fel hyn.' PregethVII. Y Beibl yw unig safon crefydd. Esiah viii. 20, 'At y gyfraith,ac at y dystiolaeth; oni ddywedant yn ol y gair hwn, hyny sydd amnad oes oleuni ynddynt.' Pregeth VIII. Ein dyledswydd i ddarllen yBeibl. Ioan v. 39, 'Chwiliwch yr Ysgrythyrau, canys ynddynt hwy yrydych chwi yn meddwl cael bywyd tragwyddol; a hwynthwy yw yrhai sy'n tystiolaethu am danaf fi. Pregeth IX. Crist yn ganolbwncy Beibl.1 Corinthiaid ii 2. Canys ni fernais i mi wybod dim yn eichplith ond Iesu Grist, a hwnw wedi ei groeshoelio.' Pregeth X. Y Beiblyn y dyfodol. Esiah xi. 9, Canys y ddaear a fydd lawn o wybodaethyr Arglwydd, megys y mae y dyfroedd yn toi y môr.'"

Nid yw yr enghraifft uchod ond un o lawer.

Yr oedd yn gwybod daearyddiaeth Gwlad Canaan ynneillduol o dda. Gellid meddwl fod y cwbl wedi ei argraffuar ei gof. Pan yn siarad am dani i egluro ei faterion, gallaiun farnu ei fod wedi byw ynddi erioed. Cyfeiriai ati adesgrifiai hi mor naturiol nes o'r braidd nad oedd y boblyn gweled y lleoedd a'r trigolion, ac yn teimlo eu bod ynnghanol yr amgylchiadau. Nid annghofiwn yn rhwydd eibregeth ragorol a elwir gan y bobl, "Pregeth yr asyn bach."Darluniai y ddinas, Bethphage, Bethania, a'r wlad o gwmpas, yn nghyd â'r dyrfa, yn y modd mwyaf tarawiadol.Actiai Petr ac Ioan yn myned i bentref Bethphage i ymofyn yr asen a'r ebol, ac adroddai yr hyn a ddychymygaiefe a siaradent â'u gilydd ar y ffordd. "Ofnai Petr," ebaiefe,fwy nâ Ioan. Yr oedd confidence mawr gan Ioan ynei feistr. Nid oes dim fel dyn yn meddu cariad mawr i'wwneyd yn ymddiriedwr mawr yn ngwrthddrych ei gariad.Yr oedd sefydlawgrwydd ac ymddiriedaeth gref yn Ioan;ond nid felly Petr: yr oedd efe yn fwy wit-wat—dim cymmaint o ddal arno, ac mewn cyfyngder yr oedd yn ofnus acyn llwfr. Dacw'r ddau frawd yn myn'd, ac yn codi dros ybreast draw, ac meddai Petr, 'Ioan, byddwn ein dau yn yjail cyn dod yn ol heddyw. Mae y Meistr yn arfer bod ynllygad ei le, ac yn iawn bob amser, ond y mae yn collitipyn heddyw.' ‘Dere 'mlaen,' meddai Ioan, 'bydd ef ynsicr o fod yn ei le heddyw etto.' Dyw e' ddim wedi dweydam ofyn benthyg y creadur bach, nac wedi dweyd y caffaiei berchenog ef yn ol-dim ond 'Gollyngwch a dygwch.'Mae Duw yn gwybod, Ioan bach, byddwn yn llaw y policeman ar unwaith.' 'Pob peth yn iawn, Petr,' dywedai Ioan,'y mae wedi ein dysgu i ddweyd 'Rhaid i'r Arglwyddwrtho,' ac y mae 'Rhaid' y Meistr yn clirio y ffordd at ycwbl ac yn ateb am yr oll." Cai Dr. Price hwyl fawr yngyffredin pan yn traddodi pregeth yr asyn bach.

Pregeth fawr gan y Dr. oedd pregeth yr esgyrn sychion.Byddai yn ddoniol yn darlunio y dyffryn, y proffwyd, a'resgyrn. Braidd na osodai yr esgyrn i siarad pan y darluniai y naill asgwrn yn chwilio am ac yn dyfod "at eiasgwrn."

Un tro, pan yn pregethu ar daith plant Israel yn yr an-ialwch, yr oedd gydag ef grydd a theiliwr (brodyr da) ynddiaconiaid, a dywedai ar ei bregeth, "Ie, yr oedd eu dilladyn para o hyd o ddechreu y daith i'w diwedd. Lle gwaelfyddai yno i Henry Dafis: 'chai e' ddim mesur troed nagwneyd pâr o'sgidiau o'r naill flwyddyn i'r llall; ac amThomas Morgan, 'chai yntau byth fesur am bâr o ddillad,ac ni fuasai yn cael gwaith i wneyd mourning ar ddydd Sul."Wedi bywiogi ei gynnulleidfa, a'i chodi i grechwen, dychwelai at y difrifol a'r dwys, ac y mae yn bossibl y gwelidy bobl yn colli dagrau mewn ychydig funydau. Byddidyn sicr o gofio hanesion Ysgrythyrol wedi eu clywed ganddo ef.

Yr oedd ganddo allu mawr i gymhwyso ei bregethau atleoedd, ac amgylchiadau yn y lleoedd hyny. Un o'i ddewis-bregethau oedd pregeth y "Llances Fach." Yn mha lebynag y pregethai hono, gwnai ddefnydd da o honi. Gellidmeddwl iddo ei darparu ar gyfer y lle hwnw yn unig. Arei daith yn America, cai y llances ddangos ei gwynebsiriol yn fynych. Gwnai iddi edrych yn dlos, gwisgai hiyn ei dillad goreu; ac wedi ei chael yn ei haddurniadaugoreu, dywedai, "Dyma fel mae merched bach prydferthCymru sydd wedi eu codi yn yr Ysgol Sabbothol ac ar aelwydydd crefyddol. Gawn ni ddweyd fod merched bachAmerica yn debyg iddi hefyd?" Dywedai gyda y fathnerth a dylanwad weithiau nes peri i bawb deimlo ynawyddus bod fel y "Llances Fach." Traddodai bregethy "Llances" unwaith mewn dyffryn poblogaidd, yn yrhwn y mae gweinidog, yn awr canol oed, yn enwog am eiddiwydrwydd a'i weithgarwch gyda gwahanol achosioncymdeithasol, ac mewn gwahanol gyfeiriadau yn nheyrnasyr Arglwydd Iesu Grist. Cymhwysai ei nodiadau at ofalam y plant a llafur gyda hwy. Dywedai y gwyddai am weinidog yn awr yn anterth ei nerth, wedi ac yn gweithio yn galedfel aelod ar wahanol fyrddau lleol ac addysgol, a gydagwahanol gymdeithasau buddiol. Yr oedd hefyd yn llanwamryw swyddau pwysig yn yr enwad, ac yn aelod gweithgar ar bob pwyllgor braidd yn y cyfenwad; ond meddyliaief fod y gwaith a wnelai gyda'r plant bach yn ei Ysgol Sula'i eglwys yn fwy na'r cwbl. Y brawd, meddai, a ddarluniaf yw gweinidog parchus ac anwyl yr eglwys fedyddiedigyn Nhreorci. Yr oedd y Dr. yn pregethu mewn cwrddmawr yn Nghwmparc, cangen o eglwys Treorci, ac heb fodyn neppell oddiyno. Y mae amryw o'i bregethau ereill,megys y "Corn Bach," "Y Garreg Fach,"Garreg Fach," "Y Talentau,' "Y Jubili," "Elias ar Carmel," "Y Deml," (pregethfawr y casgliad) "Cyfiawnhad," &c., y carem gyfeirio ynhelaeth atynt; ond rhaid ymatal, gan fod yn bossibl y cyhoeddir cyfrol o'i ddewis bregethau gan ei anwyl ferch,Miss Emily Price. Y mae miloedd o'i bregethau argael, wedi eu cadw yn ofalus ganddo, ac y mae wedi eucofnodi oll yn ei ddyddlyfrau, fel y gellir gwybod pa brydac yn mha le y pregethwyd hwynt ganddo. Arweinia hynni yn naturiol at ei ddyddiaduron a'i goflyfrau, y rhai agant ein sylw yn fyr yn y bennod nesaf.

PENNOD XVII.

EI DDYDDLYFRAU.

Arrangement—Platt—Gofal am y pethau lleiaf—Irving a Wellington—Y bancer a'r hatlingau—Adeg dechreuad ei gofresau—Note—Enghraifft o'i ddyddlyfr—Ei daith yn Siroedd Caerfyrddin a Phenfro—Cyfeiriad Myfyr Emlyn—Cyfansymiau ei ymrwymiadau blynyddol a'i nodion—1857—1863—1864—1867—1870—1873—1874—Afiechyd y Dr. 36 o Sabbothau heb bregethu—Nodiad eglurhaol—1880—Bedyddio dau fyfyriwr o Drefecca—Diwedd yr ail lyfr—Cyfres pregethau y plant—Eu pynciau—Y Nadolig cyntaf gartref am 35 mlynedd—Dyddiad olaf ei gronicliad—Y geiriau olaf ar y cofnodlyfr—Olion cryndod ei law yn ei ysgrifen yn y blynyddau 1885 ac 1886—Manylder a threfnusrwydd yn deilwng o efelychiad.

Arrangement or order, Nature's first law, digests the matter that industry collects. It means doing things methodically, a habit of saving time to all, and without which no business of any size could be carried on.—J. Platt.

MEWN trefnusrwydd rhagorai y Dr. yn fawr. Yr oedd ganddo ef ei gynlluniau gyda phob peth yr ymgymmerai efe â'i weithio allan—y pethau lleiaf yn gystal â'r pethau mwyaf. Cymmer Irving sylw neillduol, yn ei hanes o fywyd Wellington, o fanylder rhyfeddol ei arwr gyda phethau bychain. Yr oedd ei gyfriflyfrau a'i ddyddiaduron yn dangos pa mor ofalus ydoedd o bethau bychain. Gallai esiampl Wellington yn yr ystyr hwn roddi gwersi buddiol i'r rhai hyny a ddirmygant yr hyn a alwant yn petty details. Mae miloedd o'r fath fodau i'w cael yn mhob gwlad. Nid oes dim yn deilwng o sylw yn eu barn hwy os na fydd yn cael ei ddwyn yn mlaen ar raddfa eang. Nid ymostyngant at y ceiniogau—dim ond y punnoedd sydd yn werth eu sylw hwy; ond y dyogelaf yn ei waith, a'r mwyaf llwyddiannus bob amser yn ei ymgymmeriadau, ydyw yr hwn sydd yn "ffyddlawn yn y lleiaf." Dywedai bancer (Mr. Green, Cymro pur ac aelod ffyddlon yn eglwys y Bedyddwyr yn Castle Street) wrthym yn Llundain yn ddiweddar, "You would be surprised, Sir, to know how careful my grandfather was of the farthings, and what good use hewas able to make of them."

Wrth edrych dros ddyddlyfrau Dr. Price o ddiwedd1850 (oblegyd dyna'r adeg feddyliwn y dechreuodd gadwcofnodion o'i bregethau, ei gyflawniadau, a'i ymrwymiadau) hyd ganol 1886, pryd y methodd gan afiechyd, yrydym wedi ein taro â syndod gan ei fanylder gyda ei gofnodion parthed ei destynau, ei deithiau a'i ymrwymiadauyn mhob cylch. Bydd yn ormod gorchwyl i ni, gan fod eigroniclau yn cyrhaedd dros gyfnod mor faith, a'i helyntionmor lluosog. wneyd llawer yn fwy na rhoddi enghreifftiaumewn dyfyniadau gerbron y darllenydd, gan adael i'r cyfryw lefaru drostynt eu hunain a dirgymhell eu gwersi i'wystyriaeth. Yn nechreu y cofnod-lyfr cyntaf o'i eiddo, cawny nodiad eglurhaol canlynol:—-

EXPLANATORY NOTE.

It will be seen that the entries in this register only begins withNovember, 1850. There are about 720 sermons on Cards, in Books,and on Manuscripts, preached previously to this date, that will be foundin the lower left hand drawer in the desk in my study. All those entrieswith the dash under them are sermons preached from home, or uponsome extraordinary occasion.

Abbreviations—MThe sermon is in Manuscript.
CThe sermon is on Card
BThe sermon will be found in a Book.
GThought to be a good one.

Y mae y llyfr y cyfeiriwn ato yn gofreslyfr pregethaupriodol, a chynnwysa bump o golofnau darparedig, y rhaia lenwir yn gyfundrefnol a gofalus gan y Dr. Rhoddwnyma enghraifft neu ddwy:—

Ar waelod pob tudalen gesyd y Dr. nifer y pregethau abregethodd yn ystod ei ddyddiadau i lawr, ac yna dyga ycyfryw yn mlaen i'r nesaf, ac felly yn y blaen am yflwyddyn, pan y gwna sylwadau neillduol am ei ymrwymiadau a'i waith. 21 sydd ar odreu y tudalen perthynol i'r uchod, a bydd yr 21 ar ben y tudalen nesaf ati iddechreu, a charia y drefn hon yn mlaen gyda'r gofalmwyaf hyd Mai 16eg, 1886. Ar ddiwedd y flwyddyn1851, cawn nifer y pregethau yn 189; ac i ddechreu 1852,cawn:—

"Brought forward 189 from Nov. 10, 1850"Ar ddiwedd 1852, cawn rif y pregethau yn 379, a'r nodiad canlynol:—

"Preached 357 times during the year 1852."

Gwelwn mai y rheswm fod niferi y "pregethu" moruchel yw iddo fod ar daith bregethwrol y flwyddyn honoyn Siroedd Caerfyrddin a Phenfro; a chan ein bod wediclywed llawer o siarad am y daith hon, a chyfeiriadaumynych wedi eu gwneyd ati gan ddynion o nod yn yr enwado bryd i'w gilydd, gosodwn ei gofnodiad o'i daith yma:—

Y blaenorol sydd enghraifft deg o'r modd y mae y Dr. wedicadw cofnodion oi holl deithiau, yn gystal a'i gyflawniadau gartref. Yr hyn sydd yn rhyfedd yw nad oes toriadam gymmaint ag wythnos na diwrnod yn yr holl flynyddau, os bydd wedi cyflawnu gwasanaeth cyhoeddus mewnunrhyw gylch neu gyfeiriad. Gwnaeth golygydd parchusSeren Cymru, y Parch. B. Thomas, Narberth, gyfeiriadneillduol at y daith hon yn ei nodiad at farwolaeth yr anfarwol Ddr. yn Seren Cymru am Mawrth y 9fed, 1888, yn y geiriau canlynol:

"Dyddorol fyddai i ni, ac efallai nad annyddorol i'n darllenwyr,fyddai cofnodi y tro cyntaf y gwelsom ac y clywsom ef, sef yn Nghymmanfa Bethabara, Swydd Benfro. Nid ydym yn cofio dyddiad y gymmanfa hono, ond yr oeddem yn dra ieuanc. Cynnelid hi yn nghaePenyrallt, ar lan yr afon lle y bedyddiodd yr anwyl John Morris lawer,a lle y bedyddiodd 'Shon Morgan, Blaenyffos,' fwy. Yr oedd yno laweriawn yn pregethu, ond prif arwyr y dydd oeddynt Evans, Hirwaun (Dr.Evans, Castellnedd, wedi hyny), a Price, Aberdar. Credwn fod JohnMorris, Bethabara, yn Mhontypwl, ar yr un adeg â hwy, ac ymddang.osai ei yspryd angylaidd a diniwed wrth ei fodd i gael dau o'i hen gydfyfyrwyr enwog i chwifio'r faner mor llwyddiannus ar ddydd yr uchelwyl. Cof genym am Evans, Hirwaun, yn trin yr arfau nad ydyntgnawdol' gyda medrusrwydd a manylwch cogleisiol, a'i lais main soniarus yn cynniwair drwy galonau ac yn diaspedain rhwng y cymydd,a'r dyn bach cadarn, bywiog, parablus, ffraeth, pengrych, a phenddu oAberdar yn gwneyd i esgyrn sychion Ezeciel gyffro a chodi ar eu traedyn llu mawr. O! yr oedd yno hwyl! Yr oedd y ffaith eu bod o'r'Gweithfeydd' yr adeg hono, ynddi ei hun, yn fwy cynhyrfus na pheymwelai yn awr ddau o America, Awstralia, neu yn wir o'r byd arall."

Tra yn gadael llawer iawn o gofnodion dyddorol syddganddo yn nghorff y blynyddau, ni wnawn bellachond rhoddi ei gyfansymiau ar ddiwedd y blynyddoedd, yrhai a enghreifftiant yn effeithiol lwyredd y Dr. gyda'iwaith, yn nghyd a mawredd y gwaith a gyflawnai. Hefyd,cawn olwg ar ei yspryd a'i deimlad yn ngwyneb daionimawr ac amrywiol yr Arglwydd tuag ato. Cawn, morgynnar a'r flwyddyn 1857, ei fod yn dra phoblogaidd, acyn gwneyd gwaith mawr, oddiwrth a ganlyn:—

SUMMARY FOR 1857.

"Sermons, 195; Addresses, 32; Lectures, 34; Total, 261—5 timesweekly on an average. Y gogoniant i Dduw."

Erbyn hyn, y mae y Dr. yn cofnodi ei ddarlithiau, eiareithiau mewn gwahanol fanau, ac ar wahanol bynciau,yn nghyd a'i anerchiadau a'i ymrwymiadau gwahanol,gyda'r manylder mwyaf, a symia hwynt i fyny ar odreupob tudalen, gan eu symmud yn gyfundrefnol i ben ynesaf. Dechreua 1858 gyda'r nifer 2,420 o rwymedigaethauwedi eu cyflawnu. Yn niwedd 1858, cawn 2,710 a'r nodiad isod yn canlyn:—

SUMMARY FOR 1858.

Engaged in delivering Sermons, Lectures, or Addresses. 290 times,giving an average of 5½ every week. or 5 times and 30 over. I bless Godfor the health and strength which He has given me to do His work."Yn niwedd y flwyddyn 1863, cawn fod cyfanswm ei ymrwymiadau o'r dechreu wedi cyrhaedd y swm o 4,548.

Etto:—

Total number of public engagements during the last year was 477.Mae genyf i ddiolch llawer i Dduw am nerth a iechyd i allu cadw pobymrwymiad trwy y flwyddyn. I Dduw y byddo yr holl ogoniant.

THOMAS PRICE.

Etto, ar ddiwedd 1864, ceir 4,986—

"Total number of Public Engagements during the year is 438. Maeyr Arglwydd o'i fawr ddaioni wedi rhoddi i mi iechyd a nerth i gadwpob ymrwymiad cyhoeddus heb i neb gael ei siomi. O pa mor ddiolchgar y dylaswn fod i Ti, O Dad, am dy holl ddaioni i mi, Rhag. 31, 1864!

THOMAS PRICE."

Yn mhen ei ugeinfed flwyddyn yn Nghalfaria, gwna nodiad neillduol:—

"The total number of Public Engagements in the year just closed is460. Mae yr Arglwydd yn ei fawr ddaioni wedi estyn nerth a gras i middal mewn iechyd corff a bywiawgrwydd meddwl gyda'i waith drwy yflwyddyn heb un bwlch. Mae y flwyddyn hon sydd wedi ei gorphenwedi terfynu yr ugain mlynedd yn Aberdar. Yn yr ugain mlynedd hynyr wyf trwy nerth Duw wedi cymmeryd rhan mewn 6,167 o gyfarfodyddcyhoeddus mewn pregethu, darlithio, &c. I Ti, O Dad, y byddo yr hollogoniant. Amen."

Yn niwedd ei goflyfr cyntaf, cawn dudalenau lle y cofnodaei bregethau yn y cwrdd misol, ac hefyd y rhai a draddododd yn y cangenau, y rhai sydd fel y canlyn:—

"Cwrdd Misol, 20 o bregethau ar wahanol destynau; Ynyslwyd, 21;Gadlys, 45; Bethel, 145; yr oll ar wahanol bynciau yn yr un eglwysi."

Yn yr ail gofnod—lyfr, cawn:—

"NOTE.—The sermons and public engagements in this Book are incontinuation of a book already filled. I had preached previous to mycommencing to enter in the other register from Jan. 1, 1849, to Dec. 31,1850, 945 times. Recorded in the other Register 5,904 times, making atotal of 6,859. Hence I had the privilege of attending some publicengagements up to Dec. 31, 1866, 6,859. I bless God for health andability to do this. To his name be all the glory."

Yn 1867, cyflawnodd 506 o ymrwymiadau cyhoeddus. Ynniwedd 1868, cawn y nodiad a ganlyn:—

Mae y flwyddyn ddiweddaf wedi bod yn un hynod am ei marweidddra crefyddol trwy yr holl wledydd. Ychydig iawn, iawn, o grefyddsydd wedi ei brofi yn unrhyw fan. Yr ydym ni wedi bedyddio llai nagarfer—dim ond 16 trwy y flwydddyn. Mae genym i ddiolch i'r Arglwydd am heddwch, cariad, a thangnefedd yn yr eglwys. Mae y gynnulleidfa yn dda iawn, ond ychydig yw y cynnydd. I'r Arglwydd ybyddo y clod am bob daioni. Yr ydwyf wedi cael nerth a iechyd igymmeryd rhan mewn 521 o gyfarfodydd gartref ac oddicartref yn ystody flwyddyn. Yr Arglwydd a fyddo gyda ni yn y dyfodol. Amen.

Yn y flwyddyn nesaf, 1869, yr ymwelodd â'r Iwerddon a'rAmerica, ac y mae yr holl fanau yr ymwelodd â hwyntwedi eu croniclo yn ofalus dydd yn ei ddydd; felly, gellirunrhyw bryd ddweyd, oddiwrth ei gofnod—lyfr, p'le ydoeddbob dydd, a'r gwaith cyhoeddus a gyflawnodd.Yn niwedd y flwyddyn 1870, mae ei ymrwymiadau cyhoeddus wedi cyrhaedd o'r dechreuad i 8,843, a dywed:—

Heddyw, dydd Sadwrn, Rhagfyr 31, 1870, yr wyf yn y modd mwyafdwys a difrifol yn cydnabod llaw ddaionus yr Arglwydd tuag ataf am yflwyddyn hon. Diolch am nerth a iechyd i weithio yn y winllan. Maey cyflawniadau cyhoeddus am y flwyddyn yn 508. O am fwy o ysprydgras a gweddi, yspryd caru ac yspryd gweithio, fel y byddo i'r Enw Mawr gael ei ogoneddu, ac eneidiau lawer gael eu cadw. I Ti, O Dad,boed y gogoniant oll. Amen.

THOMAS PRICE.

"Rhag. 31, 1870.

Ar ddiwedd 1873, ceir:—

"Gallaf etto godi yma fy Ebenezer, diolch i Dduw, a chymmerydcysur. Cefais y fraint o fod mewn 873 o gyfarfodydd heb fethu unwaithtrwy afiechyd nac unrhyw achos arall. Y clod yn gryno ar ben y Duwda trwy Iesu Grist fy Arglwydd. Rhag. 31, 1873.

THOMAS PRICE.

Bu ei ymrwymiadau am 1874 yn 737, a chydnebydd ynyr un modd ddaioni ei Dduw.

Yn y flwyddyn 1875, cawn, gyda nodiadau tebyg i'r rhaia nodasom, yr hyn a ganlyn:—

"Yn ystod y flwyddyn nid wyf wedi darlithio o gwbl nac wedi bodar y Board of Guardians, ond wedi talu mwy o sylw i'r achos da gartref.I Dduw pob gras y rhoddaf yr holl glod yn enw ei anwyl Fab. Amen.

THOMAS PRICE.

Diolch am iechyd corfforol a bywiogrwydd meddwl, ymae y Dr. wedi ei wneyd hyd yn hyn, a chydnabod Duwyn ddaionus am nerth a gallu i weithio a chwrdd â channoedd o ymrwymiadau a dyledswyddau pwysig; ond drwggenym am y cyfnewidiad a gymmerodd le yn 1876. Nidyw wedi cofnodi dim o Mai 28, 1876, hyd Ionawr iaf,1877. Ond rhydd nodiad cyffredinol am y cyfnod y bumewn cystudd, yr hwn sydd fel y canlyn:—

NODIAD EGLURHAOL.—Ar y Sul, Mai 28, 1876, yr oedd dyn ieuanco Heolyfelin yn pregethu yn Nghalfaria boreu y Sul, ac yr oeddwn ibregethu yn Nghwmdar yn y prydnawn. Pregethu a thori bara gyday Saeson yn y nos. Yr oeddwn yn wael iawn y pryd hwn. Aethum iLundain dydd Llun, Mai 29, 1876, a gwelais Dr. Canton, a dranoethcwppiwyd fi yn drwm iawn. Bum yn Llundain dan gyfarwyddiadauy meddygon Dr. Canton, Dr. Muchison, a Dr. Beddles. Bum yn Llundain o Mai 29 hyd Mehefin 8. Ar Mehefin 7, 1876, daeth Emily i Lundain, ac aeth â mi i ffwrdd ar Mehefin 8 i'r Mumbles. Bum yn y Mumbles o Meh. hyd Gorphenaf y 4ydd. Yna ar Gorphenaf 4 cymmerwyd fi o'r Mumbles i Lundain. Gorphenaf 8, cymmerasom ein lle i fyny yn Forest Hill. Buom yno hyd Awst 9, 1876: y dydd hwn ym. adawsom er myned i Scotland. Cyrhaeddasom Edinburgh dydd Gwener,yr 11eg. Aethom oddiyno i Melrose, yn Scotland, dydd Sadwrn, Awst12. Bu Emily a minau yn Melrose hyd ddydd Mercher, Medi 27, 1876.Aethom o Melrose i Newcastle—on—Tyne, York, ac i Birmingham. Buomyn Birmingham wythnos yn mwynhau Cyfarfodydd Hydrefol Undeb yBedyddwyr. Ar Hydref 6, 1876, aethom o Birmingham i Rhyl. Arosasom yno hyd Tachwedd y 6, 1876. Y dydd hwn y daethom i Aberdargyda chalonau diolchgar i Dduw am y fraint. Bum 36 o Suliau hebbregethu dim. Diolch i Dduw am adferiad."

Bu y Dr. mewn ychydig ddyryswch gyda'i amgylchiadaubron yn y cyfnod hwn, a llawer oedd y barnau a ddadgenidgan rai am ei absenoldeb o Aberdar. Gwyr y rhan luosocafo'i hen gydnabod ei fod wedi ei arwain i'r dyryswch hwngan ereill yn gyssylltiedig a'r Factory yn Aberdar. Cafoddy Dr. ddyoddef yn erwin o herwydd hyn hyd ddiwedd ei oes,ac er symmud drwg dybiaethau a rhoddi ychydig oleuni ary cyfnod hwnw, yr ydym wedi dyfynu y nodiad eglurhaol oddyddlyfr y Dr. yn llawn. Teimlwn ei bod yn iawn ynomgyfeirio at y pethau hyn, gan iddynt fod yn ddygwyddiadaupwysig yn ei fywyd. Diau i'r trafferthion a gafodd a'rgofid yr aeth drwyddo effeithio llawer iawn ar ei iechyd, agallwn, oddiar wybodaeth ac adnabyddiaeth bersonol,ddweyd na fu y Dr. byth yr un fath ar ol hyny. Collodd eiyspryd a'i wroldeb i raddau helaeth iawn.

Hydref 11eg, 1880, cymmerodd amgylchiad hapus le ynNghalfaria. Gyda y Dr. am y dyddiad hwnw cawnfel hyn:—

Bedyddio dau fyfyriwr ieuainc o Athrofa Trefecca, y rhai oeddyntwedi cyfnewid eu golygiadau am fedydd, ac yn dewis cael en bedyddiogan Dr. Price yn Nghalfaria. Enwau y brodyr ieuainc ydynt DavidEvans, gynt o'r Bettws, Sir Gaerfyrddin, a Thomas Valentine Evans,gynt o Landyfaen.

Y brodyr anwyl a galluog D. Evans, Llangefni, Môn, aValentine Evans, Clydach yn bresenol, oeddynt y brodyrhyn. Y maent wedi profi yn gaffaeliad i'r Bedyddwyr, acy maent wedi ennill safle a chymmeriadau uchel yn euplith. Ar ddiwedd y llyfr hwn etto, sef yr ail, cawn ganddolechres o'i bregethau i'r plant, y rhai ydynt 23 mewn nifer.Yn mhlith pynciau ereill, cawn—" Dafydd pan y fachgen,"Y Bachgen Iesu," "Timotheus," "Samuel," "Bywyd Joseph," "Moses pan yn blentyn," &c., &c. Y mae wedicroniclo y cwbl yn fanwl am danynt, gan nodi y lleoeddgwahanol y pregethwyd hwynt ganddo. Cynnwysa y llyfrhwn gofnodion am dros 13 mlynedd, sef o Ionawr iaf,1867, hyd Tachwedd 27ain, 1880. Rhif ei ymrwymiadaucyhoeddus, fel y nodasom, Ionawr iaf, 1867, oeddynt6,859; ond gwelwn eu bod wedi cyrhaedd, erbyn Rhagfyr31, 1880, i'r swm aruthrol o 16,701. Mae ei nodiad arddechreu ei drydydd dyddlyfr, fel y canlyn:—

ROSE COTTAGE,

NOVEMBER, 1880.

This book is a continuation of a book similar in shape and size asthis. Therefore, the two Books have chronicled 16,589 sermons orPublic Addresses.

Cofier nad yw y 16,589 yn cyrhaedd yn mhellach nâThachwedd y 27ain, tra y mae y 16,701 yn cyrhaedd hydddiwedd y flwyddyn.

Am Nadolig, 1880, cawn a ganlyn:—

Rhag 25. Dydd Nadolig, gartref am y tro cyntaf am 35 mlynedd,heb fod yn rhwym mewn unrhyw drafodaeth gyhoeddus."

Ei nodiad ar ddiwedd y flwyddyn a ddarllenir fel hyn:—

"I Dduw a'r Tad y byddo'r holl ddiolch. Trwy ei nerth Ef a'idiriondeb Ef yr wyf wedi cael y fraint o gymmeryd rhan mewn 1,082 0wahanol gyfarfodydd gartref ac oddicartref, am yr hyn y teimlaf yn wirddiolchgar.

Ion. 1af, 1881.

THOMAS PRICE.

Y dyddiad olaf y mae wedi croniclo ei weithrediadauarno yw Mai 16eg, 1886. Y ddau beth olaf ar ei lyfr yw"Cyfeillach Calfaria," "Cor Bach." Y mae ei holl gyflawniadau cyhoeddus wedi cyrhaedd dros yr 20,000.gwrs, y maent yn amrywiol iawn, fel y gwelir oddiwrth einodion, oblegyd gosodai bob peth i lawr yn eglur. Hyd yflwyddyn 1884 ysgrifenai y Dr. yn eglur, sefydlog, a digryn;ond y mae yn gwaethu yn fawr yn 1885 ac yn 1886: maeolion cryndod rhyfeddol. Hefyd, y mae y meddwl yn colli,oblegyd ceir llawer o eiriau aneglur a brawddegau anorphenedig; ond pa ryfedd pan gofiom fod ei feddwl mawr

wedi bod mor llafurus, a'i law wedi ysgrifenu cymmaint!Pe na fuasai ei law wedi gwneyd dim arall ond ysgrifenu,byddai yn waith aruthrol, ond gwnaeth lawer gyda hyny.Dengys y llyfrau hyn yn eglur iawn fod ymroddiad, penderfyniad, a dyfalbarhad yn elfenau cryfion neillduol yn y Dr.,cyn y gallasai, gyda chymmaint o waith a gyflawnodd, atheithio fel y gwnaeth yn mhell ac yn agos, fod wedi eucadw i fyny mor ddifwlch, cryno, a gofalus; ond nid ywhyn yn eithriad ynddo mewn trefnusrwydd, oblegyd gwelwny "dyn trefnus" yn amlwg yn y cwbl a wnai. Y mae ywedd hon yn ei gymmeriad yn un dra phwysig a gwerthfawr, ac yn deilwng o'i mabwysiadu a'i hefelychu gan bawb,yn neillduol dynion ieuainc sydd â'u gwynebau ar fasnachneu swyddi pwysig. Y mae cannoedd o gofnodion gwerthfawr gan y Dr. enwog yn ei lyfrau nad ydynt o ddyddordeb

cyffredinol; etto, y maent yn fath o fynegfysedd, yn cyfeirio at y dyn, ac yn egluro yn bur amlwg pa fath ddyn ydoedd.

PENNOD XVIII.

EI FFRAETHEIRIAU.

Naturiol ffraeth—Myned yn mhell, etto o fewn terfynau—Myfyr Emlyn ar ei ffraethineb—Gwaith angylion—Myfyr etto—Pregeth y Corn Bach—Levi Thomas—T. ab Ieuan—Rustic Sports yr Ynys—Y Dr. a Spurgeon.

YR oedd y Dr. yn naturiol ffraeth (witty), ac yn llawn o'r doniol a'r digrifol; etto, cadwai yn lew iawn y tu fewn i derfynau gweddeidd—dra a moesgarwch. Yr oedd yn cymmeryd, ac mewn gwirionedd yn cael, mwy o ryddid i ddweyd yr hyn a fynai na neb ag a adnabuom erioed. Byddai ei ffraetheiriau a'i chwedlau yn myned yn mhell weithiau, ond ymesgusodid trwy ddywedyd, "Dr. Price yw ef—y mae fel efe ei hunan." Yr oedd llawer iawn o'i wits, fel y byddant yn gyffredin, yn ymddybynu ar amgylchiadau, atebent yn eu lle yn dda; ond wrth eu hailadrodd collant lawer o'u gogoniant. Y mae Myfyr Emlyn yn ddarluniadol a chywir o hono yn ei ysgrif y cyfeiriasom ati droion yn flaenorol ar y mater hwn; ac er ein bod wedi cylymu traed yr un ergydion yn ein braslinellau o'r bennod hon, etto teimlwn nas gallwn wneyd yn well na gadael i Myfyr eu hadrodd yma. Dywed:—

"Yr oedd y Dr. yn hynod o ffraeth, ac yr oedd ei ffraethineb yn aml iddo yn brofedigaeth, a chariai ef weithiau i arddull a ystyrid gan rai yn amheus. Ond cymmaint oedd ei ysprydiaeth, ei naturioldeb a'i ddifrifoledd, fel y medrai ddweyd a gwneyd gyda boddhad i gynnulleidfa, yr hyn a gyfrifid mewn ereill yn annyoddefol. Pan yn gadeirydd i Mr————[17] a areithiai mewn cyssylltiad â Chymdeithas Heddwch, yn amser Rhyfel Rwsia, clywais iddo ddweyd ar y diwedd, 'Er fy mod gymmaint dros heddwch a neb, etto, pe cawn fy nymuniad, rhoddwn gasgen o bylor dan Nicholas, a chwythwn ef i ddiawl.' Paid gwrido, ddarllenydd hoff, pe clywet Price yn dweyd hyn buaset yn chwerthin yn iachus, pa un a fuaset yn cyduno â'r syniadau ai peidio. Clywaisef yn dweyd wrth gynnulleidfa o Saeson yn Llundain un tro, 'Yr ydychchwi, y Saeson, yn barod i feddwl pob drwg am danom ni y Cymry.Dywedwch fod Sir Fynwy yn perthyn i Loegr, ond pan y crogir rhywun yno, yna dywedwch ei bod yn Nghymru; ond cofiwch, pan y crogirrhywun yn Sir Fynwy, Sais ydyw.' Gwyr y darllenydd fod yr Ianciodyn dra anarddangosiadol a digyffro eu hagwedd pan yn gwrando pregeth neu ddarlith, fel mai anhawdd i ddyn dyeithr yw gwybod pa le ysaif mewn cyssylltiad â hwy. Yr oedd Dr. Price yn pregethu un tro igynnulleidfa yn America ar Weledigaeth yr esgyrn sychion,' ac wrthddarlunio eu sychder a'u marwoldeb, dywedodd yn sydyn, 'Yr oedd.ynt mor sych a marw a chynnulleidfa Ianciaidd.' Yn awr, beiddiafddweyd mai un o gant o Gymru neu Loegr a ddywedai hyn heb i'rgynnulleidfa hono osod y diffoddydd arno, a thaflu arno y diystyrwchmwyaf; ond fel arall yn hollol y bu—y gynnulleidfa a orchfygwyd ynllwyr, a daeth yn gyffelyb i un Gymreig, mewn hwyl, neu i'r esgyrnsychion ar ol taflu iddynt anadl bywyd; a chofir gydag edmygedd abrwdaniaeth am y dyn bach cadarn, ffraeth, a dwys—eneidiol o Gymruhyd y dydd heddyw. Cangen o'i eglwys ydyw Gwawr, Aberaman, aphan oedd y gangen yn ieuanc, trodd y gweinidog ac amryw o'r aelodauat y Mormoniaid, a cheisient feddiannu y capel: cadwent gyfarfodydda'r drysau yn nghlo, ac ofnid y gorchfygent. Ond ar un o'r adegau hynaeth ein gwron, gydag ychydig gyfeillion, a thorodd i fewn trwy yffenestr; ac fel cadfridog dewr, efe oedd arweinydd y gad. Ymarferodddipyn o Gristionogaeth ewynol trwy ymaflyd yn y gweinidog gwrthgiliedig, gan ei fwrw allan yn gorfforol o'r synagog; ac ni fwriwyd allangythraul erioed yn fwy llwyr ac effeithiol, a chafodd efe a'i ganlynwyrgymmaint o fraw, fel na bu arnynt chwant byth mwy yspeilio eiddoarall."'—Gweler Y Geninen Gorphenaf, 1888, tud. 177.

Yr oedd y Dr. yn pregethu mewn eglwys unwaith oedddipyn yn drymaidd ei hyspryd ac yn gwrandaw yn bursych arno. Desgrifiai waith yr angylion. Dywedai,

"Mae y nefoedd yn drefnus gyda phob peth, ac mae gan bob angelei waith, a gallaf eich sicrhau fod pob un o honynt yn meindio ei fusnes.Y mae rhai o honynt yn cario newyddion o'r ddaear, ac yn adroddsut y mae pethau yn myned yn mlaen yma. Nid yw ereill o honynt yngwneyd dim ond costrelu y dagrau mae saint Duw yn eu colli yn mydy cystudd mawr. Mae un arall yn cofrestru amenau y plant; ond Duwsy'n gwybod! gall sychu ei ysgrifbin o ran dim gwaith mae yn gaelgan yr eglwys hon, ac yr wyf yn ofni y gall roi i fyny ei waith yn eithafrhwydd o ran a gaiff y dyddiau hyn o Gymru."

Deffrodd y nodiad hwn ychydig ar y gynnulleidfa, a gwrandawsant yn fywiocach o hyny yn mlaen. Gallai y Dr.anturio i ddweyd pethau felly, oblegyd yr oedd yn wrandawr bywiog ei hunan. Dywed Myfyr Emlyn yn mhellach am dano,

"Yr oedd yn wrandawr hynod o hwylus ar ereill. Adnabyddais acadnabyddaf amryw o frodyr poblogaidd, y rhai a garant gael arddangosiadau o' hwyl' gan eu gwrandawyr; ond ni roddant 'Amen,' ochenaid, nac edrychiad serchus i'w cydwas pan yn ymdrechu dros Dduw a'rbobl, ond eisteddant fel delwau, plygant ben, gan wneyd gwepau fel peb'ai gas ganddynt yr Efengyl ond pan yn cael ei thraddodi ganddynthwy. Ond un hollol wahanol oedd ein gwrthddrych: gwrandawai ynwastad yn y modd mwyaf bywiog ac arddangosiadol oddieithr fod cwsgam funyd yn ei orchfygu. Cysgai a dihunai yn gyflym, ond braidd naddywedai Amen' dan y bregeth rhwng defnynau cawod cwsg. Gwrandawai ar y gwan yn gystal â'r cryf—y naill o gydymdeimlad a'r llall oedmygedd; a'r gwan a g'ai fwyaf o'i hwyliau. Ni edrychai yr ŵynarno fel ar lwdn tarw neu hwrdd afrywiog a gelyniaethus, ond fel aroen cydryw a chydnaws yn ymbrancio ac yn ymbleseru ar lechweddauiachus a thoreithiog Mynydd Seion. Un o'r cofion cyntaf sydd genyfam dano oedd mewn cyfarfod poblogaidd ar brydnawn trwm yn NyffrynAberdar, pan oedd 'canwr pibell poblogaidd' yn pregethu, yr hwn ynsydyn a ganodd, ' Yr wyf wedi colli fy mhregeth—'wn I ddim beth idde'yd.' Bloeddiodd Price allan, 'All right, cer' y' mlaen,―mae yrhen don genyt.' Adfywiodd y gynnulleidfa, a bu dawnsio rhyfeddolcyn y diwedd. Medrai daflu tânbeleni i'r dorf nes ei hadfywio, ei lloni,a'i dwyn i gywair priodol."

Yr oedd y Dr. yn pregethu yn Nghymmanfa Bassalegyn y flwyddyn 1851, a'i destyn oedd y "Corn Bach." Yroedd y bregeth hono yn broffwydoliaethol ganddo. Dywedai y byddai i'r Pab golli ei awdurdod yn y flwyddyn1870, a throdd ei broffwydoliaeth allan yn wirionedd. Yny flwyddyn y pregethai yn y gymmanfa a nodasom, yroedd y wlad yn cael ei rhanu yn esgobaethau gan y Pab.Wedi codi y bobl i hwyl fawr, gwaeddodd y Dr. allan âllef uchel, " Bobl! cedwch y plant a'r Beibl gyda'u gilydd,yna rhoddwn hèr i'r Pab a'r diawl!"

Byddai yn ddoniol weithiau gyda'r brodyr mewn arabeddac ysmaldod. Yr oedd Dr. Levi Thomas, Castellnedd,un tro yn pregethu yn Nghalfaria, ac fel y gwyr y rhai a'i hadwaenent ef, yr oedd wedi ei freintio à chorporation purlew, a'i ddonio à llais nodedig o nerthol. Achwynai Levidipyn ar y dechreu ei fod yn anhwylus yn herwydd afiechyd, a dymunai am gydymdeimlad y gynnulleidfa; ondcyn terfynu, yr oedd y pregethwr wedi annghofio ei anhwylder, ac wedi myned i waeddu yn annghyffredin, fel ygallai efe. Wedi iddo orphen, cododd Price, a dywedoddyn ei ffordd ddigrif, "Diolch i Dduw fod Levi Thomas yndost: pe byddai yn iach, clywid ef yn Abertawy!"

Pan oedd y Parch. T. James (T. ab Ieuan), Glynnedd,yn olygydd Dyddiadur y Bedyddwyr, aeth rhyw siaradrhwng rhai o'r brodyr yn nghylch amser a'r gwahaniaethyn hyd y misoedd. Dywedodd y Dr. yn sydyn, "Yr wyfyn deall y misoedd pedair i gyd yn rhwydd, ond yr wyf yngadael y misoedd pump i gyd i'r brawd o Glynnedd."Cogleisiodd yr atebiad deimlad T. ab Ieuan, a chafodd eifoddhau yn chwerthiniad calonog y brodyr, oblegyd yroedd yn falch o gael compliment yn nghylch ei waith a'igyssylltiad â'r dyddiadur.

Ychydig flynyddau yn ol, cynnaliwyd Cymmanfa GerddorolYnyslwyd, ar y Llungwyn. Y flwyddyn hono, DavidHughes, un o ddiaconiaid y Dr., oedd y cadeirydd. Ydiwrnod hwnw hefyd, yr oedd Rustic Sports yn cael eucynnal ar Gae yr Ynys, yr ochr arall i'r afon o Gapel yrYnyslwyd; ond gellid clywed swn eu rhialtwch panfloeddient yn gymmeradwyol am ryw orchest-gampau.Triniai y cadeirydd y sports, y chwareuwyr, a'r rhedegwyr,&c., a'i meistr yn arw iawn, pryd y gwaeddodd Price o'rsedd fawr odditano, Eithaf right, Dafydd Hughes;rhowch hi iddo, oblegyd hen dd--l yw e' o hyd."Rhoddodd hyn fwy o nerth yn mraich Hughes i fflangelluhen "chap," ys dywed Harris o Heolyfelin.

Un tro, yr oedd y Dr. yn darllen papyr, yr hwn a gynnwysai lawer iawn o ffigyrau, yn Nghyfarfodydd HydrefolUndeb Bedyddwyr Prydain Fawr, a gynnelid y flwyddynhono yn L'erpwl. Yn nghanol ei araeth, pan yn tynu ytŷ lawr bron, ac wedi gyru y gynnulleidfa braidd yn fflam,gwelodd y Dr. Mr. Spurgeon yn dyfod i fewn, a dywedodd,yn ol ei arabedd arferol, yn y modd mwyaf tarawiadol,Rhaid i'r sér fyned o'r golwg pan mae yr haul yn gwneydei ymddangosiad;" a gwaeddodd Spurgeon mewn atebiad,"Go on, brother Price; go on, brother Price." "All right," meddai Price; "I shall not be long," ac yn mlaenâ'i ffigyrau yr aeth nes oedd y gynnulleidfa fawr mewnhwyl ac yn synu a rhyfeddu at ei allu digyffelyb. Gellidychwanegu nifer lluosog o bethau tebyg am ein gwrthddrych; ond credwn y gwasanaetha yr uchod i daflu golwgarno yn yr ystyr a nodwn. Felly, symmudwn yn mhellachyn mlaen, a chyn cael yr olwg ddiweddaf arno, gwahoddwnamryw frodyr a'i hadwaenent ef yn dda i wneyd ychydignodiadau ar y Dr., a dyna fydd ein pennod nesaf.

PENNOD XIX.

NODIADAU AR Y DOCTOR.

Gan y Parchn. W. Harris—Dl. Davies—W. Williams, Rhos—J. George—Y diweddar Rufus Williams—Y diweddar F. Morgan, Cwmbach—Dr. Thomas, L'erpwl—W. Morris, Treorci—Mynegiad Coleg Pontypwl—Proffeswr Edwards—Dr. Todd—R. E. Williams (Twrfab), Ynyslwyd—Mr. D. R. Lewis, Aberdar.

MEDDYLIASOM mai nid anmhriodol oedd gwahoddnifer o hen gyfeillion y Dr., y rhai a gawsantlawer o gyfleusderau i gymdeithasu ag ef, ac i'w adnabodyn dda, i ysgrifenu ychydig o'u hadgofion am dano; ac erein bod wedi derbyn addewid oddiwrth amryw y buasai yndda genym fod wedi cael eu hysgrifau, am y rhoddai hynyolwg gyflawnach ar wahanol agweddau cymmeriad Price,rhaid i ni foddloni ar a theimlo yn ddiolchgar am adgofiondyddorol y brodyr canlynol, yn nghyd â'r nodiadau buddiolgawsom o gyfeiriadau ereill. Gan fod cyfeiriadau yr ysgrifenwyr at y manau y daethant i gyssylltiad â'r Dr., ynnghyd â'r amgylchiadau neillduol a gymmerasant le, yrydym yn eu rhoddi i mewn yn agos yn gywir fel y derbyniasom hwy. Bydd fod pob un yn dywedyd yr hanes yn eiffordd ei hun yn ei wneyd yn llawer mwy dyddorol aswynol i'r darllenydd. Rhoddwn y llythyrau fel y daethant i'n llaw gan nad oes genym reol neillduol i'w dylyn:—

GAN Y PARCH. W. HARRIS, HEOLYFELIN.

"Y cof cyntaf genyf fi am Dr. Price, pan oeddwn yn lled ieuanc, ywiddo ef ac Evan Thomas, Casnewydd, gael galwad i ddyfod yn gydweinidogion i Nebo, Penycae, a'r cylch. Perthynai i Nebo y pryd hwnwamryw gangenau eglwysi ar hyd y dyffryn, megys Cendl, Brynhyfryd,(Cymraeg a Saesneg), a Victoria; golygai y frawdoliaeth yn Nebo gymmeryd y Cwm rhag blaen, a'r brodyr hyn i gydweinidogaethu a chyd-lafurio yn a thrwy y gwahanol leoedd. Yr oedd amcan yr eglwys yndda, ond ni fuont lwyddiannus i'w gyrhaedd. Dywedwyd y pryd hwnwfod y Dr. yn foddlawn derbyn yr alwad, ond nad oedd Mr. Thomas yn cydweled yn hollol yn y peth, ac felly syrthiodd y cynllun i'r llawr.Mr. Thomas, yn ddiamheuol, oedd yn barnu yn iawn ac yn gweled ymater oreu. Llawer gwell oedd iddynt hwy ill dau gael bob un ei faesei hun i lafurio ynddo, ac felly y bu. Yr oedd y brodyr mor wahanoli'w gilydd, fel nad oedd yn debyg y gallasent gydlafurio yn ddedwyddyn hir yn yr un eglwysi; felly, yn ol trefn ddoeth Rhagluniaeth Ddwyf.ol, ymwanhasant i gylchoedd gwahanol. Ymsefydlodd Evan Thomasyn weinidog ar Nebo yn unig, ac aeth y Dr. drosodd ac ymsefydloddyn Aberdar. Yr oedd Nebo, Pencae, yn ateb Mr. Thomas yn dda, acyntau yn ateb Nebo, a gwnaeth waith yno ag y cofir am dano ddyddiaulawer. Yr oedd Aberdar, hefyd, yn ateb Dr. Price, ac yntau yn atebAberdar yn rhagorol, ac yma y bu hyd derfyn ei daith. Wedi i'r Dr.fyned i Aberdar aeth blynyddoedd heibio heb i mi wybod ond ychydigam dano; ond yn Mawrth, 1858, pan aethum o Bantycelyn i'r Cwmbach,daethum yn gymmydog agos iawn iddo; ac yn Chwefror, 1862, panddaethum i Heolyfelin, yr oeddwn yn agosach drachefn. Buom yngymmydogion dedwydd iawn am 29 o flynyddau, a chefais ddigon ogyfleusderau a manteision i'w adnabod yn dda. Yr oedd yn hynodddymunol, dyfyr, ffraeth, a doniol; byddai yn fywyd a llawenydd ynmhob cylch; ac nid oedd un amser yn honi rhyw fawredd ac uwchafiaeth ar ei frodyr. Bydd rhai felly weithiau, gwaethaf y modd, edrychant i lawr gyda dirmyg ar rai annhraethol amgenach na hwy eu hunain;nis gellir myned yn agos atynt, a dysgwyliant i'w brodyr deimlo rhywgryndod a gwyleidd-dra wrth agoshau atynt. Nid oedd y Dr. yn perthyn o'r nawfed âch i'r tylwyth hyn-teimlai pawb yn gartrefol yn eigyfeillach, ac yr oedd yntau yn gartrefol gyda phawb. Yr oedd ynwastad fel brawd yn mysg ei frodyr, ac ymddygai yn aml fel pe bua saiyn llai nâ'r lleiaf o honynt. Yr oedd ei siarad siriol, ei ffraethebiondigrif, a'i nodiadau doniol, yn gwneyd ei gymdeithas yn ddymunol,dedwydd a llawen. Pan ddaethum i Ddyffryn Aberdar yr oedd yDr. yn ei fan uchelaf mewn defnyddioldeb a phoblogrwydd; ond nidoedd hyny yn peri iddo annghofio ei hunan na diystyru ei frodyr. Ymae ambell frawd na all ddal ond ychydig o anrhydedd, clod, a phoblogrwydd, heb iddo ymchwyddo a myned yn fawr, gwyntog, a hunanol;ond yr oedd y Dr. yn dra gwahanol. Byddai ef bob amser yn ostyngedig, diymongar, a hunanymwadol. Yr oedd y Dr. yn llawn bywyd agweithgarwch. Barna llawer iddo weithio gormod, ac y buasai yn ddaiddo weithio llai, er iddo allu byw yn hwy. Pa fodd bynag am hyny,efe a weithiodd lawer 'mewn amser ac allan o amser.' Gallai wneydllawer o waith, a hyny mewn gwahanol gylchoedd. Cafodd gyfansoddiad cadarn, bywiog, ac iach; ond gormod gwaith a'i niweidiodd ynfawr. Gwelid hyny yn amlwg yn ei flynyddau olaf. Gweithiodd ei hun allan yn llwyr o ran nerth corff, meddwl, a defnyddioldeb, cyniddo farw. Bydd rhai farw yn nghanol eu nerth, bywiogrwydd, a defnyddioldeb—cymmerir hwynt ymaith megys â llifeiriant; ond ereillydynt yn byw ar ol i'w gallu a'u defnyddioldeb ddarfod. Llafuriodd yDr. yn fawr gydag achos crefydd.

Pan ddaeth efe i Aberdar yr oedd y dyffryn yn ymagor ac yn ym.ddadblygu yn mhob cyfeiriad—gweithfeydd newyddion yn cychwyndrwy y cwm, a'r bobl wrth y cannoedd o bob man yn dylifo i'r lle. Yneu mysg yr oedd torfeydd o ddynion crefyddol, fel yr oedd yr achosioncrefyddol yn cynnyddu ac yn myned rhagddynt gyda chyflymdra rhyfeddol: yr oedd y fechan yn myned yn fil a'r wael yn genedl gref,'megys ar unwaith. Yr oedd yr amgylchiadau hyn yn RhagluniaethDuw yn peru llwyddiant mawr yr achosion crefyddol, fel yroedd galw mawr am gapeli a lleoedd newyddion i addoli Duw; a'r Dr., yntau, ynllawn bywyd a gwaith, yn cyfateb y lle a'r amgylchiadau yn rhagorol;ac felly, aeth y gwaith rhagddo yn fawr.

Yr oedd y Dr o dymher boeth, wyllt, danllyd, a bu hyny yn ddiauyn achos gofid iddo mewn rhai amgylchiadau; ond er yn boeth a gwyllt,deuai i'w le yn fuan: byddai yn ystorom sydyn ac enbyd weithiau,ond buan y byddai tawelwch mawr. Gwnai gamsyniadau pwysigambell waith, fel Pedr: torai glust a gofynai dân, ond buan y gwelai ybai, a gofidiai am dano. Yr oedd o yspryd maddeugar: ni chadwaideimlad câs ac annymunol yn ei fynwes; ni roddai ‘le i ddiafol,' ac nifachludai yr haul ar ei ddigofaint. Rhoddai driniaeth enbyd weithiau,wedi hyny byddai y cwbl drosodd; pan gyfarfyddai â'r cyfaill hwnwdranoeth, gellid meddwl na fu erioed ddim rhyngddynt. Yr oedd yngyfryw ddyn ag nas gallai neb teilwng deimlo yn anngharedig tuag ato.Yr oedd yn rhagori yn mhell, yn ei ddiffygion, ar lawer iawn yn eurhagoriaethau. Yr oedd yn hynod barod ac ewyllysgar i wneyd daioni,a daioni mewn llawer ffordd. Nid oedd eisieu ei gymhell i ddaioni—yroedd yn awyddus iddo: gwnai yn rhwydd, llawen, heb rwgnach nadannod. Yr oedd y nodwedd hon yn un neillduol ac amlwg iawn ynddo."Yr oedd yn un o barch a dylanwad mawr unwaith yn NghymmanfaMorganwg, ac yn un o werth mawr a gwasanaeth neillduol yn ei chynnadleddau. Byddai ei ddylanwad weithiau yn dra pheryglus, ac ynagored i wneyd cam dirfawr ag ambell frawd neu achos, pan na fyddaiefe wedi ei ddeall yn iawn, neu wedi ei gamarwain gyda golwg arno.Ond y rhan amlaf byddai ei ddylanwad er daioni, a phob amser felly,os byddai efe yn deall y mater yn briodol. Os teimlodd rhai ei ddylanwad weithiau yn anffafriol, teimlodd rhai ei ddylanwad yn fendithiol.Ni waaeth niwed o fwriad i neb; ond gwnaeth ddaioni i luoedd o galoniach. Bellach, y mae wedi ein gadael. Teimlwyd yn chwithig ar ei ol, a theimlir gan lawer etto. Huned mewn heddwch hyd yr adgyfod.iad mawr. Nawdd ac amddiffyniad Dwyfol fyddo ar ei anwyl ferch a'ichwaer alarus.

BY THE REV. DANIEL DAVIES.

I was very pleased when I heard that you were about to write amemoir of the late Dr. Price. My recollections of him go so far backas the time when he settled in the ministry at the old PenypoundChapel, Aberdare. My impressions of him are that he was a very remarkable man in every position he occupied. He was so as a preacher,eloquent and powerful; and as such his fort was the historical. He pictured the narratives of the Bible very vividly to his audience. Once hewas preaching on Christ feeding the five thousand men with the fiveloaves and two fishes; in the midst of the sermon he said, 'I imagineI see the disciples with their baskets going among the multitude. Peter,when he saw the miraculous manner the bread was being multiplied,called out loudly, 'John, how are you getting on? my basket is as fullas ever.' What a grand master we have.' Once, he was preaching onthe limitation of Satan's knowledge. He said that some people saythat Satan cannot see further than his nose, 'But,' said the Dr., 'thatnose is rather long sometimes.' He was a most successful preacher,and may be designated the 'Spurgeon of Wales,' for the first 25 yearsof his ministry especially. This may be seen in the Aberdare Valley inthe many memorials of his life. There are other evidences, viz., thenoble band of men he rose to the Christian ministry, who are popularand useful at home and abroad. He was also a wise disciplinarian; heshowed this in the manner he managed the churches. One time, whenthe English church (Carmel) was without a pastor, there was a difficult case to deal with in the church meeting there was one unrulymember who would partake of the communion against the will of thechurch. The members felt they could not proceed with the case. Iwas asked by the deacons to go over to the society at Calvaria, to request Dr. Price to come over and help us. I went, and told himmy message. He stood on his feet and said, 'Please go on with themeeting for a short time; I will be back soon. The devil is in theEnglish church, and they want me to cast him out.' He came, andasked the unruly man, who was lame, if he did partake of the bread and wine against the will of the church He replied in the affirmative. Then,' the Dr. said, 'the devil must be in you.' He pointed to the door, and said, 'Please to go out.' He was reluctant to go. Now go,' said the Dr., 'or I'll use my foot to you.' Then the man went limping out. After he had closed the door, the Dr. rose to his feet andsaid to those at the meeting, 'There, now, the devil is gone: you willhave peace,' and he went back to his own people at Calvaria."

GAN Y PARCH. W. WILLIAMS, RHOS, MOUNTIAN ASH.

"Yn yr Haf, 1845, y cwrddais â'r enwog Ddr. Price gyntaf erioed. Yroedd yn pregethu a chasglu yn Llysfaen ar noswaith tuag at AthrofaPontypwl, lle yr oedd yn fyfyriwr ar yr adeg hono. Brawd ieuancgwyneb agored, gwresog ei galon, serchog a hawddgar ei gyfeillach, ycefais ef, ac felly y parhaodd i mi hyd derfyn ei oes. Cyfarfuom ar olhyny mewn cyrddau a chymmanfaoedd lawer tro ar hyd y blynyddoeddwedi ei urddo ef yn weinidog yn Aberdar yn nechreu 1846.

"Nid hir y bu cyn dyfod yn boblogaidd gartref ac oddicartref felpregethwr, cynnadleddwr, a gwleidyddwr. Rhedodd ei glod fel melltendrwy yr holl eglwysi a'r wlad. Edmygid ef yn fawr fel pregethwr eglur,hawdd i bawb ei ddeall, gwresog iawn ei yspryd, ac ymarferol nodedigei syniadau. Yr oedd ar ei ben ei hun, a byddai dysgwyliad am danoyn nghyrddau mawrion y sir, ac yr oedd yn ffyddlon iawn i gyrchuiddynt. Yr oedd yn gynnadleddwr medrus a deheuig, yn meddu gwybodaeth a deall clir o'r materion a drinid. Yr oedd fel gwr gartref yn ygynnadledd am beri ac i gwmpasu gwaith. Rhaid cydnabod ei fod ynfeistrolgar yma fel rheol, ond byddai gwres ei yspryd weithiau yn eigario yn rhy bell, res bod yn ormod o feistr a tharo lle yr oedd eisieuolew. Pwy nad yw yn agored i roddi ergydion camsyniol? Cynlluniwr hynod o fedrus ydoedd mewn llawer o amgylchiadau, fel y mae olion ei law yn aros i brofi hyny.

"Yr oedd yn wleidyddwr o ran medr a gwroldeb penderfynol, Y swncyntaf a glywais am dano braidd wedi iddo gael ei urddo yn Aberdar,ydoedd ei ornest â'r offeiriad yn y lle o herwydd celwyddau y LlyfrauGleision, yn iselu cymmeriad gweithwyr a menywod yr ardal. Gwnaethyr ymgiprys hwnw, trwy wroldeb hyfaidd a medrusrwydd Dr. Price,les dirfawr i ddofi tafodau ensyniadol yr Eglwyswyr hunandybus, adeffroi y wlad i droi anwireddau melldigedig Toriaid beilchion yn olmewn hunan-amddiffyniad croew, clir, a gonest. Amser hynod ydoeddhwnw am dduo yr Ymneillduwyr Cymreig yn ngolwg yr yspïwyr Seisnig rhagfarnllyd gan haid o offeiriaid diffydd, rhagrithiol, a'u cwsmeriaid cynffonol. Er hyny, cododd Rhagluniaeth Ddwyfol ddynion enwoghynod i gyfarfod â'r adeg hynod hono, yn mhersonau Dr. Price a IeuanGwynedd, a gwyr dewrion a gonest ereill, fel amddiffynwyr yr Ymneillduwyr a'r werin Gymreig, yn ngwyneb ffrydiau o gyhuddiadau maleisus a bradychus can dywylled â'r dyfroedd a lifant allan o weithfaoedd yStroud. Yr oedd Dr. Price yn ddarn o fur cadarn fel amddiffynwr eiwlad yn ei chymmeriad ac yn ei hiawnderau. Saif ei enw yn uchel amoesau ar groniclau Cymru fel un o'i hamddiffynwyr dewraf yn ei ddydd."Yr oedd y Dr. hefyd yn wr o wybodaeth gyffredinol helaeth iawn,a deallai gryn swm o gyfraith y wlad. Bu fel cyfarwyddwr a chynghor.wr i luaws mawr ar lawer amgylchiad go ddyrus.

"Yr oedd yn neillduol o fedrus i fywiogi, trefnu, a hyfforddi'r YsgolSabbothol, a'i pherffeithio mewn gwybodaeth a threfn. Ei ddyfais efydoedd cael holl Ysgolion Sabbothol Bedyddwyr Dyffryn Aberdar—oHirwaun i lawr i Mountain Ash—i gyfarfod ar ddydd Nadolig yn uno'r capeli ar yn ail mewn eisteddfod. Byddai gwaith i gyfansoddwyr,cantorion, ac adroddwyr. Bu yr un gyntaf yn Hirwaun, Nadolig, 1856.Parhaodd y sefydliad hwn am flynyddoedd ac er lles. Yr oedd hefydyn hynod am ei yni a'i weithgarwch i sefydlu ysgolion ac eglwysi ynardal Aberdar, ac hefyd i fa*gu a chodi pregethwyr, y rhai a ddaethantgan mwyaf yn weinidogion defnyddiol enwog.

Yr oedd Dr. Price yn athronydd go dda: gwelai drwy fater dyrusyn lled glir ar unwaith, a medrai ei ddadansoddi mewn byr eiriau ieglurdeb digamsynied y rhan fynychaf.

"Yr oedd hefyd yn wr mawr am garedigrwydd ac yspryd tadol. Yroedd yn gymmwynaswr parodlaw iawn gyda'r pleser mwyaf. Bu yngweini yn ffyddlon iawn i'w gangen—eglwys wan yn Mountain Ash, amtua deg mlynedd wedi ei sefydlu yn Aberdar. Cyrchai yn fisol i doribara, ac i'w chyfarfodydd, a bu o ddefnydd a llwyddiant yno i luosogia chadarnhau yr eglwys yn y ffydd. Yn Ionawr, 1855, ysgrifenoddalwad caredig eithaf, dros y gangen hono, i mi ddyfod yn weinidog iddi.Rhoddai y cymhelliad taeraf a'r annogaeth gryfaf a mwyaf brawdol imi ddyfod. Ar ei gais taer ef a'r eglwys yma y derbyniais yr alwad,ac ni chefais achos i edifarhau. Cefais ef yn gymmydog anwyl, ffyddlon, a diddichell, ac ymddygodd ataf yn frawdol a thadol iawn hydddiwedd ei oes. Credaf iddo fyned i dangnefedd; hiraethaf ar ei ol."

BY THE REV. J. GEORGE, UNITARIAN MINISTER, ABERDARE.

"By a terrible calamity, a heavy cloud was thrown over the Countyof Glamorgan, in November, 1867. Scores of human lives were lostand hundreds of women and children were deprived of their breadwinners by the disastrous explosion at Ferndale Colliery. The heartof the community was moved with horror and stirred with pity. Publicmeetings were held and a relief fund was established. To distribute this fund according to certain regulations, a committee was appointed,of which the Rev. Dr. Thomas Price, pastor of Calvaria Baptist Church,was appointed Chairman, and the writer, succeeding the Rev. D. M.Jenkins, Secretary. The duties were for years arduous. In this connexion Dr. Price and the writer were brought into close and friendlycontact. With pleasure does the latter bear witness to the generosity,sympathy, and tenderheartedness, manifested by the former in alleviating the sorrows and distress of the unfortunate sufferers. Notwithstanding his manifold engagements, Dr. Price was punctually at hispost of duty, unless unavoidably from home. The claims of applicantsnecessitated great caution and patient inquiry to avoid imposition, butneither he nor his associates ever wearied in listening to the sorrowfulappeals of the widow and orphan. His sympathies were deep and broad.He seemed to yearn for opportunities for comforting the distressed.Words of consolation, of hope, and of encouragement he had for all,and often succeeded in calming the troubled spirit. While cautious inaction, he preferred to err, if error there was, on the side of leniency.Often has it been the privilege of the writer to hear the outpourings ofgrateful hearts for the genial, tender compassion exhibited in voice andmanner in cases of special affliction. Yet, he did not hesitate to rebukesternly the few who attempted to impose upon or to deceive himselfand his associates. Happily, such incidents were few. (He held stronglythe opinion that the fund had been collected for a special purpose andfor particular persons, and ought to be used for that purpose and thosepersons, and no other. Greatly was he grieved when the fund waspartly diverted into other channels). The writer may add that he hasevidence of Dr. Price's liberality of soul towards his neighbours andothers with whom he came in contact. This however is outside thepurpose with which he began this notice."

GAN Y DIWEDDAR BARCH. J. RUFUS WILLIAMS, YSTRAD.

Y Parch. Thomas Price, A.M., Ph.D., Calfaria, Aberdar.—Dyma frawdsydd yn adnabyddus drwy yr oll o'r Dywysogaeth, ac ni chyfeiliornempe y dywedem ei fod yn fwy adnabyddus mewn gwledydd ereill nâ nebyn Nghymru. Mae yr enw, Price Aberdare,' yn household word. Ymae wedi enwogi ei hun mewn llawer dull a modd—gyda chymdeithasaudyngarol a chrefyddol, yn yr areithfa ac ar yr esgynlawr, yn y gadairlywyddol a'r un olygyddol. Mae wedi enwogi ei hun fel amddiffynyddmoesau, cymmeriadau, o iawnderau y gweithwyr a'r tlodion, pan ybyddai ymosodiadau annheg a maleisus yn cael eu gwneyd arnynt. Y mae o feddwl cyflym a pharod tu hwnt i'r cyffredin, o barabl rhwydd aderbyniol hynod, ac o galon ddewr a gwresog. Mae wedi derbyn ar.wyddion amryw weithiau o barch a chydnabyddiaeth mewn ffordd oroddion ac anrhegion am ei lafur mawr a diflin, gan ei eglwys ei hunac eglwysi ereill yn y dref y mae yn byw ynddi. Y mae yn gwneydcymmaint o waith, a chymmeryd pob peth gyda'u gilydd ag un deg yny Dywysogaeth. Diolch i Dduw am gymmaint o nerth a iechyd iddo.

* * Graddiwyd ef yn ddiweddar yn A.M., Ph.D., gan un o brif Athro—feydd Germani, sef yr University yn Leipsic, Saxony." (Gweler Hanes Athrofeydd y Bedyddwyr, &c., yn y flwyddyn 1863, tudalen 70—71.)

GAN Y DIWEDDAR BARCH. J. MORGAN, CWMBACH.

Marwolaeth Dr. Price, Aberdar.—Hwn oedd ddyn a gerid gan bawbyn y lle. Dyn a wnaeth lawer o ddaioni yn Aberdar oedd y Parch.Ddr. Price, gweinidog enwog gyda'r Bedyddwyr yn Nghalfaria, ac yn adnabyddus drwy holl Gymru, Lloegr, a llawer o'r America. Er y gwroldeb oedd ynddo, a'r egni di-ildio i gario ei amcanion i ben, darfu iddoyntau ildio i angeu hwyr ddydd Mercher, Chwefror 29ain diweddaf, ynei dy ei hun, Rose Cottage, yn y dref hon. Nid oes neb yn gallu cofionifer y brwydrau ymladdodd o blaid Ymneillduaeth yn y lle hwn flynyddoedd yn ol. Nid enwad, ond cyfiawnder, cydraddoldeb, a chwareuteg i bawb, oedd ei brif nod drwy ei oes. Gosodir yntau dydd Mawrthnesaf, y 6ed cyfisol, yn ei fedd—y ty rhagderfynedig i bob dyn byw.Heddwch i lwch ein hanwyl frawd."

Bu Mr. Morgan yn gymmydog agos i'r Dr. am flynyddaumeithion, ac felly, yr ydym yn gosod pwys ar ei farn uchelef am dano. Ymddangosodd yr uchod yn mhlith pethauereill yn ngohebiaeth Mr. Morgan yn y Tyst a'r Dydd amMawrth y 8fed, 1888.

Yn y Tyst am yr wythnos ganlynol ysgrifenodd y Parch.Ddr. J. Thomas, L'erpwl, yn ei nodion, "Ymylon y Ffordd,"am y Dr. fel y canlyn:—

Nos Sadwrn, Mawrth 10fed.

"Yr oedd yn chwith genyf weled yn y Tyst am yr wythnos hon, ganfy hen gyfaill dyddan Gohebydd Aberdar, y grybwylliad am

FARWOLAETH DR. PRICE, ABERDAR.

Gwyddwn ei fod wedi gwaelu yn fawr y blynyddau diweddaf; ond panwelais ei fod wedi marw, daeth tòn o hiraeth drosof. Deugain mlynedd yn ol, bu ef a minau ar daith am fis trwy Forganwg a rhan o Fynwyyn cynnal cyfarfodydd ar addysg, ac yn casglu at sefydlu Coleg Normalaidd yn Nghymru. Ysgrifenais hanes y daith i'r Diwygiwr ar ypryd, a gallwn yn hawdd yn awr ysgrifenu fy adgofion o honi. Yroedd Dr. Price ar y pryd yn ddyn ieuanc iach a chryf, o dymherfywiog a llawen, ac yn un o'r cymdeithion mwyaf hapus. cywir, a diwenwyn y daethum erioed i gyffyrddiad ag ef. Llettyem yn nghydmewn teuluoedd o wahanol enwadau, ac ni bu digter na dadl rhyngomyr holl amser. Yr oedd yn lled rydd a mentrus yn yr hyn a ddywedai; ond cefais ef yn nodedig o gywir a dihoced. Ar ol hyny ycyssylltodd ei hun ag achosion gwleidyddol a chyhoeddus, ac y daeth iddylanwad yn ei enwad; ond yr oedd yn eglur y pryd hwnw fodynddo gymhwysder at bethau o'r fath, er fod yn bossibl nad oedd ycyssylltiadau hyny ddim y mwyaf ffafriol iddo fel gweinidog yrEfengyl. Ychydig iawn, os oes neb, yn wir, a all gymmeryd rhanamlwg mewn cwestiynau cyhoeddus heb i hyny effeithio er gwanychdod iddynt fel gweinidogion a phregethwyr; ac etto, llwyddodd Dr.Price, tra y daliodd ei nerth a'i iechyd, i gadw yn nghyd gynnulleidfafawr. Nid yn aml y ceid gweinidog yn fwy yn serch pobl ei ofal, acnid ä yn annghof gan y genedlaeth bresenol y gwasanaeth cyhoeddus awnaeth i Aberdar ar y gwahanol fyrddau.

GAN Y PARCH. W. MORRIS, TREORCI

"Nid ydym yn gwneyd un ymddiheurad am ddwyn i fewn i'n cyhoeddiad cenadol fywyd a llafur y diweddar Barch. Thomas Price,M.A., Ph.D., Aberdar. Haedda le yma fel un o'n cenadon mwyafgweithgar yn nhre', ac fel un o gyfeillion ffyddlonaf y Genadaeth Dramor. Mewn modd neillduol, cenadwr Cristionogol ydoedd. Cymhellidef gan yspryd cenadol brwdfrydig, a llwyddai i daflu ysprydiaeth genadoli'w eglwys ac i bawb ddelent i gyffyrddiad ag ef. Am ei fod yn genadwr mor selog a gweithgar yn nhre' yr oedd mor selog a gweithgar drosy Genadaeth Dramor: ac am fod ei galon ef yn llosgi o ymawydd amweled yr Efengyl yn lledu a llwyddo mewn gwledydd tramor yr oeddmor ymdrechgar i helaethu terfynau ei achos yn ei gylch cartrefol.Safai Dr. Price ar y gwrthbwynt pellaf oddiwrth yr yspryd a'r ymarferiad ceidwadol mewn cyssylltiad â'r achos crefyddol. Mewn un ystyr,yr oedd yn Geidwadwr di-ildio: mynai gadw holl egwyddorion a gwirioneddau y Grefydd Gristionogol. Nid oedd efe yn mhlith y rhai aymffurfient mewn rhyddfrydigrwydd beiddgar fel ag i chwareu â sylfeini yr Efengyl. Nid dyn ar y ddisgynradd beryglus mewn pethau crefyddol oedd. O na: un o gredwyr mwyaf diffuant ein gwlad oedd;teyrngarwr yn nheyrnas nefoedd ydoedd; ymorweddai ar ei hyd arGraig yr Oesoedd; iaith ei enaid ac argyhoeddiad dyfnaf ei fodolaethoedd, Mi a wn i bwy y credais.' Er hyny, nid oedd am gadw yrEfengyl y tu fewn i furiau culion capel; nid oedd am gyfyngu ei bendithion i Jerusalem. Teimlodd nerth anwrthwynebol yr 'Ewch' awdurdodol, ac hyd y gallodd. aeth â'r Efengyl i lawer lle nad enwid Crist

"Ennillodd safle enwog yn Nghymru fel planwr eglwysi. Nid ydymyn gwybod am un yn Nghymru a wnaeth gymmaint ag ef yn y moddhwn. Gwyddom am amryw a weithiasant yn ardderchog yn y cyfeiriad hwn, ond saif ef yn dywysog yn eu plith. 'Llawer un a weithioddyn rymus, ond efe a ragorodd arnynt oll.' Bendith fawr i Aberdar oeddcael Dr Price yno yn ngwawr ei ddydd. Y person amlycaf yno amddeugain mlynedd oedd. Bu yno ser, ond dyma'r haul; bu yno gor.nentydd, ond dyma'r afon; bu yno weithwyr, ond hwn oedd 'y gweithiwr' Efe fu y gallu symmudol yn mhob mudiad yn Aberdar. Ynmhob bwrdd a sefydlwyd yno. bu ef yn aelod ac yn amlwg ynddynt.Nis gallai efe fod yn guddiedig mwy nâ'i Feistr

Yn nghylch mawr ei enwad hoff yn Nghymru, llanwodd ef y lleamlycaf yn mhob cangenwaith. Yn ei gymmanfa, undeb, colegau, cym-deithasau. a llengoedd symmudiadau yr enwad yn Nghymru, gellir bodyn sicr iddo ef am 30 mlynedd gario pen trymaf y gwaith. Gweithiwroedd, a gweithiwr annghymharol-gweithiwr yn mhob cyfeiriad possibl.Fel trefnwr, dinesydd, gwleidyddwr, llenor, cymdeithaswr, cynnadleddwr, darlithiwr, gweinidog. pregethwr, ac ochrau ereill ei gymmeriad,nid ydym yn gwybod am un dyn yn hanes y Genedl Gymreig yn yrhwn y cydgyfarfyddai cynnifer o ragoriaethau a Dr. Price.

Bu am flynyddoedd lawer yn unig gynnrychiolydd Cymreig arbwyllgorau ein Cymdeithas Geñadol, y Gymdeithas Genadol Gartrefola Gwyddelig, y Gymdeithas Gyfieithadol, Bwrdd Addysg y Bedyddwyr, Undeb Prydain Fawr a'r Iwerddon, &c.; ac yn ddiddadl, nisgallesid cael un mwy cymhwys i'n cynnrychioli nag ef. Yr oedd eibarodrwydd llafar, ei graffder darganfyddol, ei ddoethineb naturiol, eiymarferolrwydd meddyliol, yn ei gymhwyso mewn modd uchraddol ifod yn gynnorthwy mawr i'r genadaeth a'r pwyllgorau hyn. Safai ynuchel iawn yn marn pawb o'i gydweithwyr yn y cyfryw gylchoedd.Enghraifft o hyny oedd y rhan a gymmerodd yn nghyfarfodydd cy.hoeddus Undeb Prydain Fawr a'r Iwerddon. Mae areithiau Dr Priceyn amryw o'r cyfarfodydd hyn yn Llundain, Liverpool, Bristol, &c., ynsefyll yn mhlith y pethau ardderchocaf ynddynt yn nghof pawb gawsanty fraint o fod yn bresenol.

Ac nid oedd ei areithiau tanbaid ond cynnrychioliad amlwg o'iyspryd a'i waith yn nhre'. Dengys adroddiadau deng mlynedd arhugain cyntaf hanes Dr. Price a'r eglwys yn Nghalfaria, Aberdar, nawnaeth un eglwys yn well, os cystal, yn y Dywysogaeth at y GenadaethDramor. Saif yn arwireb mai yr eglwysi sydd yn gwneyd oreu at ygenadaeth ydynt yr eglwysi mwyaf byw a gweithgar eu hunain.Eglwys fyw fu Calfaria. Aberdar, tra yno y bu Dr. Price. Teimlaicylch eang y dyffryn ei nerth Taenwyd ei hyspryd hi yn mhell ac ynagos. fel y mae un o'r groups gogoneddusaf o eglwysi yn y dyffryn hwn.O honi hi, dan arweiniad y gweinidog enwog, y tarddodd eglwysi arbob llaw yn Aberaman, Capcoch, Carmel, Abernant, Ynyslwyd, a'rGadlys. Rhydd y rhifnodau canlynol syniad am lwyddiant y Dr: Ynystod y cyfnod o 1845 hyd Nadolig, 1885, derbyniodd trwy fedydd,llythyron, ac adferiad, 3,847, a chafodd y fraint o fedyddio yn yr untymhor, 1,596.

Ganwyd ef yn Llanamlwch. Brycheiniog, Ebrill 19, 1820, a bufarw yn ei Rose Cottage, yn Aberdar, dydd Mercher, Chwefror 29,1888. Rhwng y rhifnodau hyn y gorwedda rhagymadrodd bywyd Dr.Price. Mae yn rhagymadrodd ysplenydd mewn llawer ystyr i'w dragwyddoldeb mawr. Ei destyn cyntaf erioed oedd 'Wele Oen Duw, yrhwn sydd yn tynu ymaith bechodau y byd.' Hwn oedd ei sylfaen panyn marw. Ni fu yn ddibechod; ond credodd mewn Ceidwad allodddynu ymaith ei holl bechodau. Ni fu heb bechod, ond breichioddWaredwr a allai wared ei bobl oddiwrth eu pechodau. Wrth roddiyr ysgrif—bin o'n llaw y waith hon, ein gobaith ydyw y cyfyd yrArglwydd weithwyr tebyg iddo etto yn Nghymru. Angen y dydd ywgweithwyr; am hyny, atolyged yr eglwysi am i Arglwydd y cynauafanfon gweithwyr i'w gynauaf. Pan y mae amddiffynwyr glewionhawliau y Genadaeth yn syrthio, coded yr Arglwydd ereill i lanw eulle, a phan y mae cyfranwyr haelionus yn myned, a gweithwyr ffyddiogyn dystewi, na chaed y Genadaeth Dramor na Chartrefol fod heb eugwroniaid."—Or Herald Cenadol am Ebrill 1af, 1888.

GAN FYNEGIAD COLEG PONTYPWL.

During the year some of the old Students have fallen on sleepOne of the foremost men in the Principality for the last 40 years, onewho possessed unbounded energy, burning zeal, undaunted courage,and who at the same time was characterised by a most kind andgenerous disposition, tender nature, and affectionate heart—such aman was Dr. Price, of Aberdare, whose recent departure we still acutely feel and mourn. He was a giant amongst the mighty men that this College was hoooured in training; and his altna inater had no truer friend, no more loyal and generous supporter, or more regular and welcome attendant at its gatherings than he. For a long time to come, his business tact and knowledge, his wise counsels, his social qualities, his kind encouraging words, and his ready practical sym- pathy and help will be missed in this place. At the same time, we cannot forget his invaluable services to the denomination, the noble self-sacrifice he always displayed, and the uncompromising attitude he ever assumed in the face of injustice, oppression, and wrong. May the Lord comfort his family and care for his church.

(Gweler Mynegiad 1888, tudalen 12).

GAN Y PROFFESSWR EDWARDS, PONTYPWL.

" Aberdare. — The funeral of the late Rev. T. Price, M.A., Ph.D., of Calvaria Chapel, took place on Thursday, the 8th inst. A large number of ministers took part in the successive services which were held. Professor Edwards, of Pontypool College, delivered the funeral address. He said, amongst other things, ' We have lost an extraordinary man— a very chief leading the army of the Lord of hosts. He was a born leader of men, one who took the fìrst rank in virtue of his inherent worth and undoubted capacity. He did not push his way to the high position he occupied, but his all-consuming energy and brilliant talent secured it for him without an eöort or a show. It i sdifficult to describe him in a few words. He was. a many-sided and an all-round man, possessing so many qualifications for serving the secular community and the religious world that we are afraid that in Wales for some time we shall not soon see his like again. These stars of the first magnitude are not ofteu seen in our lower sky. Look we at him in his work as a citÌ2en, in his services as a philanthropist, in his labours as an educationalist, in his achievements as a minister of the Gospel, there is much on every hand at which we must marvel. His was the philosopher's stone which turned everything to gold. Everything seemed to burst into new life and flourish under his magic touch. We cannot begin to enumerate the services he rendered to the denomination. In raany respedts he was our archbishop, yea, in some respeéts a very apostle. Nothing less than a calamitous earthquake would obliterate the outward signs of his energy and power in the Aberdare Yalley, and on account of the work he has done, his name is a household word throughout the Principality. The English Baptist Union felt his power, and in wideAmerica he was well-known. He was about the worthiest representa-tive of Wales and Welshmen we ever had.""—O'r Freeman am Mawrth16, 1888.

GAN DR. TODD.

"No one who knew our departed friend could fail to discover in himpecularities that pointed in the direction of peril, and he was not unconscious of their existence and force. Against their sway there is everyreason to believe he set up the energy of a divinely renewed will, and'warred a good warfare. Had he not done so, they must have 'swepthim away as with a flood.' Intermingled with them, however, andcontravening them were noble attributes, for lack of which many alauded character is poor; and amongst them were prominent his unselfish interest in the welfare of others, his generous readiness to renderhelp when needed and not deserved, his detestation of all that he deemedunjust or unfair, and his unaffected joy in the success of righteousnessand truth. A man of larger and warmer sympathies I have neverknown. To me it will ever be a grateful reflection to look back uponthe distant days we spent together-to think of the bright promise thengiven and since grandly redeemed-to trace his public life, which wassimply the outcome of our early anticipations-to think of his untiringtoil for the benefit of man and the glory of God-to realize the positionwhich he won and the power that he wielded in England and Walesand on the Western shores of the Atlantic, and in my poor way to sing,

Servant of God, well done;
Rest from thy loved employ:
The battle's fought, the victory won,
Share now thy Master's joy.

GAN Y PARCH. R. E. WILLIAMS (TWRFAB), YNYSLWYD.

"Wrth gyflwyno i chwi draethiad o'm hadgofion am y diweddarenwog Ddr. Price, o edmygol a pharchus goffadwriaeth, dygir fi yn ol iddyddiau boreu oes, pan yr arferwn fynychu hen addoldy cyssegredigGreat Cross, L'erpwl. Y cof cyntaf sydd genyf am y Dr. ydyw ynun o Gymmanfaoedd y Pasg, yn pregethu yn nghapel Great Cross ar y'Widw Fach o Sarepta,' fel y cyfenwai efe hi yn fynych yn nghwrs ybregeth. Yr wyf fel pe byddwn y fynud hon yn ei ei weled yn mhwlpud yr hen gapel, ac yn adgofio llithrigrwydd ei barabl, naturioldeb eieglurebau, nwyfusrwydd ei ddesgrifiadaeth, gogleisrwydd ei ffraethineb,a'i ddylanwad gwefreiddiol ar y gynnulleidfa. Cofiwn iddo ddywedydyn nghwrs ei bregeth fod ganddo olwg fawr ar wragedd gweddwon,iddo briodi gwidw, ac os byth y priodai drachefn, mai gwidw a fynaieilwaith; a pharodd y sylw i'r bobl wenu yn siriol.

"Dro arall gwasanaethai y Dr. yn nghyfarfod blynyddol Capel HallLane, ar y Sabbath, ac ar brydnawn y dydd canlynol cynnaliwyd gwyldê yn festri Capel Birrell, Pembroke Place, yr hon a fenthyciasid i'rfrawdoliaeth yn Hall Lane ar yr achlysur a nodir. Yn gymmaint abod y plant yn lled aflonydd, ceisiodd y gweinidog ieuanc, y Parch.David Howells, i mi fyned gyda hwynt i un o anti-rooms y festri i'wcadw yn dawel. Gwnaethum fel y ceisiodd, ac ymaith a ni i un o'rystafelloedd; ac wedi cau y drws, dechreuais eu holi parthed pwy asylfaenodd yr Ysgol Sabbothol yn Lloegr ac yn Nghymru. Pan yn yract o hyspysu y plant mai Charles o'r Bala a'i sylfaenodd yn Nghymru,cafodd drws yr ystafell ei agoryd yn sydyn gan y Dr., a chan edrychyn gynhyrfus gwaeddodd yn hyglyw, 'Taw a dy gelwydd, y d—-lbach!' ac yn mlaen ag ef, gan hyspysu y plant fy mod yn cyfeiliorniyn enbyd, ac mai Bedyddiwr o'r enw Morgan John Rhys, o Hengoed,oedd sylfaenydd yr Ysgol Sabbothol yn Nghymru, ac nid Charles o'rBala. Hawddach ydyw i ddarllenwyr yr adgofion hyn ddychymygu fynheimladau nag i mi allu eu desgrifio. Caraswn allu ffoi o wydd fyngheryddwr llym. Un noswaith, dygwyddodd y Dr. fod yn bresenolyn festri Capel Great Cross ar adeg cyfarfod, a chofiaf yn dda i amgylchiad neillduol gymmeryd lle, yr hwn a achosodd i mi ac ereilllygadrythu yn siomedig. Wedi gorphen y gwasanaeth, aeth y Dr. ynmlaen at foneddiges a adwaenai yn dda, ac yn ngwydd pawb rhoddoddiddi gusan serchus a chalonog oedd yn swnio dros y lle.

"Yn y flwyddyn 1866, cynnaliwyd cyfarfodydd blynyddol UndebPrydain Fawr a'r Iwerddon yn Llynlleifiad, yn nghapel yr anfarwolHugh Stowell Brown. Er fod y capel yn un eang, yr oedd yn rhyfychan ar yr achlysur y soniwn am dano i gynnwys y bobl a ddaethantyn nghyd, ac felly, cynnaliwyd overflow meeting yn y Philharmonic Hall,yr ochr arall i'r heol, i'r hwn yr aeth C. H. Spurgeon, ac ereill, ianerch y gynnulleidfa; ond yr oedd yn ddealledig fod Mr. Spurgeon ianerch y bobl yn Nghapel Brown cyn fod y cyfarfod yn dybenu.Credwn nas annghofiwn byth hyawdledd annghyffredin a thanbaid yDr. ar yr achlysur hwn. Ei bwnc oedd cynnydd enwad y Bedyddwyro ddechreu y ganrif hyd at y flwyddyn hono. Ein hargraff ar y prydydoedd fod dawn ac hyawdledd Dr. Price wedi hyd y nod llwyr lyncuyr adgof fod y bydenwog Spurgeon i anerch y cyfarfod. Ni chlywsom neb erioed yn llawio ystadegaeth gyda'r fath ddeheurwydd ac eneiniad. Anadlai fywyd i esgyrn sychion ystadegaeth, ac ymddangosai yn ddedwyddolach gydag amsereg a rhifnodau nag a wna llaweroedd gydag adnodau y Beibl. Pan yr oedd yn tynu tua therfyn ei araeth, ymddangosodd Spurgeon ar un o rodleoedd y capel; canfydd- odd y Dr. ef, a gwaeddodd mewn llais clir a chlochaidd, 'The great sun has made his appearance; the star must go into the shade.' Gwaeddodd Spurgeon yn ol, fel yr oedd yn gweithio ei ffordd tua'r pwlpud, ' Go on, go on, brother Price.' 'I am with brother Oncken at Hamburg; I shall not be long before I fìnish,' meddai y Dr. mewn atebiad. 'Go on, go on, brother,' atebai Spurgeon eilwaith, a chan belled ag yr oeddem yn gallu deall, nid oedd 'Go on' Mr. Spurgeon ond adlais o deimlad cyffredinol y dorf fawr.

Tro hynod arall adgofir genym ydyw un a gymmerodd le yn un o gynnadleddau cyfarfodydd blynyddol Undeb Prydain Fawr a'r Iwerddon, a gynnahwyd yn Nghapel Dr. Maclaren yn Manchester, yn 1872. Siaradodd amryw o brif bregethwyr yr enwad yn y gynnadledd hon, megys Nathaniel Haycroft a Chown; ond pan oeddynt yn llefaru, yr oedd cryn lawer o sisial yn myned yn mlaen. Pan gododd y Dr. ar ei draed, llonyddodd y cwbl, a gallesid, ys y dywedir, glywed pin bach yn disgyn, ac yr oedd pawb megys wedi cael eu hoeho wrth ei wefusau. Y pwnc dan sylw ar y pryd oedd hawliau y Baptist Union Education Fund ar gyfraniadau helaethach oddiwrth yr eglwysi yn gyfifredinol, ac yr oedd rhai o'r siaradwyr wedi achwyn ar gan lleied a gyfrenid at y drysorfa o Gymru, ac wedi awgrymu na ddylasai Cymru gael cymmaint o gynnorthwy, os dim, yn ngwyneb ei chyfraniadau bychain. Twymodd gwaed Cymreig y Dr. gymmaint wrth glywed y pethau a ddywedwyd am Gymru, nes iddo draddodi un o'r areithiau mwyaf angerddol a boddus i galon Cymro ag oedd yn bossibl i gael ei gwrando, ac un a effeithiodd i ennill cydymdeimlad sylweddol i 'Little Wales.' Gwnaeth y Dr. lawer yn ei oes yn y cyfeiriad hwn, a llwyddodd i gael cynnorthwy i laweroedd o'r drysorfa uchod i'w cynnorthwyo i roi addysg i'w plant.

"I Dduw y byddo'r clod am godi y Dr. ddinodedd cymharol i'r fath enwogrwydd, ac am ei wneuthur o gymmaint gwasanaeth i Aberdar, i'w enwad, ei gi.ned!, a'i wlad."

GAN MR. D. R. LEWIS, ABERDAR.

Llawer ac amrywiol yw yr adgofìon sydd genyf am fy niweddar hoffus frawd a chyfaill, Dr. Price. Gan y deallaf fod amryw foneddigion yn ysgrifenu nodiadau arno o wahanol gyfeiriadau, cyfyngaf fy hun ynfwyaf neillduol i ychydig sylwadau arno fel cymdeithaswr neu aelodo'r gwahanol gymdeithasau cyfeillgar. Cefais gyfleusderau lawer i'wadnabod yn dda yn y cyfeiriad hwn, a theimlaf yn ddedwydd i ddwyntystiolaeth ei fod yn un o'r aelodau mwyaf galluog a pharchus a fuontyn dal perthynas â'r cymdeithasau cyfeillgar yn ein gwlad erioed. Nisgwn am neb a wnaeth fwy iddynt a throstynt. Yr oedd bob amser ynarwain, yn neillduol gyda materion pwysig, y gwahanol urddau y perthynai iddynt, ac yn cymmeryd y rhan drymaf o'r gwaith fyddai â'i amcanat ddiwygio a llesoli ein hurddau anrhydeddus. Yr oedd ganddo lygadcraff i weled peryglon yn ymddangos megys o bell, a meddai gymhwysder neillduol a medr dihafal i fyned drwy a gorchfygu anhawsderau.Rhedai pawb ato am gyfarwyddiadau, ac yn gyffredin byddai pob achosyn ddyogel yn ei law. Ystyrid ef yn rhagori fel cyfreithiwr yn nglynag achosion y cymdeithasau cyfeillgar. Ymgynghorai cyfreithwyr ymarferol ag ef yn nghylch y rheolau, ac ar rai pwyntiau dyrus a phwysig, abyddai yn alluog braidd yn ddieithriad i gyfeirio allan y llwybr priodoli'w ddylyn.

Gallem yn hawdd nodi amryw enghreifftiau o'i weithrediadau yny cyfeiriadau a nodwn. Cofus genym am gyfrinfa unwaith ag iddiwraig y gwestty (gweddw) yn drysoryddes, ac yn ei llaw £42 o arian ygyfrinfa. Aeth y drysoryddes i anhawsderau, a 'thorodd,' fel y dywedir. Yn ffodus i'r gyfrinfa, yr oedd dau foneddwr yn rhwymedig felmeichnïon iddi am £20; ond sut i sicrhau y £42 oedd y cwestiwn.Aeth dau frawd o'r gyfrinfa at Mr. Davies, Maesyffynnon, i ofyn eigyfarwyddyd. Atebodd yntau na allai eu helpu yn yr achos, ac nawyddai am neb allai eu cyfarwyddo yn ddyogel yn y mater ond Dr.Price, Aberdar. Aethant at y Dr., ac wedi adrodd yr helynt wrtho,ysgrifenodd nodyn i'w gymmeryd i gyfreithiwr enwog yn Merthyr, Mr.Frank James. Gweithredodd hwnw yn ol cyfarwyddyd Price, a llwyddwyd i gael yr holl arian i'r gyfrinfa.

Yr oedd cyfrinfa arall mewn amgylchiadau cyffelyb—y gwesttywrwedi myned yn fethdalwr, ac yn cael ei werthu allan. Ymgynghorwydâ Price yn nghylch arian y gyfrinfa oedd yn meddiant y gwesttywr felei thrysorydd. Rhoddodd y Dr. ei farn a'i gyfarwyddyd, ond gwrthodai y trysorydd dalu am, meddai efe, nad oedd y gyfrinfa wedi eichofrestru. Aeth Price ar unwaith i'w fyfyrgell, cafodd hyd i reol ydosparth, a dangosodd ynddi mewn llythyrenau breision enw ac ardystiad J. Tidd Pratt. Dangoswch yr enw hwn i'r trysorydd,' meddaiPrice, 'ac os na thâl, rhaid iddo ddyoddef y canlyniadau. Gwnawdfel y cyfarwyddai y Dr., a thalwyd yr arian yn ddioedi.

"Yr oedd dau foneddwr yn Aberdar wedi myned yn feichnion i drysorydd cyfrinfa, yr hwn a ddygwyddodd yn yr un modd fyned ynfethdalwr. Yn eu gofid am eu perygl o golli yn agos i £20, aethant atDr. Price fel yr unig berson tebyg i'w cynnorthwyo yn yr amgylchiad.Gosodasant eu hachos yn eglur o'i flaen, ac hyspysasant ef fod dodrefny gwesttywr yn cael eu gwerthu y diwrnod hwnw. Anfonodd Pricehwynt at yr arwerthydd i ofyn am arian y gyfrinfa cyn dechreu gwerthu.Rhegodd yr arwerthydd, a gofynodd yn wawdus, 'Pwy yw Dr. Price,mi garwn wybod?' er ei fod yn ei adwaen yn dda) Gwrthododd dalu.Awd eilwaith at y Dr., ac adroddwyd yr hanes iddo. Ysgrifenodd Pricenodyn at yr arwerthydd, yn ei hyspysu y buasai efe ac heddgeidwadyn cydio ynddo ac yn ei osod yn y carchar can gynted ag y dechreuaiwerthu, os gwnelai hyny cyn talu yr arian dyledus i'r gyfrinfa. Dychrynwyd yr arwerthydd, a thalodd yr arian yn y man.

"Mewn achos arall yr oedd cyfrinfa yn gwrthod talu gofynion ychwarter arni yn y dosparth. Gwrthodai ar y ddadl nad oedd wedi eichofrestru. Aeth yn gyfraith rhwng y dosparth a'r gyfrinfa. Ymddiriedwyd achos yr adran i ofal Dr. Price. Fodd bynag, aeth y ddedfrydyn yr helynt yn erbyn yr adran, a chollodd y Dr. y dydd. Wedi mynedallan o'r llys, gwelid Dr. Price yn edrych yn dra diflas a siomedig; ondpan oedd efe ac ychydig frodyr oeddynt gydag ef yn yr achos yn cym.meryd ychydig luniaeth, neidiodd y Dr. yn sydyn ar ei draed, fflamiaiei lygaid treiddgar, a gwisgai ei wyneb, oedd ychydig cyn hyny yn arddangos y pryder mwyaf, y sirioldeb a'r bywiogrwydd a'i nodweddentyn gyffredin, a dywedodd. 'Fechgyn, gwelaf hi yn awr: rhaid ail-godiyr achos hwn; y mae pob peth yn iawn etto.' Gwnaeth hyny ar egwyddor wahanol i'r tro cyntaf; a phan yn y llys gofynodd ganiatad ybarnwr i arwain ei achos ei hun. Caniatawyd y ffafr iddo. Yr oeddy gyfrinfa wedi cyflogi Mr. Simons, un o'r cyfreithwyr galluocaf ynMerthyr, yn ei erbyn. Dygid yr achos yn mlaen gerbron y BarnwrFaulkner, ac wrth godi i amddiffyn y gyfrinfa, dywedodd Mr. Simons,'I must admit, your honour, that I am now going to argue with theSolicitor-General of the Friendly Societies: he knows all about them.'Ennillodd y Dr. yr achos, a chafodd glod ac enw am ei wrhydri.

"Nid yw yr enghreifftiau hyn ond ychydig o lawer allem nodi am danofel un galluog a medrus fel cyfreithiwr y cymdeithasau cyfeillgar. Mewngwirionedd, pan oedd Price yn anterth ei nerth ac yn nghanol ei bobl.ogrwydd, nid ystyrid y pwyllgorau, y cyfarfodydd chwarterol, a'r cynnadleddau blynyddol, yn llawnion os na fyddai yr enwog Ddr. ynbresenol. Trwy ei gyssylltiad â'r cymdeithasau cyfeillgar, ennilloddlawer o brofiad a dylanwad. Teimlid parch cyffredinol ato, a cheridef yn fawr gan ei frodyr yn y gwahanol urddau. Pan syrthiodd ynangeu, teimlid fod un o'r cedyrn wedi cwympo yn rhengau y cymdeithasau cyfeillgar, ac nad hawdd oedd cael neb i lanw ei le. Gweithioddyn galed arn flynyddoedd lawer. Cafodd anrhydeddau uwch a lluosocach nag un Cymro fel aelod o'r cymdeithasau cyfeillgar, a bydd ei enwyn perarogli yn eu plith am flynyddau lawer i ddod."

PENNOD XX.

FEL DYN, CRISTION, A BUGAIL.

Y dyn-Edrych arno o wahanol gyfeiriadau-Wedi ymddadblygu Y dderwen-Price yn ei gyflawn faintioli-Ei ddyn oddiallan Darluniadau Myfyr a Lleurwg o hono- Dyn cavedig Evan Thomas, Casnewydd-Ei farn-Dyngarwr- Cholera 1849-Cydymdeimlo a'r trallodus-Police Court-Barn Rhys Hopkin Rhys-Tynu sylw yn mhob man Ei ddiffygion i'w hannghofio-Dyn cyflawn a thrwyadl - Cristion trwyadl-Dylanwad Yspryd Duw ar ei galon-Anhunangar, gostyngedig, a dirodres Barn Dr. Morgan arno fel Cristion-Bugail diwyd, llafurus, a thyner-Llawn cydymdeimlad—Sylw neillduol i'w bobl - Dysgu "business habits" i'w eglwys-Gofalus am y pwlpud-Caredig i'r gweddwon-Er mor fawr a gofalus, suddo yn yr angeu fel haul Mehefin-Ei lewyrchiadau yn aros ar ol-Claddedigaeth dywysogaidd - Trefniadau-Mynegiad o'r angladd o "Seren Cymru"-Ei bregeth angladdol- Argraff addas ar ei gofadael.

ER mwyn cael adnabyddiaeth drylwyr o gymmeriadunrhyw ddyn, y mae yn ofynol edrych arno danamrywiol amgylchiadau, ac yn mhob agweddiad, ac o bobochr. Y mae y darlunydd yn gyffredin, pan y mae yntynu ei fraslun at bortread, yn tremio ar ei wrthddrych obob sefyllfa-o'r ochr ac o'r lled-ochr, yn gystal a chyferbyn â'r wyneb: myn adnabod y profile, y three quarter, a'r enfront, cyn yr ystyria ei hun yn barod at waith. Nisgellir cyflwyno ardeb cywir o Dr. Price heb syllu arno owahanol fanau, a than amrywiol amgylchiadau. Yr ydymwedi tremio arno o rai manau neillduol yn barod. Ni a'igwelsom yn llanc, yn dechreu ei fywyd cyhoeddus; ynfyfyriwr; yn llanw cylchoedd pwysig yn ei enwad ac mewncymdeithas yn gyffredinol. Edrychasom arno fel gwleidyddwr, llenor, darlithiwr, a phregethwr; eithr nid oedd yrhai hyn amgen ystyllweddau (profiles) ei ardeb-rhanaucyfansawdd ei gymmeriad. Ond er mwyn cael golwg degarno, rhaid edrych i'w wyneb fel dyn, Cristion, a bugail,oblegyd er mor fawr ydoedd yn y cyfeiriadau lluosog a grybwyllasom am dano, yr oedd yn fwy yn yr arweddionhyn. Y mae gwahaniaeth dirfawr yn nghynlluniau a dullweddion bywgraffwyr gyda'r gwrthddrychau a bortreiadant.Darlunia rhai, yn flaenaf oll, y dyn, ac yna dywedant bobpeth buddiol am dano ragllaw, tra y mae ereill yn ei ardebu yn ol cwrs amgylchiadau, wedi iddo gyrhaedd cyflawn oed; ond yr ydym ni wedi dewis gadael y dyn hydiddo ymddadblygu yn llawn, fel y gallem wahodd pawb iedrych arno, ac iddynt ar unwaith weled y dyn. Nis gelliryn briodol ddarlunio y dderwen yn y fesen; ond wedi i'rdderwen dyfu yn dalfrig, lledu ei breichiau preiffion, bwrwdail, a gwrthsefyll ystormydd brochus gauafau lawer, ymae yn ddyogel dweyd am dani, a rhoddi darluniadau ohoni. Dr. Price yn ei gyflawn faintioli sydd genym yn ydyn; dyn wedi tyfu yn dalach na'r dynion talaf braidd ynyr un dosparth ac amgylchiadau ag ef ei hunan; un wedilledu yn ei ddylanwad i bob cylch a chyfeiriad, a phawbbraidd yn synu at ei fawredd. Gallem fanylu llawer arnofel dyn; ond gan fod ei hanfodion wedi cael ein sylw morhelaeth, a gwahanol elfenau cyfansawdd ei gymmeriadgodidog yn flaenorol wedi eu cyfeirio allan, teimlwn nadoes eisieu, bellach, ond dweyd, Wele y dyn yn gyflawn—edrycher arno. O ran corff, yr oedd hytrach yn fyr, wediei adeiladu yn gadarn a nerthol. Yn ei ddyddiau boreuol,ac hyd y nod yn anterth ei nerth, yr oedd ei wallt canddued a'r frân: yr oedd yn ngwir ystyr y gair yn bengrycha phengrwn. Meddai lygaid bywiog, llawnion, yn fflachiogan drydaniaeth eneidiol, ac yr oedd ei wyneb yn agored,serchus, ac arddangosiadol, fel y dywed Myfyr Emlyn—"yn llefaru cyn bod y tafod wedi symmud, ac yn awgrymudawn cyn iddo ddweyd dim. Yr oedd yn fywiog ei yspryda'i symmudiadau, ac yn meddu ar gymmaint o fywyd acyni ag a amlygir gan hanner dwsin o ddynion cyffredin."

Rhydd Dr. Morgan (Lleurwg), yr hwn a'i hadwaenai yndda er pan oeddynt yn gydfyfyrwyr, ddesgrifiad pur gywiro hono yn y brawddegau a ganlyn:—

"O ran ei gorff nid oedd Dr. Price ond gwr o faintioli cyffredin; ondyn ei amser goreu yr oedd pob ystum a symmudiad o'i eiddo yn llawnyni a bywiogrwydd, ac yr oedd ei holl synwyrau corfforol mor gryfiona chraffus, fel nad oedd neb na dim braidd yn dianc heb iddo ef sylwiarno. Cerddai yn gyflym a digryn, ac i berson dyeithr gallasai ymddangos fel yn hytrach yn fwdanus (fussy). Yn mlodau ei ddyddiau yr oedd ei wallt yn ddu; ond yn y blynyddau diweddaf yr oedd wedibritho [a myned yn hollol wyn]. Yr oedd ei ruddiau yn llawn a gwridog,ei lygaid fel eiddo'r eryr, ei barabl yn groew a soniarus, ei gyfarchiadyn wresog a chalonog, ac wrth edrych ar ei

Dalcen mawr ysplenydd,
A'i wen deg fel huan dydd,

yr oedd yn anmhossibl peidio teimlo fod calon ddidwyll, wrol, dyner,ryddfrydig yn curo yn ei fynwes. Mewn gair, mewn cynneddfau atheithi meddyliol, ar y cyfan yr oedd Dr. Frice yn ddyn mawr iawnyr oedd yn ei ddydd yn un o brif gewri y genedl, ac yn un o brif arweinwyr y bobl."

Cydgyfarfyddai ynddo, i raddau tra arbenig, yr anhebgorion i wneyd dyn da a chymmydog hynaws a charedig.Yr oedd bob amser yn gall, cariadus, parod, galluog, achymmwynasgar. Fel dyn," meddai ei hen gydfyfyriwrenwog, y Parch. Evan Thomas, Casnewydd, "yr oedd Dr.Price yn un true iawn, ac mewn gair meddai fwy o individuality nag un dyn yn Nghymru." Nid oedd terfyn ar eigaredigrwydd. Rhoddodd lawer o help i ddynion ieuaincAberdar, a llawer o fanau ereill, i sicrhau swyddi pwysig asafleoedd uchel yn y byd. Bu yn garedig i bawb, a gweithiodd yn galed ac yn anhunangar (unselfish) dros gannoeddmewn gwahanol ffyrdd. Llafuriodd yn neillduol o galed abu o gynnorthwy sylweddol yn amser y cholera yn 1849;mewn ystyr, peryglai ei fywyd, gweithiai ddydd a nos, agwariodd lawer o arian yn y cyfnod twymynol hwnw igysuro pobl ac i leddfu trueni y dyoddefwyr. Cafodd allangyffeiriau at y geri marwol. Hyspysodd hwnw yn y gwahanol newyddiaduron, a rhoddodd werth llawer o aur ohono yn rhad i deuluoedd isel eu hamgylchiadau. Bu ynhelp gannoedd o weithiau i deuloedd a fuasent, o brydi'w gilydd, mewn trafferthion cyfreithiol yn Aberdar amanau ereill. Yr oedd yn gyfreithiwr enwog, fel yr ydymwedi lled awgrymu. Mynychai Lys yr Heddgeidwaidbraidd bob wythnos yn Aberdar, yr hwn a eisteddai bobdydd Mawrth. Yn foreu dydd Llun gwelid degau weithiauo bobl yn cyfeirio at y Rose Cottage ar wahanol negesau, acyr oedd yn ddigon o waith i Emily a Sarah Price ateb ydrws. Byddai appeliadau am gynnorthwy cyfreithiol moraml a dim, ac yn aml yr oedd gan y Dr. gynnifer o glientsyn y Police Court ag un cyfreithiwr, er nad oedd yn gyfreithiwr trwyddedig. Meddai ddylanwad mawr gyda yr hedd—ynadon, yn neillduol Mr. Rhys Hopkin Rhys. "Allowme, Mr. Rhys, to say one word respecting the client orprisoner," oedd hi yn aml gan y Dr., ac yr oedd bob amseryn cael sylw a gwrandawiad. Daeth un person oedd wedilladrata at y Dr. i ymofyn ei ddylanwad. Beth wyt ti ynymofyn?" gofynai y Dr. iddo. "Eich help yfory yn yPolice Court, Syr." Beth wyt ti wedi ei wneyd?" "Lladrata, Syr," meddai y person. "Fachgen y d——l,” meddai Price, "'oes arnat ti ddim cywilydd d'od at weinidog yrEfengyl i ofyn iddo dd'od i'r court i roi character i leidr?""Yr oeddwn yn meddwl, Syr," meddai y bachgen, “eichbod yn rhy garedig i ballu, ac os deuwch chwi byddaf ynsicr o gael dod yn rhydd." Barn Mr. Rhys Hopkin Rhysam y Dr. yw hyn:—"Dr. Price is too kind by half. He always gives a kind helping handto all in trouble, and all are his friends, and should any of them appearbefore us in court, they are with the Dr. all jolly good fellows, or rela—tives to some of his members, or attendants of his chapel. He has alwaysa kind word to say for all."

Dywedai Mr. Thomas Joseph am dano:—

"Yr oedd Dr. Price yn ddyn da iawn—dyngarol iawn. Nid oeddbyth yn gofyn pwy na pheth oedd neb, ond gwneyd yn ewyllysgar ibawb yn ddiwahaniaeth. Yr oedd yn garedig iawn i fyfyrwyr y colegaupan fuasent yn dyfod heibio i gasglu neu yn galw i'w weled. Rhoddoddlawer 2s. 6ch. yn nwrn y myfyriwr, yn neillduol pe buasai wedi caelallan ei fod yn fachgen da ac mewn amgylchiadau cyfyng. Elai yngyffredin â'r myfyriwr allan gydag ef, a phan ymadawai yr oedd braiddbob amser yn ei hebrwng yn garedig. Yr oedd hefyd yn garedig iawni'r plant; rhoddodd gannoedd o geiniogau i'r plant, ac ennillai eu sylwa'u parch yn fawr iawn. Yr oedd yn ddyn oedd yn tynu sylw ynmhob man. Pe buasai dyn hollol ddyeithr gydag ef am ychydig amserbuasai yn sicr o ddweyd ar ol ymadael, mai rhyw ddyn annghyffredinydoedd."

Dywedai y Parch. W. Jones, Philadelphia:—

"Nid oedd y Dr. braidd yn myned i unrhyw le heb ei fod yn caelsylw a pharch neillduol. Fel hen gymmydog, yr wyf wedi meddwlllawer am hyn, ac wedi cadw llygad arno yn yr ystyr hwn. Cofus genyf fod yn Mrawdlys Abertawe un tro, ac yr oedd Justice Lush ar y fainc.Yn sydyn daeth Price Aberdar i'r llys, ac eisteddai ar yr oriel bron yny pen pellaf iddi Yn fuan gwelodd Lush ef, a gofynodd i'r dadleuyddaros—ei fod yn gweled person yn y neuadd y carai gael yr anrhydeddo'i gael i eistedd yn ei ochr. Galwodd ar y Dr, ac aeth yntau yn mlaeni'r gadair nesaf at y barnwr. Tynodd hyn sylw mawr yn y llys, y dref,a'r wlad yn gyffredinol. Yr un modd pan ymddangosai mewn pwlpudneu ar lwyfan, yr oedd yn cael sylw uniongyrchol, oblegyd yr oeddrhywbeth tra chommanding yn ei ymddangosiad a'i ystum. Yr oedd wedidysgu parchu ei hun, ac felly, perchid ef gan bawb a'i had waenent. Aphan y perchid ef, nid annghofiai y caredigrwydd. Yr oedd yn neillduol o ymlynol wrth ei hen gyfeillion. Nid oedd gwneyd cyfeillionnewyddion yn peru iddo annghofio a gadael yr hen rai. Cymmeraidrafferth i alw heibio iddynt os buasai yn myned i le y byddai hengyfeillion yn byw ynddo, a derbynid ef yn llawen, siriol, a charedigganddynt bob amser."

Wele ni yn frysiog wedi nodi allan rai o'i riniau a'i ragorion fel dyn; ond hyd yma, nid oes gair wedi ei ddweydneu ei ysgrifenu am ei ddiffygion, a dychymygwn glywedy darllenydd yn gofyn, A oedd Price yn ddyn perffaith?A oedd ef mewn rhagoriaethau moesol uwchlaw i ddynionyn gyffredin? Atebwn, Nac ydoedd. Yr oedd yn yrystyr hon mor gyffredin a neb, oblegyd meddai yntau ar eiddiffygion, ac yn wir, gwnaeth gamsyniadau pwysig, felpawb ereill, yn ystod ei fywyd gwerthfawr. Ond gofynwnein cenad, bellach, i gladdu ei holl ddiffygion a'i feiau, ganei fod ef wedi ei osod o ran ei gorff yn myd y meirw.Dywedai y Parch. W. Williams, Rhos, Mountain Ash,wrth gladdu hen ddiacon parchus, ar ol siarad llawer amei ddaioni a'i ragoriaethau:—"Yr oedd llawer o ddiffygionyn y brawd, er cystal ydoedd. Nid oes neb ond un wediei eni yn ddifai. Gwnaeth y brawd hoff gleddir heddywlawer o ddrwg: nis gallesid dysgwyl yn wahanol," meddai,oblegyd wedi y cwymp y ganwyd ef." Felly y gallwnddweyd am Price; gan iddo gael ei eni wedi y cwymp, niallesid dysgwyl perffeithrwydd ynddo.

Un tro, yr oedd yr athronydd Cristionogol, y Parch. R.Hughes, Maesteg, yn claddu brawd da o'i eglwys, ac wedidweyd llawer am ei ddaioni a'i rinweddau Cristionogol,dywedodd yn ei ffordd naturiol ei hun, Wel, mae Mr.Hughes (meddai rhywun) wedi dweyd llawer am rinweddauy brawd ymadawedig, ond nid ydyw wedi son un gair am ei feiau." "Eithaf gwir," meddai Mr. Hughes; "maearnaf ofn dweyd dim am ei feiau, rhag ofn fod Duw wedieu maddeu, ac os yw Duw wedi eu maddeu, ofnwn y digiaiEfe wrthym pe soniem am danynt yma." Felly y dywedwnninau am ein gwrthddrych; beth bynag a faint bynagoedd ei ddiffygion, credwn fod Duw wedi eu maddeu oll.Felly, gwell gadael llonydd iddynt, a chodi a galw sylw ybyw at ei ragoriaethau.

Y rhai, credwn yn ddiamheu,
Yn ddiadfail golofn fydd.

Treuliodd fywyd llafurus, gweithgar, a defnyddiol iawn, atheimlir parch arosol i'w enw a'i goffadwriaeth. Yr oeddyn ngwir ystyr, a phob ystyr o'r gair, yn ddyn cyflawn athrwyadl.

Gellir hefyd ddweyd gyda sicrwydd mawr ei fod mordrwyadl yn Gristion ag ydoedd yn ddyn, oblegyd meddaiar yspryd teilwng o un yn ofni Duw, a gweithredai bobamser fel un yn teimlo dylanwad yr Yspryd Tragwyddolyn gryf ar ei galon. Cadwai bob amser ogoniant Duw alles dynion o flaen ei lygaid, ac ni welid ef byth yn arferun math o dwyll na hoced i geisio dyrchafu ei hun. Nidhunan oedd ganddo mewn golwg ond gogoniant Duw. Yroedd yn foddlon dwyn ei holl gofnodau goruchafiaeth(trophies) at droed y Groes, i gyssegru pob dawn a dylanwad a feddai at ogoniant ei Feistr. Yr oedd yn hawdd eidrin; nid oedd yr holl godiad a'r dyrchafiad gafodd ganddynion ac mewn cymdeithas yn effeithio arno er niwed,ond yr oedd efe yn gydostyngedig â'r rhai iselradd. Nidydoedd efe byth yn ymdrafferthu i gael y werin dybied eifod yn dduwiolach nag oedd mewn gwirionedd; yr oeddyn berffaith rydd oddiwrth rodres (affectation) a hoced.Gwr dysyml ydoedd. Am dano fel Cristion, dywed yr enwogDdr. Morgan, Llanelli:—

"Yr oedd yn hynod syml, naturiol, ac anymhongar. Nid oedd dimo'r anesmwytho, a'r ymffunio, a'r anffurfio, sydd i'w ganfod mor fynychhyd y nod yn ein dyddiau goleuedig ni yn perthyn iddo ef. Credai efy gallesid bod yn saint a bod yr un pryd yn bobl mor naturiol ag y crewyd ni gan Dduw. Ond O! y dinystr sydd, o amser y Phariseaid gynthyd y lluaws Phariseaid presenol, wedi ei achosi gan bobl, drwy ragrith,a chymmeryd arnynt, a hirwynebu, sydd wedi bod yo ceisio camarwain eu cyd—ddynion a thwyllo yr Hollwybodol. Nid yn unig yr oedd Dr.Price yn Gristion o'r iawn ryw, ond yr oedd hefyd yn un o'r Cristionogion mwyaf serchog a haelionus yn yr holl wlad; ac yn ei gyfeillachac mewn cydymddyddaniad ag ef yn bersonol yr oedd yn un o'r rhaimwyaf hawddgar, dirodres, dyddan, a chariadus y gallesid byth ei gyfarfod."

Fel bugail, yr oedd yn ddiwyd, llafurus, ymdrechgar, amanwl iawn. Yr oedd yn onest a di-dderbyn-wyneb. Cydymdeimlai â'r trallodus, a chydlawenhäai â'r dedwydd a'rllwyddiannus. Llanwai ei holl gylchoedd personol, teuluaidd, a chyhoeddus yn anrhydeddus a difwlch. Coleddaifarn uchel iawn bob amser am bobl ei ofal, a golygai nadoedd y fath eglwys a Chalfaria mewn bod. Yr oedd ynneillduol o ofalus am y cleifion. Ymwelai à hwy yngysson a chyfundrefnol, a gwnai sylw arbenig o'r henbobl yn ei eglwys a'i gynnulleidfa. Ni welsom erioed nebGwnai eiyn fwy llwyr ei ofal am y bobl ieuainc.hun yn blentyn gyda'r plant, ac yr oedd yn ddedwyddwchmawr i'w enaid allu gwneyd rhywbeth i helpu y dynionieuainc, yn neillduol y rhai fuasent yn pregethu tipyn. Yroedd ganddo drefn a chyssondeb yn holl weithrediadau eieglwys. Yr oedd wedi ei dysgu, fel efe ei hun, yn llawn obusiness habits. Ni fu gwell eglwys erioed am accommodationi ddyeithriaid mewn pwyllgorau neu gyrddau neillduol naChalfaria, a'r oll yn herwydd yr hyfforddiant oedd wedi eigael ganddo ef. Nid oedd byth yn esgeuluso y pwlpud, eryr holl waith a gyflawnai. Mynai yn gyffredin ddyddiauGwener a Sadwrn i barotoi at y pwlpud. Gofynid iddoweithiau pan yn myned gydag angladd i'r gladdfa ar brydnawn Sadwrn, i aros gyda chyfeillion i gael cwpanaid o dê,ond gwrthodai yn ddieithriad, a dywedai fod arno frysdychwelyd gartref—fod rhyw fater gan Daniel, Zachariah,neu un o'r proffwydi, ag eisieu ei setlo erbyn y Sabboth; aphan fyddai efe yn talu ymweliad â'i bobl, nid cedd yn arosyn hir gyda hwynt yn eu tai. Yr oedd yn neillduol o garedig i'r hen widwod yn ei eglwys, ac yn ofalus iawn amdanynt. Gwahoddai hwy weithiau gydag ef i'r Rose Cottagei dreulio prydnawn, a chaent wledd yn iawn o dê a theisen.Gofalai yn hynod felly am gofrestr yr eglwys, a mynai weledfod pob peth yn gweithio gyda'r ystwythder mwyaf. Profirhyn yn amlwg gan y ffaith ei fod wedi cadw y peiriant ifyned yn hwylus a llwyddiannus am dros ddeugain mlynedd. Ond, ond, er cystal dyn ydoedd, er mor dryloew fel Cristion,a ffyddlawn a gofalus fel bugail, collwyd y dyn yn niwl yglyn, ymddangosodd y Cristion yn ogoneddus yn ngwawl ygogoniant, ac aeth y bugail i orphwys wedi oes faith o lafurcaled a lludded mawr. Yn briodol y gellir dweyd am dano,"Oni wyddoch chwi i dywysog ac i wr mawr syrthio ynIsrael?" Syrthiodd, nid dan gwmmwl, nid dan draedgelynion, ond yn angeu. Hunodd yn yr Arglwydd; machludodd yn ogoneddus fel haul Mehefin, wedi bod am ddeugain mlynedd yn adlewyrchu o'r areithfa, ac mewn bywydo ddefnyddioldeb, oleuni Haul y Cyfiawnder; ac er ei fodef wedi suddo dros y gorwel, erys llewyrchiadau ei fywydgogoneddus yn hir ar ol. Hunodd yn yr Iesu ar y nawfeddydd ar hugain o Chwefror, 1888, a chladdwyd ef yn mynwent Calfaria, y dydd Mawrth canlynol. Gwnaeth yr eglwys drefniadau deheuig a hwylus erbyn yr angladd, adyfynwn fyr fynegiad o honi o Seren Cymru am Mawrth 16,1888:—

"Yn gynnar dydd Mawrth, Chwefror 6ed, gwelid gweinidogion alleygwyr parchus yn dyfod i'r dref o bob cyfeiriad gyda phob trên, athua 1.30 yr oedd Cardiff Road, yn agos i'r Rose Cottage, yn llanw yngyflym gan bobl barchus o wahanol fanau yn Nghymru, wedi dyfod idalu y parch olaf i un mor hoff ganddynt. Wrth y ty darllenwyd agweddiwyd gan y Parch. Bazzet Thomas, Caerdydd, gweddiwyd gan yParch. T. Jones, Carmel, Aberdar, a chafwyd anerchiad tra phwrpasolgan y Parch. W. Morris, Treorci. Wedi canu cychwynwyd yn arafam fynwent Calfaria yn y drefn yr oedd y pwyllgor yn ddoeth wedi eithynu allan:—Y gweinidogion o bob enwad yn flaenaf, yn cael eu dylyngan y Rhydd Faswniaid, y Cymdeithasau Cyfeillgar, Aelodau y gwahanol Fyrddau, masnachwyr, y cyhoedd, cynnrychiolwyr y gwahanolEglwysi Bedyddiedig, arolygwyr yr Ysgolion Sabbothol, aelodau, cynnulleidfa, ac Ysgol Sul Calfaria, y côr, yr arch (cludwyr—diaconiaidCalfaria), galarwyr.

"Cynnrychiolid y gwahanol fyrddau a sefydliadau yn y rhai oedd yDr. wedi bod yr flaenllaw yn eu ffurfiad, ac yn aelod defnyddiol ohonynt am flynyddau. Hefyd, yr oedd nifer luosog o brif fasnachwyry dref a'r dyffryn yn bresenol, yn dangos eu parch i'r teulu a'r Dr. ymadawedig.

"Yr oedd eglwysi y Bedyddwyr yn y dyffryn yn cael eu cynnrychioliyn yr angladd gan eu diaconiaid, arolygwyr eu Hysgolion Sabbothol,a'r cantorion, yr olaf oeddynt wedi ymuno â chôr Calfaria, dan arweiniad medrus Mr. Theo. Jenkins, A.C., Calfaria. Yr oedd y côr yn blaenori y corff, bob ochr i'r hwn y cerddai diaconiaid y Dr., oddiwrth y tyhyd y capel. Hwynthwy oeddynt yn codi y corff wrth y ty. Ynacariwyd gan aelodau y cymdeithasau cyfeillgar, a chafodd y diaconiaidofal y corff o'r capel hyd y gosodasant ef i orphwys yn vault y teulu.

"Yn fuan gorlanwyd capel Calfaria, ac yr oedd miloedd allan wedihyny. Agorwyd Carmel, y capel Saesneg, a llanwyd hwnw drachefn,a gorfu i gannoedd lawer aros allan dros y gwasanaeth angladdol a gynnaliwyd yn y ddau gapel.

"Yn Nghalfaria, darllenwyd gan y Parch. P.Williams (Pedr Hir), Tredegar; gweddiwyd gan y Parch. W. Williams, Rhos, Mountain Ash;anerchwyd y gynnulleidfa gan y Parchn. W. Harris, Heolyfelin (gyda'rhwn yr oedd trefniadau yr angladd); J. Roberts, Rhydfelen; Nathaniel Thomas, Caerdydd; Dr. Todd, Llundain (yn Saesneg); J. Davies(A.), Soar, Aberdar; W. James (M.C.), Aberdar, a E. Thomas, Casnewydd. Terfynwyd trwy weddi gan Jones, Philadelphia. Siaradwydyn Carmel gan y Parchn. J. R. Jones, Llwynpia; Proff. Edwards, aDr. Rowlands, Llanelli.

Siaradwyd ar lan y bedd gan y Parch. J. Lewis, Belle Vue, Abertawe, a therfynwyd trwy weddi gan Dr. Williams, Pontlottyn. Ymddiriedwyd trefniadau yr angladd i bwyllgor o weinidogion y cylch. Bernir fod tua phum' mil yn yr angladd, a thros bum' mil arall oedrychwyr, y rhai a ymddygent yn hynod deilwng o'r amgylchiadpruddaidd. Cafwyd cynnorthwy sylweddol gan yr heddgeidwaid igario allan y trefniadau yn effeithiol a gweddaidd, ac y mae clod mawryn ddyledus i'r Arolygydd Thorney am ei garedigrwydd.

"Teimla trigolion Aberdar yn chwithig heb un Dr. Price. Y mae ydref yn teimlo hiraeth a cholled ar ei ol. Yr Arglwydd a fyddo ynnodded i'w deulu galarus, ac a fendithio eglwys barchus Calfaria yn yramgylchiad."

Pregethwyd ei bregeth angladdol gan ei hen gydfyfyriwrparchus, yr Hybarch E. Thomas, Casnewydd, y nos Sulyn mhen yr wythnos, pryd yr ymgynnullodd tyrfa aruthroli'w gwrandaw, mewn teimladau dwys a galar mawr ar ol yranwyl Ddr.

Aeth yr eglwys i'r holl dreuliau claddu, a gosodwyd ybeddrod i fyny yn daclus, a cherfiwyd yr adgof canlynol ar

farmor gwyn yn y gofadail uwch ben y bedd:—

"ER COF AM

Y DIWEDDAR BARCH. THOMAS PRICE, M.A., PH.D.,

Yr hwn a fu farw Chwefror 29ain, 1888, yn 67 mlwydd oed,

"Bu yn weinidog ffyddlawn, gweithgar, ac ymdrechol, i Eglwys Calfaria am 42 mlynedd. Bu yn arweinydd llwyddiannus gyda phob mudiad daionus yn Nyffryn Aberdar, ei wlad ei hun, ac mewn gwledydd ereill. Llanwodd y cylchoedd pwysicaf yn gymdeithasol a chrefyddol er anrhydedd iddo ei hun a'i genedl. Rhagorai fel dinesydd, gwleidyddwr, llenor, darlithiwr, gweinidog, a phregethwr. Yr oedd yn gymmwynaswr dïail, carai bawb, a pherchid ef yn gyffredinol.

'Ei ddiwedd oedd tangnefedd.'

"Mi a ymdrechais ymdręch deg, mi a orphenais fy ngyrfa, mi a
gedwais y ffydd.'—2 TIM. 4—7."

PENNOD XXI.

ENGHREIFFTIAU O'I AREITHIAU.

Araeth Yn Nghyfarfod Blynyddol Cymdeithas Traethodau y Bedyddwyr—Araeth yn Exeter Hall—Araeth ar y Genadaeth Dramor—Araeth Wleidyddol yn Aberhonddu

ARAETH YN NGHYFARFOD BLYNYDDOL CYMDEITHAS TRAETHODAU Y BEDYDDWYR

(Allan o'r "Primitive Church Magazine.)

CYNNALIWYD Cyfarfod Blynyddol y Gymdeithasuchod dydd Iau, Ebrill y 27ain, 1865, yn un o Ystafelloedd Exeter Hall, Llundain, dan lywyddiaeth Dr. Price, Aberdar. Am hanner awr wedi pump dechreuwyd y cyfarfod cyhoeddus drwy ganu mawl i Dduw; ac wedi i Mr.Stock, o Devonport, anerch gorsedd gras, cyfododd y cadeirydd i draddodi ei araeth arweiniol. Dywedai,

"Y mae y Gymdeithas hon wedi cyhoeddi 3,636,525 odraethodau, yn cynnwys pedair miliwn ar bymtheg o dudalenau. Gwasgarwyd y rhai hyn yn ngwahanol barthauy wlad, ac yn mhob man hauasant egwyddorion yr Efengyl.Oddiwrth erthygl bwysig iawn a gyhoeddwyd yn y Freemanallan o'r Spectator, gellid meddwl fod cyfenwad y Bedyddwyr ar gael ei lyncu gan yr enwad Annybynol. Cynnwysai yr erthygl dan sylw lawer iawn o synwyr a gwirionedd, achefyd lawer o gamsyniadau. Yr oedd yn gywir pan yndywedyd nad oeddym yn llwyddo megys y dylasem; ondnid ydyw yn wirionedd ein bod ar gael ein llyncu i fynygan yr Annybynwyr. Yr ydym yn gorff rhy fawr i gael einllyncu. Daw gwrthweithiad etto, ac yn y diwedd perchirCymdeithas Traethodau y Bedyddwyr am sefyll fel y gwnao blaid yr Efengyl. Oddiwrth erthygl a ymddangosodd ynddiweddar yn y Baptist Magazine, canfyddwn mor hawdd ysyrthia rhai i'r cyfeiliornad o dybied y dylem ni adeiladucapeli i bawb sydd yn cael eu cynhyrfu gan gariad brawdol.Tra fyddo un lleidr yn y plwyf, bydd yn rhaid cael cloioni'w gadw ef allan; a thra fyddo personau yn ein mysg yn barod i drosglwyddo meddiant y Bedyddwyr i ereill, byddyn rhaid i ni gael gweithredoedd ymddiriedol (trust deeds).Wrth gyhoeddi y ddwy erthygl uchod, dywedai y Patriotfod ganddynt yr hyfrydwch mawr o gyhoeddi fod y Freemana'r Baptist Magazine am gael gweithredoedd ymddiriedol, hebun gair o son ynddynt am fedydd na Bedyddwyr. Cynnygiai,ond i ni fynu gwared o'r gair Bedyddiwr,' y buasai yr Annybynwyr yn barod i roddi fyny eu henw hwythau. Ondatolwg, pa beth sydd gan yr Annybynwyr i'w roddi fyny?Dim ond bretyn bychan halogedig, wedi ei fenthyca oddiwrth Eglwys Rhufain, tra yr annogir ni i roddi fynyordinhad a sylfaenwyd gan y Gwaredwr, ac a arferwyd ganyr apostolion. Ac etto i gyd, y mae llawer o weinidogiony Bedyddwyr, a gwyr arweiniol hefyd, yn barod i eilio agweithredu yn ol golygiadau y Patriot. Yn ystod y cyfarfodydd eleni, dywedai un o'n prif ddynion, ei fod ef wedicymmeryd ystafell mewn tref yn unig i bregethu yr Efengyl,ac nid i ffurfio eglwys, gan adael y personau a argyhoeddidi ymuno â'r eglwys a fynent. Pe buasai un o amaethwyr ywlad yn braenaru ei dir, yn hau ei had, yn medi y cnwdyn amser y cynauaf, ac wedi hyny yn gwahodd ei gymmyd-ogion i ddyfod a chludo yr ysgubau ymaith iddynt eu hun-ain, buasem oll yn galw y dyn hwnw yn ffwl; a chredaf fifod y neb a gasglo eneidiau at Grist yn y dull uchod, hebffurfio eglwys, yn ffwl hefyd. Yr ydym ni i alw ar ddynioni edifarhau, a chredu, cymmeryd eu bedyddio i enw y Drindod, ac i ymuno â phobl yr Arglwydd. Pa fodd y darfu ichwi yn Llundain fethu derbyn cynnyg Syr Morton Peto,i adeiladu nifer neillduol o gapeli ar yr ammod i'r enwadwneyd ei ran? Credaf mai am fod ein cyfeillion wedigwasgu i feddyliau eu pobl y grediniaeth nad oes eisieucapeli i'r Bedyddwyr, am y gallant fyned i addoli i gapeliyr Annybynwyr. Nid wyf, gan hyny, yn synu dim at ycanlyniad. Yr ydych yn gwneyd eich goreu i ddysgu eichpobl fod un enwad yn llawn cystal â'r llall, ac ychydig ynwell hefyd. Wrth edrych i'r dyfodol, â llygad dynol ynunig, os eir yn miaen fel yr ydys yn awr yn myned, gellirdysgwyl y bydd deg neu bymtheg mlynedd ar hugain ynddigon i ddifodi y Bedyddwyr fel cyfenwad o grefyddwyr.Am Loegr yn unig yr wyf yn llefaru. Nid ydyw pethaufel hyn yn Nghymru, nac yn Ewrop, nac yn America, nacyn y meusydd cenadol. Ond yn Lloegr bydd y cyfrywganlyniad yn sicr o gymmeryd lle, os nad attelir ef gan Fedyddwyr Caeth Lloegr. Gobeithiaf, gan hyny, y byddiddynt gael eu bendithio â modd. A gaf fi lefaru gair neuddau wrth y Bedyddwyr Caeth? Yr wyf yn Gaeth Gymunwr trwyadl, ac yn hyn yr wyf yn hollol gyduno â'mbrodyr Cymreig. Credaf y dylech chwi gymmeryd eichlleoedd priodol yn y cyfenwad. Ystyriaf nad ydych chwi,fel Bedyddwyr Caeth, yn gyffredin wedi gwneuthur hyny.Nid ydych wedi peru i chwi gael eich clywed a'ch teimloyn ddigionol. Nid ydych yn dwyn eich dylanwad i weithredu i raddau digonol ar y cyhoedd. Nid oes genych ynLlundain gymmaint ag un gymmanfa o fath y rhai syddgenym ni yn Nghymru. Carwn yn fawr weled yr hollFedyddwyr Caeth yn uno gyda'u gilydd i gynnal achosDuw. Credaf fod cynnifer o eglwysi o Fedyddwyr Caethyn Llundain yn y blynyddoedd a aethant heibio ag syddheddyw. Dylem ni, Fedyddwyr Caeth Cymru a Lloegr,fod yn fwy unol. Hir y cofir am araeth gynhyrfus Mr.Norton yn Nghymmanfa olaf Swydd Forganwg. Anfonwchef, neu eich trysorydd, etto, fel y byddo i chwi gael ychydigyn ychwaneg o'r tân Cymreig. Bydded i ni gael mwy oundeb. Y mae genym yn y Dywysogaeth boblogaeth, mewnllawn rifedi, o filiwn o eneidiau, o'r rhai y mae 65,000 ynaelodau yn yr eglwysi Bedyddiedig. Nid oes genym ondpedair neu bump o eglwysi o Rydd Gymunwyr, ac y maey rhai hyny oll yn Saeson. Yr ydym ni Gymry o waed pur.Nis gwyddom ddim am gymmysgedd. Pa ragoroldeb syddmewn cymundeb cymmysg, nis gallaf fi ddirnad; ond gwnbeth yw dwfr a llaeth wedi eu cymmysgu. Pan oedd Andrew Fuller ar ymweliad â Scotland, gofynwyd iddo fabwysiadu eu gofygiadau hwy; ond gwrthododd wneyd hynyhyd oni chaffai weled eu ffrwythau. Y mae gan ddynionhawl i ofyn beth all y Bedyddwyr Caeth ei wneyd, a gallantddysgu rhywbeth ar y pwnc hwn oddiwrthym ni yn Nghymru. Yr ydys mewn rhai manau yn condemnio y Bedyddwyr Cymreig, fel rhai cul mewn barn ac ymarferiad, oblegydnad ydynt yn derbyn neb at fwrdd yr Arglwydd ond rhaiwedi eu bedyddio ar broffes o'u ffydd. Ond yr ydym ni ynymogoneddu yn y ffaith fod yr holl eglwysi Cymreig ynymlynu yn y ffurf hon o athrawiaeth, Eglur yw fod Duwyn gwenu arnom tra yn canlyn y llwybr hwn. Mae genymhawl i farnu y pren wrth ei ffrwyth, a byddwn yn fwy galluog i wneuthur hyny drwy gymharu cyflwr Cyfenwad yBedyddwyr yn Nghymru â'i gyflwr mewn rhyw ran o Loegr, lle mae y boblogaeth yn gyffelyb. Y mae poblogaeth Yorkshire yn fwy. Cynnwysa 2,033,610, tra nad yw poblogaethyr oll o Gymru, yn nghyd â Swydd Fynwy, ond 1,286,413;felly, mae poblogaeth Cymru yn llai nag eiddo Yorkshire ofwy nâ 700,000 o eneidiau. Yr oedd yn Yorkshire—

Yn 17901861
Eglwysi y Bedyddwyr24100
Gweinidogion y Bedyddwyr2272
Aelodau eglwysig11,434
Ysgoleigion Sul18,433

Yn Nghymru—

Yn 17901861
Eglwysi y Bedyddwyr48545
Gweinidogion y Bedyddwyr61351
Aelodau eglwysig64,650
Ysgoleigion Sul67,651

Yn 1861, yr oedd yn Yorkshire un Bedyddiwr ar gyfer pob178 o'r boblogaeth, ond yn Nghymru a Swydd Fynwy yroedd un Bedyddiwr ar gyfer pob ugain o'r trigolion. Maetuedd y Gymdeithas hon at attal yr hyn a gredir genyf fisydd yn ddrwg mawr; a hyderaf y bydd i ni yn Nghymrugael cydgyfranogi o'r bendithion y mae ein brodyr Seisnigwedi eu derbyn oddiwrthi."

ARAETH YN EXETER HALL, EBRILL, 1868.

Mr. Cadeirydd,—Ar yr awr hwyr hon, ac un boneddwrarall i'ch anerch etto, nid ydwyf yn gwybod braidd palwybr i'w gymmeryd. Fodd bynag, goddefwch i mi grybwyll un o'r ffyrdd drwy ba un y credaf y gellid cario allanyr amcanion a ddymunir yn y penderfyniad ag sydd newyddgael ei gynnyg mor alluog gan Mr. Wassal, a hwnw ydyw,Ymdrechu cael ein pobl ieuainc i deimlo dyddordeb yn hanesiaethderfynol, gweithgarwch personol, a gobeithion dyfodol CymdeithasGenadol y Bedyddwyr. Y mae gan y Gymdeithas hon enw,ac O! na fuasai a lle helaeth yn nghalonau pawb o'n poblieuainc. Yr wyf wedi meddwl ac ofni lawer gwaith einbod ni fel gweinidogion, athrawon yr Ysgol Sul, a phenaethiaid ar yr aelwyd gartref, heb wneyd cwbl gyfiawnder â'r Gymdeithas hon yn ein hymwneyd â'n plant, â deiliaidyr Ysgol Sul, ac â phobl ieuainc ein cynnulleidfaoedd. Maeyn perthyn iddi ffeithiau ag y byddai o les annhraetholiddynt hwy fod yn gynnefin â hwynt, ïe, ffeithiau ag a wnai galonau pawb sydd yn caru gwir wroldeb Cristionogollamu wrth feddwl am danynt. Pedwar ugain mlynedd ynol bodolai y Gymdeithas hon yn meddwl, cartrefai ynnghalon, ac anadlai yn ngweddiau un dyn duwiol. Saithdeg chwech o flwyddi yn ol daeth yn Gymdeithas weledig,yn cael ei galw i fodolaeth gan y brodyr difrifol hyny agwrddasant â'u gilydd yn nhy y weddw hono yn Kettering,pryd y tanysgrifiasant cydrhyngddynt y swm o £13 18s.6ch.; ond gall fentro dweyd fod y swm hwnw, yn gymharol felly, yn fwy nâ'r swm a gasglwyd yma heno, gan eifod yn £1 os. 10c. yr un o'r cyfarfod bychan hwnw. I'rdoeth a'r bydol, i'r anturiaethwr a'r athronydd, ymddangosai y swm hwn yn gwbl annigonol er cychwyn anturiaethoedd a'i hamcan i argyhoeddi miliynau y byd paganaidd;ond nid felly i'r brodyr da a duwiol hyny yn Kettering.Cyflwynasant hwy y swm hwnw ar allor Duw, a derbyniodd yr Arglwydd ef fel blaenffrwyth o swm o £1,172,342,7s. Ic. ag sydd wedi ei gyfranu hyd y 31ain o Fawrth yn yflwyddyn bresenol, a phob symiau ychwanegol ag a fyddyn angenrheidiol i gwblhau y gwaith gogoneddus a ddechreuwyd mewn cwbl ymddiried yn Nuw y pryd hwnw(cymmeradwyaeth). Y mae yr ychydig frodyr hyny a gynnullasant yn Kettering, yn anwyl iawn i ni, a gweddiwn ynddifrifol ar i'w henwau fod megys perarogl yn nghalonauein plant (clywch, clywch).

Gydag ymddiriedaeth gref yn Nuw, dechreuodd y Gymdeithas weithio mor fuan ag oedd yn bossibl, gan y cawniddi yn yr Haf dylynol, ar y 13eg o Fehefin, 1793, ddanfonallan William Carey a John Thomas, ar fwrdd llong Ellmynig, ar eu ffordd i India, pryd yr oedd Andrew Fullera'i frodyr gartref yn cyflwyno yr anturiaeth i nawdd Duwac haelioni yr eglwysi. Y rhai hyn oeddynt ragredegwyrrhyw 230 o filwyr ffyddlon i Grist, sydd wedi eu danfonallan gan y Gymdeithas hon yn unig, 74 neu 75 o ba raisydd yr awr hon ar faes y frwydr, yn ymladd yn wrol drosein Harglwydd (cymmeradwyaeth). Byddai yn anmhossibli'n pobl ieuainc deallus ddarllen hanes, ac ystyried hunanymwadiad, aberth, sel, a difrifoldeb y llu gwrol sydd wedibod am saith deg pump o flynyddau yn dal cyssylltiad mor agos â'r Gymdeithas hon, heb blygu i lawr a bendithioDuw am godi y fath gymmeriadau, ac erfyn am gymhorthi ddylyn eu hol mewn ffydd a gweithredoedd. O!'r fathwersi a gawsid wrth fyfyrio bywydau tebyg i Fuller, Sutcliffe, Ryland, Pearse, ac ereill a ddylynasant fel cynnorthwywyr y Gymdeithas; neu ddylyn bywydau, llafur, lludded,a llwyddiant Carey, Marshman, Ward, Chamberlain, Yates,a'u brodyr yn y Dwyrain, a Knibb a Burchell, yn y Gorllewin. Mae hanes dynion o'r fath hyn yn llawn o wersiaddysgiadol i ieuenctyd ein cynnulleidfaoedd (cymmeradwyaeth).

Y mae cynnydd ein Cymdeithas hefyd yn llawn o ddyddordeb i'n pobl ieuainc. O! fel y bu ein Tad nefol yn profiffydd sylfaenwyr y Gymdeithas hon yn ystod y saith mlynedd cyntaf o'i bodolaeth. Yn ystod yr adeg hirfaith hon,bu gweithgarwch a chaledi y cenadon heb un llwyddiantymddangosiadol, mor bell ag yr oedd argyhoeddiadeneidiau yn myned; etto, aethant yn y blaen gyda dyfalbarhad ffyddiog yn Nuw, gan adael y canlyniadau yn eilaw gwbl—alluog Ef. Er na fu neb dychweledigion amsaith mlynedd, yr oedd y Gymdeithas wedi helaethu eitherfynau i raddau mawr, gan ei bod wedi danfon allanamryw genadon Ewropeaidd yn ychwanegol, rhai o ba raia adawsant y fuchedd bresenol yn bur fuan. Ond yn yflwyddyn 1800—y cyntaf yn y ganrif bresenol—yr oeddgenym yn India 4 cenadwr Ewropeaidd, 1 capel bychan, 1eglwys fechan, 1 Ysgol Sabbothol, ac 1 ysgol ddyddiol—ollyn gyfyngedig i'r cenadon a'u teuluoedd. Profodd y flwyddyn hon yn un fythgofiadwy yn hanesiaeth y Genadaeth, yngymmaint ag mai ar y 17eg o Fawrth, 1800, y tynwyd yllen gyntaf o'r Beibl Bengaelaeg drwy y wasg. O!'r fatholygfa darawiadol oedd gweled y teulu bychan wedi cydgwrdd yn eu capel, a William Carey yn gosod y llen oeddnewydd ei gorphen yn wlyb o'r wasg ar fwrdd y cymundeb,gan ei chyflwyno i'r Arglwydd, fel rhan o'r hyn oedd iganlyn, a diolch iddo am yr holl drugareddau oedd wedigael, a gweddio am ei gymhorth a'i arweiniad yn y dyfodol. Yr ydym yn gwybod heddyw i ba raddau y mae yweddi hono wedi ei hateb. Mae ein cenadon wedi cael yfraint o fod yn alluog i roddi Gair Duw i'r pagan mewnhanner cant o ieithoedd a thafod—leferydd. Mae hyn ar eiben ei hun yn synfawr i'n golwg, ac yn galw am ein diolchgarwch mwyaf trylwyr i Dduw, a'n gwerthfawredd twymgalon o'r dynion fuont yn offerynau yn ei law i ddwyn yfath waith godidog oddiamgylch (cymmeradwyaeth). Oddiar hyny mae ein cenadon wedi bod yn abl i drosglwyddo i'rpagan dros filiwn o gyfrolau o Air Duw, ac yr ydym ynawr yn danfon i ffwrdd o wasg y Gymdeithas tua 45,000 ogyfrolau o'r Beibl yn flynyddol. Wrth edrych dros yffeithiau hyn, pwy all ddiystyru dydd y pethau bychain?(cymmeradwyaeth). Tri diwrnod cyn terfyniad y flwyddyn 1800, dygwyddodd amgylchiad pwysig arall, yr hwn alawenhaodd galonau ein dynion da. Rhagfyr 28ain, 1800,sancteiddiodd William Carey ddyfroedd y Ganges drwydrochi ynddi y cyntaf a ddychwelwyd i'r ffydd Gristionogol,sef Christnu Paul; a phan yr oedd y bedyddiedig yn dyfodi fyny o'r dwfr, llefarodd un o'r cenadon ar y lan y geiriau canlynol: "To-day is broken the first link in thechain of caste, and there is no power on earth or in hellthat can reunite it." Yr oedd y dywediad hwna yn ffaith,ac yn fath o broffwydoliaeth—y naill y dydd hwnw, a'r llallwedi ei wireddu hyd y dydd hwn, gan nad ydyw caste ynIndia byth wedi hyny wedi cyrhaedd ei sefyllfa gyntefig(cymmeradwyaeth). Wedi hyny, mae ein cenadon wediderbyn miloedd i Eglwys y Duw byw, llawer o'r rhai syddwedi myned at eu gwobr, tra y mae eu rhifedi ar y ddaearyn cyflym gynnyddu o hyd. Beth raid fod llafur y brodyrffyddlon a anfonwyd allan i ddwyn oddiamgylch ganlyniadau dedwydd y dydd heddyw? Gadewch i ni gymmerydun gipolwg ar agwedd y maes y foment bresenol. Maegenym yno 74 o genadon Ewropeaidd, 300 o oruchwylwyrbrodorol, 20 o weinidogion brodorol yn Jamaica, trysorfa yCalabar Institution, a 4 o sefydliadau er addysgu dynionieuainc i waith yr Arglwydd. Ac wrth son am Jamaica,yr hon sydd yn blentyn anwyl i'r Gymdeithas hon, gallwngrybwyll fod genym yno gannoedd o eglwysi yn cael eucario yn mlaen yn drefnus a rheolaidd, yn cynnwys cyfanswm aelodol o 30,000, gydag ysgolion a lle ynddynt i12,000 neu 15,000 o blant. Y mae y Gymdeithas yn awryn llanw sefyllfaoedd pwysig yn India, Ceylon, China,Affrica, Jamaica, Hayti, Trinidaad, Bahamas, Ffrainc, aNorway, tra y mae drysau newyddion yn parhau i agor,y rhai y dylasai gymmeryd meddiant o honynt, ond methao herwydd angen haelioni mwy oddiwrth yr eglwysi.

Gallasem etto gyfeirio sylw ein pobl ieuainc at amgylchiadau pennodol o ofal Duw, am ei ddaioni tuag at y Gymdeithas hon. Cymmerer y flwyddyn 1812 er enghraifft,pryd yr oedd y Gymdeithas yn ugain mlwydd oed. Dinystriwyd yn hollol y swyddfa argraffu berthynol iddi ynIndia, pryd y collwyd adeilad yn mesur 100 wrth 42 troedfedd, amryw dunelli o bapyr, 5,450 pwys o dype Seisnig, tairtunell o argraft-nodau wedi eu gwneuthur yn bwrpasol iun-ar-bymtheg o lafar-ieithoedd Indiaidd, yr oll o'r cases a'rstock-in-trade, a chrynhofa helaeth o lyfrau, yn mhlith y rhaiyr oedd Geiriadur y Sanscrit, yn bum' cyfrol, ac yn barodi'r wasg-oll yn chwyddo i'r golled arianol o £7,000! Yroedd hon yn golled aruthrol. Etto, ni a welwn ddaioniDuw hyd y nod yn yr adeg gyfyng hon, canys y boreucanlynol, wrth daflu golwg dros adfeilion yr adeiladaeth,deuwyd o hyd i dair tunell a hanner o fetal (yr hyn oedd yngynnorthwy mawr iddynt er ail-ffurfio yr argraff-nodau), achafwyd y matrices a'r punches dur perthynol i'r ieithoeddIndiaidd heb eu hanafu mewn un modd, yr hyn oedd ofantais fawr mewn arian ac amser, a thrwy yr hyn yr oeddent yn alluog i ddechreu argraffu eilwaith mewn deng niwrnod, ac mewn llawn waith yn mhen chwech mis! Yna yrydym yn canfod llaw Duw yn dal i fyny ein dynion da ynngwyneb ergyd mor drwm, fel yr oeddynt yn alluog i roddieu hymddiried ynddo Ef am y dyfodol. Wedi i'r newyddgalarus am y golled fawr gyrhaedd y wlad hon, gwnawdappeliad grymus at bawb Cristionogion, ac atebwyd ef yngwbl foddhaol, gan fod cyfraniadau wedi dyfod i law cynpen tri-ugain niwrnod yn cyrhaedd y swm o £7,000. Heblaw hyn, gwnaeth y golosgiad yn Serampore i'r Genadaethfod yn fwy hyspys, ac o'r dydd hwnw allan bu derbyniadauparhaol y Gymdeithas yn llawer helaethach (cymmeradwyaeth).

Yr oedd y flwyddyn 1829 hefyd yn gyfnod nodedig ynhanes y Gymdeithas hon, pryd yr oedd mewn dyled o£4,000; ond cyfarfu y cyfeillion mewn ffydd a dybyniaethar Dduw, a gwnaethant appeliad etto at haelfrydedd Cristionogol, ac mewn un cyfarfod yn y neuadd hon, llwyddwydi gael £4,798 6s. 4c., y ddyled yn cael ei dileu, a gweddillmewn llaw o £788 6s. 4c. Y mae y flwyddyn 1832 yn gofusar feddyliau llawer o'r brodyr a'r henafwyr a welaf o'mdeutu. Yn y flwyddyn hono dinystriodd gelynion y Genadaeth ein capeli a'n hysgolion yn Jamaica, lle y collasomeiddo yn werth amryw filoedd; ond mewn atebiad i appeliad William Knibb (clywch, clywch,) a theimlad cyfiawn Ty y Cyffredin, ail-adeiladwyd y capeli a'r ysgolion mewnmodd rhagorach, a gwelodd y diafol pan yn rhy ddiweddarei fod wedi gwneuthur camsyniad dirfawr wrth losgi capeliy Bedyddwyr yn Jamaica (uchel gymmeradwyaeth). Niannghofir byth y flwyddyn 1840 gan lawer o honom, prydy cymmerodd Knibb-apostol mawr y Gorllewin-un-ar-bymtheg o genadon newyddion drosodd i Jamaica. O! yfath olwg ogoneddus oedd hono i ni pan yn ffarwelio âhwynt yma ar yr afon, ac yn edrych am y tro diweddaf arwynebpryd gwrol Knibb, yr hwn oedd yn ddychryn i ormeswyr, ond yn gyfaill calon i'r caethion truenus. Dywedaf etto fy mod yn ofni yn ddirfawr ein bod yn ol owneuthur ein dyledswydd tuag at ein pobl ieuainc, trwyesgeuluso eu gwneuthur yn gynnefin â ffeithiau o'r naturhyn, perthynol i sefydliad, cynnydd rhyfeddol, a'r llwyddiant bendigedig (dan fendith Duw) sydd wedi dylyn Cymdeithas Genadol y Bedyddwyr (cymmeradwyaeth).

Un gair arall o barth yr hyn yr ydym ni yn Nghymru ynei wneyd mewn ffordd o gynnorthwy i'r Gymdeithas. Maeyn bleser genyf ddywedyd fod ein heglwysi yn gyffredinolyn teimlo dyddordeb dwfn yn y Gymdeithas hon, er maeyn wir fod rhai yn ei hesgeuluso, ond y mae y mwyafrif yngwneuthur yr hyn a allant er dwyn y gwaith da i ben. Înystod yr un flynedd ar ddeg yn cynnwys o 1857 i 1867, maeyr eglwysi Cymreig wedi cynnyddu yn fawr yn eu cyfraniadau (clywch, clywch). Yn 1857, cyfanswm y cyfraniadauoddiyno (heblaw legacies) oedd £1,312 15s. 5¼c., ac y maey swm hwn wedi cynnyddu mor raddol yn ystod yr unflynedd ar ddeg, fel y cyfranasant yn 1867 £2,360 4s. 10½c.,yr hwn swm, o'i gymharu â'r unrhyw yn 1857, sydd yndangos cynnydd o £1,047 19s. 5½c., neu 80 y cant; neu yngwneuthur cyfanswm yn ystod yr un flynedd ar ddeg oddiwrth eglwysi na allant ymffrostio yn eu cyfoeth, ond syddyn ddiarebol dlawd, o £20,998 17s. 8¾c. At hyn, goddeferi mi ychwanegu yr ychydig legacies sydd wedi eu rhoddi ynyr un cyfnod, yn cyrhaedd £209 8s. 5c., yr hyn a wna ycyfanswm o Gymru dlawd yn £21,308 6s. 1¾c. Yn awr,dywedir wrthym ei bod yn angenrheidiol i'r eglwysi gynnyddu 12 y cant at eu cyfraniadau presenol cyn y gall yGymdeithas dalu ugain swllt yn y bunt, a dymunem daluhyny. Wel, bydd i mi a'm brodyr yma gymmeryd arnomi gymmeradwyo i'r eglwysi Cymreig—a diolch i Dduw, hwywnant unpeth a gymmeradwywn iddynt yn Nghymru (clywch, clywch)—i gynnyddu eu cyfraniadau i 20 y cant,yn lle 12½. A wna'r Saeson gynnyddu yr eiddynt hwy i25 y cant? (uchel gymmeradwyaeth). Yna bydd genym£15,000 neu £18,000 yn flynyddol yn fwy nag sydd genymy dydd heddyw, a gallem yn rhwydd gymmeryd meddianto'r sefyllfaoedd a gynnygir i ni yn India, o Cape Comorinyn y dehau hyd at Lahore yn y gogledd, ac o Burmah yny dwyrain hyd Bombay yn y gorllewin. Fe ddaw y cyfandir hwn, a'i 200,000,000 eneidiau, i fod yn berl yn nghorony Gwaredwr, ac yr ydym yn barod i gymmeryd gafael yny gwaith, ond yn dysgwyl wrth yr eglwysi am eu cymhorthat hyny. Yr ydym yn credu y gwireddir syniadau proffwydoliaethol Dewi Wyn, bardd Cymreig, pan y canodd flynyddau yn ol fel y canlyn:—

"Od aeth y fendith hyd eithaf India,
O'i da ewyllys hi a'i diwalla;
Llwybr i'w chynniwair lle bu arch Noa,
Aed o'r Ararat i dir Aurora,
O'r ynys moried i'r hen Samaria,
Dychwel hi'n dawel i hen Judea,
Cyn hir pregethir ar ben Golgotha,
Neu mewn mawr awydd yn mhen Moria,
Yr Olewydd a Mynydd Amana?
Pwy? Hen eglwysydd penigol Asia;
Cwymp Babel uchel dan bla—yn ei hawr
Wele oleuwawr! Wi! wi! haleliwia!!
Ansawdd oer Ynysoedd Ia,—cynhesed
Eich tir, O! caned, a choed Hercynia!
Dawn Duw'n dwyn newyddion da—i'w hoffdir,
Hermon a Senir. Amen! hosanna!
Daw'r genedl adre i Ganaan—daw ail
Adeiliaw coed Liban,
Daw mil myrdd o demlau mân—mewn purdeb
O odreu Horeb draw i Haran;
Ac hefyd y byd cyfan—a fyn hi
Yn glau goroni, ac ail greu anian!
Nid boddi enaid byddant,
Byd ddaw'n well—bedyddio wnant,
Un buch â'r eunuch yr ânt,—i Grist mwy
O fodd hwy ufuddhant."

Bydded i ni un ac oll gael ein bedyddio ag yspryd yrawdl hon (chwerthin mawr), fel y byddo i ni gael ein deffroii wneyd yr hyn a allom i ddwyn y byd wrth draed yr Iesu(uchel gymmeradwyaeth).

ARAETH AR Y GENADAETH DRAMOR.[18]

Yn nghyfarfod blynyddol Cymdeithas Genadol y Bedyddwyr, yn Exeter Hall, y llynedd, yr oedd y Pwyllgor yn alluog i fynegu:— "Nid yn aml y mae y Pwyllgor wedi bod yn alluog i gyflwyno balance-sheet mor gefnogol a boddhaol a'r un am y flwyddyn hon. Y mae ganddynt i hyspysu yr incwm mwyaf a dderbyniwyd erioed, gyda'r eithriad o flwyddyn y Jubili." Fel hyn, yr oedd y Pwyllgor yn alluog i dalu pob gofynion yn erbyn y Gymdeithas, a dechreu y flwyddyn gyda swm bychan mewn llaw. Nis gallaf alw i gof unrhyw gyfnod yn hanes y Gymdeithas, oddiar ddyddimiad Caethwasanaeth Jamaica, pan y safai mewn gwell sefyllfa nag y gwna yn bresenol. Yn fasnachol, yr ydym yn alluog i gwrdd â phob hawl yn erbyn y Gymdeithas. Yn gartrefol, yr ydym yn awr yn byw yn ein ty ein hunain—buom un amser fel yr Apostol Paul, yn byw mewn "ty ardrethol" (chwerthiniad); ond yr ydym wedi symmud o'r ty ardrethol yn John Street i'n palas ein hunain yn Castle Street (chwerthiniad). Er nad oes genym ryw gyfnewidiadau mawrion i'w mynegu, nac unrhyw newyddion pwysig i'w gosod ger eich bron; etto, wrth daflu golwg dros yr holl faes a feddiennir gan oruchwylwyr y Gymdeithas hon, y mae genym reswm da dros fendithio Duw, a chymmeryd cysur. Yn China, yr ydym wedi colli dyn da a ffyddlon, yn nghanol ei ddyddiau; ond yr ydym yn diolch i Dduw fod genym un arall i gymmeryd i fyny ei le, yn mherson fy nghydwladwr ieuanc, Mr. T. Richard. Y mae angeu hefyd wedi bod ar waith yn India, ac wedi sym- mud yr anrhydeddus a'r duwiol Mr. Leslie, Calcutta, a'r enwog Mrs. Martin, Serampore; etto y mae gwaith yr Arglwydd yn myned rhag ei flaen yn India. Dydd Gwener diweddaf, derbyniais lythyr hir oddiwrth y brawd Evans, o Allahabad, yn mha un y rhoddai hanes dyddorol o weithrediadau Duw yn y Talaethau Gogledd-Orllewin, a'r tebygolrwydd wedi y flwyddyn hon, i rai o'r eglwysi gynnal eu hunain, heb dderbyn rhagor o gymhorth o Ewrop. Y maeein gwahanol genadaethau yn yr India Orllewinol mewnllawn gwaith; ac oddiwrth fynegiad galluog Dr. Underhill, gallem feddwl fod cyfnod llwyddiannus yn aros eincenadaeth yn Affrica, pan y mae pob peth o'n hamgylchyn lled arwyddo y dylem gynnyddu ein hymdrechion ugaingwaith yr hyn ydynt yn Ewrop. Gan ein bod yn y sefyllfaffafriol hon, ni fydd allan o lei gyfeirio at sefyllfa wirioneddol eglwysi y Bedyddwyr yn y Deyrnas Gyfunol yn eu cyssylltiad â Chymdeithas Genadol y Bedyddwyr. Nid ydymyn awr yn myned i achwyn.

Nid yw y Pwyllgor yn anfon allan apeliadau torcalonusam gynnorthwy i ddyrchafu y Gymdeithas o ddyfroedddyfnion. Na, yr ydym yn awr mewn sefyllfa dda. Gallwnedrych yn ddigywilydd yn ngwyneb pawb, a thalu u gainswllt yn y bunt; ac yn awr, heb achwyn, gadewch i ni nodiallan rai colliadau, ac awgrymu gwelliant i'r drwg; canyser fod y Gymdeithas heddyw, gydag incwm y flwyddynddiweddaf, yn alluog i gwrdd â phob ymrwymiadau, rhaidi ni gofio fod y maes yn barhaus yn eangu; ac nid gwiw ini freuddwydio am eiliad i ymfoddloni ar gadw ein sefyllfabresenol yn unig. Bydd genym yn fuan ddau genadwr ynChina—Mr. Richard a Dr. Brown—ïe, dau, a dim ond dau,i faes mor eang. Edrychwch wedi hyny ar y maes newydda phwysig a egyr drwy agoriad ffordd fawr y Dwyrain.Agora hon yr holl wlad rhwng Caercystenyn a GogleddIndia. Yna edrychwch yn nes gartref—i Ffrainc, Yspaen,ac Itali. Y mae ein brodyr yno, fel y Macedoniaid gynt,yn gwaeddi o waelodion eu heneidiau, "Deuwch drosodd,a chynnorthwywch ni." Gwn y gall fod rhwystrau ar einffordd i agor meusydd newyddion yn Ewrop; ond gadewer i'reglwysi roddi y moddion wrth law y Gymdeithas, a chilia yrhwystrau fel gwlith y boreu. Onid yw'r amser wedi dyfod,pan mae Arglwydd y lluoedd ar "siglo y nefoedd, a'r ddaear,a'r môr, a'r tir sych," gan chwyrndaflu oddiar eu gorseddau drawsfeddiannwyr iawnder a rhyddid, fel y byddo iEfengyl ei Fab gael ffordd rydd, a chael ei gogoneddu.Bydded i'r penau coronog uchelfrydig ag ydynt yn arosgymmeryd gwers oddiwrth yr hyn sydd wedi dygwydd iFerdinand o Naples, Theodore o Abyssinia, Lopez ynNehaubarth America, Maximilian yn Mexico, Isabella ynYspaen, ac yn ddiweddaf oll, Napoleon ac Eugenie, ycyntaf yn llettywr anfoddog yn Germani (cymmeradwyaeth), a'r olaf mewn annedd huriedig yn y wlad hon—yrhon sydd yn ddinas noddfa i freninoedd a breninesau, ymherawdwyr a thywysogesau, ag ydynt yn dygwydd colli eusefyllfaoedd. Ac edrychwch ar yr hen ddyn crynedig ynayn Rhufain—dyna ddyn hen a methedig yn cael ei gyhoeddi yn anffaeledig—dyna fe, yn methu penderfynu pabeth i'w wneyd na pha le i fyned—pa un a â efe mewnagerlong i Malta, ac yno i fod yn dywysog ysprydol i arolygu yr Eglwys Rufeinig, neu ynte i gymmeryd ychydigystafelloedd huriedig yn Belgium; neu ynte a fydd iddoeistedd i lawr a marw yn y Vatican, ac i gael ei amddiffynyno gan filwyr Itali. Gan mai dyma sefyllfa pethau ynEwrop, byddai yn bechod ynom — yn bechod o'r fathwaethaf yn erbyn Duw a dyn, i beidio cymmerydmantais o arwyddion yr amserau, ac i fyned yn mlaen, achymmeryd meddiant o'r tir yn enw ein Harglwydd a'nMeistr mawr. Ond i wneyd hyn, rhaid i ni gael rhagor oarian. A pha fodd y gallwn ni ychwanegu ein trysorfa?Y mae yn ngallu ein heglwysi i ychwanegu derbyniadau yGymdeitnas, heb feichio y rhai ag ydynt yn awr yn gwneydyn dda, a hyny drwy wneyd y casgliadau blynyddol yngyffredinol, ac nid yn rhanol fel yn bresenol. Wrth gymmeryd i fyny y Llawlyfr a Mynegiad y Gymdeithas Genadol am y flwyddyn hon, cawn y canlyniadau canlynol.Rhoddir cyfrif o eglwysi, heblaw 757 o gangenau a gorsafoedd pentrefol; bydd i ni adael allan y cangenau, gan ymwneyd yn unig ag eglwysi corffoledig. Cyfanswm yreglwysi yn y Deyrnas Gyfunol yw 2,335; o'r rhai hyn ymae genym yn Lloegr, 1,716; yn Nghymru, 501; yn Scotland, 87; yn yr Iwerddon, 31; ac o'r 2,335 eglwysi yn yLlawlyfr, cawn yn Mynegiad y Gymdeithas fod 1,297 wedicasglu at y Genadaeth yn y flwyddyn oedd yn diwedduMawrth 31ain, 1870—a gwahaniaetha y tanysgrifiadau a'rcasgliadau o 3s. 4c. a gasglwyd gan yr eglwys fechan ynLixwm, Swydd Fflint, i'r swm tywysogaidd o £254 1s. 9c.,a gasglwyd gan yr eglwys sydd dan weinidogaeth alluogDr. Brock. Gadawa hyn 1,038 o eglwysi na wnaethantgasglu yn ystod y flwyddyn. O'r eglwysi na wnaethantgasgliad, y mae 834 o honynt yn Lloegr, 141 yn Nghymru,46 yn Scotland, a 17 yn yr Iwerddon. Cawn fel hyn fod5½ y cant o'r eglwysi yn Lloegr yn gwneyd casgliad, a 48½y cant na wnaethant gasgliad yn ystod y flwyddyn ddiweddaf; yn Nghymru, cawn 71¾ y cant o'r eglwysi yn gwneyd casgliadau, a 28¼, y cant heb wneyd hyny; ynScotland casglodd 47⅛ y cant o'r eglwysi, a 57⅞ y cant aesgeulusasant wneyd hyny; ac yn yr Iwerddon casglodd 45⅙y cant, ac ni wnaeth 54⅝ y cant ddim. Wrth gymmerydyr holl eglwysi yn y Deyrnas Gyfunol, cawn fod 55½ ycant wedi casglu, a 44½ y cant heb wneyd hyny y flwyddynddiweddaf. Nid wyf yn gwybod a fyddai i mi bechu wrthdeimlo yn falch o Gymru dlawd wedi y cwbl: tlawd fel yrydym, ymddangoswn yn ffafriol er hyny, wrth ein cymharuâ rhanau ereill o'r deyrnas. Yn awr,tybier fod y 1,038 eglwysina wnaethant gasgliad yn gwneyd yn ol cymhariaeth yrhyn a wneir gan eglwysi tlodion Cymru, byddai genym ycanlyniad canlynol:—Casgla 360 o eglwysi yn Nghymru yswm o £2,125 15s. 2g.; yna, byddai i'r 1,038 eglwysi, osbyddai iddynt roddi o gwbl, gasglu y cyfanswm o £6,1295s. 4¾c. Yn awr, y mae colli y swm yna yn golled fawrmewn ystyr arianol, ond y mae y golled foesol i'r eglwysiyn llawer mwy: collant y pleser a'r anrhydedd o fod yngydweithwyr â Duw; amddifadant eu plant o'r pleser ogynnorthwyo yn y gwaith da o achub eneidiau; mewngwirionedd, dygir plant yr eglwysi hyn i fyny fel paganiaid. Dywedai yr enwog Andrew Fuller unwaith ei fodef a'r eglwys wedi eu darostwng i'r fath raddau, fel yr oeddpob mwynhad crefyddol wedi eu gadael; ond dechreuasant ar y gwaith cenadol, a daeth cyfnewidiad llwyr drosyr eglwys a'r gweinidog; gweithient yn galonog dros ypaganiaid yn ngwledydd pellenig y byd, a bendithiai Duweu heneidiau yn helaeth gartref. Y mae angen ymdrechunol arnom yn yr anturiaeth hon, yn gystal a chydweithrediad holl eglwysi—oll i wneyd rhywbeth yn flynyddoldros y Gymdeithas. Ofnaf fod rhai o'n brodyr henaf wediannghofio, a gall fod rhai o'n brodyr ieuangaf heb glywedna darllen hanes cyfarfod cenadol a gynnaliwyd yn Jamaicagan gynnulleidfa o negroaid. Gwnawd y cyfarfod i fynyyn gyfangwbl o ddynion duon; a chan ei fod wedi ei alwyn nghyd yn rheolaidd ac amserol, dygid pobpeth ynmlaen mewn trefn a gweddeidd-dra. Er nad oedd ganddyntryw benderfyniadau llafur-fawr a hir—eiriog, etto yr oeddynt yn hollol uniongred; canys pasiwyd ganddynt y tri phenderfyniad canlynol:—1. Bydd i ni oll roddi rhywbeth.2. Bydd i ni oll roddi fel y galluogwyd ni gan Dduw. 3. Bydd i ni oll roddi yn llawen.Wedi pasio y tri phenderfyniadau hyn, dechreuasant yn y man eu gosod mewn gweithrediad. Cymmerodd negro henafol ei le wrth ybwrdd, gyda'i lyfr yn ei law, er gosod i lawr y symiau agyfrenid. Daeth lluaws yn mlaen, a chyfranent i'r drysorfa symiau bychain yn ol eu hamgylchiadau cyfyng. Yn mhlith ereill, daeth hen negro cyfoethog yn mlaen, yr hwna osododd i lawr ddernyn bychan o arian. Cymmerwch hwn yn ol," ebe yr hen ddyn wrth y bwrdd.Gall fod yn ol y penderfyniad cyntaf, ond nid yn ol yr ail; cymmerwch ef yn ol." Gwnaeth y gŵr cyfoethog felly, abrysiodd yn ol i'w eisteddle. Daeth un ar ol y llall o'rbobl dlodion yn mlaen; a chan fod y rhan amlaf o honyntyn rhoddi rhagor nag a gynnygiodd y negro cyfoethog,teimlai yn gywilyddus o hono ei hun. Daeth yn mlaendrachefn, a bwriodd ar y bwrdd ddernyn gwerthfawr oaur, gan ddweyd mewn llais digofus, "Dyna, cymmerwchhwna." Ond dywedodd y gŵr da wrth y bwrdd, "Na, niwnaf hyny ychwaith; gall fod yn ol y penderfyniad cyntaf,ac yn ol yr ail, ond nid yw yn ol y penderfyniad diweddaf."A gorfu i'r hen ddyn fyned yn ol drachefn. Eisteddodd ilawr, ac wedi myned dros y mater yn ei feddwl, teimloddei fod yn feius, a thrwy gymhorth gras Duw, y byddai iddowneyd yn iawn. Yna aeth yn mlaen at y bwrdd gydagwên ar ei wyneb, yr hyn a arwyddai fod ei galon wedi eichyfnewid, a chyflwynodd swm mawr i'r drysorfa."Da iawn," ebe y trysorydd negroaidd, "gwna hyn y tro,—maehyn yn ol yr oll o'r penderfyniadau." Tarawyd fi ynhynod gan dair ffaith yn ystod fy ymweliad ag America yllynedd. Gofynwyd i mi fwy nag unwaith i roddi anerchiad gerbron aelodau y "Gymdeithas Ymofynol" yn einPrifysgolion yno. Yr oedd teitl y gymdeithas yn newyddi mi; ond cefais allan yn fuan fod ein myfyrwyr gweinidogaethol yn ein Prifysgolion a'n Colegau yn yr America ynffurfio eu hunain yn gymdeithas, i'r dyben o osod euhunain mewn gohebiaeth uniongyrchol â'r cenadon mewngwledydd tramor. Cadwant yn mlaen ohebiaeth barhausâ'r holl oruchwylwyr mewn gwledydd pell, a thrwy hynydeuant yn gydnabyddus â dyledswyddau, treialon, dyoddefiadau, peryglon, a llawenydd y cenadon. Meithrinantyspryd cenadol yn ystod eu cwrs athrofaol, a deuant ynbarod i gynnyg eu hunain at wasanaeth cenadol mewngwledydd tramor. Cefais fod sefydliad duwinyddol Prifysgol Madison yn unig wedi anfon allan dros driugain o'igwyr goreu i China, Siam, Burmah, ac India. Trwy y moddion hyn, nid yw Undeb Cenadol y Bedyddwyr ynAmerica yn fyr o ddynion i'r meusydd cenadol. Y mae'rYsgolion Sabbothol yn America yn gwneyd gwaith da yny cyfeiriad hwn hefyd. Y mae llawer o'r ysgolion yn argymmeryd i gynnal cenadwr, neu athraw, mewn lleoeddneillduol; a chant fynegiadau parhaus o'r maes gydagolwg ar y defnydd a wneir o'u tanysgrifiadau. Fel hyn,y mae yr Ysgolion Sabbothol yn America yn dyfod yn fatho sefydliadau cenadol, gan gydweithredu â bwrdd gweithredol yr Undeb; a cha y plant eu meithrin mewn ysprydcenadol o'u mabandod i fyny. Dysgir hwy fel hyn ynforeu i gyfranu—ac y maent yn cyfranu—cyfranant oll, ahyny yn llawen. A chymmeryd y ddwy ffaith a nodwyd,cyfrifant braidd yn hollol am y canlyniadau a geir ynMynegiad diweddaf Undeb Cenadol Bedyddwyr America.Y mae ganddynt yn awr 1,919 o orsafoedd, 630 o eglwysi,957 o oruchwylwyr, a bedyddiwyd yn ystod y flwyddyn4,600. Cynnydd ar y flwyddyn ddiweddaf:—169 o orsafoedd, 12 o eglwysi, 110 o oruchwylwyr, 1,050 trwy fedydd, a 1,345 o aelodau. Cyfrifa eu trefn reolaidd o weithiowedi hyny am ffaith arall, sef fod y tanysgrifiadau wedicynnyddu yn ystod y 25 mlynedd diweddaf i'r swm o 384y cant. Credaf y gellid dilyn 'siampl y myfyrwyr ieuaincyn ngholegau America gan bobl ieuainc yn ein colegau yny wlad hon; a phe efelychai ein Hysgolion Sabbothol ynMhrydain Fawr Ysgolion Sabbothol America, ennillai yGymdeithas o leiaf £5,000 y flwyddyn mewn arian, pan ybyddai y dylanwad moesol ar y genedl bresenol, a chenedloedd ag ydynt etto heb eu geni, tuhwnt i ddim a allwn gyfrif yn bresenol.

ARAETH WLEIDYDDOL YN ABERHONDDU.

Ar ol ateb rhai gofyniadau am dano ei hun, dywedoddDr. Price,

"O barthed i'm hawl i ddyfod i geisio eich pleidleisiau,yr oeddwn yn meddwl fod genyf gystal hawl ag unrhywberson, os yn barod i wneyd yr aberthau gofynol i wasanaethu eich lles chwi. Yr wyf yn Gymro ganedig a magedig,yn Gymro mewn calon a theimladau. Yr wyf yn Annghydffurfiwr oddiar argyhoeddiad. Ganwyd fi yn nghymmydogaeth Aberhonddu, magwyd fi yn eich plith chwi, dechreuais fy ngyrfa grefyddol yn eich plith, ac er pan wyf wedigadael eich tref, nid wyf wedi gwneyd dim i'w gwarthruddo.Meddyliais, ar ol saith mlynedd ar hugain o absenoldeb, ygallwn dd'od yn ol yn anrhydeddus i ofyn i chwi fy nychwelyd fel eich cynnrychiolydd i'r Senedd. (Cymmeradwyaeth.) Yr wyf fi, a llawer ereill, wedi teimlo er's amserbellach ei bod yn warth ar Gymru, am nad yw, o'r 32 aelodau y mae wedi ddanfon i'r Ty Cyffredin, wedi danfon unAnnghydffurfiwr Cymreig erioed. (Cywilydd). Nid oesgenym yn awr yn y Ty Cyffredin un aelod, yr hwn yn degsydd yn cynnrychioli teimladau crefyddol wyth rhan o nawo bobl Cymru. (Bloeddiadau, 'Cywilydd,' 'Yr ydych yniawn.') Yn yr etholiad cyffredinol diweddaf, danfonoddLloegr ac Ysgotland 40 o aelodau Ymneillduol i'r Ty, tray danfonodd yr Iwerddon 40 o Babyddion i gynnrychioliteimladau y bobl Wyddelig i'r Senedd; ond Cymru, er eigwarth oesol, ni ddanfonodd un Annghydffurfiwr i'r Seneddnewydd. Onid yw yn amser i ni ddeffroi, a symmud ymaithy gwarthnod sydd yn gorphwys ar Gymru fel gwlad Ymneillduaeth? (Cymmeradwyaeth.) Wel, yr wyf wedi dyfodi roddi cyfle i etholwyr Aberhonddu wneyd felly, wedi methueich darbwyllo i wahodd arall a gwell dyn. Yr wyf yn cynnyg fy hun fel y dirprwywr goreu allwn gael. (Cymmeradwyaeth a chwerthiniad.) Wedi i mi glywed am farwolaetheich diweddar barchus aelod, gwyliais eich amgylchiadaugyda phryder mawr, gan obeithio y byddai i ryw foneddwro ddylanwad lleol, a golygiadau haelfrydig a rhyddgarol,megys eich maer, ddyfod allan; ond cefais fy siomi yn hyn.Danfonodd dau foneddwr eu hanerchiadau allan, ond nidoedd un o honynt, feddyliaf, yn adlewyrchu golygiadau rhanfawr o etholwyr annybynol y fwrdeisdref hon. Gadewch ini am funyd edrych ar yr anerchiadau sydd wedi eu dwynallan ganddynt. Cymmerwn anerchiad Iarll Aberhonddu.Mae y paragraph cyntaf yn deilwng o deimlad caredig eiArglwyddiaeth tuag at y diweddar aelod; yr ail a'r trydyddydynt yn unig hen ymadroddion ystrydebol (stereotyped)sydd wedi eu defnyddio ganwaith mewn anerchiadau o'rblaen; ac y maent mor ddiystyr ag ydynt o gyffredin i bobdyn sydd yn darllen y papyrau. Sylwedd yr anerchiad yw,y bydd iddo roddi cymhorth diysgog ac annybynol i lywodraeth a theimlad Arglwydd Palmerston. Yr oedd gwladlywiaeth dramor llywodraeth Arglwydd Palmerston yn dda, am yr hyn yr oeddem yn ddyledus i Iarll Russell; ac amei yswirdeb argyllidol yr oeddem yn ddyledus i Mr. Gladstone. Gyda'r ddau eithriad hyn, yr oedd gwladlywiaeth Palmerston yn ddidrefn, gwastraffus, anwadal, ac anfoddhaol. (Clywch, clywch.) Yr oedd yn Rhyddfrydwr mewn enw, ond mewn gwirionedd, yn gwneyd archiadau y Toriaid. Ac etto, dyma yr oll mewn sylwedd a addawyd gan yr urddasol ymgeisydd yn ei anerchiad cyntaf.

"Yr oedd anerchiad Mr. Gwyn yr oll a allech ddysgwyloddiwrth Geidwadwr proffesedig a chysson. Yr ydym yncael yn aml ddarluniad o'r gwarchodion a'u pruning knife,fel pe bai y Ceidwadwyr erioed mewn cariad â'r gyllelldocio. (Cymmeradwyaeth.) Mae pob un sydd wedi darllen hanesyddiaeth yn gwybod fod Ceidwadaeth wedi bodyn bwysau marwol i bob cynnydd, diwygiad, a gwelliant.(Cymmeradwyaeth.) Yna, mae yr Ymneillduwyr cydwybodol' yn dod, fel pe na f'ai Mr. Gwyn erioed wedi cyfarfod ag Ymneillduwr cydwybodol. Beth! Yr oedd hyd ynod William Hopkins, y crydd, Ystradgynlais, yn dal fodganddo gydwybod, er fod yr ynadon yn rhyfeddu am y fathddrychfeddwl, ac yn cymmeryd lledr y dyn, a'i werthu i'rheddgeidwaid am hanner ei werth marchnadol, er talu ydreth eglwys. Nid oes un cweryl rhyngof a'r boneddigionhyn y mae ganddynt hawl i feddu eu golygiadau; ondrhoddaf y gofyniad hwn i chwi, A ydyw yr egwyddorion aosodir allan yn yr anerchiadau hyn yn arddangos golygiadau y mwyafrif o etholwyr Aberhonddu? Credaf nadydynt, a hyn oedd fy rheswm yn dyfod allan i'ch cynnorthwyo chwi, neu rai o honoch, i argymmeryd eich gwrthdystiad yn y cyfarfodydd, ac ar lyfr yr etholres, yn erbyny cyhoeddiadau (manifestoes) hyn. Daethum allan ergwneyd prawf—gosod wrth y test y galwadau uchel awnawd mewn rhai lleoedd a chynnulliadau o barthed yrangenrheidrwydd o ethol Cymro ac Annghydffurfiwr Cymreig i gynnrychioli o leiaf un o'r 32 o'r cynnrychiolaethau(constituencies) Cymreig, ac yr oeddwn am weled pa helpallasai dyn ymarferol gael i fyned i'r Senedd, heb ei orfodii ymgyduno â hanner cyfreithwyr y fwrdeisdref, a sicrhauhanner y tafarnwyr (uchel gymmeradwyaeth), ac a allaidyn gael ei ddychwelyd ar lai traul na phunnoedd bathawlyn cael eu cyfrif wrth y miloedd? Yr ateb wyf wediddysgu yw, fy mod ychydig o flaen yr amser. Ond, foneddigion, fe ddaw yr amser pryd y gwneir hyn, a gallesid meddwl fod Aberhonddu yn faes teg er gwneyd y fathbrawf (clywch, clywch), gan fod yma yn y fwrdeisdrefhon ddim llai nag wyth cynnulleidfa o Annghydffurfwyr,ac hefyd Goleg pwysig, lle y mae ein gweinidogion dyfodolyn cael eu dysgu yn yr egwyddorion dros y rhai y darfu eintadau Puritanaidd waedu a marw. (Cymmeradwyaeth.)Mae y cwestiwn o Ddiwygiad Seneddol yn sicr o gael sylwy deddfwyr yn yr eisteddiad nesaf, a dylech chwi fod ynbarod i edrych y gofyniad yn deg yn ei wyneb. Credaffod tri phwynt i ymwneyd â hwy cyn y gall y gofyniadhwn gael ei ystyried a'i benderfynu-yr etholfraint, dyogeliad y pleidleisiwr, ac ail-ddosparthiad eisteddleoeddSeneddol. Gadewch i ni edrych ar yr etholfraint fel y maeyn awr yn meddiant y corff etholiadol yn y wlad hon. MaeTy y Cyffredin presenol yn gyfansoddedig o 656 o aelodau,466 o honynt wedi eu dychwelyd i gynnrychioli siroedd abwrdeisdrefi yn Lloegr; 105 dros yr Iwerddon; 53 drosYsgotland; a 32 dros Gymru. Mae y rhai hyn yn cael euhethol yn ol darpariadau Ysgrif Ddiwygiadol 1832, ganryw nifer o bersonau sydd â chymhwysder rhoddedigganddynt i arfer yr hawl hon. Mewn siroedd dan rywdrefniadau, gall y rhydd-ddeiliad, nawdd-feddiannwr,prydleswr, a thir-ddeiliad, os bydd ei rent yn £50 yflwyddyn, bleidleisio dros gynnrychiolydd i'r Senedd; tramewn bwrdeisdrefi, mae gan ddaliedydd tai a thir gwerth£10 y flwyddyn hawl i fod yn nghofres y pleidleiswyr.Cafodd hyn ei benderfynu yn y flwyddyn 1832-34 mlynedd yn ol, ac nid oes un cyfnewidiad wedi cymmeryd lle erhyny, mor bell ag y mae a fyno â Lloegr, Ysgotland, aChymru; ond yn yr Iwerddon, mae yr etholfraint wedicael ei hiselhau gryn lawer. Trwy Act 1850, cafodd eidarostwng i £12 o ardreth-dâl yn y siroedd, ac i £8 yn ybwrdeisdrefi. Yn y flwyddyn 1864, cyfanrif y pleidleiswyrar holl lechresau y Deyrnas Gyfunol oedd 1,333,690.Byddai y nifer anferth hwn i roddi canolrif o 2,033 o bleidleiswyr i bob un o'r 656 aelodau, a chaniatau eu bodyn cael eu dosparthu yn gyfartal. Ond pan yn tynu allano'r llechres yr holl ddychweliadau deublyg, cymmeryd iystyriaeth yr holl farwolaethau, y symmudiadau, a'r annghymhwysderau ereill, byddem yn lleihau llawer iawn arlechres y pleidleiswyr gweithredol, ac yn eu cael yn rhifoi'r eithaf tua 1,100,000, allan o'r boblogaeth anferth orhwng 29 a 30 miliwn, fel nad oes genym yn y wlad hon ond un person allan o bob 29 o eneidiau â hawl ganddo ibleidleisio dros aelod i Dy y Cyffredin. Gadewch i nigeisio gwneyd hyn yn hollol eglur i bob un o honoch.Meddyliwch pe bai yn bossibl i ni gasglu at eu gilydd holldrigolion y Deyrnas Gyfunol, byddai iddynt gyda'u gilyddorchuddio arwynebedd o 1,567 o erwau o dir. Yn awr,byddai i 1,500 o erwau osod allan yn gywir y rhan hono obobl y wlad hon nad oes hawl ganddynt i bleidleisio, tra ybyddai y 67 erw fyddai ar ol yn dangos y rhan sydd â llaisganddynt yn bresenol yn etholiad aelodau i'r Senedd iwneyd ein cyfreithiau. (Cymmeradwyaeth.) A ydyw yniawn i feddwl am fynud fod hyn yn gynnrychioliad teg o'rbobl? Onid yw yn annghysson, annghyfiawn, a chreulawn? Yn ddiau, mae enwi y cyntaf yn ddigon i argyhoeddi yr ystyriol. (Uchel gymmeradwyaeth.) A ydywyn deg a chyfiawn i gyfyngu yr etholfraint i lai na 4 per cent. o boblogaeth y deyrnas hon? Etto, pe meddyliemfod un o'r 1,100,000, y rhai ydynt ar y rhestr, yn benauteuluoedd yr hyn nid ydynt mewn gwirionedd—ond tybiwn hyny am funyd; yna, gallwn osod i lawr y byddaiiddynt hwy gynnrychioli eu hunain, eu gwragedd, eu plant,a'u gweision teuluol, pan yn defnyddio yr hawl i bleidleisio;ond hyd y nod wed'yn, byddem yn gadael 5,000,000 odeuluoedd heb eu cynnrychioli o gwbl. Neu, dywedwch ybyddai i'r 1,100,000 etholwyr hyn i gynnrychioli 5,500,000o eneidiau mewn etholiad pennodedig, etto y mae genymy ffaith bwysig y byddai 25,500,000 wedi eu cau allan ynhollol oddiwrth ragorfreintiau yr etholfraint. Credaf, fonoddigion, fod chwareu teg, gonestrwydd cyffredinol, achyfiawnder noeth yn galw am helaethiad yr etholfraint.(Cymmeradwyaeth.) Heb fyned yn bresenol i ymresymudros nac yn erbyn platform Llundain am etholfraint i bobdyn mewn oedran, neu dros gyhoeddiad Manchester ametholfraint bleidleisiol eglur, neu dros y cynllun cynnygiedig gan ryw gyfeillion yn Birmingham neu Newcastle-upon-Tyne, mae yn amlwg fod yn rhaid i gryn helaethiadgymmeryd lle.Yr wyf yn ystyried na wna dim yn fyr o£10 rentdâl yn y siroedd, a £5 yn y bwrdeisdrefi, gyfarfodâ galwadau yr achos. (Cymmeradwyaeth.) O'm rhan fyhun, awn yn mhellach, a dywedwn y dylai pob dyn syddâ'i enw ar y treth-lyfrau, wedi byw 12 mis yn yr un districtetholiadol, ac yn gwbl rydd oddiwrth drosedd, gael pleidlais. Byddai hyn yn gyfiawn a gonest i'r gweithiwr sydd yn talu ei ran er cynnal anrhydedd ac urddas ei wlad.Ond mae y gofyniad yn dod, A ddylai y cyfoeth hwn a'ranwybodaeth hon fod yn sylfaen cynnrychioliad? Hyd ynod ar y cyfrif hwn, ni ddylai y dyn gweithgar gael ei gauallan oddiwrth y fraint o gael pleidlais.

Gyda golwg ar gyfoeth y wlad, cymmerwn Dŷ yr Arglwyddi. (Gosododd Mr. Bowden ofyniad i fewn yn y fanhon, yr hwn a foddwyd gan dwrf mawr y gynnulleidfa.)Efallai mai yn hwn y mae y corff mwyaf cyfoethog yn yrholl fyd. Mae un o awdurdod digonol, ar ol ymchwiliadmanwl, wedi gosod i lawr gyllid blynyddol Tŷ yr Arglwyddiyn £11,000,000; ond i fod yn gwbl sicr, gadewch i niddyblu y swm uchod, ac i osod swm anferthol Tŷ yr Arglwyddi yn £22,000,000; yna, cymmerwch ochr arall ygofyniad. Mae yr un awdurdod wedi gosod swm cyllidblynyddol dosparth gweithiol y wlad hon yn £250,000,000;ond i fod yn gwbl sicr ar y pen hwn etto, ni a'i tynwn ilawr i'r hanner, a'i ystyried yn £125,000,000; felly, maecyllid y dosparth gweithiol yn y man lleiaf yn ddeg cymmaint ag eiddo Tŷ yr Arglwyddi. (Uchel gymmeradwyaeth.) Felly, os mai eiddo neu gyfoeth sydd i fod yn sailetholfraint, y dosparth gweithiol, sydd yn dal mwyaf o eiddoddylai ei chael. Edrychwch ar y trethi a delirtrethi a delir gan wahanolddosparthiadau yn y wlad hon, a chawn weled mai y gweithiwr, o bawb dynion, sydd yn talu y trethi trymaf. Mae yntalu allan o bob punt a ennilla drwy chwys ei wyneb bumswllt yn drethi. Felly, mae yn cael ei drethu yn ol £25 ycant ar ei holl enillion; o ganlyniad, nid yw ond gwironestrwydd a chyfiawnder i roddi iddo lais yn ffurfiad ydeddfau hyny a wasgant gymmaint arno (cymmeradwyaeth). Os cymmerwn ddysgeidiaeth yn sail i gyfreithlonihyn, yr ydym yn dweyd fod gan y gweithiwr hawl ar y tirhwn hefyd. Mae cynnydd mawr wedi bod yn mhlith ydosparth gweithiol er pan basiwyd y Reform Bill yn 1832;ac os oedd sefyllfa addysg yr adeg hono yn cyfreithloni yLlywodraeth i helaethu yr etholfraint—yn MwrdeisdrefAberhonddu, er enghraifft, o 15 i 242: cyn y Reform Billyn 1832, rhif y pleidleiswyr oedd 15 yn unig; ond ar oliddo basio ychwanegwyd hwynt i 242—yr ydym yn sicrddigon fod sefyllfa pethau ar hyn o bryd yn gofyn am helaethiad ychwanegol arni. Yn awr, gadewch i ni gymmeryd cipolwg am fynyd ar rai pethau, fel prawf o ddealltwriaeth, doethineb, a sefydlogrwydd y dosparth gweithiol yn y Deyrnas Gyfunol. Yn y flwyddyn 1831—blwyddyn cynpasiad y Reform Bill—yr oedd 1,276,747 o blant yn y gwahanol ysgolion, sef trwy ystyried un ysgolor am bob 11 o'rholl boblogaeth. Yn 1861, pryd y gwnawd y cyfrif ddiweddaf, yr ydym yn cael fod 2,750,000 o blant dan addysgiaeth, ag ystyried un am bob saith o'r boblogaeth. Maehyn yn gynnydd ardderchog mewn 30 o flynyddau, ac y mae yrhif o hyd ar ei gynnydd. Yn 1831, yr ydym yncael yn yr holl wlad 55 o sefydliadau celfyddydol (Mechanics' Institutes), yn cynnwys ynddynt oll 7,000 o aelodau;ond yn 1861, yr ydym yn cael dim llai na 800 o'r sefydliadau hyn, yn cynnwys tua 140,000 o aelodau. Yn 1831, yroedd yn y wlad 429,503 o bersonau ag arian yn y Savings'Bank, symiau y rhai yn nghyd oeddynt yn £13,000,000;ond yn 1861, yr ydym yn cael dim llai na 1,500,000 yn eiddefnyddio, a chanddynt, er anrhydedd iddynt, y swmmawr o £40,000,000 yn y sefydliadau hyn (clywch, clywch).Edrychwch etto ar y cymdeithasau dyngarol, aelodau parai a rifir wrth y cannoedd o filoedd, a'u heiddo yn werthrhwng 12 a 15 miliwn o bunnau. Mae genym yn bresenolun o bob pedwar o rai mewn oed yn aelodau yn y sefydliadau hyn yn ein gwlad, pan y cewch ar Gyfandir Ewropddim ond un allan o bob 70 yn aelod yn unrhyw sefydliaddyngarol o gwbl. Mae genym yn ein cymdeithasau adeiladu 100,000 o aelodau, a swm eu tanysgrifiadau yn £1,790,000 yn flynyddol (cymmeradwyaeth). Cymerwch unffaith arall. Yn 1831, yr oedd yn y wlad hon 295 o bapyrau newyddion; ond yn awr, mae genym 1,270, ac y maeeu rhif yn cynnyddu o hyd, tra y mae y cynnydd wedi bodyn fawr yn y rhai chwarterol, misol, ac wythnosol. Yr wyfyn nodi y pethau hyn er dangos fod gan bobl weithgar eingwlad hawl deilwng i'r etholfraint (clywch, a chymmeradwyaeth).

"Yna bydd ail ddosparthiad eisteddleoedd seneddol ynffurfio rhan bwysig yn unrhyw reform bill er boddlonrwyddi'r wlad, trwy fod cymmaint o gyfnewidiadau wedi cymmeryd lle er y flwyddyn 1831. Wrth gymmeryd y gofrestretholiadol am 1864, a rhanu y pleidleiswyr yn gyfartalrhwng y 656 aelodau sydd yn Nhy y Cyffredin, gwelwn ybydd y canolrif yn gosod 2,033 o bleidleiswyr ar gyfer pobun o'r 656 aelodau. Byddai y canolrif sydd ar gyfer 466sydd yn Lloegr yn cynnwys 2,073 pleidleisiwr i bob aelod;i'r 105 sydd yn yr Iwerddon byddai 1,958 ar gyfer pob un o'r aelodau; ar gyfer pob un o'r 53 sydd yn Ysgotlandbyddai 1,919; a'r 32 a aelodau sydd dros Gymru, byddai1,860 o bleidleiswyr ar eu cyfer. Ond y mae yr annghyfartalwch rhyngddynt yn bresenol y tu hwnt i bob crediniaeth. Gwnawn egluro hyn gydag un ar ddeg o fwrdeisdrefi mawrion, ag sydd yn dychwelyd rhyngddynt 24 oaelodau i'r Ty, a deuddeg o fwrdeisdrefi bychain sydd yn dychwelyd 24 o aelodau i'r Senedd. Yn mlaenaf, ni gymmerwn Bristol, Finsbury, Lambeth, Liverpool, Manchester,Dinas Llundain, Marylebone, Tower Hamlets, Westminster, Glasgow, a Dublin. Y rhai hyn yn nghyd a gynnwysant 3,758,668 o eneidiau. Rhif y pleidleiswyr ar y cofrestrydyw 212,329; gwerth blynyddol y berchenogaeth yw£29,164,664; maent yn talu o ardreth y swm o £3,433,635;ac yn dychwelyd 24 o aelodau i'r Senedd. Wrth gymmeryd y deuddeg bwrdeisdref canlynol, sef Andover, Buckingham, Chippenham, Thetford, co*ckermouth, Harwick, Devizes, Honiton, Leamington, Great Marlow, Marlborough,a Richmond, ni a gawn fod eu poblogaeth yn 68,106, etholwyr yn 3,858, a gwerth blynyddol eu perchenogaeth yn£314,202, yr ardreth yn £22,679; ac etto, y maent yn anfon24 o aelodau i'r Senedd. Dangosa hyn o hono ei hun yrannghyfartalwch a'r anghyssondeb mawr o eiddo ein cynnrychiolaeth. Os cymmerwn fwrdeisdref fechan Portarlington dan sylw, gyda ei 106 etholwyr, yr ydym yn caelfod un etholwr yn Portarlington yn gyfartal i 48 yn Salford,yn gyfartal i 151 yn Swydd Cork, ac yn gyfartal i 290 oetholwyr yn Tower Hamlets. Mae yr afresymoldeb yn unrheidiol o fod yn amlwg i bawb. Edrychwch ar Bristaua Thetfordy blaenaf yn werth 13,829 o etholwyr, a'r olafddim ond 223; etto anfonant yr un nifer o aelodau, sef dau,i'r Senedd; ac yn ol fel y mae pethau yn aros yn awr, ymae Thetford, gyda ei 223, yn gyfartal i Bristau, gyda ei13,829, mewn aelodau Seneddol. Pe cawsai bwrdeisdrefiThetford, Marlborough, Andover, Honiton, Knaresborough,Calne, Arundel, Tewkesbury, a Leominster, eu gwneuthuryn un fwrdeisdref, byddai rhif eu pleidleiswyr yn llawn2,001, yr hyn a roddai hawl iddynt ddychwelyd un aelodrhyngddynt; ac ar sail rhif, cyfoeth, a gwybodaeth, dylaiBristau gael anfon wyth aelod i'r Ty (clywch, clywch, achymmeradwyaeth). Trwy archwiliad manwl yn y cofrestr, canfyddir fod un hanner o'r aelodau presenol yn caeleu hanfon i fewn wrth lai nâ 14 y cant, pan y mae yr hanner arall yn cael eu dychwelyd yn ol 86 y cant. Felly, ynNhy y Cyffredin, ar unrhyw raniad, y mae yr aelodau ynol 14 y cant yr un mor bwysig, ac o'r un dylanwad, a'r rhaiyn ol 86 y cant. Yr ydym felly yn meddwl y dylai ailffurfiad gael ei ddwyn oddiamgylch (clywch, (clywch).Carem ni weled Crughywel, Gelli, Glasbury, a Llanfairynmuallt, yn gystal a Threfcastell, wedi eu hychwaneguat Aberhonddu (cymmeradwyaeth uchel), fel ag i ffurfio unfwrdeisdref (cynimeradwyaeth barhaol). A chredwch fi,foneddigion, byddai yn ddoethineb mawr ynoch i ddwynhyn oddiamgylch yn ddioed, onide chwi gewch weled rhywforeu teg y caiff Aberhonddu ei hysgubo oddiar y cofrestryn gyfangwbl (clywch, clywch).

"Y pwynt nesaf yn unrhyw reform bill ddylai fod dyogelwch y pleidleisiwr wrth bleidleisio. Rhoddi cyfle i'rgweithiwr i bleidleisio heb y dyogelwch priodol ar ei gyferwrth ymwneyd â hyn, fyddai ddim amgen na thwyll, neusiom a magl. (Clywch, clywch.) Credaf fod y Tugel ynffordd a gynnwys y dyogelwch priodol (bravo, a chymmeradwyaeth); ac felly, byddwn yn llawen i weled y tugel ynrhan o gyfraith y tir. (Cymmeradwyaeth adnewyddol).

Carwn yn annghyffredin, pe buasai amser yn caniatau(Ewch yn mlaen am wythnos, os mynwch '), i gyfeirioeich sylw at faterion eglwysig. Yn fy anerchiad i chwi felpleidleiswyr, ar y 19eg o'r mis diweddaf, nodais fy ngolygiadau yn agored a gonest ar y cyssylltiad, neu yr annghyssylltiad, yn hytrach, a ddylai fodoli rhwng crefydd a'rWladwriaeth. (Clywch, clywch). Rheda y nodiad felhyn:— Mewn materion eglwysig, yr wyf yn Annghydffurfwr. Credaf nad yw crefydd Crist wedi cael ei bwriadu gan ei Sylfaenydd dwyfol i fod yn fath o beiriant neuofferyn i'r Wladwriaeth, ac y byddai yn llesiant mawr iwir grefydd gael ei rhyddhau oddiwrth bob nawdd arheolaeth wladwriaethol. Felly, tra yn sefyll yn gadarn drosiawnderau, ac yn caru llesiant pawb dynion, a meithrin yteimladau mwyaf o barch a chariad tuag at yr EglwysEsgobaidd, fel un o gymdeithasau Cristionogol ein gwlad,mi a gefnogwn yn llawen fesur er perffaith ddadgyssylltiadyr Eglwys oddiwrth y wladwriaeth, gan gredu yn gadarny profai hyny yn weithred o fendith i'r Eglwys ei hunan,yn gystal a mesur syml o gyfiawnder tuag at gynnulleidfaoedd crefyddol ereill ag sydd o fewn i'r deyrnas hon.'(Cymmeradwyaeth). Nid wyf wrthyf fy hun ar y pen hwn. Mae rhai o'r dynion goreu yn yr Eglwys Sefydledigo'r un fath opiniwn. Er profi hyn, ni wnaf ond cyfeirioeich sylw at bregeth alluog a bregethwyd yn ddiweddar oflaen Prifysgol Cambridge, gan y Parch. John Ingle, oTrinity College, lle y noda:—'Nid yw yr amser yn mhell,pryd yr amddifadir yr Eglwys o bob rhyw oruchafiaeth(predomination), yn gymdeithasol neu wleidyddol, a feddiennir ganddi yn bresenol, ac y bydd i'r gwahanol sectaua'i hamgylchyna i gael eu gosod, gyda golwg ar yr hollfreintiau a'r iawnderau cyhoeddus, ar yr un tir o gydraddoldeb a hithau.' (Cymmeradwyaeth). Cofiwch nad fyngeiriau I ydoedd y rhai hyna, ond geiriau a draddodwyd oflaen Prifysgol Cambridge ychydig ddyddiau yn ol. (Cymmeradwyaeth.) Gallaswn eich arwain hefyd at achos Colenso, a'r effaith uniongyrchol ar weithrediadau pum' esgobNew Zealand, y rhai ddychwelasant, mewn modd parchus,eu breint—lythyrau fel esgobion i'r Goron, gan ddymuno ohyny allan, yn hytrach, i fyw yn gydradd â'r sectau crefyddol ereill yn y lle hwnw. (Clywch, clywch). Cyfeiriafchwi at nodiad arall yn fy anerchiad a gyhoeddwyd mewncyssylltiad â nawdd yr Eglwys, sef:— Gwnawn fy ngoreudros gael pwyllgor ymchwiliadol, er chwilio i mewn i waithyr Eglwys Sefydledig a'r Ysgolion Gwaddoledig, er caelallan gyfanswm y ddarpariaeth a wnawd, ac a wneir argyfer angenrheidiau ysprydol y bobl, ac addysg plant tlodion, yn nghyd â'r effaith o osod mewn swyddau uchel rainad ydynt yn deall iaith y bobl; y drwg mawr o fyned achyfraniadau y Llywodraeth at eglwysi tlodion Cymru ermwyn gwaddoli eglwysi cyfoethog mewn manau ereill; apha un a yw y Sefydliad yn Nghymru wedi ateb dyben eifodolaeth, ac a ydyw wedi dwyn ffrwyth cyfartal i'r symiaumawrion a gymmerir ganddo o drethi y wlad. Credaf nadoes un wlad ag y mae Eglwys Sefydledig ynddi a`i nawddyn cael ei gam—arfer yn fwy nag yn Nghymru y tri chan'mlynedd diweddaf. (Clywch, clywch). Cyfyngaf fy hunyn gwbl i ffeithiau— ffeithiau ag sydd yn gwbl awdurdodedig. Yn Johnes Essay on the causes of Dissent inWales,' yr ydym yn cael y gosodiad canlynol:— Pan ymgymmerodd Harri VIII. a'r gwaith o reoli y Sefydliad,cwympodd y mynachdai yn Nghymru, yn gystal ag ynLloegr, yn nghyd a thai crefyddol ereill; ond nid dyma yrunig ddystryw. Dihatrwyd Swydd Feirionydd o'r degwmyn gyfartal i un hanner o swm holl elw yr offeiriaid a drigai ynddi, a hyny er adeiladu esgobaeth newydd Litchfield. Sir Gaernarfon a drethwyd yr un fath er mwynCaerlleon Gawr, tra esgobaethau newyddion ereill agyfoethogwyd ar draul Deheudir Cymru. Yn y Gogledd,gosodwyd degymau amryw o'r plwyfi cyfoethocaf er cynnalcolegau Seisnigaidd; yn y Deheudir, gosodwyd degymauy rhan amlaf i'r lleygwyr. Mae yn Swydd Forganwg ynunig ddim llai na deg plwyf yn rhodd Deon a ChapterGloucester.' Rhaid i ni gofio hefyd y ffaith mai y personau pennodedig i'r esgobaethau Cymreig ydynt Saeson(cywilydd), a'r esgobion Saxonaidd hyn nid ydynt byth ynannghofio eu cyssylltiadau teuluaidd pan yn gwneuthurpennodiadau i'r bywoliaethau goreu yn y Dywysogaeth.Yna y mae yn canlyn fod swm mawreddog o'r nawdd gwladwriaethol y tri chan' mlynedd diweddaf wedi cael ei roddii'r Saeson, ac felly yn amddifadu trigolion Cymru o'u tega'u teilwng ran o gyfoeth yr Eglwys yn eu gwlad euhunain. (Llais: 'Yr wyf yn rhyfeddu nad ydynt yn arosgartref'). Pan y gallant gael digon o hufen yn Nghymru,ni wnant yfed llaeth dihufen gartref. (Bloedd o chwerthin,a tharan o guriadau)."

Yna aeth y Dr. yn mlaen i ddangos pa fodd yr oedd ynawdd (patronage) hwn yn cael ei ranu rhwng Esgobion St.Asaph, Bangor, St. David's, Llandaf, Deoniaid a Chaptersy tair esgobaeth, Archddiaconiaid Aberhonddu a Llandaf,Provost a Fellows Coleg Eton, Coleg yr Iesu (Rhydychain), Coleg Crist, Esgobion Lincoln, Chester, Lichfield,Gloucester, a Brystau, yn nghyd a Deoniaid a ChaptersGloucester a Brystau. Heblaw y swyddau cadeiriol, yroedd 400 o fywoliaethau at eu llaw, 330 o'r rhai oedd ynrhodd pedair o esgobaethau Cymreig. Yna dywedodd:—"A wna rhyw gyfreithiwr Philadelphaidd yn yr ystafellhon ddywedyd wrthyf pa sawl Cymro sydd yn mhlith yllu a enwyd? (Mr. Bowden: 'You aint going into noneof 'em, are you?' Llefau: 'Trowch ef allan '). Nid ywein hysgolion gwaddoledig mewn gwell sefyllfa (yr wyf yncyfeirio yn awr at ryw ddwy neu dair blynedd yn ol).Tystiai Syr Thomas Phillips, ryw gymmaint o amser ynol, fod Coleg Crist yn Aberhonddu, 'o'i sefydliad i lawrhyd at ein hamser ni, wedi bod yn warthrudd i'r Eglwys,yn gystal a'r Wladwriaeth.' Yr un fath y gellir dweydam ysgolion Bangor a Llanrwst; i'r cyntaf or cyfryw ymae swm blynyddol o £500, ac i'r olaf y y swm bob blwyddyn yn cael ei roddi o £600, y rhai, ar y dechreu, asefydlwyd er lles plant dynion tlawd;' ond cafodd planty dynion tlawd eu hyspeilio o'u hiawnderau, ac y mae yreiddo tuag atynt wedi myned i gyfoethogi sefydliadau Eglwysaidd nad ydynt yn meddu un cydymdeimlad tuag atGymru na'i dynion tlawd. Felly, yr wyf yn credu fodeisieu, ac y dylai pennodiad Seneddol gael ei wneuthur, eredrych i mewn i'r camdriniaethau hyn—ymchwiliad manwla didwyll, a brofai yn fendith i'r Eglwys, ac a fyddai ynweithred o gyfiawnder tuag at offeiriaid gweithgar Cymru.

"Ond etto, gan gyfeirio at y Reform Bill, credaf mai daubrif beth y Bill nesaf fydd helaethu sail y gynnrychiolaeth,ac ail drefniad eisteddleoedd Seneddol. Y rhai hyn, wrthbob tebyg, fydd prif gynnwysiad y Bill; ac yr wyf yn falchi glywed fod y Llywodraeth yn barod i sefyll neu syrthioyn ol y Bill.

"Caniatewch i mi, wrth derfynu, eich rhybuddio iwylied pob symmudiad o eiddo y rhai sydd yn promoto yBill newydd. Byddwch yn effro, onite, ar ryw foreu braf,chwi ellwch ddeffro, a chael allan fod bwrdeisdref Aberhonddu wedi ei hamddifadu o'i braint bresenol o anfonaelod i'r Senedd. Rhaid i un o dri pheth, yn fy nhyb I,ddyfod i ben. Rhaid i drefydd Crughywel, Llanfair-yn-muallt, Glasbury, a Threcastell, gael eu huno, a'u hychwanegu at Aberhonddu, neu bydd tref Aberhonddu yn sicro gael ei huno â'r wlad, ac yna chwi gewch anfon un aelod,yn lle dau, fel yn awr; neu, y mae yn bossibl i Aberhonddu gael ei gadael allan o'r gyfres, er rhoddi lle i'r trefyddmawrion a chynnyddol (yr un fath a Staleybridge), yn ngwahanol ranau o'r deyrnas. Byddwch yn mhob achos ar eichgwyliadwriaeth, a gofalwch am lesiant eich tref; chwiliwchyn fanwl bob rhan (draft) o'r Reform Bill; anfonwchddeiseb er uno y trefydd a enwyd, a gofalwch gael y dyngoreu er eich cynnrychioli yn Nhy y Cyffredin."

PENNOD XXII.

ENGHREIFFTIAU O'I BREGETHAU.

Y Tabernacl—Y Corn Bychan—Geiriau Crist—Joseph—Angladd Jacob.

RHODDWN yma tua hanner dwsin o frasluniau o bregethau y Dr. fel yr ysgrifenwyd hwynt ganddo.

Gwyr pawb a'i hadwaenent yn dda am ei allu neillduol ilanw fyny ei amlinellau, ac am ei fedr digyffelyb i droi pobpeth at ei wasanaeth ar y pryd. Cyfrifai hyny, yn ddiau,i raddau helaeth am ei boblogrwydd fel pregethwr. Nidydym yn rhoddi y pregethau hyn yma am y credwn eu bodyn rhagori dim ar gannoedd o bregethau oedd gan y Dr.,ond am y meddyliwn eu bod yn rhoddi syniad mor deg i'rdarllenydd pa mor lleied oedd y parotoad angenrheidiolarno i bregethu braidd ar unrhyw fater. Gallasem roddirhai pregethau o'i eiddo yn gyflawnach, ond ni fuasentmor nodweddiadol o hono.

Y TABERNACL.

Exodus xxxvi. 2—7.

Ein hamcan yw galw sylw at y Tabernacl, a gododd ybobl i'r Arglwydd yn yr anialwch.

Mae yn angenrheidiol i ni gadw mewn cof fod tri tha.bernacl wedi eu codi, ac y mae y Beibl yn son am y trigwahanol hyn; ac mae o bwys i ni wylied am ba un o'rtri y byddys yn siarad.

1. Y Tabernacl a godwyd gan Moses wrth odreu Mynydd Sinai(Ex. xxxiii. 7—11). Gelwir hwn yn "Babell y Cyfarfod."Yr oedd yn dy lle yr oedd Moses yn cyflawnu ei waithswyddogol fel prif weinidog yr Eglwys fawr. Yma y byddaiDuw yn cyfarfod Moses, ac yma y byddai Moses yn cyfarfod y bobl.

2. Y Tabernacl a godwyd gan y bobl i'r Arglwydd yn yr anialwch.—Daw hwn dan ein sylw heddyw.

3. Tabernacl Dafydd.—Darparodd Dafydd dabernacl i'rarch pan symmudwyd hi o dy Obededom i Ddinas Dafydd (2 Samuel vi. 17). Mae yn ffaith bwysig i ni ei chofio nafu yr arch ddim yn ol yn y Tabernacl wedi iddi gael eichymmeryd allan gan feibion Eli, a'i dygiad hi gan y Philistiaid i dŷ Dagon. Yr oedd y Tabernacl yn aros yn Uchelfa Gibeon; a phan gymmerwyd yr arch i Jerusalem, trefnodd Dafydd fod nifer o offeiriaid i gyflawnu gwasanaethcrefyddol yn y lle neu y babell newydd; ac fe bennodwydnifer arall o offeiriaid i gadw y gwasanaeth yn y blaen yn yrhen Dabernacl yn Gibeon (gweler a darllener i Chron. xvi.37—40; hefyd, 2 Chron. i. 3—6).

Yr un a godwyd yn yr anialwch sydd i gael ein sylwheddyw. Mae yma dri neu bedwar o bethau rhagarweiniol:

1. Ty i Dduw oedd hwn (Ex. xxv. 8).—Mae yr Arglwyddmewn modd arbenig am gael tý iddo ei Hun: "Gwnant imi gyssegr.

2. Yr oedd hyn yn cyfateb i amgylchiadau y bobl.—Byw mewnpebyll yr oeddynt hwy, ac mae Duw yn dyfod i'w plith, acyn myned i fyw mewn pabell. Pan ddaeth Israel yn sefydlog yn Nghanaan a byw mewn tai, cafodd Duw ei dŷ hefyd—ei Deml sefydlog.

3. Yr oedd i fod yn deilwng o'r Jehofa Mawr.—Ty i'r Arglwydd oedd. Dyma yr unig ffordd y gallwn gyfrif am achyfiawnhau y draul fawr yr awd iddo wrth godi y Tabernacl. Duw a dynodd y cynllun, yr hwn a roddwyd i Mosesar y Mynydd (pen. xxv). Duw, hefyd, a roddodd ddoethineb i Bezaleel a Ahaliab. Maentioli y Tabernacl a benderfynwyd gan Dduw. Yn annybynol ar y cyntedd allanolagored, nid oedd y Tabernacl ond bychan. Mae yr enwogJahu yn ei roddi yn 45 troedfedd wrth 15, neu 675 o droedfeddi ysgwar. Bydd hyn yn llai o 1,005 troedfedd ysgwarnag yw Hall Calfaria, yr hon sydd yn 84 wrth 20 heb ygallery, ac 1,439 llai na'r Ynyslwyd. Yr oedd y bobl i gaely fraint o roddi yr holl ddefnyddiau; ac at y rhoddion hyny bwriadwn alw eich sylw.

I. YR OEDD Y RHODDION YN AMRYWIOL IAWN.

Mae yr Arglwydd yn fanwl iawn yn nodi yr hyn fydd yneisieu, ac yn gadael ar y mechanics a'r artisans i nodi allanswm o bob peth oedd yn ofynol i gario allan gynllun Duw.Dyma y gyfres (Ex. xxv. 1—8):—Aur, arian, pres, sidanglas, sidan porphor, sidan ysgarlad, llian main, blew geifr,crwyn hyrddod, crwyn daearfoch, coed sittim, olew, llysiau,maen onix, sardius, thophas, smaragdus, carbuncl, saphir, adamant, lygur, aceat, amethyst, beryl, a jaspis. Dymagyfres o 26 o nwyddau (gweler Ex. xxv. 1—7; a pen. xxiii.17–19).

II. RHODDION COSTFAWR IAWN.

Dyma yr adeilad, yn ol ei faintioli, mwyaf costfawr arwyneb y ddaear. Cofier mai bach oedd, ond yr oedd ydraul yn fawr iawn; ond daeth rhoddion y bobl i fyny â'rangen. Fel enghraifft, cymmerwn un darn o'r dodrefn, sefy canwyllbren aur. Yn ol Deon Prideaux, yr oedd hwn,heb y gwaith, yn werth £7,013. Mae yr holl ddefnyddiauyn sefyll fel hyn:—Aur yn 4245 pwys, yn werth £198,34712s. 6ch.; arian, yn 16,602 pwys, yn werth £45,266 5s.;pres yn 10,277 pwys, yn werth £513 17s.; defnyddiauereill, £80,000; cyfanswm, 324,112 14s. 6ch. Ty i Dduwoedd hwn.

III. YR OEDD Y RHODDION YN GYFFREDINOL IAWN.

Yr oedd pob dosparth yn y gwersyll yn rhoddi, fel ydengys Ex. xXXV. 20—29. Dyma ddysgwyliad mewnolhynod o galonog. Darllen.

IV. MAE Y CWBL YN WIRFODDOL.

Darllen pen. xxxv. 5, 21, a 29. Calon ewyllysgar.

V. RHODDION PRYDLON.

Y cwbl yn mlaen llaw.

VI. YN FWY NA DIGON.

Danfonwyd allan orchymyn i atal rhoddion y bobl.

APPEL.—A gawn ni efelychu y bobl hyn:—1. Yn nghyffredinolrwydd y cyfranu.

2. Yn y parodrwydd i weithio.

3. Yn eu haelionusrwydd i Dduw.

Amen.

Y CORN BYCHAN.

Daniel vii. 24– 27.

Mae y bennod hon yn cynnwys un o'r proffwydoliaethaumwyaf pwysig ag sydd i'w chael yn yr Hen Destament.Ni a gawn yma hanes cyfodiad a dinystr y pedair breniniaeth fawr ag oedd wedi bod, ac yn bod, ac i fod yn ben aryr holl fyd adnabyddus o ddyddiau Nimrod hyd gwympPabyddiaeth, tra y mae yma ddarluniad bywiog o deyrnasiad y saint ar y ddaear yn y dyddiau diweddaf.

Mae y proffwyd yn gweled pedwar o anifeiliaid yn codii fyny o'r môr. Mae y cyntaf ar lun llew, yr ail yn debygi arth, y trydydd yn ymdebygoli i lewpart, trayr oedd y pedwerydd yn gyfryw nad oedd y proffwyd yn gallu rhoddienw arno; yr oedd mor wahanol i bob bwystfil ag yr oeddef wedi ei weled o'r blaen. Mae yn amlwg fod yma ddarluniad yn 1. O Ynherodraeth Babilon. 2. Ymherodraeth Media-Persia. 3. Ymherodraeth Macedonia. 4. Ymherodraeth fawr Rhufain. Mae y deg corn ar ben y bwystfilag oedd yn cynnrychioli Rhufain, yn dangos y deg breniniaeth i ba rai y rhanwyd yr ymherodraeth fawr hon.Mor bell ag y deallaf, y rhai hyn ydynt,—1. Senedd aphobl Rhufain. 2. Y Groegiaid yn Ravena. 3. Y Lombardiaid. 4. Yr Hungariaid. 5. Yr Almaeniaid. 6. Y Ffrancod. 7. Y Byrganiaid. 8. Y Saraseniaid, yn Yspaen. 9. Y Gothiaid yn y rhan arall o Yspaen. 10. Y Saxoniaid yn Lloegr. Yr oedd yr ymraniad hwn wedicymmeryd lle cyn diwedd y bummed ganrif o'r cyfnod Cristionogol.

Tra yn sylwi ar, ac yn rhyfeddu gweled y fath nifer ogyrn yn cyfodi ar ben yr un bwystfil, gwelodd y proffwydgorn arall yn cyfodi—un bychan oedd hwn. Cyfodai ar oly deg ereill, ac yn mysg y deg oedd o'i flaen. Mae hwnyn gwahaniaethu llawer oddiwrth y rhai ereill; ac er eifychandra dechreuol, mae yn darostwng tri o'r cyrn ereill,ac yn myned a'u teyrnasoedd. Mae hwn yn gwneyd rhyfelyn erbyn saint Duw ar y ddaear; ond, y mae ei dymhoryn bennodedig—mae ei gwymp yn cael ei sicrhau, acEglwys y Duw byw yn dyfod i feddiant llywodraeth gyffredinol ar y ddaear.

Cymmerwn ddau beth dan ein sylw.

I. Y DARLUNIAD A RODDIR YMA O'R CORN BYCHAN.

II. Y FENDITH FAWR A DDAW I RAN EGLWYS DDUW ARDDINYSTR Y CORN BYCHAN.

I. Y DARLUNIAD A RODDIR YMA O'R CORN BYCHAN.

Mae yn ymddangos yn dra eglur i mi mai yr un gwrthddrych sydd mewn golwg gan Daniel yma ag sydd gan Paul yn 2 Thes. ii. 3—10, dan yr enwau, y Dyn Pechod,"a'r "anwir hwnw"; ac mai yr un gwrthddrych a elwirgan Ioan yn "annghrist." Mae y gwrthddrychau hyn yncynnrychioli ac yn dadblygu cyfundraeth o grefydd gau asefydlwyd yn y byd, ac sydd yn awr yn cael ei phleidiogan Babyddion y ddaear. Nid yw y desgrifiad yn gyfyngedig i berson, brenin, na Phab; ond y mae yn darlunio ygyfundraeth Babyddol, fel y mae wedi ei hegluro yn mhersonau a gweithrediadau y Pabau o ddyddiau y Pab Gregory I. hyd yn awr. Sylwn:—

1. Cyfodiad y Corn Bychan.—Mae dau beth yn cael eullefaru am ei gyfodiad.

(1) Yr oedd wedi codi yn mhlith y deg corn ereill. Ynamae yn rhaid edrych am gyfodiad y gyfundraeth Babyddolyn mhlith y teyrnasoedd i'r rhai y rhanwyd YmherodraethRhufain. Mae y rhan hon o'r broffwydoliaeth wedi eiwirioneddoli i'r llythyren, gan y gwyddis i'r Babaeth ddyfod i'r amlwg fel corn yn Rhufain ei hun, canolbwynt y deg brenhiniaeth dan sylw.

(2) Yr oedd i godi ar ol y deg corn ereill. Yma y maeyn iawn i nodi fod y corn yn golygu gallu gwladol y Pabau,ac nid eu hegwyddorion, yn eu hagwedd ysprydol. Yroedd yspryd y Babaeth yn fyw er yn foreu iawn; ond felgallu gwleidyddol, ni ddaeth i'r amlwg nes i'r deg cornereill wneyd eu hymddangosiad. Yr oeddYr oedd y deg corncyntaf wedi eu sefydlu ar y bwystfil Rhufeinig cyn diweddy bymthegfed ganrif; felly, o leiaf, gan' mlynedd cyn cyfodiad y corn bychan. Yna gwir yw iddo gyfodi yn eu plith, ac ar eu hol.

2. Nodweddau y Corn Bychan. Mae yma dri o bethau ynnodweddu y corn bychan.

(1) Yr oedd yn anırywio oddiwrth y deg ereill. Yr oeddgan y deg ereill awdurdod dymhorol yn unig; ond maegan y corn bychan awdurdod dymhorol ac ysprydol—argyrff ac eneidiau—ar feddiannau a chydwybodau yn ybyd hwn, ac yn y purdan draw. Heblaw hyn, efe ywbrenin y deg brenin ereill yn yr holl faterion eglyswig acysprydol. Fel hyn y mae yn amrywio.

(2) Yr oedd iddo lygaid fel llygaid dyn. Mae hyn yndangos treiddgarwch, rhagwelediad, ac yn aml, gyfrwystra y Pabau; trwy hyn y maent wedi gorfaelu y fath ddylan-wad ag y maent wedi ei gael yn y byd.

(3) Yr olwg arno yn arwach na'r deg corn ereill. Maey gwreiddiol yn golygu ei fod yn edrych yn “fwy cryf,”yn fwy nerthol, ac yn fwy ei impudence na'r lleill o'rcyrn. Mae hyn yn syn, ac yntau ond bychan. Ond maehyn etto wedi ei lwyr gyflawni gan y Pabau yn eu hysprydbalch, hunanol, a thraws-arglwyddiaethol. Mae y Pabyn honi goruchafiaeth ar ei frodyr crefyddol—ar holl blantDuw, ac ar benau coronog y ddaear. Dysgwylia i bawbblygu iddo ef.

3. Gwaith y Corn Bychan.

(1) Darostwng tri o'r cyrn ereill. Yn y flwyddyn 715mae Gregory II. yn diarddelu yr Ymherawdwr Leo Isaurieus, ac yn cymmeryd meddiant o'r awdurdod dymhorol.Yn y flwyddyn 741, mae Zachary yn diarddelu Chideric,ac yn cymmeryd meddiant o Ravena, ac yn dyfod ynfrenin ar y wlad. Yn y flwyddyn 754, mae Stephen III.,yn y gynghorfa yn Caercystenyn, yn cael ei gyhoeddi ynfrenin. Dyma yn awr dri o'r cyrn, neu dri o'r deg brenin,wedi eu darostwng o flaen a chan y corn bychan, sefRavena, Lombardy, a Senedd a Llywodraeth Rhufain.Golygfa ryfedd i Daniel oedd gweled un corn bychan yndiwreiddio tri chorn mwy; ond etto, mae hyn wedi ei gyflawni i'r llythyren.

(2) Traethu geiriau mawrion yn erbyn (neu fel) y Goruchaf. Mae fel y Goruchaf yn fwy cydnaws â'r gwreiddiol, ac yn ateb yn well i'r hyn a ddywed Paul yn 2 Thes. ii. 4.Mae y Pabau, o ddyddiau Gregory hyd yn awr, yn honihawl i faddeu pechodau; agor a chau dorau y nefoedd;rhwymo dynion i ufuddhau iddynt hwy yn hytrach nag iDduw; cyhoeddi eu hanathema yn erbyn teyrnasoeddcyfain; ysgymuno tywysogion, a chollfarnu breninoedd yddaear. Hona'r Pab oruchafiaeth ar bawb o'i gyd-ddynion;gwisga deitlau anaddas i'r un bôd meidrol, megys ei"Sancteiddrwydd," "Anffaeledig," "Ficer Duw," "Ar-glwydd Dduw y Pab," &c. Fel hyn, hona weithredoeddDuw, eistedda yn nheml Duw, a dengys mai Duw ydyw.

(3) Gwrthryfela yn erbyn saint Duw. Dyma etto ydywyspryd Pabyddiaeth yn mhob oes o'r byd. Mae hyn wedicael ei wneyd drwy gyfreithiau gormesol, anathemau, y cleddyf, yr ystanc, y tân a'r ffa*godau, y chwil-lysoedddamniol—mewn gair, trwy ladd a difa yn nihob modd bawbna fuasent yn plygu y lin i'r gyfundrefn Babyddol. Pwya all feddwl heb deimlo y gwaed yn berwi am y Waldensiaid a'r Albigensiaid yn Piedmont, yr hen Gymry yn ydyddiau gynt, a'r afonydd o waed a dywalltwyd gan yPabau er attegu y gyfundrefn a rag-ddangoswyd gan ycorn bychan. Yspryd y grefydd Babaidd yw lladd a difasaint y Goruchaf; dyna oedd, dyna yw, a dyna fydd.

(4) Cyfnewid amseroedd a chyfreithiau. Gellir yn hawddgrynhoi hanes y Babaeth i'r dywediad, "Cyfnewid amseroedd a chyfreithiau." Nid oes un deyrnas yn Ewrop nadyw bys y Babaeth wedi bod yn ei chyfreithiau; a thrwy eidylanwad mae cyfreithiau teyrnasoedd y byd wedi eu cyfnewid. Mae yn newid amseroedd, trwy neillduo a ffugsancteiddio dyddiau i'r sanct hwn a'r sanct arall. Maehefyd wedi newid holl drefn y Beibl o addoli Duw; ynrhoddi pynciau newyddion i'w credu, a mil a mwy oorchymynion i'w cyflawnu.

4. Amser teyrnasiad y corn bychan.—Dywedir yma mai amamser, amseroedd, a rhan amser," y byddai iddo fodolifel corn; hyny yw, fel un yn arfer gallu tymhorol a gwleidyddol. Mae hyn yn golygu blwyddyn, dwy flynedd, ahanner blwyddyn; mewn geiriau eglur, mae hyn yn golygutair blynedd a hanner, yn ol cyfrif y proffwyd; sef cyfrifdiwrnod am flwyddyn; yna bydd y cyfnod yn 1,260 oddyddiau, neu yn ol ein cyfrif cyffredin ni, yn 1,260 o flynyddau. Mae hyn yn cyduno ag oed y bwystfil yn Llyfr yDatguddiad; tymhor y wraig i fod yn yr anialwch; acamser y tystion i fod mewn sachlian a lludw. Yna mae ynamlwg mai tymhor breninol Pabyddiaeth ar y ddaear yw1,260 o flynyddau.

5. Dinystr y corn bychan. (1) Amser ei ddinystr. Y pwncy carem ei benderfynu yma yw, Y pryd y darfu i'r Babaethhawlio ei gallu tymhorol a gwleidyddol; canys dyna adegcyfodiad y corn bychan. Ffrwyth yr ymchwiliad mwyafgonest a manwl o fy eiddo yw hyn:—Yn y flwyddyn 590daeth Gregory I. i'r Gadair Babyddol yn Rhufain. Bu ynYn y y swydd am bedair blynedd ar ddeg, ac yn ystod y tymhorhwn gwnaeth fwy na neb arall i barotoi y ffordd i godiad ycorn bychan; ond bu farw cyn cyrhaedd yr amser. Yn yflwyddyn 606 daeth Boniface III. i'r gadair, a chyhoeddwyd ef gan Phocas yn ben cyffredinol yr holl Eglwys ar yddaear. Dyna gam tuag at godiad y corn bychan. Yn yflwyddyn 608 daeth Boniface IV. i'r gadair; ac yn yflwyddyn 610, darfu iddo ef yspeilio senedd a phobl Rhufain o'r Pantheon, a'i chyssegru i'r holl saint. Dyna yweithred orphenodd, i'm tyb I, roddi bodolaeth i'r cornbychan. Yr oedd ei ben erbyn hyn yn ddigon uchel iDaniel ei weled yn mhlith y deg corn ereill. Un bachoedd ef, ond yr oedd yn y golwg, a buan y daeth yn ddigoncryf i ddiwreiddio tri o'r deg cyrn mawrion ag oeddynt ynbodoli o'i flaen. Yn ystod y pum' mlynedd nesaf mae ycorn bychan yn dyfod yn amlwg iawn. Yna, yr wyf ynmentro dywedyd, ni chyfododd y corn bychan cyn y flwyddyn 610, ac nid oedd ei ymddangosiad yn ddiweddarach na'rflwyddyn 615; ond credaf yn hollol ei fod i'w ganfod ynmherson a gweithred Boniface IV, yn y flwyddyn 610.Yna, os ychwanegwn 1,260 o flynyddau at 610, cawn ybydd ei gwymp fel corn, neu allu tymhorol a gwleidyddol,i gymmeryd lle yn y flwyddyn 1870. Dyna adeg cwymp(2) Yry corn bychan, yn ol fel y deallaf y broffwydoliaeth, a hanesyr Eglwys Babaidd yn y 5ed, 6ed, a'r 7fed ganrif.achos o'i ddinystr. Achosir ei ddinystr gan ei eiriau cableddus ei hun (adnod 11). (3) Natur ei ddinystr. Bydd eiddinystr yn llwyr a chyflawn (adnodau 11, 12). Mae dinystr y corn bychan yn arwyddo dinystr y bwystfil hefyd.Mae y galluoedd hyn wedi bod yn cydfyw-yn uno i erlida lladd plant Jehofa; ond yma dangosir y bydd i honiadaua geiriau cabledd y corn bychan fod yn ddinystr iddo ef, achefyd i'r bwystfil o ben yr hwn y daeth ar y cyntaf.

II. Y fendith FAWR A DDAW I RAN EGLWYS DDUW AR GWYMP Y CORN.

Mae saint Duw, am gannoedd o flynyddoedd, wedi caeleu hyspeilio o'u hiawnderau. Mae y corn bychan wedibod, ac yn awr yn erlid y saint, ac yn eistedd yn nhemlDduw; mae yr Eglwys wedi bod dan draed y bwysfil hwnam hir dymhor; ond daw y boreu i ben pan y ceir tro aryr olwyn fawr, fe gwymp y corn, fe leddir y bwystfil, ac fefydd i blant Duw gymmeryd eu safle priodol yn y byd."Y freniniaeth a'r llywodraeth dan yr holl nefoedd a roddiri blant saint y Goruchaf." Ië, y saint fydd yn teyrnasu,plant Duw fydd a'r llywodraeth dan yr holl nefoedd."

Mae yma ddau beth,—y llywodraeth yn ei heangder, acyn ei pharhad.

1. Eangder llywodraeth y saint.—Mae yn gyffredinol: "danyr holl nefoedd." Bydd hon yn fwy nag un a fu o'i blaen.Cymmerwn olwg ar ddarlunlen o arwynebedd y ddaear, ergweled terfynau llywodraeth y saint. Mesurwn y DeyrnasGyfunol, o Dyddewi i greigiau Dover, ac o John o'Groat'si Land's End—dyma ddernyn da iawn; ond mae yn rhyfach. Caiff yr Eglwys yr oll o Ewrop, o Iceland i Fôr yDwyrain, o Lapland i Greigiau Gibralter. Daw Asia frasi fewn, o Ogledd America i For yr India, ac o HollandNewydd i Gaergystenyn. Mae Affrica dywell ar y map ganFab Duw; daw yr oll i fewn, o Ynysoedd y Gorllewin iMadagasgar, o Gogendor Persia i Benrhyn Gobaith Da.Ië, daw America eang i fewn, yn y Gogledd o Greeland iMexico, ac o Afon co*ke i Ynys Trinidad. Daw AmericaDdeheuol, o For y Werydd Gogleddol i'r Mor Tawel Deheuol, ac o For y Werydd Deheuol i'r Mor Tawel Gogleddol. O! olygfa fendigedig, pan ddaw y byd crwn ofewn i Eglwys y Duw byw. Fe a ddaw. Y mae y llywodraeth i fod "o for hyd for, ac o'r afon hyd eithaf y ddaear." Mae yn d'od; mae yn gwneyd ei ffordd. Gallwn yn awrganu gyda'r enwog Ddewi Wyn o Arfon:—

"Od aeth y fendith hyd eithaf India," &c.

Ond er cymmaint sydd wedi ei wneyd, ac yn cael ei wneyd,

"Nid yw etto ond dechreu gwawrio,
Fe gwyd yr haul yn uwch i'r lan;
Teyrnas annghrist gaiff ei dryllio,
Iesu'n Frenin yn mhob man."

2. Parhad y llywodraeth.—Bydd yn dragwyddol ei pharhad.Nid oes un deyrnas arall wedi bod, nac yn bod, a all honihyn. Mae cyfnewidioldeb a darfod yn perthyn i bob teyrnasarall; ond "para byth yw arwyddair teyrnas plant Duw.Bydd iddynt deyrnasu o gwymp y corn, a dinystr y bwystfil, hyd y mil blynyddau; yna teyrnasant ar y ddaear amdymhor y mil flwyddiant, a chyda Crist yn y nef am dragwyddoldeb. Na ddigalonwn. Duw a baro i ni gaelgweled cwymp y corn, a gweled Crist yn ben trwy'r nef a'rllawr. Amen.

GEIRIAU CRIST.

Matt. xxiv. 35.

Mae Crist wedi ymadael â'r Deml am byth! wedi rhoddiei bregeth gyhoeddus olaf! Mae yn awr ar Fynydd yrOlew—wydd, yn cael golwg ar y Deml a'r ddinas. Mae yntynu darlun o (1) dinystr y Deml, (2) dinystr Jerusalem,ac yn (3) dinystr y Gyfundraeth Iuddewig. Mae ymaddarluniau byw o farnedigaethau trymion, tra mae ymaofal mawr yn cael ei ragfynegu—gofal Duw am ei eiddo.Mae y darluniau bron yn annghredadwy, a'r dysgyblion o'rbraidd yn gallu eu cymmeryd i fewn. Yna mae Mab Duwyn llefaru geiriau y testyn, er dysgu i'w ddysgyblion ddauwirionedd mawr,—

I. CYFNEWIDIOLDEB Y BYD HWN.

II. CADERNID GAIR DUW.

I. CYFNEWIDIOLDEB Y BYD HWN.

"Y nef a'r ddaear a ânt heibio." Mae Mab Duw yncymmeryd y pethau cadarnaf yn y byd hwn—y pethaumwyaf digyffro a disigl, er dangos pa mor gyfnewidiol ywy cwbl sydd yma. Dyma y nef! y ddaear!

1. Mae Duw wedi eu sylfaenu. Duw greodd y nef a'u lluhwynt. Gwaith dwylaw Duw yw y nefoedd, gwaith eifysedd yw y sêr. Duw greodd y ddaear. "Efe a selioddy ddaear ar ei sylfeini," Salm civ. 5—9. Er hyn, darfyddant!

2. Maent wedi para yn hir. Mae y nefoedd yn awr fel cynt,yr haul gystal ag oedd ar ddydd ei greadigaeth, y lloer felyn nyddiau Adda, y sêr fel yn moreu y byd. Mae y ddaearyn sefyll yn ddigryn. Er yr holl gyfnewidiadau, mae hi ynaros. Mae Assyria, Syria, Babilon, Persia, Groeg, a Rhufain, wedi myned, ond mae yr hen ddaear yn aros. Ond mae hi i ddarfod!

3. Mae yn ymddangos mor gadarn ag erioed. Ni fu y nefoedderioed yn well. Ni fu y ddaear erioed yn gadarnach. Ondhwy a ddarfyddant!

II. CADERNID GAIR Duw.Nid gallu, mawredd, doethineb, a nerth Duw; na, GairDuw. Dyma y peth mawr sydd yn perthyn i ni—Gair Duw. Mae ei allu, ei ddoethineb, a'i ddaioni, i'w canfodyn mhob rhan o'r cread. Dyn bïa y Gair. Dyma sydd yn aros.Mae Gair Crist yn gadarn—

1. Yn ei dystiolaeth (1) am a fu, (2) y sydd, (3) ac am afydd.

2. Yn ei rybuddion.

3. Yn ei addewidion.

Mae cadernid a dyogelwch yn perthyn i'r Gair. Mae ygeiriau hyn—

1. Yn fawreddog—sublime: "Fy ngeiriau I." (Cymharer Gen. i. I â'r testyn.)

2. Yn wir—dim os yma.

3. Yn bwysig i'r annuwiol.

4. Yn llawn cysur i'r duwiol.

O! parchwn ei Air Ef. Amen.

JOSEPH.

Gen. xli. 39—45.

Mae cymmeriad Joseph wedi bod dan sylw genym o'rblaen, ond nis gallwn lanw y gadwyn o dduwiolion yr HenDestament sydd genym yn awr dan ein sylw heb gaelJoseph o flaen ein pobl ieuainc.

I. JOSEPH YN FACHGEN.

Mab hynaf Rahel, ond y plentyn ieuengaf ond un.Nodweddau dyddiau boreuol—

1. Parch i'w rieni. Mae hyn yn amlwg. Parhaodd hydy diwedd.

2. Gonestrwydd. Dynoethodd fai y brodyr.

3. Gwrthddrych sylw Duw.

Mae Joseph yn esiampl dda i'n pobl ieuainc.

II. JOSEPH YN NHY PUTIPHAR.

Daeth yma drwy greulondeb ei frodyr.

1. Mae yn gaethwas.

2. Mae yn ffyddlon i'w feistr.

3. Mae yn ofni Duw.

III. JOSEPH YN Y CARCHAR.

1. Mae yn garcharor diniwed.

2. Carcharor yn ennill ymddiried.

3. Carcharor ag y mae Duw gydag ef.

IV. JOSEPH MEWN DYRCHAFIAD.

1. Dengys ddoethineb mawr.

2. Dengys ofal mawr.3. Bu yn llwyddiannus iawn—(1) I gadw bywydau y bobl,(2) I gryfhau dylanwad y brenin, (3) I wneyd cartref i'rEglwys.

Addysgiadau-

1. Crefydd foreu o werth mawr.

2. Gall y da a'r duwiol ddyoddef.

3. Ond daw y fuddugoliaeth. Amen.

ANGLADD JACOB.

Gen. 1. 7-9.

I. PERAROGLI CORFF JACOB.

I. Y dull.

2. Y gost, £250; £60-swm llai.

3. Yr amser, 40 a 70 niwrnod.

II. Cais JOSEPH.

Gofyn caniatad i Pharaoh.

III. Y CWMPEINI.

1. Yn urddasol iawn.

2. Yn lluosog iawn.

3. Yr angladd fwyaf yn y byd.

IV. Y FFORDD.

300 milldir.

V. YR ADDYSG.

1. Dangos ffydd Jacob.

2. Parch Joseph i'w dad.

3. Argraff ddofn ar feddwl yr Aifftiaid am ddyfodol Israel.

Amen.

JENKIN HOWELL, ARGAFFYDD, &c., ABERDAR.

Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price (testun cyfansawdd) - Wicidestun (2024)

References

Top Articles
Latest Posts
Article information

Author: Edmund Hettinger DC

Last Updated:

Views: 6275

Rating: 4.8 / 5 (78 voted)

Reviews: 93% of readers found this page helpful

Author information

Name: Edmund Hettinger DC

Birthday: 1994-08-17

Address: 2033 Gerhold Pine, Port Jocelyn, VA 12101-5654

Phone: +8524399971620

Job: Central Manufacturing Supervisor

Hobby: Jogging, Metalworking, Tai chi, Shopping, Puzzles, Rock climbing, Crocheting

Introduction: My name is Edmund Hettinger DC, I am a adventurous, colorful, gifted, determined, precious, open, colorful person who loves writing and wants to share my knowledge and understanding with you.